Newyddion
Diwrnod Cymdeithasol 2023 yn Amgueddfa Lechi Llanberis
Rhagor 04/12/2023Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd, dydd Sadwrn 23 Medi 2023
‘Princess’, ‘Duchess’, ‘Countess’ a ‘Narrow Countess’ … na, nid yw Gorsedd Cymru wedi mynd yn ‘Royal’. Enwau yw’r rhain ar ffurf a maint ambell lechen do; un o’r perlau o wybodaeth a ddysgwyd gennym Orseddigion a’n gwesteion wrth i ni ymgynnull ar ein Diwrnod Cymdeithasol yn Amgueddfa Lechi Llanberis.
Ffurfiwyd y llechfaen pan gafodd llaid â lefelau sylweddol o glai ynddo ei gywasgu mewn tymheredd uchel yn ystod symudiadau cyfandirol tua 300-400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn dibynnu ar gynnwys ac oedran penodol y llechfaen, rhoddir graddau ansawdd iddi, ac mae’r gwythiennau llechi o amgylch Dinorwig, Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog yn rhai o’r ansawdd uchaf yn y byd.
I’n rhoi ar y trywydd cywir, ben bore bu Dr Dafydd Roberts, cyn-bennaeth yr Amgueddfa, yn ein tywys drwy hanes diwydiant llechi Gogledd Cymru. Amhosibl gwneud cyfiawnder â’r drysorfa a agorwyd i ni yn ei gwmni. Buom ar wibdaith yn ymchwilio arwyddocâd rhyngwladol llechi Cymru, a chael mewnwelediad addysgiadol hollol unigryw i allforio adnoddau, pobl a sgiliau. Mewn cyfres o luniau buan y bu i ni sylweddoli na ellir dianc rhag llechi Cymru ledled y byd – Hamburg, Copenhagen a Warsaw, Efrog Newydd a Philadelphia, Adeilade, Sydney a Melbourne! Roedd hon yn wers hanesyddol ac economaidd bwysig i Hwntw fel fi; os yw De Cymru yn gyfystyr â glo neu ‘aur du’, yna mae Gogledd Cymru ...
Newyddion o’r Cyfryngau
Rhagor 07/08/2023Newyddion o’r Cyfryngau
Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025
Yr Archdderwydd newydd am ysbrydoli merched eraill
Archdderwydd: Dathlu ‘un byd Cymraeg am wythnos’
Ethol Mererid Hopwood i fod yn Archdderwydd yr Orsedd
Pryder Archdderwydd o ‘danseilio’r rheol iaith’
Beirniadu penderfyniad i Urddo Mark Drakeford
Mark Drakeford i gael ei Urddo i’r Orsedd
Seremoni gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi ei chynnal y tu mewn ym Mhorthmadog
Gorsedd y Beirdd yn dathlu 230 o flynyddoedd
Arwyddfardd Nesaf Gosedd Cymru
Colli Robyn Lewis Cyn Archdderwydd BBCCymruFyw
Nodi uno Gorsedd y Beirdd a’r Brifwyl
Myrddin ap Dafydd Archdderwydd Nesaf Cymru
Penodi Christine James yn Gofiadur newydd i’r Orsedd
“Ymateb digynsail” gan yr Orsedd i seremonïau Ynys Môn
Derbyn Geraint Jarman a George North i’r Orsedd
Urddo Archdderwyd a Chyhoeddi Eisteddfod Sir Fôn
31 yn cael eu derbyn i’r Orsedd
Cyhoeddi enw Archdderwydd newydd
Cofio y cyn-Archdderwydd Jâms Nicolas
Enwebu Christine James yn Archdderwydd
Cyhoeddi Eisteddfod 2013 yn Sir Ddinbych a’r Cyffiniau
Y cyn-Archdderwydd Emrys Deudraeth wedi marw
Ymweliad Cymdeithasol i Sain Ffagan
Rhagor 14/10/2022Ymweliad Cymdeithasol yr Orsedd
Sain Ffagan, 17 Medi 2022
Pan lwyddodd Harold Carter i edrych i mewn i feddrod Tutankhamun am y tro cyntaf ar 26 Tachwedd 1922, gofynnodd ei noddwr, Arglwydd Caernarfon, iddo “Beth wyt ti’n ei weld?”. Ateb Carter oedd “Pethau rhyfeddol!”. A wir, dyna’n union a welodd y criw ohonom a ymwelodd ag Amgueddfa Sain Ffagan ym mis Medi eleni: “pethau rhyfeddol”.
Dishgled o de i gychwyn (wrth gwrs!), a chyfle i gwrdd ag aelodau’r Orsedd hen a newydd o bedwar ban y wlad. Wedyn cawsom gyflwyniad ardderchog gan Sioned Hughes, Pennaeth Adran Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg yr Amgueddfa, a’n hatgoffodd o weledigaeth Iorwerth Peate,sef “nid creu amgueddfa o drysorau’r gorffennol marw dan wydr ond amgueddfa a ddefnyddiai’r gorffennol i’w asio â’i oes ei hun i roddi sylfaen cadarn ac amgylchedd iach i ddyfodol ei bobl.” Gweledigaeth werthfawr os bu un erioed.
Wedyn cawsom wrando ar gyflwyniad a baratowyd gan Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes ac Archeoleg yr Amgueddfa, ond a draddodwyd gan Sioned arall (does dim prinder Sionedau yng Nghymru! ), sef Sioned Williams, Curadur Hanes Modern yn y Ganolfan Mynediad at Gasgliadau. Y testun oedd “Llyn Cerrig Bach”, sef safle hynafol a sanctaidd i’n cyndeidiau Celtaidd ar ynys Môn. Dros y blynyddoedd daethpwyd o hyd i dros 150 o wrthrychau o’r oes haearn yno, a oroesodd oherwydd y mawn yng ngwaelod y llyn. (Byddai Iorwerth Peate wedi gwerthfawrogi hynny siwr o ...
Gwisgo’r Archdderwydd
Rhagor 04/09/2023Erthygl o’r Papur Bro Y Ffynnon Awst 2023
———-
Urddau’r Orsedd 2023
Urddau’r Orsedd 2023
Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu hurddo i Orsedd Cymru yn 2023
GWISG WERDD
Aled Davies
Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cyfraniad Aled Davies, Chwilog i’w gymuned ac i’w grefydd yn enfawr. Yn weinidog bro sy’n gyfrifol am chwe chapel, mae Aled hefyd yn gyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Mae’n gyfrifol am drefnu presenoldeb Cytun ar Faes yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol, ac mae ar fwrdd y cylchgrawn Cristion. Ef hefyd sy’n dylunio a gosod y papur bro lleol, Y Ffynnon. Mae Aled yn trefnu llu o weithgareddau’n lleol gyda’r capeli’n cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw, gan gynnwys nifer o gymdeithasau llenyddol.Heulwen Davies
Urddir Heulwen Davies, Dolanog am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny’n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae Heulwen wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae Heulwen wedi rhoi’r gorau i arwain yr Aelwyd, ac fe’i croesewir i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.Jeffrey Howard
Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf ...Ymweld â Gorsedd Cernyw
Rhestr o’r holl Newyddion
- Diwrnod Cymdeithasol 2023 yn Amgueddfa Lechi Llanberis 04/12/2023
- Gwisgo’r Archdderwydd 04/09/2023
- Newyddion o’r Cyfryngau 07/08/2023
- Urddau’r Orsedd 2023 30/05/2023
- Ymweliad Cymdeithasol i Sain Ffagan 14/10/2022
- Ymweld â Gorsedd Cernyw 24/11/2019
- Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd 2019 12/10/2019
- Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Sir Conwy 2019 09/05/2019
- Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd 2018 04/11/2018
- Ethol Myrddin ap Dafydd yn Archdderwydd yr Orsedd 08/07/2018
- Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Caerdydd 03/05/2018
- Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw 2017 03/10/2017
- Anrhydeddau 2017 07/05/2017
- Ymweliad ag Erddig ger Wrecsam, 2016. 05/10/2016
- Cyhoeddi Anrhydeddau’r Orsedd 2016 16/06/2016
- Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd 2015 15/10/2015
- Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd – 2014 16/10/2014
- Ymweliad â’r Gardd Fotaneg 2013 16/10/2013
- Y Llyfrgell Genedlaethol 2012 29/09/2012
- Cymdeithasu yng Nghastell Deudraeth 2011 17/09/2011