Newyddion

Newyddion

  • Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2024

    Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2024

     

    Cyhoeddir enwau’r rheini fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni

    Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  

    Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.

    Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. 

    Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

    Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

    Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  

    Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.  Dim ...

    Rhagor 20/05/2024
  • Diwrnod Cymdeithasol 2023 yn Amgueddfa Lechi Llanberis

    Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd,  dydd Sadwrn 23 Medi 2023

    Princess’, ‘Duchess’, ‘Countess’ a ‘Narrow Countess’ … na, nid yw Gorsedd Cymru wedi mynd yn ‘Royal’. Enwau yw’r rhain ar ffurf a maint ambell lechen do; un o’r perlau o wybodaeth a ddysgwyd gennym Orseddigion a’n gwesteion wrth i ni ymgynnull ar ein Diwrnod Cymdeithasol yn Amgueddfa Lechi Llanberis.

    Ffurfiwyd y llechfaen pan gafodd llaid â lefelau sylweddol o glai ynddo ei gywasgu mewn tymheredd uchel yn ystod symudiadau cyfandirol tua 300-400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn dibynnu ar gynnwys ac oedran penodol y llechfaen, rhoddir graddau ansawdd iddi, ac mae’r gwythiennau llechi o amgylch Dinorwig, Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog yn rhai o’r ansawdd uchaf yn y byd.

    I’n rhoi ar y trywydd cywir, ben bore bu Dr Dafydd Roberts, cyn-bennaeth yr Amgueddfa, yn ein tywys drwy hanes diwydiant llechi Gogledd Cymru. Amhosibl gwneud cyfiawnder â’r drysorfa a agorwyd i ni yn ei gwmni. Buom ar wibdaith yn ymchwilio arwyddocâd rhyngwladol llechi Cymru, a chael mewnwelediad addysgiadol hollol unigryw i allforio adnoddau, pobl a sgiliau. Mewn cyfres o luniau buan y bu i ni sylweddoli na ellir dianc rhag llechi Cymru ledled y byd – Hamburg, Copenhagen a Warsaw, Efrog Newydd a Philadelphia, Adeilade, Sydney a Melbourne! Roedd hon yn wers hanesyddol ac economaidd bwysig i Hwntw fel fi; os yw De Cymru yn gyfystyr â glo neu ‘aur du’, yna mae Gogledd Cymru ...

    Rhagor 04/12/2023
  • Urddau’r Orsedd 2023

    Urddau’r Orsedd 2023

     

    Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu hurddo i Orsedd Cymru yn 2023

    GWISG WERDD

    Aled Davies
    Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cyfraniad Aled Davies, Chwilog i’w gymuned ac i’w grefydd yn enfawr. Yn weinidog bro sy’n gyfrifol am chwe chapel, mae Aled hefyd yn gyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Mae’n gyfrifol am drefnu presenoldeb Cytun ar Faes yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol, ac mae ar fwrdd y cylchgrawn Cristion. Ef hefyd sy’n dylunio a gosod y papur bro lleol, Y Ffynnon. Mae Aled yn trefnu llu o weithgareddau’n lleol gyda’r capeli’n cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw, gan gynnwys nifer o gymdeithasau llenyddol.

    Heulwen Davies
    Urddir Heulwen Davies, Dolanog am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny’n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae Heulwen wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae Heulwen wedi rhoi’r gorau i arwain yr Aelwyd, ac fe’i croesewir i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.

    Jeffrey Howard
    Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf ...

    Rhagor 30/05/2023
  • Newyddion o’r Cyfryngau

  • Gwisgo’r Archdderwydd

    Erthygl o’r Papur Bro Y Ffynnon Awst 2023

     

    ———-

     

     

     

     

    Rhagor 04/09/2023
  • Ymweliad Cymdeithasol i Sain Ffagan

    Ymweliad Cymdeithasol yr Orsedd

    Sain Ffagan, 17 Medi 2022

    Pan lwyddodd Harold Carter i edrych i mewn i feddrod Tutankhamun am y tro cyntaf ar 26 Tachwedd 1922, gofynnodd ei noddwr, Arglwydd Caernarfon, iddo “Beth wyt ti’n ei weld?”. Ateb Carter oedd “Pethau rhyfeddol!”. A wir, dyna’n union a welodd y criw ohonom a ymwelodd ag Amgueddfa Sain Ffagan ym mis Medi eleni: “pethau rhyfeddol”.

    Dishgled o de i gychwyn (wrth gwrs!), a chyfle i gwrdd ag aelodau’r Orsedd hen a newydd o bedwar ban y wlad. Wedyn cawsom gyflwyniad ardderchog gan Sioned Hughes, Pennaeth Adran Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg yr Amgueddfa, a’n hatgoffodd o weledigaeth Iorwerth Peate,sef “nid creu amgueddfa o drysorau’r gorffennol marw dan wydr ond amgueddfa a ddefnyddiai’r gorffennol i’w asio â’i oes ei hun i roddi sylfaen cadarn ac amgylchedd iach i ddyfodol ei bobl.” Gweledigaeth werthfawr os bu un erioed.

    Wedyn cawsom wrando ar gyflwyniad a baratowyd gan Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes ac Archeoleg yr Amgueddfa, ond a draddodwyd gan Sioned arall (does dim prinder Sionedau yng Nghymru! ), sef Sioned Williams, Curadur Hanes Modern yn y Ganolfan Mynediad at Gasgliadau. Y testun oedd “Llyn Cerrig Bach”, sef safle hynafol a sanctaidd i’n cyndeidiau Celtaidd ar ynys Môn. Dros y blynyddoedd daethpwyd o hyd i dros 150 o wrthrychau o’r oes haearn yno, a oroesodd oherwydd y mawn yng ngwaelod y llyn. (Byddai Iorwerth Peate wedi gwerthfawrogi hynny siwr o ...

    Rhagor 14/10/2022

Rhestr o’r holl Newyddion