Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Sir Conwy 2019

Heddiw (9 Mai), cyhoeddir enwau’r rheini a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.
 
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu cyfraniad.
 
Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
 
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.  
 
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.
 
Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo gan yr Orsedd eleni yw’r chwaraewyr rygbi, Ken Owens a Jonathan Davies, y cyflwynydd a’r digrifwr, Tudur Owen a’r delynores ryngwladol, Catrin Finch.  
 
Eleni hefyd, mae amryw o’r rheini a urddir wedi dysgu Cymraeg a nifer wedi symud o wledydd eraill i Gymru, gan goleddu ein hiaith a chyfoethogi ein diwylliant.
 
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy o 3-10 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru. 
 
 
GWISG WERDD
 
Pierino Algieri
Yn fab i garcharor rhyfel o’r Eidal, magwyd Pierino Algieri, Llanddoged yn Nyffryn Conwy, gan ddysgu Cymraeg ddeugain mlynedd yn ôl a magu’i blant ar aelwyd Gymraeg. Er iddo ddilyn gyrfa fel ciper a warden ar ddyfroedd Dyffryn Conwy, gwnaeth enw iddo’i hun yn y maes agosaf at ei galon, ffotograffiaeth tirluniau. Cafodd ei gyfrol, Eidalwr yn Eryri, sylw cenedlaethol, ac mae ei waith wedi ymddangos ar gloriau sawl llyfr a CD.
 
Menna Baines
Mae Menna Baines, Bangor yn adnabyddus am ei chyfraniad nodedig fel newyddiadurwr, hanesydd llên a chelf, a’i hymroddiad diflino wrth hyrwyddo’r Gymraeg, diwylliant Cymru a lles cymdeithas. Ond mae ei chyfraniad gwirfoddol i’w hardal a’i bro ym Mangor hefyd yn sylweddol iawn, ac mae hi’n ymwneud â llu o fudiadau, gan gynnwys papur bro Y Goriad, Menter Iaith Bangor a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, i enwi ond rhai.
 
Berno Brosschot
Daeth Berno Brosschot, Pwllheli i Ben Llŷn o’r Iseldiroedd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, gan ymroi’n llwyr i fod yn rhan o’r gymuned leol. Fel cynifer o Ewropeaid sydd wedi setlo yng Nghymru, mae wedi cofleidio’n hiaith a’n diwylliant, a bu’n rhan allweddol o dîm y papur bro lleol, Llanw Llŷn ers blynyddoedd lawer, gan arwain ar y gwaith manwl o osod y papur. Fel modd o gyflwyno hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr o’r Iseldiroedd, cyfieithodd ffilm am fenter Cwrw Llŷn i’r Iseldireg –  cyfraniad pwysig arall gan y gŵr hynod hwn.
 
Elin Angharad Davies
Cerddoriaeth yw maes Elin Angharad Davies, Ysbyty Ifan, a bu ei chyfraniad yn sylweddol dros y blynyddoedd. Yn athrawes Cerddoriaeth yn Ysgol y Creuddyn, mae’n arwain CoRwst ac yn hyfforddi rhanbarth Llanrwst o Gôr yr Eisteddfod eleni. Mae’n osodwr a hyfforddwr cerdd dant profiadol, ac yn feirniad rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant. Ar hyn o bryd, mae’n cydlynu Prosiect Telyn Llanrwst, gan gynnal gweithdai mewn ysgolion ar draws yr ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes y delyn yn ardal Dyffryn Conwy.
 
Euros Rhys Evans
Mae Euros Rhys Evans, Y Barri yn arweinydd, cerddor a chyfansoddwr adnabyddus sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’w ardal a’i wlad. Bu’n Bennaeth Cerddoriaeth Ysgol Gyfun Llanhari cyn gadael i weithio fel cerddor llawrydd, gan gyfansoddi, trefnu, cynhyrchu a chyfarwyddo. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nifer fawr o gyfresi teledu, gan ennill gwobr BAFTA Cymru am sgôr y ffilm Streic yn 1996. Roedd yn un o hyfforddwyr ac arweinwyr Côr Eisteddfod 2012, ac mae’n organydd yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd.
 
Catrin Finch
Yn un o gerddorion amlycaf Cymru, mae dawn Catrin Finch, Pentyrch ar y delyn wedi’i harwain i lwyfannau ar hyd a lled y byd. Yn wreiddiol o Lan-non, Ceredigion, llwyddodd yn ei harholiad gradd wyth gyda’r marc uchaf ar draws Prydain gyfan, a hithau ond yn naw oed ar y pryd. Mae hi wedi recordio a rhyddhau cynnyrch sy’n cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr o bob cyfnod, ynghyd â chyfres o alawon gwerin o Gymru, a phrosiect arbennig gyda’r cerddor Seckou Keita o Senegal. Mae’n weithgar yn ei chymuned, ac mae Academi Catrin Finch yn trefnu Ysgol Haf y Delyn ymhlith digwyddiadau eraill o bwys.
 
Helen Gibbon
Er mai athrawes Addysg Grefyddol oedd Helen Gibbon, Capel Dewi, bu cerddoriaeth yn rhan bwysig o’i bywyd erioed. Enillodd ar yr Unawd Soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a bu’n arwain a hyfforddi ieuenctid ac oedolion i ganu, gan lwyddo droeon yn Eisteddfod yr Urdd gyda chorau ysgol. Sefydlodd Gôr Tŷ Tawe yn 1990, ac mae’n parhau i’w arwain o hyd, bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Mae’n gwbl ymroddedig i’r gwaith o gadw’r traddodiadau a’r diwylliant Cymraeg a cherddorol yn fyw yn ei bro.
 
John Jones
Efallai na fydd pawb yn sylweddoli pwy yw John Jones, Tudweiliog wrth glywed ei enw ar ei ben ei hun, ond wrth ychwanegu ‘ac Alun’ ar ôl ei enw cyntaf, mae’n amlwg ei fod yn un hanner o’r ddeuawd hynod boblogaidd, John ac Alun. Mae ei gerddoriaeth wedi rhoi pleser i filoedd o gefnogwyr, a gydag Alun, mae’n gefnogwr brwd nifer o elusennau pwysig, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Pen Llŷn, a hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer o ganeuon y ddeuawd. Mae’r ddau yn parhau i deithio ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt yn perfformio i gynulleidfaoedd o bob oed.
 
Bethan Kilfoil
Un a symudodd ar draws y dŵr i Co. Kildaire yw Bethan Kilfoil, Newbridge, ac erbyn heddiw, mae’n olygydd newyddion ar RTE yn Iwerddon. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, bu’n wyneb a llais amlwg ar raglenni newyddion y BBC yng Nghymru, gan dreulio cyfnodau fel gohebydd yn Llundain, ac yna fel gohebydd Ewrop BBC Cymru ym Mrwsel. Er iddi symud o Gymru, mae ei chyfraniad i’r byd newyddion yma’n parhau, ac mae i’w chlywed a’i gweld yn rheolaidd yn cyfrannu’n ddisglair a chytbwys yn y Gymraeg ar agweddau ar fywyd Iwerddon. Mae hi hefyd yn cyfrannu erthyglau misol treiddgar a bywiog i’r cylchgrawn, Barn.  
 
Geraint Løvgreen
Mae Geraint Løvgreen, Caernarfon wedi cyfrannu’n helaeth a di-dor i’r byd canu poblogaidd er y 1970au, ac mae’n llais cyfarwydd ar raglenni fel Talwrn y Beirdd. Caiff ei adnabod fel un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol ei gyfnod, ac mae’n uchel iawn ei barch ymysg beirdd a chantorion ac enwogion o fri! Mae’n gyfieithydd profiadol y mae llawer o alw am ei wasanaeth. Mae’n Gymro teyrngar sydd wedi adeiladu’i yrfa a’i fywyd teuluol o gwmpas y diwylliant Cymraeg.
 
Helena Miguelez-Carballeira (i’w hurddo yn 2020)
Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira, Bangor yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth ni yma yng Nghymru o hanes a diwylliant Galisia, ac mae hefyd yn arbenigo ar fywyd a gwleidyddiaeth Gwlad y Basg a Chatalwnia. Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau cyfieithu, a thrwy’i hymdrechion hi i raddau helaeth, sicrhawyd fod y Gymraeg yn rhan o’r trafodaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r maes. Mae’n enghraifft lachar o’r modd y gall ysgolheigion rhyngwladol sydd ag ymdeimlad tuag at ein diwylliant a gwybodaeth o’n hiaith, gyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.
 
Alun Roberts
Cawn gyfle i anrhydeddu hanner arall y ddeuawd John ac Alun, wrth i Alun Roberts, Tudweiliog gael ei urddo hefyd eleni. Gyda’i bartner cerddorol, bu Alun yn perfformio am flynyddoedd, ac mae’r ddau wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, gan eu rhoi ar ben ffordd a’u meithrin i fod o flaen cynulleidfa. Mae llu o gerddorion wedi cael profiadau arbennig fel rhan o’u band a theithio i Nashville a Memphis, Tennessee. Er ugain mlynedd bellach, bu’r ddau’n cyflwyno sioe boblogaidd ar nos Sul ar Radio Cymru, ac maent hefyd wedi serennu mewn nifer o gyfresi teledu.
 
Gwenda Roberts
Cyfrannodd Gwenda Roberts, Sarn yn helaeth i’w hardal am flynyddoedd. Mae’n glerc i Gyngor Cymuned Botwnnog ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Defaid Llŷn er 35 mlynedd, a rhoddodd y gorau i’w gwaith fel Ynad Heddwch y llynedd ar ôl gwasanaethu am bymtheng mlynedd. Mae ei chyfraniad oes i Gapel Hebron, Llangwnnadl, i’w ddathlu. Mae’n organydd yno er hanner canrif a mwy, a bu’n athrawes yn yr Ysgol Sul am gyfnod helaeth. Yn ogystal, mae’n ddiacon yn yr eglwys ac yn drysorydd yr adeiladau er chwarter canrif. Y llynedd, cwblhaodd gyfnod o hanner canrif fel organydd swyddogol Cymanfa Bregethu Cydenwadol Rhoshirwaun.  
 
Meurig Williams
Bu Meurig Williams, Caerdydd yn weithgar iawn am flynyddoedd lawer ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, a’i brif nod yw lledaenu poblogrwydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru a’r ffyrdd gwerinol o’i chanu. Mae’n gadeirydd Clera, ac wedi cyfrannu’n helaeth at ddatblygu Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei genhadaeth selog dros gerddoriaeth draddodiadol yn parhau, gan alluogi cerddorion amatur hen ac ifanc i ganu ein halawon unigryw gyda’i gilydd yn gyhoeddus.
 
Vivian Parry Williams
Mae cyfraniad Vivian Parry Williams, Blaenau Ffestiniog i fywyd diwylliannol a chymdeithasol ei fro yn sylweddol.  Mae’n arbenigwr ar hanes ardaloedd Ffestiniog a Nant Conwy, ac wedi ymchwilio’n ddyfal i’r maes, yn arbennig y cyfnod o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Cyfrannodd lu o erthyglau i amryw o gyhoeddiadau, a bu’n athro dosbarthiadau nos llwyddiannus ar hanes lleol ac yn ddarlithydd poblogaidd ar draws gogledd Cymru. Mae hefyd yn llenor amlochrog, ac yn enillydd cyson mewn eisteddfodau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
 
Patrick Young
Mae Patrick Young, Llan Ffestiniog wedi sicrhau bod opera’n cael sylw haeddiannol yn y Gymraeg er degawd a mwy. Sefydlodd gwmni OPRA Cymru gyda’r nod o fynd â’r byd opera i bob rhan o Gymru, yn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd, gyda chynulleidfaoedd yn cael cyfle i fwynhau gweithiau gan Bizet, Verdi, Rossini a llawer mwy dros y blynyddoedd diwethaf. Uchafbwynt y cwmni hyd yn hyn oedd comisiynu a chyflwyno opera wreiddiol a newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, Wythnos yng Nghymru Fydd. Daeth Patrick i Gymru er mwyn i’w blant gael magwraeth Gymraeg, ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod yn 2015.
 
GWISG LAS
 
Christine Boomsma
Yn wreiddiol o Benmachno, symudodd Christine Boomsmsa, Melbourne i Awstralia yn naw oed, ac er iddi fod yno am dros hanner canrif, pery ei Chymreictod yn rhan hollbwysig ohoni. Mae’n gyfrifol am y cyswllt pwysig rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Eglwys Gymraeg ym Melbourne, gydag enillydd Gwobr Goffa David Ellis yn cael cyfle i berfformio yn yr Eglwys yn flynyddol fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi’r ddinas. Bu’n Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod 2009, a braf yw cael ei hanrhydeddu eleni, a’r Eisteddfod ym mro ei phlentyndod.
 
Jonathan Davies
Jonathan Davies, Bancyfelin yw canolwr tîm rygbi Cymru, a chwaraeodd ran amlwg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Mae’n ysbrydoli’r tîm ar y cae rygbi, pan fydd yn chwarae dros Gymru a thros dîm y Sgarlets, gan drefnu’r amddiffyn, bylchu’n gyfrwys a phasio’n ddeallus. Fe’i dewiswyd gan ei gyd-chwaraewyr yn Chwaraewr y Gyfres ar daith y Llewod yn 2017. Mae ei gyfraniad i’r tîm cenedlaethol yn amhrisiadwy, a braf yw gwrando arno’n cael ei gyfweld ar y radio a’r teledu yn y Gymraeg ar ddiwedd pob gêm.
 
Gareth Evans
Gareth Evans, Penmachno yw Pennaeth Mathemateg Ysgol y Creuddyn, ond mae ei gyfraniad wedi bod o gymorth i ddisgyblion mathemateg ar draws Cymru gyfan. Mae’n awdur adnoddau digidol deniadol ac effeithiol ar gyfer addysgu, ysbrydoli ac arwain disgyblion, gan ddefnyddio’r we, fideos a chyfryngau cymdeithasol er mwyn eu rhannu. Mae’r fideos a roddodd ar wefan YouTube wedi’u gwylio dros 300,000 o weithiau – y cyfan yn adnoddau o’r safon uchaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar gael yn rhad ac am ddim, gan arbed gwaith sylweddol iawn i athrawon mathemateg ar draws y wlad.
 
Margot Ann Phillips Griffith (i’w hurddo yn 2020)
O Bont-iets yn wreiddiol, symudodd Margot Ann Phillips Griffith, Wellington i Seland Newydd bron i hanner canrif yn ôl. Mae’n dychwelyd i’w chynefin yn flynyddol ac yn mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd. Bu’n llywydd Cymdeithas Gymreig Wellington amryw o weithiau, a’i gweledigaeth yn arwain at gynnal cyfarfodydd gloywi iaith, ynghyd â chystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth a stori fer ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n trefnu derbyniad i dîm rygbi Cymru pan fyddant yn ymweld â Wellington, a hi hefyd sy’n trefnu codi’r Ddraig Goch ar adeilad senedd Seland Newydd ar 1 Mawrth bob blwyddyn.
 
Glenys Margaret Hughes
Un sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i hybu’r iaith a chefnogi dysgwyr yw Glenys Margaret Hughes, Rhuthun. Yn ystod ei gyrfa, bu’n athrawes Cymraeg ail-iaith yn Ninbych ac yn Yr Wyddgrug, cyn ei phenodi’n Bennaeth y Gymraeg yng Ngholeg Iâl, Wrecsam. Bu’n gyfrifol am lunio a chyd-lunio nifer o adnoddau safon uwch ail iaith gan gydweithio’n helaeth gyda CBAC. Ar ôl ymddeol, bu’n dysgu Cymraeg i aelodau Heddlu Gogledd Cymru, gan baratoi deunyddiau perthnasol ar gyfer eu gwaith. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd gyda’r Samariaid, ac yn ymdrechu i geisio denu rhagor o siaradwyr Cymraeg i ymuno â’r gwasanaeth pwysig hwnnw.
 
Buddug Jones
Mae Buddug Jones, Bae Penrhyn yn adnabyddus i genedlaethau o eisteddfodwyr yn sgil ei chyfraniad gwirfoddol fel stiward ac arolygwr ers blynyddoedd lawer. A’r Eisteddfod yn dod i Sir Conwy eleni, hi yw cadeirydd y Pwyllgor Llety ac ysgrifennydd Pwyllgor Apêl ardal Llandudno. Mae hi hefyd yn aelod ymroddedig o bwyllgor Shw’mae Su’mae (gweithgareddau’r dysgwyr). Mae’n gadeirydd Menter Iaith Ardal y Creuddyn, gan gynnal sesiynau sgwrs a phaned anffurfiol i ddysgwyr yn yr ardal, ac yn rhan amlwg o Grŵp Arolygwyr Parhaol Eisteddfod yr Urdd ers bron i ugain mlynedd.
 
Grace Emily Jones
Daw Grace Emily Jones, Llanfihangel Glyn Myfyr yn wreiddiol o Seland Newydd, wedi symud i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â Llion, cneifiwr o Nebo, Llanrwst. Sylweddolodd yn fuan iawn bod rhaid dysgu Cymraeg, ac aeth ati gyda’r app ‘Say Something in Welsh’ gan fagu digon o hyder i sgwrsio ymhen ychydig. Gan ddefnyddio’i gradd mewn chwaraeon ac addysg, dechreuodd Grace chwarae pêl-rwyd gyda thîm merched Y Bala, cyn mynd ati i ennill cymhwyster mewn hyfforddi, ac yna mynd ati i ddysgu hyfforddi Rygbi Undeb Brydeinig. Erbyn hyn, mae’n hyfforddi tîm merched dan 15 oed Clwb Rygbi Nant Conwy a thîm merched Rygbi Gogledd Cymru dan 18 oed – y cyfan oll yn wirfoddol a chan ddefnyddio’r Gymraeg.
 
Robin Jones
Bu Robin Jones, Penrhyndeudraeth yn gyfaill da i’r Eisteddfod Genedlaethol am ddeng mlynedd ar hugain, yn gwirfoddoli’n flynyddol ym mhob cwr o Gymru. Ond fel rheol, cyfrannu yng nghanol ei gynefin y bydd Robin. Mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau lleol – bu’n arwain Eisteddfod Stesion, Trawsfynydd am ddeng mlynedd ar hugain, ac yn arwain eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc yn sirol yn rheolaidd. A thros y blynyddoedd diwethaf, ac yntau’n dod yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae wedi cael cryn bleser o wirfoddoli fel tywysydd yn Yr Ysgwrn. Dyma ddyn sydd wedi gwneud cyfraniad oes ar lawr gwlad.
 
Beverley Lennon
Symudodd Beverley Lennon, Y Barri o Brixton wedi iddi daro pin ar fap a phenderfynu symud a chychwyn o’r newydd yn dilyn marwolaeth ei mam. Cafodd ei swyno gan y Gymraeg, a dechreuodd wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C yn rheolaidd. A hithau wrth ei bodd yn dysgu, llwyddodd i ennill gradd A* TGAU a gradd A Safon Uwch mewn cwta ddwy flynedd, ac ar ôl graddio, cafodd swydd yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Cantonian High yng Nghaerdydd. Bu’n cyfrannu at raglenni radio’n rheolaidd, cyn symud ymlaen i gyflwyno’r gyfres Cam Ymlaen i ddysgwyr, yn ogystal â’i rhaglen ei hun ar Radio Cymru. Yn ddiweddar, fe’i henwebwyd yn un o’r 100 menyw fwyaf dylanwadol yng Nghymru.
 
Malcolm Llywelyn
Un a ddysgoddy  Gymraeg ac sy’n parhau i gefnogi’r rheini sy’n dysgu heddiw yw Malcolm Llywelyn, Aberhonddu. Bu’n frwdfrydig dros ein hiaith a’n diwylliant ers blynyddoedd, gan weithio’n ddyfal yn ardal Merthyr a’r cyffiniau fel aelod twymgalon o nifer o gymdeithasau gwahanol. Er iddo ymddeol erbyn hyn, mae’n parhau i gynnal dosbarthiadau a gweithgareddau i ddysgwyr yn ei fro. Mae hefyd yn cyfrannu’n gyson i’r papur bro lleol, ac wedi cyhoeddi amryw o lyfrynnau ar hanes lleol. Mae ei ymroddiad tawel, diffuant a phendant i’r iaith dros yr hanner can mlynedd diwethaf wedi’i werthfawrogi’n fawr – a hynny mewn ardal a fu’n dalcen caled.
 
Lis McLean
Pan gaeodd Capel yr Annibynwyr, Soar, Merthyr Tudful fel addoldy, aeth Lis McLean ati i wireddu ei gweledigaeth i greu Canolfan Gymraeg yn ei chymuned. Dan ei harweiniad cadarn, llwyddodd pwyllgor rheoli’r Fenter Iaith i sicrhau grantiau a chyllid er mwyn creu canolfan werthfawr gydag adnoddau ardderchog. Erbyn heddiw, mae’n gartref i lu o sefydliadau a chymdeithasau sy’n gweithredu er budd y Gymraeg, ac yn ganolfan allweddol i ddyfodol yr iaith yn lleol. Dyma ganolfan sy’n arwydd clir fod y Gymraeg yn dal yn fyw yn ardal Merthyr, gyda Lis McLean yn parhau wrth y llyw.
 
Phillip Moore
Mae Phillip Moore, Bangor yn enghraifft berffaith o berson a fwriodd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn helpu eraill. Yn wreiddiol o Farbados, symudodd i Gymru yn 2010 ar ôl gorffen arbenigo mewn llawfeddygaeth clust, trwyn a gwddf. Cafodd swydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac aeth ati’n syth i ddysgu Cymraeg gan ei fod yn sylweddoli y byddai cleifion yn hapusach wrth drafod symptomau a phroblemau yn eu mamiaith. Gwnaeth gynnydd ardderchog a chyflym, ac ers blynyddoedd bellach mae’n ymwneud â chleifion a’u teuluoedd yn y Gymraeg, gan sicrhau bod pawb yn gallu ymlacio wrth drin a thrafod pob triniaeth. 
 
Tudur Owen
Gall Tudur Owen, Y Felinheli gynnal diddordeb a pharch pobl sydd â’u gwreiddiau’n nwfn yn y diwylliant Cymraeg traddodiadol yn ogystal â’r Cymry Cymraeg hynny nad ydynt eto wedi llwyr ymollwng iddo. Mae’n bont a chenhadwr gwerthfawr mewn oes pan fydd llawer o Gymry Cymraeg yn troi at Loegr a’r iaith Saesneg am eu hadloniant. Mae ei ddawn ym maes comedi wedi ennill iddo barch ar hyd a lled Prydain gan greu cryn argraff mewn gwyliau comedi rhyngwladol a dylanwadol fel yr Edinburgh Fringe. Llwyddodd i wneud hyn heb gyfaddawdu ar ei Gymreictod, ei gefndir na’i barch at ei wlad a’i iaith.
 
Ken Owens
Yn gynharach eleni, roedd Ken Owens, Pontyberem yn arwr cenedlaethol, fel rhan o dîm rygbi Cymru a gipiodd y Gamp Lawn ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. O ddydd i ddydd, mae’n aelod o dîm y Sgarlets ac yn fachwr heb ei ail dros ei ranbarth a’i wlad. Mae’n ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr ar y cae gyda’i daclo digyfaddawd a’i hyrddiadau penderfynol. Mae’n siaradwr huawdl, a phleser yw gwrando ar ei gyfweliadau Cymraeg yn dilyn pob gêm.
 
Elfed Roberts (i’w urddo yn 2020)
Ymddeolodd Elfed Roberts, Caerdydd o’i swydd fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn dilyn chwarter canrif wrth y llyw. Datblygodd ac esblygodd yr Eisteddfod yn rhyfeddol dan ei ofal, ac erbyn heddiw mae’n ŵyl fywiog a lliwgar sy’n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir, ond heb golli golwg ar ei gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru. Yn ystod ei gyfnod, teithiodd yr Eisteddfod i bob rhan o’r wlad, ac mae’r gwaddol ieithyddol a diwylliannol a adawyd ar ei hôl i’w weld yn glir ym mhob cornel o Gymru.  
 
Glyn Roberts
Mae Glyn Roberts, Padog yn llywydd Undeb Amaethwyr Cymru er pedair blynedd, ac yn gweithio’n gwbl ddiflino dros amaethwyr ers blynyddoedd. Er nad oedd yn fab fferm ei hun, roedd ganddo ddiddordeb byw mewn amaethyddiaeth, ac ar ôl astudio yng Ngholeg Amaeth Glynllifon, dechreuodd ei yrfa fel bugail. Erbyn heddiw, mae’n rhedeg fferm 350 erw, Dylasau Uchaf, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddo gefndir cryf o gefnogi a gweithio gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac mae hefyd yn weithgar iawn yn ei gymuned leol gan ymddiddori mewn llenyddiaeth o bob math.
 
Aled Samuel
Mae Aled Samuel, Llandeilo yn adnabyddus fel darlledwr a chyflwynydd poblogaidd ar y radio a’r teledu. Mae cyfresi fel 04 Wal, Pobl a’u Gerddi ac Y Dref Gymreig wedi apelio at wylwyr o bob oed, gan roi blas i ni ar bensaernïaeth, gerddi a hanes Cymru dros y blynyddoedd. Mae’n gyfrannwr rheolaidd i’r cylchgrawn Golwg ac yn awdur amryw o lyfrau, gan gynnwys detholiad o’i golofnau yn y cylchgrawn hwnnw, ynghyd â’i gyfrol ddiweddaraf, 100 Lle i’w Gweld Cyn Brexit. Mae’n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod, a’i anturiaethau ar y maes carafanau dros y blynyddoedd wedi llenwi ambell golofn cylchgrawn!
 
Daniela Schlick
Cyrhaeddodd Daniela Schlick, Porthaethwy rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2017, ddwy flynedd yn unig ar ôl symud yma o’r Almaen. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel cydlynydd datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes i Fentrau Iaith Cymru. Mae’n gwirfoddoli’n rheolaidd er lles y Gymraeg, gan gynorthwyo gyda phrosiect Llety Arall yng Nghaernarfon, cefnogi sesiynau Paned a Sgwrs yn siop Palas Print ddwywaith y mis, ac mae’n gyfrifol am y sesiynau Peint a Sgwrs a gynhelir yn Nhafarn yr Harp, Bangor bob pythefnos. Mae’n un o bencampwyr diwrnod Shw’mae Su’mae, ac yn esiampl wych i bawb sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
 
Huw Thomas
Cyfrannodd Huw Thomas, Caerdydd yn helaeth i fyd addysg Gymraeg am flynyddoedd. Ef oedd pennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni, a chan sylweddoli pa mor allweddol oedd yr ysgol i dwf yr iaith, bu’n flaengar wrth ddatblygu’r iaith o fewn y dosbarth ac yn gymdeithasol. Dilynodd drywydd tebyg pan oedd yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Glantaf, ac o fewn tair blynedd i’w benodi roedd pob pwnc Lefel A yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu’n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau dylanwadol ym myd addysg, a bu’n gefnogwr brwd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r cychwyn. Mae’n weledydd ymarferol, arloesol a diflino, a’i gyfraniad i fyd addysg Gymraeg yn sylweddol.  
 
Jeremy Vaughan
Mae’r defnydd o’r iaith a pharch at y Gymraeg yn Heddlu De Cymru wedi’i drawsnewid o dan ddylanwad Jeremy Vaughan, Y Bontfaen. Yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda Heddlu Gogledd Cymru, fe’i penodwyd yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu’r De yn 2016, a’i gyfrifoldebau’n cynnwys arwain ar bortffolio’r iaith Gymraeg. Mae’r iaith bellach yn cael ei gweld fel rhan sylfaenol o’r swydd, ac mae mwy o swyddogion yn mynychu gwersi Cymraeg nag sydd yna o lefydd. Hefyd, mae pob gwasanaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywed ef ei hun fod mwy i’w wneud, ond mae’r hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yn haeddu pob canmoliaeth a chlod.
 
Nesta Williams
Mae Nesta Williams, Penrhiw-llan, Llandysul wedi gwirfoddoli a helpu eraill mewn nifer o feysydd dros y blynyddoedd, gan wneud y cyfan oll heb ffws na ffwdan, a chan weithio’n dawel ac effeithiol yn codi arian ar gyfer elusennau. Mae’n weithgar yn codi arian ar gyfer ymchwil i’r clefyd creulon Motor Neurone, gan iddi golli ffrind agos i’r clefyd, a bu hefyd yn codi arian i brynu cyfarpar allweddol i ward arbenigol Calon Plus yn Ysbyty Glangwili. Mae’n adnabyddus iawn i gystadleuwyr yr Eisteddfod Genedlaethol gan ei bod wedi gwirfoddoli ar y Maes ers 1984, gan ofalu am y Pagoda a mwynhau cyfarfod â ffrindiau hen a newydd yn flynyddol.
 
Gari Wyn
Byd busnes a cheir yw arbenigedd Gari Wyn Jones, Bangor. Er iddo hyfforddi fel athro Hanes a gweithio yn y maes hwnnw am gyfnod, roedd mentergarwch yn ei waed, ac yn 1990 aeth ati i sefydlu ei fusnes gwerthu ceir ei hun, Ceir Cymru. Mae darparu gwasanaeth Cymraeg wrth galon y cwmni, a’r iaith i’w gweld ym mhob elfen o’u gwaith. Mae’n weithgar yn annog Cymry lleol, a phobl ifanc yn arbennig, i fentro ym myd busnes, ac yn ymgynghorydd entrepreneuriaid ifanc ar ran Menter a Busnes gan ymweld ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd i gynnig ei gyngor. Gyda’i ddiddordeb mewn hanes, mae’n arbenigwr ar ardal Uwchaled, hanes y Cymmrodorion, a hanes Jac Glan-y-gors yn Llundain.
 
Rowland Wynne
Gellid bod wedi anrhydeddu Rowland Wynne, Caerdydd am ei waith yn hyrwyddo’r Gymraeg yn ardal Taf Elái, a’i gyfraniad pwysig i fywyd cymunedol y fro honno am flynyddoedd lawer. Efallai mai ei brif gymwynas yn lleol oedd sefydlu a threfnu Cylch Cadwgan, cymdeithas lenyddol sy’n cyfarfod yn rheolaidd. Bu’n gweithio ym myd addysg, wedi treulio blynyddoedd gyda’r Brifysgol Agored a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gan gyfrannu’n sylweddol i’r sector yng Nghymru. Ond, fe’i hanrhydeddir eleni am ei waith ymchwil a’i gyfrol am y gwyddonydd athrylithgar o Geredigion, Yr Athro Evan James Williams. Dyma gyfrol feistrolgar a hynod o ddarllenadwy sydd yn creu llwyfan pwysig i waith gwyddonydd o fri, mewn ffordd ddarllenadwy ac apelgar.
 

 

https://eisteddfod.cymru/cyhoeddi-urddau-gorsedd-eisteddfod-sir-conwy