Diwrnod Cymdeithasol 2023 yn Amgueddfa Lechi Llanberis

Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd,  dydd Sadwrn 23 Medi 2023

Princess’, ‘Duchess’, ‘Countess’ a ‘Narrow Countess’ … na, nid yw Gorsedd Cymru wedi mynd yn ‘Royal’. Enwau yw’r rhain ar ffurf a maint ambell lechen do; un o’r perlau o wybodaeth a ddysgwyd gennym Orseddigion a’n gwesteion wrth i ni ymgynnull ar ein Diwrnod Cymdeithasol yn Amgueddfa Lechi Llanberis.

Ffurfiwyd y llechfaen pan gafodd llaid â lefelau sylweddol o glai ynddo ei gywasgu mewn tymheredd uchel yn ystod symudiadau cyfandirol tua 300-400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn dibynnu ar gynnwys ac oedran penodol y llechfaen, rhoddir graddau ansawdd iddi, ac mae’r gwythiennau llechi o amgylch Dinorwig, Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog yn rhai o’r ansawdd uchaf yn y byd.

I’n rhoi ar y trywydd cywir, ben bore bu Dr Dafydd Roberts, cyn-bennaeth yr Amgueddfa, yn ein tywys drwy hanes diwydiant llechi Gogledd Cymru. Amhosibl gwneud cyfiawnder â’r drysorfa a agorwyd i ni yn ei gwmni. Buom ar wibdaith yn ymchwilio arwyddocâd rhyngwladol llechi Cymru, a chael mewnwelediad addysgiadol hollol unigryw i allforio adnoddau, pobl a sgiliau. Mewn cyfres o luniau buan y bu i ni sylweddoli na ellir dianc rhag llechi Cymru ledled y byd – Hamburg, Copenhagen a Warsaw, Efrog Newydd a Philadelphia, Adeilade, Sydney a Melbourne! Roedd hon yn wers hanesyddol ac economaidd bwysig i Hwntw fel fi; os yw De Cymru yn gyfystyr â glo neu ‘aur du’, yna mae Gogledd Cymru wedi’i bendithio a’i melltithio i’r un graddau â’r llechen gyfatebol.

Er imi fwynhau gwrando ar yr anfarwol Bob Tai’r Felin yn canu ‘Moliannwn’ ers yn blentyn …  “A chawn glywed Whip-ar-Wîl, A llyffantod wrth y fil” … nid oeddwn erioed wedi sylweddoli’r cysylltiad rhwng y gân a’r diwydiant llechi yng Nghymru a’r UDA. Yn arbennig felly, rhwng yr aderyn Whip-ar-Wîl, Caprimulugus vociferous, a Dyffryn y Llechi, Granville ar ffin Vermont yng Ngogledd America. Benjamin Thomas yw awdur y geiriau Cymraeg; addasiad o alaw werin Americanaidd ‘The Old Cabin Home’ gan T. Paine yw’r gerddoriaeth.

Ar ôl gwledd addysgiadol yn y bore, cyfle wedyn i fwynhau’r amgueddfa. Fe’i lleolir yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Cafodd y gweithdai eu hadeiladu ym 1870 ar batrwm tebyg i gaer o gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r cwrt canolog, tŵr y cloc a’r ffenestri cywrain yn rhoi iddynt gymeriad unigryw a gellid meddwl am yr Amgueddfa fel capsiwl amser – yn union fel petai’r chwarelwyr a’r peirianwyr newydd roi eu hoffer i lawr ar ddiwedd sesiwn waith a chychwyn am adref. I mi, y sesiwn yng nghwmni John-Joe oedd uchafbwynt y diwrnod – roedd ei weld yn anwylo’r llechfaen wrth iddo ei disgrifio, ei thrin a’i hollti yn olygfa nad anghofiaf am dro byd. Fe yw’r chweched genhedlaeth o’i deulu i arfer y grefft.

Yn ystod y prynhawn, cafwyd cyfle i ymweld â thŷ’r prif beiriannydd wedi ei hailddodrefnu yn arddull 1911, y gweithdai, y gefeiliau a’r ffowndri haearn a phres. Yn y sied drenau, cyfarfod ag UNA, injan stêm a adeiladwyd ym 1905. Er ei bod mewn cyfnod o lanhau ac atgyweirio yn gyfredol, mae’n hollol weithredol – gallaf ond dychmygu’r wefr o’i gweld yn stemio ar hyd y cledrau yn ei gwisg eurwerdd. Wyddwn i ddim am gampwaith peirianwaith ynni dŵr chwarel Dinorwig! Rhyfeddod oedd cael gweld y rhod ddŵr sy’n ei yrru – y rhod ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain. Cyn gorffen, cawsom ein syfrdanu gan dros 2,000 o batrymau pren a ddefnyddiwyd i greu unrhyw wrthrych metal oedd ei angen ar weithdai’r chwarel – cogiau, rhannau injans stêm, hyd yn oed cloch y cloc uwch drws y gweithdai.

Am ddiwrnod! Cyfle i deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru. Clywsom am fywyd y chwarelwyr, am Arglwydd Penrhyn a pherchnogion y chwareli, bu i rai o’r Gorseddigion rannu profiadau teuluol am drasiedïau a bywyd caled y cyfnod. Da oedd bod yno!

Cyn gorffen, cafwyd sawl gwledd yn ystod y dydd – gwledd hanesyddol y bore a gwledd addysgiadol a diwylliannol y prynhawn.  Yng nghanol y cyfan, cafwyd hefyd wledd luniaethol yng ngwir ystyr y gair yng Ngwesty Fictoria! Diolch o waelod calon i’r cyn-Arwyddfardd, Dyfrig am ei weledigaeth a’i drefniadau manwl a gofalus; canmil diolch i Beti-Wyn ein Harwyddfardd am sicrhau diwrnod hollol arbennig a’n cael, bob un, i ‘joio mas draw’!       

Hefin Pencader (Hefin Jones)

Lluniau trwy garedigrwydd Jaci Taylor