Urddau’r Orsedd 2023
Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu hurddo i Orsedd Cymru yn 2023
GWISG WERDD
Aled Davies
Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cyfraniad Aled Davies, Chwilog i’w gymuned ac i’w grefydd yn enfawr. Yn weinidog bro sy’n gyfrifol am chwe chapel, mae Aled hefyd yn gyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Mae’n gyfrifol am drefnu presenoldeb Cytun ar Faes yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol, ac mae ar fwrdd y cylchgrawn Cristion. Ef hefyd sy’n dylunio a gosod y papur bro lleol, Y Ffynnon. Mae Aled yn trefnu llu o weithgareddau’n lleol gyda’r capeli’n cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw, gan gynnwys nifer o gymdeithasau llenyddol.
Heulwen Davies
Urddir Heulwen Davies, Dolanog am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny’n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae Heulwen wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae Heulwen wedi rhoi’r gorau i arwain yr Aelwyd, ac fe’i croesewir i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.
Jeffrey Howard
Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.
Edwin Humphreys
Mae Edwin Humphreys, Pentreuchaf yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol y sîn roc, sydd wedi bod yn hanfodol bwysig ym mrwydr y Gymraeg er hanner can mlynedd. Mae wedi chwarae gyda mwy o fandiau Cymraeg na’r un cerddor arall, ac i’w glywed ar gant o albymau! Bu’n dilyn gyrfa fel nyrs seiciatryddol gyda cherddoriaeth yn gyfeiliant i’w waith, a daeth yn arbenigwr ar therapi meddylgarwch drwy gerddoriaeth. Erbyn hyn mae’n helpu to newydd o gerddorion, gan ymweld ag ysgolion i roi gwersi ac i arwain bandiau pres. Mae’n athro cwbl ysbrydoledig.
Marion Loeffler
Magwyd Marion Loeffler, Caerdydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Ar ôl graddio, symudodd i Gymru, a bu’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth gan arbenigo ar hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y 18fed ganrif a’r 19eg. Bellach mae’n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. A hithau wedi ymchwilio i etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Iolo Morganwg, ynghyd â chyfrannu’n helaeth at hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, priodol iawn yw derbyn Marion yn aelod o’r Orsedd.
Ywain Myfyr
Bu adfywiad yn y byd cerddoriaeth werin Gymraeg yn y 1970au, gydag Ywain Myfyr, Dolgellau ar flaen y gad fel un o sefydlwyr Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau, ac fel aelod o Cilmeri a Gwerinos. Yn y 1990au, cyd-sefydlodd Sesiwn Fawr Dolgellau, gŵyl ddylanwadol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig, Gymraeg a Cheltaidd, yn ogystal â’r iaith ei hun. Bu ei frwdfrydedd a’i egni diflino yn gweithio dros Ddolgellau, cerddoriaeth a’r Gymraeg yn rhyfeddol. Esgorodd y Sesiwn Fawr ar ambell ŵyl ymylol a hefyd ar sefydlu Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, ac mae Ywain Myfyr yng nghanol y trefnu bob amser.
Richard Owen
Brodor o Fynydd Mechell, Ynys Môn yw Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy’i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd. Cyfrannodd yn helaeth i’r Eisteddfod fel Cadeirydd y Panel Llên Canolog am wyth mlynedd, ac fel aelod cyn hynny, a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Llên lleol Eisteddfod Ceredigion 2022. Bu’n weithgar yn ei gymuned leol dros y blynyddoedd, gyda Chymdeithas y Penrhyn, Cyngor Cymuned Trefeurig, papur bro Y Tincer a Phlaid Cymru.
Mari Lloyd Pritchard
Yn enedigol o Ros-meirch, magwyd Mari Lloyd Pritchard, Biwmares ar aelwyd gerddorol, a chafodd ei thrwytho yn y byd corawl. Bu’n gyfrifol am ailsefydlu Theatr Ieuenctid Môn, sydd wedi ysgogi diddordeb cannoedd o blant a phobl ifanc ym myd y theatr. Yn 2006, sefydlodd Gôr Ieuenctid Môn, ac mae’n rhoi o’i hamser bob wythnos i arwain y Côr Iau a’r Côr Hŷn. Erbyn hyn, mae hi hefyd yn arwain Encôr, côr ar gyfer aelodau dros 60 oed. Gwnaeth Mari gyfraniad enfawr i fyd cerddoriaeth a gwaith ieuenctid yng Nghymru, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Carlo Rizzi
Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth yn arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd. Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi. Mae ganddo egni deinamig, dealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a’r gallu i ymgysylltu â’r gerddorfa a’r gynulleidfa mewn ffordd hynod enigmatig ac emosiynol. Braint yw ei groesawu i’r Orsedd.
Esyllt Nest Roberts de Lewis
Yn wreiddiol o Bencaenewydd, aeth Esyllt Nest Roberts de Lewis i Batagonia fel athrawes dan y Cynllun Dysgu Cymraeg bron i ugain mlynedd yn ôl. Yno cyfarfu â’i gŵr, Cristian ac mae ganddynt ddau fab, Idris a Mabon sydd wedi eu magu yn siarad Cymraeg. Mae Esyllt yn hynod weithgar yn y gymuned Gymraeg yn y Wladfa, bu’n olygydd Y Drafod ac yn ysgrifennydd Gorsedd y Wladfa, a hi yw Arweinydd Cymru a’r Byd yn yr Eisteddfod eleni. Mae’n gyn-enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa, ac mae’n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd.
Gareth Roberts
Dyn pobl a dyn ei fro yw Gareth Roberts, Deiniolen. Bu’n gweithio’n ddygn dros les pobl ifanc Menter Fachwen, disgyblion ysgol a phobl ei ardal i greu cyfleoedd iddynt ddod i adnabod eu bro a chyfranogi yn ei hanes a’i diwylliant. Creodd archif leol o enwau ponciau Chwarel Dinorwig, hanesion am gymeriadau a diwylliant bro. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn ddiarhebol, ac mae’n ysbrydoli pawb â’i sgyrsiau, teithiau a’i arddangosfeydd. Argraffodd gyfres o fapiau cerdded sy’n olrhain hanes a hyrwyddo enwau lleoedd, a bu’n arwain teithiau cerdded i’r rheini sy’n awyddus i wella’u hiechyd corfforol a meddyliol.
Glyn Tomos
Dwy ffactor sy’n gyrru Glyn Tomos, Caernarfon, sef y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol, a thrwy gydol ei oes, yn wirfoddol neu’n gyflogedig, mae wedi cadw at y ddwy egwyddor yma. Tra’n fyfyriwr prifysgol ym Mangor, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu UMCB i warchod hawliau myfyrwyr Cymraeg. Ar ddiwedd y 1970au sefydlodd y cylchgrawn Sgrech er mwyn adlewyrchu’r sîn roc Gymraeg, gan roi hyder i Gymry ifanc siarad yr iaith a chanu yn Gymraeg. Pan symudodd i Gaernarfon, aeth ati i sefydlu Papur Dre, papur bro a ddathlodd ei 200fed rhifyn eleni.
Gareth ‘Neigwl’ Williams
Bob mis mae Gareth ‘Neigwl’ Williams, Botwnnog yn cyfrannu colofn i’w bapur bro, Llanw Llŷn, o dan y teitl ‘Llên y Llanw’ – cybolfa ddifyr dros ben o sgwrs, dyddiadur, atgofion ac athroniaeth gadarn yr awdur. Llŷn, yn hanesion a chymeriadau a dywediadau llafar gwlad, yw’r deunydd, a dyma yw prif ddiddordeb Gareth. Mae ei gerddi coffa yn y papur i gymeriadau Llŷn yn gofnod unigryw hefyd. Yn fardd gwych ond gwylaidd iawn a Chymreigydd praff, byddai’n ei alw’i hun yn ‘fardd gwlad’ – bardd Gwlad Llŷn – ond mae ei grefft yn ei godi i safon bardd cenedlaethol.
Sioned Wyn
Mae Sioned Wyn, Cricieth yn un o’r cynhyrchwyr teledu mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Trwy gyfrwng ei gwaith gyda Chwmni Teledu Chwarel, profodd y gellir rhedeg cwmni llwyddiannus mewn unrhyw ardal yn y byd, ac roedd gwneud hyn yn ardal Eifionydd yn bwysig iawn i Sioned ei hun. Mae naws a natur Gymraeg a Chymreig i’w rhaglenni, boed rheini’n gyfrwng-Gymraeg neu Saesneg. Enillodd wobrau BAFTA, RTS a Broadcast am ei gwaith, ac mae’n mwynhau hyfforddi pobl ifanc i weithio yn y diwydiant darlledu yma yng Nghymru.
GWISG LAS
Mabon ap Gwynfor
Mae’r gwleidydd Mabon ap Gwynfor, Cynwyd yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd er 2021. Yn ymgyrchydd egwyddorol, mae’n adnabyddus ledled Cymru am ei ddaliadau gwrth-ryfel ac fel eiriolydd angerddol dros heddwch. Mae hefyd yn credu yn yr angen i rymuso cymunedau, ac felly’n weithredwr cymunedol: cyd-sefydlodd Menter Gymunedol Cynwyd er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o siop y pentref, a Phwyllgor Menter Ysgol Llandrillo er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o’r ysgol leol ar ôl ei chau.
Pedr ap Llwyd
Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Pedr ap Llwyd, Aberystwyth yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Mae’n gymwynaswr adnabyddus, ac fel rhan o’i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu’r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb. Mae’n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, ac yn Ynad Llywyddol er bron i ugain mlynedd.
Anwen Butten
Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r Orsedd yn falch o’r cyfle i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i’r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022. Mae Anwen hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Meryl Davies
Mae Meryl Davies, Dinas, Pwllheli wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, ac yn 2016, cyrhaeddodd restr fer gwobr genedlaethol i ferched sy’n cyflawni. Bu’n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, ac fe gododd £40,000 at Sefydliad y Galon yn ystod ei chyfnod wrth y llyw. Yn gyn-reolwr ward yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, bu’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfathrebu â chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n weithgar yn ei chymuned, yn organydd yn ei chapel ac yn aelod blaenllaw o’r gangen leol o Ferched y Wawr.
Owain Idwal Davies
Urddir Owain Idwal Davies, Llanrwst am ei fod yn manteisio ar bob cyfle i ysbrydoli pobl ifanc i oresgyn anawsterau, i ymuno â’i gilydd i fwynhau gweithgareddau amrywiol a gwthio’u ffiniau i’r eithaf. Ar ôl wynebu cyfres o lawdriniaethau pan oedd yn ifanc, penderfynodd na fyddai unrhyw rwystr corfforol yn ei ddal yn ôl, gan fynd ati i ragori fel rhedwr, nofiwr a beiciwr. Yn y gwasanaeth hamdden ac yna yn y weinidogaeth, mae Owain wedi bywiogi’i fro drwy egnïo’r iaith a rhannu’i gariad at ddiwylliant a chwaraeon, gan hybu Cristnogaeth ymarferol.
Dyfrig Davies
Urddir Dyfrig Davies, Llandeilo am roi blynyddoedd o gefnogaeth, yn wirfoddol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau bod diwylliant Cymru a’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’n Gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig COVID-19 a dathliadau’r canmlwyddiant yn 2022. Yn Gadeirydd TAC, mae’n rhan allweddol o’r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu. Mae Dyfrig bob amser yn anelu’n uchel, yn cefnogi’n daer ac yn dangos angerdd mawr dros Gymru a’r Gymraeg.
Hywel Edwards
Mae Hywel Edwards, Padog, Betws-y-coed yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.
Marian Edwards
Mae Marian Edwards, Padog, Betws y Coed yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.
Siân Eirian
Bu’r Urdd yn ddylanwad mawr ar fywyd Siân Eirian, Llangernyw, a Siân yn ddylanwad anferth ar yr Urdd, gan iddi weithio’n ddiwyd dros y mudiad am ran helaeth o’i gyrfa, o’i chyfnod fel aelod o Aelwyd Bro Cernyw i’w gwaith fel Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau. Hi hefyd fu’n gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C, gan lwyddo i gyflwyno i blant raglenni addysgiadol ac adloniadol a enillodd wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.
Kenneth Fitzpatrick
Yn gyn-swyddog morwrol harbwr a harbwr-feistr ym Mhwllheli, Porthmadog a’r Bermo, bu Kenneth Fitzpatrick, Morfa Nefyn yn weithgar fel gwirfoddolwr arweiniol gyda Chlwb Hwylio Pwllheli yn yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau Plas Heli, a chyda Bad Achub Porthdin-llaen. Bu’n gweithredu fel gwirfoddolwr, is-gapten a mecanic ac fel rheolwr gweithgareddau’r bad achub am dros ddeugain mlynedd i gyd. Â chanddo oes o wasanaeth ffyddlon i gadw’r traddodiad morwrol yn fyw a diogel i bobl ifanc yr ardal, mae Ken yn llawn haeddu cydnabyddiaeth gan Orsedd Cymru eleni.
Mared Gwyn Jones
Â’i gwreiddiau yn Nefyn a Llanbedrog, Mared Gwyn, Brwsel yw llais Cymru yn Ewrop. Mewn cyfnod o helynt a thor-perthynas ag Ewrop, mae’n ymateb i ddigwyddiadau’n braff a graenus ar y cyfryngau gan gadw’r trafod a’r dadansoddi o safon ryngwladol, yn y Gymraeg. Yn hyderus mewn pum iaith, mae Mared a’i hagwedd agos-atoch yn llysgennad medrus i Gymru a’r Gymraeg, ac yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc trwy osod y Gymraeg a Chymru’n rhan o’r sgwrs fawr wleidyddol gyfoes.
Aled Hughes
Er ei fod yn byw ar Ynys Môn erbyn hyn, mae Aled Hughes, Llanfairpwll yn un o Hogia’ Llŷn, a’i wreiddiau’n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni. Mae’n cyflwyno rhaglen gylchgrawn ddyddiol ar Radio Cymru sy’n llwyfan hygyrch i drafod ein hiaith, hanes Cymru, gwyddoniaeth a sawl pwnc arall a oedd, cyn hyn, yn cael sylw ar raglenni arbenigol yn unig. Mae Aled hefyd wedi teithio Cymru gan ei herio’i hun yn gorfforol, a thrwy hynny llwyddodd i godi miloedd o bunnoedd at elusen Plant mewn Angen.
Kristoffer Hughes
Yn wreiddiol o Lanberis, bu Kristoffer Hughes, Bodorgan yn gweithio fel technegydd patholegol, yn cynnal archwiliadau post-mortem ar gyfer y Crwner yng ngogledd orllewin Cymru. Daeth ei waith fel swyddog galar a phrofedigaeth â chysur i nifer fawr o deuluoedd, gan iddo gynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae Kristoffer hefyd yn adnabyddus fel y comedïwr drag, Magi Nogi, ac mae’n bennaeth Urdd Derwyddon Môn, sy’n dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau hynafol.
Terry Jones Hughes
Yn ddi-os, mae Terry Jones Hughes, Tudweiliog yn un o hoelion wyth ei filltir sgwâr a’i gymuned leol. Yn amaethwr tan iddo ymddeol, mae’r capel a’r diwylliant Cymraeg yn Llŷn yn agos at ei galon, a bu’n gweithio’n ddistaw a diflino i ddiogelu’r gwerthoedd hynny a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Mae’n aelod gweithgar o nifer o sefydliadau a grwpiau lleol, gan gynnwys y Cyngor Plwyf a Phwyllgor Llên yr Eisteddfod eleni, ac mae ei gyfraniad i’r cyfan oll yn gyson ddoeth a gwerthfawr.
Andrew John
Mae’r Parchedicaf Andrew John yn Esgob Bangor er 2009 ac yn Archesgob Cymru er 2021. Erys ei brosiect cenedlaethol, ‘Bwyd a Thanwydd’, lle ymgysylltai ag archfarchnadoedd a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, yn agos at ei galon. Cefnogodd y defnydd o Gadeirlan Bangor fel canolfan frechu gymunedol yn ystod y pandemig, ac mae wedi cydweithio ar Brosiect Llan, sy’n hyrwyddo diwylliant, iaith a’r ffydd Gristnogol Gymreig mewn modd cyfoes, wrth gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn Esgobaeth Bangor. Fel aelod o Fainc yr Esgobion, mae’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg a Christnogaeth Gymreig, ac mae’n cefnogi ‘Cwrs Croeso’ yr Eglwys yng Nghymru, sy’n annog clerigwyr newydd i ddysgu Cymraeg.
Christine Jones
Urddir Christine Jones, Pwllheli am ei chyfraniad diflino i gymuned ei milltir sgwâr dros flynyddoedd lawer. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o athroniaeth Christine, ac mae bob amser yn barod ei chymwynas, gan wirfoddoli gyda nifer o grwpiau a sefydliadau lleol. Yn gefnogwr brwd yr Ŵyl Cerdd Dant a’r Eisteddfod, chwaraeodd ran flaenllaw yn codi arian yn lleol eleni. Hi fu’n gyfrifol am greu’r sesiynau ‘Pnawn Difyr’ ar gyfer yr Ŵyl Cerdd Dant, ac mae’r rhain wedi parhau ers hynny, yn waddol pendant i’w gwaith ardderchog yn ei bro.
Dewi Bryn Jones
Dewi Bryn Jones, Garndolbenmaen yw prif arloeswr technolegau’r iaith Gymraeg. Gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg. Ef yw arweinydd tîm yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sydd wedi datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg, a hefyd technoleg cyfieithu peirianyddol Cymraeg<>Saesneg. Gan rannu’i amser rhwng Cymru a Helsinki yn y Ffindir, mae Dewi wedi arloesi ym maes technoleg y Gymraeg at anghenion pobl anabl a’r cyhoedd yn gyffredinol, gan osod esiampl i gymunedau ieithyddol bach eraill.
Hywel Jones
Mae Hywel Jones, Ysbyty Ifan yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.
John Llyfnwy Jones
Fyddai John Llyfnwy Jones, Llithfaen ddim yn John heb Lithfaen, a fyddai Llithfaen ddim yn Llithfaen heb John Llyfnwy – mae’n rhan mor annatod o’r pentref. Roedd yn un o brif sylfaenwyr Tafarn y Fic, tafarn gymunedol gyntaf Ewrop, a chryfder mawr John yw ei barodrwydd a’i amynedd i feithrin a chynnig arweiniad i bobl ifanc lleol. Pan sefydlwyd Menter yr Eifl yn sgîl cau’r siop a’r swyddfa bost – a bygythiad gweld y pentref yn mynd â’i ben iddo yn sgîl hynny – daeth John i’r adwy gan ysgogi’r pentrefwyr i gydweithio a chyfrannu er mwyn achub y siop a’r pentref fel ei gilydd.
Linda Jones
Bu Linda Jones, Ffestiniog yn weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru. Y prif nod yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu. Sefydlodd westy tair seren yn Llan Ffestiniog – Gwesty Seren – i ddarparu llety ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a dysgu, prosiect arloesol a’r unig gyfleuster o’i fath yng Nghymru. Mae Linda hefyd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy’n hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol, ac sy’n cyflogi tua 150 o bobl leol.
Mair Jones
Mae Mair Jones, Llaniestyn wedi codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau, ac am flynyddoedd bu’n agor ei chartref i godi arian. Pan ddaeth y pandemig, penderfynodd osod cwt pren i werthu pethau ail-law wrth giât Iôn ei chartref. Bellach, mae Cwt Gobaith yn agored bob dydd gyda blwch gonestrwydd yn codi arian i Dŷ Gobaith. Mae’n cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrch Operation Christmas Child bob blwyddyn ac yn creu cannoedd o dorchau Nadolig i godi arian. Dyma un o arwyr tawel Pen Llŷn sy’n haeddu cael ei hurddo i Orsedd Cymru am ei gwaith elusennol rhagorol.
Malcolm Jones
Mae Malcolm Jones, Tremadog wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa bob blwyddyn er ei chychwyn ddeugain a chwech o flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolodd Gymru mewn sawl cystadleuaeth rhedeg mynydd rhyngwladol gyda chryn lwyddiant, a phan oedd yn drigain oed, cynrychiolodd ein gwlad mewn cystadlaethau triathlon. Cludodd fflamau’r Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad ar eu taith drwy Eifionydd, ac mae wedi rhedeg sawl marathon. Bu hefyd yn rhan o sefydlu clybiau rhedeg mynydd lleol llwyddiannus dros y blynyddoedd, gan ennyn diddordeb yn y gamp fu’n gymaint rhan o’i fywyd ef ei hun.
Geraint Lloyd
Roedd Geraint Lloyd, Lledrod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM. Pan oedd yn ifanc, ralio a rasio oedd yn mynd â’i fryd; bu’n cynrychioli Cymru mewn rasys 4×4, ac mae’n aelod brwd o Glwb Glasrasio Teifi. Mae’n un o gefnogwyr mwyaf selog y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2017 fe’i hetholwyd yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, anrhydedd a dderbyniodd gyda balchder. Mae hefyd yn cefnogi Theatr Felin-fach, ac wedi perfformio droeon yn eu pantomeimiau enwog.
John Mahoney
Ymhell cyn dyddiau’r Wal Goch a Chwpan y Byd 2022, ni fu’r un Cymro a chwaraeodd dros ein gwlad yn fwy balch o’i dras na John Mahoney, Caerfyrddin. Wedi i’w yrfa fel chwaraewr ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch ‘Siawns am Sgwrs’ yng ngorllewin Cymru. Nid ef yw’r unig aelod o’r teulu i gynrychioli Cymru, gan fod un o’i ferched hefyd wedi cynrychioli ei gwlad wrth chwarae pêl-droed. Mae John yn ŵr diymhongar sy’n caru Cymru, ein hiaith a’n diwylliant, a’n braint yw ei urddo i Orsedd Cymru eleni.
Laura McAllister
Mae Laura McAllister, Caerdydd yn Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n Gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn gyn-bêldroedwraig ryngwladol, mae’n lladmerydd diflino dros gydraddoldeb ym maes chwaraeon, ac wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy wrth amlygu gêm y merched a’r menywod, hawliau LHDTC+, a chwaraeon paralympaidd. Eleni, fe’i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn Is-lywydd y corff hwnnw, y cynrychiolydd cyntaf o Gymru a’r bêldroedwraig gyntaf i gyflawni’r gamp. Mae’n sylwebydd cyson ar y cyfryngau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd gwleidyddiaeth a chwaraeon.
Gwyn Mowll
Mae Gwyn Mowll, Llanrug wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn dysgu, cefnogi a hwyluso karate traddodiadol ‘Shotokan’ yng Nghymru yn wirfoddol, gan gyffwrdd – a thrawsnewid – bywydau miloedd o drigolion gogledd Cymru. Ar ddechrau’r 1990au, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o greu Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru, gan sicrhau cynnal safonau mewn clybiau. Yn aml cynhelir gwersi yn dairieithog – Cymraeg, Saesneg a Siapanaeg. Bu’r cyfnod clo yn anodd i’r gamp, ond mae dyfodol pendant iddi yng Nghymru gyda chefnogaeth unigolion brwdfrydig fel Gwyn.
Enid Owen
Heb bobl fel Enid Owen, Botwnnog, a fu’n fodlon ymgymryd â swyddi mewn cymdeithasau bach a gwirfoddoli i roi profiadau i blant a phobl ifanc, ni fyddai dyfodol i’n hiaith a’n diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Dechreuodd Enid yr arferiad o gystadlu yng nghystadlaethau canu’r Urdd gyda phlant Adran Botwnnog. Doedd dim traddodiad yn y maes hwnnw yn yr Adran, a chymerodd yr awenau gan dynnu sawl parti ac unigolyn o dan ei hadain. Dyma wraig a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i fywyd diwylliannol ei milltir sgwâr dros gyfnod hir.
Llinos Angharad Owen
Ar ôl gyrfa ym myd addysg, mae Llinos Angharad Owen, Beddgelert yn gweithio bellach i elusen Tir Dewi, sy’n cynorthwyo ffermwyr a’u teuluoedd gyda phryderon a phroblemau. Chwaraeodd ran amlwg mewn prosiect arloesol gyda Heddlu Gogledd Cymru gan sicrhau bod lle amlwg i’r Gymraeg ynddo. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Grŵp Cneifio Gelert sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, gan ddenu sylw ar draws y byd, yn arbennig yn ystod y cyfnod clo.
Rhiannon Parry
Yn sylfaenydd a golygydd papur bro Y Gadlas am flynyddoedd, ers symud i Ddyffryn Nantlle mae Rhiannon Parry, Pen-y-groes wedi cyfrannu colofn fisol i’r papur lleol, Lleu. Bu’n olygydd Y Wawr ac mae’n ysgrifennu am gelf yn rheolaidd i Barn. Ar ôl dilyn cyrsiau celf wrth ddioddef o gancr, cydlynodd Rhiannon grŵp o wniadwragedd ar draws y gogledd er mwyn creu paneli mawr i addurno waliau Llys Llywelyn yn Amgueddfa Werin Cymru, gan gydweithio â’r artist, Cefin Burgess. Mae’n ddarlithydd difyr ar amrywiol bynciau, yn ymddiddori ym myd y ddrama ac yn arbenigo ar hen feddyginiaethau.
Alun Roberts
Er deng mlynedd ar hugain a mwy, mae Alun Roberts, Caernarfon yn ymgorfforiad o’r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, yn hyrwyddo a chefnogi pob gweithgaredd dyngarol, elusennol a diwylliannol yn y gymdeithas leol yn ei ffordd dawel ac ymarferol ei hun. Mae ymrwymiad Alun i’w gymuned yn ddiarhebol: o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i’w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i’r fenter O Law i Law, mae cymorth a chefnogaeth Alun yn allweddol i lwyddiant pob ymgyrch a phrosiect yn lleol.
Alwyn Roberts
Yn gymwynaswr wrth reddf ac yn un sydd â chariad mawr tuag at y Gymraeg, mae Alwyn Roberts, Llanuwchllyn yn eofn ei farn ac yn ddoeth ei gynghorion. Mae’n gynghorydd cymuned poblogaidd ar gyngor plwyf Llanuwchllyn ac yn Gyn-gadeirydd y Cyngor. Mae’n aelod o Gôr Godre’r Aran a hefyd o barti Tri Gog a Hwntw, sy’n cynnal nosweithiau llawen, ac mae’n Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y pentref er 2001. Mae Alwyn yn adnabyddus iawn i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt am ei wasanaeth hir a ffyddlon fel aelod o staff y Brifwyl tan 2021.
John Roberts
Mae John Roberts, Aberystwyth wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul, rhaglen sy’n rhoi lle i faterion crefyddol a moesol. Oherwydd natur a safbwyntiau John, mae’n rhaglen agored, ryddfrydol ei naws, a dwfn-dreiddgar ei chynnwys. Mae cyfraniad John i fyd darlledu ac i fyd trafod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, ac yn dal i fod, yn sylweddol a phwysig. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon. Nid llenor ‘toreithiog’ mohono, ond un gofalus sy’n araf-saernïo ei waith.
Nicola Saffman
Yn wreiddiol o Fanceinion, magwyd Nicola Saffman, Caernarfon heb gysylltiad â’r Gymraeg. Pan symudodd i Gymru, dysgodd y Gymraeg a dod yn siaradwraig hyderus ymhen ychydig. Bu’n Ddirprwy-grwner gogledd orllewin Cymru am ugain mlynedd – y ferch gyntaf yn y swydd – a chynhaliodd gwestau lawer yn Gymraeg. Fe’i penodwyd yn Farnwr Llys y Goron yn 2019, ac mae’n gweithio yng Nghaernarfon –yr unig ferch sy’n Farnwr Llys y Goron llawn-amser yng ngogledd Cymru. Mae’n deall yr angen i gefnogi’r Gymraeg yn ein llysoedd,ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch a chynhwysol.
Catrin Elis Williams
Meddyg teulu yw Catrin Elis Williams, Bangor, a’i gwreiddiau’n ddwfn ym Mhen Llŷn. Bu’n ysgrifennydd Y Gymdeithas Feddygol am sawl blwyddyn ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo addysg feddygol yng ngogledd Cymru a chyfrannu at osod sail yr Ysgol Feddygol yn y gogledd. Mae’n weithgar yn ei hardal ar sawl pwyllgor a bwrdd gan gynnwys Antur Waunfawr a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. O 2019 tan eleni bu’n un o gyfarwyddwyr Cartrefi Cymru, sy’n cefnogi rhai ag anableddau dysgu i fyw bywyd llawn yn eu cymuned.
Ruth Wyn Williams
Yn wreiddiol o Aber-soch, mae Ruth Wyn Williams, Bangor wedi cyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru, gan godi proffil maes sy’n cael ei esgeuluso yn aml. A hithau’n credu’n gryf mewn rhoi llais, urddas a chyfiawnder i aelodau mwyaf bregus cymdeithas, gweithiodd yn ddiflino i newid agweddau ymysg y cyhoedd, gan ddylanwadu’n arwyddocaol ar benderfyniadau polisi ac ysbrydoli llu o fyfyrwyr a staff ar draws y gwasanaeth iechyd. Gyda’r angerdd sy’n ei nodweddu fel unigolyn, mae wedi ymroi i wella profiadau pobl ag anableddau dysgu er mwyn iddynt gael byw bywyd i’r eithaf.
Einir Wyn
Mewn cyfnod o newidiadau mawr yn y pentref, mae ymroddiad pobl fel Einir Wyn, Aber-soch yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymuned Gymraeg yn dal ei thir. Gweithiodd yn ddiflino i gadw’r ysgol leol ar agor, ac er mai ofer fu’r ymdrechion, cyflwynodd lyfrau o’r hen ysgol i elusen sy’n hyrwyddo a datblygu gallu addysgol disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion gwledydd Affrica. Mae’n ganolog yn y gwaith o geisio datblygu adeilad yr ysgol er budd y gymuned. Mae’n Glerc Cyngor Cymuned Llanengan ers blynyddoedd, ac yn fanwl ei gwaith wrth ymateb i geisiadau i ddatblygu’r ardal, gan roi gwarchodaeth y Gymraeg a’i chymunedau’n gyntaf bob tro.