Arholiadau


Arholiadau Gorsedd y Beirdd

Hoffech chi ymaelodi â Gorsedd y Beirdd a chael cymryd rhan yn ei gorymdeithiau a’i seremonïau lliwgar?

Mae modd i chi wneud hynny trwy sefyll Arholiadau’r Orsedd a gynhelir ar y Sadwrn olaf yn Ebrill bob blwyddyn mewn canolfannau hwylus yn ne a gogledd Cymru.

Ceir meysydd astudio mewn Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, yn ogystal â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr. Rhaid pasio dau arholiad yn eich maes dewisedig cyn y byddwch ar dir i’ch urddo i’r Wisg Werdd yng Nghylch yr Orsedd gan yr Archderwydd – ond gallwch sefyll y ddau arholiad yr un diwrnod, os mynnwch.

 

 

Gellir cael copi o lyfryn y Maes Astudiaeth (pris £1 a chludiad post) – sy’n rhoi cyfarwyddiadau llawn am y gwahanol feysydd ynghyd â’r amodau a rhestr y llyfrau gosod – trwy anfon at Drefnydd yr Arholiadau: Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon), Llys Cerdd, 80 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL. Anfonwch ato ar unwaith er mwyn i chi gael dechrau mewn da bryd i’ch urddo yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf, gobeithio.

Os llwyddwch yn yr arholiadau, cewch Dystysgrif Aelodaeth, ynghyd â’r fraint o berthyn i sefydliad unigryw sy’n rhan mor annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Beth am roi cynnig arni, felly, a thrwy hynny ddod yn aelod o Orsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod trwy borth anrhydeddus yr arholiadau ?

Trefnydd Arholiadau’r Orsedd:
Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon)
Llys Cerdd
80 Cae Gwyn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1LL

 

 

GAIR IOLO AT YR YMGEISWYR
‘Y neb a chwenycho addysg a braint wrth Gerdd a Barddoniaeth ym mraint Beirdd Ynys Prydain, ymgeisied â barn a chof a llafar gan athro o Fardd Gorseddawg, ac yna cymryd o’r Bardd Gorseddawg yr awenydd ato i’w athrawiaethau.’
GAIR IOLO AR GYFRIFOLDEB AELODAU’R ORSEDD I HYFFORDDI’R YMGEISWYR
‘Bod yn bont i bawb yw’r ddyled sydd ar Fardd Gorseddawg, sef addysgu’r disgyblion gan eu dwyn dros gors anwybodaeth a bod yn llwybr a phont iddynt.’

Cysylltu > E-bost i’r Orsedd