Ymweliad Cymdeithasol i Sain Ffagan

Ymweliad Cymdeithasol yr Orsedd

Sain Ffagan, 17 Medi 2022

Pan lwyddodd Harold Carter i edrych i mewn i feddrod Tutankhamun am y tro cyntaf ar 26 Tachwedd 1922, gofynnodd ei noddwr, Arglwydd Caernarfon, iddo “Beth wyt ti’n ei weld?”. Ateb Carter oedd “Pethau rhyfeddol!”. A wir, dyna’n union a welodd y criw ohonom a ymwelodd ag Amgueddfa Sain Ffagan ym mis Medi eleni: “pethau rhyfeddol”.

Dishgled o de i gychwyn (wrth gwrs!), a chyfle i gwrdd ag aelodau’r Orsedd hen a newydd o bedwar ban y wlad. Wedyn cawsom gyflwyniad ardderchog gan Sioned Hughes, Pennaeth Adran Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg yr Amgueddfa, a’n hatgoffodd o weledigaeth Iorwerth Peate,sef “nid creu amgueddfa o drysorau’r gorffennol marw dan wydr ond amgueddfa a ddefnyddiai’r gorffennol i’w asio â’i oes ei hun i roddi sylfaen cadarn ac amgylchedd iach i ddyfodol ei bobl.” Gweledigaeth werthfawr os bu un erioed.

Wedyn cawsom wrando ar gyflwyniad a baratowyd gan Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes ac Archeoleg yr Amgueddfa, ond a draddodwyd gan Sioned arall (does dim prinder Sionedau yng Nghymru! ), sef Sioned Williams, Curadur Hanes Modern yn y Ganolfan Mynediad at Gasgliadau. Y testun oedd “Llyn Cerrig Bach”, sef safle hynafol a sanctaidd i’n cyndeidiau Celtaidd ar ynys Môn. Dros y blynyddoedd daethpwyd o hyd i dros 150 o wrthrychau o’r oes haearn yno, a oroesodd oherwydd y mawn yng ngwaelod y llyn. (Byddai Iorwerth Peate wedi gwerthfawrogi hynny siwr o fod!!) Beth oedd y gwrthrychau hyn? Yr enwocaf ohonynt, a’r mwyaf brawychus ar un ystyr, oedd cadwyn i ddal caethweision, cadwyn yn cydgysylltu pum cylch gwddwg ar gyfer pum caethwas. Nid oes modd bod yn sicr sut y daethon nhw i Fôn, ond mae’n bosib i hynny ddigwydd yng nghyd-destun y cyswllt rhwng ein cyndeidiau â’r Rhufeiniaid a’u masnach gaethweision hwythau. Yn gwmni i’r gadwyn yn y mawn roedd yna ddarnau o darian, o waywffyn, olwynion, offer marchogaeth, offer gwaith y gof (oedd yn syndod o debyg i’r offer sydd gan ambell un ohonom yn ein tai heddiw), darn o drwmped, cleddyfau, a phlac efydd eithriadol o hardd. Rhoddion i’r duwiau mae’n debyg oedd y rhain, eitemau gwerthfawr a daflwyd i’r llyn, ac fe gefais fy hun yn meddwl am y llynoedd yn ein chwedlau, ac yn fwyaf arbennig am hanes Bedwyr yn taflu Caledfwlch, cleddyf y brenin Arthur, yn ôl i’r llyn at y dduwies oedd yn byw yno.

Ond os braw oedd yr ymateb wrth weld y gadwyn gaethwasaidd, a syndod wrth weld y cleddyfau, yna rhyfeddu oedd ein hymateb wrth weld y plac efydd hardd, a thrisgell cain yn ganolbwynt iddo. Dyma gelfyddyd gain ddwy fil o flynyddoedd oed, a phrawf nad oedd yr oesoedd tywyll mor dywyll a dybiaswyd. Ac roedd mwy! Y tro hwn, casgliad o drysorau’n ymwneud yn benodol â’r Orsedd. Gwisg Archdderwydd a Baner yr Orsedd ac arni frodwaith i ryfeddu, o ddechrau’r ganrif ddiwethaf, a cherflun o ddraig a ddefnyddid i ddal y Corn Hirlas gynt, yn waith neb llai na Goscombe John. Yna, blwch yn llawn o hen luniau o eisteddfodau a fu, gan gynnwys Eisteddfod y Gadair Ddu, ac enwogion megis Hwfa Môn a T.Gwynn Jones. Wedyn dyna bedwar blwch yn cynnwys modelau o’r Orsedd: yr Archdderwydd a’i osgordd i gyd, bob un yn rhyw chwe modfedd o daldra, ac wedi’u lliwio’n hardd. Oes tegan mwy Cymreig wedi’i ddyfeisio erioed tybed? Dwi’n siŵr byddai’r hen Iolo Morganwg wedi bod wrth ei fodd ag e.

Felly, darlithoedd diddorol, creiriau gwerthfawr, gwrthrychau brawychus a “phethau rhyfeddol” – am ddiwrnod! Ond, ond, roedd gan y diwrnod a’r amgueddfa un gwrthrych arall i’n syfrdanu, a hynny’n annisgwyl wrth i ni adael yr Oriel. Cloc Larwm. Cloc larwm a’r bysedd wedi rhewi mewn amser. Cloc larwm a godwyd o ddinistr trychineb Aberfan. Ymhlith y gwrthrychau i’n rhyfeddu, dyna wrthrych i’n sobri. Ond onid dyna fwriad Iorwerth Cyfeiliog Peate? Creu amgueddfa sy’n cwmpasu’n holl hanes, hen a diweddar. Er mwyn gweld i ble ry’m ni’n mynd, mae’n rhaid i ni wybod o ble ry’m ni wedi dod.

Diolch Sain Ffagan, a diolch i Dyfrig ab Ifor, yr Arwyddfardd a fu, am drefnu diwrnod i’w gofio.

Delwyn Siôn (Alaw Dâr)

Lluniau: Jackie Taylor