Ymarweddiad


Ymarweddiad yng Ngorsedd y Beirdd
Gan y diweddar Gyn-Archdderwydd a’r Cofiadur Gwyndaf.

 

Er mwyn diogelu a dyrchafu safon a syberwyd cyfarfyddiadau, gorymdeithiau a seremonïau Gorsedd y Beirdd, byddai’n wiw i ni fel aelodau a swyddogion yn ddiwahân ein holi’n hunain ynglyn a’n FFYDDLONDEB, PRYDLONDEB, GRASLONRWYDD, URDDAS, a’n CYMREICTOD yn holl weithgareddau’r Orsedd.

1. Ffyddlondeb: Ni allwn werthfawrogi ein haelodaeth o Orsedd y Beirdd heb fod yn ffyddlon, hyd y mae hynny’n bosibl, yn ei holl gyfarfyddiadau; nid yw ffyddlondeb i’r Cylch am dro neu ddau wedi ein hurddo yn unig yn ddigon da. Bendithiwyd Gorsedd y Beirdd ar hyd y blynyddoedd ag aelodau a swyddogion y bu eu presenoldeb bron yn ddi-fwlch hyd nes i lesgedd a henaint eu lluddias.
At hyn dylem ymfalchïo yn ein teyrngarwch i’r delfrydau y saif Gorsedd y Beirdd ‘ drostynt, sef ffyddlondeb i Gymru, i’r iaith Gymraeg, i’r Orsedd ac i’r Eisteddfod.

2. Prydlondeb: Cyn y seremonïau ar ddyddiau’r Cyhoeddi, y Coroni a’r Cadeirio ac Agor y Cylch ar fore Mawrth yr Eisteddfod a’i gau ar fore lau, y mae o bwys mawr fod yr holl Orseddogion yn cyrraedd yr Ystafelloedd Gwisgo erbyn yr amserau penodedig fel y bo pawb yn barod ar gyfer yr orymdaith ar alwad yr Arwyddfardd a’r Disteiniaid.

 

3. Graslonrwydd: Pan gyferfydd tyrfa fawr yng Ngorsedd, ac yn arbennig yn yr ystafelloedd gwisgo, y mae’n hawdd i rywrai gael eu tramgwyddo oherwydd nad oes gwisg ar eu cyfer neu ryw amryfusedd arall. Y mae tiriondeb o bob tu yn werthfawr a gweddus iawn mewn amgylchiadau fel hyn. ‘Caffed amynedd ei pherffaith waith’. ‘Yn wyneb Haul, llygad Goleuni’ y cyfarfu’r Orsedd o’i chychwyniad, a gweddus i’r Haul a’r Goleuni hwnnw gael ei adlewyrchu yn holl ymarweddiad aelodau Gorsedd y Beirdd yn ei chyfarfyddiadau, ei gorymdeithiau a’i seremonïau.

4. Urddas: I berffeithio gorymdeithiau a seremonïau Gorsedd y Beirdd y mae galw , am lawer mwy o urddas nag sydd gennym:
(a) Urddas wrth gyd-gerdded. Mewn gorymdaith ni ddylai’r Gorseddogion adael eu cymheiriaid, troi yn ôl i ymgomio â’r rhai sydd o’r tu cefn iddynt na throi i sylwi ar bobl nad ydynt yn yr orymdaith o gwbl. Dylid ymatal rhag ceisio tynnu sylw neb atom ein hunain pan fyddwn yn gorymdeithio i Gylch yr Orsedd nac wrth fyned i mewn nac allan o Bafiliwn yr Eisteddfod.
(b) Urddas yng Nghylch yr Orsedd, ac ar y Llwyfan ar adegau’r Coroni a’r Cadeirio. Dylai pob symudiad fod yn urddasol a dylai ein diddordeb fod yn llwyr yn y gweithgareddau, gan gydnabod a derbyn arweiniad yr Archdderwydd ym mhob dim.

5. Cymreictod: Yng nghyfarfyddiadau, gweithgareddau, seremonïau a gorymdeithiau’r Orsedd, yr Iaith Gymraeg yn unig a siaredir gan aelodau a swyddogion Gorsedd a Beirdd Cymru, oddieithr bod angen egluro unrhyw fater i gynrychiolwyr Gorseddau Llydaw a Chernyw.