Taith i grombil mynydd Elidir…..
Mae Gwibdaith yr Orsedd wedi tyfu i fod yn dipyn o drip Ysgol Sul ac yn hawlio ei le yn yr amserlen Orseddol bob mis Medi ers rhai blynyddoedd bellach. Y tro yma, trefnwyd ymweliad â Gorsaf Bŵer Dinorwig yn Llanberis ac fe fanteisiodd dros ddeugain o Orseddogion ar y cyfle i ymweld â’r fangre ryfeddol hon ym mherfeddion Eryri.
Mae Llanberis yn un o’r ‘can lle i’w gweld cyn marw’ medd John Davies a Marian Delyth yn y llyfr o’r un enw. Tref fechan o oddeutu dwy fil o drigolion, ond tref â chanddi gymaint o atyniadau difyr – castell Dolbadarn a adeiladwyd yn 1225 gan Llywelyn ap Iorwerth, Amgueddfa Lechi Cymru , trên bach yr Wyddfa wrth gwrs, ac yn fwy diweddar, y rhyfeddod mwyaf eto, Gorsaf Bŵer Dinorwig a agorwyd yn 1984.
Mae’r orsaf yn pwmpio dŵr o Lyn Peris sydd gan metr uwchben lefel y môr i Lyn Marchlyn sydd 580 metr uwchben lefel y môr ; mae’r dŵr wedyn yn syrthio 480 metr i’r generaduron sydd yn yr ogof danddaearol fwyaf erioed a grewyd gan ddyn, cyn cael ei bwmpio nôl o Lyn Peris i Marchlyn dros nos pan fo’r galw am drydan yn isel. Syml! Ond nid felly y broses o gynllunio a chreu yr Orsaf.
Cawsom ddwy awr ddifyr iawn o sgyrsiau yn ein paratoi ar gyfer ein ymweliad â’r orsaf danddaearol.
Rhannodd yr Arwyddfardd Dyfrig gyfrinachau y ‘slide rule double sided’ gyda ni yn ei anerchiad ‘Atgofion hen Beiriannydd’. Ymhell cyn dyfodiad y cyfrifiadur, fe wnaethpwyd llawer iawn o waith arloesol yma yn Dinorwig. Clywsom am ail gyfeirio afon Nant Peris i Lyn Padarn; am sut y bu iddynt dyllu i’r prif geudwll gan greu gofod sydd cymaint â dau gae pel droed o hyd ac yn gyfystyr ag adeilad 16 llawr o uchder. Clywsom am y cymhlethdod o dwneli a grewyd i deithio drwyddynt, pum milltir o ffyrdd, a phum milltir pellach o dwneli dŵr. Os fu yna erioed ddiwrnod llawn ystadegau, wel dyma fo, a rydw i’n falch o allu dweud na fu prawf ar ddiwedd y dydd, neu mi fyddwn yn siwr o fod wedi methu.
Cawsom gyflwyniad arall diddorol gan Geraint Wyn Jones, Rheolwr Gweithrediadau First Hydro. Fe’n hebryngwyd gan Geraint ar ôl cinio, yn ein netiau gwallt gwyn a’n hetiau caled, mewn bws i grombil y mynydd, a chael rhyfeddu at y campwaith ymddangosiadol amhosib, a grewyd ar safle hen chwarel Dinorwig. Cawsom y cyfle amheuthun i ymweld â phrif ystafell weithredol yr Orsaf, rhywbeth nad ydy pawb yn cyfranogi ohono.
Ymweliad gwefreiddiol yn wir. Diolch i Dyfrig am drefnu.
Gwenda Griffith / Gwenda Pen Bont