Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd – Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw, 8 – 10 Medi 2017
Bu cyfuno Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd â Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw yn ystod y penwythnos, 8-10 Medi, 2017 yn syniad ardderchog ac yn llwyddiant ysgubol. Ddydd Gwener, 8 Medi fe’n tywyswyd ar daith hanes oleuedig o amgylch Lerpwl gan y Parchedig Athro D. Ben Rees a braf oedd dysgu am gyfraniad, llwyddiant a mentergarwch Cymry Lerpwl yn y ddinas ac ardal Penbedw yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny. Yn yr hwyr mwynhawyd pryd o fwyd blasus yng ngwesty’r Shankly, Lerpwl – gwesty sy’n deyrnged i’r chwaraewr a’r rheolwr pêl-droed enwog Bill Shankly. Yn wir, buom yn sefyll yn y gwesty dros y Sul a diolch i Deithiau Elfyn Thomas am drefnu llety i bawb.
Ddydd Sadwrn, 9 Medi, treuliwyd 12 awr ddiddorol, addysgiadol a chofiadwy yng Ngŵyl y Gadair Ddu, a oedd wedi’i threfnu gan Bwyllgor y Gadair Ddu dan gadeiryddiaeth y Parchedig Athro D. Ben Rees ac a oedd yn cael ei chynnal yn Wirral Hospitals’ School, nepell dafliad carreg o leoliad Eisteddfod Genedlaethol 1917 ym Mharc Penbedw. Yn ystod y dydd mwynhawyd llu o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol, yn cynnwys pedair darlith. Y Parchedig Athro D. Ben Rees a draddododd y ddarlith gyntaf ar ‘Gymry Penbedw ac Eisteddfod y Gadair Ddu’. Roedd hi’n agoriad llygad i ddysgu taw Cymry Lerpwl a’u cwmnïau adeiladu oedd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu sawl stryd ym Mhenbedw ac am godi nifer o’r capeli a’r twnel sy’n cysylltu Lerpwl a Phenbedw. Dysgwyd, yn ogystal, fod David Evans, adeiladwr arall o Gymro wedi llwyddo i adeiladu pentref cyfan, sef Cloughton. Ef hefyd oedd y prif gatalydd y tu ôl i Eisteddfod 1917, ef oedd wedi rhoi’r Gadair Ddu, a oedd yn werth 100 gini ar y pryd, sef £80,000 heddiw ac ef oedd wedi sbarduno codi’r gofeb i’r Eisteddfod ym Mharc Penbedw.
Yr Athro Robert Lee a draddododd yr ail ddarlith ar ‘Y Cysylltiad Belgaidd’ a bu’n sôn am gefndir Eugeen Vanfleteren, ffoadur o ddinas Mechelen, Gwlad Belg a oedd yn gerflunydd dodrefn medrus ac a oedd wedi creu’r Gadair Ddu er mwyn talu gwrogaeth i Gymry Lerpwl am eu croeso iddo. Traethu ar farddoniaeth a chefndir Hedd Wyn y bu’r Athro Peredur Lynch yn ystod y drydedd ddarlith a chafodd wrandawiad astud y gynulleidfa wrth gyfeirio at Hedd Wyn fel “un o blant y Gymru Gymraeg Ymneilltuol” ac yn “Fab Heddwch”. Prif neges ei anerchiad oedd dadlennu’r gwahaniaeth rhwng yr Hedd Wyn real a’r Hedd Wyn yr ydym ni’n cofio amdano a Hedd Wyn y bardd filwr a’r bugail o fardd.
Dr Huw Edwards, cyflwynydd y newyddion ar y BBC a draddododd, yn ei ffordd ddihafal ei hun, ddarlith olaf y dydd ar David Lloyd George, a chyflwynodd ddarlun cytbwys o’r Cymro, a oedd yn Brif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Brynhawn Sadwrn cynhaliwyd y Seremoni Gadeirio yng ngofal yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen a braf oedd gweld bod teilyngdod a Martin Huws o Gaerdydd yn codi ar ei draed i ennill y gadair hardd, a oedd yn rhoddedig gan Gymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys, am ei gerdd ar y testun ‘Hedd Wyn’. Roedd ôl meddwl dwys ar y gadair, a oedd yn gweddu i ganmlwyddiant Eisteddfod Cadair Ddu 1917, gan fod cefn a sedd y gadair wedi’u gwneud o estyll ac ambell dwll crwn ynddynt â’r pren o’u hamgylch wedi’i dduo. Mewn modd effeithiol roedd yr estyll yn cynrychioli’r ffosydd a’r tyllau crwn yn cynrychioli tyllau bwledi.
Coronwyd dau berson ifanc dan 19 mlwydd oed hefyd yn ystod y prynhawn gyda’r ddefod eto yng ngofal yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen. Enillwyd y goron am gerdd Saesneg ar y testun ‘Hero’ gan Brodie Powell o Benbedw ac enillwyd y goron am gerdd Gymraeg ar y testun ‘Yr Arwr’ gan Nest Jenkins o Ledrod, Ceredigion.
Yn ystod y dydd hefyd dadorchuddiwyd cofeb ym Mharc Penbedw i Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a Phenbedw a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu’r seremoni yn un deimladwy ac urddasol ac fe’i llywiwyd gan Dr Huw Edwards ym mhresenoldeb cynrychiolwyr o Gyngor Cilgwri, Cyngor Lerpwl, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor y Gadair Ddu, Llywodraeth Gwlad Belg, Cymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys a’r Lluoedd Arfog.
Yn yr hwyr, cawson ein difyrru gan Gôr Ieuenctid Ynys Môn dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard, Côr Rygbi Gogledd Cymru dan arweiniad Geraint Roberts o Brestatyn, y tenor ifanc Huw Ynyr o Rydymain a’r telynor dawnus Dylan Cernyw.
Fore Sul cynhaliwyd oedfa fendithiol yng Nghapel Seion, Laird Street, Penbedw lle y cynhaliwyd y rhagbrofion yn ystod Eisteddfod 1917 ac yn y prynhawn cynhaliwyd cymanfa ganu yn yr un lleoliad, gyda’r capel dan ei sang, dan arweiniad Dr Alwyn Humphreys, a oedd wedi bod yn organydd yno pan yn ifanc. Cafwyd datganiadau cerddorol hefyd gan Gôr Meibion Orffiws Rhosllannerchrugog dan arweiniad Eifion Wyn Jones. Bu’r cydganu gorfoleddus yn y gymanfa yn glo bendigedig i’r penwythnos o weithgareddau a diolch i’r Parchedig Athro D. Ben Rees, Pwyllgor y Gadair Ddu a Phwyllgor Etifeddiaeth Glannau Mersi am gynnal y digwyddiad clodwiw ac am ein croesawu i’w plith.
Carol Thomas / Carol o’r Mwdwl