Troedio strydoedd Cwmderi . . .
Wrth eistedd o flaen ein setiau teledu yn nosweithiol i wylio Pobol y Cwm, go brin fod gan y rhan fwyaf ohonom y syniad lleiaf faint o unigolion sydd wedi bod wrthi’n llafurio am fisoedd lawer i sicrhau bod y bennod ddiweddaraf yn cyrraedd y sgrin yn ei ffurf orffenedig mor ymddangosiadol ddiymdrech. Codi cwr y llen ar holl gymhlethdod y broses hon oedd cymwynas Lisabeth Miles ac Ynyr Williams wrth ein croesawu i Gwmderi ddydd Sadwrn, 3 Hydref 2015. A dyna beth oedd agoriad llygad i’r 34 ohonom (yn aelodau o’r Orsedd a gwesteion) a drodd ein golygon tua Bae Caerdydd ar gyfer chweched cyfarfod cymdeithasol blynyddol yr Orsedd trwy drefniadaeth drylwyr Yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor.
Fe’n croesawyd i Ystafell Seligman yng Nghanolfan y Mileniwm gan Yr Archdderwydd Christine a drosglwyddodd yr awenau i un o hoelion wyth y gyfres, sef Lisabeth Miles, sydd wedi chwarae rhan Megan er y cychwyn; o fod ymhlith aelodau ieuengaf y cast ar y cychwyn, y mae hi bellach ymhlith y rhai hynaf yng Nghwmderi. Aeth yn ei blaen i olrhain y prif gerrig milltir yn hanes y gyfres – o’r geiriau cyntaf a lefarwyd gan y diweddar Charles Williams (Harri Parri) yn stiwdios Broadway, ‘Bore da, Magi Mathias’, yn y bennod gyntaf a ddarlledwyd ar 16 Hydref 1974, hyd heddiw, pan fo’r gyfres yn rhannu holl dechnolegau modern cyfresi teledu fel Casualty a Dr Who yn stiwdios Porth y Rhath ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd. Rhannodd Lisabeth Miles o’i phrofiad cyfoethog fel actores brofiadol, gan dynnu ar atgofion deugain mlynedd yn y gyfres (a grëwyd gan y diweddar John Hefin a Gwenlyn Parry).
Persbectif y cynhyrchydd (tan yn gynharach eleni) a gafwyd gan Ynyr Williams, a rannodd gyda ni holl gymhlethdodau rhesymegol rhoi cyfres nosweithiol at ei gilydd, gyda 260 o benodau yn cael eu darlledu dros 52 wythnos. Gyda chynifer â 28 o sgriptwyr yn ysgrifennu ar gyfer y gyfres, mae’r broses ysgrifennu – o’r trafodaethau cychwynnol hyd at baratoi fersiynau terfynol y sgriptiau ar gyfer ffilmio – yn cymryd oddeutu naw mis. Ac yna mae angen amserlennu’r holl waith ffilmio: tua 16-18 golygfa bob dydd, gan gymryd i ystyriaeth pa actorion sydd ar gael, pa stiwdios sy’n rhydd, pa leoliadau allanol sydd eu hangen, a beth yw gofynion gwisgoedd, colur a chelfi. Cur pen go iawn – yn enwedig o ystyried bod oddeutu 80 o bobol yn gweithio ar y gyfres bob dydd, gyda’r ffilmio yn cychwyn am 9.00 y bore ac yn gallu parhau tan 7.00 yr hwyr !
Ar derfyn orig ddadlennol iawn yng nghwmni Lisabeth ac Ynyr – a oedd yn gyfuniad gwerthfawr o safbwyntiau actores a chynhyrchydd – fe gawsom barhau i drafod yn anffurfiol wrth gymdeithasu dros ginio ym Mwyty Ffresh y Ganolfan, cyn ymlwybro ar draws y Bae i ymweld â’r lleoliadau ffilmio yn stiwdios Porth y Rhath. Profiad rhyfedd iawn oedd troedio ystafelloedd ‘cyfarwydd’ cartrefi cymeriadau megis Mark Jones, Meic Pierce a Garry Monk a loetran yn hamddenol wrth far y Deri, cyn mentro allan i’r awyr agored a chrwydro palmentydd Heol Llanarthur ar y ‘lot’. Roedd y cyfan yn ymddangos yn llawer llai nag y mae ar y sgrin ! Cyn ymadael, cawsom ein tywys drwy’r swyddfeydd a’r ystafelloedd coluro a gwisgo – yr adrannau hollbwysig hynny sydd ‘tu ôl i’r llenni’ ac o olwg y gynulleidfa gartref, ond sydd mor allweddol ar gyfer sicrhau rhediad esmwyth y gyfres.
Wrth adael ‘Cwmderi’ ar ddiwedd diwrnod hynod addysgiadol, roedd pawb ohonom yn teimlo i ni gael agoriad llygad gwirioneddol i holl beirianwaith rhoi cyfres deledu at ei gilydd mewn modd ymarferol a diddorol. A’r tro nesaf y byddwn yn gwylio un o benodau Pobol y Cwm, rwy’n siwr y byddwn yn llawer mwy gwerthfawrogol o’r cyfan sy’n digwydd yn y dirgel er mwyn gwneud i’r hyn sy’n ymddangos ar ein sgrin fod mor broffesiynol a diymdrech.
Diolch o galon i Lisabeth Miles ac Ynyr Williams am ein tywys drwy ‘strydoedd cefn’ Cwmderi ac i Dyfrig (a Bethan) am drefnu’r achlysur ar ein cyfer.
Gwyn o Arfon
Hydref 2015