YMWELIAD AELODAU’R ORSEDD
 GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU
Er i ddydd Sadwrn, Medi 21 wawrio’n ddiwrnod digon mwll, buan iawn (ar ôl paned a chacen!) y cododd ein calonnau ni’r ymwelwyr â’r ardd ryfeddol hon yng nghanol harddwch Sir Gâr.
Ac i mewn â ni i’r theatr i wrando ar ddau hyddysg a huawdl yn eu priod feysydd. Yn gyntaf, Rhodri Clwyd Griffiths, un o sylfaenwyr cynharaf yr Ardd Fotaneg, a’n goleuodd ynghylch ei thwf a’i datblygiad o’r hedyn a blannwyd ganol y 1990au nes gwireddu’r weledigaeth fawr ymhen pum mlynedd.
Sonia Crwys, yn ei gerdd ‘Y Border Bach’, mai drwy blannu ‘Gwreiddyn bach gan hwn-a-hon / Yn awr ac yn y man . . .’ y llwyddodd ei fam i greu ‘Yr Eden fach’. Crewyd yr Ardd Fotaneg gan wyddonwyr a chynllunwyr a chanddynt freuddwyd ddrudfawr. A chodi arian oedd y nod cyntaf, a hynny mewn dulliau amryfal: gan unigolion; drwy gyfraniad hael y Loteri Genedlaethol; drwy benderfyniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i brynu caeau ac adeiladau’r ffermydd cyfagos; ynghyd â rhoddion sylweddol gan ambell filiwnydd!
Erbyn hyn, gallwn ymfalchïo yn y ffaith bod yr Ardd Fotaneg bellach yn sefydliad cenedlaethol bydenwog, blaengar ym meysydd botaneg a garddwriaeth, cadwraeth a chynaladwyaeth.
Planhigion meddygyniaethol oedd pwnc Bethan Wyn Jones, ac yn ei dull gwybodus a bywiog arferol, cawsom wledd o wybodaeth am y planhigion hyn sy’n ffynnu mewn cloddiau ac mewn gerddi. Bysedd y Cŵn, Mantell Mair, Chwerwlys yr Eithin a’r Hen Ŵr; dyma enwau tlws rhai yn unig o’r stôr planhigion y credwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, ac y credir hyd heddiw, ofergoel neu beidio, bod ganddynt y gallu i leddfu neu i wella llu o anhwylderau – o’r ddannodd i waedlif, o effeithiau ‘storgatsho’ (gorfwyta!) i reoli curiad y galon, heb sôn am ddifa chwain a llyngyr! Ac ar y nodyn iachus hwnnw, fe’n tywyswyd – a’r haul, erbyn hyn, o’n plaid – i grwydro ymhlith y planhigion niferus hyn mewn gardd fach bwrpasol ar eu cyfer ac i ymweld â siop apothecari hen ffasiwn.
Daeth ein tro ninnau i ‘storgatsho’ dros bryd o fwyd sylweddol, hynod flasus cyn ymweld â’r tŷ gwydr enfawr sy’n gartref i blanhigion o bedwar ban byd. A chael cyfle i ddysgu, nid yn unig am y planhigion hyn a’r modd yr eir ati i’w meithrin a’u gwarchod, ond hefyd am yr awyrgylch angenrheidiol ar gyfer eu cynnal. Ac ar ben hyn oll, fe’n tywyswyd ar hyd twneli dirgel, tanddaearol yr adeilad – nad yw’r cyhoedd, fel arfer, yn cael ymweld â hwy. Ond waeth cyfaddef ei bod yn braf camu allan unwaith eto at yr haul!
Diolch i’r Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor, am drefnu gwibdaith hapus a llwyddiannus arall ar ein cyfer – un o gyfres, erbyn hyn – sy’n fodd i gyfuno dysgu am bynciau newydd â mwynhau cymdeithasu ag ‘eneidiau hoff cytûn’.
Dyfrig, edrychwn ymlaen at y wibdaith nesa!
Manon Rhys