Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd, 21 Medi 2024

Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd, 21 Medi 2024

Gorseddogion yn yr amgueddfa

A hithau’n benwythnos Cyhydnos yr Hydref, a’r Sadwrn yn Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol, daeth tua 70 o aelodau’r Orsedd ynghyd yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin, man cychwyn uno’r Orsedd â’r Eisteddfod.

Yn arwain digwyddiad cyntaf y bore roedd Geraint Roberts, cyn-bennaeth Ysgol Gyfun Ddwyieithog y Strade, a sylfaenydd Ysgol Farddol Caerfyrddin. Amlinellodd yr hanes i ni’n huawdl, yn wybodus ac yn ddifyr. Yn ganolog i’r hanes, wrth gwrs, roedd Iolo Morganwg. Breuddwyd a gweledigaeth y gweithredodd Iolo arni yw’r Orsedd a sefydlwyd gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain yn 1792, fel Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd hynny saith mlynedd ar hugain cyn y digwyddiad tyngedfennol yng ngardd Gwesty’r Llwyn Iorwg pan gynhaliwyd Gorsedd y Beirdd a’i chysylltu â’r Eisteddfod am y tro cyntaf yn 1819. Roedd yr uniad hwn yn yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Gymru fodern. Roedd Iolo wedi cydweithredu â Thomas Burgess, Esgob Tyddewi ar y pryd, a oedd yn awyddus i ddangos bod yr Eglwys yn gallu gwneud pethau Cymraeg, ar adeg pan oedd twf Anghydffurfiaeth a’r capeli Cymraeg yn ei anterth.

Geraint Roberts

Ganed Edward Williams – Iolo Morganwg – yng nghyffiniau Trefflemin ym Mro Morgannwg ym 1747, a bu farw yn 1826. Fe’i dysgwyd i ddarllen gan ei fam, a daeth yn llenor dawnus, dysgedig a chreadigol iawn. Dysgodd grefft y saer maen gan ei dad. Teithiai Gymru a Lloegr wrth ei waith a chasglai lawysgrifau a llyfrau ar ei grwydriadau. Dywedir ei fod yn dioddef o’r fogfa neu asthma ac y cymerai’r cyffur lodnwm i leddfu ei effeithiau. Ym marn Gwynfor Evans: ‘Ni welodd Cymru athrylith mwy nag ef nac un rhyfeddach’. Yr Orsedd yn ddiau oedd ei greadigaeth fwyaf rhyfeddol!

A ninnau’n cael ein cyfareddu gan Geraint â phob math o fanylion bach difyr am fywyd Iolo, bu bron i sawl un ohonom neidio allan o’n crwyn gan lais ‘Iolo’ yn cyhoeddi ei fod yn dal ar grwydr yn y Llwyn Iorwg! Rhoddodd Mansel Thomas berfformiad lliwgar a meistrolgar o Iolo, yn adrodd dipyn ar ei hanes ‘mewn cymeriad’.

Iolo (Mansel Thomas) yn ei Gylch

Roeddem eisoes wedi cael ein difyrru wrth i Geraint wahodd yr Archdderwydd presennol i ‘wirfoddoli’ i osod ‘snoden’ (rhuban) werdd ar arddwrn Blodwen – neu Alawes y Llan o roi iddi ei henw yng Ngorsedd – i ddangos i ni sut y byddid wedi urddo pobl yn yr Orsedd yn ei chyfnod cynharaf. Urddwyd Gwallter Mechain â snoden las yn 1819 am ennill cadair yr Eisteddfod a Iolo yn feirniad. Fe’n siarsiwyd i gofio mynd i edrych ar y gadair hon yn Amgueddfa Abergwili yn y prynhawn, a’r geiriau ‘calon wrth galon’ wedi eu naddu arni. Urddwyd yr Esgob Thomas Burgess hefyd â snoden wen.

Clymu snoden

Gofynnwyd i ni a oeddem wedi sylwi ar y plac glas ar y ffordd i mewn i’r gwesty a osodwyd adeg dathliadau 2019. Arno gwelir Arwyddlun yr Orsedd, ‘yn wyneb haul a llygad goleuni’, fel y’i crewyd gan Iolo. Yn ystod ein toriad am ginio roeddem hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y cylch bach o gerrig yr Orsedd a osodwyd yng ngardd y gwesty yn 2019, yn ogystal â’r ffenest wydr odidog a osodwyd yn 1974 i goffáu sefydlu’r Orsedd, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Nghaerfyrddin unwaith eto.

Iolo a’r plac glas

Bydd yn 200 mlynedd ers marw Iolo Morganwg yn 2026, ac mae ymgyrch i godi arian i gael cofeb genedlaethol iddo. Crynhodd Geraint ddisgrifiad o Iolo fel bardd yn y mesurau caeth a rhydd a ysgrifennai yn y Gymraeg ond hefyd yn y Saesneg, casglwr llyfrau ac ysgrifau, Undodwr, emynydd, heddychwr a wrthwynebai gaethwasiaeth ac un a oedd o blaid masnach deg. Roedd yn ddyn o flaen ei amser! Mae’n addas iawn mai’r gair a gyd-floeddiwn deirgwaith yn seremonïau’r Orsedd heddiw yw ‘Heddwch’! Mae’n werth nodi hefyd mai Iolo oedd Archdderwydd cyntaf yr Orsedd. Diweddodd Geraint ei gyflwyniad drwy gyfeirio at Iolo fel ‘Y saer maen a ddaeth yn saer cenedl’.

Wedi cyfle i gymdeithasu dros ginio blasus yn y gwesty, draw â ni yn ein ceir i Amgueddfa Caerfyrddin. Roedd Peter Hughes Griffiths wedi bod yn paratoi’n ddyfal i ddweud hanes y lle wrthym, a thristwch mawr oedd deall nad oedd ei iechyd yn caniatáu iddo fod gyda ni y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag camodd Beti-Wyn yr Arwyddfardd i’r adwy, a thraddodi’r hyn roedd Peter wedi ei baratoi. Mae ei huotledd hi yn ddiarhebol, ac fe’n cyfareddwyd gan yr hyn a glywsom.

William Salesbury (Hefin Jones)

Roeddem wedi ymgynnull yng nghapel urddasol Plas yr Esgob fel yr arferai fod, ond sydd bellach yn amgueddfa sirol deilwng iawn. Yma y bu Iolo Morganwg mewn cyfarfod â’r Esgob Thomas Burgess yn cynllunio Eisteddfod 1819. Mae’r adeilad ei hun yn lle i ryfeddu ato a chawsom ein tywys yn ddeheuig yn ôl drwy hanes rhyw bedwar can mlynedd a hanner, a chlywed mai yn yr union fan honno y bu William Salesbury ynghyd â’r Esgob Richard Davies wrthi’n cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg. Brithwyd cyflwyniad Beti-Wyn drwyddo â chyffyrddiadau o hiwmor, a’r gynulleidfa yn mwynhau’r ysgafnder yn ogystal â’r wedd hanesyddol ac addysgiadol. Er enghraifft cyfeiriodd at y dewin Myrddin yn proffwydo beth a ddigwyddai pe cwympai hen dderwen y dref: ‘Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif’ – a dyna pam y mae hi, Beti-Wyn yn byw yn Abergwili!

Fe’n difyrrwyd yn ogystal gan gymeriadau o’r gorffennol fel petaent yn ymddangos o’r hen furiau. ‘Hawddamor Orseddogion’ meddai llais o’r tu cefn i ni. Pwy oedd yno ond yr Esgob Richard Davies ei hun yn ei wisg esgobol o’r unfed ganrif ar bymtheg, wedi dod i adrodd rywfaint ar yr hanes yn uniongyrchol i ni. Ac yna wrth i’r Esgob ddiflannu fe’n cyfarchwyd eto gan lais uchel: ‘Henffych Orseddogion!’ Pwy a gerddodd i mewn  y tro hwn ond yr ysgolhaig o uchelwr, William Salesbury, fel petai wedi ymrithio o’r oes o’r blaen. Adroddodd yntau beth o’i gefndir a’i hanes i ni. Mae ei gyfraniad ef wrth gwrs yn amhrisiadwy yn y gwaith o fraenaru’r tir ar gyfer cyfieithu’r Beibl cyfan, a chreu’r iaith safonol a ddefnyddiwn i bob pwrpas drwy Gymru gyfan heddiw. Diolch i Hefin Jones a Mansel Charles am gyflwyno’r ddau gymeriad hanesyddol hyn mor ddifyr i ni.

Cawsom amser wedyn i grwydro a gweld arlwy gyfoethog o drysorau, fel copi o’r argraffiad cyntaf o Destament Newydd William Salesbury a Richard Davies (1567), ac argraffiad cyntaf o Feibl Peter Williams (1770). Clywsom fod deunaw mil o Feiblau Peter Williams wedi’u cyhoeddi yn ystod oes Iolo, ac roedd cael y gwaith argraffu yn digwydd yng Nghymru – yng Nghaerfyrddin – yn gam arall ymlaen yn natblygiad Cymru fel gwlad. Yn ogystal gwelsom y gadair a enillodd Gwallter Mechain yn Eisteddfod 1819, ynghyd â pheintiadau o Gruffydd Jones, Llanddowror, a Madam Bevan – dau a fu â rhan sylweddol yn y gwaith o wneud o beri mai’r Cymry oedd y genedl fwyaf llythrennog yn Ewrop yn y cyfnod hwnnw.

Testament Newydd 1567

I orffen y prynhawn mwynhaodd llawer ohonom baned gyda dewis o ddanteithion yn y caffi ar y safle, a chael cyfle wedyn i grwydro’r gerddi hyfryd. Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Tywi yn gwarchod y tiroedd hyn ac yn y broses o ddatblygu llwybr beicio bob cam i Landeilo.

Diolch yn fawr iawn i Beti-Wyn, Geraint Roberts a Peter Hughes Griffiths, ynghyd â’r rhai a’u cynorthwyodd, am drefnu diwrnod gwych i ni.

Felicity Roberts