Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Caerdydd

 

Heddiw (3 Mai), cyhoeddir enwau’r rheiny a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni, fore Gwener 10 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo gan yr Orsedd eleni mae’r chwaraewr rygbi, Jamie Huw Roberts, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, y darlledwyr John Hardy a Vaughan Roderick a’r Barnwr Eleri Rees.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

 

GWISG WERDD

Marie-Thérèse Castay

Marie-Thérèse Castay, Larressingle, Ffrainc sydd wedi cyfieithu’r mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg gyfoes i iaith ac eithrio’r Saesneg, a’i llafur cariad dros flynyddoedd lawer fu sicrhau bod gweithiau Cymraeg yn cael eu trosi i’r Ffrangeg a’u cyhoeddi dramor. Bu’n lladmerydd pwysig ac angerddol dros Gymru a’n diwylliant dramor, a thrwyddi hi mae llenorion Cymru wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd ymhell y tu hwnt i Gymru.

Terry Dyddgen-Jones

Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae Terry Dyddgen-Jones, Caerdydd yn fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama blaenaf teledu rhwydwaith, ac wedi cynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Mae wedi cyfarwyddo dros 200 o benodau o’r opera sebon Coronation Street, ac mae hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm.

Manon Eames

Mae Manon Eames, Abertawe, a ddaw’n wreiddiol o Fangor, yn adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio’n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu’r ffilm Eldra, a enillodd nifer o wobrau yng Nghymru a thramor, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae’n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi’i nofel gyntaf, Porth y Byddar.

Dylan Foster Evans

Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw Dylan Foster Evans, Caerdydd, ac mae ei gyfraniad at yr iaith ym myd addysg yn helaeth, yn lleol a chenedlaethol. Yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, chwaraeodd rôl flaenllaw yn nifer o ddatblygiadau’r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg. Mae’n arbenigwr ar hanes yr iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant yng Nghaerdydd, ac fe gydnabyddir ei rôl amlwg wrth ffurfio hunaniaeth gymysg ac amlhiliol y brifddinas.

Gwyn Griffiths

Anrhydeddir Gwyn Griffiths, Pontypridd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad unigryw fel hanesydd, newyddiadurwr ac fel un o‘r dolenni pwysicaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llydaw. Mae hefyd yn adnabyddus fel awdur, golygydd, cyd-olygydd neu gyfieithydd o leiaf 25 o gyfrolau. Un o’i nodweddion amlwg yw ei barodrwydd i gynorthwyo myrdd o unigolion a mudiadau, a hynny’n gwbl wirfoddol ar hyd y blynyddoedd.  Bu farw Gwyn Griffiths ddiwedd Ebrill eleni.

Ifan Gruffydd

Fel un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae Ifan Gruffydd, Tregaron yn adnabyddus drwy Gymru gyfan am ei waith ar gyfresi fel Ma’ Ifan ‘Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â’i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol, gyda un arall ar y gweill.  Yn ogystal â’i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.

Eiddwen Jones

Ym myd addysg mae cefndir Eiddwen Jones, Abergele, gyda’i chyfraniad yn helaeth ac yn eang dros y blynyddoedd. Mae ganddi ddiddordeb ac arbenigedd ym maes dysgu Cymraeg, a chyflwynodd y Gymraeg fel ail iaith ar batrwm Cynllun Canada, cyn mynd ati i hyfforddi athrawon yn y maes. Bu galw mawr ar ei harbenigedd yn rhyngwladol, ac fe gyflwynodd bapurau ar dechnegau dysgu ail iaith mewn amryw o gynadleddau. Mae hefyd yn awdur pum nofel hanesyddol wedi’u gosod yn Sir y Fflint a Threfaldwyn.

Michael Lloyd Jones

Mae Michael Lloyd Jones, Pwllheli yn llawer mwy adnabyddus fel Mici Plwm neu Plwmsan – sef un hanner y ddeuawd gomedi eiconig, Syr Wynff a Plwmsan, sêr rhaglen gomedi unigryw i blant, sy’n parhau’n glasur Cymraeg hyd heddiw. Ef oedd un o’r troellwyr disgiau proffesiynol cynharaf yng Nghymru gyda Disgo Teithiol Mici Plwm, ac mae hefyd wedi gweithio fel cyflwynydd ac fel actor ar lwyfan, radio, teledu a ffilm dros y blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio yng Nghanolfan Heneiddio’n Dda Gwynedd a Môn.

Cynfael Lake

Mae Cynfael Lake, Aberaeron yn un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i’r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn arbenigwr ar faes llenyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac ym myd y faled a’r anterliwt. Bu’n gweithredu’n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.

Don Llewellyn

Bu Don Llewellyn, Pentyrch, Caerdydd yn gweithio i gwmni HTV am flynyddoedd, gan ennill mwy nag un BAFTA am ei waith. Ond, fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’w gymuned. Mae’n lladmerydd pwysig dros y Gymraeg yn lleol, ac yn arbenigwr ar dafodiaith Y Wenhwyseg ac ar hanes ei ardal. Fe’i gwahoddir yn gyson i siarad gyda chymdeithasau lu am ei wybodaeth drylwyr.  Bu hefyd yn gapten a llywydd y clwb rygbi lleol ym Mhentyrch, ac yn arwain yr ymgyrch i godi neuadd bentref, sydd bellach yn adnodd gwerthfawr yn lleol. 

Dafydd Parri

Yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn, mae Dafydd Parri, Caerdydd yn derbyn yr anrhydedd am ei waith fel cynhyrchydd teledu ynghyd â’i waith gwirfoddol ym maes cerddoriaeth a bandiau pres am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn gwirfoddoli’n gyson gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod eleni. Mae’n rhan o dîm sydd wedi sefydlu band pres newydd yn y brifddinas – Band Pres Taf – sy’n gobeithio cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni.

Ifan Alun Puw

Bu Alun Puw, Llanuwchllyn yn weithgar yn ei fro am gyfnod maith, gan roi blynyddoedd o wasanaeth diflino i’r Urdd, yn arwain adrannau ac yn hyfforddi plant mewn sawl maes. Ers ei ymddeoliad, bu hefyd yn un o gefnogwyr mwyaf brwd Mudiad y Ffermwyr Ifanc, gan gymryd pob cyfle i gynnig cymorth ar lawr gwlad. Bu’n Brif Stiward pan ddaeth y Brifwyl i Feirion yn 2009, a rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol fel un o gydlynwyr y Babell Lên, gan ymddeol yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd.

Ned Thomas

Mae cyfraniad Ned Thomas, Aberystwyth i fywyd cenedlaethol a rhyngwladol Cymru yn unigryw, hirhoedlog a sylweddol. Fe’i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a’r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu’n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig. Bu’n gweithredu am flynyddoedd ar fyrddau cenedlaethol Cymreig, bob amser yn barod i wthio’r ffiniau a rhannu’i arbenigedd.

Dennis Williams

Ers blynyddoedd, cysylltir enw Dennis Williams, Llanfairpwll gyda’r byd bandiau pres, a hawdd yw deall pam wrth ystyried ei gyfraniad anferthol i’r maes drwy gydol ei yrfa. Bu’n arwain Band Pres Porthaethwy am flynyddoedd, a bu’n arweinydd Seindorf Arian Deiniolen am gyfnod. Ond mae Dennis hefyd yn rhan bwysig o’i gymuned, a’i gyfraniad fel cyn-Gadeirydd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll a Chadeirydd y Cyngor Bro lleol ymysg pethau eraill yn dangos ei ymroddiad i’w ardal.

 

GWISG LAS

John Davies

Mae John Davies, Crymych wedi rhoi oes o wasanaeth i bob math o sefydliadau cenedlaethol yn ogystal â’r rheini yn ei filltir sgwâr. Yn ffermwr wrth ei alwedigaeth, mae’n gyn-Arweinydd Cyngor Sir Benfro, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Sioe Frenhinol Cymru ac yn aelod o Awdurdod S4C. Bu’n gefn mawr i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, gan hyfforddi ac ysbrydoli’r aelodau mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, ac yn dysgu aelodau lleol. Dyma ddyn sydd wedi cyfrannu cymaint mewn cynifer o feysydd amrywiol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny.

Elaine Edwards

Eleni, bydd Elaine Edwards, Caerfyrddin yn ymddeol o’i gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC ar ôl deng mlynedd o waith blaengar ac arloesol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel athrawes, cafodd flas ar waith undebol fel ysgrifennydd sir i UCAC, cyn ei hethol yn Llywydd Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae’n trafod materion addysg a chyflogaeth ar y lefelau uchaf gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llu o gyrff eraill. Mae lles athrawon, o ran iechyd corfforol a meddyliol, wedi bod yn agos iawn at ei chalon, ac wedi cael blaenoriaeth ganddi yn ystod y blynyddoedd y bu’n arwain yr Undeb.

Haydn Edwards

Cyn ymddeol, bu Haydn Edwards, Llangefni yn Bennaeth Coleg Menai am flynyddoedd. Mae hefyd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i nifer o sefydliadau yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, a’i weledigaeth a’i arweiniad ef fu’n gyfrifol am sicrhau Cronfa Leol mor llewyrchus.  Mae’n ddyn o ddiddordebau amlochrog, o hanes rheilffyrdd i rygbi, ac yn ŵr bonheddig a chydwybodol dros ben.

Huw Edwards (i’w urddo yn 2019)

Yn wreiddiol o Langennech, mae Huw Edwards, Llundain yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae’n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy’n ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru’r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae’n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i’r BBC ac yn rheolaidd yn llywio’r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.

Gwyn Ellis Griffiths

Gwyn Ellis Griffiths, Bangor oedd y parafeddyg gweithredol cyntaf yng Ngwynedd, a chyda Heddlu Gogledd Cymru bu’n gyfrifol am ddatblygu’r gwasanaeth parafeddygon i wasanaeth yr Ambiwlans Awyr. Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i’r gwasanaeth ambiwlans, ac mae’n parhau i gefnogi a mentora parafeddygon sy’n awyddus i symud ymlaen i lefel uwch. Bu’n aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis am flynyddoedd lawer, ac mae’n weithgar iawn gydag amryw o elusennau gan gynnwys ymchwil canser, Tîm Irfon a Hawl i Fyw.

John Hardy

Yn wreiddiol o Fangor, mae John Hardy, Caerdydd yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru. Bu’n darlledu am bron i ddeugain mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n gwmni i fore-godwyr y genedl ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Mae’n adnabyddus iawn am ei waith yn y byd chwaraeon, gan sylwebu ar dros ddau gant o gemau rhyngwladol ar Radio Cymru, ond mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o feysydd eraill gan gynnwys pob math o adloniant. Mae ei gyfraniad i fyd darlledu yng Nghymru yn sylweddol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny eleni.

Paul Hopkins

Mae Paul Hopkins, Llanilltud Fawr ar frig ei alwedigaeth fel bargyfreithiwr. Fel Arweinydd Cylchdaith Cymru, sy’n swydd etholedig a di-dâl, mae ei gyfrifoldebau a’i gyfraniad i fyd y gyfraith yng Nghymru yn enfawr. Mae’n cynrychioli’r proffesiwn mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Prif Ustus, yr Arglwydd Ganghellor, Cwnsleriaid Cyffredinol Cymru a Lloegr a Gwasanaeth yr Erlyniaeth Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli bargyfreithwyr Cymru ar Gyngor y Bar.

Margarette Hughes

Mae Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf wedi gwneud cyfraniad diflino at hybu iaith a diwylliant Cymru yn ei hardal a thu hwnt ers dros ddeugain mlynedd. Bu’n gweithio’n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i’r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda’r nos, ac mae’n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yn yr ardal hyd heddiw. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o’i bywyd am flynyddoedd, a bu’n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.

Anne Innes

Llwyddodd Anne Innes, Caerdydd i godi dros £100,000 tuag at Ymchwil y Galon, ac fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaeth gwirfoddol cwbl nodedig dros achosion da. Yn dilyn salwch ei gŵr yn 1982, pan dderbyniodd galon newydd yn Ysbyty Harefield, penderfynodd fynd ati o ddifri i godi arian a chefnogi achosion da. Ei nodweddion yw argyhoeddiad, brwdfrydedd a’r penderfyniad i ddal ati, a thrwy hyn mae achosion da yng Nghymru a thu hwnt wedi elwa’n sylweddol iawn o’i chymorth a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd.

Elin Jones AC

Mae Elin Jones, Aberaeron yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau’r Cynulliad. Bu’n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae’r fraint o gynrychioli’r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi dros bum mlynedd ar hugain o wasanaeth i’w bro, ac mae ei chyfraniad ar draws Ceredigion a Chymru gyfan yn un nodedig.

Eric Jones

Mae Eric Jones, Pencader wedi rhoi oes o waith yn lleol ac yn genedlaethol. Bu’n stiward ac arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd yn ddi-dor er 1984, gan weithio’n dawel yn y cefndir gyda gwên ar ei wyneb bob amser. Mae ei gyfraniad i’w filltir sgwâr hefyd yn helaeth: mae’n ddiacon yn y capel ac yn aelod brwd o bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Llanfihangel-ar-Arth, ac mae bob amser yn fwy na pharod i helpu pawb a phob achos da.

Gwyneth Briwnant Jones

Mae cyfraniad Gwyneth Briwnant Jones, Caerdydd i’w weld mewn dau faes gwahanol – y byd addysg drwy’i gyrfa broffesiynol, a’r byd iechyd drwy’i gwaith gyda Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro, ynghyd â llu o gyrff iechyd eraill. Bu’n ymwneud gyda datblygu safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ailwampio’r gwasanaethau i famau a babanod ac ailwampio’r gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â nifer o wasanaethau a phynciau eraill. Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman, mae wedi gwasanaethu’i chymuned a Chymru yn wirfoddol a phroffesiynol am flynyddoedd lawer.

Alaw Le Bon

Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae Alaw Le Bon, Y Barri yn gweithio fel athrawes gynradd mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd, gan gymryd pob cyfle i rannu’i diddordeb yn y ‘Pethe’ gyda’r disgyblion ifanc. Bu’n gweithio fel arweinydd Cylchoedd Chwarae’r Haf dros Fenter Caerdydd, ac mae hefyd yn groesawydd cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â Chaerdydd, gan ymgyrchu’n frwdfrydig a dygn am fisoedd lawer yng ngorllewin y ddinas.

Helen Middleton

Bu Helen Middleton, Y Fenni yn aelod blaenllaw o’r tîm a sicrhaodd Eisteddfod lwyddiannus yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016. Yn wir, mae’n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi cyfrannu mwy i ardal Y Fenni o ran Cymreictod ar hyd y blynyddoedd. Yn enedigol o Aberangell, mae Helen yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn ei hardal. Gan weithio’n dawel a chadarn, mae’n rhoi’n hael o’i hegni a’i hamser i gefnogi a hybu gweithgareddau Cymraeg y fro.

Eleri Rees

Yn wreiddiol o Landre, Ceredigion, mae Eleri Rees, Caerdydd erbyn hyn yn Uwch Farnwr Cylchdaith ac yn Farnwr Preswyl Llys y Goron, Caerdydd. Bu’n Farnwr Cylchdaith er 2002, a hi hefyd yw’r Barnwr Cyswllt dros yr Iaith Gymraeg, gan gadeirio’r gweithgor a sefydlodd y drefn sy’n adlewyrchu’n ymarferol yr egwyddor o gydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn unol â Deddf Iaith 1993. Mae’n Gofiadur Caerdydd er 2012, a hi yw’r ferch gyntaf i’w phenodi i’r swydd ddylanwadol hon.

Jamie Huw Roberts

Mae Jamie Huw Roberts, Caerdydd yn un o sêr mwyaf y byd rygbi yng Nghymru ers degawd a mwy. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru ac mae wedi chwarae ar ddwy daith gyda’r Llewod. Mae’n arddel ei Gymreictod yn llawn ble bynnag y bo, a gwnaeth gyfraniad helaeth at godi proffil yr iaith ymysg y to ifanc yn y byd rygbi. Yn un o fechgyn y brifddinas, braf yw cael ei anrhydeddu yma yn ardal ei febyd.

Vaughan Roderick

Mae Vaughan Roderick, Caerdydd yn un o leisiau ac wynebau amlycaf y cyfryngau yng Nghymru yn sgîl ei waith fel Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru.  Gyda diddordeb amlwg mewn gwleidyddiaeth a gwleidydda, mae wedi treulio’i yrfa’n dilyn y byd democratiaeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Mae’n cyflwyno rhaglenni rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales, ac mae hefyd yn un o hoelion wyth rhaglenni canlyniadau etholiadau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.

Jonathan Simcock

Mae Jonathan Simcock, Derby wedi gwneud gwaith gwerthfawr i hybu’r iaith yn yr ardal hon o Loegr. Mae’n trefnu gweithgareddau lu ar gyfer dysgwyr Cymraeg o ardal eang o ganolbarth Lloegr, gan gyfuno gweithgareddau addysgu ffurfiol a digwyddiadau cymdeithasol a hwyliog, er mwyn i ddysgwyr yr ardal gael blas ar holl gwmpas y Gymraeg. Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod, mae’n cynrychioli dysgwyr yn Lloegr ar bwyllgor dysgwyr y sefydliad.

Linda Tomos

Bu Linda Tomos, Dolgellau ar flaen y gad ym maes diwylliant er lles Cymru a’i phobl ers nifer o flynyddoedd, gyda’i phrofiad a’i brwdfrydedd dros hybu treftadaeth yn gaffaeliad i Gymru gyfan. Hi yw’r ferch gyntaf i arwain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda’i hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau difreintiedig ar draws Cymru’n arwydd pendant o’i hawydd personol i sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r wlad yn ymwybodol a gwerthfawrogol o’n diwylliant. Bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, cyn ymuno â’r Llyfrgell.

Rhys Owen Thomas

Er iddo weithio ym mhob rhan o’r byd, mae Dr Rhys Thomas, New Inn, Llandeilo wedi dychwelyd i fro ei febyd, lle mae’n gwneud cyfraniad enfawr yn ei gymuned. Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu’n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu’r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda’i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Andrew White

Mae Andrew White, Llanharan yn Gyfarwyddwr elusen Stonewall Cymru er bron i ddegawd, gan arwain y gwaith i gael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yma yng Nghymru. Wedi dysgu Cymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd, bu’n gweithio am gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bennaeth y Tîm Iechyd a Sector Gwirfoddol. Mae’n arweinydd naturiol, a’i waith lobïo wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi diwygio Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru i fod yn fwy cynhwysol o gyfeiriadedd rhywiol.

Rosemary Williams

Anrhydeddir Rosemary Williams, Crug Hywel am ei chyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yn ardal Y Fenni, Crug Hywel ac ardal Pen y Cymoedd. Yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Brynmawr, Blaenau Gwent am flynyddoedd, bu’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr iaith a hyrwyddo buddiannau addysg Gymraeg i genedlaethau o drigolion lleol. Mae’n un o hoelion wyth y gymuned Gymraeg, a’i chyfraniad i Eisteddfod y Fenni a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, fel rhan o’r tîm bychan ac ymroddgar a greodd waddol i’r Gymraeg a’n diwylliant yn yr ardal, yn un helaeth.

Carole Willis

Mae Carole Willis, Y Groesfaen, Pontyclun yn rhan hollbwysig o fywyd Cymraeg ei hardal. Ar ôl dysgu Cymraeg a graddio yn yr iaith, treuliodd ddegawdau’n gweithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r iaith yn lleol gydag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau – yn eu plith, Côr Godre’r Garth, Cyngor Cymuned Pontyclun ac fel Cadeirydd cyfredol Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Mae hi hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r Urdd, y Mudiad Meithrin a’r capel lleol dros y blynyddoedd.

Derbyniwyd yr unigolion isod y llynedd, a bydd y pedwar yn ymuno â’r Orsedd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

GWISG WERDD

Geraint Jarman

Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru.  Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016.  Yn ddi-os, mae’n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi’u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau’i gerddoriaeth drwy’r blynyddoedd.

GWISG LAS

Ronald Dennis

Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint.  Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw.  Bu ei gyngor a’i gymorth parod ar gael am ddegawdau i bawb sy’n ymddiddori yn y maes, yn arbennig y wefan a ddatblygwyd ganddo yn olrhain hanes y Mormoniaid.  Llwyddodd i ail-ddarganfod darn pwysig ac anghofiedig o hanes, gan drawsnewid ein gwybodaeth a’n hymwybyddiaeth am gyfraniad Mormoniaid Cymru i hanes talaith Utah.

Robert Evans

Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd.  Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.  Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw’r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws).  Erbyn hyn mae’n Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Oriel, a chyn hynny bu’n Gymrawd yng Ngholeg y Trwyn Pres (Brasenose College).  Roedd yn un o Gymrodyr Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae’n parhau i gefnogi gwaith y Gymdeithas.

Jeremy Randles

Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016.  Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos.  Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod.  Bu’n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos.  Erbyn hyn, mae’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau gwaddol teilwng i’r Eisteddfod yn Sir Fynwy.  Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-gymraeg, mae wedi dysgu’r iaith yn rhugl ac mae ef a’i deulu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.