I Grombil y Mynydd
Ceudyllau Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, oedd cyrchfan diwrnod cymdeithasol diweddaraf yr Orsedd, ddydd Sadwrn, 21 Medi 2019. Daeth bron iawn i ddeugain o Orseddogion a’u gwesteion ar y daith. Cawsom ddiwrnod arbennig – nid lleiaf gan fod yr haul yn tywynnu drwy’r dydd a ddim smotyn o law!
Daethom ynghyd ar gyfer coffi am 10.30 o’r gloch yng Ngwesty’r Seren, Llan Ffestiniog – canolfan ddelfrydol os ydych am deithio o gwmpas yr ardal. Wedi gair o groeso gan y Cofiadur, y Cyn-Archdderwydd Christine, cawsom ddarlith gynhwysfawr a difyr am hanes chwareli’r ardal gan yr hanesydd lleol Steffan ab Owain. Bu Steffan yn gweithio yn y chwarel am gyfnod cyn iddo ganolbwyntio ar yrfa fel hanesydd, archifydd ac awdur nifer o lyfrau ar hanes lleol. Clywsom am y cynnydd mawr yn nifer y chwareli yn yr ardal yn ystod 19eg ganrif. Yn eu hanterth yn y 1880au roedd chwareli ’Stiniog yn cyflogi rhyw 4,000 o weithwyr, gyda gweithlu o ryw 1,400 yn Chwarel Oakeley, ac oddeutu 600 o ddynion yn Chwarel Llechwedd. Cawsom wybod sut yr oedd y gwahanol chwareli yn cloddio am y llechi, e.e. tyllu’n ddwfn yn Nyffryn Nantlle a gyrru ‘lefelau’ yn Chwareli ’Stiniog. Amlinellodd Steffan y broses gyda chymorth ei luniau arbennig, gan ddangos sut roedd y graig a gloddiwyd o’r mynydd yn cael ei pharatoi i fod yn gynnyrch derbyniol, e.e. llechi to. Yn ystod ei sgwrs clywsom sawl hanes doniol am y gweithwyr .
Cawsom ginio ardderchog yng Ngwesty’r Seren cyn mynd ymlaen i Geudyllau Llechwedd yn y prynhawn. Aeth 35 ohonom i lawr i’r seithfed o’r 16 o lefelau sydd yn y chwarel. Er ei bod yn gynnes tu allan (20°C / 68°F) roedd yr awyrgylch yn nyfnderoedd y mynydd yn llaith ac oer (10°C / 50°F), ac felly y mae hi yno drwy’r flwyddyn. Aethom o siambr i siambr gan synnu at amodau gwaith y gweithwyr. Roedd pawb yn rhyfeddu fod y chwarelwyr yn gorfod gweithio am 12 awr y diwrnod, mewn tywyllwch dudew heb gymaint â golau cannwyll – a hynny am gyflog pitw iawn.
Tra oedd y rhan fwyaf ohonom yng nghrombil y mynydd, aeth pedair arall ar daith ‘ysgytwol’ yn lori’r Quarry Explorer i ben uchaf y chwarel. Ond er yr holl ysgwyd yr oedd yr olygfa o’r topiau’n werth ei gweld.
Diolch i Dyfrig am drefnu diwrnod mor ddiddorol ac addysgiadol unwaith eto. A da gen i fedru adrodd na chollwyd yr un aelod o’r Orsedd yng nghrombil y mynydd!
John Williams (Gwydrin)