Hysbyseb swydd: Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
Yn sgil penderfyniad Arolygydd y Gwisgoedd, Ela Cerrigellgwm, i gamu’n ôl o’i swydd ar ddiwedd Eisteddfod Wrecsam 2025, mae Bwrdd yr Orsedd yn gwahodd ceisiadau am olynydd iddi.
Bydd y person a benodir yn medru cyfathrebu’n rhwydd yn Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd yn meddu ac sgiliau a phrofiad o drefnu a goruchwylio, ac yn ddelfrydol (ond ddim yn hanfodol) bydd hefyd yn meddu ar sgiliau gwnïo. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gysgodi’r Arolygydd presennol hyd at ddiwedd Eisteddfod Wrecsam 2025, gan ymgymryd â’r holl gyfrifoldebau o fis Medi 2025 ymlaen.
Swydd ddi-dâl yw hon, ond gellid hawlio treuliau rhesymol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn datgeliad DBS boddhaol.
Dyletswyddau Arolygydd y Gwisgoedd
Yn ôl Cyfansoddiad Yr Orsedd, swyddogaeth Arolygydd y Gwisgoedd yw gofalu bod y gwisgoedd a’r tlysau a wisgir yn cael eu cadw’n lân a chyfaddas ar gyfer y seremonïau, a chydlynu gwaith y cynorthwywyr lleol Golyga hyn fod cylch gwaith yr Arwyddfardd ar hyd yflwyddyn fel a ganlyn:
Cylch gwaith Arolygydd y Gwisgoedd o ddiwedd un Eisteddfod i ddiwedd y nesaf:
Mis Awst (ar ôl yr Eisteddfod)
- Gwirio’r gwisgoedd a ddefnyddiwyd yn y Seremonïau ond nad aeth i’r golchdy ar ddiwedd yr Eisteddfod, a mynd â nhw i’w glanhau fel bo angen.
Mis Hydref/Tachwedd/Rhagfyr
-
- Mynd i storfa Llanybydder i roi trefn ar y gwisgoedd glas, gwyn a gwyrdd wedi iddynt ddod yn ôl o’r golchdy.
- Gwirio eu cyflwr a threfnu eu cywiro fel bo’r angen (botymau, felcro a.y.b.)
- Gyda’r Cofiadur a’r Arwyddfardd, cyfweld ac apwyntio unigolion i gyflwyno’r Corn Hirlas a’r Flodeuged, a hefyd dewis y Llawforynion a’r Macwyaid.
- Trefnu cyfarfod â’r rhai a ddewisir er mwyn ffitio eu gwisgoedd a’u haddasu fel bo angen.
- Trefnu cyfarfod â dawnswyr y ddawns flodau er mwyn ffitio eu gwisgoedd a’u haddasu fel bo angen.
Dau fis cyn y Cyhoeddi
- Gyda chymorth staff yr Eisteddfod cysylltu â gwirfoddolwr/wraig lleol i drefnu tua 16 o wirfoddolwyr i smwddio gwisgoedd ar y diwrnod cyn y Cyhoeddi, ynghyd â gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r Gorseddogion ar ddydd y Cyhoeddi.
Mis cyn y Cyhoeddi
- Cydgordio â’r Arwyddfardd er mwyn dadansoddi’r archebion gwisg.
- Llenwi 2 docyn gwisg i bawb sydd wedi archebu gwisg ar gyfer y Cyhoeddi.
- Cydgordio â staff Llanybydder fel bod dodrefn a regalia’r Orsedd yn cael eu cludo i leoliad y Cyhoeddi.
Diwrnod cyn Cyhoeddi
- Tagio gwisgoedd y Gorseddogion a goruchwylio’r smwddio.
Diwrnod y Cyhoeddi
- Arolygu gwisgo aelodau’r Orsedd.
- Ar ôl seremoni’r Cyhoeddi, gwirio cyflwr y gwisgoedd a threfnu eu glanhau fel bo angen.
- Cadw popeth er mwyn eu cludo’n ôl i Lanybydder.
Mehefin
- Cysylltu â chydlynydd y gwirfoddolwyr fydd yn helpu yn yr Eisteddfod a threfnu dyddiau i’r smwddio a’r tagio enwau (wythnos cyn yr Eisteddfod)
- Trefnu gwirfoddolwyr i gynorthwyo yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
- Cysylltu â’r Cyflwynwyr i ffitio’u gwisgoedd a’u haddasu fel bo angen.
- Cysylltu â dawnswyr y ddawns flodau i ffitio’u gwisgoedd a’u haddasu fel bo angen.
- Cydgordio â staff Llanybydder ac Arolygydd y Maes i drefnu bod gwisgoedd yr Orsedd a’r regalia yn cael eu cludo i Faes yr Eisteddfod a bod cyflenwad digonol o drydan ar gyfer y smwddio.
Gorffennaf
- Cydgordio â’r Arwyddfardd er mwyn dadansoddi’r archebion gwisg.
- Os oes gofynion arbennig gan rai sydd yn cael eu hurddo, rhoi sylw i’r gwisgoedd hynny.
- Llenwi 2 docyn gwisg ar gyfer pawb sydd wedi archebu.
Yr wythnos cyn yr Eisteddfod
- Tagio pob gwisg gyda thocyn enw a goruchwylio’r smwddio.
- Paratoi Baneri’r Celtiaid ar gyfer ymarferion yr Orsedd ar lwyfan y Pafiliwn (dydd Iau).
Wythnos yr Eisteddfod
-
- Gwisgo penwisgoedd am ben y rhai sydd yn cael eu hurddo yn y seremonïau boreol.
- Cyrchu enillydd y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Gadair.
- Gofalu am glogyn yr enillydd a’i haddasu fel bo angen.
- Gofalu am glogyn Gwobr Goffa Daniel Owen, Y Fedal Ddrama a Thlws y Cerddor, a’u haddasu fel bo angen.
- Goruchwylio gwisgo pawb ar gyfer Seremonïau’r Cyhoeddi a’r Eisteddfod.
- Goruchwylio Dodrefn a Regalia’r Orsedd
- Ar ddiwedd yr Eisteddfod cadw popeth yn drefnus ar gyfer ei gludo’n ôl i Lanybydder.
- Trefnu gyda’r golchdy i nôl y gwisgoedd glas, gwyn a gwyrdd a’u dychwelyd i Lanybydder.
- Adrodd yn ôl i bob cyfarfod o Fwrdd yr Orsedd a chyflwyno Adroddiad Blynyddol yn yr Eisteddfod.
-
- Mae swydd Arolygydd y Gwisgoedd yn un allweddol, sy’n gofyn am ymrwymiad amser sylweddol i’w chyflawni, yn arbennig rhwng mis Ebrill a mis Awst bob blwyddyn. Mae’r ymrwymiad i ymbresenoli ym mhob seremoni (y Cyhoeddi, a phum seremoni yr Eisteddfod) yn hanfodol.
Dylai personau sydd am ymgeisio ar gyfer swydd Arolygydd y Gwisgoedd wneud hynny trwy anfon llythyrat y Cofiadur gan nodi eu cymwysterau a’u profiad perthnasol ( dim mwy na 500 gair).
Nodwch ar waelod y llythyr eich enw yng Ngorsedd a’r flwyddyn / Eisteddfod y cawsoch eich urddo, os gwelwch yn dda.
Y dydiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Tachwedd 2024 am 12.00 (canol dydd). Ni roddir ystyriaeth i geisiadau hwyr.
Dylid anfon llythyrau cais trwy’r post neu ar ebost at:
Y Cofiadur,
Y Cyn-Archdderwydd Christine
16 Kelston Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 2AJ