Roedd criw ohonom wedi ymgynnull yn y Ramada ar fore Sadwrn, yr ail ar bymtheg o Fedi ac wedi dod o hyd i’r coffi a oedd wedi ei ddarparu ar ein cyfer! Yn dilyn hyn cawsom ddwy wledd a’r gyntaf ohonynt oedd darlith ar blas Erddig gan Gareth Vaughan Williams a’r llall oedd bwffe blasus a drefnwyd ar ein cyfer gan yr Arwyddfardd.
Disgrifiodd Gareth ei hun fel gŵr byr ei daldra ond gwelsom ei fod yn gawr o hanesydd! Aeth â ni yn ôl dros dair canrif i’r cyfnod pan adeiladwyd y darn cyntaf o’r plas gan rannu ei wybodaeth fanwl o’r datblygiadau ar y safle o’r pryd hynny hyd y dydd heddiw. Ond nid y plas oedd yr adeilad cyntaf ar beth sydd heddiw’n dir Erddig, ychydig i’r de o dref Wrecsam. Awn yn ôl sawl canrif arall i’r amser pan sefydlwyd castell mwnt a beili yno ar gyfer llywodraethwr y rhan hon o ogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau. Y mae’r olion yn dal yno.
Ar ôl rhoi cefndir yr adeilad inni trodd Gareth wedyn at hanesion difyr am bron bob sgweiar a fu’n berchen ar stâd Erddig! Y diweddaraf oedd Philip Yorke a etifeddodd y plas ym 1966. Roedd hwnnw yn ymddangos i mi yn dipyn o ecsentrig – dyn oedd yn mynnu marchogaeth ei feic peni-ffardding o gwmpas yr ardal! Roedd dau o’r beiciau hyn wedi eu cadw ac yn cael eu harddangos yn un o’r adeiladau nid nepell o’r stablau. Yn y stablau, gyda llaw, roedd tri cheffyl Shire hardd ac yn annisgwyl, mewn stolion eraill gerllaw, dau ful! Credaf y byddai’n well gen i eu gweld allan ar y caeau yn hytrach nag yn gaeth mewn stablau er mwyn diddori’r ymwelwyr.
Bu cryn ddirywiad yng nhyflwr yr adeilad dros y blynyddoedd ac un o’r prif resymau oedd ymsuddiad anwastad oherwydd y gweithfeydd glo yn ddwfn oddi tanodd. Gwariwyd arian sylweddol yn cywiro hyn gan ddod â’r adeilad yn ôl i gyflwr gweddol wastad. Yn y cyflwr hwn yr etifeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y stâd gan addo, yn y broses, i dderbyn a chadw holl drugareddau’r Sgweiar Yorke. Ond wedi gweld y pethau hyn sylweddolem gymaint o hanes sydd wedi ei gadw ynddynt. Wrth gwrs, ymysg y ‘pethau’ mae gwrthrychau drudfawr hefyd gan gynnwys un portread gwych gan Gainsborough.
Adferwyd y gerddi gan yr Ymddiriedolaeth i gyflwr pur agos at y gwreiddiol. Lle bu defaid PhilipYorke gynt yn pori rhwng drain a mieri mae heddiw ôl blynyddoedd o waith cywrain garddwyr proffesiynol. Ac os âf yn ôl yno eto, mi wnaf hepgor y tŷ a chrwydro wrth fy mhwysau drwy’r gerddi a’r mil o aceri o’u hamgylch gan ddiolch i’r Arwyddfardd a Gareth am agor fy llygaid i’r fath wychder.
Llŷr Dafis Gruffydd