Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2024

Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2024

 

Cyhoeddir enwau’r rheini fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  

Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. 

Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  

Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.  Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

 

Gwisg Werdd

Jane Aaron
Mae cyfraniad Jane Aaron, Aberystwyth i fywyd Cymru yn un nodedig, fel addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac awdur. Hyd nes ei hymddeoliad, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, Prifysgol De Cymru. Mae’n adnabyddus am ei hymchwil arloesol a’i chyhoeddiadau niferus ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifennu menywod o Gymru. Cyhoeddodd nifer o ysgrifau a llyfrau, a bu’n olygydd gyda Gwasg Honno, sy’n arbenigo yn ysgrifennu menywod o Gymru. Yn 2023, cyhoeddodd gofiant Cranogwen gyda Gwasg Prifysgol Cymru.

Anna ap Robert
Mae Anna ap Robert, Aberystwyth yn angerddol dros ein hiaith a’n diwylliant yn ei hardal. Yn Swyddog Creadigol (Dawns a Theatr) gyda Theatr Felin-fach a thiwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth ei gwaith, mae Anna hefyd yn gweithio’n agos gyda Chwmni Cyrff Ystwyth sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau ac anghenion dysgu. Mae hi hefyd yn trefnu nosweithiau dawns ‘Strictly’ yn y Gymraeg, gyda’r holl ymarferion a’r hyfforddi’n cael eu cynnal yn y Gymraeg. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae’r rhain wedi codi bron i £100,000 ar gyfer grwpiau ac elusennau amrywiol.

Simon Chandler
Cafodd Simon Chandler, Manceinion, ei fagu yn Llundain mewn teulu Saesneg ei iaith. Syrthiodd mewn cariad â’r Gymraeg tra ar ei wyliau yng Nghymru tua15 mlynedd yn ôl, ac aeth ati i’w dysgu. Mewn dim o dro, roedd Simon nid yn unig wedi meistroli Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ond roedd hefyd yn medru cynganeddu! Erbyn hyn mae’n cynnal colofn yn ‘Barddas’, cylchgrawn y Gymdeithas Cerdd Dafod, cyhoeddodd nofel, ‘Llygad Dieithryn’ (2023), gydag un arall ar y ffordd, ac mae’n cyfrannu erthyglau i’r wasg gyfnodol Gymraeg. Ar ben hyn oll mae Simon yn weithgar iawn yn trefnu digwyddiadau sy’n hybu’r Gymraeg yn ninas Manceinion.

Elgan Philip Davies
Gwnaeth Elgan Philip Davies, Bow Street, Aberystwyth, gyfraniad triphlyg i’n diwylliant. Ar ddechrau cyfnod allweddol yng nghanu roc Cymraeg, roedd yn aelod blaenllaw o’r grŵp Hergest, a chân o’i waith ef oedd y gyntaf i gael ei chwarae ar Radio Cymru pan lansiwyd y gwasanaeth yn 1977. Yn ail, mae’n awdur toreithiog, wedi ysgrifennu llu o nofelau i blant ac i oedolion. Ac yn drydydd, fel llyfrgellydd a dreuliodd gyfnod sylweddol yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, daeth yn arbenigwr ar yr adeilad hwnnw. Mae wedi cyflwyno’i hanes ar lafar ar y cyfryngau yn ogystal â chyhoeddi sawl llyfr am ei hynodrwydd a’i arwyddocâd.

Owenna Davies
Mae ardal Ffostrasol a Cheredigion yn bwysig iawn i Owenna Davies. Bu’n gweithio ym myd addysg am flynyddoedd, ond fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad gwirfoddol yn lleol. Bu’n gynghorydd cymuned, aelod o bwyllgor Maes a Môr, Cadeirydd Merched Glannau Teifi, a hi fu’n bennaf gyfrifol am drefnu digwyddiadau a goruchwylio’r llyfr a gyhoeddwyd pan gaeodd Ysgol Aberbanc. Mae’n drysorydd Capel y Drindod Aberbanc ac yn helpu i redeg y Banc Bwyd yng Nghapel Seion, Llandysul. Bu’n Llywydd Rhanbarth Merched y Wawr, a llwyddodd i ddenu nawdd i greu ffilm, ‘Gwlân, gwlân, gwlana’, sy’n olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Ngheredigion.

Anne England
Anrhydeddir Anne England, Aber-fan am ei gwaith gwirfoddol dros y Gymraeg yn ardal Merthyr Tudful, ac yn arbennig am ei chyfraniad i’r Ganolfan Gymraeg yn Theatr a Chanolfan Soar, canolfan sydd wedi gwreiddio holl fudiadau Cymraeg yr ardal yng nghanol y gymuned. Cyfrannodd fel gwirfoddolwr a chadeirydd at flynyddoedd o ddatblygu’r cynlluniau uchelgeisiol, ceisio am gyfleoedd ariannu a sicrhau llwyddiant hirdymor y fenter. Yn ogystal â chyfrannu at lywodraethiant y sefydliad, bu’n gwirfoddoli mewn ystod eang o weithgareddau – o’r swyddfa docynnau a’r dderbynfa i weithgareddau a digwyddiadau unigol.

Nerys Howell
Magwyd Nerys Howell, Caerdydd, yn y Rhondda Fawr, gan fynychu ysgolion lleol cyn hyfforddi mewn gwyddor tŷ yng Nghaerdydd a Llundain. Ers dychwelyd i Gymru, bu’n hyrwyddo bwydydd a chynnyrch Cymreig ledled y byd. Mae wedi ysgrifennu tri llyfr coginio’n defnyddio cynhwysion Cymreig, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar y teledu. Yn ogystal â’i gwaith yn rhoi cynnyrch Cymreig ar y map byd-eang, mae Nerys yn dilyn tîm rygbi merched Cymru yn frwd, gan fod ei merch, Elinor Snowsill – sydd hefyd yn cael ei hanrhydeddu eleni – wedi chwarae i’r tîm cenedlaethol.

Angharad Lee
Mae Angharad Lee, Tonyrefail, yn angerddol dros sicrhau cyfle cyfartal i bawb yn y celfyddydau, ac wedi meithrin doniau trigolion Rhondda Cynon Taf yn y Gymraeg a’r Saesneg ers blynyddoedd. Mae’n uwch-ddarlithydd a chyfarwyddwr cyfrwng-Cymraeg yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, ac yn gyfarwyddwr artistig ar ei chwmni theatr ei hun, Leeway Productions. Yn ystod y cyfnod clo, cefnogodd ei chwmni dros 150 o artistiaid llawrydd na lwyddodd i dderbyn grantiau. Mae wedi cynhyrchu nifer o sioeau amlwg yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, a hi fydd yn cynhyrchu sioe ‘Nia Ben Aur’ eleni gyda’r Brifwyl yn ei milltir sgwâr.

Elin Llywelyn Williams
Mae Elin Llywelyn Williams, Pont-y-clun wedi ymroi i dwf y Gymraeg ym Mhontypridd a’r ardal. Yn ddirprwy bennaeth ar Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, mae hi wedi ysbrydoli a Chymreigio cenedlaethau o blant, gan eu hannog i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru. Sefydlodd Gôr y Cwm yn 2009, côr i blant ardal Cwm Rhondda, sy’n parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd hyd heddiw. Mae’r côr wedi mwynhau llwyddiannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Ryngwladol Llangollen a chystadlaethau eraill gan gynnwys ‘BBC Songs of Praise’ a Chôr y Flwyddyn y BBC. Mae hi hefyd yn aelod o Gôr Godre’r Garth a Dawnswyr Nantgarw ers blynyddoedd lawer, ac mae’n un o arweinyddion Côr yr Eisteddfod eleni.

Helena Miguelez-Carballeira
Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira, Bangor yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth ni yma yng Nghymru o hanes a diwylliant Galisia, ac mae hefyd yn arbenigo ar fywyd a gwleidyddiaeth Gwlad y Basg a Chatalwnia. Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau cyfieithu, a thrwy’i hymdrechion hi i raddau helaeth, sicrhawyd fod y Gymraeg yn rhan o’r trafodaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r maes. Mae’n enghraifft lachar o’r modd y gall ysgolheigion rhyngwladol sydd ag ymdeimlad tuag at ein diwylliant a gwybodaeth o’n hiaith, gyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.

Mari Morgan
Yn wreiddiol o Lanelli, mae Mari Morgan yn byw yn yr Unol Daleithiau ers bron i 30 mlynedd, gan gyfrannu’n helaeth at ddiwylliant Cymreig Gogledd America a Chanada yn ystod y cyfnod hwn. Bu’n gweithio fel unawdydd mezzo-soprano, ac mae’i diddordeb mewn cerddoriaeth wedi parhau dros y blynyddoedd. Sefydlodd Gôr Cymry Gogledd America yn 1998, gan deithio o amgylch y byd. Mae’i hymrwymiad i gomisiynu gweithiau corawl newydd yn nodedig, ac mae’n annog aelodau’r côr i fynd ati i ddysgu Cymraeg ac i ymuno â dosbarthiadau llenyddol hefyd. Mari oedd Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000.

Catrin Rowlands
Athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari yw Catrin Rowlands, Abertawe, ac yn ddi-os, bydd ei chreadigrwydd a’i hymroddiad i waith pwyllgorau lleol yr Eisteddfod i’w gweld yn glir ar y Maes ym Mhontypridd eleni. Mae hi wedi cynnwys ei disgyblion yn y paratoadau ar hyd y daith gan sicrhau eu bod yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer y Gadair, gyda’i hawydd i ddod â’r Gymraeg yn fyw i bobl ifanc yn glir i bawb. Mae hefyd yn weithgar yn ei chynefin fel aelod o Dŷ Tawe, canolfan Gymraeg dinas Abertawe, ac mae wedi cynnig gwersi Cymraeg yn wirfoddol i ddosbarthiadau o oedolion yn eu cymuned yn Nhreforys.

Derrick Rowlands
Dyn “y pethe” yw Derrick Rowlands, sy’n frodor o Bont-iets, ac un a weithiodd yn dawel ddiflino dros y Gymraeg yn ei filltir sgwâr ac yn ehangach ers blynyddoedd bellach. Rhoddodd gyfraniad oes i fyd y corau meibion, yn lleol ac yn genedlaethol. Gweithiodd yn ddiwyd i godi proffil y Gymraeg o fewn i Gymdeithas Corau Meibion Cymru, a bu’n rhan allweddol o’r gwaith o drefnu cyngherddau mawreddog corau meibion unedig yn Llundain. Yn Gymro i’r carn, mae’n bleser gan Orsedd Cymru ei anrhydeddu eleni.

Mike Parker
Un o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon yw Mike Parker. Fe’i cyfareddwyd gan fapiau er pan oedd yn blentyn, a hefyd gan Gymru. Symudodd yma yn 2000, ac ymroi i ddysgu Cymraeg. Mae’n awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys ‘Neighbours from Hell?’ (2007), sy’n trafod agweddau’r Saeson at y Cymry; ‘Map Addict’ (2009), llythyr cariad i fapiau; ‘Real Powys’ (2011), arweinlyfr craff i sir fabwysiedig Mike, a’r arobryn ‘On the Red Hill’ (2019). Y llynedd cyhoeddodd ‘All the Wide Border’, sy’n crwydro’r gororau. Fel dyn hoyw, gŵyr beth yw perthyn i leiafrif sy’n dioddef rhagfarn yn aml, ac mae hyn yn rhoi min ar y modd y mae’n dehongli Cymru ar gyfer cynulleidfa Saesneg ei hiaith.

Shân Eleri Passmore
Rydym yn anrhydeddu Shân Eleri Passmore, Caerdydd, am ei gwasanaeth ym myd yr eisteddfodau mawr a mân dros gyfnod maith. Cyn symud i Gaerdydd yn 1981, bu Shân yn ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog am sawl blwyddyn. Bu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ffodus iawn o’i chael hi’n Swyddog Datblygu am gyfnod, a bu’n gweithio hefyd i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar bu Shân yn gymorth mawr wrth sefydlu eisteddfod gadeiriol newydd yng Nghaerdydd, a ddatblygodd yn ddigwyddiad llwyddiannus bellach, a hi sydd wedi paratoi cadair yr eisteddfod honno dros y ddwy flynedd diwethaf.

Siwan Rosser
Mae Siwan Rosser, Caerdydd, yn uwch-ddarlithydd ac yn ddirprwy bennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n arwain y drafodaeth gyfredol ar lyfrau Cymraeg i blant, ac fe’i comisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru i lunio arolwg o lyfrau plant a phobl ifanc a gafodd ddylanwad ar y maes cyhoeddi. Mae ei hymwneud cyson â gweithgareddau megis yr Eisteddfod a gwyliau llenyddol wedi ysgogi trafodaeth ehangach ar lyfrau plant. Bu’n arwain ar weithgareddau i ddathlu gwaith yr awduron plant T Llew Jones ac Elizabeth Watkin-Jones a hybu pwysigrwydd cynrychiolaeth ac amrywiaeth mewn llenyddiaeth; mae hyn oll wedi ysgogi diddordeb ym maes llenyddiaeth Cymraeg i blant a phobl ifanc yn arbennig.

Peter Spriggs
Mae Peter Spriggs, Arberth yn arlunydd toreithiog ac uchel ei barch. Mae’n ddarlithydd yng Ngholeg Celf a Dylunio Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yn aelod o Grŵp 56 Cymru, criw o arlunwyr proffesiynol sy’n byw a gweithio yng Nghymru. Ysbrydolir ei waith gan hanes diwylliannol a diwydiannol Cymru, ac mae’r lluniau a beintiodd o adeiladau diwydiannol a threfol y Rhondda a Chaerdydd yn yr wythdegau erbyn hyn yn gofnod pensaernïol a hanesyddol ar ôl eu dymchwel. Mae’n gefnogwr brwd i’r Lle Celf yn yr Eisteddfod ac o weithgareddau arddangosfeydd ac orielau celf ledled Cymru.

Llinos Swain
Cyfrannodd Llinos Swain, Caerdydd yn helaeth at fywyd Cymraeg a cherddorol ardal Ton-teg a Llantrisant tra bu’n byw yn yr ardal am flynyddoedd. Bu’n hael ei chefnogaeth i weithgareddau’r Urdd, yn gyfrifol am yr adran yn Ysgol Gynradd Llantrisant. Yna, helpodd i sefydlu adran ym Mhorthcawl, gan hyfforddi plant i gystadlu a chreu cannoedd o osodiadau cerdd dant dros y blynyddoedd. Bu Llinos yn asgwrn cefn i Gôr Merched y Garth, bob amser yn barod i helpu fel arweinydd neu gyfeilydd pan fo’r angen. Fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r “pethe” ym mro’r Eisteddfod a’r tu hwnt.

Meilyr Hedd Tomos
Dyn ifanc sy’n rhoi o’i orau er lles eraill yw Meilyr Tomos, Abergwaun. Yn gerddor dawnus, mae’n teithio cartrefi gofal yn ardal Sir Benfro a’r tu hwnt i ddiddanu’r preswylwyr, ac yn perfformio ym mhabell Cytûn ar Faes yr Eisteddfod yn flynyddol. Cododd arian i elusennau drwy recordio dwy gryno-ddisg, gyda’r elw’n mynd i Gymorth Cristnogol ac elusennau canser y pancreas a’r prostad. Roedd Meilyr yn un o sêr y grŵp Côr-ona ar Facebook yn ystod y cyfnod clo, ac mae wedi ymddangos ar raglen ‘Noson Lawen’, yn cyfeilio i’w gyfaill ysgol, Trystan Llŷr.

Gareth Williams
Mae Gareth Williams, Pontypridd, yn hanesydd blaenllaw, ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, wedi cyfnod helaeth yn dysgu yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hanes cymdeithasol, ac yn arbennig hanes chwaraeon a cherddoriaeth, yw ei faes arbenigol, ac mae wedi cyhoeddi ffrwd gyson o lyfrau ac erthyglau ar y pwnc yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae llawer o’i waith wedi ymwneud â diwylliant poblogaidd cymoedd y De, ac mae’n awdurdod ar fywyd a gwaith y llenor a’r arloeswr hanes llafar o Abercynon, George Ewart Evans. Mae hefyd yn aelod o Gôr Meibion Pendyrus.

Siân Rhiannon Williams
Daw Siân Rhiannon yn wreiddiol o Gwm Rhymni ond erbyn hyn mae’n byw yn y Barri. Ar ôl cwblhau doethuriaeth yn Aberystwyth, bu’n athrawes ac yn gynhyrchydd radio cyn treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn darlithio yn Ysgol Addysg Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’n arbenigwraig ar hanes Cymru ac wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes yr iaith Gymraeg, addysg a hanes menywod. Y mae’n weithgar iawn gyda nifer o sefydliadau, byrddau golygyddol a mentrau sy’n hybu hanes Cymru a hanes menywod, gan gynnwys ‘Llafur’, ymgyrch y Placiau Porffor ac Archif Menywod Cymru.

 

Gwisg Las

 

Delyth Badder
Delyth Badder, Pontypridd, yw’r patholegydd pediatrig cyntaf i fedru’r Gymraeg. Diolch i’w phendantrwydd a’i phenderfyniad i frwydro dros y gwasanaeth yng Nghymru, mae’r arbenigedd wedi goroesi, gan arbed pryder a loes ychwanegol i filoedd o deuluoedd. Mae Delyth hefyd yn gweithio fel Archwilydd Meddygol, gan alluogi teuluoedd sy’n galaru i leisio pryderon neu gwestiynau i arbenigwr yn eu dewis iaith. Yn ogystal, penderfynodd droi diddordeb oes mewn llên gwerin yn yrfa, ac mae’n Gymrawd Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru, sy’n gyfle iddi osod ein hanes a’n traddodiadau ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang.

Carol Bell
Cafodd Carol Bell, Llundain, ei magu yn Felindre. Mae’n arbenigo ym maes ynni, byd arian a busnes a gweithgarwch elusennol, a bu’n gysylltiedig â nifer fawr o sefydliadau cydwladol. Ond mae’n arbennig o falch o gael gwasanaethu sefydliadau ac elusennau yng Nghymru, gan gynnwys gweithredu fel Is-lywydd Amgueddfa Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Canolfan y Mileniwm a hi oedd y ferch gyntaf i wasanaethu ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’n llais cyfarwydd ar y radio a’r teledu ac mae ei hymwneud â’r Gymraeg yn ymestyn at fathu geiriau a dderbyniwyd yn gyffredinol erbyn hyn, e.e. gwyrddgalchu (am greenwashing).

Jamie Bevan
Mae Jamie Bevan, Merthyr Tudful wedi bod yn gonglfaen y gymuned Gymraeg yn ei ardal ers dros 20 mlynedd, ac erbyn hyn mae’n rhedeg caffi Cymraeg Soar, sy’n rhan o’r ganolfan Gymraeg bwysig yn y dref. Yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith, mae hefyd yn gerddor, a bu’n rhan allweddol o’r gwaith i greu Gŵyl Bedroc, ynghyd â threfnu nosweithiau cymdeithasol o bob math yn yr ardal. Mae Jamie wedi dylanwadu’n gryf ar bobl ifanc lleol i ymfalchïo yn ein hiaith a chymryd pob cyfle i’w defnyddio’n ddyddiol. Pleser yw ei anrhydeddu eleni.

Dafydd Trystan Davies
Yn wreiddiol o Aberdâr, mae Dafydd Trystan Davies, Caerdydd, yn adnabyddus fel academydd, gwleidydd, hyrwyddwr addysg ac amgylcheddwr, a gyfrannodd yn helaeth i Gymru, ei thraddodiadau, ei thirwedd, ei phobl a’i hiaith. Mae’n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac wedi ymwneud â’r Coleg o’r cychwyn. Mae’n aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru. Fel amgylcheddwr, mae’n gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol ac ar flaen y gad yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio wrth deithio bob dydd. Bu’n allweddol yn natblygiad Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd, ac mae wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr amryw o fentrau cymdeithasol gan gynnwys Gweithdai Beiciau Caerdydd a TooGoodToWaste.

Geraint Davies
Mae Geraint Davies, Treherbert, wedi gweithio’n ddiflino am dros hanner canrif ar ran cymunedau’r Rhondda. Fel fferyllydd bu’n gwasanaethu cymunedau Treherbert, Treorci a Thynewydd, bu’n gynghorydd lleol dros Dreherbert am dros 40 o flynyddoedd ac yn 1999 etholwyd ef yn aelod cyntaf Cwm Rhondda yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu’n ymgyrchydd brwd a gweithgar dros faterion lleol, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyngor a thros addysg Gymraeg yn y cwm. Bu hefyd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu banc bwyd a chaffis i gefnogi teuluoedd difreintiedig yn yr ardal.

Michelle Davies
Brodor o bentref Beulah yw Michelle Davies, Llangamarch, yn ferch ei milltir sgwâr, a’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, ac yn un sydd wedi gwneud llawer i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu unwaith eto mewn ardal lle bu dirywiad yn yr iaith dros y blynyddoedd. Drwy ei gwaith, mae’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt wedi ffynnu. Ac mae ei gwaith cymunedol gyda chyrff megis Eisteddfod Llanwrtyd, y cylch meithrin lleol, Eisteddfod yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc wedi golygu bod llawer mwy o gyfleoedd i blant ac ieuenctid yr ardal ddefnyddio’u Cymraeg wrth gymdeithasu.

Joseff Gnagbo
Ceisiwr lloches o’r Traeth Aur yw Joseff Gnagbo, Caerdydd, a symudodd i Gymru rai blynyddoedd yn ôl. Ymsefydlodd yn y brifddinas gan ddysgu Cymraeg yn hyderus. Oddi ar hynny bu’n diwtor Cymraeg ail-iaith hynod effeithiol. Ers yr hydref Joseff yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae wedi ymddangos yn gyson ar y cyfryngau yn rhannu ei brofiadau fel ceisiwr lloches a pherson a ddysgodd y Gymraeg ar ôl symud i Gymru. Rydym yn falch i’w groesawu i Orsedd Cymru.

Margot Ann Phillips Griffith
O Bont-iets yn wreiddiol, symudodd Margot Ann Phillips Griffith, Wellington, i Seland Newydd bron i hanner canrif yn ôl. Mae’n dychwelyd i’w chynefin yn gyson ac yn mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd. Bu’n llywydd Cymdeithas Gymreig Wellington amryw o weithiau, a’i gweledigaeth yn arwain at gynnal cyfarfodydd gloywi iaith, ynghyd â chystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth a stori fer ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n trefnu derbyniad i dîm rygbi Cymru pan fyddant yn ymweld â Wellington, a hi hefyd sy’n trefnu codi’r Ddraig Goch ar adeilad senedd Seland Newydd ar 1 Mawrth bob blwyddyn. Margot oedd Llywydd y Welsh Gymanfa Ganu Association of New Zealand rhwng 1996 a 2023.

Gill Griffiths
Mae Gill Griffiths, Pentyrch, yn gymwynaswraig wrth reddf ac wedi cyfrannu’n helaeth yn ei chymuned a’r tu hwnt dros iaith a diwylliant Cymru. Mae hi’n aelod gweithgar o Ferched y Wawr ers blynyddoedd lawer. Yn ystod ei chyfnod fel llywydd cenedlaethol y mudiad, bu’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwaith Cymorth Cristnogol drwy annog yr aelodau i gasglu bagiau a’u gwerthu er budd yr elusen. Bu’n weithgar ym maes dysgu Cymraeg, yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Swyddog y Dysgwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu Gill yn llywydd anrhydeddus yn Eisteddfod Caerdydd 2018.

Rosa Hunt
Yn wreiddiol o Malta, symudodd teulu Rosa Hunt, Pentre’r Eglwys, i Brydain pan oedd hi’n 15 mlwydd oed, oherwydd y sefyllfa bryderus yn ei gwlad. Erbyn heddiw, mae’n siaradwr Cymraeg hyderus, yn Gyd-bennaeth Coleg y Bedyddwyr Caerdydd, ac yn weinidog rhan-amser yn Eglwys y Tabernacl, Caerdydd. Mae’i chyfraniad i’w chymuned yn ardal Ton-teg yn aruthrol, fel rhan o’r tîm a sefydlodd y banc bwyd lleol, Caffi Shalom, sy’n croesawu’r ifanc a’r bregus, trefnydd clwb gwyliau i blant am flynyddoedd lawer, ac aelod o grŵp a gydweithiodd â’r cyngor lleol i groesawu sawl teulu o ffoaduriaid i’r ardal.

Awen Iorwerth
Yn enedigol o’r Rhondda, mae Awen Iorwerth wedi gwneud llawer i hyrwyddo addysg feddygol trwy’r Gymraeg. Yn sgil ei brwdfrydedd yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith o fewn meddygaeth, penodwyd Awen yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu addysg feddygol gyfrwng-Cymraeg, a hi a draddododd y ddarlith Gymraeg gyntaf erioed i fyfyrwyr y Coleg Meddygaeth. Erbyn hyn mae pob un o fyfyrwyr Coleg Meddygaeth Caerdydd, waeth beth fo’u cefndir ieithyddol, yn derbyn sesiynau sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg. Mae’n fraint i’r Orsedd gydnabod pwysigrwydd ei gwaith yn y maes hwn.

Gethin Lloyd James
Un o Lanarthne yw Gethin Lloyd James, ac mae’n ddyn ei filltir sgwâr. Ef a sefydlodd gwmni pensaernïaeth IAGO Cymru Cyf, sy’n darparu cynlluniau i bobl leol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hybu’r iaith mewn modd ymarferol. Roedd Gethin yn allweddol i’r fenter o geisio am arian i godi neuadd bentref yn Llanarthne, a agorodd yn 2008, wrth i ysgol y pentref gau. Aeth y neuadd o nerth i nerth, yn ganolfan a chalon i’r pentref a’r gymuned ehangach, gan ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau. Gethin fu’r trysorydd o’r dechrau, a theg dweud bod ei gyfraniad i ddiwylliant bro Llanarthne yn llwyr haeddu anrhydedd yr Orsedd.

Theresa Mgadzah Jones
Daeth Theresa Mgadzah Jones i Brydain o Simbabwe yn blentyn 12 oed, cyn symud i Gymru yn ddiweddarach ac ymgartrefu yng Nghaerdydd. A hithau’n ymfudwraig ei hunan, mae Theresa’n achub ar bob cyfle posibl i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg ymfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Bu’n gweithio i’r Groes Goch yng Nghasnewydd am flynyddoedd, yn cydlynu rhaglen ar gyfer merched, gan chwilio am ffyrdd i chwalu’r syniad na allai’r merched hyn ymdopi â dysgu Cymraeg ar ben y Saesneg. Cydweithiodd ag amryw o gyrff, gan gynnwys Dysgu Cymraeg Gwent a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cyrraedd y nod o gyflwyno’r Gymraeg i’r cymunedau newydd hyn o fewn ein cymdeithas.

David Lloyd-Jones
Mae’r Arglwydd David Lloyd-Jones CB, Pontypridd, yn Farnwr y Goruchaf Lys ac ysgolhaig yn y gyfraith. Bu’n aelod o Lys Lloegr a Chymru ac yn Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith. Ef oedd y cyntaf i draddodi dyfarniad yn y Gymraeg yn y Goruchaf Lys. Bu’n dysgu a darlithio ym Mhrifysgol Caergrawnt tra roedd yn aelod o’r Bar cyn mynd yn Farnwr. Tra roedd yn Llywydd Comisiwn y Gyfraith, arweiniodd waith ymchwil a diwygio arloesol a sicrhaodd ehangu rhychwant statudol y Comisiwn i gynnwys gweithio ar brosiectau i Lywodraeth Cymru. Mae’n Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru sy’n dwyn ynghyd ymarferwyr, barnwyr ac ysgolheigion y gyfraith i ystyried a gweithredu materion sy’n cynnwys addysg gyfreithiol a datblygiad y proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru.

Gerallt Pennant
Er mai Eifionydd yw cynefin Gerallt Pennant, bu’n athro yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Cwm Rhondda am gyfnod, cyn symud i fyd y cyfryngau. Mae Gerallt yn wyneb cyfarwydd ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, fel gohebydd y gogledd ar ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’, ac mae ‘Galwad Cynnar’ fytholwyrdd Radio Cymru wedi ysbrydoli cenedlaethau o wrandawyr. Mae gallu Gerallt i ymdrin ag amrywiaeth o feysydd, ac ymateb yn gynnes i bobl o bob math ac o bob cwr o’r wlad, yn peri ei fod yn un o’r cyflwynwyr gorau yn y Gymraeg, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

Ian Wyn Rees
Mae Ian Wyn Rees, Porth Tywyn, yn arbenigwr gastroberfeddol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, ac yn brif feddyg ar yr iau yn yr ardal leol. Mae’n un o ymddiriedolwyr gweithredol elusen Angor, sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog i gleifion canser neu afiechyd sy’n cyfyngu bywyd yn ardal Sir Gâr. Mae’n weithgar yn ei gymuned, wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgolion ac yn Gadeirydd Menter Cwm Gwendraeth Elli. Mae Ian hefyd yn ganwr brwdfrydig, wedi bod yn gadeirydd ac ysgrifennydd Côr Porth Tywyn. Mae wedi canu gyda nifer o gorau cymysg, gan gynnwys Côr Llanddarog. Mae’n gefnogwr brwd i’r Plygain ac yn canu’n gyson yng nghymanfaoedd canu yr ardal.

Rhuanedd Richards
Mae gwreiddiau Rhuanedd Richards, Pontypridd, yn ddwfn yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghwm Cynon, gyda’i rhieni’n mynd ati i ddysgu’r iaith fel oedolion. Mae wedi byw a magu’i theulu ym Mhontypridd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn dilyn cyfnod fel newyddiadurwr, ac yna’n gweithio ym myd gwleidyddiaeth, erbyn hyn mae’n gyfarwyddwr BBC Cymru. Er ei phrysurdeb, mae’n parhau i fod yn weithgar yn ei chymuned ym Mhontypridd ac yn hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ardal. Adlewyrchir ei hymrwymiad mawr i’n hiaith ac i Gymru yn ei bywyd bob dydd yn Rhondda Cynon Taf lawn gymaint ag ar lefel genedlaethol lle mae’n arweinydd uchel ei pharch.

David Roberts
Mae David Roberts, Caerffili, wedi gweithio ym maes addysg Gymraeg yn y Rhondda a Chwm Taf am bron i 30 mlynedd, gan ddysgu Cymraeg i filoedd o blant, a nifer helaeth ohonynt yn dod o aelwydydd di-Gymraeg. Bu’n arwain Clwb yr Urdd yn Ysgol Llwyncelyn, fel bod plant yn cael cyfle i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, a chychwynnodd glybiau pêl-droed Cymraeg, ac annog y plant hefyd i gystadlu yn yr Urdd. Yn ddirprwy bennaeth Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, mae’n ysgogi plant a staff ffrwd Saesneg yr ysgol i ddefnyddio’r Gymraeg. Bu David yn arweinydd ar raglen ‘Ffit Cymru’ yn 2019, gan ysgogi miloedd o bobl i fyw bywyd iachach.

Elfed Roberts
Ymddeolodd Elfed Roberts, Caerdydd, o’i swydd fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn dilyn chwarter canrif wrth y llyw. Datblygodd ac esblygodd yr Eisteddfod dan ei ofal, ac erbyn heddiw mae’n ŵyl fywiog a lliwgar sy’n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir, ond heb golli golwg ar ei gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru. Yn ystod ei gyfnod, teithiodd yr Eisteddfod i bob rhan o’r wlad, ac mae’r gwaddol ieithyddol a diwylliannol a adawyd ar ei hôl i’w weld yn glir ym mhob cornel o Gymru.

Elinor Snowsill
Tan ei hymddeoliad diweddar o rygbi proffesiynol, Elinor Snowsill, Pont-y-clun, oedd un o chwaraewyr amlycaf tîm merched Cymru. Bu hefyd yn llafar ei barn o blaid hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod yn y gêm ac yn flaenllaw yn cyflwyno’r gêm yn y Gymraeg – ar y cae ac ar y cyfryngau. Yn ei gwaith bob dydd, bu’n rhan o dîm School of Hard Knocks Cymru, elusen sy’n helpu plant ac oedolion dan anfantais i lwyddo drwy gyfrwng rygbi. Ers ei hymddeoliad, penodwyd Elinor yn Arweinydd Datblygu Chwaraewyr yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Prifysgol Met Caerdydd. Bydd ei mam, Nerys Howell, hefyd yn cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd eleni.

Derec Stockley
Mae Derec Stockley, Cefneithin, yn enedigol o Ffosygerddinen (Nelson), a chafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd. Bu’n ddarlithydd yn Llydaw, ac yn Bennaeth Adran Ffrangeg Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn dechrau ar yrfa nodedig yn CBAC lle daeth yn Gyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu yn 2001. Ymhlith ei gyfrifoldebau lu oedd sicrhau bod deunyddiau dysgu (digidol a phrint) yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Bu Derec yn weithgar hefyd gydag UCAC a Chymdeithas Edward Llwyd, ac mae’n llais cyfarwydd ar y cyfryngau, yn trafod newyddion a materion yn ymwneud â Llydaw a Ffrainc sydd o ddiddordeb i ni yng Nghymru.

Hazel Thomas
Mae Hazel Thomas, Cwm-du, Crucywel, wedi cyfrannu’n helaeth i gymunedau ei bro. Cafodd fagwraeth gerddorol iawn, a arweiniodd at gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn ifanc, ac aeth ymlaen i ymddangos fel unawdydd ar amrywiaeth o raglenni teledu a radio. Bu’n athrawes gerdd am 25 mlynedd a hefyd yn athrawes Cymraeg. Gwasanaethodd sawl gwaith ar bwyllgorau’r Eisteddfod Genedlaethol a bu’n gadeirydd Eisteddfod Cwm-du am dros chwarter canrif. Ymhlith ei chymwynasau eraill i’w bro, bu Hazel yn organyddes Eglwys Cwm-du ers tua 40 mlynedd. Braf yw ei hanrhydeddu eleni.

John Thomas
Barnwr Cyflogaeth yw John Thomas, Abertawe, yn ôl ei broffesiwn. Pan ddaeth Deddf yr Iaith Gymraeg i rym yn 1993, bu’n flaengar wrth sicrhau bod y broses weinyddol yn ddichonadwy cyn y gellid cyflwyno cais gerbron y barnwr, trwy sicrhau bod digon o weision sifil yn medru’r Gymraeg. Y canlyniad oedd trefnu rhyddhau staff i gael gwersi Cymraeg yn y gweithle – syniad cwbl arloesol ar y pryd. John, ynghyd a thri gŵr lleol arall, a gafodd y weledigaeth a arweiniodd at sefydlu canolfan Gymraeg Tŷ Tawe yn ninas Abertawe, a John ei hun yn gyfrifol am godi llawer o’r cyllid er mwyn gwireddu hynny. Dyma ddyn a weithiodd yn ddygn o blaid y Gymraeg yn lleol.

Meleri Tudur Thomas
Y Barnwr Meleri Tudur Thomas, Caernarfon, yw dirprwy lywydd Siambr Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. Fe’i magwyd yng Ngholeg Bala-Bangor a chychwynnodd ei gyrfa fel twrnai ym Mhontypridd dan arweiniad y diweddar Arglwydd Gwilym Prys Davies a Mr Cyril Moseley. Mae’n farnwr Uwch Dribiwnlys ac yn ddirprwy farnwr Uchel Lys, yn eistedd yng Nghymru ac yn y Llysoedd Brenhinol yn Llundain, yn un o’r ychydig a all gyflwyno dyfarniadau yn y Gymraeg. Mae’n farnwr yn Nhribiwnlys Addysg a Phanel Dyfarnu Cymru. Mae ar fwrdd golygyddol y ‘beibl’ cyfreithiol ynglŷn â phlant, ‘Clarke Hall & Morrison on Children’ ac yn un o awduron y gyfrol ‘Making Decisions Judicially’.

Noel Thomas
Un o werinwyr Môn yw Noel Thomas, Gaerwen, gŵr a wasanaethodd ei gymuned yn gydwybodol ac yn anhunanol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd sir. Ond daeth tro ar fyd yn 2006: fe’i diswyddwyd gan y Swyddfa Bost a’i garcharu am ffug-gyfrifo. Nid tan Ebrill 2021 yr adferwyd ei enw da pan gafodd ei glirio o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn y Goruchaf Lys. Fel un a ddioddefodd gamwri mawr dan law sefydliad cyhoeddus grymus, ond a ddaliodd i frwydro am gyfiawnder gan gadw ei hunan-barch a’i urddas drwy’r cyfan, mae’n gwbl briodol fod safiad Noel Thomas yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun drwy Orsedd Cymru.

Mark Vaughan
Magwyd Mark Vaughan, Llanedi, Pontarddulais, ger y Coed Duon ar aelwyd ddi-Gymraeg. Pan oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Feddygol Cymru, aeth ati i ddysgu Cymraeg, er mwyn cymdeithasu, er budd ei broffesiwn fel meddyg teulu yn Llanelli ac yn ddiweddarach er mwyn magu’i deulu ei hun. Ef oedd y Cymro cyntaf i dderbyn anrhydedd Cymrawd y Coleg Meddygol yn 1996, ac yn 2011 derbyniodd ganmoliaeth am ei gyfraniad rhagorol i feddygaeth deuluol. Ers saith mlynedd, mae’n gwirfoddoli yn Uganda gan ymweld ddwywaith y flwyddyn i gynnal clinigau mewn ardaloedd anghysbell lle nad oes gwasanaeth meddygol, ac mae’n cyflwyno’r neges ddyngarol i fudiadau, eglwysi, capeli ac ysgolion ar draws Sir Gâr a’r tu hwnt.

Megan Williams
Mae Megan Williams, talaith Efrog Newydd, UDA, yn brif olygydd ‘Ninnau’, papur bro Gogledd America sy’n ymddangos bob deufis. Hi hefyd sy’n bennaf gyfrifol am Gymdeithas Cymru-Gogledd America, ac yn trefnu Gŵyl Cymru Gogledd America bob blwyddyn. Mae wedi dysgu’r Gymraeg yn ardderchog, ac yn briod â Chymro Cymraeg o Wynedd. Yn ogystal, bu ei mam a’i thad hefyd yn weithgar ym mywyd ymarferol Cymry Gogledd America am flynyddoedd lawer. Mae bob amser yn barod ei chymwynas ac yn fodlon ymgymryd ag unrhyw dasg er mwyn hybu a helpu’r Cymry yng Ngogledd America, ac mae’n rhan annatod o’r cysylltiad pwysig sy’n parhau i fodoli rhwng y ddwy wlad.

Ynyr Williams
Ganwyd a magwyd Ynyr Williams yn Nhrawsfynydd, ond ymgartrefodd yng Nghaerdydd. Yn fardd, yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, rhwng 2007 a 2015 bu’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd ‘Pobol y Cwm’, cyn cael ei benodi yn Olygydd Cynnwys Radio Cymru am chwe blynedd. Uchafbwynt ei yrfa, fodd bynnag oedd, rhwng 2010 a 2021, bod yn gyfrifol am ochr ddarlledu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r BBC (gan gynnwys y ddwy flynedd heriol o ‘eisteddfodau amgen’). Yn ystod y cyfnod hwnnw fe brofodd Ynyr ei hunan yn wir gyfaill i’r Eisteddfod ac i’r Orsedd. Braint yw ei urddo eleni.