DIWRNOD CYMDEITHASOL YR ORSEDD, 26 Medi, 2026

Er bod Porthaethwy wedi profi cawod o law yn gynnar yn y dydd, bu gweddill Sadwrn 26 Medi yn sych a braf ar gyfer y diwrnod cymdeithasol ardderchog a gafodd aelodau’r Orsedd yng Nghanolfan Thomas Telford. Yn dilyn croeso gan Beti-Wyn James, yr Arwyddfardd, diolchodd i Helen Williams, rheolwraig y Ganolfan, a’r gwirfoddolwyr a fu’n gweini te/coffi wrth inni gyrraedd.
Y sgwrs gyntaf a gafwyd oedd ar “Cynan: achubwr a pheryglwr yr Orsedd?” gan y Prifardd Gerwyn Williams, a fu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a deilydd cadair bersonol yno. Mae Gerwyn yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, a beirniad cenedlaethol, a chyhoeddodd lyfr ar hanes Cynan yn lled ddiweddar. Nododd fod Cynan yn un o’r ddau berson mwyaf dylanwadol yn hanes yr Orsedd. Y llall oedd Iolo Morganwg, y sefydlydd. Cynan oedd yn gyfrifol am achub yr Orsedd yn yr ugeinfed ganrif, pan oedd yn destun cweryla gan ei bod mor anhrefnus. Ond ef, hefyd, oedd y mwyaf cyfrifol am ei pheryglu yn nes ymlaen. Gwelodd fudd ehangach i’r Orsedd gan y gallai ddod ag arian i goffrau’r Eisteddfod. Gwnaeth nifer o newidiadau – cyflwyno Cân y Cadeirio, dod yn Gofiadur, a chydweithio’n agos â D.R. Hughes, ysgrifennydd yr Eisteddfod, symudiad a arweiniodd at osod yr Eisteddfod a’r Orsedd ar sail ddiogel. Yn anffodus, fodd bynnag, roedd ymlyniad Cynan at y Gymraeg a’r Frenhiniaeth mor gryf â’i gilydd, ac yn 1969 pan fynychodd yr Arwisgiad, dangosodd rhai aelodau o’r Orsedd eu gwrthwynebiad, ac ni wyddys faint o Orseddogion a gollwyd oherwydd hyn. Er i Cynan wneud daioni yn y blynyddoedd cynharaf, ffaelodd gadw’i deimladau personol yn rhydd o weithgareddau’r Orsedd, a dyma a arweiniodd at ei gwymp. O hynny ymlaen tyfodd y diddordeb yn yr Orsedd, a bellach ceir mwy o aelodau nag erioed, gwell trefn, a nifer fawr iawn o ieuenctid yn dymuno ymaelodi.

Yn dilyn cinio blasus iawn yng Ngwesty’r Anglesey gerllaw, cafwyd ail sgwrs y dydd, ar “Pontydd y Fenai” gan Gareth Jones, peiriannydd sifil wedi ymddeol sydd bellach yn byw ym Mangor. Dechreuodd drwy sôn am y ffolt daearegol sydd yn y Fenai. Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i adeiladu ffordd i groesi o’r tir mawr i Fôn, a hynny gyda phontŵn, sef cyfres o gychod na fyddent yn parhau yn hir. Tua mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, gwnaed yr un peth eto. Wedyn, er mwyn allforio grawn o’r ynys i’r tir mawr, defnyddiwyd fferi, ond oherwydd y peryglon byddai’n rhaid croesi pan oedd y llanw’n isel. Roedd angen ffordd ddiogelach, a theimlwyd fod yn rhaid cael pont.
Thomas Telford (1757–1834) gafodd y cyfrifoldeb o gyflawni’r gwaith hwnnw. Brodor o’r Alban oedd ef, wedi’i fagu ar dyddyn bach, a dilynodd brentisiaeth fel saer maen, cyn mynd ymlaen i adeiladu miloedd o filltiroedd o ffyrdd a channoedd o bontydd gan gynnwys Pontcysyllte. Croesi’r Fenai oedd y gwaith mwyaf anodd a gafodd gan fod yn rhaid i’r bont fod 100 troedfedd uwch lefel y dŵr er mwyn i longau fynd dani. Ym 1826 y codwyd Pont y Borth. Ym 1938–1940 ail-wnaed y bont gan ddefnyddio cadwyni dur. Adeiladwyd pont arall, Pont Britannia, ar gyfer trenau, ar ffurf tiwb, ym 1850, a hynny gan Robert Stephenson (1803–1859). Rhoddwyd dau gerflun o lew bob ochr iddi, a chofir am ddisgrifiad enwog y Bardd Cocos ohonynt: ‘Pedwar llew tew heb ddim blew, dau ochr yma a dau ochr drew’. Diddorol oedd yr eglurhad ar sut y cafodd y bont yr enw “Britannia”, sef trwy gam-ddehongli’r enw Cymraeg ar y garreg y codwyd colofn canol y bont arni, sef Carreg y Frydain (o’r elfen ‘brwd’, yn cyfeirio at natur wyllt llif y dŵr). Wrth ailadeiladu’r bont ar ôl tân 23 Mai 1970, codwyd lôn i gerbydau uwchben y rheilffordd, ond nid yw’r llewod i’w gweld o’r lôn.

Yn dilyn, bu Huw Goronwy Owen, Cyn-dderwydd Gweinyddol Gorsedd Môn, yn siarad am “Gorsedd Môn”. Dywedodd fod Llys Eisteddfod Môn a Phwyllgor Gwaith Gorsedd Môn yn cyd-weithio. Cynhelir yr Eisteddfod Gadeiriol y trydydd penwythnos o fis Mai a hynny mewn gwahanol fannau bob blwyddyn, gyda’r cystadlaethau yn amrywio o leoliad i leoliad. Dechreuwyd cynnal yr Eisteddfod ym 1917 er bod eisteddfodau eraill ar yr Ynys cyn hynny, a daeth yn rhan annatod o fywyd yno. Am flwyddyn y parhâ cyfnod Llywydd yr Eisteddfod, ac am flynyddoedd yr Aelod Seneddol a lenwai’r swydd, ond un flwyddyn roedd yr AS yn ddi-Gymraeg (sef (Keith Best – a wnaeth ddysgu’r iaith yn ddiweddarach) a newidiwyd y patrwm. Lluniwyd Cyfansoddiad newydd i’r Orsedd, a sefydlogi cyfnod y Derwydd Gweinyddol yn dair blynedd. Cofiadur yr Orsedd yw’r ysgrifennydd, ac urddir aelodau newydd, naill ai i’r gwyrdd, y glas, neu’r gwyn, yn ystod y seremoni gyhoeddi flynyddol. Tyfodd y diddordeb yng Ngorsedd Môn, ond pryderir am ddyfodol Llys yr Eisteddfod oherwydd bod llai o ddiddordeb yn hwnnw, er bod y bobl ifainc yn dal i weld llwyfan yr Eisteddfod yn bwysig. Y gobaith yw bod dyfodol disglair iddi wrth bontio rhwng yr Eisteddfod a’r elfen ddi-Gymraeg yn y sir, a gwelir yn y noson wobrwyo gwaith celf a chrefft fod nifer o’r cystadleuwyr yn ddi-Gymraeg.
I gloi diwrnod bythgofiadwy, arweiniodd Kristopher Hughes griw bach o gerddwyr i Ynys Tysilio a rhannu ei wybodaeth ddiddorol am y lle. Gwelsom yr eglwys, bedd Cynan ac ambell fedd arall o ddiddordeb, gan gynnwys bedd John Evans, y Bardd Cocos. Yna aethpwyd i weld y cylch bach o feini’r Orsedd a leolir bron iawn o dan Bont y Borth.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu ynghlwm â llwyddiant y dydd, ac yn enwedig i Beti-Wyn am ei holl waith caled yn paratoi, a’i gofal o bawb ac o bob manylyn yn ystod y dydd.
Joan Thomas (Siwan Mererid)
Lluniau trwy garedigrwydd Jaci Taylor (Jaci o Rydycastell)