Newyddion

Newyddion

  • Hysbyseb swydd: Trefnydd Arholiadau’r Orsedd

    Hysbyseb swydd: Trefnydd Arholiadau’r Orsedd

     
    Yn sgil penderfyniad Trefnydd Arholiadau’r Orsedd, Gwyn o Arfon, i gamu i lawr o’i swydd ar ddiwedd Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae Bwrdd yr Orsedd yn gwahodd ceisiadau am olynydd iddo. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gysgodi’r Trefnydd presennol hyd at ddiwedd Eisteddfod 2026, gan ymgymryd â holl gyfrifoldebau’r swydd o fis Medi 2026 ymlaen.
     
    Swydd ddi-dâl yw hon, ond gellid hawlio treuliau rhesymol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn datgeliad DBS boddhaol.

    Dyletswyddau Trefnydd yr Arholiadau
    Yn ôl Cyfansoddiad yr Orsedd, cyfrifoldebau Trefnydd yr Arholiadau yw trefnu yr holl waith ynglŷn â phenderfynu maes ...

    Rhagor 02/10/2025
  • Cyhoeddi urddau’r Orsedd Eisteddfod Wrecsam

    Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2025

     

    Cyhoeddwyd enwau’r rheini fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni

    Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod ar gyrion dinas Wrecsam, fore Llun 4 Awst a bore Gwener 8 Awst.

    Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ...

    Rhagor 03/06/2025
  • Penodi Rhinedd Mair yn Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

    PENODI RHINEDD MAIR YN AROLYGYDD GWISGOEDD YR ORSEDD NEWYDD I OLYNU ELA JONES

    Rhinedd Mair (Rhinedd Williams) fydd yn olynu Ela Cerrigellgwm (Ela Jones) yn swydd Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.

    Un o Faenclochog, Sir Benfro yw Rhinedd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn graddio gyda Dosbarth 1af BA Anrhydedd yn y Dyniaethau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu wedyn yn Gofrestrydd y Coleg. Wrth fagu’r plant, bu’n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol. Ond dychwelyd i fyd gweinyddol oedd y nod, ac mae wedi gweithio yn Rheolwr Swyddfa i amryw o sefydliadau gan ...

    Rhagor 13/01/2025
  • Adnodd newydd – rhestr o aelodau’r Orsedd

    Adnodd newydd – rhestr o aelodau’r Orsedd

     

    A ydych chi erioed wedi meddwl pryd  y derbyniwyd rhywun i’r Orsedd? A beth oedd eu henw  yng Ngorsedd? Mae’r adnodd newydd hon a grewyd gan wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fodd ichi ddod o hyd  i lawer  o wybodaeth am aelodaeu’r Orsedd, ddoe a heddiw. Mae’n rhestr sy’n tyfu o hyd, a gwybodaeth newydd  yn cael ei hychwanegu ati’n gyson.

    Rhestr chwiliadwy o aelodau’r Orsedd dros  y blynyddoedd.  

    https://gorsedd.llyfrgell.cymru/

    Rhagor 01/10/2025
  • Sut mae dod yn aelod o’r Orsedd?

    Sut mae dod yn aelod o’r Orsedd?

     

    A fyddech yn hoffi dod yn aelod o’r Orsedd? Mae sawl ffordd y gall unigolion fod yn gymwys i’w hurddo’n aelodau, ond rhaid pwysleisio bod y gallu i siarad a deall Cymraeg yn amod i bob un ohonynt.

    • Trwy ennill un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol neu’r Urdd

    Mae enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn derbyn gwahoddiad i ymaelodi oddi wrth y Cofiadur. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig yn y flwyddyn yn dilyn eu llwyddiant, ac nid oes angen i’r enillwyr wneud dim. Mae’r Bardd Cenedlaethol a Bardd Plant Cymru ...

    Rhagor 30/01/2025
  • Swyddogaethau’r Orsedd

    Swyddogaethau’r Orsedd

    Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Sir Benfro yn Awst 2026 ac ymhlith yr uchafbwyntiau bydd seremonïau’r Orsedd a gynhelir yn y Pafiliwn. Mae cyfle i oedolion a phobol ifanc leol gymryd rhan flaenllaw yn y seremonïau hyn fel dawnswyr y ddawns flodau a chyflwynwyr y Corn Hirlas a’r Flodeuged. Bydd y rhai llwyddiannus hefyd yn cymryd rhan yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2026 a gynhelir ar 17 Mai eleni.

    Ceir manylion pellach yma: Swyddogaethau Gorsedd Cymru 2026 | Eisteddfod

    Sylwer mai’r dyddiad cau yw 23 Ionawr 2025

    Rhagor 13/01/2025
 

Rhestr o’r holl Newyddion