Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw 2017

Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd – Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw, 8 – 10 Medi 2017

Bu cyfuno Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd â Gŵyl y Gadair Ddu, Penbedw yn ystod y penwythnos, 8-10 Medi, 2017 yn syniad ardderchog ac yn llwyddiant ysgubol.  Ddydd Gwener, 8 Medi fe’n tywyswyd ar daith hanes oleuedig o amgylch Lerpwl gan y Parchedig Athro D. Ben Rees a braf oedd dysgu am gyfraniad, llwyddiant a mentergarwch Cymry Lerpwl yn y ddinas ac ardal Penbedw yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny.  Yn yr hwyr mwynhawyd pryd o fwyd blasus yng ngwesty’r Shankly, Lerpwl – gwesty sy’n deyrnged i’r chwaraewr a’r rheolwr pêl-droed enwog Bill Shankly. Yn wir, buom yn sefyll yn y gwesty dros y Sul a diolch i Deithiau Elfyn Thomas am drefnu llety i bawb.      

Ddydd Sadwrn, 9 Medi, treuliwyd 12 awr ddiddorol, addysgiadol a chofiadwy yng Ngŵyl y Gadair Ddu, a oedd wedi’i threfnu gan Bwyllgor y Gadair Ddu dan gadeiryddiaeth y Parchedig Athro D. Ben Rees ac a oedd yn cael ei chynnal yn Wirral Hospitals’ School, nepell dafliad carreg o leoliad Eisteddfod Genedlaethol 1917 ym Mharc Penbedw.  Yn ystod y dydd mwynhawyd llu o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol, yn cynnwys pedair darlith.  Y Parchedig Athro D. Ben Rees a draddododd y ddarlith gyntaf ar ‘Gymry Penbedw ac Eisteddfod y Gadair Ddu’.  Roedd hi’n agoriad llygad i ddysgu taw Cymry Lerpwl a’u cwmnïau adeiladu oedd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu sawl stryd ym Mhenbedw ac am godi nifer o’r capeli a’r twnel sy’n cysylltu Lerpwl a Phenbedw.  Dysgwyd, yn ogystal, fod David Evans, adeiladwr arall o Gymro wedi llwyddo i adeiladu pentref cyfan, sef Cloughton.  Ef hefyd oedd y prif gatalydd y tu ôl i Eisteddfod 1917, ef oedd wedi rhoi’r Gadair Ddu, a oedd yn werth 100 gini ar y pryd, sef £80,000 heddiw ac ef oedd wedi sbarduno codi’r gofeb i’r Eisteddfod ym Mharc Penbedw. 

Yr Athro Robert Lee a draddododd yr ail ddarlith ar ‘Y Cysylltiad Belgaidd’ a bu’n sôn am gefndir Eugeen Vanfleteren, ffoadur o ddinas Mechelen, Gwlad Belg a oedd yn gerflunydd dodrefn medrus ac a oedd wedi creu’r Gadair Ddu er mwyn talu gwrogaeth i Gymry Lerpwl am eu croeso iddo.  Traethu ar farddoniaeth a chefndir Hedd Wyn y bu’r Athro Peredur Lynch yn ystod y drydedd ddarlith a chafodd wrandawiad astud y gynulleidfa wrth gyfeirio at Hedd Wyn fel “un o blant y Gymru Gymraeg Ymneilltuol” ac yn “Fab Heddwch”.  Prif neges ei anerchiad oedd dadlennu’r gwahaniaeth rhwng yr Hedd Wyn real a’r Hedd Wyn yr ydym ni’n cofio amdano a Hedd Wyn y bardd filwr a’r bugail o fardd.

Dr Huw Edwards, cyflwynydd y newyddion ar y BBC a draddododd, yn ei ffordd ddihafal ei hun, ddarlith olaf y dydd ar David Lloyd George, a chyflwynodd ddarlun cytbwys o’r Cymro, a oedd yn Brif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  

Brynhawn Sadwrn cynhaliwyd y Seremoni Gadeirio yng ngofal yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen a braf oedd gweld bod teilyngdod a Martin Huws o Gaerdydd yn codi ar ei draed i ennill y gadair hardd, a oedd yn rhoddedig gan Gymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys, am ei gerdd ar y testun ‘Hedd Wyn’.  Roedd ôl meddwl dwys ar y gadair, a oedd yn gweddu i ganmlwyddiant Eisteddfod Cadair Ddu 1917, gan fod cefn a sedd y gadair wedi’u gwneud o estyll ac ambell dwll crwn ynddynt â’r pren o’u hamgylch wedi’i dduo.  Mewn modd effeithiol roedd yr estyll yn cynrychioli’r ffosydd a’r tyllau crwn yn cynrychioli tyllau bwledi.  

Coronwyd dau berson ifanc dan 19 mlwydd oed hefyd yn ystod y prynhawn gyda’r ddefod eto yng ngofal yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen.  Enillwyd y goron am gerdd Saesneg ar y testun ‘Hero’ gan Brodie Powell o Benbedw ac enillwyd y goron am gerdd Gymraeg ar y testun ‘Yr Arwr’ gan Nest Jenkins o Ledrod, Ceredigion.

Yn ystod y dydd hefyd dadorchuddiwyd cofeb ym Mharc Penbedw i Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a Phenbedw a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bu’r seremoni yn un deimladwy ac urddasol ac fe’i llywiwyd gan Dr Huw Edwards ym mhresenoldeb cynrychiolwyr o Gyngor Cilgwri, Cyngor Lerpwl, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor y Gadair Ddu, Llywodraeth Gwlad Belg, Cymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys a’r Lluoedd Arfog.  

Yn yr hwyr, cawson ein difyrru gan Gôr Ieuenctid Ynys Môn dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard, Côr Rygbi Gogledd Cymru dan arweiniad Geraint Roberts o Brestatyn, y tenor ifanc Huw Ynyr o Rydymain a’r telynor dawnus Dylan Cernyw. 

Fore Sul cynhaliwyd oedfa fendithiol yng Nghapel Seion, Laird Street, Penbedw lle y cynhaliwyd y rhagbrofion yn ystod Eisteddfod 1917 ac yn y prynhawn cynhaliwyd cymanfa ganu yn yr un lleoliad, gyda’r capel dan ei sang, dan arweiniad Dr Alwyn Humphreys, a oedd wedi bod yn organydd yno pan yn ifanc.  Cafwyd datganiadau cerddorol hefyd gan Gôr Meibion Orffiws Rhosllannerchrugog dan arweiniad Eifion Wyn Jones.  Bu’r cydganu gorfoleddus yn y gymanfa yn glo bendigedig i’r penwythnos o weithgareddau a diolch i’r Parchedig Athro D. Ben Rees, Pwyllgor y Gadair Ddu a Phwyllgor Etifeddiaeth Glannau Mersi am gynnal y digwyddiad clodwiw ac am ein croesawu i’w plith. 

Carol Thomas / Carol o’r Mwdwl  

Anrhydeddau 2017

Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Ynys Môn

 

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau’r rheiny a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a bore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Rhestr lawn y Wisg Las

Yn wreiddiol o Swydd Stafford, daeth Bob Daimond, Porthaethwy, i weithio i Gyngor Sir Gwynedd ar ddechrau’r 80au, lle dysgodd Gymraeg, a daeth yn Gyfarwyddwr Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd.  Ers ei ymddeoliad, bu’n weithgar iawn gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai, sy’n gyfrifol am Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy.

Urddir Richard Crowe, Caerdydd, am ei arbenigedd ym myd y gyfraith i’r broses o greu deddfwriaeth i’r Gymraeg yng nghyd-destun datganoli, ynghyd â’i feistrolaeth o’r Gymraeg. Yn wreiddiol o Sir Dorset, dysgodd y Gymraeg ar ei liwt ei hun cyn mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth.

Er bod ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Sir Benfro, De Affrica yw cartref Tony Davies ers blynyddoedd bellach.  Bu’n Llywydd y ‘Welsh Cambrian Society’ ac mae’n Gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg yn Ne Affrica ers deng mlynedd ar hugain.  Ef yw Cadeirydd Côr Cymry De Affrica ers ugain mlynedd, ac mae ganddo gysylltiadau lu gyda chymdeithasau Cymraeg ar draws y byd.   

Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw.

Mae David Ellis, Y Dref Wen, Sir Amwythig, yn rhan allweddol o fywyd Cymraeg yr ardal. Ef yw Llywydd Clwb Cymraeg Croesoswallt, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod ar bwyllgorau Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gan weithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2016.

Mae Phyllis Ellis, Penisarwaun, yn un o arweinwyr ei chymuned leol yn ardal Caernarfon.  Mae’n Gynghorydd Cymuned, llywodraethwr ysgol, Cadeirydd Pwyllgor y neuadd gymuned a Chadeirydd Pwyllgor Eisteddfod y pentref.  Yn gyn-bennaeth ysgol, bu’n Gadeirydd mudiad Cefn ac mae’n Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd yn Nant Gwrtheyrn.

Mae Gwynfryn Evans, Rhydypennau, yn arweinydd cymdeithasol ac yn uchel ei barch ym mhob cylch, gan fod yn hynod weithgar yn ei gymuned a’i gapel.  Bu’n gweithio yn y sector llaeth drwy gydol ei yrfa, gan gychwyn yn Llangefni a Maldwyn cyn dod yn rheolwr Ffatri Laeth Felin-fach ac yna’n rheolwr De Cymru a Chanolbarth Lloegr i’r Bwrdd Marchnata Llaeth.   

Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd.  Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.  Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw’r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws).   

Bu Elwyn Hughes, Llanfairpwllgwyngyll, yn arwain maes dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru am dros 30 mlynedd.  Datblygodd y gwasanaeth i godi safonau ac ysbrydoli tiwtoriaid a dysgwyr gan arwain drwy esiampl.  Derbyniodd Dlws Elvet a Mair Elvet Thomas am ei gyfraniad i’r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.

Pysgota yw prif ddiddordeb Hugh Price Hughes, Bethel, Caernarfon, ac mae’n ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni ers blynyddoedd.  Yn ogystal, mae’n un o’r prif ymgyrchwyr dros gadwraeth a gwarchod y torgoch, pysgodyn prin sy’n byw yn rhai o lynnoedd Eryri.

Bydd rhai pobl yn adnabod Huw John Hughes, Porthaethwy, fel gweinidog rhan amser, eraill yn ymwybodol o’i waith fel darlithydd addysg, ac eraill yn cysylltu’i enw gydag atyniad Pili Palas ar gyrion Porthaethwy.  Bu hefyd yn ddyfarnwr pêl droed gan godi i wasanaethu yng nghynghrair Cenedlaethol Cymru.

Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd. Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.

Mae’n debyg bod gan bob bro a chymuned ei harweinyddion, ac mae Arwel Lloyd Jones, Llanuwchllyn, yn bendant yn un o’r rhain yn lleol.  Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar iawn o’i gymuned, yn drefnydd greddfol ac wedi treulio degawdau’n gwasanaethu a chynorthwyo unigolion ar adegau o angen, yn ogystal â chynnig cymorth i nifer o sefydliadau a chymdeithasau’r plwyf.   

Mae Geraint a Meinir Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig eu bro a thu hwnt dros y blynyddoedd.  Gyda’r ddau yn gweithio ym myd addysg, cafodd cenedlaethau o blant eu hysbrydoli gan eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant, gyda Meinir yn hyfforddi disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd i ganu fel unigolion, mewn partïon a chorau mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd. Mae Geraint yn aelod blaenllaw o nifer o gymdeithasau diwylliannol, ac yn amlwg ei gefnogaeth i gorau lleol, gan gynnwys Côr Meibion Dwyfor.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio un o sêr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd, Helena Jones, Aberhonddu, a oedd fisoedd yn unig yn fyr o’i phen blwydd yn gant oed, pan fu’n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn.

Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau.  Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw.   

Mae Lisa Lewis Jones, Brynaman, wedi bod yn weithgar yn lleol ar hyd y blynyddoedd.  Bu’n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ddrama’r Gwter Fawr, cymdeithas sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddol drwy gystadlu yn y cystadlaethau actio drama.  Mae wedi bod yn diddanu cymdeithasau lleol drwy gyflwyniadau, adrodd ac actio.

Bu Mari Jones, Llanfaethlu, yn fawr ei chymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, gan weithio’n wirfoddol i’r ŵyl am chwarter canrif, gyda’i chwaer, Dwynwen Hawkins. Byddai’r ddwy i’w gweld yn gwerthu tocynnau yn y Swyddfa wrth y brif fynedfa, ac yn wynebau cyfarwydd i filoedd o eisteddfodwyr.

Mae Mary Jones, Trefor, yn derbyn yr anrhydedd oherwydd ei gwaith yn trefnu Eisteddfod Aelhaearn dros y blynyddoedd, gan gadw’r Eisteddfod yn hyfyw a llwyddiannus. Mae eisoes wedi’i anrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad.

Un sydd wedi gweithio’n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol yw Michael Jones, Caerdydd, gan ymgyrchu’n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.

Mae Siân Merlys, Pontiets, Llanelli, wedi cyfrannu llawer iawn i fyd Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd, gan drefnu a hyrwyddo cyrsiau dysgu Cymraeg yn ardal Sir Gâr. Mae’n aelod o Banel Canolog Dysgwyr yr Eisteddfod, a bu’n Gadeirydd am nifer o flynyddoedd, gan arwain y gwaith a’r agenda dysgu Cymraeg o fewn yr Eisteddfod yn ddyheuig.

Yn un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern, efallai bod June Moseley, New Plymouth, Seland Newydd, wedi symud yn bell erbyn hyn, ond mae Cymru a’r Gymraeg yn parhau’n rhan bwysig o’i bywyd.  Yn wreiddiol o ardal Mostyn, Sir y Fflint, mae’n gweithio’n ddyfal i sicrhau bod Cymry yn ei rhanbarth yn dod i adnabod ei gilydd, a drws ei chartref, ‘Plas Mawr’, bob amser ar agor i groesawu ymwelwyr o Gymru.

O Fôn y daw Phil Mostert, Harlech, yn wreiddiol, yn Nyffryn Ardudwy mae’i gartref ers blynyddoedd, a’r gymdeithas yno sydd wedi elwa o’i gyfraniad sylweddol mewn nifer o feysydd.  Yn gyn Uwch-ymgynghorydd Addysg ac Arolygydd Ysgolion, roedd yn un o sefydlwyr y papur bro ‘Llais Ardudwy’, ac mae’n un o’r golygyddion ers bron i ddeugain mlynedd ac ef hefyd sy’n cysodi’r papur.

Dyn ei filltir sgwâr yw Alun Mummery, Llanfairpwllgwyngyll, a’i gyfraniad i’r filltir honno’n sylweddol dros y blynyddoedd.  Yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanfairpwll ers hanner canrif eleni, bu hefyd yn gynghorydd sir dros ei ardal leol yn Llanfairpwll, Porthaethwy, Star a Phenmynydd, ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol.   

Efallai iddo gael ei eni yn King’s Lynn, ond magwyd George North, Northampton, yng ngogledd Môn gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bodedern, dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni.  Mae’n un o chwaraewyr rygbi mwyaf disglair ei genhedlaeth, gan gychwyn ar ei daith i garfan y Llewod yng Nghlwb Rygbi Llangefni, cyn symud i Goleg Llanymddyfri ac yna’r Scarlets, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan yn ddim ond deunaw oed.

Efallai mai fel cyn-bostfeistres Tegryn, Crymych a HendyGwyn-ar-Daf mae Jean Parri-Roberts, HendyGwyn-ar-Daf, yn fwyaf adnabyddus, gan iddi hi roi 55 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned leol yn gosod ei stamp drwy’i chyfraniad diymhongar gan drin pawb â pharch a gofal.  Ond, mae’i chyfraniad i’r iaith, diwylliant a’i milltir sgwâr yn llawer ehangach na hyn.   

Un o feibion Môn yw Donald Glyn Pritchard, Llannerch-y-medd, a’i gyfraniad i fywyd yr ynys yn sylweddol.  Yn athro a phennaeth cynradd cyn ei ymddeoliad, bu’n weithgar gyda’r Urdd am flynyddoedd, yn gyfrifol am amryw o ganghennau.  Treuliodd gyfnod hirfaith – o 1965 tan 2003 – yn weithgar gyda Chlwb Ieuenctid ac Aelwyd y Gaerwen, gan ddylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc Môn.

Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod.

Mae Gwerfyl Roberts, Y Groeslon, Caernarfon, wedi gweithio’n ddiflino i wella ansawdd darpariaeth y gwasanaeth iechyd yn y cyd-destun dwyieithog ers blynyddoedd. Mae ganddi gyhoeddiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar bynciau amrywiol, gan osod y sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.

Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts.  Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru.   

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl-droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru.   

Bu David a Ruth Roberts, Llanelen, Y Fenni, yn gwbl allweddol i lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd.  Roedd y ddau’n gyd-gadeiryddion Pwyllgor Apêl y Fenni, gan weithio’n ddi-ffael am gyfnod o ddwy flynedd i godi arian at yr Eisteddfod.   

Efallai mai ardal Winnipeg, Manitoba, Canada yw cyfeiriad Carol Sharp ers dros ddeugain blynedd bellach, un o ferched Môn ydyw mewn gwirionedd, ac mae dylanwad yr ynys a Chymru’n gryf arni hyd heddiw.  Cafodd yrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith yng Nghanada, yn Farnwr a fu’n flaenllaw ei gwaith yn cynrychioli hawliau lleiafrifoedd ac ieithyddol, gan arbenigo mewn cyfraith sifil.   

Mae Caerfyrddin yn ddyledus iawn i Wyn Thomas, am ei ymroddiad i’r Gymraeg a byd busnes yn y dref dros y blynyddoedd. Mentrodd yn ifanc drwy agor Siop y Pentan, siop a ddaeth yn Ganolfan Gymraeg i’r dref, gan werthu llyfrau, recordiau, cardiau, posteri, tocynnau – popeth a oedd yn ymwneud gyda’r iaith yn lleol a chenedlaethol.

Er ei fod yn byw yn Seland Newydd ers 32 o flynyddoedd, mae’n amlwg fod Derek Williams, Auckland, yn Gymro i’r carn.  Bu’n hyrwyddo Cymru a’i diwylliant yng nghymuned Auckland ers blynyddoedd lawer, ac mae’i gyfraniad i lu o gymdeithasau, gan gynnwys Clwb Cymraeg Auckland, Cymdeithas Gymraeg Auckland a Chymdeithas Dawnsio Gwerin Cymreig Auckland, yn enfawr.

Mae cyfraniad Ifor Williams, Llanfaglan, Caernarfon, i’w filltir sgwâr yn arbennig ar nifer o lefelau. Yn uchel ei barch fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bontnewydd, ef hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Bro Llanwnda, sy’n parhau’n ganolfan fyrlymus a diwylliannol bwysig yn yr ardal.  Mae’n rhan allweddol o’r prosiect cenedlaethol digidol, Llên Natur ac yn un o sefydlwyr, aelod gweithgar a thrysorydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, dangosodd Irfon Williams, Bangor, ymroddiad ac angerdd yn ei waith, gan dderbyn Gwobr Nyrs Plant y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012.  Yn 2014 cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr, a chan weld effaith cemotherapi ar rai merched, aeth ati i sefydlu elusen ‘Tîm Irfon’ i godi arian i Apêl Awyr Las er mwyn talu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a’u teuluoedd.

Mae Robyn Williams, Y Fali, wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cymunedol ei dref enedigol, Caergybi.  Yn bartner mewn cwmni o gyfreithwyr sydd â swyddfa yn y dref, ef yw cyfreithiwr mygedol yr Eisteddfod eleni, ac wedi gwneud llawer ym myd y gyfraith i gefnogi a chynorthwyo mudiadau a sefydliadau lleol.

Y Wisg Werdd 

Gellid dadlau bod enw Linda Brown, Gerlan, Bethesda, yn gyfystyr â byd y ddrama yng Nghymru gan iddi fod yn ganolog i fyd y theatr Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd.  Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws o’r cychwyn, mae wedi llwyddo i greu perthynas cwbl unigryw gyda chymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan ddenu llu o bobl i brofi theatr Gymraeg ar lawr gwlad.

Mae cyfraniad Elonwy Davies, Llanybydder, i ddiwylliant a Chymreictod ei hardal yn amhrisiadwy. Mae’n gweithio’n ddygn gyda CFFI a’r Urdd yn lleol a sirol, a phob amser yn fwy na pharod i gyfeilio a hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau lu, gan gredu bod trosglwyddo’i doniau cerddorol i’r genhedlaeth nesaf yn bwysig tu hwnt.

O Gasnewydd y daw Pamela Davies, Acton, Wrecsam, yn wreiddiol, ond mae’n byw yn y gogledd ddwyrain ers pan oedd yn blentyn.  Yn gantores arbennig, enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 a 1970, ynghyd ag ennill amryw o gystadlaethau canu eraill. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes a dirprwy bennaeth cynradd, aeth ati i ddysgu Cymraeg, a mynychu cyrsiau ysgrifennu creadigol.

Yn wreiddiol o Ddeiniolen, mae Siân Wyn Gibson, Llanwnda, Caernarfon, yn adnabyddus i gynulleidfa’r Eisteddfod fel cantores yn ogystal â hyfforddwr rhai o’n cantorion ifanc mwyaf disglair. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn canu’n broffesiynol gyda nifer o gwmnïau, dychwelodd Siân i ogledd Cymru lle mae’n canolbwyntio ar waith oratorio, cyngherddau a chynnig gwersi canu yn ei chartref ac i blant yn ardal Conwy drwy’i gwaith.  

Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro. Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera.  Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru.

Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru.  Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016.

Un sydd wedi cyfrannu’n werthfawr i’n diwylliant cerddorol ers blynyddoedd, ac yn arbennig i’r byd cerdd dant, yw Glesni Jones, Llandwrog, Caernarfon. Bu’n arwain Parti Lleu, yn hyfforddi, gosod a threfnu cerddoriaeth i’r parti am dros ugain mlynedd gan ennill llu o wobrau. Datblygodd Parti Lleu yn Gôr Arianrhod, a bu’r côr yn cefnogi’r Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd dan ei harweinyddiaeth.

Dau efaill yw Emyr Wyn Jones, Gwalchmai, a Trefor Wyn Jones, Pentre Berw, sydd yn adnabyddus am eu gwasanaeth i gerddoriaeth ym Môn am flynyddoedd.  Maent wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn cannoedd o gyngherddau a chymanfaoedd canu, ac wedi bod yn aelodau o nifer o gorau, gan gynnwys Cantorion Colin Jones, dros y blynyddoedd. 

Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig.  Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru.   

Rhoddodd Rhodri Jones, Penarth, oes o wasanaeth i addysg Cymraeg ail iaith yn ne ddwyrain Cymru, gan dreulio ugain mlynedd fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Fechgyn y Barri, fel athro ymgynghorol gyda chyfrifoldeb am ail iaith yn ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro ac fel Arolygwr gydag Estyn.  Ond mae’i gyfraniad yn llawer ehangach na hyn, gyda’i ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, yn arbennig dawnsio gwerin.

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn.  Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.

O Rosygwaliau ger Y Bala’n wreiddiol, mae Elen Wyn Keen, Llangristiolus, yn byw ym Môn ers blynyddoedd bellach ac yn cyfrannu i fywyd cerddorol yr ynys.  Mae’n delynores a phianydd fedrus, sy’n rhoi o’i hamser i nifer o eisteddfodau, cyngherddau, sefydliadau ac ysgolion yn lleol ac yn ehangach.  Hi yw cyfeilydd swyddogol Ysgol Glanaethwy ers 1997, ac mae wedi cyfeilio’n genedlaethol i’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Mae Jeanette Massocchi, Y Fenni, yn rhan o fyd cerddorol Cymru ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n sylweddol i’r maes, fel cyfeilydd, beirniad a hyfforddwraig. Bu’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd tan 2004, ond gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni’r llynedd, penderfynodd ail-gydio yn ei gwaith a chyfeilio a hyfforddi Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chyfeilio’n ystod yr wythnos ei hun.

Fel ‘Derec Teiars’ mae pawb yn adnabod Derec Owen, Llanfairpwllgwyngyll, gan iddo weithio fel rheolwr siop deiars yn Llangefni am flynyddoedd.  Yn 1982, sefydlodd Gymdeithas Hogia Paradwys, sy’n codi arian i elusennau ym Môn a Gwynedd, gan weithredu fel Ysgrifennydd, Cadeirydd a Llywydd, a chan godi degau o filoedd o bunnau.  Bu’n cyflwyno rhaglenni i Radio Ysbyty Gwynedd am bron i 30 mlynedd, ac yn tynnu lluniau i bapurau bro Ynys Môn ers canol y 1970au.   

Actores, awdures ac addysgwraig yw Mari Rhian Owen, Aberystwyth, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym myd y theatr broffesiynol.  Mae ganddi arbenigedd ym maes theatr ysgolion a theatr gymunedol, ac yn gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch fel Actores Rheoli, sy’n arwain gweithdai drwy ddrama. Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon.   

I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw. Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’.  

Y byd gwerin sy’n mynd â bryd Huw Roberts, Llangefni, ac mae’i gyfraniad i’r maes, yn gerddorol ac ym maes ymchwil, yn sylweddol ers degawdau.  Yn aelod o’r grŵp Cilmeri ac yna 4 yn y Bar, mae Huw yn ffidlwr o fri sydd wedi’i drwytho mewn alawon a hanes cerddoriaeth gwerin yng Nghymru ac wedi ysbrydoli llawer o ieuenctid trwy hyfforddi ar gyrsiau ffidil dros y blynyddoedd.

Mae Rhian Roberts, Bangor, wedi addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ers blynyddoedd yn sgil ei gweledigaeth hi a’i gŵr, Cefin Roberts, wrth sefydlu Ysgol Glanaethwy dros chwarter canrif yn ôl.  Fel cyfarwyddwr cerdd côr iau’r ysgol, mae Rhian wedi creu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer llu o bobl ifanc, gan eu harwain i fuddugoliaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rhoi cyfle i’r criw ifanc deithio’r byd yn perfformio.

Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru.  Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol.

Enw sy’n adnabyddus tu hwnt i unrhyw un sy’n dilyn y byd cerdd dant ac alawon gwerin yng Nghymru yw Anwen Williams, Dinbych. Dyma wraig sydd wedi gwneud cyfraniad oes i wasanaethu ei hardal ei hiaith a’i chenedl. Yn feirniad cenedlaethol, gwirfoddolwr gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a’r Eisteddfod Genedlaethol pan yn lleol, mae nifer fawr o bobol wedi elwa o’i hymroddiad di-flino’n hyfforddi llu o unigolion a phartïon canu a cherdd dant.

 

Ymweliad ag Erddig ger Wrecsam, 2016.

Roedd criw ohonom wedi ymgynnull yn y Ramada ar fore Sadwrn, yr ail ar bymtheg o Fedi ac wedi dod o hyd i’r coffi a oedd wedi ei ddarparu ar ein cyfer! Yn dilyn hyn cawsom ddwy wledd a’r gyntaf ohonynt oedd darlith ar blas Erddig gan Gareth Vaughan Williams a’r llall oedd bwffe blasus a drefnwyd ar ein cyfer gan yr Arwyddfardd.

2016m09d17erddig_1920Disgrifiodd Gareth ei hun fel gŵr byr ei daldra ond gwelsom ei fod yn gawr o hanesydd! Aeth â ni yn ôl dros dair canrif i’r cyfnod pan adeiladwyd y darn cyntaf o’r plas gan rannu ei wybodaeth fanwl o’r datblygiadau ar y safle o’r pryd hynny hyd y dydd heddiw. Ond nid y plas oedd yr adeilad cyntaf ar beth sydd heddiw’n dir Erddig, ychydig i’r de o dref Wrecsam. Awn yn ôl sawl canrif arall i’r amser pan sefydlwyd castell mwnt a beili yno ar gyfer llywodraethwr y rhan hon o ogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau. Y mae’r olion yn dal yno.

Ar ôl rhoi cefndir yr adeilad inni trodd Gareth wedyn at hanesion difyr am bron bob sgweiar a fu’n berchen ar stâd Erddig! Y diweddaraf oedd Philip Yorke a etifeddodd y plas ym 1966. Roedd hwnnw yn ymddangos i mi yn dipyn o ecsentrig – dyn oedd yn mynnu marchogaeth ei feic peni-ffardding o gwmpas yr ardal! Roedd dau o’r beiciau hyn wedi eu cadw ac yn cael eu harddangos yn un o’r adeiladau nid nepell o’r stablau. Yn y stablau, gyda llaw, roedd tri cheffyl Shire hardd ac yn annisgwyl, mewn stolion eraill gerllaw, dau ful! Credaf y byddai’n well gen i eu gweld allan ar y caeau yn hytrach nag yn gaeth mewn stablau er mwyn diddori’r ymwelwyr.

Bu cryn ddirywiad yng nhyflwr yr adeilad dros y blynyddoedd ac un o’r prif resymau oedd ymsuddiad anwastad oherwydd y gweithfeydd glo yn ddwfn oddi tanodd. Gwariwyd arian sylweddol yn cywiro hyn gan ddod â’r adeilad yn ôl i gyflwr gweddol wastad. Yn y cyflwr hwn yr etifeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y stâd gan addo, yn y broses, i dderbyn a chadw holl drugareddau’r Sgweiar Yorke. Ond wedi gweld y pethau hyn sylweddolem gymaint o hanes sydd wedi ei gadw ynddynt. Wrth gwrs, ymysg y ‘pethau’ mae gwrthrychau drudfawr hefyd gan gynnwys un portread gwych gan Gainsborough.

Adferwyd y gerddi gan yr Ymddiriedolaeth i gyflwr pur agos at y gwreiddiol. Lle bu defaid PhilipYorke gynt yn pori rhwng drain a mieri mae heddiw ôl blynyddoedd o waith cywrain garddwyr proffesiynol. Ac os âf yn ôl yno eto, mi wnaf hepgor y tŷ a chrwydro wrth fy mhwysau drwy’r gerddi a’r mil o aceri o’u hamgylch gan ddiolch i’r Arwyddfardd a Gareth am agor fy llygaid i’r fath wychder.

Llŷr Dafis Gruffydd

Cyhoeddi Anrhydeddau’r Orsedd 2016

Anrhydeddau’r Orsedd

Cyhoeddwyd anrhydeddau Gorsedd y Beirdd am 2016. Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod. Linc i’r Cyhoeddiad >> Linc

2016 05 AnrhydeddauLinc

Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd 2015

Troedio strydoedd Cwmderi . . .

Wrth eistedd o flaen ein setiau teledu yn nosweithiol i wylio Pobol y Cwm, go brin fod gan y rhan fwyaf ohonom y syniad lleiaf faint o unigolion sydd wedi bod wrthi’n llafurio am fisoedd lawer i sicrhau bod y bennod ddiweddaraf yn cyrraedd y sgrin yn ei ffurf orffenedig mor ymddangosiadol ddiymdrech. Codi cwr y llen ar holl gymhlethdod y broses hon oedd cymwynas Lisabeth Miles ac Ynyr Williams wrth ein croesawu i Gwmderi ddydd Sadwrn, 3 Hydref 2015. A dyna beth oedd agoriad llygad i’r 34 ohonom (yn aelodau o’r Orsedd a gwesteion) a drodd ein golygon tua Bae Caerdydd ar gyfer chweched cyfarfod cymdeithasol blynyddol yr Orsedd trwy drefniadaeth drylwyr Yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor.

Fe’n croesawyd i Ystafell Seligman yng Nghanolfan y Mileniwm gan Yr Archdderwydd Christine a drosglwyddodd yr awenau i un o hoelion wyth y gyfres, sef Lisabeth Miles, sydd wedi chwarae rhan Megan er y cychwyn; o fod ymhlith aelodau ieuengaf y cast ar y cychwyn, y mae hi bellach ymhlith y rhai hynaf yng Nghwmderi. Aeth yn ei blaen i olrhain y prif gerrig milltir yn hanes y gyfres – o’r geiriau cyntaf a lefarwyd gan y diweddar Charles Williams (Harri Parri) yn stiwdios Broadway, ‘Bore da, Magi Mathias’, yn y bennod gyntaf a ddarlledwyd ar 16 Hydref 1974, hyd heddiw, pan fo’r gyfres yn rhannu holl dechnolegau modern cyfresi teledu fel Casualty a Dr Who yn stiwdios Porth y Rhath ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd. Rhannodd Lisabeth Miles o’i phrofiad cyfoethog fel actores brofiadol, gan dynnu ar atgofion deugain mlynedd yn y gyfres (a grëwyd gan y diweddar John Hefin a Gwenlyn Parry).

Persbectif y cynhyrchydd (tan yn gynharach eleni) a gafwyd gan Ynyr Williams, a rannodd gyda ni holl gymhlethdodau rhesymegol rhoi cyfres nosweithiol at ei gilydd, gyda 260 o benodau yn cael eu darlledu dros 52 wythnos. Gyda chynifer â 28 o sgriptwyr yn ysgrifennu ar gyfer y gyfres, mae’r broses ysgrifennu – o’r trafodaethau cychwynnol hyd at baratoi fersiynau terfynol y sgriptiau ar gyfer ffilmio – yn cymryd oddeutu naw mis. Ac yna mae angen amserlennu’r holl waith ffilmio: tua 16-18 golygfa bob dydd, gan gymryd i ystyriaeth pa actorion sydd ar gael, pa stiwdios sy’n rhydd, pa leoliadau allanol sydd eu hangen, a beth yw gofynion gwisgoedd, colur a chelfi. Cur pen go iawn – yn enwedig o ystyried bod oddeutu 80 o bobol yn gweithio ar y gyfres bob dydd, gyda’r ffilmio yn cychwyn am 9.00 y bore ac yn gallu parhau tan 7.00 yr hwyr !

Ar derfyn orig ddadlennol iawn yng nghwmni Lisabeth ac Ynyr – a oedd yn gyfuniad gwerthfawr o safbwyntiau actores a chynhyrchydd – fe gawsom barhau i drafod yn anffurfiol wrth gymdeithasu dros ginio ym Mwyty Ffresh y Ganolfan, cyn ymlwybro ar draws y Bae i ymweld â’r lleoliadau ffilmio yn stiwdios Porth y Rhath. Profiad rhyfedd iawn oedd troedio ystafelloedd ‘cyfarwydd’ cartrefi cymeriadau megis Mark Jones, Meic Pierce a Garry Monk a loetran yn hamddenol wrth far y Deri, cyn mentro allan i’r awyr agored a chrwydro palmentydd Heol Llanarthur ar y ‘lot’. Roedd y cyfan yn ymddangos yn llawer llai nag y mae ar y sgrin ! Cyn ymadael, cawsom ein tywys drwy’r swyddfeydd a’r ystafelloedd coluro a gwisgo – yr adrannau hollbwysig hynny sydd ‘tu ôl i’r llenni’ ac o olwg y gynulleidfa gartref, ond sydd mor allweddol ar gyfer sicrhau rhediad esmwyth y gyfres.

Wrth adael ‘Cwmderi’ ar ddiwedd diwrnod hynod addysgiadol, roedd pawb ohonom yn teimlo i ni gael agoriad llygad gwirioneddol i holl beirianwaith rhoi cyfres deledu at ei gilydd mewn modd ymarferol a diddorol. A’r tro nesaf y byddwn yn gwylio un o benodau Pobol y Cwm, rwy’n siwr y byddwn yn llawer mwy gwerthfawrogol o’r cyfan sy’n digwydd yn y dirgel er mwyn gwneud i’r hyn sy’n ymddangos ar ein sgrin fod mor broffesiynol a diymdrech.

Diolch o galon i Lisabeth Miles ac Ynyr Williams am ein tywys drwy ‘strydoedd cefn’ Cwmderi ac i Dyfrig (a Bethan) am drefnu’r achlysur ar ein cyfer.

Gwyn o Arfon
Hydref 2015

Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd – 2014

Taith i grombil mynydd Elidir…..

Mae Gwibdaith yr Orsedd wedi tyfu i fod yn dipyn o drip Ysgol Sul ac yn hawlio ei le yn yr amserlen Orseddol bob mis Medi ers rhai blynyddoedd bellach. Y tro yma, trefnwyd ymweliad â Gorsaf Bŵer Dinorwig yn Llanberis ac fe fanteisiodd dros ddeugain o Orseddogion ar y cyfle i ymweld â’r fangre ryfeddol hon ym mherfeddion Eryri.

Mae Llanberis yn un o’r ‘can lle i’w gweld cyn marw’ medd John Davies a Marian Delyth yn y llyfr o’r un enw. Tref fechan o oddeutu dwy fil o drigolion, ond tref â chanddi gymaint o atyniadau difyr – castell Dolbadarn a adeiladwyd yn 1225 gan Llywelyn ap Iorwerth, Amgueddfa Lechi Cymru , trên bach yr Wyddfa wrth gwrs, ac yn fwy diweddar, y rhyfeddod mwyaf eto, Gorsaf Bŵer Dinorwig a agorwyd yn 1984.

Mae’r orsaf yn pwmpio dŵr o Lyn Peris sydd gan metr uwchben lefel y môr i Lyn Marchlyn sydd 580 metr uwchben lefel y môr ; mae’r dŵr wedyn yn syrthio 480 metr i’r generaduron sydd yn yr ogof danddaearol fwyaf erioed a grewyd gan ddyn, cyn cael ei bwmpio nôl o Lyn Peris i Marchlyn dros nos pan fo’r galw am drydan yn isel. Syml! Ond nid felly y broses o gynllunio a chreu yr Orsaf.

Cawsom ddwy awr ddifyr iawn o sgyrsiau yn ein paratoi ar gyfer ein ymweliad â’r orsaf danddaearol.
Rhannodd yr Arwyddfardd Dyfrig gyfrinachau y ‘slide rule double sided’ gyda ni yn ei anerchiad ‘Atgofion hen Beiriannydd’. Ymhell cyn dyfodiad y cyfrifiadur, fe wnaethpwyd llawer iawn o waith arloesol yma yn Dinorwig. Clywsom am ail gyfeirio afon Nant Peris i Lyn Padarn; am sut y bu iddynt dyllu i’r prif geudwll gan greu gofod sydd cymaint â dau gae pel droed o hyd ac yn gyfystyr ag adeilad 16 llawr o uchder. Clywsom am y cymhlethdod o dwneli a grewyd i deithio drwyddynt, pum milltir o ffyrdd, a phum milltir pellach o dwneli dŵr. Os fu yna erioed ddiwrnod llawn ystadegau, wel dyma fo, a rydw i’n falch o allu dweud na fu prawf ar ddiwedd y dydd, neu mi fyddwn yn siwr o fod wedi methu.

Cawsom gyflwyniad arall diddorol gan Geraint Wyn Jones, Rheolwr Gweithrediadau First Hydro. Fe’n hebryngwyd gan Geraint ar ôl cinio, yn ein netiau gwallt gwyn a’n hetiau caled, mewn bws i grombil y mynydd, a chael rhyfeddu at y campwaith ymddangosiadol amhosib, a grewyd ar safle hen chwarel Dinorwig. Cawsom y cyfle amheuthun i ymweld â phrif ystafell weithredol yr Orsaf, rhywbeth nad ydy pawb yn cyfranogi ohono.

Ymweliad gwefreiddiol yn wir. Diolch i Dyfrig am drefnu.

Gwenda Griffith / Gwenda Pen Bont

Ymweliad â’r Gardd Fotaneg 2013

YMWELIAD AELODAU’R ORSEDD
 GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU

Er i ddydd Sadwrn, Medi 21 wawrio’n ddiwrnod digon mwll, buan iawn (ar ôl paned a chacen!) y cododd ein calonnau ni’r ymwelwyr â’r ardd ryfeddol hon yng nghanol harddwch Sir Gâr.
Ac i mewn â ni i’r theatr i wrando ar ddau hyddysg a huawdl yn eu priod feysydd. Yn gyntaf, Rhodri Clwyd Griffiths, un o sylfaenwyr cynharaf yr Ardd Fotaneg, a’n goleuodd ynghylch ei thwf a’i datblygiad o’r hedyn a blannwyd ganol y 1990au nes gwireddu’r weledigaeth fawr ymhen pum mlynedd.
Sonia Crwys, yn ei gerdd ‘Y Border Bach’, mai drwy blannu ‘Gwreiddyn bach gan hwn-a-hon / Yn awr ac yn y man . . .’ y llwyddodd ei fam i greu ‘Yr Eden fach’. Crewyd yr Ardd Fotaneg gan wyddonwyr a chynllunwyr a chanddynt freuddwyd ddrudfawr. A chodi arian oedd y nod cyntaf, a hynny mewn dulliau amryfal: gan unigolion; drwy gyfraniad hael y Loteri Genedlaethol; drwy benderfyniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i brynu caeau ac adeiladau’r ffermydd cyfagos; ynghyd â rhoddion sylweddol gan ambell filiwnydd!
Erbyn hyn, gallwn ymfalchïo yn y ffaith bod yr Ardd Fotaneg bellach yn sefydliad cenedlaethol bydenwog, blaengar ym meysydd botaneg a garddwriaeth, cadwraeth a chynaladwyaeth.
Planhigion meddygyniaethol oedd pwnc Bethan Wyn Jones, ac yn ei dull gwybodus a bywiog arferol, cawsom wledd o wybodaeth am y planhigion hyn sy’n ffynnu mewn cloddiau ac mewn gerddi. Bysedd y Cŵn, Mantell Mair, Chwerwlys yr Eithin a’r Hen Ŵr; dyma enwau tlws rhai yn unig o’r stôr planhigion y credwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, ac y credir hyd heddiw, ofergoel neu beidio, bod ganddynt y gallu i leddfu neu i wella llu o anhwylderau – o’r ddannodd i waedlif, o effeithiau ‘storgatsho’ (gorfwyta!) i reoli curiad y galon, heb sôn am ddifa chwain a llyngyr! Ac ar y nodyn iachus hwnnw, fe’n tywyswyd – a’r haul, erbyn hyn, o’n plaid – i grwydro ymhlith y planhigion niferus hyn mewn gardd fach bwrpasol ar eu cyfer ac i ymweld â siop apothecari hen ffasiwn.
Daeth ein tro ninnau i ‘storgatsho’ dros bryd o fwyd sylweddol, hynod flasus cyn ymweld â’r tŷ gwydr enfawr sy’n gartref i blanhigion o bedwar ban byd. A chael cyfle i ddysgu, nid yn unig am y planhigion hyn a’r modd yr eir ati i’w meithrin a’u gwarchod, ond hefyd am yr awyrgylch angenrheidiol ar gyfer eu cynnal. Ac ar ben hyn oll, fe’n tywyswyd ar hyd twneli dirgel, tanddaearol yr adeilad – nad yw’r cyhoedd, fel arfer, yn cael ymweld â hwy. Ond waeth cyfaddef ei bod yn braf camu allan unwaith eto at yr haul!
Diolch i’r Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor, am drefnu gwibdaith hapus a llwyddiannus arall ar ein cyfer – un o gyfres, erbyn hyn – sy’n fodd i gyfuno dysgu am bynciau newydd â mwynhau cymdeithasu ag ‘eneidiau hoff cytûn’.
Dyfrig, edrychwn ymlaen at y wibdaith nesa!

Manon Rhys

Y Llyfrgell Genedlaethol 2012

Trydydd cyfarfod cymdeithasol y Gorseddogion

 

Ddydd Sadwrn, 22 Medi 2012 daeth trigain o aelodau a charedigion Gorsedd y Beirdd at ei gilydd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar gyfer eu trydydd cyfarfod cymdeithasol. Yn dilyn cyfarfodydd cymdeithasol blaenorol yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn 2010 ac ym Mhortmeirion y llynedd, roedd pob ffordd Orseddol yn arwain i Aberystwyth eleni a chafwyd diwrnod i’w gofio – a hynny ‘yn wyneb haul llygad goleuni’ yn llythrennol.

Fe’n croesawyd yn swyddogol i’r Llyfrgell – ac i’r ‘Drwm’ – gan Lyn Lewis Dafis a gyfeiriodd at y ffaith fod sefydlu llyfrgell genedlaethol i Gymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn gwbl unol â syniadaeth Iolo Morganwg am ddiogelu ‘cof cenedl’. Wedi gair byr gan Yr Archdderwydd Jim Parc Nest, trosglwyddwyd yr awenau i’r Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood a aeth ati mewn ffordd afaelgar ac ysbrydoledig i’n diddanu (a’n haddysgu) am ein hetifeddiaeth lenyddol, gan gychwyn gyda ffilm yn amlinellu hanes y Llyfrgell Genedlaethol. Os oeddem wedi meddwl cael eistedd yn ôl yn seddau cyfforddus y Drwm i wrando ar Mererid yn sgwrsio, fe’n siomwyd – oherwydd roedd hi wedi mynd at i gynllunio cwis gweledol ar ein cyfer a buan iawn yr oedd pawb ohonom wedi ymgolli yn y lluniau a ymddangosai ar y sgrin o’n blaenau. Bu cryn grafu pen a chwilio cilfachau’r cof i geisio datrys mwy nag un pos a dyfalu pa eisteddfod oedd yn gysylltiedig â’r lluniau a lifai o flaen ein llygaid ! Aeth awr heibio yn llawer rhy gyflym wrth i ni ymgiprys â’n gilydd am wobr fawr y diwrnod – copïau wedi’u fframio o ran o awdl arobryn ‘Ffin’ yr Archdderwydd presennol, Jim Parc Nest (‘epilog’) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau, a’r gerdd ‘gollwng’ o gasgliad buddugol yr Archdderwydd etholedig, y Prifardd Christine, yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau. Aelodau’r tîm a ddaeth i’r brig (o un marc yn unig) oedd Hefin Jones, Huw Tomos, Alwena Lewis, a Gwyn Lewis.

Wedi i ni gael ein gwala a’n gweddill ym Mwyty Pendinas, cafwyd cyfle i gael golwg ar arddangosfa o greiriau’r Orsedd a baratowyd yn arbennig ar ein cyfer, cyn cael ein harwain gan dywyswyr y Llyfrgell i grombil yr adeilad i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ar y casgliadau gwerthfawr sy’n cael eu diogelu yno – yn llawysgrifau, llyfrau, mapiau, a lluniau, heb sôn am y deunydd digidol diweddaraf. Dim ond gobeithio i bawb lwyddo i ddod o’r celloedd yn ddiogel …

Daeth diwrnod hynod bleserus i ben yn llawer rhy fuan dros baned yn y bwyty cyn i bawb ohonom ffarwelio â’n gilydd tan y cyfarfyddiad gorseddol nesaf. Y mae ein dyled yn fawr i’r Arwyddfardd Dyfrig ab Ifor a’i wraig Bethan am eu trefniadau trylwyr ar gyfer y diwrnod, ac os oes gan unrhyw aelod o’r Orsedd syniadau am leoliad addas ar gyfer cyfarfod cymdeithasol y flwyddyn nesaf, gofynnir i chi nodi hynny wrth Dyfrig. Pwy a ŵyr beth fydd yr arlwy ar ein cyfer y flwyddyn nesaf – a beth, tybed, fydd y wobr y tro hwnnw … ?

Gwyn o Arfon

Cymdeithasu yng Nghastell Deudraeth 2011

 

Ddydd Sadwrn, 17 Medi, 2011 daeth yn agos at hanner cant o aelodau’r Orsedd o bob rhan o Gymru at ei gilydd i Gastell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, ar gyfer ein hail achlysur cymdeithasol blynyddol a drefnwyd gan Yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor. Yn awyrgylch unigryw a thrawiadol y castell Fictorianaidd a brynwyd gan Syr Clough Williams-Ellis yn 1931 (taid y perchennog presennol, y Prif Lenor Robin Llywelyn), cafwyd cyfle i glywed hanes yr adeilad a’r ystad gan Robin ei hun, cyn mwynhau orig ddymunol yn cymdeithasu uwch pryd hyfryd o fwyd. Croeswyd pawb yn gynnes gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest, ac wedi gorffen gwledda cafwyd cyfle i grwydro o gwmpas gerddi’r Castell ynghyd â mynd i lawr i bentref hynod Portmeirion i fwynhau’r golygfeydd a’r bensaerthiaeth hynod.
Diolch i’r Prif Lenor Robin Llywelyn am ein croesawu i’w ‘gartref’ ac i Dyfrig ab Ifor am ei drefniadau manwl a gofalus (gan gynnwys sicrhau digon o ysbeidiau heulog ynghanol diwrnod o gawodydd trwm !). Os oes gan unrhyw aelod o’r Orsedd syniadau am leoliad addas ar gyfer cymdeithasu y flwyddyn nesaf, byddai Bwrdd yr Orsedd yn falch iawn o glywed gennych.
Gwyn o Arfon.