Urddau’r Orsedd 2023

Urddau’r Orsedd 2023

 

Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu hurddo i Orsedd Cymru yn 2023

GWISG WERDD

Aled Davies
Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cyfraniad Aled Davies, Chwilog i’w gymuned ac i’w grefydd yn enfawr. Yn weinidog bro sy’n gyfrifol am chwe chapel, mae Aled hefyd yn gyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Mae’n gyfrifol am drefnu presenoldeb Cytun ar Faes yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol, ac mae ar fwrdd y cylchgrawn Cristion. Ef hefyd sy’n dylunio a gosod y papur bro lleol, Y Ffynnon. Mae Aled yn trefnu llu o weithgareddau’n lleol gyda’r capeli’n cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw, gan gynnwys nifer o gymdeithasau llenyddol.

Heulwen Davies
Urddir Heulwen Davies, Dolanog am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny’n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae Heulwen wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae Heulwen wedi rhoi’r gorau i arwain yr Aelwyd, ac fe’i croesewir i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.

Jeffrey Howard
Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.

Edwin Humphreys
Mae Edwin Humphreys, Pentreuchaf yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol y sîn roc, sydd wedi bod yn hanfodol bwysig ym mrwydr y Gymraeg er hanner can mlynedd. Mae wedi chwarae gyda mwy o fandiau Cymraeg na’r un cerddor arall, ac i’w glywed ar gant o albymau! Bu’n dilyn gyrfa fel nyrs seiciatryddol gyda cherddoriaeth yn gyfeiliant i’w waith, a daeth yn arbenigwr ar therapi meddylgarwch drwy gerddoriaeth. Erbyn hyn mae’n helpu to newydd o gerddorion, gan ymweld ag ysgolion i roi gwersi ac i arwain bandiau pres. Mae’n athro cwbl ysbrydoledig.

Marion Loeffler
Magwyd Marion Loeffler, Caerdydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Ar ôl graddio, symudodd i Gymru, a bu’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth gan arbenigo ar hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y 18fed ganrif a’r 19eg. Bellach mae’n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. A hithau wedi ymchwilio i etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Iolo Morganwg, ynghyd â chyfrannu’n helaeth at hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, priodol iawn yw derbyn Marion yn aelod o’r Orsedd.

Ywain Myfyr
Bu adfywiad yn y byd cerddoriaeth werin Gymraeg yn y 1970au, gydag Ywain Myfyr, Dolgellau ar flaen y gad fel un o sefydlwyr Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau, ac fel aelod o Cilmeri a Gwerinos. Yn y 1990au, cyd-sefydlodd Sesiwn Fawr Dolgellau, gŵyl ddylanwadol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig, Gymraeg a Cheltaidd, yn ogystal â’r iaith ei hun. Bu ei frwdfrydedd a’i egni diflino yn gweithio dros Ddolgellau, cerddoriaeth a’r Gymraeg yn rhyfeddol. Esgorodd y Sesiwn Fawr ar ambell ŵyl ymylol a hefyd ar sefydlu Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, ac mae Ywain Myfyr yng nghanol y trefnu bob amser.

Richard Owen
Brodor o Fynydd Mechell, Ynys Môn yw Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy’i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd. Cyfrannodd yn helaeth i’r Eisteddfod fel Cadeirydd y Panel Llên Canolog am wyth mlynedd, ac fel aelod cyn hynny, a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Llên lleol Eisteddfod Ceredigion 2022. Bu’n weithgar yn ei gymuned leol dros y blynyddoedd, gyda Chymdeithas y Penrhyn, Cyngor Cymuned Trefeurig, papur bro Y Tincer a Phlaid Cymru.

Mari Lloyd Pritchard
Yn enedigol o Ros-meirch, magwyd Mari Lloyd Pritchard, Biwmares ar aelwyd gerddorol, a chafodd ei thrwytho yn y byd corawl. Bu’n gyfrifol am ailsefydlu Theatr Ieuenctid Môn, sydd wedi ysgogi diddordeb cannoedd o blant a phobl ifanc ym myd y theatr. Yn 2006, sefydlodd Gôr Ieuenctid Môn, ac mae’n rhoi o’i hamser bob wythnos i arwain y Côr Iau a’r Côr Hŷn. Erbyn hyn, mae hi hefyd yn arwain Encôr, côr ar gyfer aelodau dros 60 oed. Gwnaeth Mari gyfraniad enfawr i fyd cerddoriaeth a gwaith ieuenctid yng Nghymru, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Carlo Rizzi
Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth yn arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd. Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi. Mae ganddo egni deinamig, dealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a’r gallu i ymgysylltu â’r gerddorfa a’r gynulleidfa mewn ffordd hynod enigmatig ac emosiynol. Braint yw ei groesawu i’r Orsedd.

Esyllt Nest Roberts de Lewis
Yn wreiddiol o Bencaenewydd, aeth Esyllt Nest Roberts de Lewis i Batagonia fel athrawes dan y Cynllun Dysgu Cymraeg bron i ugain mlynedd yn ôl. Yno cyfarfu â’i gŵr, Cristian ac mae ganddynt ddau fab, Idris a Mabon sydd wedi eu magu yn siarad Cymraeg. Mae Esyllt yn hynod weithgar yn y gymuned Gymraeg yn y Wladfa, bu’n olygydd Y Drafod ac yn ysgrifennydd Gorsedd y Wladfa, a hi yw Arweinydd Cymru a’r Byd yn yr Eisteddfod eleni. Mae’n gyn-enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa, ac mae’n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd.

Gareth Roberts
Dyn pobl a dyn ei fro yw Gareth Roberts, Deiniolen. Bu’n gweithio’n ddygn dros les pobl ifanc Menter Fachwen, disgyblion ysgol a phobl ei ardal i greu cyfleoedd iddynt ddod i adnabod eu bro a chyfranogi yn ei hanes a’i diwylliant. Creodd archif leol o enwau ponciau Chwarel Dinorwig, hanesion am gymeriadau a diwylliant bro. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn ddiarhebol, ac mae’n ysbrydoli pawb â’i sgyrsiau, teithiau a’i arddangosfeydd. Argraffodd gyfres o fapiau cerdded sy’n olrhain hanes a hyrwyddo enwau lleoedd, a bu’n arwain teithiau cerdded i’r rheini sy’n awyddus i wella’u hiechyd corfforol a meddyliol.

Glyn Tomos
Dwy ffactor sy’n gyrru Glyn Tomos, Caernarfon, sef y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol, a thrwy gydol ei oes, yn wirfoddol neu’n gyflogedig, mae wedi cadw at y ddwy egwyddor yma. Tra’n fyfyriwr prifysgol ym Mangor, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu UMCB i warchod hawliau myfyrwyr Cymraeg. Ar ddiwedd y 1970au sefydlodd y cylchgrawn Sgrech er mwyn adlewyrchu’r sîn roc Gymraeg, gan roi hyder i Gymry ifanc siarad yr iaith a chanu yn Gymraeg. Pan symudodd i Gaernarfon, aeth ati i sefydlu Papur Dre, papur bro a ddathlodd ei 200fed rhifyn eleni.

Gareth ‘Neigwl’ Williams
Bob mis mae Gareth ‘Neigwl’ Williams, Botwnnog yn cyfrannu colofn i’w bapur bro, Llanw Llŷn, o dan y teitl ‘Llên y Llanw’ – cybolfa ddifyr dros ben o sgwrs, dyddiadur, atgofion ac athroniaeth gadarn yr awdur. Llŷn, yn hanesion a chymeriadau a dywediadau llafar gwlad, yw’r deunydd, a dyma yw prif ddiddordeb Gareth. Mae ei gerddi coffa yn y papur i gymeriadau Llŷn yn gofnod unigryw hefyd. Yn fardd gwych ond gwylaidd iawn a Chymreigydd praff, byddai’n ei alw’i hun yn ‘fardd gwlad’ – bardd Gwlad Llŷn – ond mae ei grefft yn ei godi i safon bardd cenedlaethol.

Sioned Wyn
Mae Sioned Wyn, Cricieth yn un o’r cynhyrchwyr teledu mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Trwy gyfrwng ei gwaith gyda Chwmni Teledu Chwarel, profodd y gellir rhedeg cwmni llwyddiannus mewn unrhyw ardal yn y byd, ac roedd gwneud hyn yn ardal Eifionydd yn bwysig iawn i Sioned ei hun. Mae naws a natur Gymraeg a Chymreig i’w rhaglenni, boed rheini’n gyfrwng-Gymraeg neu Saesneg. Enillodd wobrau BAFTA, RTS a Broadcast am ei gwaith, ac mae’n mwynhau hyfforddi pobl ifanc i weithio yn y diwydiant darlledu yma yng Nghymru.

 

GWISG LAS

Mabon ap Gwynfor
Mae’r gwleidydd Mabon ap Gwynfor, Cynwyd yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd er 2021. Yn ymgyrchydd egwyddorol, mae’n adnabyddus ledled Cymru am ei ddaliadau gwrth-ryfel ac fel eiriolydd angerddol dros heddwch. Mae hefyd yn credu yn yr angen i rymuso cymunedau, ac felly’n weithredwr cymunedol: cyd-sefydlodd Menter Gymunedol Cynwyd er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o siop y pentref, a Phwyllgor Menter Ysgol Llandrillo er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o’r ysgol leol ar ôl ei chau.

Pedr ap Llwyd
Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Pedr ap Llwyd, Aberystwyth yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Mae’n gymwynaswr adnabyddus, ac fel rhan o’i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu’r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb. Mae’n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, ac yn Ynad Llywyddol er bron i ugain mlynedd.

Anwen Butten
Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r Orsedd yn falch o’r cyfle i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i’r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022. Mae Anwen hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Meryl Davies
Mae Meryl Davies, Dinas, Pwllheli wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, ac yn 2016, cyrhaeddodd restr fer gwobr genedlaethol i ferched sy’n cyflawni. Bu’n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, ac fe gododd £40,000 at Sefydliad y Galon yn ystod ei chyfnod wrth y llyw. Yn gyn-reolwr ward yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, bu’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfathrebu â chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n weithgar yn ei chymuned, yn organydd yn ei chapel ac yn aelod blaenllaw o’r gangen leol o Ferched y Wawr.

Owain Idwal Davies
Urddir Owain Idwal Davies, Llanrwst am ei fod yn manteisio ar bob cyfle i ysbrydoli pobl ifanc i oresgyn anawsterau, i ymuno â’i gilydd i fwynhau gweithgareddau amrywiol a gwthio’u ffiniau i’r eithaf. Ar ôl wynebu cyfres o lawdriniaethau pan oedd yn ifanc, penderfynodd na fyddai unrhyw rwystr corfforol yn ei ddal yn ôl, gan fynd ati i ragori fel rhedwr, nofiwr a beiciwr. Yn y gwasanaeth hamdden ac yna yn y weinidogaeth, mae Owain wedi bywiogi’i fro drwy egnïo’r iaith a rhannu’i gariad at ddiwylliant a chwaraeon, gan hybu Cristnogaeth ymarferol.

Dyfrig Davies
Urddir Dyfrig Davies, Llandeilo am roi blynyddoedd o gefnogaeth, yn wirfoddol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau bod diwylliant Cymru a’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’n Gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig COVID-19 a dathliadau’r canmlwyddiant yn 2022. Yn Gadeirydd TAC, mae’n rhan allweddol o’r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu. Mae Dyfrig bob amser yn anelu’n uchel, yn cefnogi’n daer ac yn dangos angerdd mawr dros Gymru a’r Gymraeg.

Hywel Edwards
Mae Hywel Edwards, Padog, Betws-y-coed yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.

Marian Edwards
Mae Marian Edwards, Padog, Betws y Coed yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.

Siân Eirian
Bu’r Urdd yn ddylanwad mawr ar fywyd Siân Eirian, Llangernyw, a Siân yn ddylanwad anferth ar yr Urdd, gan iddi weithio’n ddiwyd dros y mudiad am ran helaeth o’i gyrfa, o’i chyfnod fel aelod o Aelwyd Bro Cernyw i’w gwaith fel Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau. Hi hefyd fu’n gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C, gan lwyddo i gyflwyno i blant raglenni addysgiadol ac adloniadol a enillodd wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Kenneth Fitzpatrick
Yn gyn-swyddog morwrol harbwr a harbwr-feistr ym Mhwllheli, Porthmadog a’r Bermo, bu Kenneth Fitzpatrick, Morfa Nefyn yn weithgar fel gwirfoddolwr arweiniol gyda Chlwb Hwylio Pwllheli yn yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau Plas Heli, a chyda Bad Achub Porthdin-llaen. Bu’n gweithredu fel gwirfoddolwr, is-gapten a mecanic ac fel rheolwr gweithgareddau’r bad achub am dros ddeugain mlynedd i gyd. Â chanddo oes o wasanaeth ffyddlon i gadw’r traddodiad morwrol yn fyw a diogel i bobl ifanc yr ardal, mae Ken yn llawn haeddu cydnabyddiaeth gan Orsedd Cymru eleni.

Mared Gwyn Jones
Â’i gwreiddiau yn Nefyn a Llanbedrog, Mared Gwyn, Brwsel yw llais Cymru yn Ewrop. Mewn cyfnod o helynt a thor-perthynas ag Ewrop, mae’n ymateb i ddigwyddiadau’n braff a graenus ar y cyfryngau gan gadw’r trafod a’r dadansoddi o safon ryngwladol, yn y Gymraeg. Yn hyderus mewn pum iaith, mae Mared a’i hagwedd agos-atoch yn llysgennad medrus i Gymru a’r Gymraeg, ac yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc trwy osod y Gymraeg a Chymru’n rhan o’r sgwrs fawr wleidyddol gyfoes.

Aled Hughes
Er ei fod yn byw ar Ynys Môn erbyn hyn, mae Aled Hughes, Llanfairpwll yn un o Hogia’ Llŷn, a’i wreiddiau’n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni. Mae’n cyflwyno rhaglen gylchgrawn ddyddiol ar Radio Cymru sy’n llwyfan hygyrch i drafod ein hiaith, hanes Cymru, gwyddoniaeth a sawl pwnc arall a oedd, cyn hyn, yn cael sylw ar raglenni arbenigol yn unig. Mae Aled hefyd wedi teithio Cymru gan ei herio’i hun yn gorfforol, a thrwy hynny llwyddodd i godi miloedd o bunnoedd at elusen Plant mewn Angen.

Kristoffer Hughes
Yn wreiddiol o Lanberis, bu Kristoffer Hughes, Bodorgan yn gweithio fel technegydd patholegol, yn cynnal archwiliadau post-mortem ar gyfer y Crwner yng ngogledd orllewin Cymru. Daeth ei waith fel swyddog galar a phrofedigaeth â chysur i nifer fawr o deuluoedd, gan iddo gynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae Kristoffer hefyd yn adnabyddus fel y comedïwr drag, Magi Nogi, ac mae’n bennaeth Urdd Derwyddon Môn, sy’n dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau hynafol.

Terry Jones Hughes
Yn ddi-os, mae Terry Jones Hughes, Tudweiliog yn un o hoelion wyth ei filltir sgwâr a’i gymuned leol. Yn amaethwr tan iddo ymddeol, mae’r capel a’r diwylliant Cymraeg yn Llŷn yn agos at ei galon, a bu’n gweithio’n ddistaw a diflino i ddiogelu’r gwerthoedd hynny a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Mae’n aelod gweithgar o nifer o sefydliadau a grwpiau lleol, gan gynnwys y Cyngor Plwyf a Phwyllgor Llên yr Eisteddfod eleni, ac mae ei gyfraniad i’r cyfan oll yn gyson ddoeth a gwerthfawr.

Andrew John
Mae’r Parchedicaf Andrew John yn Esgob Bangor er 2009 ac yn Archesgob Cymru er 2021. Erys ei brosiect cenedlaethol, ‘Bwyd a Thanwydd’, lle ymgysylltai ag archfarchnadoedd a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, yn agos at ei galon. Cefnogodd y defnydd o Gadeirlan Bangor fel canolfan frechu gymunedol yn ystod y pandemig, ac mae wedi cydweithio ar Brosiect Llan, sy’n hyrwyddo diwylliant, iaith a’r ffydd Gristnogol Gymreig mewn modd cyfoes, wrth gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn Esgobaeth Bangor. Fel aelod o Fainc yr Esgobion, mae’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg a Christnogaeth Gymreig, ac mae’n cefnogi ‘Cwrs Croeso’ yr Eglwys yng Nghymru, sy’n annog clerigwyr newydd i ddysgu Cymraeg.

Christine Jones
Urddir Christine Jones, Pwllheli am ei chyfraniad diflino i gymuned ei milltir sgwâr dros flynyddoedd lawer. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o athroniaeth Christine, ac mae bob amser yn barod ei chymwynas, gan wirfoddoli gyda nifer o grwpiau a sefydliadau lleol. Yn gefnogwr brwd yr Ŵyl Cerdd Dant a’r Eisteddfod, chwaraeodd ran flaenllaw yn codi arian yn lleol eleni. Hi fu’n gyfrifol am greu’r sesiynau ‘Pnawn Difyr’ ar gyfer yr Ŵyl Cerdd Dant, ac mae’r rhain wedi parhau ers hynny, yn waddol pendant i’w gwaith ardderchog yn ei bro.

Dewi Bryn Jones
Dewi Bryn Jones, Garndolbenmaen
 yw prif arloeswr technolegau’r iaith Gymraeg. Gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg. Ef yw arweinydd tîm yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sydd wedi datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg, a hefyd technoleg cyfieithu peirianyddol Cymraeg<>Saesneg. Gan rannu’i amser rhwng Cymru a Helsinki yn y Ffindir, mae Dewi wedi arloesi ym maes technoleg y Gymraeg at anghenion pobl anabl a’r cyhoedd yn gyffredinol, gan osod esiampl i gymunedau ieithyddol bach eraill.

Hywel Jones
Mae Hywel Jones, Ysbyty Ifan yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.

John Llyfnwy Jones
Fyddai John Llyfnwy Jones, Llithfaen ddim yn John heb Lithfaen, a fyddai Llithfaen ddim yn Llithfaen heb John Llyfnwy – mae’n rhan mor annatod o’r pentref. Roedd yn un o brif sylfaenwyr Tafarn y Fic, tafarn gymunedol gyntaf Ewrop, a chryfder mawr John yw ei barodrwydd a’i amynedd i feithrin a chynnig arweiniad i bobl ifanc lleol. Pan sefydlwyd Menter yr Eifl yn sgîl cau’r siop a’r swyddfa bost – a bygythiad gweld y pentref yn mynd â’i ben iddo yn sgîl hynny – daeth John i’r adwy gan ysgogi’r pentrefwyr i gydweithio a chyfrannu er mwyn achub y siop a’r pentref fel ei gilydd.

Linda Jones
Bu Linda Jones, Ffestiniog yn weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru. Y prif nod yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu. Sefydlodd westy tair seren yn Llan Ffestiniog – Gwesty Seren – i ddarparu llety ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a dysgu, prosiect arloesol a’r unig gyfleuster o’i fath yng Nghymru. Mae Linda hefyd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy’n hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol, ac sy’n cyflogi tua 150 o bobl leol.

Mair Jones
Mae Mair Jones, Llaniestyn wedi codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau, ac am flynyddoedd bu’n agor ei chartref i godi arian. Pan ddaeth y pandemig, penderfynodd osod cwt pren i werthu pethau ail-law wrth giât Iôn ei chartref. Bellach, mae Cwt Gobaith yn agored bob dydd gyda blwch gonestrwydd yn codi arian i Dŷ Gobaith. Mae’n cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrch Operation Christmas Child bob blwyddyn ac yn creu cannoedd o dorchau Nadolig i godi arian. Dyma un o arwyr tawel Pen Llŷn sy’n haeddu cael ei hurddo i Orsedd Cymru am ei gwaith elusennol rhagorol.

Malcolm Jones
Mae Malcolm Jones, Tremadog wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa bob blwyddyn er ei chychwyn ddeugain a chwech o flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolodd Gymru mewn sawl cystadleuaeth rhedeg mynydd rhyngwladol gyda chryn lwyddiant, a phan oedd yn drigain oed, cynrychiolodd ein gwlad mewn cystadlaethau triathlon. Cludodd fflamau’r Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad ar eu taith drwy Eifionydd, ac mae wedi rhedeg sawl marathon. Bu hefyd yn rhan o sefydlu clybiau rhedeg mynydd lleol llwyddiannus dros y blynyddoedd, gan ennyn diddordeb yn y gamp fu’n gymaint rhan o’i fywyd ef ei hun.

Geraint Lloyd
Roedd Geraint Lloyd, Lledrod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM. Pan oedd yn ifanc, ralio a rasio oedd yn mynd â’i fryd; bu’n cynrychioli Cymru mewn rasys 4×4, ac mae’n aelod brwd o Glwb Glasrasio Teifi. Mae’n un o gefnogwyr mwyaf selog y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2017 fe’i hetholwyd yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, anrhydedd a dderbyniodd gyda balchder. Mae hefyd yn cefnogi Theatr Felin-fach, ac wedi perfformio droeon yn eu pantomeimiau enwog.

John Mahoney
Ymhell cyn dyddiau’r Wal Goch a Chwpan y Byd 2022, ni fu’r un Cymro a chwaraeodd dros ein gwlad yn fwy balch o’i dras na John Mahoney, Caerfyrddin. Wedi i’w yrfa fel chwaraewr ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch ‘Siawns am Sgwrs’ yng ngorllewin Cymru. Nid ef yw’r unig aelod o’r teulu i gynrychioli Cymru, gan fod un o’i ferched hefyd wedi cynrychioli ei gwlad wrth chwarae pêl-droed. Mae John yn ŵr diymhongar sy’n caru Cymru, ein hiaith a’n diwylliant, a’n braint yw ei urddo i Orsedd Cymru eleni.

Laura McAllister
Mae Laura McAllister, Caerdydd yn Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n Gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn gyn-bêldroedwraig ryngwladol, mae’n lladmerydd diflino dros gydraddoldeb ym maes chwaraeon, ac wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy wrth amlygu gêm y merched a’r menywod, hawliau LHDTC+, a chwaraeon paralympaidd. Eleni, fe’i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn Is-lywydd y corff hwnnw, y cynrychiolydd cyntaf o Gymru a’r bêldroedwraig gyntaf i gyflawni’r gamp. Mae’n sylwebydd cyson ar y cyfryngau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd gwleidyddiaeth a chwaraeon.

Gwyn Mowll
Mae Gwyn Mowll, Llanrug wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn dysgu, cefnogi a hwyluso karate traddodiadol ‘Shotokan’ yng Nghymru yn wirfoddol, gan gyffwrdd – a thrawsnewid – bywydau miloedd o drigolion gogledd Cymru. Ar ddechrau’r 1990au, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o greu Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru, gan sicrhau cynnal safonau mewn clybiau. Yn aml cynhelir gwersi yn dairieithog – Cymraeg, Saesneg a Siapanaeg. Bu’r cyfnod clo yn anodd i’r gamp, ond mae dyfodol pendant iddi yng Nghymru gyda chefnogaeth unigolion brwdfrydig fel Gwyn.

Enid Owen
Heb bobl fel Enid Owen, Botwnnog, a fu’n fodlon ymgymryd â swyddi mewn cymdeithasau bach a gwirfoddoli i roi profiadau i blant a phobl ifanc, ni fyddai dyfodol i’n hiaith a’n diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Dechreuodd Enid yr arferiad o gystadlu yng nghystadlaethau canu’r Urdd gyda phlant Adran Botwnnog. Doedd dim traddodiad yn y maes hwnnw yn yr Adran, a chymerodd yr awenau gan dynnu sawl parti ac unigolyn o dan ei hadain. Dyma wraig a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i fywyd diwylliannol ei milltir sgwâr dros gyfnod hir.

Llinos Angharad Owen
Ar ôl gyrfa ym myd addysg, mae Llinos Angharad Owen, Beddgelert yn gweithio bellach i elusen Tir Dewi, sy’n cynorthwyo ffermwyr a’u teuluoedd gyda phryderon a phroblemau. Chwaraeodd ran amlwg mewn prosiect arloesol gyda Heddlu Gogledd Cymru gan sicrhau bod lle amlwg i’r Gymraeg ynddo. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Grŵp Cneifio Gelert sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, gan ddenu sylw ar draws y byd, yn arbennig yn ystod y cyfnod clo.

Rhiannon Parry
Yn sylfaenydd a golygydd papur bro Y Gadlas am flynyddoedd, ers symud i Ddyffryn Nantlle mae Rhiannon Parry, Pen-y-groes wedi cyfrannu colofn fisol i’r papur lleol, Lleu. Bu’n olygydd Y Wawr ac mae’n ysgrifennu am gelf yn rheolaidd i Barn. Ar ôl dilyn cyrsiau celf wrth ddioddef o gancr, cydlynodd Rhiannon grŵp o wniadwragedd ar draws y gogledd er mwyn creu paneli mawr i addurno waliau Llys Llywelyn yn Amgueddfa Werin Cymru, gan gydweithio â’r artist, Cefin Burgess. Mae’n ddarlithydd difyr ar amrywiol bynciau, yn ymddiddori ym myd y ddrama ac yn arbenigo ar hen feddyginiaethau.

Alun Roberts
Er deng mlynedd ar hugain a mwy, mae Alun Roberts, Caernarfon yn ymgorfforiad o’r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, yn hyrwyddo a chefnogi pob gweithgaredd dyngarol, elusennol a diwylliannol yn y gymdeithas leol yn ei ffordd dawel ac ymarferol ei hun. Mae ymrwymiad Alun i’w gymuned yn ddiarhebol: o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i’w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i’r fenter O Law i Law, mae cymorth a chefnogaeth Alun yn allweddol i lwyddiant pob ymgyrch a phrosiect yn lleol.

Alwyn Roberts
Yn gymwynaswr wrth reddf ac yn un sydd â chariad mawr tuag at y Gymraeg, mae Alwyn Roberts, Llanuwchllyn yn eofn ei farn ac yn ddoeth ei gynghorion. Mae’n gynghorydd cymuned poblogaidd ar gyngor plwyf Llanuwchllyn ac yn Gyn-gadeirydd y Cyngor. Mae’n aelod o Gôr Godre’r Aran a hefyd o barti Tri Gog a Hwntw, sy’n cynnal nosweithiau llawen, ac mae’n Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y pentref er 2001. Mae Alwyn yn adnabyddus iawn i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt am ei wasanaeth hir a ffyddlon fel aelod o staff y Brifwyl tan 2021.

John Roberts
Mae John Roberts, Aberystwyth wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul, rhaglen sy’n rhoi lle i faterion crefyddol a moesol. Oherwydd natur a safbwyntiau John, mae’n rhaglen agored, ryddfrydol ei naws, a dwfn-dreiddgar ei chynnwys. Mae cyfraniad John i fyd darlledu ac i fyd trafod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, ac yn dal i fod, yn sylweddol a phwysig. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon. Nid llenor ‘toreithiog’ mohono, ond un gofalus sy’n araf-saernïo ei waith.

Nicola Saffman
Yn wreiddiol o Fanceinion, magwyd Nicola Saffman, Caernarfon heb gysylltiad â’r Gymraeg. Pan symudodd i Gymru, dysgodd y Gymraeg a dod yn siaradwraig hyderus ymhen ychydig. Bu’n Ddirprwy-grwner gogledd orllewin Cymru am ugain mlynedd – y ferch gyntaf yn y swydd – a chynhaliodd gwestau lawer yn Gymraeg. Fe’i penodwyd yn Farnwr Llys y Goron yn 2019, ac mae’n gweithio yng Nghaernarfon –yr unig ferch sy’n Farnwr Llys y Goron llawn-amser yng ngogledd Cymru. Mae’n deall yr angen i gefnogi’r Gymraeg yn ein llysoedd,ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch a chynhwysol.

Catrin Elis Williams
Meddyg teulu yw Catrin Elis Williams, Bangor, a’i gwreiddiau’n ddwfn ym Mhen Llŷn. Bu’n ysgrifennydd Y Gymdeithas Feddygol am sawl blwyddyn ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo addysg feddygol yng ngogledd Cymru a chyfrannu at osod sail yr Ysgol Feddygol yn y gogledd. Mae’n weithgar yn ei hardal ar sawl pwyllgor a bwrdd gan gynnwys Antur Waunfawr a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. O 2019 tan eleni bu’n un o gyfarwyddwyr Cartrefi Cymru, sy’n cefnogi rhai ag anableddau dysgu i fyw bywyd llawn yn eu cymuned.

Ruth Wyn Williams
Yn wreiddiol o Aber-soch, mae Ruth Wyn Williams, Bangor wedi cyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru, gan godi proffil maes sy’n cael ei esgeuluso yn aml. A hithau’n credu’n gryf mewn rhoi llais, urddas a chyfiawnder i aelodau mwyaf bregus cymdeithas, gweithiodd yn ddiflino i newid agweddau ymysg y cyhoedd, gan ddylanwadu’n arwyddocaol ar benderfyniadau polisi ac ysbrydoli llu o fyfyrwyr a staff ar draws y gwasanaeth iechyd. Gyda’r angerdd sy’n ei nodweddu fel unigolyn, mae wedi ymroi i wella profiadau pobl ag anableddau dysgu er mwyn iddynt gael byw bywyd i’r eithaf.

Einir Wyn
Mewn cyfnod o newidiadau mawr yn y pentref, mae ymroddiad pobl fel Einir Wyn, Aber-soch yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymuned Gymraeg yn dal ei thir. Gweithiodd yn ddiflino i gadw’r ysgol leol ar agor, ac er mai ofer fu’r ymdrechion, cyflwynodd lyfrau o’r hen ysgol i elusen sy’n hyrwyddo a datblygu gallu addysgol disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion gwledydd Affrica. Mae’n ganolog yn y gwaith o geisio datblygu adeilad yr ysgol er budd y gymuned. Mae’n Glerc Cyngor Cymuned Llanengan ers blynyddoedd, ac yn fanwl ei gwaith wrth ymateb i geisiadau i ddatblygu’r ardal, gan roi gwarchodaeth y Gymraeg a’i chymunedau’n gyntaf bob tro.

Urddau’r Orsedd 2020

Urddau’r Orsedd 2020

 

Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i gohirio am flwyddyn, mae’r Orsedd wedi penderfynu cyhoeddi enwau’r rheiny a oedd i’w hanrhydeddu ar y Maes yn Nhregaron eleni 

Y bwriad yw sicrhau ein bod yn gallu cyd-ddathlu eu llwyddiant a’u hanrhydedd ac edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol y flwyddyn nesaf.

Y bwriad yw cynnal y seremonïau Urddo ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.  Gan fod y broses wedi’i chwblhau cyn y cyfnod cloi, ni fyddwn yn ail-agor enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a bydd enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn agor ymhen y flwyddyn.

Llongyfarchiadau mawr i bawb

GWISG WERDD

Deian Creunant

Mae Deian Creunant, Aberystwyth, wedi cyfrannu at y celfyddydau yn lleol ac yn genedlaethol. Yn un o’r lleisiau Cymraeg cyntaf ar Radio Ceredigion, cafodd gyfnodau yn gweithio gyda’r Urdd, y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, a bellach mae’n gyfarwyddwr cyfathrebu gyda FOUR Cymru. Mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn cyd-arwain menter Ffoto Aber a bu’n gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010. Mae’n aelod ac yn gyn gadeirydd o Fwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Arad Goch, yn aelod o Fwrdd Rheoli Canolfan Morlan, ac yn flaenor yng nghapel y Morfa. Dros y blynyddoedd mae wedi rhedeg i godi arian i elusennau lleol a chenedlaethol.

Anthony Evans

Yn wreiddiol o Crosshands, mae’r artist Anthony Evans wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n gyn bennaeth celf Ysgol Glantaf, yn ddarlunydd llyfrau plant, ac yn arlunydd gwleidyddol a gefnogodd ymgyrch streic y glowyr a’r mudiad gwrth-apartheid. Bu’n weithgar dros Glwb y Bont, yn ysgrifennydd Sir i UCAC, ac un o sylfaenwyr Cwmni Artistiaid yr Hen Lyfrgell, Oriel Canfas ac Elusen Awen. Mae’n artist proffesiynol ers 30 o flynyddoedd. Mae wedi perfformio gyda Chwmni Drama Y Fuwch Goch, Clwb Ifor Bach, a Chwmni Drama Capel y Crwys, yn ogystal ag ymddangos mewn dau bantomeim yn yr Eglwys Newydd i godi arian i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Rhiannon Evans

Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, yn adnabyddus am ei gemwaith, sy’n ddeongliadau gwreiddiol o’n traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd, yn arbennig felly chwedlau’r Mabinogion a chwlt y Seintiau.  Ers ei sefydlu yn 1971, mae Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru wedi dod yn gyfystyr bron â Thregaron ei hun.  Mae’r Ganolfan yn hybu crefftwaith a wnaed yng Nghymru ac yn noddi artistiaid a dylunwyr o safon trwy’r siop, y gweithdy a’r Oriel.  Mae Rhiannon wedi arwain datblygu economaidd gwledig trwy gyd-sylfaenu ‘ATOM Tregaron’ yn y 1970au, a bu’n fentor i Awdurdod Datblygu Cymru, ac yn aelod o fenter Curiad Cymru.

Angharad Fychan

Mae Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth, wedi cyfrannu’n helaeth i faes enwau lleoedd.  Er 2011, bu’n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio’n gyson ar y pwnc.  Mae’n arwain teithiau cerdded addysgiadol er mwyn egluro pwysigrwydd enwau lleoedd yn y tirwedd, ac mae’n paratoi colofn enwau lleoedd yn fisol ar gyfer papur bro Y Tincer er 2013.  Mae hefyd yn aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.  Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.

Robat Gruffudd

Anrhydeddir Robat Gruffudd, Tal-y-bont, Ceredigion, am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.  Dechreuodd ymgyrchu pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, ac yn 1965, gyda’i ffrind, Penri Jones, cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn dychanol, Lol.  Yn 1967, sefydlodd wasg Y Lolfa, un o brif weisg Cymru erbyn heddiw.  Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith, a chyhoeddi cyfrol o gerddi, A Gymri di Gymru?, yn 2008, a’i ddyddiaduron, Lolian, yn 2016.  Roedd yn un o’r tîm a sefydlodd y papur bro, Papur Pawb, ac mae’n parhau’n weithgar yn ei gymuned.

Jeffrey Howard

Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd, yn enw ac wyneb cyfarwydd i fynychwyr yr Eisteddfod, fel un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl ers dros ugain mlynedd.  Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddrorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.  Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.  Mae wedi dysgu’r Gymraeg, ac wedi’i defnyddio’n rheolaidd wrth weithio ar brosiectau corawl yr Eisteddfod, yn gymunedol ac wrth baratoi am berfformiadau ar lwyfan y Pafiliwn.

Elin Haf Gruffydd Jones

Mae Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth, wedi gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy’n cysylltu Cymru a’r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, gan fanteisio ar ei phrofiad rhyngwladol i gyfoethogi’r drafodaeth am y Gymraeg.  Yn 2017, fe’i penodwyd yn aelod o grŵp Cyngor Ewrop sy’n adolygu’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol.  Datblygodd Ganolfan Mercator a sicrhau trwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i gannoedd o lyfrau o Gymru gael eu cyfieithu i ieithoedd y byd.  Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.

Wynne Melville Jones

Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Dyn datblygu syniadau a’u gwireddu ydyw. Mae’r Urdd yn agos at ei galon ac mae’n Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddianus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Yn weithgar yn ei gymuned sefydlodd, gydag eraill, y Banc Bro i ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol lleol yn y Gymraeg. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu’n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion.

Helgard Krause

Yn wreiddiol o ardal Pfalz, Yr Almaen, daeth Helgard Krause, Aberaeron i Gymru yn 2005.  Cafodd swydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn marchnata llyfrau dramor, oherwydd ei phrofiad eang yn y byd cyhoeddi.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn Bennaeth Marchnata’r Cyngor, ac ymhen rhai misoedd, roedd yn rhugl.  Yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, dychwelodd i’r Cyngor Llyfrau yn 2017, wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr y sefydliad.  Mae’n esiampl arbennig o’r modd y gall rhywun heb gysylltiad â Chymru ddod yn arweinydd un o’n prif sefydliadau drwy gofleidio ein hiaith a’n diwylliant.

Emyr Llywelyn

Brodor o ardal Llandysul yw Emyr Llywelyn, Ffostrasol, sydd wedi gweithio ar hyd ei oes  i hyrwyddo a diogelu ein hiaith a’n diwylliant.  Bu’n weithgar yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth, ac roedd ar flaen y gad yn y trafodaethau i sefydlu neuadd Gymraeg, ymgyrch a arweiniodd at sefydlu Neuadd Pantycelyn.  Fe’i carcharwyd yn 1963 am achosi difrod i safle adeiladu argae Tryweryn, cyn cyhoeddi na fyddai’n defnyddio trais eto.  Bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain Mudiad Adfer o ddechrau’r 1970au ac ef yw golygydd cylchgrawn Y Faner Newydd. Bu’n gyson weithgar yn ei gymuned yng Ngheredigion dros y blynyddoedd.

Huw Rhys-Evans

A’i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae Huw Rhys-Evans, Harrow, wedi gwneud enw iddo’i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tŷ Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain.  Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, bu’n driw i’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol ers blynyddoedd, gan ddychwelyd i feirniadu ac arwain Cymanfaoedd Canu.  Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain, yn aelod o nifer o gymdeithasau, ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.

Carlo Rizzi

Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth, yn arweinydd opera adnabyddus dros y byd.  Bu’n gyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001 ac eto rhwng 2004 a 2008, ac mae’n dychwelyd at y cwmni’n rheolaidd i weithio.  Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi, ac fe’i cydnabyddir yn un o arweinyddion gorau’r byd yn y maes hwn.  Mae galw mawr am gael cydweithio â Carlo Rizzi, gyda’i egni deinamig, ei ddealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a’i allu i ymgysylltu â’r gerddorfa a’r gynulleidfa mewn ffordd gwbl enigmatig ac emosiynol.  Mae wedi dysgu Cymraeg ac yn magu’i blant drwy gyfrwng yr iaith.

Geraint Roberts

Er bod Geraint Roberts, Caerfyrddin wedi gwneud cyfraniad arloesol i fyd addysg cyfrwng Cymraeg, fe’i hanrhydeddir am ei gyfraniad i fyd llên a diwylliant Cymru.  Mae’n genhadwr dros Gerdd Dafod ac yn weithgar yn lleol a chenedlaethol.  Ef yw sefydlydd Ysgol Farddol Caerfyrddin, a’i frwdfrydedd a’i ddawn trefnu ef sydd wedi sicrhau parhad yr ysgol fywiog hon dros gyfnod o 30 mlynedd.  Ef hefyd, ers rhyw ddeng mlynedd, sy’n trefnu tîm yr Ysgol Farddol Fach, sy’n cynnig gwersi blasu’r cynganeddion yn ardal Caerfyrddin dros yr haf.  Mae’n gefnogwr brwd o eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru ac wedi ennill llu o wobrau a chadeiriau.

Eilir Rowlands

Brodor o Sarnau a Chefnddwysarn yw Eilir Rowlands, ac ni symudodd erioed o’i fro.  Bu’n ffermio am flynyddoedd cyn defnyddio’i ddoniau cynllunio i fod yn dir-luniwr sy’n creu gerddi.  Mae’n rhan annatod o’r gymuned leol, yn un o hoelion wyth diwylliant ei fro, ac wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’r Pethe.  Mae’i gyfraniad yn lleol ac yn ehangach yn enfawr; does neb yn fwy parod i gynnig ei wasanaeth nag Eilir.  Yn genedlaethol, mae’n un o ymddiriedolwyr Cronfa Goffa D. Tecwyn Lloyd, a sefydlwyd i hybu addysg Gymraeg a’n diwylliant, cronfa sydd o gymorth mawr i sefydliadau ar draws Cymru.

Delwyn Siôn

Yn wreiddiol o Aberdâr, Delwyn Siôn, Caerdydd, yw cyfansoddwr caneuon hudolus fel ‘Un Seren’ a ‘Niwl ar Fryniau Dyfed’, clasuron sydd yr un mor boblogaidd nawr ag erioed.  Yn ogystal â’i gyfraniad i’n diwylliant, fe’i hanrhydeddir am ei waith gydag elusen Bobath, yn dilyn genedigaeth ei fab.  Bu’n rhan o sefydlu yma yng Nghymru gangen o’r elusen, sy’n gweithio i wella ansawdd bywyd plant sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol cysylltiedig.  Erbyn hyn, mae canolfan therapi arbenigol yng Nghaerdydd, a dros y blynyddoedd mae Delwyn wedi codi llawer o arian i’w chefnogi.  Mae’n weithgar yn lleol ac ef yw’r arweinydd yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod-y-Garth.

GWISG LAS

Cledwyn Ashford

Yn ddi-os, byddai Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam, yn haeddu’i le yn yr Orsedd am ei gyfraniad i fyd pêl-droed yng Nghymru am dros ddeugain mlynedd.  Mae wedi gweithio gyda rhai o sêr mwyaf y byd pêl droed, gan eu mentora pan yn ifanc a chadw llygad agos ar eu datblygiad dros y blynyddoedd.  Ond mae ‘Cled’ yn fwyaf adnabyddus i ni fel aelod hanfodol o’r tîm sy’n rhedeg Maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.  Yn barod ei gymwynas bob tro, Cled yw un o arwyr tawel y Brifwyl, ac fe’i hanrhydeddir eleni am ei gyfraniad hynod i’r Eisteddfod dros gyfnod o flynyddoedd lawer.

Anwen Butten

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.  Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn cystadlu ar lefel fyd-eang, mae Anwen bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi, ac wedi’i dewis yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y tro nesaf.  Yn ogystal â’i llwyddiant ym myd y campau, mae gan Anwen yrfa lwyddiannus fel nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Jeff Davies

Mae Jeff Davies, Y Fenni, wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Cymraeg y fro honno ers blynyddoedd, ac fe fu hefyd yn allweddol yn llwyddiant yr Eisteddfod yn Sir Fynwy yn 2016, Blaenau Gwent yn 2010 a Chasnewydd yn 2004. Yn dilyn Eisteddfod Casnewydd 1988, roedd Jeff yn un o’r criw a frwydrodd i sicrhau bod ysgol gynradd Gymraeg yn agor yn Y Fenni, a phan agorodd yr ysgol ei drysau yn 1994, roedd Jeff yn un o’r llywodraethwyr cyntaf.  Mae ganddo ddiddordeb byw mewn byd natur, ac mae’n arwain teithiau cerdded i adnabod bywyd gwyllt yn y Gymraeg ac mae hefyd yn arbenigwr ar hanes lleol ei ardal.

Mary Davies

Nid gormodiaith fyddai dweud y byddai llawer o weithgareddau Cymraeg ardal Llanbedr Pont Steffan yn dod i stop heb gyfraniad Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder.  Mae wedi gweithio’n ddiflino dros fudiadau a digwyddiadau – nid yn ysbeidiol ond gyda dyfalbarhad a dycnwch – dros ddegawdau.  Bu Mary’n ymwneud â phapur bro Clonc ers ei sefydlu, ac mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn yr ardal.  Mae’i chyfraniad i fudiadau lleol, gan gynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, ac Undodiaid y Smotyn Du, wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd.  Hyd yn oed o ystyried bod gweithwyr caled ym mhob bro, mae cyfraniad Mary Davies yn eithriadol.

Glan Davies

Un o Frynaman yn wreiddiol, mae Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth, yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel actor a digrifwr.  Yn arweinydd carismatig nosweithiau llawen ledled Cymru, bu’n chwarae rhan Clem Watkins yn Pobol y Cwm o 1988 tan 1997.  Cafodd ei ddewis i dywys Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2017, yn sgil ei gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal.  Mae’n adnabyddus am ei waith elusennol, gan godi arian i Blant mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth.  Mae hefyd yn rhan greiddiol o’r elusen Calonnau Cymru, a lwyddodd i sicrhau dros 70 o ddiffibrilwyr cyhoeddus yng Ngheredigion a thros 1,300 ar draws Cymru gyfan.

Cyril Evans

Anrhydeddir Cyril Evans, Tregaron, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg am flynyddoedd lawer.  Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu’n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw.  Yn ogystal, mae Cyril wedi cyfrannu llawer i fywyd a diwylliant ei filltir sgwâr.  Fe’i hanrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor.  Mae’n rhan allweddol o weithgareddau cymunedol yr ardal, ac yn un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno’n rheolaidd.

Anne Gwynne

Mae cyfraniad Anne Gwynne, Tregaron, i’w chymuned yn dyddio’n ôl dros hanner canrif.  Ymysg y cymdeithasau a’r sefydliadau sydd wedi elwa o’i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu’n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron.  Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron, a dywed ei disgyblion ei bod yn athrawes ‘ardderchog iawn’.  Ond, mae’i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd.  Bu’n arwain nifer o deithiau cerdded o’r cychwyn, ac er 2004, bu’n cofnodi’r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.

Ronan Hirrien

Magwyd Ronan Hirrien mewn pentref bach yn ardal Brest, Llydaw, yn ddi-Lydaweg, ond yn ddwy ar bymtheg oed, aeth ati i ddysgu’r iaith mewn dosbarthiadau nos ac yn y brifysgol, cyn troi’i law at ddysgu’r Gymraeg.  Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu yw Ronan wrth ei waith; mae’n creu rhaglenni dogfen o safon sy’n cynnig dyfnder, sylwedd a gwedd newydd ar bobl, llefydd a phynciau pwysig yn niwylliant Llydaw.  Cynhyrchodd ffilm ddogfen Aneirin Karadog: Barzh e Douar ar Varzhed, gan ddangos cryfder y diwylliant Cymraeg trwy gyfrwng y byd barddol, yr Eisteddfod a’r Orsedd.  Mae’i anrhydeddu’n symbol grymus o sut y gall perchnogi’r Gymraeg arwain at berthyn i deulu’r iaith a’i diwylliant.

Arfon Hughes

Mae Arfon Hughes, Dinas Mawddwy, yn ysgrifennydd Cwmni Nod Glas, a chyda cefnogaeth y tîm wedi sicrhau grantiau niferus i’r ardal er mwyn prynu Hen Siop yng nghanol y pentref, a’i throi’n gaffi crefft llwyddiannus a fflatiau ar gyfer pobl leol.  Llwyddwyd hefyd i ddenu arian gan y Llywodraeth i uwchraddio llwybrau ardal Mawddwy, gan sicrhau mynediad hygyrch i bawb, ymysg nifer o brosiectau eraill.  Sefydlodd noson Y Fari Lwyd yn yr ardal ugain mlynedd yn ôl, ac mae’n trefnu’r Plygain yn lleol ers degawd a mwy.  Mae’n un o sefydlwyr papur bro cylch Dolgellau, Llygad y Dydd.  Dyma ddyn sydd yn galon i’w gymuned ac yn haeddu’i anrhydeddu gan yr Orsedd.

Ruth Hussey

Ymddeolodd Dr Ruth Hussey, Lerpwl, o’i swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016.  Yn ystod ei chyfnod yn y swydd honno, bu’n gyfrifol am ddelio â’r epidemig mwyaf o’r frech goch yn ne Cymru ers i’r rhaglen brechu gychwyn.  Er ei bod wedi ‘ymddeol’, mae galw am ei phrofiad a’i gwasanaeth o hyd yng Nghymru a Lloegr mewn sawl sefydliad a phwyllgor sy’n ymwneud â strategaethau iechyd, a chafodd ei hanrhydeddu gan nifer o brifysgolion amlwg am ei gwaith.  Yn wreiddiol o Lanrwst, mae cyfraniad Ruth Hussey i’r GIG yn arbennig, ac yn deillio o’i hawydd i weithio dros wella iechyd cymunedau cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig. 

Llŷr James

Mae llawer o gymwynasau Llŷr James, Caerfyrddin, yn digwydd yn dawel bach, heb dynnu sylw, ac mae hyn yn nodweddiadol o’r cyfrifydd siartredig hwn sy’n rhedeg ei fusnes ei hun ers yr 1980au.  O’r cychwyn, roedd ei gwmni’n darparu gwasanaeth trwyadl Gymraeg.  Dros y blynyddoedd, mae wedi pwyso i sicrhau bod yr awdurdodau’n cydnabod ffurflenni a dogfennau yn yr iaith, gan alluogi busnesau a sefydliadau i gynnal eu gweithgaredd hwythau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Bu’n hael ei gefnogaeth, gan noddi nifer o ddigwyddiadau a sefydliadau Cymraeg, ac mae’n Drysorydd ar Ysgol Farddol Caerfyrddin – ac mae yntau bellach yn cynganeddu hefyd.

John Milwyn Jarman

Anrhydeddir Y Barnwr John Milwyn Jarman, Penarth, am ei gyfraniad i fyd y gyfraith.  Yn wreiddiol o ardal Y Drenewydd, gwasanaethodd fel bargyfreithiwr o 1980 tan 2007.  Daeth yn drysorydd y gylchdaith ac yn bennaeth siambr adnabyddus, 9 Plas y Parc, Caerdydd.  Fe’i penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron yn 2000 ac yn Gwnsler y Frenhines yn 2001.  Mae’n farnwr ers 2007, ac mae’n un o farnwyr mwyaf blaenllaw Cymru.  Dysgodd y Gymraeg yn rhugl, ac mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg, gan gryfhau Cymreictod ein cyfraith a’n llysoedd a dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru.

Siôn Jobbins

Mae cyfraniad Siôn Jobbins, Aberystwyth, i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn enfawr.  Fe’i ganed yn Zambia, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn faban.  Ers ei gyfnod yn fyfriwr yn Aberystwyth, mae Siôn wedi ymgyrchu’n frwd dros y Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru.  Sefydlodd Ras yr Iaith yn 2014, ymgyrch sy’n mynd â’r iaith drwy gymunedau Cymru bob dwy flynedd, gan gasglu arian wrth deithio, ac ef yw sylfaenydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth.  Mae’n gadeirydd ‘Yes Cymru’ yn gyd-drefnydd y gorymdeithiau llwyddiannus dros annibyniaeth, a bu’n un o arweinwyr y cais i ennill parth dotCYMRU (.cymru) ar y we.  Yn awdur a golygydd toreithiog, fe’i hanrhydeddir am ei gyfraniad blaenllaw i ddyfodol Cymru.

Janet Mair Jones

Mae Janet Mair Jones, Pencader, wedi rhoi oes o wasanaeth yn lleol a chenedlaethol, ac mae’i drws bob amser yn agored os oes angen help, boed yn gacennau, darllen gyda phlant ysgol neu sicrhau bod y neuadd gymunedol yn daclus ar ôl ei defnyddio.  Mae’n gydlynydd ‘County Cars’, gwasanaeth lleol i unigolion oedrannus sy’n methu defnyddio bws neu yrru car.  Mae’n rhan allweddol o dîm arolygwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hi a’i gŵr, Eric, wedi gwasanaethu’r Brifwyl am flynyddoedd, gyda Janet yn gofalu am fynediad yr Orsedd i’r Pafiliwn.  Braf fydd ei gweld yn cyd-gerdded gyda’r Gorseddogion eraill yn Eisteddfod Ceredigion.

Esyllt Llwyd

Meddyg teulu yw Dr Esyllt Llwyd, Llanrug, Caernarfon, sy’n arwain dwy feddygfa leol gyda thua 6,000 o gleifion. Mae hefyd yn cynghori myfyrwyr lleol sy’n ystyried astudio meddygaeth, gan eu mentora’n ofalus, a chynnig cyfleoedd iddyn nhw weithio yn y feddygfa i gael blasu’r gwaith.  Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cymru Marie Curie, a chefnogodd yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor.  Mae’n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Brynrefail, ac yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng yr ysgol a’r gymuned drwy drefnu i ddisgyblion y chweched dosbarth ymweld â chleifion unig a’r rheini â chyflyrau dwys yn eu cartrefi i gael sgwrs.

Ann Bowen Morgan

Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Ann Bowen Morgan yn byw yn Llanbedr Pont Steffan ers bron i ddegawd, ac mae’n rhan ganolog o fywyd y dref.  Mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd arni.  Mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio’n ddygn er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o’r gymuned leol.  Bu’n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Gorymdaith Gŵyl Ddewi yn y dref, ac mae’n ymroddgar i brosiectau fel y Pwyllgor Croesawu Ffoaduriaid sy’n cefnogi teuluoedd o Syria sy’n byw yn lleol.

Begotxu Olaizola

Begotxu Olaizola, o Zarautz, Gwlad y Basg, yn sicr yw’r Fasges fwyaf adnabyddus yng Nghymru, a thros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, cyfrannodd yn helaeth at feithrin a hyrwyddo’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg, er budd ein hiaith a’n diwylliant.  Cyflawnodd hyn fel sylwebydd a dehonglydd, fel trefnydd teithiau i unigolion a dirprwyaethau, fel tywysydd ac fel cyfieithydd.  Mae hi hefyd yn ymgyrchydd ymroddedig ac effeithiol dros hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ym mhob man.  Daeth yn gyfarwydd i gylchoedd ehangach wrth gyfrannu i raglenni Cymraeg dros y blynyddoedd, gan sylwebu ar ddigwyddiadau yng Ngwlad y Basg a Sbaen yn gyffredinol.

Glyn Powell

Mae Glyn Powell, Pontsenni, yn ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl.  Treuliodd ei yrfa ym myd addysg, ac ymgyrchodd dros addysg Gymraeg mewn ardal a oedd yn dalcen caled, gan lwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned yn ei chyfanrwydd ac adennill parch tuag at yr iaithyn lleol.  Cyfrannodd yn helaeth i fyd amaeth, gan gynnwys fel arweinydd yr ymgyrch dros Epynt yn ystod cyfnod heriol clwy’r traed a’r genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad i’w foddi.  Mae’i gyfraniad yn lleol a chenedlaethol wedi bod yn arbennig am flynyddoedd lawer, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

Carys Stevens

Mae cyfraniad Carys Stevens, Aberaeron, i ofal diwedd-oes yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn enfawr.  Mae’n argyhoeddedig fod gan bawb yr hawl i fyw a marw gydag urddas.  Sefydlodd gyswllt â phob practis meddygol lleol, gan sicrhau bod tîm o staff, yn wirfoddolwyr a staff cyflogedig, wrth law i gefnogi cleifion a’u teuluoedd.  Sefydlodd wasanaeth Hosbis yn y Cartref i fynd i’r afael â heriau darparu gofal lliniarol diwedd-oes i drigolion mewn cymunedau gwledig lleol.  Rhydd bwyslais ar addysgu am farw a byw, gan annog siarad yn agored a meithrin agwedd realistig a dyngarol tuag at ddiwedd oes.

John Thomas

Anrhydeddir John Thomas, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yng Nghwm Tawe am ei gyfraniad i’r Gymraeg drwy’r system gyfiawnder.  Bu’n Farnwr Uchel Lys ac yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru cyn ei ddyrchafu i’r Llys Apêl, ac yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.  Dyfarnodd mewn nifer o achosion yn ymwneud â chyfansoddiad Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd Senedd Cymru fel llais democrataidd pobl Cymru.  Drwy’i waith yn cadeirio’r Comisiwn am Gyfiawnder yng Nghymru, gwnaeth argymhellion pellgyrhaeddol er lles pobl ein gwlad, gan gynnwys datganoli cyfrifoldeb dros faes cyfiawnder i Senedd Cymru, ac argymhellion cadarn am y Gymraeg ym maes y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder.

Clive Wolfendale

Yn gyn-Brif Gwnstabl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos, yn brif weithredwr CAIS, yr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.  Dysgodd y Gymraeg gyda’r heddlu, ac mae wedi parhau i ddysgu a defnyddio’r iaith, gan gefnogi a hyrwyddo pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddibyniaeth, salwch meddwl a sgil-effeithiau trawma.  Mae’n rhan allweddol o nifer o gyrff yn y maes hwn ar draws Cymru, ac yn drysorydd Nant Gwrtheyrn, ar ôl iddo ef ei hun brofi gwerth y Ganolfan wrth ddysgu Cymraeg.  Mae’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae’n gyn-arweinydd Band Tref Llandudno ac yn arweinydd Band Swing Llandudno.

Anrhydeddau 2017

Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Ynys Môn

 

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau’r rheiny a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a bore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Rhestr lawn y Wisg Las

Yn wreiddiol o Swydd Stafford, daeth Bob Daimond, Porthaethwy, i weithio i Gyngor Sir Gwynedd ar ddechrau’r 80au, lle dysgodd Gymraeg, a daeth yn Gyfarwyddwr Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd.  Ers ei ymddeoliad, bu’n weithgar iawn gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai, sy’n gyfrifol am Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy.

Urddir Richard Crowe, Caerdydd, am ei arbenigedd ym myd y gyfraith i’r broses o greu deddfwriaeth i’r Gymraeg yng nghyd-destun datganoli, ynghyd â’i feistrolaeth o’r Gymraeg. Yn wreiddiol o Sir Dorset, dysgodd y Gymraeg ar ei liwt ei hun cyn mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth.

Er bod ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Sir Benfro, De Affrica yw cartref Tony Davies ers blynyddoedd bellach.  Bu’n Llywydd y ‘Welsh Cambrian Society’ ac mae’n Gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg yn Ne Affrica ers deng mlynedd ar hugain.  Ef yw Cadeirydd Côr Cymry De Affrica ers ugain mlynedd, ac mae ganddo gysylltiadau lu gyda chymdeithasau Cymraeg ar draws y byd.   

Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw.

Mae David Ellis, Y Dref Wen, Sir Amwythig, yn rhan allweddol o fywyd Cymraeg yr ardal. Ef yw Llywydd Clwb Cymraeg Croesoswallt, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod ar bwyllgorau Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gan weithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2016.

Mae Phyllis Ellis, Penisarwaun, yn un o arweinwyr ei chymuned leol yn ardal Caernarfon.  Mae’n Gynghorydd Cymuned, llywodraethwr ysgol, Cadeirydd Pwyllgor y neuadd gymuned a Chadeirydd Pwyllgor Eisteddfod y pentref.  Yn gyn-bennaeth ysgol, bu’n Gadeirydd mudiad Cefn ac mae’n Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd yn Nant Gwrtheyrn.

Mae Gwynfryn Evans, Rhydypennau, yn arweinydd cymdeithasol ac yn uchel ei barch ym mhob cylch, gan fod yn hynod weithgar yn ei gymuned a’i gapel.  Bu’n gweithio yn y sector llaeth drwy gydol ei yrfa, gan gychwyn yn Llangefni a Maldwyn cyn dod yn rheolwr Ffatri Laeth Felin-fach ac yna’n rheolwr De Cymru a Chanolbarth Lloegr i’r Bwrdd Marchnata Llaeth.   

Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd.  Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.  Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw’r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws).   

Bu Elwyn Hughes, Llanfairpwllgwyngyll, yn arwain maes dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru am dros 30 mlynedd.  Datblygodd y gwasanaeth i godi safonau ac ysbrydoli tiwtoriaid a dysgwyr gan arwain drwy esiampl.  Derbyniodd Dlws Elvet a Mair Elvet Thomas am ei gyfraniad i’r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.

Pysgota yw prif ddiddordeb Hugh Price Hughes, Bethel, Caernarfon, ac mae’n ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni ers blynyddoedd.  Yn ogystal, mae’n un o’r prif ymgyrchwyr dros gadwraeth a gwarchod y torgoch, pysgodyn prin sy’n byw yn rhai o lynnoedd Eryri.

Bydd rhai pobl yn adnabod Huw John Hughes, Porthaethwy, fel gweinidog rhan amser, eraill yn ymwybodol o’i waith fel darlithydd addysg, ac eraill yn cysylltu’i enw gydag atyniad Pili Palas ar gyrion Porthaethwy.  Bu hefyd yn ddyfarnwr pêl droed gan godi i wasanaethu yng nghynghrair Cenedlaethol Cymru.

Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd. Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.

Mae’n debyg bod gan bob bro a chymuned ei harweinyddion, ac mae Arwel Lloyd Jones, Llanuwchllyn, yn bendant yn un o’r rhain yn lleol.  Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar iawn o’i gymuned, yn drefnydd greddfol ac wedi treulio degawdau’n gwasanaethu a chynorthwyo unigolion ar adegau o angen, yn ogystal â chynnig cymorth i nifer o sefydliadau a chymdeithasau’r plwyf.   

Mae Geraint a Meinir Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig eu bro a thu hwnt dros y blynyddoedd.  Gyda’r ddau yn gweithio ym myd addysg, cafodd cenedlaethau o blant eu hysbrydoli gan eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant, gyda Meinir yn hyfforddi disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd i ganu fel unigolion, mewn partïon a chorau mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd. Mae Geraint yn aelod blaenllaw o nifer o gymdeithasau diwylliannol, ac yn amlwg ei gefnogaeth i gorau lleol, gan gynnwys Côr Meibion Dwyfor.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio un o sêr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd, Helena Jones, Aberhonddu, a oedd fisoedd yn unig yn fyr o’i phen blwydd yn gant oed, pan fu’n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn.

Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau.  Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw.   

Mae Lisa Lewis Jones, Brynaman, wedi bod yn weithgar yn lleol ar hyd y blynyddoedd.  Bu’n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ddrama’r Gwter Fawr, cymdeithas sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddol drwy gystadlu yn y cystadlaethau actio drama.  Mae wedi bod yn diddanu cymdeithasau lleol drwy gyflwyniadau, adrodd ac actio.

Bu Mari Jones, Llanfaethlu, yn fawr ei chymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, gan weithio’n wirfoddol i’r ŵyl am chwarter canrif, gyda’i chwaer, Dwynwen Hawkins. Byddai’r ddwy i’w gweld yn gwerthu tocynnau yn y Swyddfa wrth y brif fynedfa, ac yn wynebau cyfarwydd i filoedd o eisteddfodwyr.

Mae Mary Jones, Trefor, yn derbyn yr anrhydedd oherwydd ei gwaith yn trefnu Eisteddfod Aelhaearn dros y blynyddoedd, gan gadw’r Eisteddfod yn hyfyw a llwyddiannus. Mae eisoes wedi’i anrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad.

Un sydd wedi gweithio’n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol yw Michael Jones, Caerdydd, gan ymgyrchu’n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.

Mae Siân Merlys, Pontiets, Llanelli, wedi cyfrannu llawer iawn i fyd Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd, gan drefnu a hyrwyddo cyrsiau dysgu Cymraeg yn ardal Sir Gâr. Mae’n aelod o Banel Canolog Dysgwyr yr Eisteddfod, a bu’n Gadeirydd am nifer o flynyddoedd, gan arwain y gwaith a’r agenda dysgu Cymraeg o fewn yr Eisteddfod yn ddyheuig.

Yn un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern, efallai bod June Moseley, New Plymouth, Seland Newydd, wedi symud yn bell erbyn hyn, ond mae Cymru a’r Gymraeg yn parhau’n rhan bwysig o’i bywyd.  Yn wreiddiol o ardal Mostyn, Sir y Fflint, mae’n gweithio’n ddyfal i sicrhau bod Cymry yn ei rhanbarth yn dod i adnabod ei gilydd, a drws ei chartref, ‘Plas Mawr’, bob amser ar agor i groesawu ymwelwyr o Gymru.

O Fôn y daw Phil Mostert, Harlech, yn wreiddiol, yn Nyffryn Ardudwy mae’i gartref ers blynyddoedd, a’r gymdeithas yno sydd wedi elwa o’i gyfraniad sylweddol mewn nifer o feysydd.  Yn gyn Uwch-ymgynghorydd Addysg ac Arolygydd Ysgolion, roedd yn un o sefydlwyr y papur bro ‘Llais Ardudwy’, ac mae’n un o’r golygyddion ers bron i ddeugain mlynedd ac ef hefyd sy’n cysodi’r papur.

Dyn ei filltir sgwâr yw Alun Mummery, Llanfairpwllgwyngyll, a’i gyfraniad i’r filltir honno’n sylweddol dros y blynyddoedd.  Yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanfairpwll ers hanner canrif eleni, bu hefyd yn gynghorydd sir dros ei ardal leol yn Llanfairpwll, Porthaethwy, Star a Phenmynydd, ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol.   

Efallai iddo gael ei eni yn King’s Lynn, ond magwyd George North, Northampton, yng ngogledd Môn gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bodedern, dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni.  Mae’n un o chwaraewyr rygbi mwyaf disglair ei genhedlaeth, gan gychwyn ar ei daith i garfan y Llewod yng Nghlwb Rygbi Llangefni, cyn symud i Goleg Llanymddyfri ac yna’r Scarlets, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan yn ddim ond deunaw oed.

Efallai mai fel cyn-bostfeistres Tegryn, Crymych a HendyGwyn-ar-Daf mae Jean Parri-Roberts, HendyGwyn-ar-Daf, yn fwyaf adnabyddus, gan iddi hi roi 55 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned leol yn gosod ei stamp drwy’i chyfraniad diymhongar gan drin pawb â pharch a gofal.  Ond, mae’i chyfraniad i’r iaith, diwylliant a’i milltir sgwâr yn llawer ehangach na hyn.   

Un o feibion Môn yw Donald Glyn Pritchard, Llannerch-y-medd, a’i gyfraniad i fywyd yr ynys yn sylweddol.  Yn athro a phennaeth cynradd cyn ei ymddeoliad, bu’n weithgar gyda’r Urdd am flynyddoedd, yn gyfrifol am amryw o ganghennau.  Treuliodd gyfnod hirfaith – o 1965 tan 2003 – yn weithgar gyda Chlwb Ieuenctid ac Aelwyd y Gaerwen, gan ddylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc Môn.

Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod.

Mae Gwerfyl Roberts, Y Groeslon, Caernarfon, wedi gweithio’n ddiflino i wella ansawdd darpariaeth y gwasanaeth iechyd yn y cyd-destun dwyieithog ers blynyddoedd. Mae ganddi gyhoeddiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar bynciau amrywiol, gan osod y sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.

Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts.  Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru.   

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl-droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru.   

Bu David a Ruth Roberts, Llanelen, Y Fenni, yn gwbl allweddol i lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd.  Roedd y ddau’n gyd-gadeiryddion Pwyllgor Apêl y Fenni, gan weithio’n ddi-ffael am gyfnod o ddwy flynedd i godi arian at yr Eisteddfod.   

Efallai mai ardal Winnipeg, Manitoba, Canada yw cyfeiriad Carol Sharp ers dros ddeugain blynedd bellach, un o ferched Môn ydyw mewn gwirionedd, ac mae dylanwad yr ynys a Chymru’n gryf arni hyd heddiw.  Cafodd yrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith yng Nghanada, yn Farnwr a fu’n flaenllaw ei gwaith yn cynrychioli hawliau lleiafrifoedd ac ieithyddol, gan arbenigo mewn cyfraith sifil.   

Mae Caerfyrddin yn ddyledus iawn i Wyn Thomas, am ei ymroddiad i’r Gymraeg a byd busnes yn y dref dros y blynyddoedd. Mentrodd yn ifanc drwy agor Siop y Pentan, siop a ddaeth yn Ganolfan Gymraeg i’r dref, gan werthu llyfrau, recordiau, cardiau, posteri, tocynnau – popeth a oedd yn ymwneud gyda’r iaith yn lleol a chenedlaethol.

Er ei fod yn byw yn Seland Newydd ers 32 o flynyddoedd, mae’n amlwg fod Derek Williams, Auckland, yn Gymro i’r carn.  Bu’n hyrwyddo Cymru a’i diwylliant yng nghymuned Auckland ers blynyddoedd lawer, ac mae’i gyfraniad i lu o gymdeithasau, gan gynnwys Clwb Cymraeg Auckland, Cymdeithas Gymraeg Auckland a Chymdeithas Dawnsio Gwerin Cymreig Auckland, yn enfawr.

Mae cyfraniad Ifor Williams, Llanfaglan, Caernarfon, i’w filltir sgwâr yn arbennig ar nifer o lefelau. Yn uchel ei barch fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bontnewydd, ef hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Bro Llanwnda, sy’n parhau’n ganolfan fyrlymus a diwylliannol bwysig yn yr ardal.  Mae’n rhan allweddol o’r prosiect cenedlaethol digidol, Llên Natur ac yn un o sefydlwyr, aelod gweithgar a thrysorydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, dangosodd Irfon Williams, Bangor, ymroddiad ac angerdd yn ei waith, gan dderbyn Gwobr Nyrs Plant y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012.  Yn 2014 cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr, a chan weld effaith cemotherapi ar rai merched, aeth ati i sefydlu elusen ‘Tîm Irfon’ i godi arian i Apêl Awyr Las er mwyn talu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a’u teuluoedd.

Mae Robyn Williams, Y Fali, wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cymunedol ei dref enedigol, Caergybi.  Yn bartner mewn cwmni o gyfreithwyr sydd â swyddfa yn y dref, ef yw cyfreithiwr mygedol yr Eisteddfod eleni, ac wedi gwneud llawer ym myd y gyfraith i gefnogi a chynorthwyo mudiadau a sefydliadau lleol.

Y Wisg Werdd 

Gellid dadlau bod enw Linda Brown, Gerlan, Bethesda, yn gyfystyr â byd y ddrama yng Nghymru gan iddi fod yn ganolog i fyd y theatr Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd.  Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws o’r cychwyn, mae wedi llwyddo i greu perthynas cwbl unigryw gyda chymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan ddenu llu o bobl i brofi theatr Gymraeg ar lawr gwlad.

Mae cyfraniad Elonwy Davies, Llanybydder, i ddiwylliant a Chymreictod ei hardal yn amhrisiadwy. Mae’n gweithio’n ddygn gyda CFFI a’r Urdd yn lleol a sirol, a phob amser yn fwy na pharod i gyfeilio a hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau lu, gan gredu bod trosglwyddo’i doniau cerddorol i’r genhedlaeth nesaf yn bwysig tu hwnt.

O Gasnewydd y daw Pamela Davies, Acton, Wrecsam, yn wreiddiol, ond mae’n byw yn y gogledd ddwyrain ers pan oedd yn blentyn.  Yn gantores arbennig, enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 a 1970, ynghyd ag ennill amryw o gystadlaethau canu eraill. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes a dirprwy bennaeth cynradd, aeth ati i ddysgu Cymraeg, a mynychu cyrsiau ysgrifennu creadigol.

Yn wreiddiol o Ddeiniolen, mae Siân Wyn Gibson, Llanwnda, Caernarfon, yn adnabyddus i gynulleidfa’r Eisteddfod fel cantores yn ogystal â hyfforddwr rhai o’n cantorion ifanc mwyaf disglair. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn canu’n broffesiynol gyda nifer o gwmnïau, dychwelodd Siân i ogledd Cymru lle mae’n canolbwyntio ar waith oratorio, cyngherddau a chynnig gwersi canu yn ei chartref ac i blant yn ardal Conwy drwy’i gwaith.  

Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro. Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera.  Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru.

Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru.  Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016.

Un sydd wedi cyfrannu’n werthfawr i’n diwylliant cerddorol ers blynyddoedd, ac yn arbennig i’r byd cerdd dant, yw Glesni Jones, Llandwrog, Caernarfon. Bu’n arwain Parti Lleu, yn hyfforddi, gosod a threfnu cerddoriaeth i’r parti am dros ugain mlynedd gan ennill llu o wobrau. Datblygodd Parti Lleu yn Gôr Arianrhod, a bu’r côr yn cefnogi’r Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd dan ei harweinyddiaeth.

Dau efaill yw Emyr Wyn Jones, Gwalchmai, a Trefor Wyn Jones, Pentre Berw, sydd yn adnabyddus am eu gwasanaeth i gerddoriaeth ym Môn am flynyddoedd.  Maent wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn cannoedd o gyngherddau a chymanfaoedd canu, ac wedi bod yn aelodau o nifer o gorau, gan gynnwys Cantorion Colin Jones, dros y blynyddoedd. 

Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig.  Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru.   

Rhoddodd Rhodri Jones, Penarth, oes o wasanaeth i addysg Cymraeg ail iaith yn ne ddwyrain Cymru, gan dreulio ugain mlynedd fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Fechgyn y Barri, fel athro ymgynghorol gyda chyfrifoldeb am ail iaith yn ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro ac fel Arolygwr gydag Estyn.  Ond mae’i gyfraniad yn llawer ehangach na hyn, gyda’i ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, yn arbennig dawnsio gwerin.

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn.  Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.

O Rosygwaliau ger Y Bala’n wreiddiol, mae Elen Wyn Keen, Llangristiolus, yn byw ym Môn ers blynyddoedd bellach ac yn cyfrannu i fywyd cerddorol yr ynys.  Mae’n delynores a phianydd fedrus, sy’n rhoi o’i hamser i nifer o eisteddfodau, cyngherddau, sefydliadau ac ysgolion yn lleol ac yn ehangach.  Hi yw cyfeilydd swyddogol Ysgol Glanaethwy ers 1997, ac mae wedi cyfeilio’n genedlaethol i’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Mae Jeanette Massocchi, Y Fenni, yn rhan o fyd cerddorol Cymru ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n sylweddol i’r maes, fel cyfeilydd, beirniad a hyfforddwraig. Bu’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd tan 2004, ond gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni’r llynedd, penderfynodd ail-gydio yn ei gwaith a chyfeilio a hyfforddi Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chyfeilio’n ystod yr wythnos ei hun.

Fel ‘Derec Teiars’ mae pawb yn adnabod Derec Owen, Llanfairpwllgwyngyll, gan iddo weithio fel rheolwr siop deiars yn Llangefni am flynyddoedd.  Yn 1982, sefydlodd Gymdeithas Hogia Paradwys, sy’n codi arian i elusennau ym Môn a Gwynedd, gan weithredu fel Ysgrifennydd, Cadeirydd a Llywydd, a chan godi degau o filoedd o bunnau.  Bu’n cyflwyno rhaglenni i Radio Ysbyty Gwynedd am bron i 30 mlynedd, ac yn tynnu lluniau i bapurau bro Ynys Môn ers canol y 1970au.   

Actores, awdures ac addysgwraig yw Mari Rhian Owen, Aberystwyth, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym myd y theatr broffesiynol.  Mae ganddi arbenigedd ym maes theatr ysgolion a theatr gymunedol, ac yn gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch fel Actores Rheoli, sy’n arwain gweithdai drwy ddrama. Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon.   

I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw. Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’.  

Y byd gwerin sy’n mynd â bryd Huw Roberts, Llangefni, ac mae’i gyfraniad i’r maes, yn gerddorol ac ym maes ymchwil, yn sylweddol ers degawdau.  Yn aelod o’r grŵp Cilmeri ac yna 4 yn y Bar, mae Huw yn ffidlwr o fri sydd wedi’i drwytho mewn alawon a hanes cerddoriaeth gwerin yng Nghymru ac wedi ysbrydoli llawer o ieuenctid trwy hyfforddi ar gyrsiau ffidil dros y blynyddoedd.

Mae Rhian Roberts, Bangor, wedi addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ers blynyddoedd yn sgil ei gweledigaeth hi a’i gŵr, Cefin Roberts, wrth sefydlu Ysgol Glanaethwy dros chwarter canrif yn ôl.  Fel cyfarwyddwr cerdd côr iau’r ysgol, mae Rhian wedi creu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer llu o bobl ifanc, gan eu harwain i fuddugoliaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rhoi cyfle i’r criw ifanc deithio’r byd yn perfformio.

Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru.  Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol.

Enw sy’n adnabyddus tu hwnt i unrhyw un sy’n dilyn y byd cerdd dant ac alawon gwerin yng Nghymru yw Anwen Williams, Dinbych. Dyma wraig sydd wedi gwneud cyfraniad oes i wasanaethu ei hardal ei hiaith a’i chenedl. Yn feirniad cenedlaethol, gwirfoddolwr gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a’r Eisteddfod Genedlaethol pan yn lleol, mae nifer fawr o bobol wedi elwa o’i hymroddiad di-flino’n hyfforddi llu o unigolion a phartïon canu a cherdd dant.

 

Anrhydeddau 2001

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2001

Y rhestr gyflawn o bawb fydd yn cael eu derbyn o’r newydd i Orsedd y Beirdd yn Ninbych eleni


Y mae cyn gapten tîm rygbi Cymru ac aelod seneddol ymhlith y rhai a fydd yn cael eu derbyn yn aelodau er anrhydedd o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Dinbych eleni.

Hefyd yn cael eu derbyn yn aelodau, bydd prifeirdd y llynedd.

Cyhoeddwn isod y rhestr gyflawn o bawb sy’n cael eu derbyn gyda sylwadau cofiadur yr Orsedd, Jâms Niclas, amdanynt.

Llwyddodd yr ymgeiswyr hyn yn arholiadau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun 6 Awst 2001 mewn gorsedd agored yn Ninbych:

• Urdd Iaith (Gwisg Las)

Michael David Bassett (Mihangel Elli), Llwynhendy, Llanelli

• Urdd Llenor (Gwisg Las)

Enid Roberts (Enid Clwyd), Llanycil, Y Bala
Dafydd Hugh Slaughter (Eirin y Perthi), Caer-wynt
Brenda Williams (Brenda o’r Briw), Croesoswallt – wedi llwyddo y llynedd, ond heb ei hurddo

• Urdd Cerdd Ofydd (Gwisg Werdd)

Sarah Teifwen Evans, Castell Newydd Emlyn

• Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)

Adrian Mark John, Pontarddulais
Stella Lewis, Yr Hendy, Pontarddulais
David Smart, Cilgwri

• Urdd Llên Ofydd (Gwisg Werdd)

Hazel Williams Jones, Rhuthun

Bu’r ymgeisydd a ganlyn yn llwyddiannus yn ail arholiad ei adran yn unig:

Llên Ofydd 2

Brian William Baldwin, Prestatyn

I’w hurddo i’r Wisg Las fore Llun 6 Awst 2001 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth

Urdd Llenor (Gwisg Las)
• Rhiannon Ferch Dafydd, B.A., Llwyn Onn, Parc, Ger Y Bala, Meirion
• Bethan Jones, B.A., 14 Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion
• Delyth Wyn Jones, B.A., 2 Bwthyn Bryn Asaph, Ffordd Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych
• Gwenan Mair Roberts, B.A., 4 Lôn y Gelli, Colomendy, Dinbych, Sir Ddinbych

Urdd Cerddor (Gwisg Las)
• Gwenan Gibbard, B.Cerdd., Llwyn Eithin, 10 Lôn Ceredigion, Pwllheli, Arfon
• Meinir Llwyd Jones, B.Cerdd., Ferm y Rhewl, Waen, Llanelwy, Sir Ddinbych

I’w hurddo fore Llun Awst 6 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Enillwyr llwyfan
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli a’r Cylch 2000


(i) (a) Urdd Ofydd er Anrhydedd

• Iona Jones, Llandâf, Caerdydd – Enillydd y Rhuban Glas

• Mandy Louise James, Caerdydd – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

• Sandra de Pol, Trefelin, Chubut – Enillydd Tlws y Dysgwyr

(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd
• Geraint Vaughan Jones, Ffestiniog –
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

• Y Prif Lenor Eirug Wyn, Caernarfon –
Enillydd Y Fedal Ryddiaith

• Y Prifardd Dylan Iorwerth, Llanbedr Pont Steffan – Enillydd Coron yr Eisteddfod

• Y Prifardd Llion Jones, Bangor –
Enillydd Cadair yr Eisteddfod.

• John Marc Davies, Genefa –
Enillydd Tlws y Cerddor.

(iii) Urdd Derwydd er Anrhydedd
• Garry Nicholas, Llannon, Llanelli – Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli a’r Cylch 2000.

• Dennis Davies (Dennis Tudur), Llanrwst – Enillydd Gwobr Goffa Syr T.H. Parry-Williams Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000.

I’w Hurddo i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod
• Y Parchedig Ifor ap Gwilym (Ifor ap Gwilym), Abergele.

• Rhiannon Alun Evans (Prystwyth), Caerdydd.

• Myron Lloyd (Meuron), Rhuthun.

• Haf Jones Morris (Prysorwen), Llandegfan.

• Elinor Bennett Wigley (Elinor Bened), Bontnewydd.


I’w hurddo fore Gwener Awst 10

Urdd Ofydd er Anrhydedd

• William Gareth Davies, Caerdydd – Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru. Yn gyn-bennaeth adran chwaraeon y BBC, enillodd 21 o gapiau dros Gymru, a bu’n gapten ar dîm rygbi Cymru bum gwaith.

Cymerodd ran yn nhaith y Llewod i dde Affrig yn 1980. Cychwynnodd ei yrfa ym myd rygbi gyda Llanelli, gan ymddeol o’r gamp wedi deuddeg tymor yng Nghaerdydd. Bellach ac yntau’n Gadeirydd y Cyngor Chwaraeon y mae mewn sefyllfa allweddol i lunio polisi iaith y Cyngor, gan ofalu bod holl lenyddiaeth y Cyngor yn sicrhau Cymraeg graenus.

Bydd yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyson.

• Goronwy Clemence Ellis, Treffynnon, Sir y Fflint –
O Eryrys ger Yr Wyddgrug. Derbyniodd hyfforddiant athro yn Y Coleg Normal, Bangor a threuliodd ei holl yrfa fel athro ysgol yn Sir y Fflint tan ei ymddeoliad diweddar.

Yn dilyn cyfnod fel athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Queensferry, treuliodd weddill ei amser ym maes ysgolion cynradd, gan dreulio ugain mlynedd olaf ei yrfa yn brifathro Ysgol Gymraeg Gwenffrwd, Treffynnon.

Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Sir y Fflint – prif ysgogydd sefydlu Cwmni Bro Treffynnon, prif ysbrydolwr Eisteddfod flynyddol Bro Treffynnon, ac un o olygyddion papur bro’r Glannau o’r cychwyn. Croniclodd hefyd hanes datblygiad addysg Gymraeg y Sir. Ar hyn o bryd ef yw Ysgrifennydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

• William Lynworth Harry, Ontario, Canada – Yn wreiddiol o Lanelli. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Brenhinol Cerdd, Llundain.

Symudodd i fyw i Lundain ym 1948 gan ddysgu mewn nifer o ysgolion yno ac yn 1958 sefydlodd Gôr Meibion Cymru Llundain.

Dychwelodd i Gymru yn y chwedegau a daeth yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion enwog Orffiws, Treforus. Bu’n arweinydd y côr am wyth mlynedd cyn iddo ymfudo i Ganada. Yno sefydlodd Gôr Orffiws Hamilton a ddaeth yn ddiweddarach yn Gôr Orffiws Canada.

Bu’n arwain Cymanfaoedd Canu yng Nghymru a Chanada, a bu’n feirniad eisteddfodau gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cymro alltud a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i ganu corawl Cymru a Chanada.

• Catherine Hughes, Tregaron – Rhoddodd oes o wasanaeth i’w milltir sgwâr. Etholwyd hi’n Organyddes capel Bwlchgwynt pan yn bedair-ar-ddeg oed.

Bu’n arweinydd y plant yng Nghymanfa Ganu Presbyteraidd Glannau Teifi ac Aeron ers 18 mlynedd, a bu’n Gyd-Ysgrifennydd Pwyllgor y Gymanfa Ganu am 13 mlynedd.

Mae’n aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ieuanc, Tregaron ac yn unawdydd i Gôr Caron am chwarter canrif, ac arweinydd y côr ers 10 mlynedd. Sefydlodd adran o’r Urdd yn Nhregaron 14 mlynedd yn ôl.

Hi sy’n dysgu plant lleol i ganu mewn eisteddfodau, ac mae’n rhoi cymorth i gôr yr Ysgol Gynradd.

• Clarence Edwin Jones, Llanddaniel Fab, Ynys Môn –
Wedi ei eni a’i fagu yn Llangefni ac wedi treulio ei oes ar Ynys Môn. Er pan oedd yn ifanc bu’n aelod o gorau a phartïon canu yn Llangefni a’r cylch.

Yn 1962 enillodd ysgoloriaeth yn Eisteddfod Môn, ac yn sgîl hynny ennill gwobr i gael hyfforddiant lleisiol am ddwy flynedd gan y diweddar Bradwen Jones, Caergybi.

Estynnodd gyfnod yr hyfforddiant hwn am wyth mlynedd arall. Cystadleuydd cyson a rheolaidd mewn eisteddfodau bach a mawr led-led Gogledd Cymru.

Bu hefyd yn cystadlu fel unawdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ddod yn gyntaf ar yr unawd bas yng Nghasnewydd yn 1988. Ym 1987 daeth yn gyntaf ar yr unawd bas/bariton yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yno hefyd y cafodd yr ail wobr fel canwr y flwyddyn.

• Bryner Jones, Porthaethwy, Ynys Môn – Gwr sydd â chysylltiadau agos â Dyffryn Clwyd. Wedi iddo raddio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Pencraig, Llangefni ym 1960. Dyrchafwyd ef yn Ddirprwy Brifathro’r Coleg yn 1986 a bu yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad.

Trwy ei waith yn y Coleg, ynghyd â blynyddoedd o waith gwirfoddol gyda Ffermwyr Ieuanc Môn, cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant Ynys Môn. Bu’n aelod o Bwyllgorau Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 1983 (lle’r oedd yn un o’r Prif Stiwardiaid), ac Eisteddfod Genedlaethol 1999 – lle’r oedd yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Safle. Mae’n awdur y gyfrol Agor Cwys, hanes Coleg Pencraig o 1914 hyd 1994 (pan sefydlwyd Coleg Menai).

Cyflawnodd lawer fel Ysgrifennydd Cyfundeb Annibynnwyr Môn, a bu’n aelod gweithgar o Bwyllgor Golygyddol papur Bro Menai gan fod yn Gadeirydd y pwyllgor hwnnw o 1995-1998.

• Margaret Elizabeth Jones, Chwilog – Daeth o Landrillo yn Rhos i Chwilog yn 10 oed, ac yno y dysgodd Gymraeg. Cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes yn Sychdyn ac yna daeth i Abersoch lle gwasanaethodd fel athrawes ac yna prifathrawes – cyfnod o 33 o flynyddoedd.

Bu’n aelod ffyddlon a gweithgar o gapel Annibynwyr Chwilog – lle mae’n ddiacones, organyddes ac athrawes Ysgol Sul. Mae’n aelod o gyngor Undeb yr Annibynwyr ac etholwyd hi ar Bwyllgor Gweinyddol yr Undeb am ddwy flynedd. Bu’n Gadeirydd Cyfundeb Llyn ac Eifionydd ac ar hyn o bryd hi yw trysoryddes y Gyfundeb.

Bu’n ysgrifenyddes Cymanfau Ganu Llyn ac Eifionydd ers y saithdegau. Mae’n eisteddfodwraig frwd, a gwelwyd hi ers chwarter canrif yn gweinyddu fel arolygwr ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hefyd mae ganddi ddiddordeb yn y ddrama a bu’n aelod o gwmni drama Pwllheli am flynyddoedd.

• E. Alice Jones, Rhuddlan – Ganwyd yn Prion ac addysgwyd yn Ysgol Gynradd Pant Pastynog ac Ysgol Ramadeg Dinbych.

Yna aeth i Leeds lle cafodd Ddiploma, Dosbarth cyntaf, mewn Gwyddor Ty a Diploma mewn Dietegaeth yn Ysbyty Leeds. Bu ganddi swyddi cyfrifol mewn amryw ysbytai gan gynnwys Broadgreen, Lerpwl ac Ysbyty Coffa, Rhyl. Yna ar ôl priodi daeth i ffermio yn Pengwern, Rhuddlan – fferm lle rhoddodd y teulu groeso a chartref i Eisteddfod Genedlaethol Rhyl a’r Cyffiniau 1985.

Bu ganddi ran mewn sefydlu Ysgol Feithrin Gymraeg gyntaf Rhuddlan, bu’n athrawes Ysgol Sul am 15 mlynedd, a bu’n Gadeirydd Cangen Llanelwy o Ferched y Wawr. Penodwyd hi’n Ynad Heddwch yn 1986 ac etholwyd hi’n Is- Gadeirydd Mainc Sir Ddinbych yn 1999.

Mae’n olygydd papur i fudiadau gwirfoddol ac mae’n Gadeirydd Pwyllgor Cymraeg Cymeithas Tai Clwyd Alun. Gwraig a’i gwreiddiau’n ddwfn ym mhridd daear Dyffryn Clwyd, a rhoddodd oes o wasanaeth i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg yno.

• R. Emrys Jones, Bro Morgannwg – Ganwyd yn Nhalsarnau, Meirionnydd a chafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol elfennol yno ac yna yn Ysgol Ramadeg Abermaw.

Cychwynnodd ar ei brentisiaeth fel Fferyllydd ym Mhenrhyndeudraeth, ond torrwyd ar ei yrfa adeg yr ail ryfel byd pan ymunodd â’r Awyrlu. Bu am bedair blynedd yn y Dwyrain Canol, a phan yng Nghaersalem bu’n Ysgrifennydd y Gymdeithas Gymraeg ac yn ohebydd i Seren y Dwyrain.

Wedi’r rhyfel graddiodd mewn Fferylliaeth yng Nghaerdydd, a bu’n fferyllydd ym Mangor, Pontypridd a Gilfach Goch cyn rhedeg busnesau personol yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r Barri.

Trwy ei ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth a phob agwedd o ddiwylliant Cymru bu’n gefnogol i’r pethe ym mhob cylch. Bu ganddo ddiddordeb arbennig mewn Rasio Colomenod lle cyrhaeddodd y brig fel Llywydd y Ffederasiwn am 32 mlynedd ac yna fel noddwr pan ymddeolodd o’r Llywyddiaeth y llynedd.

Ym myd rasio colomenod enillodd wyth o fedalau Olympaidd, ac ef yw’r unig un i ennill Cwpan y Frenhines ddwywaith.

• Aur Roberts, Llanuwchllyn – Merch i Tom Jones, Llanuwchllyn ac mae wedi dilyn ôl troed ei thad gan gyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cerdd Dant yn ardal Llanuwchllyn. Gweithiodd yn ddiarbed gyda ieuenctid yr ardal a gwelir ôl ei gwaith yn Eisteddfodau’r Urdd, y Ffermwyr Ifanc ac ar hyd a lled y wlad. Ar wahân i hyfforddi’r ifanc ers 40 mlynedd, bu’n un o sefydlwyr Côr Merched Uwchllyn, a bu’n feirniad cyson yn eisteddfodau Penllyn. Bu hefyd yn weithgar iawn gyda Chymdeithas Cymry Ariannin, a bu’n Gadeirydd y Gymdeithas. Ymwelodd â’r Wladfa droeon a bu’n gyfrifol am drefnu Gwyl y Glaniad yn y Bala bob mis Gorffennaf.

• John Rees, Llanelli –
Addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Bu’n athro yn Ysgol Fodern Y Strade, Llanelli, Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, ac yna am 12 mlynedd bu’n ddirprwy Brifathro Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Ef oedd Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000. Bu’n gwasanaethu rygbi ysgolion Llanelli a’r cylch am 40 mlynedd ac am 20 mlynedd bu’n actio ac yn aelod o Gwmni Drama Cymraeg Llanelli. Gweithiodd yn ddiwyd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg

• Olga Williams de Roberts, Unol Daleithiau’r America – Ganwyd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn ferch i John Williams Dolwyddelan a’i wraig Elizabeth Jones, Cymraes o’r Wladfa. A hithau’n dair oed symudodd y teulu i Buenos Aries, lle cafodd ei haddysg a graddio’n athrawes. Priododd ag Arturo Roberts, ffisegwr o Gymro o Batagonia, a symudasai i Detroit, U.D.A. ac yno sefydlodd y ddau a magu teulu. Yn ystod yr 20 mlynedd y bu yn Detroit a thros 20 mlynedd o fyw yn New Jersey cadwodd gysylltiad â’r cymunedau Cymaeg lleol. Cyfraniad arbennig yw ei chefnogaeth diflino i gyhoeddi Ninnau, papur Cymry Gogledd America. Nid gormodiaith yw dweud na fyddai Ninnau wedi cyrraedd ei chwarter canrif, onibai am ei llafur hi. Daeth yn bapur cryf a bywiog a chafodd ei hymroddiad drwy gyfrwng Ninnau ddylanwad arbennig ar yr adfywiad yn y bywyd Cymreig yng Ngogledd America.

• John Samuel, Swydd Caint
Brodor o Abernant, Aberdâr –
Graddiodd mewn glweidyddiaeth ac astudiaethau cymdeithasol ym Mhrifysgol Keele. Cyn iddo ymddeol ef oedd Prif Weithredwr Newham, Dwyrain Llundain. Bu’n weithgar iawn gyda Chymry Llundain ac ar hyn o bryd ef yw Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth a Chymdeithas Cymry Llundain. Bu hefyd yn weithgar gydag Eisteddfod Cymry Llundain a’i Chwmni Drama. Ef yw Ysgrifennydd presennol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae’n ddiacon yn Eglwys y Bedyddwyr Castle Street, ac Ysgrifennydd Eglwysi Cymraeg Llundain. Bu’n flaenllaw yn yr ymgais o geisio sefydlu Eglwys Gymraeg an-enwadol yn Llundain.

• Alwina Thomas, Gaiman, Chubut – Bu ei chyfraniad mawr ar hyd y blynyddoedd yn gyfrwng i hyrwyddo’r traddodiad cerddorol Cymreig yn y Wladfa ac i hybu’r iaith Gymraeg.

O ganlyniad i’w gwaith hi fel athrawes biano, ei gwasanaeth gwirfoddol fel cyfeilydd corau a phartïon ac fel hyfforddwraig cantorion, fe gafodd cenedlaethau o drigolion y Wladfa gyfle i feithrin a datblygu eu doniau cerddorol.

Oni bai am ei hanogaeth hi, ni fyddai llawer ohonynt erioed wedi mentro i ganu fel unawdwyr, ac ymdrechodd bob amser i gynnal y safonau uchaf posibl.

Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i gapel Bethel y Gaiman, fel organyddes, ac mae’n dal i wneud hyn. Ni chyfyngodd ei chyfraniad i’r maes cerddorol yn unig – bu hefyd yn frwd ei chefnogaeth i bob un o sefydliadau Cymreig y Wladfa.

• Emrys Williams, Pwllheli – Yn wreiddiol o Bentrefoelas. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Pentrefoelas, Ysgol Uwchradd Llanrwst a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Tra bu’n gweithio mewn swydd weinyddol yng Nghaernarfon yn y chwedegau rhoddodd lawer o’i amser yn wirfoddol i gynorthwyo plant dan anfantais meddyliol. Bu’n ohebydd i’r Cambrian News dros gyfnod o 10 mlynedd, lle gwnaeth gyfraniad o bwys i’r gymdeithas yn neheudir Gwynedd. Yn 1991 penodwyd ef gan Gyngor Sir Gwynedd yn uwch-warchodwr Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Rhedodd yr amgueddfa tan ei ymddeoliad yn 2000, gan ymdrwytho ei hun yn hanes gyrfa a chyfnod Lloyd George, a darlithio’n gyson ar y pwnc.

Ychydig cyn iddo ymddeol lluniodd sgript ddwyieithog i gyd-fynd â phortread byw o’r crydd Richard Lloyd wrth ei waith ym y gweithdy yn Highgate.

• Fred Williams, Abertawe
Gwr o Ffynon Groes, Sir Benfro –
a raddiodd yn Beirianydd Sifil yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn rhinwedd ei swydd rhoddodd wasanaeth gwych i Awdurdodau Sirol De Cymru.

Gwasanaethodd ar bwyllgorau safle, trafnidiaeth a thechnoleg y Brifwyl yn 1980, 1982, 1994 a 2000. Bu’n arolygydd stiwardiaid y brifwyl am 20 mlynedd ac yn Brif Stiward Eisteddfodau Cenedlaethol Dyffryn Lliw 1980 a Llanelli 2000. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1993 a deil i fod yn aelod o’r Pwyllgor Safle Canolog.

Bu’n ddiacon a thrysorydd Capel Cymreg Bethel Abertawe ers dros 20 mlynedd, a bu’n Ysgrifennydd Cylch Cinio Cymraeg dinas Abertawe er 1980.


(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

• Buddug Verona James, Rhos Hill, Sir Benfro –
Merch a’i gwreiddiau’n ddwfn yn naear Sir Benfro.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli enillodd wobrau di-ri mewn eisteddfodau lleol, taleithiol, a chenedlaethol fel unawdydd, ac fel aelod o grwpiau a chorau.

Wedi iddi adael yr ysgol ymunodd â busnes y teulu, ac am gyfnod o naw mlynedd bu’n gweithio y tu ôl i’r cownter yn un o siopau cigydd ei thad.

Yn y cyfamser roedd yn dal i gystadlu a phan oedd yn 24 oed dechreuodd ddilyn cwrs proffesiynol yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, Llundain. Erbyn hyn cydnabyddir hi fel un o’r coloratura mezzo-sopano’s groau ein gwlad a thu hwnt.

Yn ystod ei gyrfa y mae wedi perfformio prif rannau ar lwyfannau Tai Opera yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Canada, Unol Daleithiau America a Siapan a’r Dwyrain Canol.

Yn ddiweddar gwahoddwyd hi i gyflwyno perfformiadau cyntaf o weithiau cyfansoddwyr Cymraeg – Richard Elfyn Jones a Pwyll ap Siôn.

• Eirian James, Aberteifi –
Cantores o fri a’i gwreiddiau’n ddwfn ym mhridd y Preselau. Yn gyn ddisgybl o Ysgol y Preseli amlygodd ddoniau cerddorol anghyffredin.

Yn 18 oed cafodd ei derbyn i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ac ar ôl graddio bu galw mawr am ei gwasanaeth ar lwyfannau opera a chyngerdd fel mezzo soprano.

Ymddangosodd mewn prif rannau opera – ar lwyfannau blaenllaw’r wlad – yn eu plith Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Covent Garden, Cwmni Opera Cenedlaethol Llundain, Cwmni Opera Caint Sadlers Wells, Gwyliau Buxton a Chaeredin.

Tramor mae wedi bod yn amlwg iawn ar lwyfannau prif dai opera’r byd, megis Cwmni Opera’r Iseldiroedd, Opera’r Swisdir yn Genefa, Opera Ffrainc – Paris, de Lyon a Bordeux, Opera’r Almaen, Munich Dresden, Sbaen ac Unol Daleithiau America.

Hefyd mae eisteddfodwyr Cymru wedi ei chlywed droeon fel unawdydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol

• Ieuan Wyn Jones, Rhosmeirch, Ynys Môn – Ganed ef yn Ninbych, tref lle bu ei dad yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg, Pontardawe ac Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Enillodd radd allanol Prifysgol Llundain yn y Gyfraith yng Ngholeg Politechnig Lerpwl. Cymhwysodd fel cyfreithiwr yn Rhuthun, Dinbych a Llangefni. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn yn 1987.

Bu’n Gyn-Gadeirydd y Blaid ac yn 2000 etholwyd ef yn Llywydd Plaid Cymru, yn olynydd i Dafydd Wigley.

Yn 1998 cyhoeddwyd ei gyfrol ar Thomas Gee, gan Wasg Gee.

• John Lloyd Jones, Tywyn – Ffermwr a’i wreiddiau’n ddwfn ym mhridd Meirionnydd ar fferm Hendy, Tywyn, Meirionnydd. Mae’n magu defaid a gwartheg ac yn cadw ymwelwyr.

Y mae’r fferm yn rhan o Tir Cymen ers dechrau’r cynllun. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru 2000 – a bu’n Gyn-Gadeirydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Cymru) 1993-98.

Ymhlith amryw bwyllgorau y bu’n gwasanaethu arnyn nhw mae Pwyllgor Cymru o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1992-2000, Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd, a Pharc Cenedlaethol Eryri 1988-98.

Ef hefyd yw cynrychiolydd Ffermwyr Prydain ar bwyllgor ymgynghorol Amgylchedd Ewrop.

• Dr Alun Morris, Bangor –
Ganwyd yng Ngharmel, Arfon yn fab i chwarelwr. Cafodd ei addysgu yn Lerpwl, a threuliodd gyfnod yn Alder Hey.

Fe’i penodwyd yn wedyn yn arbenigwr mewn Pediatreg yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, a symudodd wedyn i’r un adran yn Ysbyty Gwynedd. Eleni fe fydd yn ymddeol wedi bron i 40 mlynedd o wasanaeth fel arbenigwr. Arbenigodd ym maes cancr ar blant a bu ei gyfraniad i feddygaeth plant yn Ngwynedd yn allweddol.

Mae gan ei gydfeddygon yn yr ysbyty a’r meddygon teulu yng Ngogledd Cymru barch mawr tuag ato. Eleni cydnabyddwyd ei gyfraniad eithriadol drwy ddyfarnu iddo wobr Dr E.C. Benn, rhoddir y wobr am wasanaeth clerigol proffesiynol unigryw.

Hefyd mae ganddo ddawn a gwybodaeth ym myd ffotograffiaeth, ond ei brif ddiddordeb yw cerddoriaeth, yn arbennig y piano.

Ymddiddorodd mewn bandiau pres. Mae’n aelod o Fand Pres Porthaethwy, gan ganu’r tuba i ddechrau ac yn awr y trombôn.

• Buddug Owens, Llanelwy – Ganwyd yn Nantcellan, Llangorwen, Aberystwyth, ac addysgwyd hi yn Ysgol Ardwyn Aberystwyth ac Ysgol Genedlaethol Meddygaeth Caerdydd. Am 25 mlynedd bu’n anesthetegydd ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bu’n aelod o amryw Gymdeithasau Meddygol a bu’n Gyfarwyddwr a Chyn-Ddirprwy Cynghorwr Rhanbarthol Cymru i Goleg Brenhinol yr Anesthetegwyr. Bu’n Gadeirydd Adran Ambiwlans Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl 1985, a thraddododd y Ddarlith Feddygol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, Dyffryn Conwy 1989 ar y testun Ifor o Wynfe – darlith a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Feddygol.

Bu’n aelod o banel golygyddol Ein Gwasanaeth Iechyd ni 1948-98, a bu’n Gadeirydd panel golygyddol Ysbyty Glan Clwyd – Birth and Life of a Hospital a gyhoeddwyd ym Mehefin 2000.

Y mae ei chyfraniad yn helaeth iawn i feddygaeth a iechyd Cymru a rhoddodd wasanaeth teilwng i Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, gan fod yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli ers 1998.

• Penri Roberts, Aberteifi –
Gwr o ogledd Sir Benfro ond a fagwyd ar Ynys Môn. Bu’n drefnydd Cymdeithas Barnardo yng Nghymru am dros 21 mlynedd.

Yn y swydd hon fe ddaeth i gysylltiad ag ysgolion, eglwysi, cymdeithasau diwylliannol a mudiadau cenedlaethol ar hyd a lled Cymru. Bu ei ymroddiad i’r gwaith hwn yn fodd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mudiad Barnardo. Rhwng 1988 – 1996 fe fu’n Drefnydd Eisteddfodau Cenedlaethol y De.

Ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r gwaith o ganlyniad i anhwylder iechyd. Hefyd hyrwyddodd waith yr Eglwys yn lleol a chenedlaethol yn ei waith fel pregethwr lleyg, Llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, Ysgrifennydd a Chadeirydd Cwrdd Chwarter, Diacon ac Ysgrifennydd Eglwys.

• John Owen Thomas, Caerdydd – Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Howardian a Choleg y Barri. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1990.

Yn ystod ei yrfa fel athro a dirprwy Brifathro llwyddodd i drosglwyddo iaith a diwylliant Cymru i genedlaethau o blant Caerdydd a oedd yn cynnwys nifer mawr o dras a chefndiroedd ethnig amrywiol iawn. Dysgodd y Gymraeg yn ei ugeiniau a bu’n un o’r rhai mwyaf gweithgar a brwd yn yr ymgyrch i Gymreigio Caerdydd a’i gwneud hi yn fwy teilwng o’i statws fel prifddinas Cymru.

Ef oedd un o brif ysgogwyr sefydlu Clwb Ifor Bach sy’n gyrchfan i Gymru ifanc Caerdydd a’r cyffiniau lle cânt eu hadloniant drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu’n Llywydd y Clwb rhwng 1983-1989. Mae’n aelod ffyddlon yng nghapel y Tabernacl, Caerdydd, yn llywodraethwr ysgol ac yn aelod o Lys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Ers blynyddoedd bu’n hybu ymgyrch dros ddiwygio cyfraith prydlesi, a bu’n cynghori nifer mawr o bobl mewn achosion yn ymwneud â phrydlesi.

Dros gyfnod o 40 mlynedd daliodd nifer o swyddi ym Mhlaid Cymru yn cynnwys bod yn ddirprwy Lywydd ac erbyn hyn y mae’n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ef ar hyn o bryd yw Gweinidog yr wrthblaid ar Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg.

Anrhydeddau 2002

Y rhestr gyflawn o aelodau newydd Gorsedd y Beirdd 2002

Cyhoeddwn yma y rhestr gyflawn gyda theyrnged yr Orsedd i’r rhai a anrhydeddir:

A. I’w hurddo fore Llun 5 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

Enillwyr Llwyfan
Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Aled Wyn Davies, Llanbrynmair
Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Mirain Haf, Bangor
Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

Spencer Harris, Wrecsam
Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Siân Meinir Lewis, Penarth
Enillydd Gwobr Goffa David Ellis – Y Rhuban Glas

Glesni Pierce Owen, Botwnnog
Enillydd yr Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Urdd Derwydd Er Anrhydedd

Y Prifardd Mererid Hopwood, Caerfyrddin
Bardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Eifion Lloyd Jones, Prion
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaehtol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Y Prif Lenor Elfyn Pritchard, Sarnau
Enillydd Y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Y Prifardd Penri Roberts, Llanidloes
Bardd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Euron Walters, Llundain
Enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001

Y Prif Lenor T. Wilson Evans, Prestatyn
Enillydd Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983

(iii) I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod

D. Twynog Davies (Twynog), Llanbedr Pont Steffan

Gerald Davies (Gerallt o Lansaint), Pontypwl

Ron Davies (Ron Aeron), Aberaeron

Eryl Huws Jones (Eryl Caffo o Fôn), Bodffordd

Trefor Owen (Trefor Cynllaith), Y Trallwng

Anne Winston Pash (Annwen Geler), Castell Newydd Emlyn

Siân Teifi (Siân Teifi), Caernarfon

Alice Eileen Williams (Alice Brynrefail), Caernarfon

Emyr Wyn Williams (Emyr o Fôn), Porthaethwy

B. I’w hurddo fore Gwener 9 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002
(i) Urdd Ofydd er Anrhydedd

Eirwyn Charles, Llundain
Brodor o Glasfryn, Mesur-y-Dorth, ger Trefin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg, Tyddewi a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd mewn mathemateg. Bu’n athro mathemateg mewn amryw ysgolion gan gynnwys yr Ysgol Ryngwladol yn Genefa. Yn meddu ar lais bas cyfoethog, rhoes ei fryd ar ganu ac fe’i ‘darganfu’ gan Friedlinde Wagner – wyres i’r cyfansoddwr Richard Wagner. O ganlyniad enillodd ysgoloriaeth a’i galluogodd i dderbyn hyfforddiant cerddorol yn Bayreuth. Rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd gwmni opera ‘Y Cwmni Opera Rhyngwladol Newydd’ gyda’r bwriad o ddod ag opera i fannau lle na cheir cyfle i glywed operau gan gwmnïau mawr. Yn Genedlaetholwr selog, ef oedd asiant Waldo yn Etholiad 1959 a bu’n gefnogwr cyson i ymgyrchoedd etholiadol Gwynfor.

John Christopher Evans, Abertawe
Cymro a godwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg, ond a ymroes i ddysgu’r iaith, ac erbyn hyn y mae’n gwbl rugl yn yr iaith. Wrth ei alwedigaeth bu’n Uwch Ddarlithydd mewn Ffiseg a Mathemateg mewn colegau yng Nghaerlyr ac Abertawe, ond fel bardd y gwnaeth gyfraniad arbennig i Gymru a’i diwylliant. Cyhoeddwyd tair cyfrol o’i farddoniaeth, sef The Stone Corn, The Survivor, a Late Lamps, a disgwylir cyfrol arall Paper Songs o’r wasg eleni. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn y Gymraeg hefyd ac ymddangosodd rai ohonynt mewn cylchgronau. Bu’n ymwelydd cyson â’r Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth gyfraniad aeddfed a chyfoethog i’r diwylliant dwyieithog yng Nghymru.

Anthony William David Gorton, Casnewydd
Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Fonedd Cheltenham. Yna cafodd flas ar ‘steddfota ac astudiodd y Gymraeg mewn dosbarth lleol gan lwyddo i ennill tystysgrifau lefel O (1990) ac A (1995). Dechreuodd ei yrfa wirfoddol Eisteddfodol yn 1986 pan ddaeth dan ddylanwad Cymry Casnewydd a chael blas ar y Gymraeg a mwynhau pwyllgora a chwmni Cymry Casnewydd a’r Cylch wrth iddynt ymdrechu i sicrhau Eisteddfod mwyaf llwyddiannus posibl mewn ardal a oedd yn eithaf di-Gymraeg, ond sydd erbyn heddiw ar y blaen a’i Chymreictod yn amlygu ei hun yn yr ysgolion Cymraeg. Y mae ef gyda’r mwyaf ffyddlon o stiwardiaid yr Eisteddfod bob blwyddyn a dengys yr un brwdfrydedd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. Enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1991 am stori ddychmygolDyddiadur yr wythnos. Mae’n aelod ffyddlon yn Eglwysi Mynydd Seion ac Ebeneser Casnewydd, ac yn flaenllaw fel aelod o bwyllgor Ffrindiau Ty Tredegar a Chymdeithas Cymry Casnewydd. Esiampl nodedig o ddylanwad yr Eisteddfod Genedlaethol ar y di-Gymraeg.

Nathan Hughes, Richardson, Texas
Brodor o Gastell-y-Rhingyll, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd mewn Ffiseg a Mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe ac yna ymunodd â chwmni Marconi fel Peiriannydd a bu’n gosod offer teledu mewn sawl gwlad yn Ewrop, a bu’n goruchwylio’r telediad cyntaf o’r Fatican yn 1954. Bu’n brif beiriannydd cwmni T.W.W. a fu’n gyfrifol am nifer o raglenni Cymraeg. Yna yn 1962 ymunodd â chwmni dan gadeiryddiaeth Dr Haydn Williams i gynllunio a gosod Teledu Cymru ar ei draed. Yr oedd i’r cwmni hwn bwysigrwydd arloesol ym maes teledu yng Nghymru – gwasanaeth a arweiniodd yn y diwedd at sefydlu S4C. Yna bu’n Swyddog Marchnata cwmni o America gan weithio yn y Swisdir. Ymfudodd wedyn i fyw i Unol Daleithiau America. Mae’n awdur cyfrol Reminiscences of Wales 1924-42 – ysgrifennwyd rhagair i’r gyfrol gan Gwynfor. Ar ôl iddo ymddeol gwnaeth lawer i hybu’r bywyd Cymreig yn yr Unol Daleithiau. Gwˆr sy’n ymfalchïo yn ei dreftadaeth Gymreig.

Alun James, Cilgerran
Ffermwr wrth ei alwedigaeth – gwr a gafodd y fraint o dreulio’i oes yn yr un ardal ac yn ffermio’r un fferm. Daeth i amlygrwydd yn y pumdegau fel adroddwr mewn cyfarfodydd cystadleuol Capeli’r ardal, ac mewn eisteddfodau. Bu galw mawr amdano fel adroddwr digri mewn cyngherddau. Yna ym 1986 bu’n cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Abergwaun a’r Fro, lle’r enillodd ar yr adroddiad digri. Yn ystod y nawdegau bu’n arweinydd nosweithiau llawen ar hyd a lled y wlad a bydd llawer yn ei adnabod fel arweinydd rhai o nosweithiau llawen S4C. Mae’n ddiacon a chyn Ysgrifennydd Eglwys y Bedyddwyr, Penuel, Cilgerran. Ffermwr a wnaeth gyfraniad sylweddol i’w filltir sgwâr a’i genedl.

Clive James, Hendy, Pontarddulais
Brodor o’r Hendy, Pontarddulais. Ganed ef ar lan afon Gwili mewn ty a saif gyferbyn â’r ty lle ganed yr Archdderwydd Gwili. Addysgwyd ef yn Ysgol yr Hendy ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Bu ganddo erioed ddiddordeb mewn chwaraeon a bu’n aelod o dimau rygbi a chriced yr Hendy am dros 16 mlynedd.
Bu’n Gadeirydd nifer o bwyllgorau Undeb Rygbi Cymru, a bu’n Ysgrifennydd Clwb Rygbi’r Hendy am 38 mlynedd ac etholwyd ef ar Bwyllgor Cyffredinol Undeb Rygbi Cymru. Ef yw Ysgrifennydd presennol Capel Newydd yr Hendy, lle bu’n ddiacon ers deg-mlynedd-ar-hugain. Deuddeg oed ydoedd pan gychwynnodd chwarae organ y capel a deil yn organydd yng Nghapel Newydd. Ers 1995 ef yw Cadeirydd Cantorion Pontarddulais, côr o bensiynwyr Pontarddulais sy’n weithgar yn cynnal cyngherddau a chystadlu’n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwenfydd Mair James, Caio, Llanwrda
Ganed ym Mlaencwmbowi, Cilrhedyn. Yn ysgrifennydd cyntaf Adran yr Urdd, tref Aberteifi, a chadeirydd cyntaf Mudiad Ffermwyr Ifanc Capel Iwan, ac ysgrifennydd, trysorydd a chadeirydd Sefydliad y Merched Pumsaint cyn ymuno â Merched y Wawr Pumsaint ym 1971 a chael ei hethol i’r un swyddi yn y mudiad hwnnw. Gwnaeth gyfraniad arbennig i’r diwylliant Cymraeg yn ei bro a’i hardaloedd mabwysiedig. Cychwynodd barti Dawnsio Gwerin Dyffryn Cothi, grwp offerynnol Ieuenctid Eglwys Caio – ac yn sgîl hynny sefydlu cymanfaoedd modern, a chychwyn Cymanfa Ganu Undebol Dyffryn Cothi 1977 – a fydd yn dathlu chwarter canrif eleni. Wrth ail-godi Hen Ffeiriau Caio, gwnaeth lawer o ymchwil i hanes y pentref a’r fro. Yn nechrau’r wythdegau dechreuodd ymddiddori mewn hen wisgoedd Cymreig ac agorodd amgueddfa fechan yng Nghaio. Daeth yn awdurdod ar y gwisgoedd diddorol a gwerthfawr yn ei chasgliad. Ym 1989 penodwyd hi yn Feistres y Gwisgoedd Theatr Felin Fach.

Ann Jones, Bow Street

Cymraes a wnaeth gyfraniad gwirfoddol, cadarnhaol ac uniongyrchol anghyffredin dros adfer y Gymraeg. Hi sy’n trefnu ac yn goruchwylio pump o ganghennau CYD yn Aberystwyth. Gwnaiff hyn yn dawel effeithiol, ond gyda dychymyg, dyfalbarhad a deallusrwydd. Bob nos Lun, nos Fawrth, bore a nos Fercher, a phob bore Iau fe’i gwelir hi mewn canghennau gwahanol, y gyntaf i gyrraedd a’r olaf i ymadael. Yna mae’n mynd adref i drefnu un o ‘weithgareddau CYD’ – rhyw Ginio Gwˆyl Ddewi, rhyw daith, rhyw barti carolau neu ddarlith i CYD gan un o’r dysgwyr. Hi ers rhai blynyddoedd sydd wedi trefnu rota i bedair o’r canghennau, ac y mae dull y rota yn ddatblygiad pwysig sydd bellach yn cael ei ddynwared mewn rhannau eraill o Gymru. Dyma lle mae’r canghennau hyn yn wahanol i’r gangen gonfensiynol yn ymuno â’r dosbarth ar ddiwedd sesiwn dysgu er mwyn ymarfer sgyrsio. Dyma gyfraniad adeiladol gwych dros ein hiaith a’n gwlad.

Carys Jones, Mynytho
Wedi cwblhau ei chwrs dysgu yn y Coleg Normal, Bangor, rhoddodd oes o wasanaeth fel athrawes yn y sector cynradd ac yn ddiweddarach fel Prifathrawes Ysgol Tudweiliog yn Llyn. Mae ei diddordeb a’i hymroddiad yn gyson yng ngweithgareddau Neuadd Mynytho ym myd drama, eisteddfod, cyngerdd a’r sioe flynyddol yn ogystal â bod yn awreinydd diflino ar barti meibion Hogia’r Mynydd sydd yn diddori ardaloedd Llyn ac Eifionydd ers blynyddoedd. Yn ei ffordd dawel, ddirodres y mae wedi hybu llawer iawn ar ein diwylliant Cymreig yn y fro.

Dafydd Norman Jones, Llanwnda
Newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, gan gychwyn ar Y Cymropan oedd yn bymtheg oed. Bu’n newyddiadurwr amser llawn am 47 o flynyddoedd – 14 ohonynt ar Y Cymro. Ymunodd wedyn â’rNorth Wales Weekly News i ddechrau argraffiad Bangor a’r Cylch. Pan lansiwyd y Bangor & Anglesey Mail cafodd berswad ar y cwmni i gyhoeddi colofn Gymraeg ac ef a fu’n gyfrifol amdani, gan wahodd cyfraniadau gan wahanol ‘sgrifenwyr. Er iddo ymddeol yn gynnar deil i ohebu – mewn amryw bapurau. Chwaraeodd cerddoriaeth ran bwysig yn ei fywyd, ac enillodd gannoedd o wobrau fel unawdydd bas mewn eisteddfodau mawr a bach yng Nghymru a’r gororau. Uchafbwynt ei yrfa eisteddfodol oedd ennill yn Llangollen – trydydd yn 1971, ail yn 1972, a’r wobr gyntaf yn 1973. Y mae’n is-lywydd Côr Meibion y Penrhyn. Newyddiadurwr ac eisteddfodwr o fri.

Emrys Jones ac Olwen Jones, Llanllyfni
“Pâr a wnaeth yr Eisteddfod yn fwy fel ffordd o fyw” yn ôl yrHerald, mewn portread ohonynt fis Awst y llynedd. Buont yn gweithio ar fynedfa’r maes, yn ddi-fwlch, ers Prifwyl 1969 yn Y Fflint. Buont yn treulio eu gwyliau, ar eu traul eu hunain, yn gwasanaethu pob Prifwyl ers dros deng mlynedd ar hugain. Gwelsant lawer o newid yn yr Eisteddfod dros y cyfnod hwn, ac y maent yn ymfalchïo yn natblygiad cryf yr Eisteddfod dros y blynyddoedd. Eisteddfodwyr sy’n mwynhau’r Eisteddfod bob blwyddyn ac yn rhoi o’u gorau i sicrhau llwyddiant ein Prifwyl. Dyma wasanaeth cwbl anhunanol er lles Cymru a’r Gymraeg.

Ifan Glyn Jones, Llandudno
Athro â chanddo gymwysterau arbennig ar gyfer dysgu plant ag anghenion arbennig, a rhoddodd bron ddeugain mlynedd o wasanaeth di-dor yn dysgu disgyblion a chanddynt anawsterau dysgu dwys. Cafodd brofiad helaeth fel athro mewn amryw ysgolion cyn ei benodi’n Brifathro Ysgol y Graig, Hen Golwyn ym 1982 ac yna’n Brifathro Ysgol y Gogarth yn 1985 – ysgol ddyddiol breswyl Gymraeg ar gyfer plant a chanddynt anghenion addysgol arbennig – swydd a ddeil o hyd. Canmolwyd gwaith yr ysgol hon mewn Arolwg a gynhaliwyd ym 1998, a derbyniodd y Prifathro lythyr oddi wrth Brif-Arolygydd Ysgolion Cymru yn llongyfarch Ysgol y Gogarth ar ansawdd ac ehangder y ddarpariaeth addysgol yno. Mae’n flaenor yng Nghapel Cymraeg Bethania, Craig-y-Don er 1993 ac yn aelod o Gôr Meibion Maelgwyn.

Tegid Jones, Llanharan
Brodor o Brynrefail oedd Tegid (Teg) Jones ond symudodd i’r De pan ymunodd â BBC Cymru yng Nghaerdydd. Mewn gyrfa o dri deg a phedwar o flynyddoedd gyda’r Gorfforaeth, a phum mlynedd wedyn fel rhyddgyfrannwr, bu’n rheolwr peirianyddol a chyfarwyddwr goleuo hynod lwyddiannus. Bu’n aelod allweddol o dimoedd cynhyrchu nifer helaeth o delediadau allanol, gan gynnwys gemau rygbi a phêl droed rhyngwladol, cynadleddau gwleidyddol, y gyfres hynod boblogaidd Dechrau Canu, Dechrau Canmol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Fe fu’n gyfrifol am oleuo’r pafiliwn mawr a safleoedd eraill ar y maes am dros ugain mlynedd, ond llafur cariad fu’r blynyddoedd hynny i Teg Jones. Ysbrydolodd ei gydweithwyr technegol i ymddiddori yng ngweithgareddau’r Eisteddfod a phrin fod neb yn fwy brwdfrydig dros y Brifwyl nag ef. Peiriannydd wrth ei alwedigaeth ond amaethwr wrth reddf, bu’n byw am sawl blwyddyn ar Ffarm Llwyn y Brain Llanharan, ac yno y bu farw fis Mai eleni ac yntau ond trigain oed. Roedd y cannoedd a ddaeth i’w wasanaeth coffa yn Llanharan ac i’w angladd ym Mhenisarwaun yn dystiolaeth o’r cariad a’r parch tuag ato o bob cwr. Collodd y byd darlledu a’r Eisteddfod Genedlaethol, ffrind a chymwynaswr ffyddlon.

Wmffra Jones, Waunfawr, Gwynedd
Gwr sydd yn un o Eisteddfodwyr mwyaf ffyddlon Cymru. Prin bod yr un Sadwrn yn mynd heibio heb iddo ymddangos ar lwyfan un o’r eisteddfodau lleol, ac megis ei gyfaill a’i gyd-eisteddfodwr Mabon, gwnaeth hynny ers blynyddoedd. Bydd yn cystadlu ar nifer o gystadlaethau yn yr Adran Gerdd, gan gynnwys cystadlu ar adrodd ac ar y ddeuawd gyda Mabon. Gan fod Mabon yn gaeth i’w gadair olwyn Wmffra sy’n gyfrifol am fynd â’i gyfaill i’r eisteddfodau. Byddent ill dau yn crwydro led-led Cymru i eisteddfota. Dyma yn wir asgwrn cefn ac anadl einioes eisteddfodau bach Cymru.

Robert Morris Owen, Dinbych
Ganwyd ac addysgwyd yn Ninbych. Bu’n athro yn ysgolion Sir Ddinbych cyn ei benodi’n Brifathro Ysgol y Grawys, Dinbych ac yna yn 1976 penodwyd ef yn brifathro ysgol newydd Heulfre, Dinbych. Bu’n un o’r sawl a sefydlodd Gymdeithas Hanes Dinbych ac adnabyddir ef fel gwir hanesydd lleol. Cyhoeddodd amryw lyfrau ac ysgrifau’n ymwneud â hanes lleol. Ef yw Golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych. Mae’n gasglwr llyfrau, hen lythyrau a lluniau a gwelwyd detholiad o’r rhain mewn arddangosfa yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau 2001. Gweithiwr diarbed dros y Gymraeg a hanes ei fro.

Arthur Wyn Parry, Y Groeslon
Brodor o’r Groeslon ger Caernarfon a roes gyfraniad sylweddol yn ddiwylliannol a chymdeithasol yn ei filltir sgwâr. Crefftwr wrth ei alwedigaeth a bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Menai Bangor cyn iddo ymddeol. Bu’n weithgar iawn gyda phobl ifanc gan hyfforddi corau plant ac unigolion ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd. Bu’n arweinydd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ar ôl bod yn aelod o’r côr am flynyddoedd. Gwˆr amryddawn a roes oes o wasanaeth clodwiw fel cymwynaswr, crefftwr, cynghorydd plwyf ac arweinydd cymanfaoedd. Cefnogodd eisteddfodau ledled Cymru ar hyd ei oes ac yn enillydd cyson. Daeth i’r brig ar ganu emyn yn Eisteddfodau Cenedlaethol Bro Ogwr, Môn a Dinbych a’r Cyffiniau. Aelod ffyddlon yng Nghapel Bwlan, Llandwrog lle bu’n flaenor ers dros chwarter canrif ac yn arweinydd y gân ers bron hanner canrif.

Grace Roberts, Nefyn
Brodor o Benysarn, Ynys Môn, ymsefydlodd ym Mhenrhyn Llyn lle bu’n ymroddgar iawn i’r diwylliant Cymraeg ers blynyddoedd. Deunaw mlynedd yn ôl sefydlodd hi a’i gwr Cylch Lenyddol Llyn, a bu’n gweithredu fel ysgrifenyddes weithgar y gymdeithas hon gan drefnu cyfarfodydd, teithiau a darlithoedd o safon uchel. Cyhoeddwyd amrywiaeth o’i gwaith yn cynnwys Sgyrsiau Hogiau yn Bennaf (1985), Rhodd o Ferch (1989), Dyddiau Teisen Bwdin (1991), Drysfa, ynghyd â nifer o erthyglau, adolygiadau a straeon byrion mewn amryw gylchgronau. Mae’n awdures sawl sgript i’r gyfres deledu Pobl y Cwm ac yn ddarlledwraig ar y radio o bryd i’w gilydd.

Gruffudd Roberts, Aberhonddu
Bu am nifer o flynyddoedd yn athro mewn ysgolion yn Sir Forgannwg, a bu’n brifathro Ysgol Gynradd Penyderyn, ger Aberdâr am ddwy-ar-hugain o flynyddoedd. Gweithiodd hefyd yn athro Cymraeg oedolion am nifer o flynyddoedd ym Mrycheiniog a De Powys yn ddiweddarach. Yna bu’n athro Cymraeg gwirfoddol yn y Wladfa am flwyddyn 1994-5 ac urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Wladfa pan ail sefydlwyd yr Orsedd honno yn 2001. Bu’n weithgar iawn ym mudiad Urdd Gobaith Cymru gan weithredu am gyfnod yn Drefnydd rhan amser ym Mrycheiniog. Treuliodd y rhan helaethaf o’i fywyd mewn ardaloedd ag iddynt hen wreiddiau Cymraeg ond a gollodd yr iaith. Bu ef yn lladmerydd yr iaith yn yr ardaloedd hyn gan weithio’n ddygn drosti bob amser mewn amryw ffyrdd.
Y mae’n bregethwr lleyg a wasanaethodd ym Mrycheiniog a’r Wladfa.

W. Reggie Smart, Llandudoch
Ganed ym Mhantygwyddel, plwyf Llanfyrnach, Sir Benfro. Addysgwyd ef yn ysgolion Tegryn a Bwlch-y-Groes a bu’n gweithio ar ffermydd yn ardal y Frenni ac yn ardal Llandudoch wedi iddo adael yr ysgol. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio i gwmni o adeiladwyr ac yn negesydd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth. Eithr fel bardd y meddylir yn bennaf amdano. Dechreuodd ymhél â barddoniaeth, a throi’n fardd cynhyrchiol iawn drwy fynychu dosbarth Gweithdy’r Bardd o dan gyfarwyddyd y Prifardd Eirwyn George yn Ysgol y Preseli am ddeg mlynedd gyfan. Bu’n aelod o Ddosbarth Cynganeddu y Prifardd T. Llew Jones yn nhre Aberteifi hefyd. Cafodd lwyddiant mawr mewn eisteddfodau gan ennill saith o gadeiriau, nifer o wobrau yn Eisteddfod Gwyl Fawr Aberteifi yn cynnwys y wobr ar y soned wyth o weithiau, y faled tair gwaith, y gerdd dafodiaith bedair gwaith a’r wobr am y delyneg. Bu’n fuddugol ar y gerdd rydd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992. Bu’n aelod di-flwch o Dîm y Preselau ar Dalwrn y Beirdd ers ugain mlynedd. Derbyniodd glod haeddiannol yn y bennod a neilltuwyd iddo gan y Prifardd Eirwyn George yn y gyfrol ‘Gwyr Llên Sir Benfro’.

Ena Thomas, Caerfyrddin
Magwyd yn Felindre, Abertawe. Graddiodd mewn Rheolaeth Arlwyo yng Ngholeg Polytechneg Battersea, ac yna cafodd swyddi mewn amryw leoedd. Ymroes i goginio a dysgu’r grefft i eraill, gan gychwyn mewn dosbarthiadau nos yng Nghaerfyrddin a Nantgaredig. Bu wrth y gwaith hwn am ddeng mlynedd-ar-hugain. Yna daeth yn adnabyddus drwy Gymru wrth iddi ymddangos yn wythnosol ar y rhaglen Heno ar S4C, yn arddangos celfyddyd coginio. O ganlyniad bu galw mawr am ei gwasanaeth ledled Cymru, ac elwodd nifer o achosion da o ganlyniad i’r gwaith hwn. Bu ei gweithgarwch hefyd yn fodd i godi arian tuag at o leiaf bum Eisteddfod Genedlaethol. Cyflawnodd hyn drwy roi ei gwasanaeth yn ddi-dâl.

John Gomer Williams, Pantiago, Wdig, Sir Benfro
Fel ei gyndeidiau dros genedlaethau, gof yw John Gomer Williams ym Mhencaer, Sir Benfro. Gwr y mae Gorsedd y Beirdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn fawr eu dyled iddo. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd, Eisteddfod Abergwaun 1986 ac Is-Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd yn Nhyddewi 2002. Bu’n gyfrifol am ddod o hyd i feini’r Cylch yn y ddwy Eisteddfod. Ef hefyd a drefnodd atgyweirio’r union injan a dynnodd feini’r Cylch i’w lle yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936 a’i defnyddio i wneud y gwaith eto yn Eisteddfodau 1986 a 2002. Yn ogystal â’i gyfraniad cenedlaethol, mae’n ddyn ei filltir sgwâr. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cymuned Pencaer, ac o dan ei ddylanwad ef y mae’r Cyngor wedi parhau i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Eisteddfod flynyddol Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan 1999 enillodd y newyddiadurwr Hefin Wyn Fedal yr Wyl gyda’i bortread o John Gomer Williams. Mewn cyfweliad dywedodd yr awdur “Cefais fy swyno gan wybodaeth Jac o hanes a chwedloniaeth bro ei febyd a’i frwdfrydedd i rannu’r cyfoeth hwn gyda’r llu o ymwelwyr a ddaethai ar drywydd hanes y Ffrancod, a hynny yn syml ac yn ddirodres trwy gyfrwng ei famiaith, sef tafodiaith goeth Pencaer”. Y mae ymdrech oes John Gomer Williams i warchod iaith a diwylliant Pencaer yn nodedig. Iddo ef a’i debyg y mae’r diolch am barhad traddodiadau gorau y bywyd Cymreig mewn ardaloedd gwledig fel Carreg Wastad a Phwllderi a Phencaer.

(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

Lyn Lewis Dafis, Aberystwyth
Ganed ym Mynachlog-ddu. Mae’n Guradur Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn Eglwyswr selog, y mae’n aelod o Bwyllgor Litwrgi yr Eglwys yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb arbennig am y Gymraeg. Mae’n gyn-aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, a chyn-olygydd Y Llan. Mae’n ddarllenydd lleyg ac ef gyfieithodd y Cwrs Alffa i’r Gymraeg. Y mae’n aelod o Banel Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru, a bu’n gwasanaethu am nifer o flynyddoedd ar Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan olygu Tafod y Ddraig am gyfnod. Mae’n gyd-olygydd rhaglenni Clwb Pêl-droed Aberystwyth, a’r cylchgrawn pêl-droed ‘Cic’. Bu’n darlithio ar iaith Sir Benfro a chyfieithodd yr Efengylau i iaith ei sir enedigol.

Syr David Roderick Evans, Abertawe
Ganed yn Abertawe ac addysgwyd ef yn Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe a Phrifysgol Llundain lle graddiodd yn y Gyfraith. Galwyd ef i’r bar yn 1970 ac ymunodd â Chylchdaith Cymru a Chaer. Tan 1992 bu’n dilyn ei yrfa fel bargyfreithiwr gan wneud llawer o’i waith drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y nawdegau bu’n Farnwr Cyswllt â gofal am hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn llysoedd barn Cymru. Yn 1999 dyrchafwyd ef yn brif Farnwr Cylchdaith Cymru ac yn Gofiadur Dinas Caerdydd. Yn 2001 cafodd ddyrchafiad pellach a’i benodi’n Farnwr yn yr Uchel Lys. Eisoes cymerodd ran flaenllaw mewn datganiadau pwysig a chwyldroadol ym materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn y Llysoedd Barn. Cymro Cymraeg cadarn ei argyhoeddiadau.

Neville Hughes, Bethesda
Ganed yn Nhalybont, yn fab i chwarelwr. Tua dechrau ei yrfa yn y banc, ymddiddorodd mewn canu ysgafn a ffurfiodd gyda nifer o ffrindiau lleol grwp sgiffl a dechreuodd yntau feistroli’r gitâr. Dyna ddechrau ‘Hogia Llandygai’ ac ym 1957 nhw oedd y grwp sgiffl cyntaf i ddarlledu yn y Gymraeg. Yr oedd Neville gyda’i ddoniau amryddawn yn perfformio a chyfieithu, yn allweddol yn y cwmni o’r dechrau. Newidiodd a datblygodd y grwp yn y chwedegau ac fel grwp o bedwar y daeth Hogia Llandygai i’w bri cenedlaethol mewn cyngherddau ac ar y cyfryngau. Wedi bwlch yn y saithdegau ailddechreuwyd eto yn 1979, y cyfnod hwn yn dri, gan ganu ar hyd a lled Cymru ac o ganlyniad rhoddodd Neville a’i gyfeillion gyfraniad sylweddol iawn i fyd y canu pop Cymraeg o’r pumdegau hyd at 1996 pan ymddeolodd y grwp o fyd canu cyhoeddus. Cyfranodd Neville yn helaeth iawn hefyd i fywyd ei gymdeithas yn lleol a chenedlaethol. Bu’n aelod ar Gyngor Bwrdeistref Arfon am ddeunaw mlynedd ac mae’n aelod brwdfrydig ar Gyngor Cymuned Bethesda, ac yn un o olygyddion papur bro Llais Ogwen. Yn ogystal â’i ddyletswyddau cyhoeddus, ni ellir rhifo ei gymwynasau dirgel. Mae’n ysgrifennydd ei eglwys yn Nhalybont, Trysorydd Cyfundeb Gogledd Arfon ac Ysgrifennydd Cymanfa Ysgolion Sul Bangor a Bethesda. A bellach ef yw Trysorydd Annibynwyr Cymru. Ar sail cysondeb ei gyfraniadau amlochrog ar hyd y blynyddoedd anrhydeddir ef, a thrwy hynny cydnabyddir cyfraniad cyfoethog yr Hogia i fywyd y genedl.

Christine James, Abertawe
Ysgolhaig Cymraeg ac aelod o Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru Abertawe. Llynedd ymddangosodd y gyfrol Cerddi Gwenallt o dan ei golygyddiaeth hi. Yn ogystal â chywain holl gerddi Gwenallt ynghyd mewn un gyfrol, y mae safon y Golygu ynghyd â’r nodiadau helaeth gan y Golygydd yn gyfraniad arbennig a holl bwysig i’r neb sydd yn ymddiddori yng ngwaith un o feirdd pwysicaf Cymru – a hynny mewn unrhyw gyfnod. Dyma gymwynas fawr â chenedl y Cymry.

Branwen Jarvis, Bangor
Yn frodor o Aberdâr bu’n athrawes ysgol yn dysgu Cymraeg, yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Caerdydd ac Adran y Gymraeg, Bangor. Erbyn hyn hi yw Athro a Phennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor. Y mae’n ysgolhaig a beirniad llenyddol o fri ac wedi cyhoeddi’n sylweddol ym maes llenyddiaeth Gymraeg. Y mae wedi gwasanaethu’r Eisteddfod Genedaethol gan weithredu fel beirnaid yn rhai o’i phrif gystadlaethau llenyddol, ac fel darlithydd ar achlysuron pwysig yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Glyn Lewis Jones, Aberystwyth
Brodor o Aberystwyth, a Llyfrgellydd wrth ei alwedigaeth. Bu’n Swyddog Llyfryddol a Hyfforddi Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Dyfed am dros ugain mlynedd 1974-1996. Bu’n gefnogol iawn dros y blynyddoedd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac i Eisteddfodau lleol yng Ngheredigion, a bu’n weithgar ym myd diwylliannol, crefyddol ac ysgolheigaidd y genedl. Dengys ei gampwaith Llyfryddiaeth Ceredigion (1964, ac Atodiad 1964-68) ei fod yn wr egnïol ac yn lyfryddwr penigamp. Bu’n Ysgrifennydd, Cadeirydd, a Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru. Y mae hefyd yn Ysgrifennydd Eglwys Annibynol Seion, Aberystwyth.

Hywel Glyn Lewis, Castell-y-Rhingyll, Gorslas
Ganed yng Ngodre’r Graig, Cwmtawe. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Sir Ystalyfera, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth a Chymraeg. Bu’n athro mewn amryw ysgolion cyn ei benodi i’w swydd bresennol yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri. Ym 1985 sefydlodd gôr cymysg Cantorion y Rhyd, côr a enillodd deirgwaith yn olynol yn y Brifwyl rhwng 1987 a 1989, gan gynnwys y gystadleuaeth prif gorawl yn Llanrwst yn 1989. Ers hynny, mae’r côr wedi cefnogi cystadlaethau corawl y Brifwyl bron yn ddi-dor. Ym 1995 penodwyd ef yn gôr-feistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr ar gyfer perfformiad o waith Elgar, Breuddwyd Gerontius, perfformiad ym Mhrifwyl 1996 a gafodd ganmoliaeth uchel.

Manon Easter Lewis, Corwen
Magwyd yn nhref Corwen, a gwasanaethodd am flynyddoedd yn organyddes Capel Seion, Corwen. Athrawes wrth ei galwedigaeth, gyda diddordeb arbennig mewn cynorthwyo plant ôl-gynnydd i ddatblygu sgiliau addysgol. Yn ystod ei chyfnod fel athrawes yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, cyfrannodd o’i dawn gerddorol yno a bu llawer parti ac unigolion dan ei hyfforddiant yn ennill llawryfon ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd. Manteisiodd ar ei hadnabyddiaeth o ieuenctid Penllyn ac Edeyrnion i ffurfio côr merched yn 1979. Dros gyfnod o ddwy flynedd-ar-hugain mae’r côr merched o dan ei harweiniad wedi ennill y brif wobr i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeuddeg o weithiau. Cyfrannodd y côr hwn yn helaeth i fyd y gân yng Nghymru dros y cyfnod a bu’n llysgenad cerddorol mewn amryw wledydd tramor. Yn ystod ymweliad y côr â’r Eidal enillodd y côr y brif wobr gorawl yng Ngwyl Gerdd Verona. Bu cyfraniad arweinydd y côr hwn i gerddoriaeth ac i Gymreictod yn sylweddol.

Donald Moore, Aberystwyth
Ganed yn y Barri, ac addysgwyd ef yn Ysgol Sir y Bechgyn, Y Barri; Colegau Prifysgol Cymru Aberystwyth a Chaerdydd a Phrifysgol Rhydychen. Bu ei gyfraniad i fywyd Cymru yn helaeth a chyfoethog – yn arbennig felly ym maes celfyddyd a hanes. Gydol ei oes bu’n gyfrwng i ddod â llawer iawn o bobl i well adnabyddiaeth o’u treftadaeth, a thrwy ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol amlygwyd amrediad eang ei ddiddordeb a’i wybodaeth. Bu ganddo gysylltiadau agos â Llydaw, a bu’n gyfrwng dod â diwylliant Cymru a Llydaw yn nes at ei gilydd. Bu ei gyfraniad i adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol yn sylweddol. Gwr eangddysg a roddodd oes i ddehongli cyfoeth treftadaeth Cymru.

Gari Owen, Pontarddulais
Brodor o’r Hendy, a’i wreiddiau’n ddwfn yn yr ardal. Ers yn blentyn bu’n Eisteddfodwr brwd gan ganu ac adrodd mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol, lle’r enillodd dros gant o gwpanau a thystysgrifau. Ar hyd ei oes bu’n ddyn ei filltir sgwâr, a deil nifer o swyddi anrhydeddus cyfrifol a ddengys ei ddiddordeb ym mywyd y gymdeithas – megis Llywydd Cymdeithas Henoed Yr Hendy, a Llywydd Cantorion Pontarddulais. Y mae hefyd yn gefnogol iawn i Eisteddfod Gadeiriol Yr Hendy. Bu’n weithgar iawn adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 – yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithgareddau ac yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llefaru. Y mae ei wyneb a’i lais yn gyfarwydd ar sgrin S4C a Radio Cymru fel cyflwynydd newyddion. Mae’n aelod brwd o Gapel yr Hope Pontarddulais a bydd yn hyfforddi pobl ifanc y capel i gyflwyno gwasanaethau arbennig.

Alwyn Owens, Porthaethwy
Peiriannydd electroneg yn ôl ei alwedigaeth yn yr Adran ym Mhrifysgol Cymru,
Bangor. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol Cymru. Gwnaeth gyfraniad arbennig i Urdd Gobaith Cymru, yn ei gynefin ac yn genedlaethol dros lawer o flynyddoedd. Yn yr un modd gwnaeth gyfraniad tra arbennig i Eisteddfod Genedlaethol Cymru dros lawer o flynyddoedd o ran goleuo a hyrwyddo cynyrchiadau drama a hefyd trwy gefnogaeth sylweddol ac ymarferol i’r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg a’i gweithgareddau. Cyfrannodd yn helaeth tuag at godi pont gadarn rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau.

Gruffydd Aled Williams, Llandre, Ceredigion
Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ysgolhaig, bardd a hanesydd llên. Cyn ddarlithydd yn y Brifysgol Genedlaethol, Dulyn, hefyd cyn-ddarllenydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Arbenigwr ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni, cyhoeddodd laweroedd o ysgrifau yn ymwneud â’r meysydd hyn a meysydd eraill. Awdur nifer o lyfrau a llyfrynnau. Ystyrir yn gampwaith ei Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal. Golygydd Llên Cymru ers 1996.

Y Parchedicaf Rowan Williams, Casnewydd
Ganed gerllaw Abertawe ac addysgwyd ef yn Ysgol Dinefwr, Abertawe a Choleg Crist, Caergrawnt. Ar ôl darlithio mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg yr Atgyfodiad, Mirfield, ordeiniwyd ef i’r Weinidogaeth yn yr Eglwys Anglicanaidd. Parhaodd i ddysgu Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt pan ddaeth yn Ddeon Coleg Clare, ac yn Rhydychen fel athro Diwinyddiaeth y Fonesig Margaret. Ym 1992 daeth yn Esgob Mynwy yn yr Eglwys yng Nghymru, ac etholwyd ef yn Archesgob Cymru ar ddiwedd 1999. Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau, ac yn eu plith The Wound of Knowledge – astudiaeth o ysbrydolrwydd Gristnogol o gyfnod y Testament Newydd hyd at Sant Ioan y Groes – cyfrol a ddengys ystod gwybodaeth a diddordeb yr Athro. Cyhoeddwyd hefyd gasgliad o’i gerddi yn y gyfrol After Silent Centuries cyfrol sy’n cynnwys cyfieithiadau o nifer o gerddi Waldo i’r Saesneg – gan gynnwys cyfieithiad o Wedi’r Canrifoedd Mudan, cyfieithiad a roes iddo deitl i’r gyfrol. Yn ddiwinydd, ysgolhaig, llenor bu hefyd yn ymarfer ei grefft fel bardd ers bron i ddeg mlynedd ar hugain.

Thomas John Williams, Llanrwst
Gwr a dreuliodd ei oes yn ffarmio yn Nyffryn Conwy, a ddaeth i fri cenedlaethol fel beirniad yn yr Adran Gerddoriaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanbedr Pont Steffan 1984, Y Rhyl 1985, Llandeilo 1996, Bro Colwyn 1995 a Dinbych 2001. Bu’n arweinydd dwy Gymanfa Ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol – Porthmadog 1987 a Llanrwst 1989. Ef oedd arweinydd Côr yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1989 yn perfformio’r oratorio Elias. Gwahoddwyd y côr wedyn i berfformio yn yr Albert Hall; yr unig Gôr Eisteddfod a wnaeth hynny. Y mae ei gyfraniad lleol hefyd yn ddisglair – lle bu’n hyfforddi cantorion ac arwain Cymanfaoedd Canu. Bu’n organydd Capel Salem Llanddoged ers pan oedd yn 11 oed, gan roi 62 mlynedd o wasanaeth. Gwr cyfarwydd â thrin y tir, a gwr cyfarwydd â meithrin doniau cerddorol cymdeithas wledig, ac a gyfrannodd ymhellach i’r llwyfannau cenedlaethol.

Anrhydeddau 2003

 

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a’r Gororau 2003.

Fe fydd y diweddar Athro Phil Williams, y newyddiadurwr Sulwyn Thomas, yr actor Ioan Gruffudd a gwr a gwraig o Landegfan, Ynys Môn, Gwyneth ac Edward Morus Jones, yn cael eu hurddo.

Dyma restr lawn o’r bobol eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni:
Urdd Ofydd er Anrhydedd:

Eirlys Cawdrey, Casnewydd Yn enedigol o Lanon, Ceredigion, fe ddilynodd cwrs i fod yn ddietegydd. Bu’n gweithio fel dietegydd, gan arbenigo mewn anhwylderau plant. Bu’n weithgar gydag Eisteddfod Casnewydd yn 1988 ac mae’n edrych ymlaen yn frwd at yr Eisteddfod yn yr ardal yn 2004.

Mair Lloyd Davies, Tregaron Yn enedigol o Fwlch-y-llan, bu’n weithgar iawn gyda’r Pethe. Mae’n feirniad llefaru cenedlaethol ac mae wedi bod yn weithgar yn y capel, yr eisteddfodau a Merched y Wawr yng Ngheredigion, gan gyfoethogi bywyd diwylliannol yr ardal.

Janet Maureen Hughes, Llanrwst Yn enedigol o Aberangell, bu’n athrawes gerdd yn Nyffryn Conwy ac yn bennaeth ysgolion cynradd Maenan a Rowen. Mae’n hyfforddwraig ar gôr llwyddiannus Côr Merched Carmel ac yn feirniad cerdd.

Ben Jones, Caerffili Un o Gwm-gors, Cwm Tawe, a dreuliodd oes yn y byd addysg. Dechreuodd ei yrfa yng Nghaerdydd a Chaerffili cyn bod yn brifathro ysgolion Ynys Wen, Treorci, a Chaerffili. Bu’n weithgar ym myd y Pethe yng Nghwm Rhymni ac yn weithiwr diflino dros yr iaith.

Lona Jones, Penrhyncoch Cafodd ei magu ym Machynlleth yn ferch i’r diweddar William a Myfi Williams. Ers 1993 bu’n aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n ddarllenydd lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn frwd dros y Gymraeg yn cael lle amlwg yng ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru.

Edith Macdonald, Chubut, Patagonia Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd ers ei phlentyndod a bu’n rhan allweddol o’i bywyd ym Mhatagonia. Roedd ei dylanwad yn allweddol i sefydlu ysgol hyfforddi yn athrawon i ddysgu cerdd yn ysgolion y dalaith. Mae’n gefnogol i bob achos Cymraeg a Chymreig yn Y Wladfa. Yng ngorsedd Y Wladfa mae’n cael ei hadnabod fel Edith Brynalaw.

Gareth Owen, Pencaenewydd Er mai o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, yn enedigol, mae’n byw ym Mhen Llyn. Eleni mae’n dathlu 40 mlynedd ers iddo ddechrau ar ei yrfa fel gwr camera i gwmnïau teledu. Mae wedi bod yn gweithio ar amryw o gyfresi ac yn ystyried hi’n fraint o geisio cadw agweddau ar ddiwylliant Cymru rhag mynd i ddifancoll.

Owain Aneurin Owain, Llansannan Yn Gyfarwyddwr Cais, yr asiantaeth Alcohol a Chyffuriau yng Nghymru, cafodd ei eni yn Mizoram lle’r oedd ei dad yn genhadwr a’i fam yn athrawes. Mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ar Alcohol a Chyffuriau.

Laura Richards, Y Foel Un o Langadfan, Powys, a roddodd oes o waith i’r Pethe yn ei hardal. Hi sy’n gyfrifol am y tlysau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1981. Lowri Cadfan ydy ei henw yng Ngorsedd Powys ac mae’n gefn i Eisteddfod Powys.

Nansi Selwood, Penderyn Yn enedigol o blwy Penderyn, bu’n gweithio yn y byd addysg fel athrawes Hanes a Chymraeg mewn ysgolion uwchradd ac yn dysgu mewn ysgolion cynradd. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol mewn cymdeithasau yn ei hardal. Derbyniodd wobr yn 1988 am ei nofel Brychan Dir.

Gareth Williams, Llanbrynmair Gwr a roes wasanaeth maith ac anhunanol i’r Eisteddfod Genedlaethol am dros 30 mlynedd. O 1973 hyd 1982 bu’n stiwardio yn yr Eisteddfod.

Urdd Derwydd er Anrhydedd:

Jayne Davies, Y Drenewydd Yn enedigol o’r hen Sir Fynwy mae hi bellach wedi ymsefydlu yn Y Drenewydd ac wedi rhoi cyfraniad drwy ei hoes i gerddoriaeth yn ei bro. Bu’n gyfeilydd eisteddfodol ac yn Llangollen hefyd ac mae ei chôr, Côr Merched Hafren wedi cael cryn lwyddiant. Mae hi wedi gwneud nifer o drefniadau chwaethus o’n caneuon gwerin.

R Karl Davies, Caerdydd Gwr sydd wedi bod yn weithgar o fewn y mudiad iaith a’r mudiad cenedlaethol ers dyddiau cynnar. Yn Olygydd Tafod y Ddraig a chyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe fu’n gweithio gyda Phlaid Cymru, i ddechrau fel ymchwilydd seneddol i ddau AS cyn dringo’r ysgol a dod yn brif weithredwr. Bellach mae’n Brif Weithredwr Cymdeithas y Prifathrawon

Heini Gruffudd, Abertawe Gwr sydd wedi rhoi oes i weithio dros yr iaith Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol. Yn athro, ymgyrchydd, llenor ac academydd. Fe ydy Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg ac yn awdurdod cydnabyddedig rhyngwladol ar gymdeithaseg iaith.

John Hefin, Y Borth, Aberystwyth Cynhyrchydd a chyfarwyddwr enwog. Mae ei ddoniau creadigol yn ddylanwad trwm ar y sgrîn deledu ac mae ei gynhyrchiadau yn amrywio o Bobol y Cwm i Un Nos Ola Leuad, Penyberth a Stafell Ddirgel. Mae wedi gwneud cynhyrchiadau Cymreig, gan gynnwys Off to Philadelphia in the Morning.

Huw Jones, Betws, Rhydaman Un a gafodd ei eni yn Y Betws ac wedi cyfnod byr yng Nghaerdydd dychwelodd i’w filltir sgwar i weithio yng ngwaith y cwmni. Bellach mae’n Reolwr Gyfarwyddwr cwmni peirianwaith sifil mwya de ddwyrain Cymru. Un sydd wedi gweithio yn wirfoddol dros nifer o achosion ym mor ei febyd ac un sydd wedi bod yn gefnogol i’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn gefn i’w wraig, Meistres y Gwisgoedd yn yr Orsedd, Siân Aman.

Pat Jones, Chwilog Un yn enedigol o Sir Benfro ond ers 1984 wedi ymgartrefu yn Chwilog. Mae’n gerddor, arweinydd a chyfeilydd adnabyddus drwy Gymru a thu hwnt. Mae’n arweinydd nifer o gorau, Côr Meibion Hendygwyn, Côr Meibion yr Eifl, Côr Merched Lleisiau’r Gest a Chôr Eifionydd. Mae ei medr, ei hymroddiad a’r gwasanaeth a gafwyd ganddi yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol yn glodwiw.

Y Parchedig Gareth Maelor Jones, Dinas, Caernarfon Yn bregethwr grymus a gyfrannodd yn helaeth dros y blynyddoedd i bulpud Cymru ac yn arbennig i feysydd yn ymwneud phlant a phobol ifanc. Roedd yn gyfrifol am y cylchgrawn Antur 1977-1992. Mae’n awdur degau o lyfrau amrywiol. Yn gyn-athro o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, ac yn wr a gynhaliodd y Pethe ym mhob cylch y bu’n troi ynddo.

Eddie Jones, Bow Street, Ceredigion Yn enedigol o Fethel, Arfon, bu’n athro ysgol gan orffen ei ddyddiau cyn ymddeol fel Prifathro Ysgol Rhydypennau. Rhoddodd oes o wasanaeth i ddawnsio gwerin fel hyfforddwr, beirniad cenedlaethol ac enillydd cyson mewn cystadleuthau cyfansoddi dawns. Mae’n awdur nifer o lyfrau dawnsio gwerin a dwy gyfrol swmpus o emynau modern ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Dafydd Morgan Lewis, Aberystwyth Un o feibion Maldwyn sydd yn gweithio’n ddiflino dros yr iaith Gymraeg fel un o swyddogion cyflogedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu’n athro ac yn gweithio gyda’r Academi Gymreig a’r Llyfrgell Genedlaethol. Eleni ef oedd un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn.

Y Barnwr Wyn Rees, Pentyrch Cymro a wnaeth gyfraniad gwirfoddol mawr i ddatblygu addysg Gymraeg ym Morgannwg ac yn genedlaethol. Roedd yn ysgrifennydd cyntaf mudiad Rhieni dors Addysg Gymraeg. Bu’n gyfrifol am le’r Gymraeg o fewn defnyddiau i athrawon a’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Huw Roberts, Pwllheli Gwr gyfrannodd yn sylweddol i fyd y theatr amatur a phroffesiynol yng Nghymru am dros 50 mlynedd. Ers 1985 mae’n aelod o banel drama’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n awdur tair drama lwyfan ei hun, dwy a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu teledu ac ers cychwyn Pobol y Cwm bu ganddo gysylltiad â Chwmderi.. Bu’n athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Botwnog am dros 30 mlynedd.

Haydn Thomas, Y Fenni Brodor o’r Hendy, Pontarddulais, a symudodd i’r gogledd fel athro. Cafodd ei benodi yn brifathro cyntaf Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Bu ei ymroddiad diflino a’i arweinydd cadarn, a gynhwysai gyfieithu a golygu gwerslyfrau mewn cyfnod prin ei adnoddau, yn elfen allweddol ac arloesol. Bellach wedi dychwelyd i’r de, mae’n dal yn frwd dros y Pethe.

Dr Peter Wyn Thomas, Caerdydd Yn enedigol o ardal Y Rhyl bu’n ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Dulyn cyn symud i Gaerdydd. Derbyniodd gadair bersonol yno yn 2000. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau ac fe gyhoeddodd gyfrol 800-tudalen Gramadeg y Gymraeg sydd yn cael ei hystyried fel gramadeg safonol yr iaith.

Derec Williams, Llanuwchlyn Gwr sy’n cael ei gysylltu gyda Chwmni Theatr Maldwyn. Fe sefydlodd y cwmni ar gyfer Eisteddfod Maldwyn yn 1981 gyda Penri Roberts a Linda Gittins. Bu’n gyfrifol am roi cyfle i bobol ifanc Canolbarth Cymru ym myd y theatr am dros 20 mlynedd. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol a’r sioeau wnaeth y cwmni eu cynhyrchu wedi elwa’n fawr o’i gyfraniad.

John Eric Williams, Pwllheli Brodor o Bwllheli a fu’n athro yn Lerpwl cyn dychwelyd i Gymru i fod yn Drefnydd Gwersylloedd a Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru. Bu’n bennaeth Glan Llyn am 15 mlynedd ac yn Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru am 14 mlynedd. Mae miloedd o blant Cymru wedi elwa o’r profiadau a gawsant o dan ei ofal. Bu’n weithgar iawn yn y cylchoedd diwylliannol ym Mhenllyn, Aberystwyth a Phen Llyn. Bu’n lladmerydd cryf a chyson dros yr iaith a’i diwylliant.

Fe fydd William John Davies o Lanbrynmair a Dr Prydwen Elfed-Owens, Trefnant, yn cael eu hurddo o’r wisg werdd i’r wisg wen.

Anrhydeddau 2007

I’w derbyn i’r Orsedd 2007

Caiff nifer o Gymry eu hanrhydeddu i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fflint a’r Cyffiniau.

Dyma’r manylion llawn.

I’w hurddo fore Llun 6 Awst 2007 yn yr Eisteddfod ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor

John Innes Edwards, Mus. Bac., Rhosmeirch.

Urdd Llenor

lestyn Rhys Davies, BA, Llanfairpwll
Gwen Saunders Jones, BA, Marian Glas
Adrian Morgan, BA, Pontarddulais
Leila Mair Salisbury, BA, Llangynog
Heather Ann Shilvock, B. Add., Pwllheli
Angharad Williams, BA, Penderyn
Ffion Gwenllïan Williams, BA, Yr Wyddgrug

Arholiadau Gorsedd y Beirdd 2007

Urdd leithydd (Gwisg Las)
Beth Davies, Gorrig, Llandysul, Ceredigion (Beth o’r Llan)

Urdd Cerdd Ofydd (Gwisg Werdd)
Elwyn Evans, Caeredin (Siôr ap Oswyn)

Urdd laith Ofydd (Gwisg Werdd)
Richard Garner Williams, Caerdydd (Richard y Llan)
Gillian Taylor Walker, Pwllheli (Gill Caeron)

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych 2006.
Manon Wyn, Caernarfon – y Fedal Lenyddiaeth
Gwenno Mair Davies, Llansannan – y Goron
Eurig Salisbury, Llanfarian, Aberystwyth – y Gadair

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 2006

Urdd Ofydd er Anrhydedd:

Esyllt Tudur Davies, Llanrwst -Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
Stuart Imm, Cwmbrân – Dysgwr y Flwyddyn
Dafydd Wyn Jones, Ystrad Meurig – Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
Enfys Gwawr Loader, Abertawe – Gwobr Richard Burton
Rhian Lois, Ystrad Meurig – Gwobr Goffa Osborne Roberts
Medwen Parry, Aberdaron – Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Gwynfor ab Ifor, Tregarth – Y Gadair
Fflur Dafydd, Caerfyrddin – Y Fedal Ryddiaith
Aled Rhys Hughes, Rhydaman – Medal Aur Celfyddyd Gain
Gwen Pritchard Jones, Pant Glas – Gwobr Goffa Daniel Owen

I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd air Eisteddfod

Hilma Lloyd Edwards (Alawes Bodellog), Bontnewydd
Alun Morgan Lloyd (Alun), Llandybie
Alun Thomas (Alun o Galedfwlch), Basaleg
David Eifion Thomas (Eifion Elli), Llanelli

I’w hurddo fore Gwener 10 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007:

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Elinor Talfan Delaney
Fe’i ganed yn y Barri ond treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn Llundain gan roi cyfraniad amlwg i fywyd Cymry Cymraeg y ddinas. Ymhlith ei llu o weithgareddau bu ei gweithgarwch gydag Ysgol Gymraeg Llundain yn allweddol a heb ei hymroddiad llwyr a didwyll hi ni fyddai’r ysgol wedi parhau.

Trefor Lloyd Hughes, Caergybi
Bu’n flaenllaw mewn llywodraeth leol, ac yn arbennig yn ei waith gyda’r gwasanaeth Ambiwlans ym Môn. Dros ddeugain mlynedd bu’n gweinyddu gwahanol gynghreiriau pêl-droed ac yn ei dro bu’n gadeirydd ac yn drysorydd Pwyllgor Cyllid Cymdeithas Pêl-droed Cymru, gan frwydro i sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg o fewn y corff hwnnw.

Alun Ifans, Maenclochog
Prifathro eang iawn ei ddiwylliant. Yn ei ysgol yng Nghas-mael bu ei frwdfrydedd yn fodd i sicrhau dyfodol Cymreictod mewn bro dan fygythiad. Adlewyrchir ei serch at gelfyddyd ar furiau’r ysgol. Bu’n egniol fel Cadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft y Genedlaethol yn 2002, a chyda threfnu canmlwyddiant geni Waldo.

Gwenda John, Blaenffos
Ers blynyddoedd bu’n hyfforddi unigolion a phartïon chorau ar gyfer eisteddfodau a chyngherddau. Cafodd lwyddiant nodedig yn cyflwyno i blant a phobl ifanc gelfyddyd Cerdd Dant, crefft gymharol ddieithr gynt yn Sir Benfro. Oherwydd arbenigrwydd ei gweithgarwch fe’i gwnaed yn Llywydd Anrhydeddus Gŵyl Gerdd Dant 2005.

Aeryn Owen Jones, Dinmael
Ffermwr a chrefftwr nodedig sy’n rhagori fel waliwr cerrig a phlygwr gwrych. Ond mae Cymru gyfan yn gwybod amdano fel difyrrwr ac adroddwr ac eisteddfodwr heb ei ail. Bu’n un o’r cystadleuwyr mwyaf cyson drwy Gymru gyfan, gan ennill llu o wobrau mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol.

Helga Martin, Ysbyty Ifan
Yn hanu o’r Swistir cafodd ei magu yn Yr Almaen. Yn dilyn gwahanol swyddi yn Lloegr ymddeolodd yn gynnar i Ysbyty Ifan gan ymdaflu’n llwyr i fywyd Cymru a’r Gymraeg. Mae’n aelod llu o gymdeithasau a sefydliadau lleol a chenedlaethol gan danysgrifio i gylchgronau Cymraeg di-rif. Y mae ei hymroddiad i fywyd Cymru yn anhygoel.

Harri Parri-Roberts, Efailwen
Fel ei dad, y Parchedig R Parri-Roberts, fe saif yn gadarn dros draddodiadau gorau ardal y Preselau. Ymhlith llawer o weithgareddau mae’n ysgrifennydd ei eglwys, yn weithiwr cyson dros y papur bro, Clebran. Mae’n wirfoddolwr dros achos “Croesffordd Penfro” a bellach yn un o’u trefnyddion. Un o gymwynaswyr mawr ei fro.

Eifion Price, Rhydaman
Cerddor medrus y mae’r Urdd a’r Genedlaethol wedi elwa’n fawr ar ei gymorth yn hyfforddi a chyfeilio i genedlaethau o blant ac ieuenctid. Bu’n cyfeilio i bartïon dawns yr ardal. Mae’n rhan annatod o gwmni Jac-Y-Do sy’n diddanu a chynnal dawnsiau gwerin. Mae ei ddoniau gyda’r ffidil wedi ysbrydoli a difyrru llu drwy Forgannwg a Myrddin.

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Dyfrig John, Llundain
Pennaeth Banc HSBC ym Mhrydain ac Ewrop yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Fwrdd Rheoli’r banc ledled y byd. Bu’r banc hwn ers blynyddoedd yn gwasanaethu’r Eisteddfod ac yn un o’i phrif noddwyr. Ar hyd ei yrfa lewyrchus ac eithriadol ddylanwadol, gartref a thramor, bu Dyfrig John yn arddel ei wreiddiau Cymraeg gyda balchder.

Alun Jones, Bow Street
Rhoddodd gyfraniad allweddol i Gymru ac i’r Gymraeg ym myd Addysg a’r Eisteddfod. Bu’n athro a darlithydd prifysgol ac ef er 1996 yw Prif Arholwr Safon Uwch Cymraeg. Mae’n awdur gwerslyfrau, yn diwtor a threfnydd cyrsiau, yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llefaru Canolog yr Urdd.

Dr Hefin Jones, Caerdydd
Un o wyddonwyr disgleiriaf Cymru. Wedi profiad academaidd helaeth ym Mhrydain a thramor y mae bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n olygydd ac awdur a darlledwr toreithiog mewn maes hollol greiddiol. Bu’n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn Ysgrifennydd Ieuenctid Annibynwyr y Byd.

Yr Athro Bleddyn Jones, Barnt Green, Sir Gaerwrangon
Anodd fyddai mesur ei gyfraniad i fyd meddygaeth ym Mhrydain. Y mae’r Cymro diymhongar hwn bellach yn ymgynghorydd Oncoleg a Radio-bioleg yn Ysbyty Prifysgol Y Frenhines Elizabeth, gyda Chadair bersonol yn yr Ysgol Feddygol. Drwy ei lu o gyhoeddiadau dylanwadol cynyddwyd yn sylweddol wybodaeth am gancr a phelydrau.

Rhiannon Lloyd, Llandudoch
Rhoddodd oes o wasanaeth i Addysg Gymraeg, ac fe’i hanrhydeddir oherwydd arbenigrwydd ei chyfraniadau. Wedi cyfnod yn Bennaeth Adran bu’n Arolygwr ei Mawrhydi ac un sy’n cael ei pharchu gan bawb am ei harweiniad deallus. Y mae bellach yn Brifathrawes Ysgol Glantaf Caerdydd a hefyd yn aelod ar weithgareddau allweddol ynglŷn ag addysg uwch drwy’r Gymraeg.

Byron Rogers, Blakesley
Awdur dawnus eithriadol a fu’n golofnydd i’r Daily Telegraph, gan gyhoeddi hefyd mewn papurau Saesneg trymion eraill. Ers ymddeol cyhoeddodd lyfr bob blwyddyn am chwe blynedd gan gynnwys cofiant R S Thomas a The Lost Children, yn olrhain hanes Gwenllïan, gan arwain at sefydlu Cymdeithas Gwenllïan a gosod plac yn Sempringham.

Carys Tudor Williams, Caerdydd
Wedi cyfnod yn Llundain fe’i penodwyd yn aelod o dîm athrawon “drama mewn addysg” Sir Fflint. Fel athrawes ddrama bu ei chyfraniad i ysgolion uwchradd a chynradd y sir yn enfawr wrth iddi hi hybu a chynhyrchu mewn ysgol a theatr. Rhoes flynyddoedd o weledigaeth ac arweiniad doeth yn gadeirydd Panel Drama’r Eisteddfod Genedlaethol.

Llŷr Williams, Pentrebychan, Wrecsam
Un o’r perfformwyr offerynnol gorau a welodd Cymru erioed. Wedi gyrfa golegol ddisglair cafodd lwyddiannau cyson gydag ymateb anhygoel i’w berfformiad cyntaf yng Ngŵyl Caeredin, 2003. Cafodd gymeradwyaeth syfrdanol gan adolygwyr cerddorol penna’r byd gydag un beirniad o Wlad Belg yn dweud: “Nid curo dwylo wnaethom ni ond codi mewn rhyfeddod. Dyma Schubert fel nas clywyd ef erioed o’r blaen.”

 

Anrhydeddau 2005

Derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Eryri, Bangor, 2005


I’w hurddo fore Llun Awst 1 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor
Winni Jones BA, Dinas Cross, Trefdraeth, Sir Benfro
Manon Elen Roberts, BA, Porthaethwy, Ynys Môn
Delian Haf Williams, BA, Porthaethwy, Ynys Môn

Urdd cerddor
Claire Louise Burgess BA, Bethesda, Gwynedd
Gareth Wyn Davies BMus, Bethesda, Gwynedd.

Urddau er Anrhydedd. Bore Llun Awst 1 Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch 2004:
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Lois Arnold, Y Fenni – Dysgwraig y Flwyddyn
Carwyn John, Bethel, Caernarfon – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
Martin Lloyd, Casllwchwr, Abertawe – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Y Prifardd Jason Walford Davies, Bangor – Bardd y Goron

Y Prif Lenor Annes Glyn, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ryddiaith

Y Prifardd Huw Meirion Edwards – Enillydd y Gadair

I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod:
Eirlys Dwyryd, Rhuthun (Eirlys Dwyryd)
Gwawr Owen, Caerdydd (Gwawr Arthen)
Beti Puw Richards, Y Bala (Bethan Rhys)

I’w hurddo fore Gwener Awst 5:
Urdd Ofydd er Anrhydedd Gwisg werdd
J. Mansel Charles, Llanegwad, Caerfyrddin: Cyn athro Cymraeg Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Y mae newydd ymddeol ar ôl gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gâr am dros 20 mlynedd, a bu’n ymwneud â Mudiad Ffermwyr Ifanc y sir am 40 mlynedd. Cyfrannodd yn sylweddol i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.

Ann Margaret Davies, Llangybi: Prifathrawes egnïol ac ymroddedig Ysgol Gymunedol Llangybi. Hybodd y Gymraeg a’r diwylliant yn yr ardal gan adael ei hôl yn ddwfn yno. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweithgaredd yr Urdd yn y fro am dros 30 mlynedd a bu’n warden Eglwys Sant Cybi 2000-2002.

Eulanwy Davies, Llangollen: Cyn bennaeth Adran Cerdd y Merched Y Drenewydd a phennaeth Adran Gerdd Ysgol Gyfun Dinas Brân Llangollen. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweinyddiaeth Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen lle bu’n Drefnydd Cerdd, yn aelod o’r Bwrdd Sefydlog ac yna’n Gyfarwyddwr Cerdd.

Mildred Emily Hughes, Llangefni, Ynys Môn: Bu’n aelod o staff y Llys Sirol yn Llangefni am 30 mlynedd a hi yw pennaeth uned yr iaith Gymraeg yno. Gwelodd lawer o newidiadau o ran tynged y Gymraeg yn y llys a bu iddi le anrhydeddus yn y newidiadau a gafodd eu gwneud yn dilyn y statws deilwng a roddwyd i’r iaith yn y llysoedd.

Janet James, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin: Treuliodd ei hoes ym mro ei mebyd. Bu’n bennaeth yr Adran Gymraeg ac yn ddirprwy Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Hendy-Gwyn ar Daf. Bu’n weithgar gyda’r Urdd a chafodd ei disgyblion lwyddiant cyson yn Eisteddfodau’r Urdd. Bu’n aelod o Gapel Esgairnant drwy ei hoes ac yn organyddes yno. Hi oedd y ferch gyntaf i’w hethol yn flaenor yno. Mae’n gyn-lywydd Henaduriaeth Gogledd Myrddin.

Aled Jones, Barnes, Llundain: Daw o Landegfan, Ynys Môn. Daeth i enwogrwydd pan yn blentyn a’i lais anghyffredin yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae’n adnabyddus hefyd fel cyflwynydd teledu. Roedd ei gefnogwyr yn hapus iawn i’w weld yn dychwelyd i’r llwyfan cerdd.

Dewi Jones, Penygroes, Arfon: Naturiaethwr a gyflwynodd gannoedd o blant ac oedolion i fyd natur yn Nyffryn Nantlle. Cyfoethogodd gylchgronau natur gyda’i erthyglau am blanhigion, naturiaethwyr a byd botaneg. Mae’n un o’r Cymry prin sydd wedi ysgrifennu llyfrau am y pwnc. Gwasanaethodd y Gymdeithas Hanes Lleol ers blynyddoedd a bu’n cynnal dosbarthiadau am fyd natur.

Y Parchedig J. Eric Jones, Aberdâr: Yn enedigol o bentref Cribyn ger Llanbed, ymgartrefodd yn Aberdâr ar ôl iddo gael ei sefydlu yn weinidog ar gapel Undodaidd Highland Place a’r Hen D&#375; Cwrdd yn 1962. Mae’n Gadeirydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac ymgyrchodd ar hyd ei oes dros sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Am dros 20 mlynedd bu’n Gadeirydd Pwyllgor Sir Morgannwg Ganol o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg a bu’n Gadeirydd Cenedlaethol y mudiad hwnnw hefyd. Bu’n Llywydd ei enwad ym Mhrydain yn 1989.

Hefin Jones, Llanrug: Brodor o Ddeiniolen, Arfon. Wrth ei alwedigaeth mae’n nyrs mewn ysbyty. Ef yw prif weinyddwr ward Beuno (ward ddamweiniau) yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n aelod o Fand Deiniolen, bu’n hyfforddwr Seindorf Ieuenctid Deiniolen lle bu’n hyfforddi degau o ieuenctid, ac erbyn hyn ef yw Arweinydd y Seindorf. Mae’n Eisteddfodwr brwd ac ef yw Llywydd ac Ysgrifennydd Eisteddfod Gwaungynfi ers 1991.

Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu: Gweinidog gyda’r Bedyddwyr am chwarter canrif yn ardal y Preselau. Bu’n gefnogol i achosion yn ymwneud â’r Gymraeg – Urdd Gobaith Cymru. Fforddolion Dyfed, Cymanfa Ganu cylch godre’r Preselau ac ysgrifennydd gweithgar Cwrdd adran Gogledd Penfro. Beirniad adrodd yn Eisteddfodau’r Urdd ac arweinydd eisteddfodau yn y sir. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymry Ariannin a bu’n Gadeirydd y Gymdeithas ddwy waith.

Eluned Mair Porter, Llangadfan: Athrawes wrth ei galwedigaeth. Bu’n arolygwr Pabell Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Rhoddodd wasanaeth nodedig i Gymdeithas Edward Llwyd ac fel cynrychiolydd Cangen Plaid Cymru Gogledd Maldwyn ar y Cyngor Cenedlaethol.

Alwena Morfudd Power, Casnewydd: Athrawes a fu’n gefn i ddisgyblion a fynnai addysg yn y Gymraeg. Bu’n dysgu yn Ysgolion Cymraeg Casnewydd a Chwmbran ac Ysgol Uwchradd Gwynlliw. Bu’n gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant Eisteddfodau Cenedlaethol Casnewydd 1988 a 2004.

Gladys Pritchard, Caergybi: Yn enedigol o Gaergybi, Ynys Môn fe wasanaethodd ei hardal yn helaeth. Bu’n Swyddog Gweinyddol Ysgol Uwchradd Caergybi am chwarter canrif. Y mae rhestr ei gwaith gwirfoddol yn helaeth – gan gynnwys Eisteddfodau Cenedlaethol Môn, Gorsedd Beirdd Môn, Cymdeithas Brodwaith Cymru (Cadeirydd Cangen Môn ac Arfon) a Merched y Wawr. Gwasanaethodd ardal Caergybi ac Ynys Môn yn ddiarbed.

Arwyn Roberts, Rhosgadfan: Ffotograffydd Yr Herald, Caernarfon. Bu’n gweithio gyda’r Herald am 30 o flynyddoedd. Dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn Eisteddfod Caernarfon 1979 ac oddi ar hynny bu’n gweithio yn Eisteddfodau’r De a’r Gogledd – yr unig ffotograffydd sydd yng nghlwm â phapurau lleol i wneud hyn. Y mae’n wyneb cyfarwydd mewn Eisteddfodau bach a mawr ynghyd â Gwyliau Cenedlaethol eraill. Ymroes ei allu i gofnodi amryweddau ar ddiwylliant y genedl.

Richard Tudor, Pwllheli: Yn frodor o Bwllheli y mae traddodiad morwrol Pen Ll&#375;n yn llifo’n gryf yn ei waed. Pencampwr llywio cychod hwylio. Bu gan ei deulu gyfres o wahanol gychod, a bu ers yn blentyn yn eu hwylio ym Mae Ceredigion a throsodd i Iwerddon. Ac yntau ond yn 17 oed cychwynnodd fusnes gwneud hwyliau ym Mhwllheli ac wedi 20 mlynedd o brofiad cafodd ei ddewis yn 1992 i fod yn gapten “British Steel II” mewn ras o amgylch y byd – mordaith arwrol a welodd wynebu gwyntoedd dychrynllyd Cefnfor y De gan lanio yn ôl yn Southampton yn drydydd yn y ras. Fe’i dewiswyd eilwaith i hwylio’r “Nuclear Electric” yn ei ail ras 1996-7 o gwmpas y byd gan ddychwelyd yn llwyddiannus.

Jeannie Wyn Williams, Seland Newydd: Yn enedigol o Minsterley, Swydd Salop, addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Llangollen a Choleg Prifysgol Bangor lle bu’n astudio Mathemateg. Ymfudodd i Seland Newydd yn 1966 ac mae’n byw yn Rotorua. Mae’n un o’r aelodau a sefydlodd Gymanfa Ganu Gymraeg Seland Newydd a hi yw Ysgrifennydd y Gymanfa ers 10 mlynedd. Hi yw Swyddog Cyswllt holl Gymdeithasau Cymraeg Seland Newydd. Mae’n ymwelydd cyson â’r Eisteddfod Genedlaethol.

Penri Williams, Caerdydd: Yn enedigol o Borthmadog, ac yntau’n naw oed symudodd y teulu i Lantrisant ac yna i Gaerdydd. Wrth ei alwedigaeth bu’n beiriannydd trydan i’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan. Ar ôl ymddeol y mae bellach yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth i Fenter Iaith Morgannwg a Gwent. Bu’n Gadeirydd a Thrysorydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Bu’n aelod o Gôr Godre’r Garth ac yn ysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd. Bu’n aelod o Fwrdd Golygyddol y papur bro “Tafod Elai” ac ers 18 mlynedd ef yw’r Golygydd. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Taf ac Elai.

Y diweddar Ronald Wyn Williams, Llanllechid (Ron Hogia Llandegai): Fe’i ganed yn Nyffryn Ogwen ac yno y bu’n trigo bron gydol ei oes. Addysgwyd ef yn ysgolion Bethesda cyn dilyn cyfnod o brentisiaeth a dod yn saer coed medrus. Un o’i brif ddiddordebau oedd canu, ac yn ei arddegau cafodd gyfle i feithrin ei ddawn yng Nghapel Mawr Bethesda mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan y Parchedig Ieuan S. Jones. Bu’n aelod o gorau lleol gan gynnwys blynyddoedd o wasanaeth i Gôr Meibion Y Penrhyn. Ei gyfraniad mawr, fodd bynnag oedd i ganu ysgafn Cymraeg, gan iddo arloesi yn y byd hwnnw drwy ffurfio Criw Sgiffl Llandegai gyda nifer o’i gyfeillion yn 1957. Fel prif leisydd Hogia Llandegai daeth ei lais unigryw a’i wyneb yn adnabyddus drwy Gymru ben baladr – a hynny dros ran helaeth o bum degawd.

Urdd Derwydd er Anrhydedd (Gwisg wen)
M Paul Bryant-Quinn, Aberystwyth: Ganed yn Ruislip, Middlesex. Astudiodd athroniaeth am ddwy flynedd cyn symud i’r Eidal a chwblhau gradd ym Mhrifysgol Rhufain yn 1982. Tra oedd yno, dechreuodd ymddiddori yn y Gymraeg a’i llenyddiaeth. Dyfarnwyd iddo radd Dosbarth Cyntaf ym Mangor yn 1989. Penodwyd ef yn 1996 yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Ymhlith ei waith ysgolheigaidd gwnaeth astudiaeth destunol a beirniadol o waith Ieuan Brydydd Hir ac ar hyn o bryd y mae’n paratoi astudiaeth debyg o waith Sion Cent.

Eleri Carrog, Caernarfon: Drwy ei galwedigaeth a’i hymroddiad hi y sefydlwyd Cefn ym mis Gorffennaf 1985. Rhoed yn helaeth o’i hamser a’i harian i ddatblygu gwaith y mudiad yng Nghymru gan ei gysylltu â Mudiad Hawliau Dinesig Cydwladol yn effeithiol ac y mae dyled llu o siaradwyr Cymraeg iddi mewn cyflogaeth, gwasanaeth cymdeithasol, achosion cyfreithiol, ieithyddol, addysg ac ymlaen yn fawr. Ymhle bynnag y bygythir y Gymraeg bydd hi yno. Iddi hi, er enghraifft y mae’r diolch pennaf am argyhoeddi’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fod anffafriaeth hiliol ar saith iaith mor wrthun ag anffafriaeth ar sail lliw croen.

Dr Dyfed Elis-Gruffydd, Sir Benfro: Daearyddwr a daearegwr. Bu’n ddarlithydd, tiwtor, adolygydd, ysgrifwr, ymchwilydd, cyfarwyddwr cyhoeddi, cyfieithydd ac arholwr allanol. Bu’n gyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer am 12 mlynedd; yn ddarlithydd rhan-amser mewn daearyddiaeth yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu’n gwydrwr ac arweinydd teithiau Cymdeithas Edward Llwyd, yn crwydro tirweddau folcanig a rhewlifol mewn gwledydd tramor, megis Gwlad yr Iâ, yr Auvergne a Le Isole Eloie ac ati. Sgrifennodd lawr. Cyhoeddodd yn helaeth lyfrau, llyfrynnau, ysgrifau ac erthyglau o’i waith daearegol geomorffelegol ac amgylcheddol ac am faterion diwylliannol Cymru. Polymath yn wir.

Dr Jerry Hunter, Penygroes, Caernarfon: Cymro mabwysiedig yw’r Americanwr. Yn frodor o Cincinnatti a ddysgodd Gymraeg ar gwrs Wlpan ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Dychwelodd i’w famwlad lle’e enillodd ddoethuriaeth o Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvad cyn ei throi drachefn am Gymru ar ôl ei benodi’n ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Cymru Caerdydd. Y mae bellach yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru Bangor. Bu’n olygydd ar gylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin ac enillodd ei gyhoeddiad Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (2003) deitl Llyfr y Flwyddyn 1004.

Eirlys Britton a Cliff Jones, Caerdydd: Ganed Eirlys Britton yng Nghaerdydd a Cliff Jones yn Y Bala. Ffurfiwyd o dan eu harweiniad medrus un o dimau Dawnsio Gwerin mwyaf llwyddiannus ac arloesol Cymru, Dawnswyr Nantgarw. Mae’r dawnswyr wedi cipio’r brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol naw o weithiau ers 9186 ynghyd â gwobrau lu i glocswyr unigol a grwpiau o ddawnswyr. Daeth Dawnswyr Nantgarw i’r brig yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1989. Bu’r gr&#373;p yn cynrychioli Cymru ar deithiau mewn nifer o wledydd megis China a Hwngari. Bu’r gr&#373;p yn fuddugol yn yr &#372;yl Ban Geltaidd yn Iwerddon droeon ac enillodd un o’r prif wobrau yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin y byd yn Mallorca yn 2003. Trwy ymchwilio’n ddiwyd i gefndir dawnsfeydd a gwisgoedd traddodiadol mae Eirlys a Cliff wedi gwneud cyfraniad aruthrol a nodedig i hyrwyddo dawnsio gwerin nid yn unig yng Nghymru ond trwy’r byd benbaladr.

Dorothy Jones, Llangwm: Yn enedigol o Drawsfynydd bu’n byw yn Llangwm, Uwchaled ers blynyddoedd. Athrawes wrth ei galwedigaeth bu ei gweithgarwch diwylliannol yn lleol ac yn genedlaethol yn eang. Bu’n hyfforddi partïon llefaru ac yn feirniaid llefaru a llên mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, cylch, sir a chenedlaethol yr Urdd, yr &#372;yl Gerdd Dant, Eisteddfodau Ffermwyr Ieuanc a’r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd llawer o gerddi ar gyfer plant ynghyd â cherddi ar gyfer caneuon y diweddar Gilmor Griffiths a bu’n awdur sgriptiau sioeau cerdd Ysgol Glan Clwyd megis William Morgan, Jac Glan y Gors, H M Stanley a chyfieithu geiriau caneuon Joseff a’i Gôt Amryliw i’w perfformio yn yr ysgol. Gwraig ddawnus a’i chyfraniad yn lleol a chenedlaethol yn sylweddol iawn.

Yr Athro Emrys Jones, Berkhamstead, Sir Buckingham:Ganed ef yn Aberaman, Aberdâr. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Llundain. Wedi graddio bu’n gweithio i Urdd yr Heddychwyr yng Nghaerdydd. Cafodd yrfa academaidd nodedig yn cynnwys swyddi ym mhrifysgolion Llundain a Belfast cyn ei benodi yn Athro Daearyddiaeth yn y London School of Economics o 1961 hyd 1984. Derbyniodd amryw o raddau am ei gyfraniad arbennig i ddaearyddiaeth a’r byd academaidd. Bu’n awdur nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys yn arbennig ei astudiaeth o gymuned y Cymry yn Utica, Efrog Newydd a’r gyfrol diweddar “Y Cymry yn Llundain 1500-2000” fel golygydd a phrif gyfrannwr. Bu’n aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion oddi ar 1957, yn Gadeirydd ei Chyngor 1984-89 ac yn Llywydd y Gymdeithas on 1989-2001 gan arolygu’r dathliad yn 2001. 250 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymry yn Llundain ar hyd y blynyddoedd. Cyflwynwyd Medal y Cymrodorion iddo yn 2001 i gydnabod ei gyfraniad nodedig i ysgolheictod ac i Gymru.

Geraint R Jones, Bontnewydd: Rhoddodd oes o wasanaeth i Lywodraeth Leol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor cyn iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi cyfnod byr gyda chwmni o gyfriethwyr daeth i weithio i Gyngor Sir Gwynedd lle bu’n gyfreithiwr ac yna’n Ysgrifennydd y Sir. Ar ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 penodwyd ef yn Brif Weithredwr. Gweithiodd yn galed i sefydlu’r sir newydd a’i pholisi iaith. Bu’n Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd. Gwnaeth waith sylweddol yng nghyd-destun y newidiadau diweddar i’r Eisteddfod. Hefyd bu’n Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yng Nghaernarfon 1979. Mae’n lên garwr ac yn cefnogi’r ‘pethe’ yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’n flaengar yn ei gapel lleol yn aelod o’r clwb llenyddol ac yn cefnogi pob digwyddiad diwylliannol.

Glyn T Jones, Aberystwyth: G&#373;r a roes oes o wasanaeth i nifer o’n sefydliadau cenedlaethol gan ddal amryw swyddi yn eu pwyllgorau – yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant. Bu’n amlwg hefyd ar lwyfannau’r prif wyliau fel arweinydd a beirniaid dawnsio gwerin. Mae’n flaenor ym Mlaenplwyf ac yn Drysorydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi ers 1998. Bu’n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Bugeiliol. Y mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hen reilffyrdd ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Datblygu Rheilffyrdd Canolbarth Cymru. Y mae’n ysgrifennydd Apêl Sganiwr a Chancer Ysbyty Bronglais a gwelodd godi dros filiwn o bunnoedd i’r achos. G&#373;r eang ei ddiwylliant a’i ddiddordebau a’i weithgarwch yn eang yn ei filltir sgwâr yn ogystal â chenedlaethol.

Delyth Mai Nicholas, Pontarddulais: Cystadleuydd adrodd / llefaru mewn eisteddfodau bac a mawr ers yn dair oed gan ennill llu o wobrwyon yn cynnwys chwe gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu am dros 20 mlynedd. Bu’n athrawes ddrama a bellach mae’n ddarlithydd yn Adran Theatr Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. O ganlyniad bu’b hyfforddi nifer fawr o blant a phobl ifanc yn y maes actio. Bellach y mae wedi cychwyn Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi i blant a phobl ifanc rhwng 9 a 18 oed. Bu’n arweinydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn aelod o Is-Bwyllgor Llefaru amryw o Eisteddfodau y De a bu hefyd yn aelod o Is-Bwyllgorau Eisteddfodau’r Urdd. Bellach mae’n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Eisteddfod a’r Pethe wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed.

Meurig Owen, Llundain: Brodor o Lanrug, Caernarfon. Gadawodd Ysgol Brynrefail yn 1937 pan aeth i weithio mewn swyddfa yswiriant yn Llundain. Ac eithrio cyfnod y rhyfel bu yno nes iddo ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Blaenor yn eglwys Lewisham er 1953 ac ysgrifennydd er 1961. Cymer ddiddordeb mewn hanes lleol ac yn arbennig hanes y Cymry a’u Heglwysi yn Llundain, ynghyd ? hanes rhai o chwareli llechi Gwynedd. Dengys ei gyfrolau sylweddol Tros y Bont – hanes Eglwysi Falmouth Road, Deptford a Parsons Hill Woolwich, ac Ymofyn am yr hen Lwybrau – hanes saith o Eglwysi Presbyteraidd Cymraeg Llundain – ôl casglu helaeth a llafur manwl iawn. Y maent yn gyfnodolion amhrisiadwy o fywyd ysbrydol a chrefyddol y Cymry alltud yn Llundain. Pwysig hefyd yw’r darlithoedd a gyhoeddwyd ganddo James Hughes a’i Deulu ac Emynwyr Henaduriaeth Llundain. Y mae ei waith hi gyd yn dwyn nodau ymchwilydd manwl a diarbed, Dyma lafur cariad y Cymro alltud nodedig hwn.

Emyr Owen Parri, Talwrn, Ynys Môn: Brodor o Gaernarfon a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Cyfreithiwr uchel iawn ei barch, gan baratoi achosion llys yn drylwyr a dawn areithio arbennig ganddo, Ymddangosodd yn rheolaidd yn y Llysoedd Ynadon a bu’n ymdrin a llu o achosion mawr a blaenllaw yn Llys y Goron a’r Uchel Lys. Fe’i penodwyd yn Gofiadur a bu’n gweithredu fel Cofiadur yn Llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr 1980au fe’i penodwyd yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth cyn iddo gael ei benodi yn farnwr Rhanbarth llawn amser yn 1992. Bu yn y swydd honno am 10 mlynedd. Drwy gydol ei yrfa bu’n gefnogol ac yn flaengar iawn yngl&#375;n â hyrwyddo’r Gymraeg. Bu’n gweithredu ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol yn ymwneud â defnydd o’r iaith yn y llysoedd ac yn ddiweddar bu’n paratoi cyrsiau undydd ar y pwnc. Cyfrannodd yn helaeth i faterion diwylliannol yn ei filltir sgwâr – yn flaenllaw gyda gweithgareddau Theatr Fach Llangefni, aelod o barti Cerdd Dant Haf Morris, a bu’n chwarae criced i Glwb Llangefni – heblaw hybu achosion dyngarol ac elusennol.

Gwennant Pyrs Roberts, Bangor: Brodor o bentref Llanuwchllyn a raddiodd o Adran Cerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel athrawes beripatetig ymsefydlodd yn bennaeth adran cerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Cyfrannodd hefyd ar lwyfan cenedlaethol a hynny’n bennaf fel sylfaenydd ac arweinydd Parti Seiriol a droes yn y man y Gôr Seiriol. Ers ei sefydlu yn 1991 gosododd y côr marched hwn safon i’w efelychu ar gyfer canu corawl i ferched yng Nghymru a rhagorodd ar ganu cerdd dant gyda gosodiadau cerddorol a deallus ei harweinydd. Enillodd droeon ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r &#372;yl Gerdd Dant a dyma’r unig gôr marched Cymreig i’w wahodd i gymryd rhan fis Tachwedd y llynedd yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Yn yr un flwyddyn cynhaliodd y côr gyngerdd mawreddog yn Neuadd Pritchard Jones, Prifysgol Cymru Bangor pryd y perfformiwyd am y tro cyntaf gwaith comisiwn ‘Cantus Triquetrus’ gan y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins. Er 1993 cyhoeddodd y côr bedwar cryno ddisg sy’n cynnwys detholiad o’u repertoire amrywiol ac uchelgeisiol. Arweinydd crefftus ac ysbrydoledig.

David Richard Williams, Florida: Ganed yn Llanelwy ac addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn, Ysgol Eirias Bae Colwyn a Phrifysgolion Aberystwyth, Gogledd Carolina a Florida, America. Graddiodd mewn economeg. Bu mewn amryw o swyddi ym Mhrifysgol Florida a Gogledd Carolina gan arbenigo mewn dysgu ac ymchwil yn yr adrannau Economeg. Cadwodd gysylltiad agos â Chymru. Llywydd cyntaf a sefydlwr (gyda’r Dr Arturo Roberts) y Siambr Fasnach Cymru yng Ngogledd America. Ers 1989 ef yw Llywydd Corff Ymgynghorol Economaidd Florida ac athro cynorthwyol mewn Economeg Prifysgol Miami, Florida. Bu’n hael ei nawdd i’r ysgolion lle derbyniodd ei addysg gynnar.

Anrhydeddau 2006


Rhestr o aelodau newydd a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe 2006

 

I’w hurddo fore Llun 7 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor (Gwisg Las)

  • Ann Alderton Ph.D., Suffolk
  • Craig Howard B.A., Abertawe
  • Rachel Anwen Jones B.A., Abertawe
  • Rhian Louise Morrissi B.A., Aberdâr
  • Rhian Parry Ph.D., Dolgellau
  • Rhian Powell B.A., Aberdâr
  • Eryl Wyn Rowlands Ph.D., Penarth
  • Daniel Rhys Tiplady B.A., Abertawe
  • Nesta Mary Tiplady B.A., Abertawe
  • Rhinedd Mair Williams B.A., Llanddarog

    Urdd Cerddor (Gwisg Las)

  • Edward-Rhys Bate Mus.Bac., Caerdydd
  • Nia Sian Davies B.A., Abertawe Meinir Richards Mus.Bac., Llanddarog

    ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD 2006
    Llwyddodd yr ymgeiswyr a ganlyn yn arholiadau Gorsedd y Beirdd eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun, 7 Awst 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a’r Cylch:
    Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

  • Cecil Vernon Jones (Vernon o Garmel), Yr Hôb, Wrecsam
  • Siôn R Williams (Siôn o Ewrop), Llanrug, Caernarfon
    Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
  • Olwen Rhiannon Allender, Casnewydd
  • Beth Davies, Llandysul
  • Gillian Taylor Walker, Sarn, Pwllheli

    Enillwyr Llwyfan – Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
    Urdd Ofydd er Anrhydedd

  • Bethan Lloyd Dobson,Pantglas, Caernarfon – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
  • Aeron Gwyn Jones,Caergeiliog – Enillydd Gwobr David Ellis-Y Rhuban Glas
  • Sue Massey, Penmaenmawr – Dysgwraig y Flwyddyn
  • Gregory Vearey-Roberts, Bow-Street,Ceredigion – Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
  • Richard Allen, Casllwchwr – Enillydd Gwobr David Ellis- Y Rhuban Glas Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2003
  • Utganwyr yr Orsedd: Dewi Griffiths, Bethel, Caernarfon a Paul Hughes, Y Felinheli

    Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Peter Finnemore, Pontiets,Llanelli – Enillydd Medal Aur Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
  • Richard Morris Jones,Caernarfon – Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
  • Manon Steffan Ros, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005

    I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod

  • Lallie Griffiths (Lal Carmel), Caernarfon
  • Eiri Jenkins (Eiri) Llanelli
  • Myrddin John (Myrddin Pennant), Rhydaman
  • Mair C. Jones (Rhiain Machreth), Dolgellau
  • Grês Pritchard (Llinos y Llynnau), Llanerchymedd
  • Enid Rhian Williams (Rhian o Lŷn), Chwilog
  • Gwyn Parry Williams (Gwyn Treferthyr), Chwilog
  • Medwyn Williams (Medwyn y Garddwr), Llanfairpwll

    I’w hurddo fore Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch
    Urdd Ofydd er Anrhydedd – gyda theyrnged yr Orsedd iddynt:

  • Bu Phyllis Bell, Felindre, ar un amser yn gweithio yn y felin ddur a safai ar y llecyn sy’n safle i’r Eisteddfod eleni. Bellach hi yw ysgrifenyddes frwdfrydig apêl leol yr Eisteddfod honno. Mae hi ynghlwm â’r ysgol leol ymhob math o ffyrdd o fod yn ofalydd i fod yn Llywodraethwr. Bu’n arwain Eisteddfod Gadeiriol Felindre er 1970, bu’n gofalu am Aelwyd yr Urdd, yn ohebydd y Papur Bro, ysgrifennydd cyhoeddiadau ei heglwys, yn ddiacon ac athrawes yr Ysgol Sul. Bydd yn trefnu ymweliadau â chyngherddau a dramâu, ac yn gasglydd ardderchog ar gyfer elusennau. Dyma un o berlau diwylliedig bro Felindre.
  • Graddiodd Brenig Davies, Pontiets, mewn hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Chymdeithaseg gwasanaethodd ym maes Iechyd Meddwl yn Ne-Orllewin Cymru am flynyddoedd lawer. Y mae yn weinidog mewn eglwysi yn Fforest Fach a Gorseinon. Dygodd werthoedd Cristnogol i’w waith bob dydd, gan ddileu rhagfarn ac anwybodaeth am afiechyd meddwl. Ymgyrchodd yn frwd o blaid gwell gwasanaeth i gleifion. Ond fe’i anrhydeddir hefyd am ei gadernid o blaid iaith a diwylliant a hanes ei Genedl.
  • Arlunydd dawnus yw Eifion Davies, Pontarddulais, yn ŵr diymhongar a didwyll. Y tu allan i’w swydd fel athro celf bu ar hyd y blynyddoedd yn wasanaethgar yn ei fro, gan gynnwys ei gyfraniad disglair ar Gyngor fel aelod a Chadeirydd. Y mae’n aelod blaenllaw ac ymroddgar yn eglwys y Gopa, yn gwasanaethu yn eglwysi’r cylch ac yng ngweinyddiad ei enwad. Y mae’n gefn i lu o weithgareddau cymdeithasol ei ardal gan gynnwys gwaith gyda’r ieuenctid. Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolbwynt i’w holl brysurdeb, a’i ddylanwad yn fendith i’w fro.
  • Cyfrannodd Terry Davies, Gorslas, yn helaeth iawn i’w filltir sgwâr ar hyd ei oes. Bu’n löwr ac yn undebwr blaenllaw am bron ddeng mlynedd ar hugain. Bu’n dal swyddi cyfrifol o fewn i’r Undeb, a’i ddylanwad yn allweddol wrth ofalu am fuddiannau cyn-löwyr a gweddwon. Ni ellid rhestru ei gyfraniadau i’w gymuned, ei ffyddlondeb i’w eglwys, sylfaenydd Cymdeithas y Dynion, a’r Gymdeithas Hanes, ar y Cyngor Sir, yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd, Trysorydd y papur bro a Chadeirydd Mentrau Iaith Myrddin. Dyma wron o gymwynaswr.
  • Y mae John Meurig Edwards, Aberhonddu, yn hanu o Bontrhydygroes, Ceredigion, ac yn raddedig yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Ym Mhowys fe fraenarodd y tir ar gyfer twf yr iaith yn ardal Aberhonddu, yn Brifathro cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg yno. O ganlyniad i lwyddiant aruthrol yr ysgol honno sefydlwyd Ysgol y Bannau. Ar wahân i’w ymroddiad diflino dros bob gweithgarwch Cymraeg yn ei ardal, bu’n gefn i’r diwylliant eisteddfodol. Enillodd yn gyson mewn cystadlaethau llenyddol yn y Brifwyl, a rhoes wasanaeth clodwiw fel beirniad llên ac adrodd mewn amryw o eisteddfodau lleol.
  • Y mae Grey Evans, Llanarmon, Pwllheli, yn adnabyddus yn genedlaethol, ond hefyd yn sylweddol iawn ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Fe’i gwreiddiwyd mewn diwylliant yn Llan Ffestiniog. Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor, a chael ei dderbyn yn un o’r cyntaf i ymuno â’r cwmni o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts. Y mae ganddo ddawn eithriadol i ddehongli a chyflwyno cymeriad, a gwnaeth gymwynas â’r Genedl drwy rannu ei grefft a’i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol.
  • Bu Sally Evans, Pontarddulais, drwy ei hoes yn deyrngar i fyd yr eisteddfod, yn lleol a chenedlaethol. Ers dros hanner canrif bu’n mynychu’r Brifwyl, gan wasanaethu fel stiward yn ystod yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf. Bydd yn mynychu eisteddfodau lleol yn gyson, ac yn gefn i Eisteddfod Flynyddol Felindre, cartre’r Genedlaethol eleni. Chwyddodd gyllid llu o achosion da o fewn i’w bro drwy ei dawn a’i hymdrechion di-baid. Y mae yn arbennig yn ei ffyddlondeb i oedfa a chyfarfodydd cymdeithasau yn ei bro, yn garedig heb ei hail yn ymweld â chleifion, ac yn un o gymwynaswyr ei hardal.
  • Y mae Wayne Griffiths, Drefach, Llanelli, yn feddyg teulu ym Mhen-y-groes er y saithdegau, yn weithiwr egnïol dros y Gymraeg mewn llawer maes. Mae ar Bwyllgor Menter Cwm Gwendraeth er ei sefydlu,ac yn Gadeirydd er 1994. Bu’n Gadeirydd Cylchgrawn Golwg, a’i weledigaeth ef oedd WCW. Mae’n arlunydd a dylunydd dawnus, yn Gadeirydd Cwtsh Glöyn Cyf. sy’n gwerthu llyfrau ac adnoddau Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth. Bu’n Llywydd Chwaraeon y Gymanwlad dros Gymru, ac mae’n Gadeirydd Dolen Iechyd. Dyn eang eithriadol ei ddiwylliant, ac yn flaenllaw a gweithgar iawn yn ei eglwys a’i enwad.
  • Yn ei hieuenctid yn Drefach Felindre bu Yvonne Griffiths Evans, British Columbia, yn amlwg fel cantores mewn eisteddfodau a chyngherddau. Ymfudodd hi a’i theulu i Canada yn 1976, ac o’r dechrau fe fu iaith a diwylliant Cymru yn rhan sylfaenol o’i bywyd. Fel un o aelodau amlycaf gwahanol Gymdeithasau Cymraeg Gogledd America, ac fel Llywydd, trefnodd ymweliadau gan gantorion a chorau amlycaf Cymru. Tra’n Llywydd y Gymanfa Ganu bu’n fedrus ei dylanwad yn sicrhau mwy o Gymraeg yn y Gymanfa. Cadwyd ei mamiaith hefyd yn iaith yr aelwyd, a’i dau blentyn yn rhugl eu Cymraeg.
  • Cafodd John Brian Humphreys, Brynaman, ei eni o fewn dwy filltir o faes yr Eisteddfod eleni, ac yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Lôn Las. Yn ystod ei yrfa bu mewn amryw o swyddi cyfrifol, a galw amdano i deithio i wahanol gyfarfodydd yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae i gerddoriaeth le amlwg yn ei ddiwylliant, fel organydd, ac mewn gwahanol Gorau Cymysg. Ond y mae ei wasanaeth fel Cynghorydd a Chadeirydd ar Gyngor, ei gyfraniad hollol ganolog i’w Eglwys ym Mrynaman, ei ymroddiad i’r Henoed a’r Aelwyd ym Mrynaman, yn ogystal ag i’r Papur Bro, Y Llais, yn gyfraniad amhrisiadwy.
  • Un o blant bro Eisteddfod 2006 yw Beti Wyn James, Caerfyrddin,. Wedi graddio mewn Diwinyddiaeth ymgymerodd â gweinidogaethu yn y Barri lle bu’n helaeth iawn ei chyfraniad i fywyd Cymraeg y dre honno, ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a’r Ysgolion Cymraeg. Gwasanaethodd ar fyrddau Llywodraethol yr Ysgolion, a bu’n Llywydd y Cymrodorion. Symudodd i Gaerfyrddin yn 2002, ac ymdaflodd ar unwaith i weithgareddau Cymraeg y dre honno. Un enghraifft o’i llu swyddogaethau yw Cadeiryddiaeth Pwyllgor Apêl Caerfyrddin ar gyfer Prifwyl yr Urdd 2007, gan arwain gydag asbri ac egni.
  • Y mae Helen Jones, Felindre,, yn byw yn ardal ei magwraeth a daeth yn werth ei chael yn y gymuned leol. Hi yw ysgrifennydd ac asgwrn cefn Eisteddfod Felindre. Mae hi’n ddiacones weithgar yn ei heglwys tra bu’n athrawes mewn gwahanol ysgolion yn y cyffiniau. Mae ar Bwyllgor Adloniant y neuadd, yn trefnu cyngherddau, siaradwyr a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yno’n gyson. Hi yw Dirprwy Gadeirydd Ysgol Felindre, ac yn ohebydd y Llais. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trefnodd ddosbarth nos i’r di-Gymraeg yn y cylch. Y mae’n arian byw o berson, yn cynnal Cymreictod a diwylliant ei bro.
  • Symudodd Tegwen Kettle, Stoke-on-Trent, o’i chynefin ym Morgannwg i Stoke wedi priodi, ond bu rhan o Gymru gyda hi yno yn ei chalon a’i gweithgarwch ar hyd ei halltudiaeth. Ddeugain mlynedd yn ôl hi oedd y prif anogwr i sefydlu Cymdeithas Gymraeg Stoke a Newcastle. Trwy ei hymdrechion diflino a’i brwdfrydedd a’i hewyllys gref mae’r Gymdeithas wedi ehangu a ffynnu ar hyd y cyfnod, gan gynnal amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg i gadw’r cyswllt â Chymru yn fyw. Yn 2004 gwnaed hi yn Aelod Anrhydeddus o’r Gymdeithas, yr unig un i dderbyn yr anrhydedd.
  • Enillodd Robin McBryde, Y Tymbl Uchaf, le cynnes yng nghalon ei genedl drwy ei wrhydri ar faes rygbi. Cafodd ei addysg ym Mangor, ac wedi cyfnodau gyda Chlwb Ieuenctid Porthaethwy a Chlwb yr Wyddgrug gwelodd timoedd y De arbenigrwydd ei ddawn. Bu’n chwarae gyntaf gydag Abertawe, ac yna Llanelli. Datblygodd yn fachwr cryf a chyhyrog, ac enillodd 37 o Gapiau am chwarae dros Gymru yn ystod ei yrfa Ryngwladol, y cyfanswm mwyaf a enillodd Gogleddwr erioed am chwarae dros ei wlad. Bu hefyd yn aelod o garfan Y Llewod yn 2001. Dymunwn bob llwyddiant iddo fel hyfforddwr.
  • Hyfforddwyd Frances Helena Thomas, Ystradgynlais, fel nyrs, a chyrhaeddodd safleoedd o gyfrifoldeb arbennig yn ei galwedigaeth. Bu hefyd yn wasanaethgar iawn yn ei chymuned, yn gysylltiedig â Diogelu Cymru Wledig, ac fel Trysorydd ei Chronfa Apêl leol ar gyfer Prifwyl Llanelwedd. Ond cyfraniad unigryw ei bywyd yw ei gwaith gyda Chymdeithas Girl Guides Cymru. Mae ei gwaith gyda’r mudiad hwn yn gwbl arbennig, gan arwain gwersylloedd ym Mhrydain a thramor. Hi yw Archifydd Cymru, a chafodd ei hanrhydeddu â’r Laurel Award, a gwobr anrhydedd am wasanaeth deugain mlynedd.
  • Mae Iris Williams, Efrog Newydd, y gantores ddawnus o Donyrefail, yn berfformwraig ryngwladol adnabyddus iawn. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, a bellach fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg hwnnw oherwydd llwyddiant ei gyrfa. Ymddangosodd mewn nifer helaeth o berfformiadau enwog, a hynny yng nghwmni cewri’r llwyfan mewn ugain o wledydd. Enillodd barch beirniaid cerdd America am ei dehongliadau clasurol. Cefnogodd amryw o achosion da yng Nghymru, a daw yn ôl yma mor aml â phosib i ganu mewn cyngherddau, yn aml gyda chorau meibion.
  • Bu T. Graham Williams, Rhiwfawr, Cwmtawe, am dros hanner canrif yn adrodd mewn llu o eisteddfodau yn y De a’r Gogledd. Datblygodd dros y blynyddoedd diwethaf yn fardd medrus, gan ennill dros hanner cant a phump o gadeiriau. Bu’n löwr ond fe aeth ymlaen â’i addysg gan raddio yn y Brifysgol Agored. Y mae ganddo ddawn arbennig i ddehongli a chyflwyno gwaith Dylan Thomas, a gelwir arno yn aml i berfformio’i waith. Gwnaeth hynny yn America rai blynyddoedd yn ôl. Sefydlodd grwˆp ysgrifennu creadigol yn ei fro, a chyhoeddir yn flynyddol waith y gweithdy hwn. Y mae’n awdur ac eisteddfodwr dawnus a diwyd.

    (ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Ers ei benodi yn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru mae Richard Brunstrom, Bae Colwyn, wedi gweddnewid diwylliant ieithyddol yr Heddlu o fewn i’w dalaith. Addawodd ddysgu Cymraeg pan gafodd ei benodi, a gwnaeth hynny i safon eithriadol o uchel mewn byr amser. Bu’r gamp honno ynddi ei hun yn esiampl ddisglair. Ond fe ddangosodd wedyn barch at ein hiaith drwy weithredu mewn llu o ffyrdd i fynnu safle anrhydeddus iddi o fewn i’w weinyddiaeth. Y mae ei ymroddiad iach a chyfrifol at y Gymraeg wedi treiddio drwy’r rhengoedd, ac wedi dylanwadu’n rymus ar agwedd ei weithlu.
  • Bu Eric Davies, Gwaun-cae-Gurwen, bellach yn Drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dros ddeng mlynedd, a bu ei arweiniad cadarn yn allweddol i ddod â’r Brifwyl yn ddiogel drwy gyfnod anodd. Cyn ei ethol i’r swydd honno bu’n gweithredu am flynyddoedd yn rhoi cyngor ariannol i adran gyllid yr Eisteddfod. Y mae’n frodor o Wauncaegurwen, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, ac yn llefarydd cyson ar ran C.B.I. Cymru. Bu’n gefnogol i fudiadau Cymraeg gan gynnwys Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin, a da cael gŵr eang ei ddiwylliant mewn swydd gyfrifol yng ngweinyddiad cyllidol yr Eisteddfod.
  • Y mae Hywel M. Davies, Maryland, UDA, yn un o sylfaenwyr Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America. Fe’i ganed yng Nghasllwchwr a’i hyfforddi mewn peirianneg. Ym 1966 ymfudodd i’r Unol Daleithiau i weithio mewn cyfrifiadureg, a bu’n gweithio am dros chwarter canrif i Fanc y Byd. Cymerodd ran amlwg mewn gwahanol fudiadau Cymraeg a Chymreig yno, gan gynnwys Cymdeithas Dewi Sant y Brifddinas a’r Gymanfa Ganu Gymreig. Y mae’n frwdfrydig iawn dros gynnal cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a Gogledd America, a’i aelwyd bob amser ar agor i ymwelwyr o Gymru.
  • Dilynodd Marian Delyth, Blaenplwyf, yrfa ddisglair fel dylunydd graffeg a ffotograffydd, ac fe saif yn uchel ei pharch ymhlith ei chyd-artistiaid. Ond y tu hwnt i ragoriaethau ei gyrfa, rhoes wasanaeth i nifer o gyrff cyhoeddus yn y Celfyddydau. Bu’n aelod ar Bwyllgor Celf Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd Panel Celf y Brifwyl. Bu’n allweddol yn sefydlu i’r celfyddydau gweledol le anrhydeddus o fewn i ddiwylliant Cymru, ac ymestyn eu bri mewn gwledydd tramor. Mae ganddi argyhoeddiadau cadarn, ac mae ei chyfraniad tawel i’n hiaith a’n diwylliant yn haeddu ei anrhydeddu.
  • Ganed Falmai Griffiths, Caerdydd, yn Llandysul, a’i magu ym merw eisteddfodol y cylch. Parhaodd yr elfen honno yn gryf ynddi drwy ei gyrfa fel athrawes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardal Caerdydd, a bu’n arbennig o lwyddiannus yn hyfforddi adroddwyr ac fel beirniad adrodd. Bu yn un o chwaraewyr hoci amlycaf Cymru, yn aelod yn nhîm hoci enwog Penarth. Y mae’n fwy egnïol fyth yn ei brwdfrydedd o blaid y Gymraeg, ymhlith eglwysi, mewn ysgolion a chyda dysgwyr, gan arloesi mewn llu o weithgareddau. Y mae ei chyflawniadau’n ddirifedi, a’i hysbrydoliaeth yn heintus.
  • Y mae Alwyn Humphreys, Caerdydd, yn gyfuniad o gerddor dawnus a darlledwr proffesiynol o fedrus. Fe’i maged ym Modffordd yn Ynys Môn. Daeth ei ddawn gerddorol yn amlwg yn gynnar iawn, a bu’n aelod yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Hull lle graddiodd gydag anrhydedd. Cyfansoddodd a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer llu o gorau, a bu’n arwain Côr Orffiws Treforys drwy gyfnod arbennig o lwyddiannus am chwarter canrif. Yn ystod bron yr un cyfnod bu’n cyflwyno’r rhaglenni llwyfan y Genedlaethol a’r Urdd yn ei ddull graenus a deallus.
  • Cymwynaswr unigryw yw Hywel Wyn Jeffreys, Caerdydd,. Hanesydd o Brifysgol Bangor ydyw, ond mae ei wreiddiau yn ddwfn yn niwylliant Cwm Aman. Bu’n Ddirprwy Brifathro Ysgol Rhydfelen, a’i briod, Gwyneth, yno’n bennaeth Adran Ffrangeg. Er 1993 bu’r ddau, yn “neuadd” eu cartref yng Nghaerdydd, yn cynnal cyngherddau o ganu gan gantorion enwocaf Cymru, a darlleniadau cerddi twym o ffwrn beirdd cyfoes y genedl, er mwyn amrywiol achosion elusennol. Y llynedd yn unig casglwyd £42,000. Trwy eu hymdrechion di-ildio, cadwodd Hywel a’i briod hen draddodiad nawdd y genedl yn fyw.
  • Mae David Gwyn John, Treforys, yn hanesydd helaeth ei wybodaeth. Dechreuodd ei lafur dros y Gymraeg fel athro ail-iaith mewn ardal ddi-freintiedig yn Abertawe, a chael ffrwyth tu hwnt i’r disgwyl i’w waith. Yn y tair ysgol lle bu’n bennaeth cynyddu wnaeth llwyddiant y Gymraeg, heb sôn am ei weithgarwch tu allan megis yn Arweinydd yr Aelwyd. Bu ei gyfraniad yn anhepgor mewn cefnogaeth leol i Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd. Ef eleni yw Cadeirydd Apêl Treforys at Brifwyl 2006, sydd wedi rhagori ymhell dros ei tharged. Dyma symbylydd arbennig o ymroddgar.
  • Dechreuodd Hywel Jones, Aberystwyth, ei yrfa yn Athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Penweddig cyn ei benodi’n Bennaeth yng Nglan-llyn. Ar hyn o bryd ef yw Arweinydd Mudiad Ysgolion Meithrin Cymru. Yn y swydd hon fe lwyddodd i droi’r Mudiad yn sefydliad proffesiynol a swyddogol. Sicrhaodd Ganolfan Integredig newydd yn Aberystwyth a chytundeb gan Y Cynulliad i sefydlu Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Drwy’r canolfannau Taleithiol a sefydlir yn fuan parheir y cynnydd sylweddol y mae’r gŵr egnïol a diwylliedig hwn wedi ei arwain mewn maes creiddiol i ddyfodol ein hiaith.
  • Mae Mary Lloyd Jones, Aberystwyth, ers tro yn un o enwogion byd celf yng Nghymru. Yn hanu o Bontarfynach, fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Y mae’n trafod ei milltir sgwâr o ran ei thirwedd a’i diwylliant, ond mewn arddull sy’n drawiadol o argraffiadol a byrlymus o ran lliw. A thrwy wreiddio’i gwaith yn ei chynefin fe welwyd fod ganddo apêl eang a rhygwladol. Ar wahân i orielau enwocaf Cymru, cynhaliodd arddangosfeydd “solo” yn Llundain, Cologne, Efrog Newydd ac Oslo a gwelwyd ei gwaith yn orielau enwog gwledydd eraill megis yn yr Eidal a Sbaen. Dyma yn wir Lysgennad Celfyddyd Cymru.
  • Gwyneth Lewis, Caerdydd, yw’r gyntaf i’w harddel gan ei chenedl yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Fe’i ganed yng Nghaerdydd, ac astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt cyn mynd i astudio yn yr Unol Daleithiau a gweithio yno fel newyddiadurwraig. Aeth wedyn i Rydychen i wneud ymchwil ar waith Iolo Morgannwg. Cyhoeddodd gyfrolau sylweddol eu safon yn Saesneg, ac fe’i gwahoddwyd yn aelod o’r Poetry Book Society. Mae ei chyfrolau Cymraeg yr un mor ddisglair, a Llofrudd Iaith yn Llyfr y Flwyddyn 2000. Y mae Gorsedd y Beirdd yn falch o’i chael yn aelod, ac ysbryd Iolo’n ategu’r croeso!
  • Rhoddodd Beth Leyshon, Bynea, Llanelli, wasanaeth cofiadwy iawn i’r Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd, a hi oedd Ysgrifennydd diwyd Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2000. Bu’n Brifathrawes ysgolion cynradd yn ei bro, ond rhoes gyfraniad llawer lletach na hynny i’w hardal. Bu hi ei hun yn gantores werin ddawnus a berfformiodd ar lwyfannau ledled Cymru, ac yn Arweinydd Côr Merched Trimsaran. Yn ogystal â defnyddio’i doniau cerddorol, cyflawnodd waith clodwiw yn gymdeithasol, yn enwedig gyda phlant dan anfantais. Y mae’n wir yn gymwynaswraig bro.
  • Y mae Rhoswen Mary Llewelyn, Cwmfelin Mynach, yn cael ei chymeradwyo gan lu o’i chydardalwyr sy’n ei pharchu a’i hedmygu am ymgyflwyno mor llwyr i fywyd ei bro. Fel Pennaeth Ysgol a Threfnydd ysgol feithrin a thiwtor dosbarthiadau dysgwyr ac athrawes Ysgol Sul, dangosodd ddyfnder ei hymroddiad. Hi fu’n bennaf cyfrifol am sefydlu cangen Merched y Wawr Bro Gronw. Arloesodd gyda’r Papur Bro, Y Cardi Bach, gan fod yn Llywydd a Golygydd a Chysodydd ar wahanol gyfnodau dros chwarter canrif. Amlyga ddisgleirdeb yn ei doniau fel llenor, gan ennill yn Nhyddewi 2002 ar y Portreadau.
  • Gwelodd Cymru ddawn a gallu Gareth Miles, Pontypridd,yn ei gymeriad yn ogystal ag yn ei waith. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn Ysgrifennydd, yn Olygydd Tafod y Ddraig ac yn Gadeirydd ar wahanol adegau. Bu’n Gadeirydd cangen Gymreig Ysgrifenwyr Gwledydd Prydain am ran helaeth o’r chwarter canrif diwethaf. Cynhyrchodd nifer helaeth o gyfieithiadau ac addasiadau amryw gyfrolau a dramâu llawer gwlad ac iaith. Mae’n awdur toreithiog ei gyfrolau a’i erthyglau, ac yn sgriptiwr a dramodydd y bydd Cymru a’r Gymraeg am byth yn drwm iawn yn eu dyled iddo.
  • Dilynodd Prys Morgan, Abertawe, ôl traed ei dad, T.J. Morgan, yn nisgleirdeb ei ysgolheictod. Y mae’n llenor, yn hanesydd a darlledwr. Gwasanaethodd fel golygydd amryw o gyfnodolion a chyfrolau ysgolheigaidd, yn aelod a chadeirydd cyrff cenedlaethol megis Pwyllgor Llenyddol Cyngor y Celfyddydau a Phwyllgor Adeiladau Cymru. Eleni fe’i hurddwyd yn Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Er 2002 y mae’n Athro Emeritws Prifysgol Cymru. Y mae’n gyfathrebwr medrus, a’i gyflawniadau dirifedi yn gyfraniadau cyfoethog i wyddor a llên ein cenedl.
  • Ganed Osi Rhys Osmond, Llansteffan, yn Wattville, Gwent a graddiodd o Goleg Celf Casnewydd a Chaerdydd. Mae’n wlatgarwr brwd, a dysgodd Gymraeg yn nodedig o dda. Wedi ymsefydlu yn Llansteffan y mae’n ennyn parch gan bawb am ei weithgarwch dros ei gymuned leol. Bu’n gefnogol i orielau ym Mhenfro a Myrddin, a rhoes gyngor a chefnogaeth fuddiol iawn i’r Brifwyl mewn cyswllt â Chelfyddyd Gweledol. Yn safon ei waith, ac fel athro a darlithydd, ysbrydolodd genedlaethau o artistiaid ifanc. Mae’n genhadwr effeithiol dros Gymru a Chymreictod ymhlith y di-Gymraeg, ac ar y llwyfan rhyngwladol.
  • Cafodd Bobi Morus Roberts, Aberhonddu, ei fagu mewn ardal gyfoethog ei diwylliant ym Mryn-Rhyd-yr-Arian. Dysgodd ganu gan ei dad, a datblygodd yn ddatgeinydd celfydd gan ennill amryw weithiau yn yr Wyl Gerdd Dant a’r Genedlaethol. Gosodai ar gyfer datgeiniaid, a darlithiai a hyfforddai yn y cylch. Wedi i’w waith orfodi iddo symud i Loegr ac yna i Aberhonddu ni ollyngodd ei frwdfrydedd dros hybu corau a chymdeithasau ac eisteddfodau. Cyfansoddai ganeuon, a pherfformiai a chyflwynai raglenni ar radio a theledu dros wahanol gyfnodau, ac anian yr awdur a’r cyfansoddwr yn dal yn fyw ynddo.
  • Gogleddwr o Edern yw Guto T. Roberts, Pontyclun, ac ar hyd ei yrfa bu’n ddarlithydd Ffiseg ymMhrifysgol Morgannwg. Bu ei ddyfeisgarwch gwyddonol yn amlwg yn ei ymchwil a’i waith datblygol, yn arbennig mewn cysylltiad â diwydiant. Yn ychwanegol at ei gyfraniadau galluog yn ei faes dangosodd ehangder ei ddiwylliant yn ei wasanaeth i’r Urdd, yn lleol a chenedlaethol. Yna wedyn rhoes arweiniad arloesol gyda Menter Taf Elái. Ac ers blynyddoedd, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, bu’n gyfrifol am drefnu ei gweithgareddau Gwyddonol. Dyma un o gymwynaswyr y Brifwyl.
  • Athro arbennig iawn yw Owain Roberts, Amlwch,. Fe’i ganed ym Mhenbedw. Er dechrau’r saithdegau bu yn byw a dysgu ym Môn. Ond ei arbenigedd yw archaeoleg y môr, ac fe’i cydnabyddir yn awdurdod byd-eang yn ei faes. Fe’i hanrhydeddwyd gan Gymdeithasau morwrol yn cynnwys Sefydliad Brenhinol Penseiri Morwriaeth. Cafodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, a’i gydnabod yn Ddarlithydd Mygedol gan y Brifysgol ym Mangor. Y mae’n darlithio ac hyfforddi’n gyson, yn cynorthwyo gyda golygu cyfnodolion, a’i gyhoeddiadau a’i erthyglau yn ddirifedi. Llongwr Cymraeg gwir ddiwylliedig.
  • Bu Betty Williams, Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn gefnogol i eisteddfodau lleol a chenedlaethol o’i phlentyndod, a deil i fyw yn Nhalysarn, bro ei magwraeth. Y mae’n ddiacon yn ei heglwys ac yn deyrngar i draddodiadau gorau diwylliant ei gwlad. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, ac y mae yn Is-Lywydd a Chymrawd Prifysgol Cymru Bangor. Gwasanaethodd ar gynghorau lleol a’r Cyngor Sir cyn ei hethol yn Aelod Seneddol dros Gonwy. Dangosodd ddawn a deallusrwydd yn ei dyletswyddau ar lu o wahanol banelau a phwyllgorau, ac y mae ei harddull a’i hiaith naturiol yn rhoi graen ar ei chyflawniadau cyhoeddus.
  • Cafodd Owen Arthur Williams, Llanfairpwll, yrfa fel athro hynod drwyadl a dawnus mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Lloegr a Chymru. Yn fab i’r enwog Edward Williams, Llangefni, nid rhyfedd iddo gael ei wreiddio mewn diwylliant. Y mae’n Is-Lywydd Eisteddfod Môn. Bu’n adroddwr eithriadol lwyddiannus yn gynnar iawn, ond troes ei ddiddordeb i gyfeiriad y ddrama, gyda Chlwb Cymry Llundain, ac yna ym Môn. O ddechrau’r saithdegau bu’n actio bron yn flynyddol ym mherfformiadau Theatr fach Llangefni. Y mae’n awdur cyfrolau, ac ef yw’r awdurdod ar hanes y ddrama ym Môn.

 

Anrhydeddau 2008

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2008
isod.

Urddau’r Orsedd 2008

I’w derbyn i’r Orsedd 2008

Rhestr lawn o’r Cymry fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch ym mis Awst.

I’w hurddo fore Llun 4 Awst 2008. Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor

Maria Ataou, Treganna, Caerdydd
Helen Davies, Y Ddraenen, Caerdydd
Ruth Elinor Davies, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Anwen Ebenezer Ellis, Gwaelod-y-garth, Caerdydd
Rhian Mair James, Y Rhath, Caerdydd
Angharad Wyn Jones, Glasinfryn, Bangor, Gwynedd
Caryl Ebenezer Thomas, Llandaf, Caerdydd
Ruth Williams, Y Ddraenen, Caerdydd

Urdd Llenor

Olwen Rhiannon Allender, Casnewydd
William Huw Davies, Pen-y-bont ar Ogwr
Catrin Angharad Wallis Evans, Llandaf, Caerdydd
Gweneth Ann Evans, Llandaf, Caerdydd
Sara Martel Hughes, Y Rhath, Caerdydd
Nia Mair Jones, Llandyfaelog, Caerfyrddin
Catrin Mari Nicholas, Llannon, Llanelli
Ceri Ffion Richards, Llandysul, Ceredigion
Helen Thomas, Treganna, Caerdydd
Lowri Angharad Thomas, Capel Hendre, Rhydaman
Gareth Rhys Tomos, Derwen Fawr, Abertawe
Sioned Angharad Wyn, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Arholiadau’r Orsedd

Urdd Cerddor (Gwisg Las)

Elwyn Evans (Siôr ap Oswyn), Caeredin

Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

Richard Garner Williams (Richard y Llan), Pontcanna, Caerdydd

Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
Francesca Dimech, Penarth, Bro Morgannwg
Mari Edwards, Castell-nedd
Rhian Lloyd Haggett, Y Barri, Bro Morgannwg
Alun Fôn Roberts, Llanfrothen, Gwynedd

Bu’r ymgeisydd canlynol yn llwyddiannus yn arholiad Iaith Ofydd 2 yn unig: Ian Christopher Thomas, Llandaf, Caerdydd

Urddau Er Anrhydedd 2008

 

  • Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Sir Gâr 2007:

    Ceri Elen, Hen Golwyn – Enillydd y Fedal Lenyddiaeth
    Rhiannon Marks, Cil-y-cwm, Llanymddyfri – Enillydd y Goron
    Hywel Griffiths, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth – Enillydd y Gadair

  • Enillydd Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006:

     

    Katherine Allen, Yr Eglwys Newydd – Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts

    Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007:

    Urdd Ofydd er Anrhydedd
    Trefor Pugh, Trefenter, Ceredigion -Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
    Gavin Ashcroft, Pontypridd – Enillydd Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
    Gwawr Edwards, Bethania, Llannon – Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
    Robyn Lyn Evans, Caerfyrddin – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis
    Llio Eleri Evans, Llanfairpwll – Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts
    Glain Llwyd, Cefnddwysarn, Y Bala -Enillydd Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed
    Gwion Aled Williams, Llansannan, Dinbych – Enillydd Gwobr Richard Burton
    Rhian Evans, Y Tymbl – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
    Julie MacMillan, Ynyswen, Y Rhondda – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

    Urdd Derwydd er Anrhydedd

    Nic Ros, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ddrama
    Mary Annes Payne, Dwyran, Llanfairpwll – Enillydd y Fedal Ryddiaith
    Tony Bianchi, Caerdydd – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

    I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod
    Janet Evans (Sioned o’r Llan), Llanbedr Pont Steffan
    Neli Jones (Elinor Fflur), Pontrhydfendigaid
    Rob Nicholls (Robert Nichol), Caerdydd
    Teifryn Rees (Teifryn), Felinfoel
    Margaret Williams (Margaret Bryn), Caerdydd

    I’w hurddo fore Gwener, 8 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008:

    Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

    Mallt Anderson, Caerdydd Mae enw Mallt Anderson yn enwog drwy Gymru gyfan oherwydd ei hymroddiad i fywyd diwylliannol y genedl. Yng nghanol ei phrysurdeb, un o’i chymwynasau mwyaf â Chymru yw ei gwaith allweddol yn sicrhau na fyddwn byth eto yn anghofio Gwenllian, Tywysoges “Goll” Cymru, a sefydlu Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

    Rhian Bebb, Machynlleth Mae hi wedi ennill yn haeddiannol le amlwg yn cyfansoddi a hyfforddi a pherfformio ym myd canu gwerin, yn arbennig gyda’r delyn deires a’r acordion. Bu’n llysgennad dros ddiwylliant gwerin Cymru ar draws gwledydd y byd, a bu’n ddisglair ei chyfraniad i gymdeithasau ac eisteddfodau yn ei bro a thrwy Gymru.

    Janine Wyn Davies, Pont-rhyd-y-fen Rhagorodd yn ei maes fel bydwraig nes gwneud cyfraniad sylweddol fel ymchwilydd ac uwch-ddarlithydd yn y pwnc ym Mhrifysgol Morgannwg. Ond drwy ei chysylltiadau â’r diwylliant Cymraeg yn aelwydydd yr Urdd fe fagodd ymroddiad at yr iaith, a bellach mae’n ddylanwadol yn hybu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

    Sydney Gwendoline Davies, Glyn Ceiriog Gwraig gampus i’w chymdogaeth. Wedi priodi Theo Davies o Lyn Ceiriog ymsefydlodd yn y dyffryn gan gyfrannu’n gyfoethog iawn at fywyd masnachol a chrefyddol a diwylliannol y fro ar hyd yr hanner canrif y mae wedi bod yno. Ym mhob gweithgaredd o bwys yn y rhan hon o Gymru mae ganddi hi ryw gyfran allweddol.

    Aled Edwards, Cilfynydd Ar hyn o bryd mae’n Brif Weithredwr Cytûn, a chyfrannodd eisoes yn effeithiol at gyd-ddeall rhwng cymunedau a chrefyddau yng Nghymru. Y mae’n fedrus wrth ymgyrchu dros gyfiawnder mewn materion megis cydraddoldeb hiliol a hynt ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan fod yn llais a chydwybod yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    Caradog Evans, Yr Hendy Bu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol dros nifer helaeth o flynyddoedd fel adroddwr, arweinydd cynhyrchydd drama a beirniad, a chyflwynydd medrus ar lwyfan y Babell Lên. Gwasanaethodd hefyd fywyd diwylliannol y bröydd y bu’n byw ynddyn nhw, yn arbennig fel actor a chynhyrchydd a chadeirydd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn Abertawe.

    Y Tad Tony Hodges, Caerdydd Camp fawr iddo, ar gyrion Caerdydd ar dir anaddawol iawn, lwyddo i feithrin plwyf Catholig ffyniannus, dwyieithog. Er ei fagu ar aelwyd Saesneg, ymddiddorodd yn hanes Cymru a’i hiaith yn ystod ei hyfforddiant fel offeiriad, a bellach y mae ei ymroddiad deublyg, i’r Ffydd ac i ddiwylliant Cymru, yn ysbrydoliaeth i bawb o’i gyfoedion.

    William Maldwyn James, Capel Bangor, Aberystwyth Ymhlith ei rinweddau mawr y mae ei ymroddiad diarbed i wahanol achosion, gan gynnwys ei wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol. Y mae’n organydd yn ei eglwys ers 56 o flynyddoedd, ac ers cyfnod maith yn Glerc y Cyngor Cymuned, yn Ysgrifennydd Cymdeithas y Deillion yng Ngheredigion, ac yn gwasanaethu ar Gyngor Cymru.

    Dewi Morris Jones, Bronant, Aberystwyth Rhoddodd oes o wasanaeth fel golygydd proffesiynol gan olygu cannoedd o deipysgrifau a’u llywio drwy’r wasg. Y mae hwn yn waith creadigol sy’n gofyn am grebwyll llenyddol yn ogystal â manylder technegol. Y mae’n ŵr o ddiwylliant eang, yn rhugl ei Lydaweg a’i Ffrangeg, ac yn ymroddgar yn ei wasanaeth i’w gymuned yn ei fro.

    Heather Jones, Caerdydd Yn gantores amryddawn a phoblogaidd iawn. Dysgodd Gymraeg, a thros gyfnod maith bu’n brysur yn hyrwyddo’r iaith drwy ei thalentau. Perfformiodd mewn ysgolion a chartrefi henoed yn ogystal ag ar lwyfannau teledu a chyngherddau canu pop. Ysbrydolodd genedlaethau o ddysgwyr, ac y mae Cymru oll wedi ei chymryd at ei chalon.

    Rhian Jones, Llangwm Ers iddi ymgartrefu yn Llangwm bu ei chyfraniad i draddodiad cerdd a cherdd dant yr ardal yn eithriadol. Bu’n hyfforddi unigolion a phartïon a chorau cerdd dant ers degawdau, a gwelir ei henw yn aml fel beirniad yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol a’r ŵyl Gerdd Dant. Cyfrannodd at ddealltwriaethau cenedlaethau o ieuenctid yng nghyfrinion y grefft.

    Roy Noble, Aberdâr Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg, gan ennill nifer o ysgoloriaethau, a theithio amryw wledydd. Pan droes at ddarlledu cydnabuwyd ei ddawn a’i allu naturiol gan y gwobrau a ddyfarnwyd iddo. Bu’n weithiwr selog dros gyfnod maith yn cefnogi mudiadau gwirfoddol, a daw ei boblogrwydd a’i bersonoliaeth i’r golwg yn ei gyfrolau yn Gymraeg a Saesneg.

    John Price, Machynlleth Crefftwr cain sy’n gelfydd eithriadol wrth drin metelau. Lluniodd lu o goronau a thlysau i eisteddfodau a gwyliau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys pedair coron i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n beirniadu yn rheolaidd yn yr adran grefftau yn y Sioe Frenhinol. Ac, yn goron ar ei gyflawniadau, y mae’n eang ei ddiwylliant, yn ymroddgar i’w eglwys a’i gymdeithas.

    Bethan Smallwood, Llangwm Pan ddychwelodd i Langwm daeth yn un o gymwynaswyr pennaf y fro. Y tu hwnt i’w dyletswyddau fel athrawes gerdd yn y Bala bu’n llwyr ei hymroddiad i Aelwyd Llangwm yn dysgu unawdwyr a phartïon. Ac fel arweinyddes ddawnus Côr Meibion Llangwm fe’u tywysodd i gyfnod arbennig o lewyrchus mewn eisteddfod a chyngerdd, adre a thramor.

    Elfyn William Thomas, Caernarfon Bu’n gefnogwr brwd i bob agwedd ar ddiwylliant Cymru. Yn Eisteddfod Tyddewi 2002 enillodd wobr Menter a Busnes am hyrwyddo’r Gymraeg. Fel rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Seren Arian trefnodd deithiau i holl brifwyliau Cymru yn ogystal â theithiau i bedwar ban byd i gefnogi sêr fel Bryn Terfel, a Gwyn Hughes Jones.

    Myra Turner, Waunfawr, Caernarfon Ers blynyddoedd bu’n un o gynheiliaid eisteddfodau lleol a thaleithiol Cymru fel cystadleuydd cyson. Byddai hefyd yn cludo eraill gyda hi, a’r cwmni o gystadleuwyr yn gaffaeliad gwerthfawr i bob eisteddfod. Byddai hithau bob amser yn ddeallus ei dehongliad a choeth ei mynegiant, a bu’n fuddugol am adrodd yn holl brif Eisteddfodau’r wlad.

    John Ellis Williams, Llanrug Llenor unigryw. Y mae’n nofelydd, yn gyfrannwr cyson i Eco’r Wyddfa a chyfnodolion lu. Teithiodd y byd, gan gerdded yng nghwmni sipsiwn, gweithio yng nghaeau gwenith Ffrainc a chyda ceffylau gwyllt y Camargue, a dod yn gyfaill agos i Mme. Simone de Beauvoir. Yna crwydro pellach, o’r Sierra Nevada i’r Swistir. Bellach mae yn ôl yng Ngwynedd.

    Urdd Derwydd

    Bethan Bryn, Aberystwyth Ers dros ddeugain mlynedd bu yn gweithredu fel telynores swyddogol ym mhrif Eisteddfodau a gwyliau Cymru. Yn ogystal â bod yn berfformwraig o’r radd flaenaf, y mae’n cyfansoddi, hyfforddi a beirniadu yn gyson. Bu’n arweinydd nifer o bartïon a chorau, gan arwain pob un ohonynt yn eu tro i fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Hazel Walford Davies, Aberystwyth Yn academydd sydd wedi cyfrannu’n sylweddol i wyddor y theatr yng Nghymru. Y mae’n feirniad llenyddol ac yn awdur a golygydd toreithiog. Ers blynyddoedd fe fu’n gadeirydd ac aelod ar nifer o gyrff allweddol ym myd addysg, yng Nghymru a thramor, gan wasanaethu’n aml fel Athro ymweliadol mewn nifer o brifysgolion.

    Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Caerdydd Saif ar ei ben ei hun ymhlith gwleidyddion Cymru. Bu’n annibynnol ac anghonfensiynol ei farn ar lu o bynciau, ac enillodd barch ac edmygedd mawr ei gyd-Gymry am ddisgleirdeb ei allu a threiddgarwch ei weledigaeth. Fel Llywydd y Cynulliad sefydlodd ddelwedd arhosol i’r swydd honno, sy’n gyfuniad o gadernid ac urddas.

    Rebecca Evans, Penarth Mae hi heddiw ar frig ei gyrfa, gyrfa a’i harweiniodd eisoes i dai opera a neuaddau cyngerdd enwoca’r byd. Enillodd yn ddiweddar y wobr am y Recordiad Opera gorau, a threchu perfformiadau’r meistri. Y mae ei phersonoliaeth, ei dawn naturiol a’i llais gwefreiddiol wedi ennyn ymateb brwd a chanmoliaeth gan adolygwyr praffaf byd cerdd.

    Athro Julian Hopkin, Abertawe Mae iddo le anrhydeddus ym meddygaeth Cymru. Wedi gyrfa ddisglair mewn gwahanol ganolfannau ymchwil, ef a fu’n bennaf cyfrifol am sefydlu Ysgol Feddygol yn Abertawe. Y mae’n Athro Ymweliadol mewn gwahanol Brifysgolion tramor, a’i gyhoeddiadau, gan gynnwys ei gyfrol Gymraeg, Y Medic, yn niferus a dylanwadol.

    Dr E. Wyn James, Caerdydd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac academydd eang ei ddiddordebau. Y mae’n ŵr cadarn ei farn a’i argyhoeddiad ac yn awdurdod cydnabyddedig yn ei brif feysydd ymchwil. Er amled ei weithgareddau colegol y mae’n arbennig o ymroddgar yng nghylchoedd diwylliannol ei fro a’i wlad, yn weithgar yn ei eglwys a chyda papur bro Y Dinesydd.

    Caryl Parry Jones, Y Bont-faen Y mae gallu a’i dawn wedi ennyn edmygedd Cymru oll. Bu’n Fardd Cenedlaethol Plant Cymru, cyfansoddodd rai o ganeuon ysgafn gorau’r iaith, yn awdur sgriptiau radio a theledu a ffilm, yn gynhyrchydd a hyfforddwraig, ac yn feirniad cenedlaethol. Drwy’r cyfan gweithiodd yn wirfoddol a diflino dros Addysg Gymraeg.

    Geraint Wyn Jones, Bangor Cydnabyddir ei fod yn un o brif addysgwyr ei gyfnod, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad gwir ganmoladwy i ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Yn ei gyfnodau cynhyrchiol yn ddarlithydd yng Ngholeg Harlech a’r Brifysgol ym Mangor gwnaeth waith arloesol a chreiddiol yn y maes hwn, ac ef a fu’n allweddol yn sefydlu gwobr Dysgwr y Flwyddyn.

    John Glyn Jones, Dinbych Bu cyfraniad i ddiwylliant Cymraeg ardal Dinbych yn eithriadol. Ar wahân i’w lwyddiant fel Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, a’i wasanaeth fel Ynad Heddwch, y mae’n fardd o safon genedlaethol, ac yn un o swyddogion Barddas. Mae’n arweinydd tîm y Talwrn â thîm y papur bro, ac yn gyfrannwr ymroddgar ym myd iaith a chrefydd a gwleidyddiaeth.

    John Gwynfor Jones, Caerdydd Cyhoeddodd eisoes nifer helaeth o gyfrolau ac erthyglau gan sefydlu ei le yn brif awdurdod yn ei faes yn hanes Cymru. Bu’n hybu, dysgu a chyfarwyddo myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ledu’r egwyddor honno i faes arholiadau’r ysgolion. Bu hefyd yn ymroddedig iawn ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd.

    J. Gareth Llewelyn, Caerdydd Cyfrifir ef bellach yn un o brif Niwrolegwyr Prydain. Ef oedd y symbylydd i sefydlu amryw o glinigau niwrolegol yng Ngwent a thros Gymru. Y mae ei waith wedi ennyn edmygedd y byd meddygol, a’r llynedd enillodd y Cymro twymgalon hwn y Wobr Efydd am ragoriaeth glinigol. Bu’n frwd ei gefnogaeth i werth gwasanaeth meddygol dwyieithog.

    Kenneth O. Morgan, Witney, Swydd Rhydychen Bu bellach yn arweinydd yn hanes modern Prydain am dros ddeng mlynedd ar hugain, a’i gydnabod ledled y byd am ei waith ar hanes Cymru a’r Blaid Lafur. Fe’i dyrchafwyd yn Farwn Morgan o Aberdyfi, gan wasanaethu Tŷ’r Arglwyddi ar ei Bwyllgorau allweddol. Y mae mwyafrif ei gyfrolau cynhwysfawr yn gyfraniad arhosol i hanes ein gwlad.

    David Raymond Owens, Caerdydd Y mae ei ddoniau meddygol wedi dwyn iddo glod a chydnabyddiaeth byd eang. Y mae Cymru’n elwa’n helaeth ar ei wybodaeth arbenigol ym myd clefyd y siwgr, a sefydlodd wasanaeth sgrinio sydd gyda’r gorau yn Ewrop. Er ei brysurdeb fe ddeil i gefnogi’n gyson ddiwylliant a chelf yng Nghymru, yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol.

    Syr Emyr Jones Parry, Caergrawnt Cafodd yrfa ddisglair fel gwyddonydd cyn ymuno â’r Swyddfa Dramor. Bu’n ddiplomydd medrus mewn gwahanol wledydd nes ei ddyrchafu’n Gynrychiolydd Prydain yn NATO ac yna yn Llysgennad Prydain yn Y Cenhedloedd Unedig. Dychwelodd i swydd allweddol yn natblygiad ein cenedl, fel Cadeirydd y Confensiwn ar ddyfodol y Cynulliad.

    Gaynor Morgan Rees, Dinbych Cipiodd galon cynulleidfaoedd drama a gwylwyr teledu yng Nghymru, gan ymddangos mewn prif rannau yn ein theatrau, ac yn ffilmiau a chyfresi teledu mwyaf poblogaidd ein cyfnod. Mae’n fywiog a diarbed ei gwasanaeth yn gymdeithasol, fel yn ei thymor yn Faeres Dinbych. Mae’n parhau’n llawn prysurdeb yn ffilmio, darlithio a hyfforddi.

    Matthew Rhys, Caerdydd Dechreuodd ei yrfa pan gafodd ei gastio yn y ffilm Gymraeg, “Bydd yn Wrol”, ac wedyn yn y ddrama Gymreig, “House of America”. Ond daeth yn seren yn y gyfres deledu Americanaidd, “Brothers and Sisters”, gan ennyn sylw a chlod rhyngwladol. Y mae disgleirdeb ei berfformiadau ar lwyfan ac mewn ffilm wedi ei sefydlu fel un o actorion gorau Cymru.

    Tim Saunders, Caerdydd Cafodd ei eni i rieni o dras Albanaidd a Gwyddelig, a chael ei fagu yng Nghernyw. Dysgodd Gymraeg gan ddatblygu yn bolymath o Gelt, toreithiog eithriadol ei waith mewn cyhoeddi a darlledu a hyfforddi. Cyfansoddodd gerddi mewn tair o’r ieithoedd Celtaidd, ond Cymru sydd wedi elwa fwyaf ar ei weithgareddau amryddawn yn gymdeithasol a diwylliannol.

    Catrin Stevens, Casllwchwr Mae ei chyfraniad i iaith a diwylliant Cymru yn un cwbl nodedig. Y mae’n llenor, awdur cynhyrchiol a hanesydd, wedi Cadeirio a Llywyddu dau brif fudiad cenedlaethol, ac yn aelod treiddgar ei barn ar Bwyllgorau Canolog yr Eisteddfod. Y mae ei gweithgaredd lleol yr un mor ddiflino, megis ei gwaith yng Nghasllwchwr yn hyrwyddo trosglwyddiad yr iaith yn y fro.

    Hywel Williams, Caernarfon Yn ei swydd gyntaf fel gweithiwr cymdeithasol bu’n arloesi drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y datblygai ei yrfa gwelwyd ei ymroddiad dros yr iaith yn dwyn ffrwyth, yn arbennig mewn perthynas â Chyngor Gwaith Cymdeithasol, a chyhoeddodd gyfrolau a phapurau treiddgar eu gweledigaeth. Ers 2001 y mae’n Aelod Seneddol gweithgar a dylanwadol.