Y Llyfrgell Genedlaethol 2012

Trydydd cyfarfod cymdeithasol y Gorseddogion

 

Ddydd Sadwrn, 22 Medi 2012 daeth trigain o aelodau a charedigion Gorsedd y Beirdd at ei gilydd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar gyfer eu trydydd cyfarfod cymdeithasol. Yn dilyn cyfarfodydd cymdeithasol blaenorol yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn 2010 ac ym Mhortmeirion y llynedd, roedd pob ffordd Orseddol yn arwain i Aberystwyth eleni a chafwyd diwrnod i’w gofio – a hynny ‘yn wyneb haul llygad goleuni’ yn llythrennol.

Fe’n croesawyd yn swyddogol i’r Llyfrgell – ac i’r ‘Drwm’ – gan Lyn Lewis Dafis a gyfeiriodd at y ffaith fod sefydlu llyfrgell genedlaethol i Gymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn gwbl unol â syniadaeth Iolo Morganwg am ddiogelu ‘cof cenedl’. Wedi gair byr gan Yr Archdderwydd Jim Parc Nest, trosglwyddwyd yr awenau i’r Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood a aeth ati mewn ffordd afaelgar ac ysbrydoledig i’n diddanu (a’n haddysgu) am ein hetifeddiaeth lenyddol, gan gychwyn gyda ffilm yn amlinellu hanes y Llyfrgell Genedlaethol. Os oeddem wedi meddwl cael eistedd yn ôl yn seddau cyfforddus y Drwm i wrando ar Mererid yn sgwrsio, fe’n siomwyd – oherwydd roedd hi wedi mynd at i gynllunio cwis gweledol ar ein cyfer a buan iawn yr oedd pawb ohonom wedi ymgolli yn y lluniau a ymddangosai ar y sgrin o’n blaenau. Bu cryn grafu pen a chwilio cilfachau’r cof i geisio datrys mwy nag un pos a dyfalu pa eisteddfod oedd yn gysylltiedig â’r lluniau a lifai o flaen ein llygaid ! Aeth awr heibio yn llawer rhy gyflym wrth i ni ymgiprys â’n gilydd am wobr fawr y diwrnod – copïau wedi’u fframio o ran o awdl arobryn ‘Ffin’ yr Archdderwydd presennol, Jim Parc Nest (‘epilog’) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau, a’r gerdd ‘gollwng’ o gasgliad buddugol yr Archdderwydd etholedig, y Prifardd Christine, yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau. Aelodau’r tîm a ddaeth i’r brig (o un marc yn unig) oedd Hefin Jones, Huw Tomos, Alwena Lewis, a Gwyn Lewis.

Wedi i ni gael ein gwala a’n gweddill ym Mwyty Pendinas, cafwyd cyfle i gael golwg ar arddangosfa o greiriau’r Orsedd a baratowyd yn arbennig ar ein cyfer, cyn cael ein harwain gan dywyswyr y Llyfrgell i grombil yr adeilad i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ar y casgliadau gwerthfawr sy’n cael eu diogelu yno – yn llawysgrifau, llyfrau, mapiau, a lluniau, heb sôn am y deunydd digidol diweddaraf. Dim ond gobeithio i bawb lwyddo i ddod o’r celloedd yn ddiogel …

Daeth diwrnod hynod bleserus i ben yn llawer rhy fuan dros baned yn y bwyty cyn i bawb ohonom ffarwelio â’n gilydd tan y cyfarfyddiad gorseddol nesaf. Y mae ein dyled yn fawr i’r Arwyddfardd Dyfrig ab Ifor a’i wraig Bethan am eu trefniadau trylwyr ar gyfer y diwrnod, ac os oes gan unrhyw aelod o’r Orsedd syniadau am leoliad addas ar gyfer cyfarfod cymdeithasol y flwyddyn nesaf, gofynnir i chi nodi hynny wrth Dyfrig. Pwy a ŵyr beth fydd yr arlwy ar ein cyfer y flwyddyn nesaf – a beth, tybed, fydd y wobr y tro hwnnw … ?

Gwyn o Arfon

Cymdeithasu yng Nghastell Deudraeth 2011

 

Ddydd Sadwrn, 17 Medi, 2011 daeth yn agos at hanner cant o aelodau’r Orsedd o bob rhan o Gymru at ei gilydd i Gastell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, ar gyfer ein hail achlysur cymdeithasol blynyddol a drefnwyd gan Yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor. Yn awyrgylch unigryw a thrawiadol y castell Fictorianaidd a brynwyd gan Syr Clough Williams-Ellis yn 1931 (taid y perchennog presennol, y Prif Lenor Robin Llywelyn), cafwyd cyfle i glywed hanes yr adeilad a’r ystad gan Robin ei hun, cyn mwynhau orig ddymunol yn cymdeithasu uwch pryd hyfryd o fwyd. Croeswyd pawb yn gynnes gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest, ac wedi gorffen gwledda cafwyd cyfle i grwydro o gwmpas gerddi’r Castell ynghyd â mynd i lawr i bentref hynod Portmeirion i fwynhau’r golygfeydd a’r bensaerthiaeth hynod.
Diolch i’r Prif Lenor Robin Llywelyn am ein croesawu i’w ‘gartref’ ac i Dyfrig ab Ifor am ei drefniadau manwl a gofalus (gan gynnwys sicrhau digon o ysbeidiau heulog ynghanol diwrnod o gawodydd trwm !). Os oes gan unrhyw aelod o’r Orsedd syniadau am leoliad addas ar gyfer cymdeithasu y flwyddyn nesaf, byddai Bwrdd yr Orsedd yn falch iawn o glywed gennych.
Gwyn o Arfon.