Urddau’r Orsedd 2020

Urddau’r Orsedd 2020

 

Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i gohirio am flwyddyn, mae’r Orsedd wedi penderfynu cyhoeddi enwau’r rheiny a oedd i’w hanrhydeddu ar y Maes yn Nhregaron eleni 

Y bwriad yw sicrhau ein bod yn gallu cyd-ddathlu eu llwyddiant a’u hanrhydedd ac edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol y flwyddyn nesaf.

Y bwriad yw cynnal y seremonïau Urddo ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.  Gan fod y broses wedi’i chwblhau cyn y cyfnod cloi, ni fyddwn yn ail-agor enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a bydd enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn agor ymhen y flwyddyn.

Llongyfarchiadau mawr i bawb

GWISG WERDD

Deian Creunant

Mae Deian Creunant, Aberystwyth, wedi cyfrannu at y celfyddydau yn lleol ac yn genedlaethol. Yn un o’r lleisiau Cymraeg cyntaf ar Radio Ceredigion, cafodd gyfnodau yn gweithio gyda’r Urdd, y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, a bellach mae’n gyfarwyddwr cyfathrebu gyda FOUR Cymru. Mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn cyd-arwain menter Ffoto Aber a bu’n gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010. Mae’n aelod ac yn gyn gadeirydd o Fwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Arad Goch, yn aelod o Fwrdd Rheoli Canolfan Morlan, ac yn flaenor yng nghapel y Morfa. Dros y blynyddoedd mae wedi rhedeg i godi arian i elusennau lleol a chenedlaethol.

Anthony Evans

Yn wreiddiol o Crosshands, mae’r artist Anthony Evans wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n gyn bennaeth celf Ysgol Glantaf, yn ddarlunydd llyfrau plant, ac yn arlunydd gwleidyddol a gefnogodd ymgyrch streic y glowyr a’r mudiad gwrth-apartheid. Bu’n weithgar dros Glwb y Bont, yn ysgrifennydd Sir i UCAC, ac un o sylfaenwyr Cwmni Artistiaid yr Hen Lyfrgell, Oriel Canfas ac Elusen Awen. Mae’n artist proffesiynol ers 30 o flynyddoedd. Mae wedi perfformio gyda Chwmni Drama Y Fuwch Goch, Clwb Ifor Bach, a Chwmni Drama Capel y Crwys, yn ogystal ag ymddangos mewn dau bantomeim yn yr Eglwys Newydd i godi arian i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Rhiannon Evans

Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, yn adnabyddus am ei gemwaith, sy’n ddeongliadau gwreiddiol o’n traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd, yn arbennig felly chwedlau’r Mabinogion a chwlt y Seintiau.  Ers ei sefydlu yn 1971, mae Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru wedi dod yn gyfystyr bron â Thregaron ei hun.  Mae’r Ganolfan yn hybu crefftwaith a wnaed yng Nghymru ac yn noddi artistiaid a dylunwyr o safon trwy’r siop, y gweithdy a’r Oriel.  Mae Rhiannon wedi arwain datblygu economaidd gwledig trwy gyd-sylfaenu ‘ATOM Tregaron’ yn y 1970au, a bu’n fentor i Awdurdod Datblygu Cymru, ac yn aelod o fenter Curiad Cymru.

Angharad Fychan

Mae Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth, wedi cyfrannu’n helaeth i faes enwau lleoedd.  Er 2011, bu’n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio’n gyson ar y pwnc.  Mae’n arwain teithiau cerdded addysgiadol er mwyn egluro pwysigrwydd enwau lleoedd yn y tirwedd, ac mae’n paratoi colofn enwau lleoedd yn fisol ar gyfer papur bro Y Tincer er 2013.  Mae hefyd yn aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.  Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.

Robat Gruffudd

Anrhydeddir Robat Gruffudd, Tal-y-bont, Ceredigion, am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.  Dechreuodd ymgyrchu pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, ac yn 1965, gyda’i ffrind, Penri Jones, cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn dychanol, Lol.  Yn 1967, sefydlodd wasg Y Lolfa, un o brif weisg Cymru erbyn heddiw.  Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith, a chyhoeddi cyfrol o gerddi, A Gymri di Gymru?, yn 2008, a’i ddyddiaduron, Lolian, yn 2016.  Roedd yn un o’r tîm a sefydlodd y papur bro, Papur Pawb, ac mae’n parhau’n weithgar yn ei gymuned.

Jeffrey Howard

Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd, yn enw ac wyneb cyfarwydd i fynychwyr yr Eisteddfod, fel un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl ers dros ugain mlynedd.  Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddrorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.  Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.  Mae wedi dysgu’r Gymraeg, ac wedi’i defnyddio’n rheolaidd wrth weithio ar brosiectau corawl yr Eisteddfod, yn gymunedol ac wrth baratoi am berfformiadau ar lwyfan y Pafiliwn.

Elin Haf Gruffydd Jones

Mae Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth, wedi gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy’n cysylltu Cymru a’r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, gan fanteisio ar ei phrofiad rhyngwladol i gyfoethogi’r drafodaeth am y Gymraeg.  Yn 2017, fe’i penodwyd yn aelod o grŵp Cyngor Ewrop sy’n adolygu’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol.  Datblygodd Ganolfan Mercator a sicrhau trwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i gannoedd o lyfrau o Gymru gael eu cyfieithu i ieithoedd y byd.  Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.

Wynne Melville Jones

Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Dyn datblygu syniadau a’u gwireddu ydyw. Mae’r Urdd yn agos at ei galon ac mae’n Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddianus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Yn weithgar yn ei gymuned sefydlodd, gydag eraill, y Banc Bro i ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol lleol yn y Gymraeg. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu’n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion.

Helgard Krause

Yn wreiddiol o ardal Pfalz, Yr Almaen, daeth Helgard Krause, Aberaeron i Gymru yn 2005.  Cafodd swydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn marchnata llyfrau dramor, oherwydd ei phrofiad eang yn y byd cyhoeddi.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn Bennaeth Marchnata’r Cyngor, ac ymhen rhai misoedd, roedd yn rhugl.  Yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, dychwelodd i’r Cyngor Llyfrau yn 2017, wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr y sefydliad.  Mae’n esiampl arbennig o’r modd y gall rhywun heb gysylltiad â Chymru ddod yn arweinydd un o’n prif sefydliadau drwy gofleidio ein hiaith a’n diwylliant.

Emyr Llywelyn

Brodor o ardal Llandysul yw Emyr Llywelyn, Ffostrasol, sydd wedi gweithio ar hyd ei oes  i hyrwyddo a diogelu ein hiaith a’n diwylliant.  Bu’n weithgar yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth, ac roedd ar flaen y gad yn y trafodaethau i sefydlu neuadd Gymraeg, ymgyrch a arweiniodd at sefydlu Neuadd Pantycelyn.  Fe’i carcharwyd yn 1963 am achosi difrod i safle adeiladu argae Tryweryn, cyn cyhoeddi na fyddai’n defnyddio trais eto.  Bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain Mudiad Adfer o ddechrau’r 1970au ac ef yw golygydd cylchgrawn Y Faner Newydd. Bu’n gyson weithgar yn ei gymuned yng Ngheredigion dros y blynyddoedd.

Huw Rhys-Evans

A’i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae Huw Rhys-Evans, Harrow, wedi gwneud enw iddo’i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tŷ Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain.  Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, bu’n driw i’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol ers blynyddoedd, gan ddychwelyd i feirniadu ac arwain Cymanfaoedd Canu.  Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain, yn aelod o nifer o gymdeithasau, ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.

Carlo Rizzi

Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth, yn arweinydd opera adnabyddus dros y byd.  Bu’n gyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001 ac eto rhwng 2004 a 2008, ac mae’n dychwelyd at y cwmni’n rheolaidd i weithio.  Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi, ac fe’i cydnabyddir yn un o arweinyddion gorau’r byd yn y maes hwn.  Mae galw mawr am gael cydweithio â Carlo Rizzi, gyda’i egni deinamig, ei ddealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a’i allu i ymgysylltu â’r gerddorfa a’r gynulleidfa mewn ffordd gwbl enigmatig ac emosiynol.  Mae wedi dysgu Cymraeg ac yn magu’i blant drwy gyfrwng yr iaith.

Geraint Roberts

Er bod Geraint Roberts, Caerfyrddin wedi gwneud cyfraniad arloesol i fyd addysg cyfrwng Cymraeg, fe’i hanrhydeddir am ei gyfraniad i fyd llên a diwylliant Cymru.  Mae’n genhadwr dros Gerdd Dafod ac yn weithgar yn lleol a chenedlaethol.  Ef yw sefydlydd Ysgol Farddol Caerfyrddin, a’i frwdfrydedd a’i ddawn trefnu ef sydd wedi sicrhau parhad yr ysgol fywiog hon dros gyfnod o 30 mlynedd.  Ef hefyd, ers rhyw ddeng mlynedd, sy’n trefnu tîm yr Ysgol Farddol Fach, sy’n cynnig gwersi blasu’r cynganeddion yn ardal Caerfyrddin dros yr haf.  Mae’n gefnogwr brwd o eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru ac wedi ennill llu o wobrau a chadeiriau.

Eilir Rowlands

Brodor o Sarnau a Chefnddwysarn yw Eilir Rowlands, ac ni symudodd erioed o’i fro.  Bu’n ffermio am flynyddoedd cyn defnyddio’i ddoniau cynllunio i fod yn dir-luniwr sy’n creu gerddi.  Mae’n rhan annatod o’r gymuned leol, yn un o hoelion wyth diwylliant ei fro, ac wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’r Pethe.  Mae’i gyfraniad yn lleol ac yn ehangach yn enfawr; does neb yn fwy parod i gynnig ei wasanaeth nag Eilir.  Yn genedlaethol, mae’n un o ymddiriedolwyr Cronfa Goffa D. Tecwyn Lloyd, a sefydlwyd i hybu addysg Gymraeg a’n diwylliant, cronfa sydd o gymorth mawr i sefydliadau ar draws Cymru.

Delwyn Siôn

Yn wreiddiol o Aberdâr, Delwyn Siôn, Caerdydd, yw cyfansoddwr caneuon hudolus fel ‘Un Seren’ a ‘Niwl ar Fryniau Dyfed’, clasuron sydd yr un mor boblogaidd nawr ag erioed.  Yn ogystal â’i gyfraniad i’n diwylliant, fe’i hanrhydeddir am ei waith gydag elusen Bobath, yn dilyn genedigaeth ei fab.  Bu’n rhan o sefydlu yma yng Nghymru gangen o’r elusen, sy’n gweithio i wella ansawdd bywyd plant sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol cysylltiedig.  Erbyn hyn, mae canolfan therapi arbenigol yng Nghaerdydd, a dros y blynyddoedd mae Delwyn wedi codi llawer o arian i’w chefnogi.  Mae’n weithgar yn lleol ac ef yw’r arweinydd yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod-y-Garth.

GWISG LAS

Cledwyn Ashford

Yn ddi-os, byddai Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam, yn haeddu’i le yn yr Orsedd am ei gyfraniad i fyd pêl-droed yng Nghymru am dros ddeugain mlynedd.  Mae wedi gweithio gyda rhai o sêr mwyaf y byd pêl droed, gan eu mentora pan yn ifanc a chadw llygad agos ar eu datblygiad dros y blynyddoedd.  Ond mae ‘Cled’ yn fwyaf adnabyddus i ni fel aelod hanfodol o’r tîm sy’n rhedeg Maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.  Yn barod ei gymwynas bob tro, Cled yw un o arwyr tawel y Brifwyl, ac fe’i hanrhydeddir eleni am ei gyfraniad hynod i’r Eisteddfod dros gyfnod o flynyddoedd lawer.

Anwen Butten

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.  Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn cystadlu ar lefel fyd-eang, mae Anwen bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi, ac wedi’i dewis yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y tro nesaf.  Yn ogystal â’i llwyddiant ym myd y campau, mae gan Anwen yrfa lwyddiannus fel nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Jeff Davies

Mae Jeff Davies, Y Fenni, wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Cymraeg y fro honno ers blynyddoedd, ac fe fu hefyd yn allweddol yn llwyddiant yr Eisteddfod yn Sir Fynwy yn 2016, Blaenau Gwent yn 2010 a Chasnewydd yn 2004. Yn dilyn Eisteddfod Casnewydd 1988, roedd Jeff yn un o’r criw a frwydrodd i sicrhau bod ysgol gynradd Gymraeg yn agor yn Y Fenni, a phan agorodd yr ysgol ei drysau yn 1994, roedd Jeff yn un o’r llywodraethwyr cyntaf.  Mae ganddo ddiddordeb byw mewn byd natur, ac mae’n arwain teithiau cerdded i adnabod bywyd gwyllt yn y Gymraeg ac mae hefyd yn arbenigwr ar hanes lleol ei ardal.

Mary Davies

Nid gormodiaith fyddai dweud y byddai llawer o weithgareddau Cymraeg ardal Llanbedr Pont Steffan yn dod i stop heb gyfraniad Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder.  Mae wedi gweithio’n ddiflino dros fudiadau a digwyddiadau – nid yn ysbeidiol ond gyda dyfalbarhad a dycnwch – dros ddegawdau.  Bu Mary’n ymwneud â phapur bro Clonc ers ei sefydlu, ac mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn yr ardal.  Mae’i chyfraniad i fudiadau lleol, gan gynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, ac Undodiaid y Smotyn Du, wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd.  Hyd yn oed o ystyried bod gweithwyr caled ym mhob bro, mae cyfraniad Mary Davies yn eithriadol.

Glan Davies

Un o Frynaman yn wreiddiol, mae Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth, yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel actor a digrifwr.  Yn arweinydd carismatig nosweithiau llawen ledled Cymru, bu’n chwarae rhan Clem Watkins yn Pobol y Cwm o 1988 tan 1997.  Cafodd ei ddewis i dywys Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2017, yn sgil ei gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal.  Mae’n adnabyddus am ei waith elusennol, gan godi arian i Blant mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth.  Mae hefyd yn rhan greiddiol o’r elusen Calonnau Cymru, a lwyddodd i sicrhau dros 70 o ddiffibrilwyr cyhoeddus yng Ngheredigion a thros 1,300 ar draws Cymru gyfan.

Cyril Evans

Anrhydeddir Cyril Evans, Tregaron, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg am flynyddoedd lawer.  Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu’n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw.  Yn ogystal, mae Cyril wedi cyfrannu llawer i fywyd a diwylliant ei filltir sgwâr.  Fe’i hanrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor.  Mae’n rhan allweddol o weithgareddau cymunedol yr ardal, ac yn un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno’n rheolaidd.

Anne Gwynne

Mae cyfraniad Anne Gwynne, Tregaron, i’w chymuned yn dyddio’n ôl dros hanner canrif.  Ymysg y cymdeithasau a’r sefydliadau sydd wedi elwa o’i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu’n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron.  Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron, a dywed ei disgyblion ei bod yn athrawes ‘ardderchog iawn’.  Ond, mae’i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd.  Bu’n arwain nifer o deithiau cerdded o’r cychwyn, ac er 2004, bu’n cofnodi’r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.

Ronan Hirrien

Magwyd Ronan Hirrien mewn pentref bach yn ardal Brest, Llydaw, yn ddi-Lydaweg, ond yn ddwy ar bymtheg oed, aeth ati i ddysgu’r iaith mewn dosbarthiadau nos ac yn y brifysgol, cyn troi’i law at ddysgu’r Gymraeg.  Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu yw Ronan wrth ei waith; mae’n creu rhaglenni dogfen o safon sy’n cynnig dyfnder, sylwedd a gwedd newydd ar bobl, llefydd a phynciau pwysig yn niwylliant Llydaw.  Cynhyrchodd ffilm ddogfen Aneirin Karadog: Barzh e Douar ar Varzhed, gan ddangos cryfder y diwylliant Cymraeg trwy gyfrwng y byd barddol, yr Eisteddfod a’r Orsedd.  Mae’i anrhydeddu’n symbol grymus o sut y gall perchnogi’r Gymraeg arwain at berthyn i deulu’r iaith a’i diwylliant.

Arfon Hughes

Mae Arfon Hughes, Dinas Mawddwy, yn ysgrifennydd Cwmni Nod Glas, a chyda cefnogaeth y tîm wedi sicrhau grantiau niferus i’r ardal er mwyn prynu Hen Siop yng nghanol y pentref, a’i throi’n gaffi crefft llwyddiannus a fflatiau ar gyfer pobl leol.  Llwyddwyd hefyd i ddenu arian gan y Llywodraeth i uwchraddio llwybrau ardal Mawddwy, gan sicrhau mynediad hygyrch i bawb, ymysg nifer o brosiectau eraill.  Sefydlodd noson Y Fari Lwyd yn yr ardal ugain mlynedd yn ôl, ac mae’n trefnu’r Plygain yn lleol ers degawd a mwy.  Mae’n un o sefydlwyr papur bro cylch Dolgellau, Llygad y Dydd.  Dyma ddyn sydd yn galon i’w gymuned ac yn haeddu’i anrhydeddu gan yr Orsedd.

Ruth Hussey

Ymddeolodd Dr Ruth Hussey, Lerpwl, o’i swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016.  Yn ystod ei chyfnod yn y swydd honno, bu’n gyfrifol am ddelio â’r epidemig mwyaf o’r frech goch yn ne Cymru ers i’r rhaglen brechu gychwyn.  Er ei bod wedi ‘ymddeol’, mae galw am ei phrofiad a’i gwasanaeth o hyd yng Nghymru a Lloegr mewn sawl sefydliad a phwyllgor sy’n ymwneud â strategaethau iechyd, a chafodd ei hanrhydeddu gan nifer o brifysgolion amlwg am ei gwaith.  Yn wreiddiol o Lanrwst, mae cyfraniad Ruth Hussey i’r GIG yn arbennig, ac yn deillio o’i hawydd i weithio dros wella iechyd cymunedau cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig. 

Llŷr James

Mae llawer o gymwynasau Llŷr James, Caerfyrddin, yn digwydd yn dawel bach, heb dynnu sylw, ac mae hyn yn nodweddiadol o’r cyfrifydd siartredig hwn sy’n rhedeg ei fusnes ei hun ers yr 1980au.  O’r cychwyn, roedd ei gwmni’n darparu gwasanaeth trwyadl Gymraeg.  Dros y blynyddoedd, mae wedi pwyso i sicrhau bod yr awdurdodau’n cydnabod ffurflenni a dogfennau yn yr iaith, gan alluogi busnesau a sefydliadau i gynnal eu gweithgaredd hwythau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Bu’n hael ei gefnogaeth, gan noddi nifer o ddigwyddiadau a sefydliadau Cymraeg, ac mae’n Drysorydd ar Ysgol Farddol Caerfyrddin – ac mae yntau bellach yn cynganeddu hefyd.

John Milwyn Jarman

Anrhydeddir Y Barnwr John Milwyn Jarman, Penarth, am ei gyfraniad i fyd y gyfraith.  Yn wreiddiol o ardal Y Drenewydd, gwasanaethodd fel bargyfreithiwr o 1980 tan 2007.  Daeth yn drysorydd y gylchdaith ac yn bennaeth siambr adnabyddus, 9 Plas y Parc, Caerdydd.  Fe’i penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron yn 2000 ac yn Gwnsler y Frenhines yn 2001.  Mae’n farnwr ers 2007, ac mae’n un o farnwyr mwyaf blaenllaw Cymru.  Dysgodd y Gymraeg yn rhugl, ac mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg, gan gryfhau Cymreictod ein cyfraith a’n llysoedd a dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru.

Siôn Jobbins

Mae cyfraniad Siôn Jobbins, Aberystwyth, i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn enfawr.  Fe’i ganed yn Zambia, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn faban.  Ers ei gyfnod yn fyfriwr yn Aberystwyth, mae Siôn wedi ymgyrchu’n frwd dros y Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru.  Sefydlodd Ras yr Iaith yn 2014, ymgyrch sy’n mynd â’r iaith drwy gymunedau Cymru bob dwy flynedd, gan gasglu arian wrth deithio, ac ef yw sylfaenydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth.  Mae’n gadeirydd ‘Yes Cymru’ yn gyd-drefnydd y gorymdeithiau llwyddiannus dros annibyniaeth, a bu’n un o arweinwyr y cais i ennill parth dotCYMRU (.cymru) ar y we.  Yn awdur a golygydd toreithiog, fe’i hanrhydeddir am ei gyfraniad blaenllaw i ddyfodol Cymru.

Janet Mair Jones

Mae Janet Mair Jones, Pencader, wedi rhoi oes o wasanaeth yn lleol a chenedlaethol, ac mae’i drws bob amser yn agored os oes angen help, boed yn gacennau, darllen gyda phlant ysgol neu sicrhau bod y neuadd gymunedol yn daclus ar ôl ei defnyddio.  Mae’n gydlynydd ‘County Cars’, gwasanaeth lleol i unigolion oedrannus sy’n methu defnyddio bws neu yrru car.  Mae’n rhan allweddol o dîm arolygwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hi a’i gŵr, Eric, wedi gwasanaethu’r Brifwyl am flynyddoedd, gyda Janet yn gofalu am fynediad yr Orsedd i’r Pafiliwn.  Braf fydd ei gweld yn cyd-gerdded gyda’r Gorseddogion eraill yn Eisteddfod Ceredigion.

Esyllt Llwyd

Meddyg teulu yw Dr Esyllt Llwyd, Llanrug, Caernarfon, sy’n arwain dwy feddygfa leol gyda thua 6,000 o gleifion. Mae hefyd yn cynghori myfyrwyr lleol sy’n ystyried astudio meddygaeth, gan eu mentora’n ofalus, a chynnig cyfleoedd iddyn nhw weithio yn y feddygfa i gael blasu’r gwaith.  Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cymru Marie Curie, a chefnogodd yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor.  Mae’n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Brynrefail, ac yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng yr ysgol a’r gymuned drwy drefnu i ddisgyblion y chweched dosbarth ymweld â chleifion unig a’r rheini â chyflyrau dwys yn eu cartrefi i gael sgwrs.

Ann Bowen Morgan

Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Ann Bowen Morgan yn byw yn Llanbedr Pont Steffan ers bron i ddegawd, ac mae’n rhan ganolog o fywyd y dref.  Mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd arni.  Mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio’n ddygn er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o’r gymuned leol.  Bu’n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Gorymdaith Gŵyl Ddewi yn y dref, ac mae’n ymroddgar i brosiectau fel y Pwyllgor Croesawu Ffoaduriaid sy’n cefnogi teuluoedd o Syria sy’n byw yn lleol.

Begotxu Olaizola

Begotxu Olaizola, o Zarautz, Gwlad y Basg, yn sicr yw’r Fasges fwyaf adnabyddus yng Nghymru, a thros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, cyfrannodd yn helaeth at feithrin a hyrwyddo’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg, er budd ein hiaith a’n diwylliant.  Cyflawnodd hyn fel sylwebydd a dehonglydd, fel trefnydd teithiau i unigolion a dirprwyaethau, fel tywysydd ac fel cyfieithydd.  Mae hi hefyd yn ymgyrchydd ymroddedig ac effeithiol dros hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ym mhob man.  Daeth yn gyfarwydd i gylchoedd ehangach wrth gyfrannu i raglenni Cymraeg dros y blynyddoedd, gan sylwebu ar ddigwyddiadau yng Ngwlad y Basg a Sbaen yn gyffredinol.

Glyn Powell

Mae Glyn Powell, Pontsenni, yn ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl.  Treuliodd ei yrfa ym myd addysg, ac ymgyrchodd dros addysg Gymraeg mewn ardal a oedd yn dalcen caled, gan lwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned yn ei chyfanrwydd ac adennill parch tuag at yr iaithyn lleol.  Cyfrannodd yn helaeth i fyd amaeth, gan gynnwys fel arweinydd yr ymgyrch dros Epynt yn ystod cyfnod heriol clwy’r traed a’r genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad i’w foddi.  Mae’i gyfraniad yn lleol a chenedlaethol wedi bod yn arbennig am flynyddoedd lawer, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

Carys Stevens

Mae cyfraniad Carys Stevens, Aberaeron, i ofal diwedd-oes yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn enfawr.  Mae’n argyhoeddedig fod gan bawb yr hawl i fyw a marw gydag urddas.  Sefydlodd gyswllt â phob practis meddygol lleol, gan sicrhau bod tîm o staff, yn wirfoddolwyr a staff cyflogedig, wrth law i gefnogi cleifion a’u teuluoedd.  Sefydlodd wasanaeth Hosbis yn y Cartref i fynd i’r afael â heriau darparu gofal lliniarol diwedd-oes i drigolion mewn cymunedau gwledig lleol.  Rhydd bwyslais ar addysgu am farw a byw, gan annog siarad yn agored a meithrin agwedd realistig a dyngarol tuag at ddiwedd oes.

John Thomas

Anrhydeddir John Thomas, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yng Nghwm Tawe am ei gyfraniad i’r Gymraeg drwy’r system gyfiawnder.  Bu’n Farnwr Uchel Lys ac yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru cyn ei ddyrchafu i’r Llys Apêl, ac yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.  Dyfarnodd mewn nifer o achosion yn ymwneud â chyfansoddiad Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd Senedd Cymru fel llais democrataidd pobl Cymru.  Drwy’i waith yn cadeirio’r Comisiwn am Gyfiawnder yng Nghymru, gwnaeth argymhellion pellgyrhaeddol er lles pobl ein gwlad, gan gynnwys datganoli cyfrifoldeb dros faes cyfiawnder i Senedd Cymru, ac argymhellion cadarn am y Gymraeg ym maes y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder.

Clive Wolfendale

Yn gyn-Brif Gwnstabl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos, yn brif weithredwr CAIS, yr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.  Dysgodd y Gymraeg gyda’r heddlu, ac mae wedi parhau i ddysgu a defnyddio’r iaith, gan gefnogi a hyrwyddo pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddibyniaeth, salwch meddwl a sgil-effeithiau trawma.  Mae’n rhan allweddol o nifer o gyrff yn y maes hwn ar draws Cymru, ac yn drysorydd Nant Gwrtheyrn, ar ôl iddo ef ei hun brofi gwerth y Ganolfan wrth ddysgu Cymraeg.  Mae’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae’n gyn-arweinydd Band Tref Llandudno ac yn arweinydd Band Swing Llandudno.