Anrhydeddau 2005

Derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Eryri, Bangor, 2005


I’w hurddo fore Llun Awst 1 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor
Winni Jones BA, Dinas Cross, Trefdraeth, Sir Benfro
Manon Elen Roberts, BA, Porthaethwy, Ynys Môn
Delian Haf Williams, BA, Porthaethwy, Ynys Môn

Urdd cerddor
Claire Louise Burgess BA, Bethesda, Gwynedd
Gareth Wyn Davies BMus, Bethesda, Gwynedd.

Urddau er Anrhydedd. Bore Llun Awst 1 Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch 2004:
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Lois Arnold, Y Fenni – Dysgwraig y Flwyddyn
Carwyn John, Bethel, Caernarfon – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
Martin Lloyd, Casllwchwr, Abertawe – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Y Prifardd Jason Walford Davies, Bangor – Bardd y Goron

Y Prif Lenor Annes Glyn, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ryddiaith

Y Prifardd Huw Meirion Edwards – Enillydd y Gadair

I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod:
Eirlys Dwyryd, Rhuthun (Eirlys Dwyryd)
Gwawr Owen, Caerdydd (Gwawr Arthen)
Beti Puw Richards, Y Bala (Bethan Rhys)

I’w hurddo fore Gwener Awst 5:
Urdd Ofydd er Anrhydedd Gwisg werdd
J. Mansel Charles, Llanegwad, Caerfyrddin: Cyn athro Cymraeg Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Y mae newydd ymddeol ar ôl gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gâr am dros 20 mlynedd, a bu’n ymwneud â Mudiad Ffermwyr Ifanc y sir am 40 mlynedd. Cyfrannodd yn sylweddol i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.

Ann Margaret Davies, Llangybi: Prifathrawes egnïol ac ymroddedig Ysgol Gymunedol Llangybi. Hybodd y Gymraeg a’r diwylliant yn yr ardal gan adael ei hôl yn ddwfn yno. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweithgaredd yr Urdd yn y fro am dros 30 mlynedd a bu’n warden Eglwys Sant Cybi 2000-2002.

Eulanwy Davies, Llangollen: Cyn bennaeth Adran Cerdd y Merched Y Drenewydd a phennaeth Adran Gerdd Ysgol Gyfun Dinas Brân Llangollen. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweinyddiaeth Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen lle bu’n Drefnydd Cerdd, yn aelod o’r Bwrdd Sefydlog ac yna’n Gyfarwyddwr Cerdd.

Mildred Emily Hughes, Llangefni, Ynys Môn: Bu’n aelod o staff y Llys Sirol yn Llangefni am 30 mlynedd a hi yw pennaeth uned yr iaith Gymraeg yno. Gwelodd lawer o newidiadau o ran tynged y Gymraeg yn y llys a bu iddi le anrhydeddus yn y newidiadau a gafodd eu gwneud yn dilyn y statws deilwng a roddwyd i’r iaith yn y llysoedd.

Janet James, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin: Treuliodd ei hoes ym mro ei mebyd. Bu’n bennaeth yr Adran Gymraeg ac yn ddirprwy Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Hendy-Gwyn ar Daf. Bu’n weithgar gyda’r Urdd a chafodd ei disgyblion lwyddiant cyson yn Eisteddfodau’r Urdd. Bu’n aelod o Gapel Esgairnant drwy ei hoes ac yn organyddes yno. Hi oedd y ferch gyntaf i’w hethol yn flaenor yno. Mae’n gyn-lywydd Henaduriaeth Gogledd Myrddin.

Aled Jones, Barnes, Llundain: Daw o Landegfan, Ynys Môn. Daeth i enwogrwydd pan yn blentyn a’i lais anghyffredin yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae’n adnabyddus hefyd fel cyflwynydd teledu. Roedd ei gefnogwyr yn hapus iawn i’w weld yn dychwelyd i’r llwyfan cerdd.

Dewi Jones, Penygroes, Arfon: Naturiaethwr a gyflwynodd gannoedd o blant ac oedolion i fyd natur yn Nyffryn Nantlle. Cyfoethogodd gylchgronau natur gyda’i erthyglau am blanhigion, naturiaethwyr a byd botaneg. Mae’n un o’r Cymry prin sydd wedi ysgrifennu llyfrau am y pwnc. Gwasanaethodd y Gymdeithas Hanes Lleol ers blynyddoedd a bu’n cynnal dosbarthiadau am fyd natur.

Y Parchedig J. Eric Jones, Aberdâr: Yn enedigol o bentref Cribyn ger Llanbed, ymgartrefodd yn Aberdâr ar ôl iddo gael ei sefydlu yn weinidog ar gapel Undodaidd Highland Place a’r Hen Dŷ Cwrdd yn 1962. Mae’n Gadeirydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac ymgyrchodd ar hyd ei oes dros sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Am dros 20 mlynedd bu’n Gadeirydd Pwyllgor Sir Morgannwg Ganol o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg a bu’n Gadeirydd Cenedlaethol y mudiad hwnnw hefyd. Bu’n Llywydd ei enwad ym Mhrydain yn 1989.

Hefin Jones, Llanrug: Brodor o Ddeiniolen, Arfon. Wrth ei alwedigaeth mae’n nyrs mewn ysbyty. Ef yw prif weinyddwr ward Beuno (ward ddamweiniau) yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n aelod o Fand Deiniolen, bu’n hyfforddwr Seindorf Ieuenctid Deiniolen lle bu’n hyfforddi degau o ieuenctid, ac erbyn hyn ef yw Arweinydd y Seindorf. Mae’n Eisteddfodwr brwd ac ef yw Llywydd ac Ysgrifennydd Eisteddfod Gwaungynfi ers 1991.

Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu: Gweinidog gyda’r Bedyddwyr am chwarter canrif yn ardal y Preselau. Bu’n gefnogol i achosion yn ymwneud â’r Gymraeg – Urdd Gobaith Cymru. Fforddolion Dyfed, Cymanfa Ganu cylch godre’r Preselau ac ysgrifennydd gweithgar Cwrdd adran Gogledd Penfro. Beirniad adrodd yn Eisteddfodau’r Urdd ac arweinydd eisteddfodau yn y sir. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymry Ariannin a bu’n Gadeirydd y Gymdeithas ddwy waith.

Eluned Mair Porter, Llangadfan: Athrawes wrth ei galwedigaeth. Bu’n arolygwr Pabell Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Rhoddodd wasanaeth nodedig i Gymdeithas Edward Llwyd ac fel cynrychiolydd Cangen Plaid Cymru Gogledd Maldwyn ar y Cyngor Cenedlaethol.

Alwena Morfudd Power, Casnewydd: Athrawes a fu’n gefn i ddisgyblion a fynnai addysg yn y Gymraeg. Bu’n dysgu yn Ysgolion Cymraeg Casnewydd a Chwmbran ac Ysgol Uwchradd Gwynlliw. Bu’n gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant Eisteddfodau Cenedlaethol Casnewydd 1988 a 2004.

Gladys Pritchard, Caergybi: Yn enedigol o Gaergybi, Ynys Môn fe wasanaethodd ei hardal yn helaeth. Bu’n Swyddog Gweinyddol Ysgol Uwchradd Caergybi am chwarter canrif. Y mae rhestr ei gwaith gwirfoddol yn helaeth – gan gynnwys Eisteddfodau Cenedlaethol Môn, Gorsedd Beirdd Môn, Cymdeithas Brodwaith Cymru (Cadeirydd Cangen Môn ac Arfon) a Merched y Wawr. Gwasanaethodd ardal Caergybi ac Ynys Môn yn ddiarbed.

Arwyn Roberts, Rhosgadfan: Ffotograffydd Yr Herald, Caernarfon. Bu’n gweithio gyda’r Herald am 30 o flynyddoedd. Dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn Eisteddfod Caernarfon 1979 ac oddi ar hynny bu’n gweithio yn Eisteddfodau’r De a’r Gogledd – yr unig ffotograffydd sydd yng nghlwm â phapurau lleol i wneud hyn. Y mae’n wyneb cyfarwydd mewn Eisteddfodau bach a mawr ynghyd â Gwyliau Cenedlaethol eraill. Ymroes ei allu i gofnodi amryweddau ar ddiwylliant y genedl.

Richard Tudor, Pwllheli: Yn frodor o Bwllheli y mae traddodiad morwrol Pen Llŷn yn llifo’n gryf yn ei waed. Pencampwr llywio cychod hwylio. Bu gan ei deulu gyfres o wahanol gychod, a bu ers yn blentyn yn eu hwylio ym Mae Ceredigion a throsodd i Iwerddon. Ac yntau ond yn 17 oed cychwynnodd fusnes gwneud hwyliau ym Mhwllheli ac wedi 20 mlynedd o brofiad cafodd ei ddewis yn 1992 i fod yn gapten “British Steel II” mewn ras o amgylch y byd – mordaith arwrol a welodd wynebu gwyntoedd dychrynllyd Cefnfor y De gan lanio yn ôl yn Southampton yn drydydd yn y ras. Fe’i dewiswyd eilwaith i hwylio’r “Nuclear Electric” yn ei ail ras 1996-7 o gwmpas y byd gan ddychwelyd yn llwyddiannus.

Jeannie Wyn Williams, Seland Newydd: Yn enedigol o Minsterley, Swydd Salop, addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Llangollen a Choleg Prifysgol Bangor lle bu’n astudio Mathemateg. Ymfudodd i Seland Newydd yn 1966 ac mae’n byw yn Rotorua. Mae’n un o’r aelodau a sefydlodd Gymanfa Ganu Gymraeg Seland Newydd a hi yw Ysgrifennydd y Gymanfa ers 10 mlynedd. Hi yw Swyddog Cyswllt holl Gymdeithasau Cymraeg Seland Newydd. Mae’n ymwelydd cyson â’r Eisteddfod Genedlaethol.

Penri Williams, Caerdydd: Yn enedigol o Borthmadog, ac yntau’n naw oed symudodd y teulu i Lantrisant ac yna i Gaerdydd. Wrth ei alwedigaeth bu’n beiriannydd trydan i’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan. Ar ôl ymddeol y mae bellach yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth i Fenter Iaith Morgannwg a Gwent. Bu’n Gadeirydd a Thrysorydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Bu’n aelod o Gôr Godre’r Garth ac yn ysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd. Bu’n aelod o Fwrdd Golygyddol y papur bro “Tafod Elai” ac ers 18 mlynedd ef yw’r Golygydd. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Taf ac Elai.

Y diweddar Ronald Wyn Williams, Llanllechid (Ron Hogia Llandegai): Fe’i ganed yn Nyffryn Ogwen ac yno y bu’n trigo bron gydol ei oes. Addysgwyd ef yn ysgolion Bethesda cyn dilyn cyfnod o brentisiaeth a dod yn saer coed medrus. Un o’i brif ddiddordebau oedd canu, ac yn ei arddegau cafodd gyfle i feithrin ei ddawn yng Nghapel Mawr Bethesda mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan y Parchedig Ieuan S. Jones. Bu’n aelod o gorau lleol gan gynnwys blynyddoedd o wasanaeth i Gôr Meibion Y Penrhyn. Ei gyfraniad mawr, fodd bynnag oedd i ganu ysgafn Cymraeg, gan iddo arloesi yn y byd hwnnw drwy ffurfio Criw Sgiffl Llandegai gyda nifer o’i gyfeillion yn 1957. Fel prif leisydd Hogia Llandegai daeth ei lais unigryw a’i wyneb yn adnabyddus drwy Gymru ben baladr – a hynny dros ran helaeth o bum degawd.

Urdd Derwydd er Anrhydedd (Gwisg wen)
M Paul Bryant-Quinn, Aberystwyth: Ganed yn Ruislip, Middlesex. Astudiodd athroniaeth am ddwy flynedd cyn symud i’r Eidal a chwblhau gradd ym Mhrifysgol Rhufain yn 1982. Tra oedd yno, dechreuodd ymddiddori yn y Gymraeg a’i llenyddiaeth. Dyfarnwyd iddo radd Dosbarth Cyntaf ym Mangor yn 1989. Penodwyd ef yn 1996 yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Ymhlith ei waith ysgolheigaidd gwnaeth astudiaeth destunol a beirniadol o waith Ieuan Brydydd Hir ac ar hyn o bryd y mae’n paratoi astudiaeth debyg o waith Sion Cent.

Eleri Carrog, Caernarfon: Drwy ei galwedigaeth a’i hymroddiad hi y sefydlwyd Cefn ym mis Gorffennaf 1985. Rhoed yn helaeth o’i hamser a’i harian i ddatblygu gwaith y mudiad yng Nghymru gan ei gysylltu â Mudiad Hawliau Dinesig Cydwladol yn effeithiol ac y mae dyled llu o siaradwyr Cymraeg iddi mewn cyflogaeth, gwasanaeth cymdeithasol, achosion cyfreithiol, ieithyddol, addysg ac ymlaen yn fawr. Ymhle bynnag y bygythir y Gymraeg bydd hi yno. Iddi hi, er enghraifft y mae’r diolch pennaf am argyhoeddi’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fod anffafriaeth hiliol ar saith iaith mor wrthun ag anffafriaeth ar sail lliw croen.

Dr Dyfed Elis-Gruffydd, Sir Benfro: Daearyddwr a daearegwr. Bu’n ddarlithydd, tiwtor, adolygydd, ysgrifwr, ymchwilydd, cyfarwyddwr cyhoeddi, cyfieithydd ac arholwr allanol. Bu’n gyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer am 12 mlynedd; yn ddarlithydd rhan-amser mewn daearyddiaeth yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu’n gwydrwr ac arweinydd teithiau Cymdeithas Edward Llwyd, yn crwydro tirweddau folcanig a rhewlifol mewn gwledydd tramor, megis Gwlad yr Iâ, yr Auvergne a Le Isole Eloie ac ati. Sgrifennodd lawr. Cyhoeddodd yn helaeth lyfrau, llyfrynnau, ysgrifau ac erthyglau o’i waith daearegol geomorffelegol ac amgylcheddol ac am faterion diwylliannol Cymru. Polymath yn wir.

Dr Jerry Hunter, Penygroes, Caernarfon: Cymro mabwysiedig yw’r Americanwr. Yn frodor o Cincinnatti a ddysgodd Gymraeg ar gwrs Wlpan ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Dychwelodd i’w famwlad lle’e enillodd ddoethuriaeth o Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvad cyn ei throi drachefn am Gymru ar ôl ei benodi’n ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Cymru Caerdydd. Y mae bellach yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru Bangor. Bu’n olygydd ar gylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin ac enillodd ei gyhoeddiad Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (2003) deitl Llyfr y Flwyddyn 1004.

Eirlys Britton a Cliff Jones, Caerdydd: Ganed Eirlys Britton yng Nghaerdydd a Cliff Jones yn Y Bala. Ffurfiwyd o dan eu harweiniad medrus un o dimau Dawnsio Gwerin mwyaf llwyddiannus ac arloesol Cymru, Dawnswyr Nantgarw. Mae’r dawnswyr wedi cipio’r brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol naw o weithiau ers 9186 ynghyd â gwobrau lu i glocswyr unigol a grwpiau o ddawnswyr. Daeth Dawnswyr Nantgarw i’r brig yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1989. Bu’r grŵp yn cynrychioli Cymru ar deithiau mewn nifer o wledydd megis China a Hwngari. Bu’r grŵp yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon droeon ac enillodd un o’r prif wobrau yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin y byd yn Mallorca yn 2003. Trwy ymchwilio’n ddiwyd i gefndir dawnsfeydd a gwisgoedd traddodiadol mae Eirlys a Cliff wedi gwneud cyfraniad aruthrol a nodedig i hyrwyddo dawnsio gwerin nid yn unig yng Nghymru ond trwy’r byd benbaladr.

Dorothy Jones, Llangwm: Yn enedigol o Drawsfynydd bu’n byw yn Llangwm, Uwchaled ers blynyddoedd. Athrawes wrth ei galwedigaeth bu ei gweithgarwch diwylliannol yn lleol ac yn genedlaethol yn eang. Bu’n hyfforddi partïon llefaru ac yn feirniaid llefaru a llên mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, cylch, sir a chenedlaethol yr Urdd, yr Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfodau Ffermwyr Ieuanc a’r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd llawer o gerddi ar gyfer plant ynghyd â cherddi ar gyfer caneuon y diweddar Gilmor Griffiths a bu’n awdur sgriptiau sioeau cerdd Ysgol Glan Clwyd megis William Morgan, Jac Glan y Gors, H M Stanley a chyfieithu geiriau caneuon Joseff a’i Gôt Amryliw i’w perfformio yn yr ysgol. Gwraig ddawnus a’i chyfraniad yn lleol a chenedlaethol yn sylweddol iawn.

Yr Athro Emrys Jones, Berkhamstead, Sir Buckingham:Ganed ef yn Aberaman, Aberdâr. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Llundain. Wedi graddio bu’n gweithio i Urdd yr Heddychwyr yng Nghaerdydd. Cafodd yrfa academaidd nodedig yn cynnwys swyddi ym mhrifysgolion Llundain a Belfast cyn ei benodi yn Athro Daearyddiaeth yn y London School of Economics o 1961 hyd 1984. Derbyniodd amryw o raddau am ei gyfraniad arbennig i ddaearyddiaeth a’r byd academaidd. Bu’n awdur nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys yn arbennig ei astudiaeth o gymuned y Cymry yn Utica, Efrog Newydd a’r gyfrol diweddar “Y Cymry yn Llundain 1500-2000” fel golygydd a phrif gyfrannwr. Bu’n aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion oddi ar 1957, yn Gadeirydd ei Chyngor 1984-89 ac yn Llywydd y Gymdeithas on 1989-2001 gan arolygu’r dathliad yn 2001. 250 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymry yn Llundain ar hyd y blynyddoedd. Cyflwynwyd Medal y Cymrodorion iddo yn 2001 i gydnabod ei gyfraniad nodedig i ysgolheictod ac i Gymru.

Geraint R Jones, Bontnewydd: Rhoddodd oes o wasanaeth i Lywodraeth Leol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor cyn iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi cyfnod byr gyda chwmni o gyfriethwyr daeth i weithio i Gyngor Sir Gwynedd lle bu’n gyfreithiwr ac yna’n Ysgrifennydd y Sir. Ar ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 penodwyd ef yn Brif Weithredwr. Gweithiodd yn galed i sefydlu’r sir newydd a’i pholisi iaith. Bu’n Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd. Gwnaeth waith sylweddol yng nghyd-destun y newidiadau diweddar i’r Eisteddfod. Hefyd bu’n Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yng Nghaernarfon 1979. Mae’n lên garwr ac yn cefnogi’r ‘pethe’ yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’n flaengar yn ei gapel lleol yn aelod o’r clwb llenyddol ac yn cefnogi pob digwyddiad diwylliannol.

Glyn T Jones, Aberystwyth: Gŵr a roes oes o wasanaeth i nifer o’n sefydliadau cenedlaethol gan ddal amryw swyddi yn eu pwyllgorau – yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant. Bu’n amlwg hefyd ar lwyfannau’r prif wyliau fel arweinydd a beirniaid dawnsio gwerin. Mae’n flaenor ym Mlaenplwyf ac yn Drysorydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi ers 1998. Bu’n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Bugeiliol. Y mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hen reilffyrdd ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Datblygu Rheilffyrdd Canolbarth Cymru. Y mae’n ysgrifennydd Apêl Sganiwr a Chancer Ysbyty Bronglais a gwelodd godi dros filiwn o bunnoedd i’r achos. Gŵr eang ei ddiwylliant a’i ddiddordebau a’i weithgarwch yn eang yn ei filltir sgwâr yn ogystal â chenedlaethol.

Delyth Mai Nicholas, Pontarddulais: Cystadleuydd adrodd / llefaru mewn eisteddfodau bac a mawr ers yn dair oed gan ennill llu o wobrwyon yn cynnwys chwe gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu am dros 20 mlynedd. Bu’n athrawes ddrama a bellach mae’n ddarlithydd yn Adran Theatr Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. O ganlyniad bu’b hyfforddi nifer fawr o blant a phobl ifanc yn y maes actio. Bellach y mae wedi cychwyn Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi i blant a phobl ifanc rhwng 9 a 18 oed. Bu’n arweinydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn aelod o Is-Bwyllgor Llefaru amryw o Eisteddfodau y De a bu hefyd yn aelod o Is-Bwyllgorau Eisteddfodau’r Urdd. Bellach mae’n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Eisteddfod a’r Pethe wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed.

Meurig Owen, Llundain: Brodor o Lanrug, Caernarfon. Gadawodd Ysgol Brynrefail yn 1937 pan aeth i weithio mewn swyddfa yswiriant yn Llundain. Ac eithrio cyfnod y rhyfel bu yno nes iddo ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Blaenor yn eglwys Lewisham er 1953 ac ysgrifennydd er 1961. Cymer ddiddordeb mewn hanes lleol ac yn arbennig hanes y Cymry a’u Heglwysi yn Llundain, ynghyd ? hanes rhai o chwareli llechi Gwynedd. Dengys ei gyfrolau sylweddol Tros y Bont – hanes Eglwysi Falmouth Road, Deptford a Parsons Hill Woolwich, ac Ymofyn am yr hen Lwybrau – hanes saith o Eglwysi Presbyteraidd Cymraeg Llundain – ôl casglu helaeth a llafur manwl iawn. Y maent yn gyfnodolion amhrisiadwy o fywyd ysbrydol a chrefyddol y Cymry alltud yn Llundain. Pwysig hefyd yw’r darlithoedd a gyhoeddwyd ganddo James Hughes a’i Deulu ac Emynwyr Henaduriaeth Llundain. Y mae ei waith hi gyd yn dwyn nodau ymchwilydd manwl a diarbed, Dyma lafur cariad y Cymro alltud nodedig hwn.

Emyr Owen Parri, Talwrn, Ynys Môn: Brodor o Gaernarfon a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Cyfreithiwr uchel iawn ei barch, gan baratoi achosion llys yn drylwyr a dawn areithio arbennig ganddo, Ymddangosodd yn rheolaidd yn y Llysoedd Ynadon a bu’n ymdrin a llu o achosion mawr a blaenllaw yn Llys y Goron a’r Uchel Lys. Fe’i penodwyd yn Gofiadur a bu’n gweithredu fel Cofiadur yn Llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr 1980au fe’i penodwyd yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth cyn iddo gael ei benodi yn farnwr Rhanbarth llawn amser yn 1992. Bu yn y swydd honno am 10 mlynedd. Drwy gydol ei yrfa bu’n gefnogol ac yn flaengar iawn ynglŷn â hyrwyddo’r Gymraeg. Bu’n gweithredu ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol yn ymwneud â defnydd o’r iaith yn y llysoedd ac yn ddiweddar bu’n paratoi cyrsiau undydd ar y pwnc. Cyfrannodd yn helaeth i faterion diwylliannol yn ei filltir sgwâr – yn flaenllaw gyda gweithgareddau Theatr Fach Llangefni, aelod o barti Cerdd Dant Haf Morris, a bu’n chwarae criced i Glwb Llangefni – heblaw hybu achosion dyngarol ac elusennol.

Gwennant Pyrs Roberts, Bangor: Brodor o bentref Llanuwchllyn a raddiodd o Adran Cerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel athrawes beripatetig ymsefydlodd yn bennaeth adran cerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Cyfrannodd hefyd ar lwyfan cenedlaethol a hynny’n bennaf fel sylfaenydd ac arweinydd Parti Seiriol a droes yn y man y Gôr Seiriol. Ers ei sefydlu yn 1991 gosododd y côr marched hwn safon i’w efelychu ar gyfer canu corawl i ferched yng Nghymru a rhagorodd ar ganu cerdd dant gyda gosodiadau cerddorol a deallus ei harweinydd. Enillodd droeon ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant a dyma’r unig gôr marched Cymreig i’w wahodd i gymryd rhan fis Tachwedd y llynedd yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Yn yr un flwyddyn cynhaliodd y côr gyngerdd mawreddog yn Neuadd Pritchard Jones, Prifysgol Cymru Bangor pryd y perfformiwyd am y tro cyntaf gwaith comisiwn ‘Cantus Triquetrus’ gan y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins. Er 1993 cyhoeddodd y côr bedwar cryno ddisg sy’n cynnwys detholiad o’u repertoire amrywiol ac uchelgeisiol. Arweinydd crefftus ac ysbrydoledig.

David Richard Williams, Florida: Ganed yn Llanelwy ac addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn, Ysgol Eirias Bae Colwyn a Phrifysgolion Aberystwyth, Gogledd Carolina a Florida, America. Graddiodd mewn economeg. Bu mewn amryw o swyddi ym Mhrifysgol Florida a Gogledd Carolina gan arbenigo mewn dysgu ac ymchwil yn yr adrannau Economeg. Cadwodd gysylltiad agos â Chymru. Llywydd cyntaf a sefydlwr (gyda’r Dr Arturo Roberts) y Siambr Fasnach Cymru yng Ngogledd America. Ers 1989 ef yw Llywydd Corff Ymgynghorol Economaidd Florida ac athro cynorthwyol mewn Economeg Prifysgol Miami, Florida. Bu’n hael ei nawdd i’r ysgolion lle derbyniodd ei addysg gynnar.

Anrhydeddau 2006


Rhestr o aelodau newydd a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe 2006

 

I’w hurddo fore Llun 7 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor (Gwisg Las)

  • Ann Alderton Ph.D., Suffolk
  • Craig Howard B.A., Abertawe
  • Rachel Anwen Jones B.A., Abertawe
  • Rhian Louise Morrissi B.A., Aberdâr
  • Rhian Parry Ph.D., Dolgellau
  • Rhian Powell B.A., Aberdâr
  • Eryl Wyn Rowlands Ph.D., Penarth
  • Daniel Rhys Tiplady B.A., Abertawe
  • Nesta Mary Tiplady B.A., Abertawe
  • Rhinedd Mair Williams B.A., Llanddarog

    Urdd Cerddor (Gwisg Las)

  • Edward-Rhys Bate Mus.Bac., Caerdydd
  • Nia Sian Davies B.A., Abertawe Meinir Richards Mus.Bac., Llanddarog

    ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD 2006
    Llwyddodd yr ymgeiswyr a ganlyn yn arholiadau Gorsedd y Beirdd eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun, 7 Awst 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a’r Cylch:
    Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

  • Cecil Vernon Jones (Vernon o Garmel), Yr Hôb, Wrecsam
  • Siôn R Williams (Siôn o Ewrop), Llanrug, Caernarfon
    Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
  • Olwen Rhiannon Allender, Casnewydd
  • Beth Davies, Llandysul
  • Gillian Taylor Walker, Sarn, Pwllheli

    Enillwyr Llwyfan – Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
    Urdd Ofydd er Anrhydedd

  • Bethan Lloyd Dobson,Pantglas, Caernarfon – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
  • Aeron Gwyn Jones,Caergeiliog – Enillydd Gwobr David Ellis-Y Rhuban Glas
  • Sue Massey, Penmaenmawr – Dysgwraig y Flwyddyn
  • Gregory Vearey-Roberts, Bow-Street,Ceredigion – Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
  • Richard Allen, Casllwchwr – Enillydd Gwobr David Ellis- Y Rhuban Glas Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2003
  • Utganwyr yr Orsedd: Dewi Griffiths, Bethel, Caernarfon a Paul Hughes, Y Felinheli

    Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Peter Finnemore, Pontiets,Llanelli – Enillydd Medal Aur Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
  • Richard Morris Jones,Caernarfon – Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005
  • Manon Steffan Ros, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005

    I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod

  • Lallie Griffiths (Lal Carmel), Caernarfon
  • Eiri Jenkins (Eiri) Llanelli
  • Myrddin John (Myrddin Pennant), Rhydaman
  • Mair C. Jones (Rhiain Machreth), Dolgellau
  • Grês Pritchard (Llinos y Llynnau), Llanerchymedd
  • Enid Rhian Williams (Rhian o Lŷn), Chwilog
  • Gwyn Parry Williams (Gwyn Treferthyr), Chwilog
  • Medwyn Williams (Medwyn y Garddwr), Llanfairpwll

    I’w hurddo fore Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch
    Urdd Ofydd er Anrhydedd – gyda theyrnged yr Orsedd iddynt:

  • Bu Phyllis Bell, Felindre, ar un amser yn gweithio yn y felin ddur a safai ar y llecyn sy’n safle i’r Eisteddfod eleni. Bellach hi yw ysgrifenyddes frwdfrydig apêl leol yr Eisteddfod honno. Mae hi ynghlwm â’r ysgol leol ymhob math o ffyrdd o fod yn ofalydd i fod yn Llywodraethwr. Bu’n arwain Eisteddfod Gadeiriol Felindre er 1970, bu’n gofalu am Aelwyd yr Urdd, yn ohebydd y Papur Bro, ysgrifennydd cyhoeddiadau ei heglwys, yn ddiacon ac athrawes yr Ysgol Sul. Bydd yn trefnu ymweliadau â chyngherddau a dramâu, ac yn gasglydd ardderchog ar gyfer elusennau. Dyma un o berlau diwylliedig bro Felindre.
  • Graddiodd Brenig Davies, Pontiets, mewn hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Chymdeithaseg gwasanaethodd ym maes Iechyd Meddwl yn Ne-Orllewin Cymru am flynyddoedd lawer. Y mae yn weinidog mewn eglwysi yn Fforest Fach a Gorseinon. Dygodd werthoedd Cristnogol i’w waith bob dydd, gan ddileu rhagfarn ac anwybodaeth am afiechyd meddwl. Ymgyrchodd yn frwd o blaid gwell gwasanaeth i gleifion. Ond fe’i anrhydeddir hefyd am ei gadernid o blaid iaith a diwylliant a hanes ei Genedl.
  • Arlunydd dawnus yw Eifion Davies, Pontarddulais, yn ŵr diymhongar a didwyll. Y tu allan i’w swydd fel athro celf bu ar hyd y blynyddoedd yn wasanaethgar yn ei fro, gan gynnwys ei gyfraniad disglair ar Gyngor fel aelod a Chadeirydd. Y mae’n aelod blaenllaw ac ymroddgar yn eglwys y Gopa, yn gwasanaethu yn eglwysi’r cylch ac yng ngweinyddiad ei enwad. Y mae’n gefn i lu o weithgareddau cymdeithasol ei ardal gan gynnwys gwaith gyda’r ieuenctid. Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolbwynt i’w holl brysurdeb, a’i ddylanwad yn fendith i’w fro.
  • Cyfrannodd Terry Davies, Gorslas, yn helaeth iawn i’w filltir sgwâr ar hyd ei oes. Bu’n löwr ac yn undebwr blaenllaw am bron ddeng mlynedd ar hugain. Bu’n dal swyddi cyfrifol o fewn i’r Undeb, a’i ddylanwad yn allweddol wrth ofalu am fuddiannau cyn-löwyr a gweddwon. Ni ellid rhestru ei gyfraniadau i’w gymuned, ei ffyddlondeb i’w eglwys, sylfaenydd Cymdeithas y Dynion, a’r Gymdeithas Hanes, ar y Cyngor Sir, yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd, Trysorydd y papur bro a Chadeirydd Mentrau Iaith Myrddin. Dyma wron o gymwynaswr.
  • Y mae John Meurig Edwards, Aberhonddu, yn hanu o Bontrhydygroes, Ceredigion, ac yn raddedig yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Ym Mhowys fe fraenarodd y tir ar gyfer twf yr iaith yn ardal Aberhonddu, yn Brifathro cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg yno. O ganlyniad i lwyddiant aruthrol yr ysgol honno sefydlwyd Ysgol y Bannau. Ar wahân i’w ymroddiad diflino dros bob gweithgarwch Cymraeg yn ei ardal, bu’n gefn i’r diwylliant eisteddfodol. Enillodd yn gyson mewn cystadlaethau llenyddol yn y Brifwyl, a rhoes wasanaeth clodwiw fel beirniad llên ac adrodd mewn amryw o eisteddfodau lleol.
  • Y mae Grey Evans, Llanarmon, Pwllheli, yn adnabyddus yn genedlaethol, ond hefyd yn sylweddol iawn ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Fe’i gwreiddiwyd mewn diwylliant yn Llan Ffestiniog. Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor, a chael ei dderbyn yn un o’r cyntaf i ymuno â’r cwmni o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts. Y mae ganddo ddawn eithriadol i ddehongli a chyflwyno cymeriad, a gwnaeth gymwynas â’r Genedl drwy rannu ei grefft a’i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol.
  • Bu Sally Evans, Pontarddulais, drwy ei hoes yn deyrngar i fyd yr eisteddfod, yn lleol a chenedlaethol. Ers dros hanner canrif bu’n mynychu’r Brifwyl, gan wasanaethu fel stiward yn ystod yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf. Bydd yn mynychu eisteddfodau lleol yn gyson, ac yn gefn i Eisteddfod Flynyddol Felindre, cartre’r Genedlaethol eleni. Chwyddodd gyllid llu o achosion da o fewn i’w bro drwy ei dawn a’i hymdrechion di-baid. Y mae yn arbennig yn ei ffyddlondeb i oedfa a chyfarfodydd cymdeithasau yn ei bro, yn garedig heb ei hail yn ymweld â chleifion, ac yn un o gymwynaswyr ei hardal.
  • Y mae Wayne Griffiths, Drefach, Llanelli, yn feddyg teulu ym Mhen-y-groes er y saithdegau, yn weithiwr egnïol dros y Gymraeg mewn llawer maes. Mae ar Bwyllgor Menter Cwm Gwendraeth er ei sefydlu,ac yn Gadeirydd er 1994. Bu’n Gadeirydd Cylchgrawn Golwg, a’i weledigaeth ef oedd WCW. Mae’n arlunydd a dylunydd dawnus, yn Gadeirydd Cwtsh Glöyn Cyf. sy’n gwerthu llyfrau ac adnoddau Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth. Bu’n Llywydd Chwaraeon y Gymanwlad dros Gymru, ac mae’n Gadeirydd Dolen Iechyd. Dyn eang eithriadol ei ddiwylliant, ac yn flaenllaw a gweithgar iawn yn ei eglwys a’i enwad.
  • Yn ei hieuenctid yn Drefach Felindre bu Yvonne Griffiths Evans, British Columbia, yn amlwg fel cantores mewn eisteddfodau a chyngherddau. Ymfudodd hi a’i theulu i Canada yn 1976, ac o’r dechrau fe fu iaith a diwylliant Cymru yn rhan sylfaenol o’i bywyd. Fel un o aelodau amlycaf gwahanol Gymdeithasau Cymraeg Gogledd America, ac fel Llywydd, trefnodd ymweliadau gan gantorion a chorau amlycaf Cymru. Tra’n Llywydd y Gymanfa Ganu bu’n fedrus ei dylanwad yn sicrhau mwy o Gymraeg yn y Gymanfa. Cadwyd ei mamiaith hefyd yn iaith yr aelwyd, a’i dau blentyn yn rhugl eu Cymraeg.
  • Cafodd John Brian Humphreys, Brynaman, ei eni o fewn dwy filltir o faes yr Eisteddfod eleni, ac yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Lôn Las. Yn ystod ei yrfa bu mewn amryw o swyddi cyfrifol, a galw amdano i deithio i wahanol gyfarfodydd yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae i gerddoriaeth le amlwg yn ei ddiwylliant, fel organydd, ac mewn gwahanol Gorau Cymysg. Ond y mae ei wasanaeth fel Cynghorydd a Chadeirydd ar Gyngor, ei gyfraniad hollol ganolog i’w Eglwys ym Mrynaman, ei ymroddiad i’r Henoed a’r Aelwyd ym Mrynaman, yn ogystal ag i’r Papur Bro, Y Llais, yn gyfraniad amhrisiadwy.
  • Un o blant bro Eisteddfod 2006 yw Beti Wyn James, Caerfyrddin,. Wedi graddio mewn Diwinyddiaeth ymgymerodd â gweinidogaethu yn y Barri lle bu’n helaeth iawn ei chyfraniad i fywyd Cymraeg y dre honno, ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a’r Ysgolion Cymraeg. Gwasanaethodd ar fyrddau Llywodraethol yr Ysgolion, a bu’n Llywydd y Cymrodorion. Symudodd i Gaerfyrddin yn 2002, ac ymdaflodd ar unwaith i weithgareddau Cymraeg y dre honno. Un enghraifft o’i llu swyddogaethau yw Cadeiryddiaeth Pwyllgor Apêl Caerfyrddin ar gyfer Prifwyl yr Urdd 2007, gan arwain gydag asbri ac egni.
  • Y mae Helen Jones, Felindre,, yn byw yn ardal ei magwraeth a daeth yn werth ei chael yn y gymuned leol. Hi yw ysgrifennydd ac asgwrn cefn Eisteddfod Felindre. Mae hi’n ddiacones weithgar yn ei heglwys tra bu’n athrawes mewn gwahanol ysgolion yn y cyffiniau. Mae ar Bwyllgor Adloniant y neuadd, yn trefnu cyngherddau, siaradwyr a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yno’n gyson. Hi yw Dirprwy Gadeirydd Ysgol Felindre, ac yn ohebydd y Llais. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trefnodd ddosbarth nos i’r di-Gymraeg yn y cylch. Y mae’n arian byw o berson, yn cynnal Cymreictod a diwylliant ei bro.
  • Symudodd Tegwen Kettle, Stoke-on-Trent, o’i chynefin ym Morgannwg i Stoke wedi priodi, ond bu rhan o Gymru gyda hi yno yn ei chalon a’i gweithgarwch ar hyd ei halltudiaeth. Ddeugain mlynedd yn ôl hi oedd y prif anogwr i sefydlu Cymdeithas Gymraeg Stoke a Newcastle. Trwy ei hymdrechion diflino a’i brwdfrydedd a’i hewyllys gref mae’r Gymdeithas wedi ehangu a ffynnu ar hyd y cyfnod, gan gynnal amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg i gadw’r cyswllt â Chymru yn fyw. Yn 2004 gwnaed hi yn Aelod Anrhydeddus o’r Gymdeithas, yr unig un i dderbyn yr anrhydedd.
  • Enillodd Robin McBryde, Y Tymbl Uchaf, le cynnes yng nghalon ei genedl drwy ei wrhydri ar faes rygbi. Cafodd ei addysg ym Mangor, ac wedi cyfnodau gyda Chlwb Ieuenctid Porthaethwy a Chlwb yr Wyddgrug gwelodd timoedd y De arbenigrwydd ei ddawn. Bu’n chwarae gyntaf gydag Abertawe, ac yna Llanelli. Datblygodd yn fachwr cryf a chyhyrog, ac enillodd 37 o Gapiau am chwarae dros Gymru yn ystod ei yrfa Ryngwladol, y cyfanswm mwyaf a enillodd Gogleddwr erioed am chwarae dros ei wlad. Bu hefyd yn aelod o garfan Y Llewod yn 2001. Dymunwn bob llwyddiant iddo fel hyfforddwr.
  • Hyfforddwyd Frances Helena Thomas, Ystradgynlais, fel nyrs, a chyrhaeddodd safleoedd o gyfrifoldeb arbennig yn ei galwedigaeth. Bu hefyd yn wasanaethgar iawn yn ei chymuned, yn gysylltiedig â Diogelu Cymru Wledig, ac fel Trysorydd ei Chronfa Apêl leol ar gyfer Prifwyl Llanelwedd. Ond cyfraniad unigryw ei bywyd yw ei gwaith gyda Chymdeithas Girl Guides Cymru. Mae ei gwaith gyda’r mudiad hwn yn gwbl arbennig, gan arwain gwersylloedd ym Mhrydain a thramor. Hi yw Archifydd Cymru, a chafodd ei hanrhydeddu â’r Laurel Award, a gwobr anrhydedd am wasanaeth deugain mlynedd.
  • Mae Iris Williams, Efrog Newydd, y gantores ddawnus o Donyrefail, yn berfformwraig ryngwladol adnabyddus iawn. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, a bellach fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg hwnnw oherwydd llwyddiant ei gyrfa. Ymddangosodd mewn nifer helaeth o berfformiadau enwog, a hynny yng nghwmni cewri’r llwyfan mewn ugain o wledydd. Enillodd barch beirniaid cerdd America am ei dehongliadau clasurol. Cefnogodd amryw o achosion da yng Nghymru, a daw yn ôl yma mor aml â phosib i ganu mewn cyngherddau, yn aml gyda chorau meibion.
  • Bu T. Graham Williams, Rhiwfawr, Cwmtawe, am dros hanner canrif yn adrodd mewn llu o eisteddfodau yn y De a’r Gogledd. Datblygodd dros y blynyddoedd diwethaf yn fardd medrus, gan ennill dros hanner cant a phump o gadeiriau. Bu’n löwr ond fe aeth ymlaen â’i addysg gan raddio yn y Brifysgol Agored. Y mae ganddo ddawn arbennig i ddehongli a chyflwyno gwaith Dylan Thomas, a gelwir arno yn aml i berfformio’i waith. Gwnaeth hynny yn America rai blynyddoedd yn ôl. Sefydlodd grwˆp ysgrifennu creadigol yn ei fro, a chyhoeddir yn flynyddol waith y gweithdy hwn. Y mae’n awdur ac eisteddfodwr dawnus a diwyd.

    (ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Ers ei benodi yn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru mae Richard Brunstrom, Bae Colwyn, wedi gweddnewid diwylliant ieithyddol yr Heddlu o fewn i’w dalaith. Addawodd ddysgu Cymraeg pan gafodd ei benodi, a gwnaeth hynny i safon eithriadol o uchel mewn byr amser. Bu’r gamp honno ynddi ei hun yn esiampl ddisglair. Ond fe ddangosodd wedyn barch at ein hiaith drwy weithredu mewn llu o ffyrdd i fynnu safle anrhydeddus iddi o fewn i’w weinyddiaeth. Y mae ei ymroddiad iach a chyfrifol at y Gymraeg wedi treiddio drwy’r rhengoedd, ac wedi dylanwadu’n rymus ar agwedd ei weithlu.
  • Bu Eric Davies, Gwaun-cae-Gurwen, bellach yn Drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dros ddeng mlynedd, a bu ei arweiniad cadarn yn allweddol i ddod â’r Brifwyl yn ddiogel drwy gyfnod anodd. Cyn ei ethol i’r swydd honno bu’n gweithredu am flynyddoedd yn rhoi cyngor ariannol i adran gyllid yr Eisteddfod. Y mae’n frodor o Wauncaegurwen, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, ac yn llefarydd cyson ar ran C.B.I. Cymru. Bu’n gefnogol i fudiadau Cymraeg gan gynnwys Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin, a da cael gŵr eang ei ddiwylliant mewn swydd gyfrifol yng ngweinyddiad cyllidol yr Eisteddfod.
  • Y mae Hywel M. Davies, Maryland, UDA, yn un o sylfaenwyr Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America. Fe’i ganed yng Nghasllwchwr a’i hyfforddi mewn peirianneg. Ym 1966 ymfudodd i’r Unol Daleithiau i weithio mewn cyfrifiadureg, a bu’n gweithio am dros chwarter canrif i Fanc y Byd. Cymerodd ran amlwg mewn gwahanol fudiadau Cymraeg a Chymreig yno, gan gynnwys Cymdeithas Dewi Sant y Brifddinas a’r Gymanfa Ganu Gymreig. Y mae’n frwdfrydig iawn dros gynnal cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a Gogledd America, a’i aelwyd bob amser ar agor i ymwelwyr o Gymru.
  • Dilynodd Marian Delyth, Blaenplwyf, yrfa ddisglair fel dylunydd graffeg a ffotograffydd, ac fe saif yn uchel ei pharch ymhlith ei chyd-artistiaid. Ond y tu hwnt i ragoriaethau ei gyrfa, rhoes wasanaeth i nifer o gyrff cyhoeddus yn y Celfyddydau. Bu’n aelod ar Bwyllgor Celf Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd Panel Celf y Brifwyl. Bu’n allweddol yn sefydlu i’r celfyddydau gweledol le anrhydeddus o fewn i ddiwylliant Cymru, ac ymestyn eu bri mewn gwledydd tramor. Mae ganddi argyhoeddiadau cadarn, ac mae ei chyfraniad tawel i’n hiaith a’n diwylliant yn haeddu ei anrhydeddu.
  • Ganed Falmai Griffiths, Caerdydd, yn Llandysul, a’i magu ym merw eisteddfodol y cylch. Parhaodd yr elfen honno yn gryf ynddi drwy ei gyrfa fel athrawes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardal Caerdydd, a bu’n arbennig o lwyddiannus yn hyfforddi adroddwyr ac fel beirniad adrodd. Bu yn un o chwaraewyr hoci amlycaf Cymru, yn aelod yn nhîm hoci enwog Penarth. Y mae’n fwy egnïol fyth yn ei brwdfrydedd o blaid y Gymraeg, ymhlith eglwysi, mewn ysgolion a chyda dysgwyr, gan arloesi mewn llu o weithgareddau. Y mae ei chyflawniadau’n ddirifedi, a’i hysbrydoliaeth yn heintus.
  • Y mae Alwyn Humphreys, Caerdydd, yn gyfuniad o gerddor dawnus a darlledwr proffesiynol o fedrus. Fe’i maged ym Modffordd yn Ynys Môn. Daeth ei ddawn gerddorol yn amlwg yn gynnar iawn, a bu’n aelod yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Hull lle graddiodd gydag anrhydedd. Cyfansoddodd a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer llu o gorau, a bu’n arwain Côr Orffiws Treforys drwy gyfnod arbennig o lwyddiannus am chwarter canrif. Yn ystod bron yr un cyfnod bu’n cyflwyno’r rhaglenni llwyfan y Genedlaethol a’r Urdd yn ei ddull graenus a deallus.
  • Cymwynaswr unigryw yw Hywel Wyn Jeffreys, Caerdydd,. Hanesydd o Brifysgol Bangor ydyw, ond mae ei wreiddiau yn ddwfn yn niwylliant Cwm Aman. Bu’n Ddirprwy Brifathro Ysgol Rhydfelen, a’i briod, Gwyneth, yno’n bennaeth Adran Ffrangeg. Er 1993 bu’r ddau, yn “neuadd” eu cartref yng Nghaerdydd, yn cynnal cyngherddau o ganu gan gantorion enwocaf Cymru, a darlleniadau cerddi twym o ffwrn beirdd cyfoes y genedl, er mwyn amrywiol achosion elusennol. Y llynedd yn unig casglwyd £42,000. Trwy eu hymdrechion di-ildio, cadwodd Hywel a’i briod hen draddodiad nawdd y genedl yn fyw.
  • Mae David Gwyn John, Treforys, yn hanesydd helaeth ei wybodaeth. Dechreuodd ei lafur dros y Gymraeg fel athro ail-iaith mewn ardal ddi-freintiedig yn Abertawe, a chael ffrwyth tu hwnt i’r disgwyl i’w waith. Yn y tair ysgol lle bu’n bennaeth cynyddu wnaeth llwyddiant y Gymraeg, heb sôn am ei weithgarwch tu allan megis yn Arweinydd yr Aelwyd. Bu ei gyfraniad yn anhepgor mewn cefnogaeth leol i Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd. Ef eleni yw Cadeirydd Apêl Treforys at Brifwyl 2006, sydd wedi rhagori ymhell dros ei tharged. Dyma symbylydd arbennig o ymroddgar.
  • Dechreuodd Hywel Jones, Aberystwyth, ei yrfa yn Athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Penweddig cyn ei benodi’n Bennaeth yng Nglan-llyn. Ar hyn o bryd ef yw Arweinydd Mudiad Ysgolion Meithrin Cymru. Yn y swydd hon fe lwyddodd i droi’r Mudiad yn sefydliad proffesiynol a swyddogol. Sicrhaodd Ganolfan Integredig newydd yn Aberystwyth a chytundeb gan Y Cynulliad i sefydlu Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Drwy’r canolfannau Taleithiol a sefydlir yn fuan parheir y cynnydd sylweddol y mae’r gŵr egnïol a diwylliedig hwn wedi ei arwain mewn maes creiddiol i ddyfodol ein hiaith.
  • Mae Mary Lloyd Jones, Aberystwyth, ers tro yn un o enwogion byd celf yng Nghymru. Yn hanu o Bontarfynach, fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Y mae’n trafod ei milltir sgwâr o ran ei thirwedd a’i diwylliant, ond mewn arddull sy’n drawiadol o argraffiadol a byrlymus o ran lliw. A thrwy wreiddio’i gwaith yn ei chynefin fe welwyd fod ganddo apêl eang a rhygwladol. Ar wahân i orielau enwocaf Cymru, cynhaliodd arddangosfeydd “solo” yn Llundain, Cologne, Efrog Newydd ac Oslo a gwelwyd ei gwaith yn orielau enwog gwledydd eraill megis yn yr Eidal a Sbaen. Dyma yn wir Lysgennad Celfyddyd Cymru.
  • Gwyneth Lewis, Caerdydd, yw’r gyntaf i’w harddel gan ei chenedl yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Fe’i ganed yng Nghaerdydd, ac astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt cyn mynd i astudio yn yr Unol Daleithiau a gweithio yno fel newyddiadurwraig. Aeth wedyn i Rydychen i wneud ymchwil ar waith Iolo Morgannwg. Cyhoeddodd gyfrolau sylweddol eu safon yn Saesneg, ac fe’i gwahoddwyd yn aelod o’r Poetry Book Society. Mae ei chyfrolau Cymraeg yr un mor ddisglair, a Llofrudd Iaith yn Llyfr y Flwyddyn 2000. Y mae Gorsedd y Beirdd yn falch o’i chael yn aelod, ac ysbryd Iolo’n ategu’r croeso!
  • Rhoddodd Beth Leyshon, Bynea, Llanelli, wasanaeth cofiadwy iawn i’r Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd, a hi oedd Ysgrifennydd diwyd Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2000. Bu’n Brifathrawes ysgolion cynradd yn ei bro, ond rhoes gyfraniad llawer lletach na hynny i’w hardal. Bu hi ei hun yn gantores werin ddawnus a berfformiodd ar lwyfannau ledled Cymru, ac yn Arweinydd Côr Merched Trimsaran. Yn ogystal â defnyddio’i doniau cerddorol, cyflawnodd waith clodwiw yn gymdeithasol, yn enwedig gyda phlant dan anfantais. Y mae’n wir yn gymwynaswraig bro.
  • Y mae Rhoswen Mary Llewelyn, Cwmfelin Mynach, yn cael ei chymeradwyo gan lu o’i chydardalwyr sy’n ei pharchu a’i hedmygu am ymgyflwyno mor llwyr i fywyd ei bro. Fel Pennaeth Ysgol a Threfnydd ysgol feithrin a thiwtor dosbarthiadau dysgwyr ac athrawes Ysgol Sul, dangosodd ddyfnder ei hymroddiad. Hi fu’n bennaf cyfrifol am sefydlu cangen Merched y Wawr Bro Gronw. Arloesodd gyda’r Papur Bro, Y Cardi Bach, gan fod yn Llywydd a Golygydd a Chysodydd ar wahanol gyfnodau dros chwarter canrif. Amlyga ddisgleirdeb yn ei doniau fel llenor, gan ennill yn Nhyddewi 2002 ar y Portreadau.
  • Gwelodd Cymru ddawn a gallu Gareth Miles, Pontypridd,yn ei gymeriad yn ogystal ag yn ei waith. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn Ysgrifennydd, yn Olygydd Tafod y Ddraig ac yn Gadeirydd ar wahanol adegau. Bu’n Gadeirydd cangen Gymreig Ysgrifenwyr Gwledydd Prydain am ran helaeth o’r chwarter canrif diwethaf. Cynhyrchodd nifer helaeth o gyfieithiadau ac addasiadau amryw gyfrolau a dramâu llawer gwlad ac iaith. Mae’n awdur toreithiog ei gyfrolau a’i erthyglau, ac yn sgriptiwr a dramodydd y bydd Cymru a’r Gymraeg am byth yn drwm iawn yn eu dyled iddo.
  • Dilynodd Prys Morgan, Abertawe, ôl traed ei dad, T.J. Morgan, yn nisgleirdeb ei ysgolheictod. Y mae’n llenor, yn hanesydd a darlledwr. Gwasanaethodd fel golygydd amryw o gyfnodolion a chyfrolau ysgolheigaidd, yn aelod a chadeirydd cyrff cenedlaethol megis Pwyllgor Llenyddol Cyngor y Celfyddydau a Phwyllgor Adeiladau Cymru. Eleni fe’i hurddwyd yn Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Er 2002 y mae’n Athro Emeritws Prifysgol Cymru. Y mae’n gyfathrebwr medrus, a’i gyflawniadau dirifedi yn gyfraniadau cyfoethog i wyddor a llên ein cenedl.
  • Ganed Osi Rhys Osmond, Llansteffan, yn Wattville, Gwent a graddiodd o Goleg Celf Casnewydd a Chaerdydd. Mae’n wlatgarwr brwd, a dysgodd Gymraeg yn nodedig o dda. Wedi ymsefydlu yn Llansteffan y mae’n ennyn parch gan bawb am ei weithgarwch dros ei gymuned leol. Bu’n gefnogol i orielau ym Mhenfro a Myrddin, a rhoes gyngor a chefnogaeth fuddiol iawn i’r Brifwyl mewn cyswllt â Chelfyddyd Gweledol. Yn safon ei waith, ac fel athro a darlithydd, ysbrydolodd genedlaethau o artistiaid ifanc. Mae’n genhadwr effeithiol dros Gymru a Chymreictod ymhlith y di-Gymraeg, ac ar y llwyfan rhyngwladol.
  • Cafodd Bobi Morus Roberts, Aberhonddu, ei fagu mewn ardal gyfoethog ei diwylliant ym Mryn-Rhyd-yr-Arian. Dysgodd ganu gan ei dad, a datblygodd yn ddatgeinydd celfydd gan ennill amryw weithiau yn yr Wyl Gerdd Dant a’r Genedlaethol. Gosodai ar gyfer datgeiniaid, a darlithiai a hyfforddai yn y cylch. Wedi i’w waith orfodi iddo symud i Loegr ac yna i Aberhonddu ni ollyngodd ei frwdfrydedd dros hybu corau a chymdeithasau ac eisteddfodau. Cyfansoddai ganeuon, a pherfformiai a chyflwynai raglenni ar radio a theledu dros wahanol gyfnodau, ac anian yr awdur a’r cyfansoddwr yn dal yn fyw ynddo.
  • Gogleddwr o Edern yw Guto T. Roberts, Pontyclun, ac ar hyd ei yrfa bu’n ddarlithydd Ffiseg ymMhrifysgol Morgannwg. Bu ei ddyfeisgarwch gwyddonol yn amlwg yn ei ymchwil a’i waith datblygol, yn arbennig mewn cysylltiad â diwydiant. Yn ychwanegol at ei gyfraniadau galluog yn ei faes dangosodd ehangder ei ddiwylliant yn ei wasanaeth i’r Urdd, yn lleol a chenedlaethol. Yna wedyn rhoes arweiniad arloesol gyda Menter Taf Elái. Ac ers blynyddoedd, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, bu’n gyfrifol am drefnu ei gweithgareddau Gwyddonol. Dyma un o gymwynaswyr y Brifwyl.
  • Athro arbennig iawn yw Owain Roberts, Amlwch,. Fe’i ganed ym Mhenbedw. Er dechrau’r saithdegau bu yn byw a dysgu ym Môn. Ond ei arbenigedd yw archaeoleg y môr, ac fe’i cydnabyddir yn awdurdod byd-eang yn ei faes. Fe’i hanrhydeddwyd gan Gymdeithasau morwrol yn cynnwys Sefydliad Brenhinol Penseiri Morwriaeth. Cafodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, a’i gydnabod yn Ddarlithydd Mygedol gan y Brifysgol ym Mangor. Y mae’n darlithio ac hyfforddi’n gyson, yn cynorthwyo gyda golygu cyfnodolion, a’i gyhoeddiadau a’i erthyglau yn ddirifedi. Llongwr Cymraeg gwir ddiwylliedig.
  • Bu Betty Williams, Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn gefnogol i eisteddfodau lleol a chenedlaethol o’i phlentyndod, a deil i fyw yn Nhalysarn, bro ei magwraeth. Y mae’n ddiacon yn ei heglwys ac yn deyrngar i draddodiadau gorau diwylliant ei gwlad. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, ac y mae yn Is-Lywydd a Chymrawd Prifysgol Cymru Bangor. Gwasanaethodd ar gynghorau lleol a’r Cyngor Sir cyn ei hethol yn Aelod Seneddol dros Gonwy. Dangosodd ddawn a deallusrwydd yn ei dyletswyddau ar lu o wahanol banelau a phwyllgorau, ac y mae ei harddull a’i hiaith naturiol yn rhoi graen ar ei chyflawniadau cyhoeddus.
  • Cafodd Owen Arthur Williams, Llanfairpwll, yrfa fel athro hynod drwyadl a dawnus mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Lloegr a Chymru. Yn fab i’r enwog Edward Williams, Llangefni, nid rhyfedd iddo gael ei wreiddio mewn diwylliant. Y mae’n Is-Lywydd Eisteddfod Môn. Bu’n adroddwr eithriadol lwyddiannus yn gynnar iawn, ond troes ei ddiddordeb i gyfeiriad y ddrama, gyda Chlwb Cymry Llundain, ac yna ym Môn. O ddechrau’r saithdegau bu’n actio bron yn flynyddol ym mherfformiadau Theatr fach Llangefni. Y mae’n awdur cyfrolau, ac ef yw’r awdurdod ar hanes y ddrama ym Môn.

 

Anrhydeddau 2008

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2008
isod.

Urddau’r Orsedd 2008

I’w derbyn i’r Orsedd 2008

Rhestr lawn o’r Cymry fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch ym mis Awst.

I’w hurddo fore Llun 4 Awst 2008. Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor

Maria Ataou, Treganna, Caerdydd
Helen Davies, Y Ddraenen, Caerdydd
Ruth Elinor Davies, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Anwen Ebenezer Ellis, Gwaelod-y-garth, Caerdydd
Rhian Mair James, Y Rhath, Caerdydd
Angharad Wyn Jones, Glasinfryn, Bangor, Gwynedd
Caryl Ebenezer Thomas, Llandaf, Caerdydd
Ruth Williams, Y Ddraenen, Caerdydd

Urdd Llenor

Olwen Rhiannon Allender, Casnewydd
William Huw Davies, Pen-y-bont ar Ogwr
Catrin Angharad Wallis Evans, Llandaf, Caerdydd
Gweneth Ann Evans, Llandaf, Caerdydd
Sara Martel Hughes, Y Rhath, Caerdydd
Nia Mair Jones, Llandyfaelog, Caerfyrddin
Catrin Mari Nicholas, Llannon, Llanelli
Ceri Ffion Richards, Llandysul, Ceredigion
Helen Thomas, Treganna, Caerdydd
Lowri Angharad Thomas, Capel Hendre, Rhydaman
Gareth Rhys Tomos, Derwen Fawr, Abertawe
Sioned Angharad Wyn, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Arholiadau’r Orsedd

Urdd Cerddor (Gwisg Las)

Elwyn Evans (Siôr ap Oswyn), Caeredin

Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

Richard Garner Williams (Richard y Llan), Pontcanna, Caerdydd

Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
Francesca Dimech, Penarth, Bro Morgannwg
Mari Edwards, Castell-nedd
Rhian Lloyd Haggett, Y Barri, Bro Morgannwg
Alun Fôn Roberts, Llanfrothen, Gwynedd

Bu’r ymgeisydd canlynol yn llwyddiannus yn arholiad Iaith Ofydd 2 yn unig: Ian Christopher Thomas, Llandaf, Caerdydd

Urddau Er Anrhydedd 2008

 

  • Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Sir Gâr 2007:

    Ceri Elen, Hen Golwyn – Enillydd y Fedal Lenyddiaeth
    Rhiannon Marks, Cil-y-cwm, Llanymddyfri – Enillydd y Goron
    Hywel Griffiths, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth – Enillydd y Gadair

  • Enillydd Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006:

     

    Katherine Allen, Yr Eglwys Newydd – Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts

    Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007:

    Urdd Ofydd er Anrhydedd
    Trefor Pugh, Trefenter, Ceredigion -Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
    Gavin Ashcroft, Pontypridd – Enillydd Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
    Gwawr Edwards, Bethania, Llannon – Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
    Robyn Lyn Evans, Caerfyrddin – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis
    Llio Eleri Evans, Llanfairpwll – Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts
    Glain Llwyd, Cefnddwysarn, Y Bala -Enillydd Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed
    Gwion Aled Williams, Llansannan, Dinbych – Enillydd Gwobr Richard Burton
    Rhian Evans, Y Tymbl – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
    Julie MacMillan, Ynyswen, Y Rhondda – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

    Urdd Derwydd er Anrhydedd

    Nic Ros, Rhiwlas, Bangor – Enillydd y Fedal Ddrama
    Mary Annes Payne, Dwyran, Llanfairpwll – Enillydd y Fedal Ryddiaith
    Tony Bianchi, Caerdydd – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

    I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod
    Janet Evans (Sioned o’r Llan), Llanbedr Pont Steffan
    Neli Jones (Elinor Fflur), Pontrhydfendigaid
    Rob Nicholls (Robert Nichol), Caerdydd
    Teifryn Rees (Teifryn), Felinfoel
    Margaret Williams (Margaret Bryn), Caerdydd

    I’w hurddo fore Gwener, 8 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008:

    Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

    Mallt Anderson, Caerdydd Mae enw Mallt Anderson yn enwog drwy Gymru gyfan oherwydd ei hymroddiad i fywyd diwylliannol y genedl. Yng nghanol ei phrysurdeb, un o’i chymwynasau mwyaf â Chymru yw ei gwaith allweddol yn sicrhau na fyddwn byth eto yn anghofio Gwenllian, Tywysoges “Goll” Cymru, a sefydlu Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

    Rhian Bebb, Machynlleth Mae hi wedi ennill yn haeddiannol le amlwg yn cyfansoddi a hyfforddi a pherfformio ym myd canu gwerin, yn arbennig gyda’r delyn deires a’r acordion. Bu’n llysgennad dros ddiwylliant gwerin Cymru ar draws gwledydd y byd, a bu’n ddisglair ei chyfraniad i gymdeithasau ac eisteddfodau yn ei bro a thrwy Gymru.

    Janine Wyn Davies, Pont-rhyd-y-fen Rhagorodd yn ei maes fel bydwraig nes gwneud cyfraniad sylweddol fel ymchwilydd ac uwch-ddarlithydd yn y pwnc ym Mhrifysgol Morgannwg. Ond drwy ei chysylltiadau â’r diwylliant Cymraeg yn aelwydydd yr Urdd fe fagodd ymroddiad at yr iaith, a bellach mae’n ddylanwadol yn hybu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

    Sydney Gwendoline Davies, Glyn Ceiriog Gwraig gampus i’w chymdogaeth. Wedi priodi Theo Davies o Lyn Ceiriog ymsefydlodd yn y dyffryn gan gyfrannu’n gyfoethog iawn at fywyd masnachol a chrefyddol a diwylliannol y fro ar hyd yr hanner canrif y mae wedi bod yno. Ym mhob gweithgaredd o bwys yn y rhan hon o Gymru mae ganddi hi ryw gyfran allweddol.

    Aled Edwards, Cilfynydd Ar hyn o bryd mae’n Brif Weithredwr Cytûn, a chyfrannodd eisoes yn effeithiol at gyd-ddeall rhwng cymunedau a chrefyddau yng Nghymru. Y mae’n fedrus wrth ymgyrchu dros gyfiawnder mewn materion megis cydraddoldeb hiliol a hynt ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan fod yn llais a chydwybod yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    Caradog Evans, Yr Hendy Bu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol dros nifer helaeth o flynyddoedd fel adroddwr, arweinydd cynhyrchydd drama a beirniad, a chyflwynydd medrus ar lwyfan y Babell Lên. Gwasanaethodd hefyd fywyd diwylliannol y bröydd y bu’n byw ynddyn nhw, yn arbennig fel actor a chynhyrchydd a chadeirydd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn Abertawe.

    Y Tad Tony Hodges, Caerdydd Camp fawr iddo, ar gyrion Caerdydd ar dir anaddawol iawn, lwyddo i feithrin plwyf Catholig ffyniannus, dwyieithog. Er ei fagu ar aelwyd Saesneg, ymddiddorodd yn hanes Cymru a’i hiaith yn ystod ei hyfforddiant fel offeiriad, a bellach y mae ei ymroddiad deublyg, i’r Ffydd ac i ddiwylliant Cymru, yn ysbrydoliaeth i bawb o’i gyfoedion.

    William Maldwyn James, Capel Bangor, Aberystwyth Ymhlith ei rinweddau mawr y mae ei ymroddiad diarbed i wahanol achosion, gan gynnwys ei wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol. Y mae’n organydd yn ei eglwys ers 56 o flynyddoedd, ac ers cyfnod maith yn Glerc y Cyngor Cymuned, yn Ysgrifennydd Cymdeithas y Deillion yng Ngheredigion, ac yn gwasanaethu ar Gyngor Cymru.

    Dewi Morris Jones, Bronant, Aberystwyth Rhoddodd oes o wasanaeth fel golygydd proffesiynol gan olygu cannoedd o deipysgrifau a’u llywio drwy’r wasg. Y mae hwn yn waith creadigol sy’n gofyn am grebwyll llenyddol yn ogystal â manylder technegol. Y mae’n ŵr o ddiwylliant eang, yn rhugl ei Lydaweg a’i Ffrangeg, ac yn ymroddgar yn ei wasanaeth i’w gymuned yn ei fro.

    Heather Jones, Caerdydd Yn gantores amryddawn a phoblogaidd iawn. Dysgodd Gymraeg, a thros gyfnod maith bu’n brysur yn hyrwyddo’r iaith drwy ei thalentau. Perfformiodd mewn ysgolion a chartrefi henoed yn ogystal ag ar lwyfannau teledu a chyngherddau canu pop. Ysbrydolodd genedlaethau o ddysgwyr, ac y mae Cymru oll wedi ei chymryd at ei chalon.

    Rhian Jones, Llangwm Ers iddi ymgartrefu yn Llangwm bu ei chyfraniad i draddodiad cerdd a cherdd dant yr ardal yn eithriadol. Bu’n hyfforddi unigolion a phartïon a chorau cerdd dant ers degawdau, a gwelir ei henw yn aml fel beirniad yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol a’r ŵyl Gerdd Dant. Cyfrannodd at ddealltwriaethau cenedlaethau o ieuenctid yng nghyfrinion y grefft.

    Roy Noble, Aberdâr Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg, gan ennill nifer o ysgoloriaethau, a theithio amryw wledydd. Pan droes at ddarlledu cydnabuwyd ei ddawn a’i allu naturiol gan y gwobrau a ddyfarnwyd iddo. Bu’n weithiwr selog dros gyfnod maith yn cefnogi mudiadau gwirfoddol, a daw ei boblogrwydd a’i bersonoliaeth i’r golwg yn ei gyfrolau yn Gymraeg a Saesneg.

    John Price, Machynlleth Crefftwr cain sy’n gelfydd eithriadol wrth drin metelau. Lluniodd lu o goronau a thlysau i eisteddfodau a gwyliau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys pedair coron i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n beirniadu yn rheolaidd yn yr adran grefftau yn y Sioe Frenhinol. Ac, yn goron ar ei gyflawniadau, y mae’n eang ei ddiwylliant, yn ymroddgar i’w eglwys a’i gymdeithas.

    Bethan Smallwood, Llangwm Pan ddychwelodd i Langwm daeth yn un o gymwynaswyr pennaf y fro. Y tu hwnt i’w dyletswyddau fel athrawes gerdd yn y Bala bu’n llwyr ei hymroddiad i Aelwyd Llangwm yn dysgu unawdwyr a phartïon. Ac fel arweinyddes ddawnus Côr Meibion Llangwm fe’u tywysodd i gyfnod arbennig o lewyrchus mewn eisteddfod a chyngerdd, adre a thramor.

    Elfyn William Thomas, Caernarfon Bu’n gefnogwr brwd i bob agwedd ar ddiwylliant Cymru. Yn Eisteddfod Tyddewi 2002 enillodd wobr Menter a Busnes am hyrwyddo’r Gymraeg. Fel rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Seren Arian trefnodd deithiau i holl brifwyliau Cymru yn ogystal â theithiau i bedwar ban byd i gefnogi sêr fel Bryn Terfel, a Gwyn Hughes Jones.

    Myra Turner, Waunfawr, Caernarfon Ers blynyddoedd bu’n un o gynheiliaid eisteddfodau lleol a thaleithiol Cymru fel cystadleuydd cyson. Byddai hefyd yn cludo eraill gyda hi, a’r cwmni o gystadleuwyr yn gaffaeliad gwerthfawr i bob eisteddfod. Byddai hithau bob amser yn ddeallus ei dehongliad a choeth ei mynegiant, a bu’n fuddugol am adrodd yn holl brif Eisteddfodau’r wlad.

    John Ellis Williams, Llanrug Llenor unigryw. Y mae’n nofelydd, yn gyfrannwr cyson i Eco’r Wyddfa a chyfnodolion lu. Teithiodd y byd, gan gerdded yng nghwmni sipsiwn, gweithio yng nghaeau gwenith Ffrainc a chyda ceffylau gwyllt y Camargue, a dod yn gyfaill agos i Mme. Simone de Beauvoir. Yna crwydro pellach, o’r Sierra Nevada i’r Swistir. Bellach mae yn ôl yng Ngwynedd.

    Urdd Derwydd

    Bethan Bryn, Aberystwyth Ers dros ddeugain mlynedd bu yn gweithredu fel telynores swyddogol ym mhrif Eisteddfodau a gwyliau Cymru. Yn ogystal â bod yn berfformwraig o’r radd flaenaf, y mae’n cyfansoddi, hyfforddi a beirniadu yn gyson. Bu’n arweinydd nifer o bartïon a chorau, gan arwain pob un ohonynt yn eu tro i fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Hazel Walford Davies, Aberystwyth Yn academydd sydd wedi cyfrannu’n sylweddol i wyddor y theatr yng Nghymru. Y mae’n feirniad llenyddol ac yn awdur a golygydd toreithiog. Ers blynyddoedd fe fu’n gadeirydd ac aelod ar nifer o gyrff allweddol ym myd addysg, yng Nghymru a thramor, gan wasanaethu’n aml fel Athro ymweliadol mewn nifer o brifysgolion.

    Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Caerdydd Saif ar ei ben ei hun ymhlith gwleidyddion Cymru. Bu’n annibynnol ac anghonfensiynol ei farn ar lu o bynciau, ac enillodd barch ac edmygedd mawr ei gyd-Gymry am ddisgleirdeb ei allu a threiddgarwch ei weledigaeth. Fel Llywydd y Cynulliad sefydlodd ddelwedd arhosol i’r swydd honno, sy’n gyfuniad o gadernid ac urddas.

    Rebecca Evans, Penarth Mae hi heddiw ar frig ei gyrfa, gyrfa a’i harweiniodd eisoes i dai opera a neuaddau cyngerdd enwoca’r byd. Enillodd yn ddiweddar y wobr am y Recordiad Opera gorau, a threchu perfformiadau’r meistri. Y mae ei phersonoliaeth, ei dawn naturiol a’i llais gwefreiddiol wedi ennyn ymateb brwd a chanmoliaeth gan adolygwyr praffaf byd cerdd.

    Athro Julian Hopkin, Abertawe Mae iddo le anrhydeddus ym meddygaeth Cymru. Wedi gyrfa ddisglair mewn gwahanol ganolfannau ymchwil, ef a fu’n bennaf cyfrifol am sefydlu Ysgol Feddygol yn Abertawe. Y mae’n Athro Ymweliadol mewn gwahanol Brifysgolion tramor, a’i gyhoeddiadau, gan gynnwys ei gyfrol Gymraeg, Y Medic, yn niferus a dylanwadol.

    Dr E. Wyn James, Caerdydd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac academydd eang ei ddiddordebau. Y mae’n ŵr cadarn ei farn a’i argyhoeddiad ac yn awdurdod cydnabyddedig yn ei brif feysydd ymchwil. Er amled ei weithgareddau colegol y mae’n arbennig o ymroddgar yng nghylchoedd diwylliannol ei fro a’i wlad, yn weithgar yn ei eglwys a chyda papur bro Y Dinesydd.

    Caryl Parry Jones, Y Bont-faen Y mae gallu a’i dawn wedi ennyn edmygedd Cymru oll. Bu’n Fardd Cenedlaethol Plant Cymru, cyfansoddodd rai o ganeuon ysgafn gorau’r iaith, yn awdur sgriptiau radio a theledu a ffilm, yn gynhyrchydd a hyfforddwraig, ac yn feirniad cenedlaethol. Drwy’r cyfan gweithiodd yn wirfoddol a diflino dros Addysg Gymraeg.

    Geraint Wyn Jones, Bangor Cydnabyddir ei fod yn un o brif addysgwyr ei gyfnod, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad gwir ganmoladwy i ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Yn ei gyfnodau cynhyrchiol yn ddarlithydd yng Ngholeg Harlech a’r Brifysgol ym Mangor gwnaeth waith arloesol a chreiddiol yn y maes hwn, ac ef a fu’n allweddol yn sefydlu gwobr Dysgwr y Flwyddyn.

    John Glyn Jones, Dinbych Bu cyfraniad i ddiwylliant Cymraeg ardal Dinbych yn eithriadol. Ar wahân i’w lwyddiant fel Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, a’i wasanaeth fel Ynad Heddwch, y mae’n fardd o safon genedlaethol, ac yn un o swyddogion Barddas. Mae’n arweinydd tîm y Talwrn â thîm y papur bro, ac yn gyfrannwr ymroddgar ym myd iaith a chrefydd a gwleidyddiaeth.

    John Gwynfor Jones, Caerdydd Cyhoeddodd eisoes nifer helaeth o gyfrolau ac erthyglau gan sefydlu ei le yn brif awdurdod yn ei faes yn hanes Cymru. Bu’n hybu, dysgu a chyfarwyddo myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ledu’r egwyddor honno i faes arholiadau’r ysgolion. Bu hefyd yn ymroddedig iawn ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd.

    J. Gareth Llewelyn, Caerdydd Cyfrifir ef bellach yn un o brif Niwrolegwyr Prydain. Ef oedd y symbylydd i sefydlu amryw o glinigau niwrolegol yng Ngwent a thros Gymru. Y mae ei waith wedi ennyn edmygedd y byd meddygol, a’r llynedd enillodd y Cymro twymgalon hwn y Wobr Efydd am ragoriaeth glinigol. Bu’n frwd ei gefnogaeth i werth gwasanaeth meddygol dwyieithog.

    Kenneth O. Morgan, Witney, Swydd Rhydychen Bu bellach yn arweinydd yn hanes modern Prydain am dros ddeng mlynedd ar hugain, a’i gydnabod ledled y byd am ei waith ar hanes Cymru a’r Blaid Lafur. Fe’i dyrchafwyd yn Farwn Morgan o Aberdyfi, gan wasanaethu Tŷ’r Arglwyddi ar ei Bwyllgorau allweddol. Y mae mwyafrif ei gyfrolau cynhwysfawr yn gyfraniad arhosol i hanes ein gwlad.

    David Raymond Owens, Caerdydd Y mae ei ddoniau meddygol wedi dwyn iddo glod a chydnabyddiaeth byd eang. Y mae Cymru’n elwa’n helaeth ar ei wybodaeth arbenigol ym myd clefyd y siwgr, a sefydlodd wasanaeth sgrinio sydd gyda’r gorau yn Ewrop. Er ei brysurdeb fe ddeil i gefnogi’n gyson ddiwylliant a chelf yng Nghymru, yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol.

    Syr Emyr Jones Parry, Caergrawnt Cafodd yrfa ddisglair fel gwyddonydd cyn ymuno â’r Swyddfa Dramor. Bu’n ddiplomydd medrus mewn gwahanol wledydd nes ei ddyrchafu’n Gynrychiolydd Prydain yn NATO ac yna yn Llysgennad Prydain yn Y Cenhedloedd Unedig. Dychwelodd i swydd allweddol yn natblygiad ein cenedl, fel Cadeirydd y Confensiwn ar ddyfodol y Cynulliad.

    Gaynor Morgan Rees, Dinbych Cipiodd galon cynulleidfaoedd drama a gwylwyr teledu yng Nghymru, gan ymddangos mewn prif rannau yn ein theatrau, ac yn ffilmiau a chyfresi teledu mwyaf poblogaidd ein cyfnod. Mae’n fywiog a diarbed ei gwasanaeth yn gymdeithasol, fel yn ei thymor yn Faeres Dinbych. Mae’n parhau’n llawn prysurdeb yn ffilmio, darlithio a hyfforddi.

    Matthew Rhys, Caerdydd Dechreuodd ei yrfa pan gafodd ei gastio yn y ffilm Gymraeg, “Bydd yn Wrol”, ac wedyn yn y ddrama Gymreig, “House of America”. Ond daeth yn seren yn y gyfres deledu Americanaidd, “Brothers and Sisters”, gan ennyn sylw a chlod rhyngwladol. Y mae disgleirdeb ei berfformiadau ar lwyfan ac mewn ffilm wedi ei sefydlu fel un o actorion gorau Cymru.

    Tim Saunders, Caerdydd Cafodd ei eni i rieni o dras Albanaidd a Gwyddelig, a chael ei fagu yng Nghernyw. Dysgodd Gymraeg gan ddatblygu yn bolymath o Gelt, toreithiog eithriadol ei waith mewn cyhoeddi a darlledu a hyfforddi. Cyfansoddodd gerddi mewn tair o’r ieithoedd Celtaidd, ond Cymru sydd wedi elwa fwyaf ar ei weithgareddau amryddawn yn gymdeithasol a diwylliannol.

    Catrin Stevens, Casllwchwr Mae ei chyfraniad i iaith a diwylliant Cymru yn un cwbl nodedig. Y mae’n llenor, awdur cynhyrchiol a hanesydd, wedi Cadeirio a Llywyddu dau brif fudiad cenedlaethol, ac yn aelod treiddgar ei barn ar Bwyllgorau Canolog yr Eisteddfod. Y mae ei gweithgaredd lleol yr un mor ddiflino, megis ei gwaith yng Nghasllwchwr yn hyrwyddo trosglwyddiad yr iaith yn y fro.

    Hywel Williams, Caernarfon Yn ei swydd gyntaf fel gweithiwr cymdeithasol bu’n arloesi drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y datblygai ei yrfa gwelwyd ei ymroddiad dros yr iaith yn dwyn ffrwyth, yn arbennig mewn perthynas â Chyngor Gwaith Cymdeithasol, a chyhoeddodd gyfrolau a phapurau treiddgar eu gweledigaeth. Ers 2001 y mae’n Aelod Seneddol gweithgar a dylanwadol.

Anrhydeddau 2009

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2009
isod.

Urddau’r Orsedd 2009

 

I’w derbyn i’r Orsedd 2009

 

Rhestr lawn o’r bobl fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau ym mis Awst.

I’w hurddo fore Llun Awst 3 2009.

Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor:

Angharad Elena Ellis, Cerrigydrudion

Ffion Bryn Jones, Corwen

Lona Meleri Jones, Y Bala

Glian Llwyd, Y Bala

Ieuan Wyn, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Urdd Llenor:

Bedwyr ap Gwyn, Bethesda

Catrin Gwynfor, Y Bala

Elinor Howells, Llanarth

Nia Eleri Hughes, Llangwm

William Michael Hughes, Carno,

Awel Bryn Jones, Corwen

Andrea Parry, Y Bala

Gwawr Mererid Roberts, Cemaes, Machynlleth

Mairwen Thorne, Rhosan ar Wy

Anna Timby, Mid Yell, Shetland

John Williams, Y Bala

A fu’n llwyddiannus mewn arholiad Gorsedd Y Beirdd 2009

Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

Alun Fôn Roberts (Alun o’r Rhyd), Rhyd, Llanfrothen

Llwyddiannus yn yr Arholiad Cyntaf Cyfansawdd (Bardd Ofydd 1, Iaith Ofydd 1, Llên Ofydd 1)

Caroline Margaret Jean Williams, Llangyndeyrn, Cydweli

Urddau er Anrhydedd 2009

I’w hurddo fore Llun Awst 3 2009.

• Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008:

Dewi Huw Owen, Caerfechell, Hwlffordd – Enillydd y Goron

Iwan Rhys, Rusholme, Manceinion – Enillydd y Gadair

• Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008:

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Huw Alun Foulkes, Bethel, Caernarfon – Enillydd Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Angharad Lisabeth Rees, Pontrhydylen – Enillydd Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts

Meirion Wyn Jones, Llangynhafal, Dinbych – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Menna Cazel Davies, Pontypridd – Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Siôn Ifan, Dryslwyn, Caerfyrddin – Enillydd Gwobr Richard Burton

Madison Tazu, Caerdydd – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Hywel Griffiths, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth – Enillydd y Goron

Dyfed Edwards, Whitstable, Caint – Enillydd y Fedal Ddrama

Ifan Morgan Jones, Penparcau, Aberystwyth – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

Eilir Owen Griffiths, Ffynnon Taf, Caerdydd – Enillydd Tlws y Cerddor

I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod

Delyth Hopkins Evans (Delyth o’r Hafod), Pontrhydygroes

Tom Evans (Tom Gwanas), Brithdir, Dolgellau

Beryl Lloyd Roberts (Eos Meirion), Pentrecelyn

Joan Thomas (Siwan Mererid), Llangynnwr

Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

Tanni Grey-Thompson, Stockton-on-Tees. Mae Tanny yn un o bencampwyr enwoca’r byd. Enillodd 11 medal aur, pedair medal arian ac un fedal efydd mewn gemau paralympaidd. Dysgodd Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, a hi oedd y disgybl disgleiriaf o’r rhai oedd ar y cwrs hwnnw. Y mae ei dycnwch yn wyneb ei hanabledd wedi ysbrydoli a symbylu miloedd.

I’w hurddo fore Gwener Awst 7 2009:

Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

Ann Atkinson, Corwen. Mae ei henw yn un o’r rhai amlycaf byd cerdd yng Nghymru. Enillodd ei lle eisoes fel unawdydd a chantores opera ar lwyfannau enwocaf y byd. Ond drwy’r holl lwyddiannau i gyd bu’n ffyddlon i’w gwreiddiau. Hi yw Cyfarwyddwr Cerdd Gwyl Gogledd Cymru yn Llanelwy, a hi fu’n arwain Côr y Fron i’w llwyddiant ysgubol a rhyng-genedlaethol.

Wenna Vaughan Bevan-Jones, Llandysul. Un o gymwynaswyr mawr ei bro. Prin fod unrhyw weithgarwch na mudiad o werth diwylliannol na fu hi yn fywiog ei chyfraniad iddyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Y mae’n gyfuniad delfrydol o barodrwydd i weithio’n ymroddgar yn y dirgel a dawn i gadeirio a llywyddu mewn llu o gylchoedd, o Fainc Ynadon i’r Cymrodorion.

Carys Edwards, Caerfyrddin. Mae hi’n cael ei hystyried yn un o gymwynaswyr y ddrama yng Nghymru. Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Drama Eisteddfod yr Urdd a Phanel Drama’r Eisteddfod Genedlaethol, a bu ei brwdfrydedd yn allweddol mewn nifer o ddatblygiadau diweddar. Ar wahân i’r cyfrifoldebau hyn, mae’n eithriadol o ymroddgar yn ysgogi diddordeb mewn drama ymhlith ieuenctid.

Connie Fisher, Hwlffordd. Eisteddfodau lleol a chenedlaethol a roes Connie ar ben ei ffordd i gyrraedd pinaclau perfformio fel seren fyd enwog. Yn 2005 graddiodd gyda’r radd uchaf posibl o Academy Mountview, ond y mae’n barod o hyd i wasanaethu achosion da yn Sir Benfro. Y mae’n fawr ei pharch at ei gwreiddiau a’i phobl yn fawr eu parch a’u serch ati hi.

Gareth Pritchard Hughes, Rhosllannerchrugog. Mae’n un o feibion nodedig Y Rhos. Ond dewisodd aros a chyfoethogi bywyd diwylliannol ei fro. Mae’n ysgolhaig uchel ei barch, yn ddarlithydd, yn diwtor, yn ddarlledwr caboledig ei arddull, yn gydolygydd y Papur Bro am dros 32 mlynedd a’i lais dwfn fel angor mewn mwy nag un côr yn ei ardal.

Randal Isaac, Rhydaman. Rhoddodd yn hael o’i amser i gefnogi diwylliant Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Bu’n flaengar gyda dysgu’r iaith i oedolion gan wasanaethu yn y cymoedd ac yn yr Unol Daleithiau. Ymddiddorodd mewn dawnsio gwerin, yn arbennig mewn clocsio. Bu’n galw twmpathau dawns ledled y wlad ac yn gyd-sylfaenydd Clwb a Gwyl Werin Rhydaman.

Denzil Ieuan John, Caerffili. Bardd, llenor, darlledwr a gweinidog disglair ei ddoniau. Y mae ei gyfraniad mewn llu o wahanol swyddogaethau o fewn enwad y Bedyddwyr ac ar gyrff rhyngenwadol cenedlaethol, wedi dangos sicrwydd ei arweiniad. Yn sylfaenydd a golygydd Papur Bro Caerffili y mae ei egni yn allweddol ym myd drama a chorau lleol ardal Caerdydd.

David Sulwyn Jones, Llanegryn. Llwyddodd, yn sgil ei frwdfrydedd a’i amynedd a’i hiwmor i gael pobl i gydweithio i gryfhau’r gwerthoedd a’r sefydliadau a etifeddodd yn Llanegryn a’r cylch. Ar wahân i’w waith fel Cadeirydd yr Eisteddfod leol gwasanaethodd yn ddiflino ar nifer helaeth o bwyllgorau yn ei fro a’i weithgarwch gloyw yn amlygu ehangder ei ddiwylliant.

Dennis Brace Jones, Corris. Anodd mesur gwerth ei gyfraniad i fywyd cerddorol a diwylliannol Dyffryn Dyfi. Cafodd gefndir cyfoethog yn ei brentisiaeth yng Ngwasg y Sir yn Y Bala adeg argraffu’r Faner yno. Ond o blith ei holl gyfraniadau, ei weithgarwch cwbl unigryw yn trefnu cyngherddau safonol er budd elusennau sy’n haeddu cymeradwyaeth ei genedl, a’n diolch ni oll.

Riwanon Kervella, Llydaw. Rhoes oes o wasanaeth yn hyrwyddo’r cwlwm rhyngom fel dwy wlad. Am gyfnodau bu’n dysgu yng Nghymru ac yn Iwerddon, ac yn ei gwaith wedyn yn ôl yn Llydaw fel Cyfarwyddwraig Skol Ober a’r Kuzul ar Brezhoneg bu’n gyfrifol i raddau helaeth am yr adfywiad mewn dysgu Llydaweg. Rydym yn ddiolchgar am weithgaredd mor ddylanwadol.

Tomás MacAodh Bhui, Waterford, Iwerddon. Mae’n Gelt o argyhoeddiad. Dysgu’r Wyddeleg a wnaeth a hynny drwy ymroddiad ar aelwyd Saesneg ei hiaith. Yna dysgu’r Gymraeg, drwy lyfrau gramadeg i ddechrau, ac wedyn drwy gyrsiau yn Nant Gwrtheyrn. A bellach mae’n gyflwynydd tair-ieithog yr Wyl Ban-Geltaidd. Braint i ni heddiw yw cydnabod cefnder ieithyddol s’n caru’r Gymraeg.

Pat Neill, Cross Inn. Un o ddysgwyr enwocaf y Gymraeg. Daeth y Gwyddel hynaws hwn o Southampton i fyw yng Ngheredigion gan ymroi i ddysgu’r Gymraeg ac ymhyfrydu yn ein llên. Meistrolodd gerdd dafod i’r fath raddau nes dod yn enillydd cenedlaethol ac yn dalyrnwr peryglus. Ef yw noddwr hael barddoniaeth plant Cymru gyda “Thlws Pat Neill” yn wobr flynyddol yn y Babell Lên.

Iolo Watcyn Thomas, Caernarfon. Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y gogledd a’i brif hyfforddwr ar sgiliau erlyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Clerc Ynadon Gogledd Cymru, lluniodd gynllun iaith y Gwasanaeth hwnnw sy’n rhagori ar hawliau Deddf Iaith 1993. Drwy ei safle dylanwadol, rhoes i’r Gymraeg ei llew mewn Llys, gan fod yn ffyddlon i’w gefndir diwylliannol cyfoethog.

Dewi Hywel Tomos, Rhostryfan. Llenor sydd wedi ymhyfrydu cymaint yn nhreftadaeth ei fro nes iddo gyfoethogi diwylliant Cymru gyfan. Cyhoeddodd 17 o lyfrau amrywiol, a nifer ohonynt yn drysorfeydd o hanes a thraddodiadau lleol. Enillodd nifer o gadeiriau a medalau a gwobrau cenedlaethol a bu’n allweddol ym mhob ymgyrch i anrhydeddu Kate Roberts yn ei bro enedigol.

Myra Turner, Waunfawr. Un o gefnogwyr selocaf eisteddfodau lleol Cymru. Y mae’n arbennig o ddawnus fel adroddwraig a’i dehongliad a’i mynegiant yn ddeallus. Ymddangosodd lawer gwaith ar lwyfan y Genedlaethol gan ennill rai blynyddoedd yn ôl ar adrodd i rai dros 25. Bu’n hael ei gwasanaeth mewn cyngherddau gan ymweld â chartrefi henoed i ddiddanu’r trigolion.

John Isgoed Williams, Trawsfynydd. Ni ellid rhagori am ei ddyfalbarhad mewn gwasanaeth cyhoeddus i’w fro. Bu’n aelod ar y cyngor lleol am dros hanner canrif, ac am gyfnodau ar Gyngor Dosbarth a’r Cyngor Sir. Rhoes ei gyfraniad rhyfeddol i weithgaredd diwylliannol ac amgylcheddol Trawsfynydd ac ef yw un o sylfaenwyr a chadeirydd presennol Cymdeithas Bro a Thref Cymru.

Urdd Derwydd er Anrhydedd (Y Wisg Wen)

Mary Lloyd Davies, Llanuwchllyn. Enillodd ei lle ers blynyddoedd yng nghalon y genedl. Wedi llwyddiant ym mhrif gystadlaethau lleisiol Cymru, perfformiodd gyda chwmnïau operâu ar sawl cyfandir. Er ei bod yn parhau fel cantores broffesiynol, ymroes i gefnogi diwylliant Cymru fel hyfforddwraig lleisiol yng Nghanolfan William Mathias, ac arwain ei chôr i lwyddiant cenedlaethol.

Selwyn Evans, Yr Wyddgrug. Amlygodd dros y blynyddoedd ryw deyrngarwch ymroddgar iawn tuag at ddiwylliant ei fro, yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu ei ddulliau dyfeisgar i hybu buddiannau yr Eisteddfod yn fendith fawr mewn cyfnod anodd, ac y mae ei weledigaeth dreiddgar yn gyfraniad amhrisiadwy yng nghyfarfodydd y Bwrdd Rheoli.

Michael Farmer, Chwitffordd, Treffynnon. Cafodd y barnwr yrfa lewyrchus iawn ym myd y gyfraith a gwasanaethodd yn ddiweddar ar amrywiol dribiwnlysoedd a phwyllgorau adolygiadol. Bu’n arbennig o ddylanwadol o blaid y Gymraeg ar Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor a llwyddo hefyd i weddnewid y Bar yng Nghaer drwy fabwysiadu polisi i annog a ricriwtio Cymry Cymraeg yn aelodau.

Andrew Green, Aberystwyth. Yn frodor o Swydd Efrog, ef yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Wedi priodi merch o Gaerfyrddin aeth ati’n frwd i ddysgu’r Gymraeg ac y mae ei frwdfrydedd dros yr iaith yn esiampl ac yn ysgogiad i eraill. Er mai Archaeoleg oedd maes gwreiddiol ei ysgolheictod, cyfoethogodd fywyd ein cenedl bellach gyda’i ddisgleirdeb ym myd llyfrgellyddiaeth.

Edwin Jones, Carrog, Corwen. Anodd meddwl bellach am lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol heb Edwin. Er na ddaw i olwg cynulleidfa na chamera, ef fel rheolwr llwyfan sy’n cyfarwyddo pob symudiad ac yn cywiro’n ddirgel bob cam gwag gan berfformiwr ac arweinydd a beirniaid. Ac y mae’r cawr hwn yr un mor gyhyrog ei gynhaliaeth i ddiwylliant ei fro gyda’r Urdd a’r eisteddfodau lleol.

Eirian Jones, Carrog, Corwen. Y mae ei gwasanaeth i’r Eisteddfod yn ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer ac erbyn hyn y mae ei chyfraniad i’r gweithgaredd yn hollol greiddiol. Cyflawnodd amrywiol swyddogaethau yn cynnwys cynhyrchu a chyfarwyddo perfformiadau ym Mro Delyn, Bala a Dinbych. Mae cael ei phrofiad o’i deallusrwydd yn gaffaeliaid mawr i Gyngor yr Eisteddfod.

Evie Morgan Jones, Dyffryn Ardudwy. Mantais fawr i ardal yw cael gwr o’i ddawn a’i ymroddiad yng nghanol pob gweithgaredd. Fel aelod a Chadeirydd Cyngor Sir y mae ei gadernid o blaid y Gymraeg a’i diwylliant yn eithriadol werthfawr. Y mae galw cyson arno fel arweinydd eisteddfodau a chyngherddau drwy Wynedd a rhoes ei arweiniad treiddgar i gymdeithasau lleol a chenedlaethol.

Henry Jones-Davies, Nantgaredig. Er iddo gael addysg yn Rugby a Rhydychen y mae ei wreiddiau yng Nghaerfyrddin a T E Ellis yn un o’i hen deulu. Wedi gyrfa dramor a’i dygodd i fydoedd megis archaeoleg a thwristiaeth a ffilmio, ymgartrefodd yng Nghymru. Y mae’n genedlaetholwr o argyhoeddiad, yn sefydlydd Cambria a symbylydd amryw fudiadau i anrhydeddu Cymreictod.

David Wynn Meredith, Llanuwchllyn. Mae’n wyneb cyhoeddus y cyfryngau yng Nghymru ers degawdau. O’i gyfnod gyda’r Bwrdd Croeso, drwy ei waith graenus fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus HTV ac S4C yn ogystal â’i gynnyrch ym myd ffilm a llên a chelf a’i wasanaeth i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, bu’n lladmerydd a llysgennad taliaidd a gwreiddiol i’r Gymraeg.

Dei Tomos, Nant Peris. Y mae ei natur ddiwylliedig yn pefrio drwy ei waith cyhoeddus. Mae’n ddarlledwr dawnus a’i gyfweliadau yn dreiddgar a chynnes ac ymhyfrydwn o wrando ar ei Gymraeg graenus. Drwy ei wybodaeth eang am fyd natur ac amaeth, galwyd arno i wasanaethu ar nifer o gyrff lleol a chenedlaethol a gwelwn ei ddawn hefyd ar lwyfan yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol fel arweinydd.

Gerald Williams, Caernarfon. Tu hwn i’w swydd fel newyddiadurwr fe enillodd barch ei fro a’i ddarllenwyr drwy ogledd Cymru. Wedi bwrw ei brentisiaeth gyda phapurau’r Herald a chyfnod yng Nghaerdydd, gweithiodd i’r Daily Post am 36 mlynedd. Drwy ei adroddiadau craff a phersonol o ddiddorol, fe ddygodd Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol i aelwydydd Cymru.

Anrhydeddau 2010

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2010
isod.

Urddau’r Orsedd 2010

 
Y Cymry sydd i’w derbyn i’r Orsedd 2010

Mae nifer o Gymry yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni.

Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu derbyn er anrhydedd.

I’w hurddo fore Llun 2 Awst 2010:

Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Llenor

Mary Elizabeth Ann Davies, Aberaeron

Stephen Paul Davison, Rogerstone, Casnewydd

Mair Bebb Jones, Bangor

Llŷr Gwyn Lewis, Caernarfon

Carol Mair Thomas, Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan

Charles Wilson, Drayton, Norwich

Arholiadau’r Orsedd

Urdd Ieithydd (Gwisg Las): Mari Edwards (Mari o Nedd), Castell-nedd; Stuart Imm (Cerigle), Coedeva, Cwmbrân; Gillian Taylor Walker (Gill Caeron), Sarn Mellteyrn, Pwllheli;

Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd): David Gwynfor Samuel, Pant, Merthyr Tudful

Urdd Llên Ofydd (Gwisg Werdd): Caroline Margaret Jean Williams, Llangyndeyrn, Cydweli

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd 2009

Lleucu Fflur Hughes – Enillydd y Goron

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Trebor Lloyd Evans, Corwen, Sir Ddinbych – Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Trystan Llŷr Griffiths, Clunderwen, Sir Benfro – Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Jocelyn Freeman, Tyddewi, Sir Benfro – Enillydd Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed

Gwydion Rhys, Clunderwen, Sir Benfro – Enillydd Gwobr Richard Burton

Meggan Lloyd Prys, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Elin Williams, Cwm-ann, Ceredigion – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

Menna Cazel Davies, Pontypridd – Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Siân Melangell Dafydd, Y Bala – Enillydd y Fedal Ryddiaith

Elfyn Lewis, Caerdydd – Enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain

Lowri Davies, Caerdydd – Enillydd Medal Aur am Grefft a Dylunio

Suzie Horan, Llantrisant – Enillydd Medal Aur am Grefft a Dylunio

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008

I’w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod:

Eric Jones (Moelfryn), Pontarddulais

Rhys Jones (Rhys), Prestatyn

Rhian Medi Roberts (Rhian Medi), Llundain

Huw Williams (Huw Postman), Bwlchtocyn

I’w hurddo fore Gwener 6 Awst 2010 :

Urdd Ofydd er Anrhydedd ( Y Wisg Werdd)

Eirlys Mair Bebb

Ganwyd a’i magwyd yn Bethnal Green yn Nwyrain Llundain, lle y bu ei theulu ym myd busnes. Dilynodd hithau yrfa ym myd addysg cyn ymddeol yn gynnar a mynd i weithio i Fwrdd Croeso Cymru yn Piccadilly. Mae ei chyfraniad i fywyd Cymraeg Llundain yn enfawr trwy’r Capel, Yr Ysgol Gymraeg, Y Cymrodorion a Chymdeithas Cymry Llundain.

Dylan Cernyw

Enw cyfarwydd i garedigion yr Eisteddfod Genedlaethol a ddaw o Fae Colwyn. Mae’n delynor dawnus, yn athro teithiol ac yn aml ei gymwynasau i Eisteddfodau mawr a bach. Y mae ei gyfraniad i’w genedl yn amlwg trwy ei waith gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ac Ysgol Glanaethwy. Bu hefyd yn gefnogol iawn i’r Ŵyl Ban Geltaidd ers yr 80au.

Robert Hughes

Mae hanes y gŵr hwn o Dreharris yn un hynod dros ben. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg yn 1997 a daeth yn siaradwr rhugl ymhen byr o dro. Yn wir, daeth y Gymraeg yn rhan annatod o’i fywyd. Erbyn hyn, mae’n gonglfaen ffyniant y Gymraeg yn ei gymdeithas ym mhentref Beddllwynog, trwy sefydlu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, ac addysgu tua 50 o bobl bob wythnos. Sefydlodd hefyd lyfrgell Gymraeg yn y pentref. Mae yn awr yn ymwneud â phrosiect i ddatblygu hen gapel Beddllwynog yn Ganolfan Cymraeg.

David Bryan James

Un a roddodd oes o wasanaeth diflino i’w famiaith a’i buddiannau. Mae’n byw yng Nghaerdydd ond yn frodor o Alltwalis yn Sir Gâr. Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Uned Iaith Genedlaethol Cymru, yn Bennaeth Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yn weithgar fel Prif Arholwr Cymraeg fel Ail Iaith dros Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. Mae’n bleser gan yr Orsedd hefyd gydnabod ei gyfraniad i’r Urdd dros y blynyddoedd ac i fywyd Cymraeg Caerdydd.

Ela Jones

Rhoddodd y wraig yma o Ysbyty Ifan wasanaeth arbennig i’r Orsedd fel gwniadwraig, cynllunydd a gwneuthurwraig. Sefydlodd Gwmni Cwlwm i gefnogi’r economi leol a’r diwylliant Cymreig, trwy gynnig Gwasanaeth Priodas Gymreig. Ela Jones yw’r unig hetiwr Cymreig yng Nghymru a Phrydain. Ar ben hyn i gyd, mae’n hynod o weithgar yn y gymuned leol, yn arbennig trwy iddi ail-agor Swyddfa Bost y pentref, er budd i’r gymdeithas gyfan.

David Ryan Lee

Un arall a roddodd wasanaeth arbennig i’w fro yw David Ryan Lee o Borth Tywyn a fu’n brifathro Ysgol Gynradd Pontarddulais hyd ei ymddeoliad yn 1997. Yn ogystal â hynny, mae wedi cyflawni 30 mlynedd o wasanaeth i Gymdeithas Opera Porth Tywyn fel Arweinydd y Corws i ddechrau, ac yna o 1981, fel Cyfarwyddwr Cerdd y cwmni. Mae’n arwain Cymanfaoedd a Chyngherddau ac yn sylfaenydd “Noson Garolau yn y Gymuned” sy’n ddigwyddiad blynyddol erbyn hyn ym Mhorth Tywyn.

Edith McDonald

Cefnogodd y wraig o Chubut, Y Wladfa, pob achos Cymraeg a Chymreig yn y Wladfa ar hyd y blynyddoedd a bu’n aelod o bwyllgorau sefydliadau megis Cymdeithas Dewi Sant ac Eisteddfod y Wladfa. Adnabyddir hi yng ngorsedd y Wladfa fel ‘Edith Bryn Alaw. Anrhydeddir hi eleni drwy gael ei gwahodd i fod yn Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yng Nglyn Ebwy.

Mel Morgans

Disgrifir Mel Morgans, Rhydaman fel “dyn prysur – a Chymro i’r carn” a hawdd gweld pam wrth ystyried ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Bu’n ymwneud ag Aelwyd Aman am flynyddoedd fel Arweinydd ac yna fel ymddiriedolwr, yn aelod o Fenter Iaith Sir Gaerfyrddin ac yn hynod o weithgar fel actor a chyfarwyddwr Cwmni Drama’r Gwter Fawr. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Brynaman ac yn Gadeirydd y Papur Bro, Glo Mân.

Mair Roberts

Cafodd hyfforddiant yn Ysgol Gerdd y Guildhall ac Ysgol Lwyfan Italia Conte. Dychwelodd i Bendeulwyn yn 1966 i weithio ym myd y teledu. Yn 1970 ffurfiodd grŵp o gantorion a ddatblygodd maes o law i fod yn gôr Cantorion Creigiau. Eleni bydd y côr yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, a Mair sydd wedi arwain y côr gydol y cyfnod hwn. Mae ei chyfraniad fel beirniad ac unawdydd ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yn arwydd o’r parch sydd iddi fel cerddor amryddawn.

Gethin Thomas

Pennaeth Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli. Mae cyfraniad y gŵr o Gross Hands yn ymestyn y tu allan i ffiniau’r ysgol honno. Bu’n weithgar dros y blynyddoedd gyda mudiad y Ffermwyr Ieuanc yn lleol ac yn sirol. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth. Ef hefyd oedd Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod genedlaethol yr Urdd yn Sir Gâr yn 2007. Mae’n Arweinydd cyson mewn Eisteddfodau a Nosweithiau Llawen ac yn gyfrannwr i raglenni radio a theledu.

Ion Dafydd Thomas

Un o dref Caerfyrddin yw’n wreiddiol sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn cael ei benodi i swydd dysgu yng Nghwm Tawe. Yn dilyn cyfnod yn dysgu yn Ysgol Pantycelyn, fe’i penodwyd yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Gwynllyw Pont-y-pŵl. Mae’n llais cyfarwydd i’r rhai sy’n gwylio gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm gan mai ef yw’r cyhoeddwr swyddogol. Bu’n weithgar iawn gydag amryw o bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a Chaerdydd.

Melfyn Richard Williams

Awdur toreithiog ym myd llyfrau gwyddoniaeth i blant a meysydd llafur yw’r gŵr yma o Lanuwchllyn. Bu’n athro gwyddoniaeth yn Ysgol y Gader, Dolgellau am flynyddoedd lawer ac yn arloeswr yn yr ymgyrch i sefydlu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddodd dros 30 o lyfrau Cymraeg yn ymwneud â thestunau gwyddonol i blant. Mae’n hynod o weithgar yn ei ardal leol fel darlithydd ac ym myd y ddrama. Ef yw Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bob Owen ac mae’n olygydd a chysodwr Y Casglwr, Cylchgrawn y Gymdeithas, ers 1997.

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Jill Evans

Hyfrydwch arbennig yw cael anrhydeddu Jill Evans, Lwynypia, i’w hurddo’n aelod o Orsedd y Beirdd. Gwneir hynny’n arbennig oherwydd ei chyfraniad nodedig, yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac achos Cymru yn Ewrop. Ganed Jill Evans yn Ystrad, Cwm Rhondda. Wedi ymserchu yn y Gymraeg, yn Ysgol Ramadeg Tonypandy, lle y dysgodd hi’r iaith, graddiodd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Derbyniodd M Phil gan Gyn-Bolytechnig Pontypridd am draethawd ar gynllun arholi i oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Yn 1999 fe’i hetholwyd i Senedd Ewrop fel aelod dros Plaid Cymru. Gwyddom am ei gwaith yn ceisio sicrhau heddwch a chyfiawnder yn Ewrop a’r byd. Yn 2005, hi oedd y person cyntaf i annerch Senedd Ewrop yn Gymraeg.

Tim Rhys-Evans

Er ei fod yn byw yng Nghaerdydd cafodd ei eni yn Nhredegar Newydd sydd o fewn dalgylch yr Eisteddfod eleni. Daeth i’r amlwg fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Only Men Aloud yn dilyn llwyddiant y côr hwnnw yng nghystadleuaeth Last Choir Standing ar BBC 1 trwy Brydain. Maent bellach yn perfformio ar draws y byd ac wedi rhyddhau sawl cryno ddisg gan gyrraedd rhif un yn siartiau clasurol Prydain. Bu Tim hefyd yn Arweinydd Côr Serendipity ac fe enillodd y côr hwnnw gystadleuaeth Côr Cymru yn 2005. Erbyn hyn, mae wedi meistroli’r iaith Gymraeg a bu’n un o feirniaid corawl yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug yn 2007.

Ann Fychan

Yn wreiddiol o Lanbrynmair mae hi bellach yn byw yn Abercegir ger Machynlleth. Mae Ann yn un o bileri’r gymdeithas, yn hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru mewn Eisteddfodau mawr a bach ac yn ymwneud â phob agwedd o fywyd diwylliannol ei bro. Mae’n aelod o bwyllgor llefaru cenedlaethol yr Urdd ac o Gyngor Llefaru yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n llais cyfarwydd ar raglen Talwrn y Beirdd Radio Cymru, fel aelod o dîm llwyddiannus Bro Ddyfi.

Ian Lloyd Hughes

Fel ‘dyn y pethe yn ei fro’, y caiff y gŵr sy’n byw yn Y Bala ei ddisgrifio er ei fod yn wreiddiol o Gaernarfon. Mae’n gyn-bennaeth Ysgol Ffridd y Llyn, yn rhoi o’i amser i hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru, yn feirniad cenedlaethol ac yn arweinydd eisteddfodau. Bu’n ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith: Meirionnydd 1997 a 2009, yn ogystal â bod yn Gadeirydd Pwyllgor y Celfyddydau Gweledol. Bu’n cynnal adran bentref yr Urdd am flynyddoedd maith.

Angharad Mair

Mae hi’n byw yn Llanbedr-y-Fro ac yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr teledu Cymraeg. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r BBC, lle y bu’n cyflwyno’r rhaglen ‘Bilidowcar’ cyn symud i’r Adran Newyddion. Ym 1990 symudodd i weithio i Gwmni Agenda lle bu’n cyflwyno’r rhaglen ‘Heno’. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Angharad yn un o Gyfarwyddwyr cwmni Tinopolis ac mae hi i’w gweld yn aml ar raglen ‘Wedi 7’. Yn ogystal â bod yn un o sêr y byd teledu, mae hi’n redwraig o frig a hi oedd yr unig siaradwr Cymraeg i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau y Byd yn Athen yn 1997.

Dewi Pws Morris

Enw sy’n dod a gwên i’r wyneb yw Dewi Pws Morris, Tresaith. Fe’i ganed yn Nhreboeth, Abertawe, a daeth yn gyntaf i sylw Cymru gyfan wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau Aelwyd yr Urdd Treforys. Bu’n aelod o sawl grŵp pop, gan gynnwys Y Tebot Piws ac yna Edward H. Dafis. Mae’n actor, bardd a chomedïwr, ac enillodd wobr y cyflwynydd gorau am ei raglen ‘Byd Pws’ gan y Royal Television Society yn 2003. Mae cyfraniad Dewi Pws i’w genedl yn amlwg i bawb. Mae’n un o’r bobl brin hynny sy’n llwyddo i wneud i ni chwerthin yn iach a mwynhau ein Cymreictod.

Edwin Regan

Esgob Catholig Wrecsam. Fe’i ganed ym Mhorth Talbot a bu’n fyfyriwr ar gyfer yr offeiriadaeth yn Seminari S. Ioan, Waterford, yn Iwerddon. Wrth ymateb i’r galw i allu addoli yn Gymraeg yn y De, dechreuodd ddathlu’r offeren yn Gymraeg yn eglwys Sant Cadog yn y Bont-faen, a hynny bellach 38 mlynedd yn ôl. Mae’r Esgob Regan yn cadeirio nifer o bwyllgorau Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Yn 2009, dathlodd hanner can mlynedd yn yr offeiriadaeth.

Geraint Roberts

Enw cyfarwydd arall i garedigion yr Eisteddfod yw Geraint Roberts, Prestatyn. Graddiodd yng Ngholeg Cerdd Llundain cyn dilyn gyrfa ym myd addysg. Yn gyn-bennaeth adran gerdd Ysgol Uwchradd Emrys ap Iwan Abergele, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Bennaeth yr ysgol beth amser yn ôl. Yn ogystal â bod yn organydd o fri, mae’n Arwain Côr Trelawnyd ers naw mlynedd ar hugain, yn feirniad cenedlaethol ac yn arweinydd Cymanfaoedd. Yn aelod o Banel Sefydlog Cerdd yr Eisteddfod Genedlaethol, mae ei gyfraniad a’i ffyddlondeb i’r Eisteddfod yn arbennig iawn.

Eurwyn Wiliam

O Fynytho ym Mhen Llŷn y daw’n wreiddiol er ei fod yn byw bellach yng Nghaerdydd. Mynychodd Brifysgol Cymru Caerdydd, gan ennill gradd dosbarth 1af mewn Archaeoleg. Enillodd doethuriaeth am astudiaeth o adeiladau fferm yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Bu’n Guradur Amgueddfa Werin Cymru ac yna’n Is-Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru cyn ymddeol yn 2009. Bu yn allweddol yn trawsnewid yr Amgueddfa Werin yn amgueddfa gyfoes, berthnasol i fywyd Cymru gyfan. Cyhoeddodd nifer o lyfrau pwysig yn ymwneud ag adeiladau hynod Cymru.

Mary Wiliam

Ganwyd Mary Wiliam, yn Nhredegar, sy’n ei gwneud hi’n un o ferched bro’r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dysgodd Gymraeg, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn yr iaith yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd. Fe’i hapwyntiwyd yn ymchwilydd yn Adran y Tafodieithoedd a Thraddodiadau Llafar yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Enillodd radd MA am draethawd ar iaith lafar ardal Tafarnau Bach, Sir Fynwy. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar ddywediadau a diwylliant materol ac mae hi hefyd yn ddarlithydd poblogaidd dros ben.

Anrhydeddau 2011

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2011
isod.

Urddau’r Orsedd 2011

I’w derbyn i Orsedd y Beirdd 2011

Mae nifer o Gymry yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro.

Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu derbyn er anrhydedd.

I’w hurddo fore Llun Awst 1

Urdd Derwydd Er Anrhydedd

Tudur Hallam, Moelgastell – Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010

Glenys Roberts, Llantrisant – Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010

Grace Roberts Y Felinheli – Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2010

Yr Athro Gareth Roberts, Bangor – Enillydd Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg 2010

Richard Davies, Cwm, Glyn Ebwy – Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010

Leah Owen, Prion, Dinbych – Enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams 2010

Rhys Jones, Prestatyn (Rhys) – Yn cael ei dderbyn i Urdd Derwydd Er Anrhydedd ar gyfrif ei wasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod

Urdd Ofydd Er Anrhydedd

Catrin Angharad Roberts, Llanbedrgoch – Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009

Catrin Haf Jones, Llanarth – Enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2010

Huw Euron, Caerffili – Enillydd Gwobr David Ellis 2010

Dyfed Cynan, Caerdydd – Enillydd Gwobr Richard Burton 2010

Julia Hawkins, Crughywel – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2010

Madison Tazu, Synod Inn – Enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008

Catrin Aur, Castell Newydd Emlyn – Enillydd Ysgoloriaeth Towyn Roberts, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009

I’w hurdd fore Gwener Awst 5

URDD DERWYDD ER ANRHYDEDD ( Y Wisg Wen)

Ann Beynon

Cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yw Ann Beynon, sy’n byw yn Llandaf, Caerdydd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle Penygroes ac wedi hynny ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n adnabyddus yn y sector fusnes yng Nghymru, gan ddal swyddi blaenllaw gyda S4C, Yr Academi Gymreig ac yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Derbyniodd OBE yn 2008 am ei chyfraniad i fusnes yng Nghymru. Bu’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1996 a 2000.

Hedd Bleddyn

Daw o Lanbrynmair. Gwnaeth gyfraniad arbennig wrth hyrwyddo’r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg tra’n gynghorydd sirol a Chadeirydd Pwyllgor Addysg Powys. Mae’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Bro Ddyfi ac yn enwog am ei limrigau ffraeth. Ar hyn o bryd, ef yw Derwydd Gweinyddol Gorsedd Talaith a Chadair Powys. Gwasanaethodd ei fro dros gyfnod maith gan gefnogi’r ‘pethe’ ymhell ac agos.

Gillian Clarke

Daw’n wreiddiol o Gaerdydd, ac erbyn hyn mae’n byw yn Nhalgarreg, Llandysul. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2011 ac enillydd Medal Aur y Frenhines am farddoniaeth eleni. Mae’n cael ei chydnabod fel un o feirdd amlycaf yr ynysoedd hyn a bu’n darllen ei cherddi ac yn darlithio ar hyd a lled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Hi oedd un o gyd-sefydlwyr y Ganolfan Genedlaethol yn Nhŷ Newydd.

Rhys Dafis

Yn wreiddiol o Lansannan mae bellach wedi ymgartrefu yn y de-ddwyrain. Cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant yr ardaloedd lle bu’n byw, gan gynnwys ardaloedd de-ddwyrain Cymru a Cheredigion. Am flynyddoedd lawer, bu’n cynnal dosbarth ‘Nyddu’r Cynganeddion’ yng Ngwaelod y Garth a roddodd hwb i yrfa greadigol nifer o bobl a ddaeth yn amlwg yn y byd llenyddol. Bu’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Morgannwg ac mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gerddi. Mae’n is-gadeirydd Clwb Mynydda Cymru eleni.

Margaret Daniel

Mae eisteddfota a’r ‘Pethe’ ym mêr ei hesgyrn ers ei phlentyndod. Mae’n arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r cylch a Chôr Merched Bro Nest, corau a fu’n llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n hynod o weithgar wrth hyfforddi plant a phobl ifanc ar gyfer cystadlu mewn Eisteddfodau, mae’n feirniad o fri ac yn ffigwr hollol allweddol ym myd cerddoriaeth. Mae’i chyfraniad i gerddoriaeth Cymru yn haeddu anrhydedd yr Orsedd.

Bilo Davies

Daw’n wreiddiol o Gwm Gors ond mae’n byw yn Wrecsam ers blynyddoedd lawer. Yn beiriannydd sifil wrth ei alwedigaeth, ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Wrecsam 1977, a mawr fu’i gymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd wedi hynny, wrth i’r pwyllgor bwyso’n drwm ar ei arbenigedd. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y Pwyllgor Technegol Cenedlaethol a bu’n ffyddlon i’w gyfarfodydd ar hyd y blynyddoedd nes iddo ymddeol yn ddiweddar.

Lyn Ebenezer

O Bontrhydfendigaid y daw’r awdur a golygydd tua thrigain o gyfrolau. Yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, mae ganddo golofn wythnosol yn Y Cymro a phob yn ail wythnos yn y Cambrian News. Gwnaeth gymwynas fawr â’i fro enedigol yn ddiweddar wrth gyhoeddi cyfrol swmpus Rhwng Mynydd a Mawnog, sef llyfr o luniau ar hanes Pontrhydfendigaid a’r cylch. Mae’n weithgar yn ei fro, yn bregethwr lleyg ac yn ysgrifennydd y clwb pêl droed lleol.

Twm Elias

O Glynnog y daw’n wreiddiol ac ac ar ôl graddio mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor dilynodd gwrs ymchwil yno ac yn Aberystwyth. Ers 1979 bu’n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd ac mae bellach yn Gadeirydd ei Phanel Enwau a Gweithgor y wefan amgylcheddol. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau.

Eirlys Pritchard Jones

Un sydd wedi arloesi ym myd addysg cyfrwng Cymraeg yw Eirlys Pritchard Jones Llanbedr y Fro, Bro Morgannwg. Bu’n bennaeth Ysgol Gyfun Cymer Y Rhondda – braint bersonol iddi hi fel merch o Gwm Rhondda. Cyfrannodd lawer i gyrff addysgiadol cenedlaethol fel Adran Addysg y Llywodraeth, ACAC, Elwa, Estyn a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bu’n hynod weithgar hefyd ym myd chwaraeon a’r ddrama.

Joyce Jones

Gwraig sy’n gweithio’n ddiflino i feithrin diddordeb cyfoes mewn brodwaith yw Joyce Jones o Gwaun Ganol, Cricieth. Dros y blynyddoedd, mae brodwaith Joyce Jones wedi cael ei arddangos mewn canolfannau ym mhob rhan o’r wlad a thu hwnt. Yn 2007 fe’i dewiswyd i gynllunio gwisg newydd i’r Archdderwydd a than ei harolygaeth, rhoddwyd cyfle i hanner cant o aelodau’r Gymdeithas Brodwaith, frodio rhannau o’r wisg.

Penri Jones

Mae ei gyfraniad gwirfoddol i ddiwylliant ardal Penllyn yn amlochrog ac amhrisiadwy. Bu’n bennaeth Ysgol Sarnau, Ysgol y Parc ac Ysgol Bro Tegid cyn ymddeol. Bu’n aelod amlwg o Gwmni Drama’r Parc ac yn gefnogol i bob achos da a sefydliad diwylliannol ei fro. Bu’n ymroddedig i’r Urdd drwy’r blynyddoedd, fel arweinydd cangen ac arweinydd Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Mae’n aelod o Gôr Godre’r Aran ers dros ddeugain mlynedd ac wedi arwain cannoedd o gyngherddau’r côr, yn ogystal â chyfieithu nifer fawr o ganeuon ar eu cyfer.

Peredur Lynch

Yn frodor o Garrog, Meirionydd mae bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Cyn hynny, bu’n Gynorthwydd Ymchwil ac yna yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ei briod faes ymchwil oedd barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a chyhoeddodd swmp o’i waith yn y maes ar ffurf papurau ac erthyglau. Bu’n gydolygydd y gyfrol Gwyddionadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae’n aelod o nifer o gynghorau a phwyllgorau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd.

Nic Parry

Yn wreiddiol o Helygain, Sir y Fflint mae’n wyneb cyfarwydd iawn i Eisteddfodwyr fel arweinydd llwyfan ers nifer o flynyddoedd. Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn Yr Wyddgrug, mae’n farnwr llawn amser ar dalaith gogledd Cymru erbyn hyn ac yn uchel ei barch. Bydd llawer hefyd yn adnabod ei lais fel sylwebydd cyson ar gemau pêl droed ar Radio Cymru ac S4C, ac mae wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro.

URDD OFYDD ER ANRHYDEDD ( Y Wisg Werdd)

Enid Wyn Baines

O Fynytho yn wreiddiol bu’n ymddiddori ym myd llên a diwylliant ers pan yn ferch ifanc, ac enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1962. Cyfrannodd lawer i ddiwylliant ei bro ac i ardal Dyffryn Banw ym Mhowys tra roedd y teulu’n byw yno. Mae’n aelod blaengar o Fwrdd Rheoli Canolfan Dreftadaeth Cae’r Gors ac yn aelod o dîm Glannau Llyfni ar Dalwrn y Beirdd.

Bryn Davies

Un sy’n cyfrannu llawer i ddiwylliant Canolbarth Cymru yw Bryn Davies Llanwnog. Bu’n brifathro Ysgol Gynradd Llanidloes am flynyddoedd lawer, gan feithrin Cymreictod ei ddisgyblion drwy gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd a’r ?yl Gerdd Dant. Bu’n swyddog gyda’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ac yn flaenllaw wrth sicrhau deunyddiau gwerthfawr yn y Gymraeg. Am dros ugain mlynedd bu’n arweinydd Côr Cymysg Llanwnog ac yn un o gyfarwyddwyr Gŵyl Gerdd Gregynog.

Dai Rees Davies

Dyma enw cyfarwydd i garedigion cerdd dafod. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodau lleol a thaleithiol ynghyd â gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Ffostrasol a thîm Ymryson y Beirdd Ceredigion. Mae hefyd wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro, trwy’r eisteddfod leol a phapur bro ‘Y Gambo’. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Dwys a Digri, yn 2007.

Falmai Puw Davies

Ganwyd a magwyd Falmai Puw Davies ym Mhenfforddlas wrth odre Pumlumon. Dros y blynyddoedd datblygodd ei dawn i lefaru gan ennill mewn eisteddfodau bach a mawr. Bu’n athrawes a gorffennodd ei gyrfa fel athrawes bro ym Mhowys. Erbyn hyn, mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ac yn feirniad llefaru rheolaidd. Falmai oedd y ferch gyntaf i lywyddu Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion.

Idris Davies

Brodor o Ddyffryn Ceiriog sydd wedi bod yn arweinydd eisteddfodau a chyngherddau am flynyddoedd, ac mae’n un o sylfaenwyr Eisteddfod Glyn Ceiriog. Mae’n un o hoelion wyth Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys ac ef yw ei Llywydd ar hyn o bryd. Mae’n gynghorydd cymunedol ac yn gadeirydd Pwyllgor Neuadd Goffa Ceiriog.

Philip Davies

Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin sydd ers blynyddoedd bellach, wedi ymgartrefu yn Scotch Plains, New Jersey, Yr Unol Daleithiau. Sicrhaodd ef a’i briod Meril, mai Cymraeg fyddai iaith yr aelwyd, gan lwyddo i fagu tri o blant i siarad yr iaith yn rhugl. Mae’n un o hoelion wyth Cymry America ac ef oedd Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn 2006.

Neville Evans

Adnabyddir Neville Evans Treforgan Caerdydd fel un a gyfrannodd lawer i’r byd gwyddonol yng Nghymru. Graddiodd mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe a bu’n ddarlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymru. Bu’n Arolygydd ei Mawrhydi, gan arbenigo mewn Ffiseg a Gwyddoniaeth o 1969 a 1998. Ei brif nod yw hyrwyddo gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgrifennodd lyfrau gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion ynghyd â nifer o ddeunyddiau addysgol eraill.

Non Eleri Evans

Ganwyd Non Eleri Evans yn Y Fforest ger Pontarddulais ond mae hi bellach yn byw ym Mhentyrch, Caerdydd. Rhagorodd mewn pedwar maes gwahanol – Rygbi, Jiwdo, Wreslo a Chodi Pwysau, gan ennill ar lefel ryngwladol ym mhob un ohonynt. Enillodd 87 o gapiau rygbi dros ei gwlad, gan sgorio 64 o geisiau. Cyhoeddodd hunangofiant, Non yn Erbyn y Ffactore, y llynedd. Bu hefyd yn amlwg ar y cyfryngau Cymraeg.

Arwel Gwynn Jones

Daw Arwel Gwynn Jones, sy’n gyn-bennaeth Ysgol Bodhyfryd Wrecsam, o Rosllannerchrugog. Bu’n hynod weithgar gyda’r Mudiad Meithrin dros y blynyddoedd ac mae’n gefnogwr brwd i weithgareddau yn ei gymdeithas leol. Mae’n Gadeirydd Côr Meibion Orffiws y Rhos ac ef oedd Cadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Rhosllannerchrugog yn 2006.

Evie Jones

Yn un o Lannerch-y-medd caiff ei anrhydeddu am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol ei gymuned leol. Mae’n awdurdod ar unawdwyr ac unawdau Cymraeg ac yn gasglwr unawdau o fri. Bu’n Impresario Cymanfa Capel Ifan Llannerch-y-medd am chwarter canrif gan ddod â phrif arweinyddion a chantorion Cymru i ddiddanu’i gyd-werinwyr. Yn sgîl hynny, cododd filoedd o bunnoedd at elusennau ac achosion da.

Iona Jones

Nyrs a bydwraig sydd hefyd wedi cyfrannu i ddiwylliant ei hardal. Ym 1989, fe’i penodwyd yn bennaeth Bydwragedd ardal Caernarfon a’r cylch a bu’n aelod o Fwrdd Golygyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Bu hefyd yn gweithio gydag Awdurdod Iechyd Betsi Cadwaladr, er mwyn gwella amgylchiadau cleifion cancr. Mae’n weithgar ar lefel gymunedol fel Llywydd Cymdeithas Undebol y pentref a Llywydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Bontnewydd.

Vernon Maher

Brodor o Drefach Felindre. Mae’n adnabyddus fel arlunydd dawnus ac aelod o’r ddeuawd boblogaidd ‘Vernon a Gwynfor’, gan recordio nifer o recordiau llwyddiannus, rhaglenni radio a theledu, ynghyd â channoedd o gyngherddau ar hyd a lled Cymru. Mae’n eisteddfodwr o fri ac yn Gymro i’r carn.

Frank Olding

Daw o’r Fenni, Sir Fynwy ac mae o wedi cyfrannu llawer at ddefnydd a pharhad y Gymraeg mewn amryw feysydd yn ardal hen sir Gwent. Bu’n weithiwr brwd dros yr Eisteddfod pan ddaeth i’w ardal y llynedd, a’i gymorth a’i gefnogaeth barod yn hwb gwirioneddol i waith y Brifwyl. Mae’n fardd ac yn feirniad a chyhoeddodd gerddi ac erthyglau yn Barddas, Taliesin a’r Faner. Yn 2010 cyhoeddodd y gyfrol Llên Gwerin Blaenau Gwent.

Nigel Owens

Daw o Fynyddcerrig, ac mae’n un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol wrth ddyfarnu mewn gwledydd di-rif, gan ddefnyddio’r Gymraeg bob cyfle mae’n ei gael. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar bob math o raglenni adloniant ar S4C ac er mor brysur ydyw yn ei waith, mae’n barod iawn i gymryd rhan mewn nosweithiau i godi arian tuag at achosion da.

Margaret Rhys

Mae Margaret Rhys, Dinas Cross, Sir Benfro, yn gyfeilydd o fri. Dros y blynyddoedd, bu’n gyfeilydd i gorau Abergwaun, Newyddion Da, Ar Ôl Tri, Bois y Frenni a Pharti’r Triban. Bu hefyd yn gyfeilydd mewn eisteddfodau di-rif, yn organydd capel a chymanfaoedd ac yn gyfeilydd i lu o offerynwyr ac unigolion. Fel cyfeilydd Côr Aelwyd Crymych, bu’n llwyddiannus ar lefel genedlaethol a theithio gyda’r côr hwn i nifer o wledydd.

Elwyn Roberts

O ardal Coedllai, Sir Fflint y daw yn wreiddiol. Bu’n Bennaeth Ysgol Gynradd Bryn Gwalia Yr Wyddgrug ac wedi hynny’n Bennaeth Ysgol Gynradd Glanrafon am ugain mlynedd olaf ei yrfa. Bu’n weithgar drwy’r blynyddoedd gan wasanaethu er budd yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant.

Elizabeth Snowden

Un a fu’n fawr ei chymwynasau am flynyddoedd lawer i’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd, Cist Gymunedol Clwyd, yn drefnydd y tîm sy’n gyfrifol am edrych ar ôl bar coffi Ysbyty Gymunedol Yr Wyddgrug, lle mae’n byw, ac yn swyddog cyllid Cyngor Tref Caerwys. Bu’n gwirfoddoli yn y swyddfa docynnau ar Faes yr Eisteddfod am ddwy flynedd ar hugain.

Delma Thomas

Mae hi wedi cyfrannu llawer i fywyd diwylliannol Canolbarth Cymru. Mae’n un o hoelion wyth ei chymdeithas, yn trefnu digwyddiadau sy’n cyfoethogi bywyd Cymraeg y Canolbarth. Cyfrannodd lawer i fudiad Yr Urdd, yn sirol a chenedlaethol. Mae’n hynod o weithgar gyda phapur bro Seren Hafren, yn un o gyfarwyddwyr Menter Maldwyn ac yn arwain cynlluniau ar hyn o bryd i sefydlu ‘Diwrnod Ceiriog’ fel dathliad blynyddol.

Emyr Wyn Thomas

Wyneb cyfarwydd i eisteddfodwyr sy’n byw yn Y Tymbl Uchaf, Llanelli. Bu’n gwasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol fel stiward ers deugain mlynedd. Mae’n cynnal a rhedeg dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, yn sylfaenydd papur bro Y Garthen ac yn aelod o Gyngor Bro Gorslas. Bu’n Llywydd Cenedlaethol UCAC ac yn drefnydd de Cymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd ers 2002.

Anrhydeddau 2012

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2012
isod.

Urddau’r Orsedd 2012

Yn unol â threfniadau newydd Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, a gyflwynir am y tro cyntaf yn y Brifwyl eleni, bydd pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

O hyn ymlaen, enillwyr prif wobrau llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig, fydd yn cael eu hurddo i’r Wisg Wen. Bydd pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Bydd y rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Un a fu’n gweithio’n wirfoddol i’r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer yw Eurfyl Bowen Pontyberem, ger Llanelli. Ef yw un o’r bobl werthfawr hynny, sy’n gosod a rhedeg maes carafanau’r Eisteddfod. Mae ei gyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod yn flynyddol, yn amheuthun. (Gwisg Las)

Mae Basil Davies Y Barri wedi rhoi oes o wasanaeth i’r iaith Gymraeg ar lefel broffesiynol a gwirfoddol. Cysylltir ei enw yn bennaf â maes Cymraeg i Oedolion, lle bu’n llafurio am gyfnod o dros 30 mlynedd. Er yn frodor o Landdarog, Caerfyrddin, mae wedi byw yn Y Barri ers 1974. (Gwisg Werdd)

Mae llais soniarus y tenor poblogaidd Wynne Evans, wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt ers dros chwarter canrif. Mae’n brif denor gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ac yn ymddangos yn rheolaidd gyda chwmnïau opera eraill. Yn enedigol o dref Caerfyrddin, mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. (Gwisg Werdd)

Cafodd Betsi Griffiths ei geni a’i magu yn Y Gilfach Goch, Y Rhondda. Am bum mlynedd ar hugain, bu’n Bennaeth ymroddgar ar Ysgol Gymraeg Tonyrefail – yn wir, hi oedd Pennaeth cyntaf yr ysgol hon. Mae hi hefyd yn weithgar yn ei bro, gan wasanaethu fel gohebydd lleol i Bapur Bro Tafod Elai. (Gwisg Las)

Rhoddodd Gwenda Griffith wasanaeth unigryw i’r genedl ym myd y cyfryngau ers deng mlynedd ar hugain. Un o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol, mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach. Sefydlodd y cwmni ‘Fflic’ ar ddechrau cyfnod S4C a bu’n gyfrifol am gyfresi clodwiw, megis ‘Pedair Wal’, ‘Y Tŷ Cymreig’, a ‘Cwpwrdd Dillad’. (Gwisg Las)

Mae Linda Griffiths yn enw cyfarwydd fel unawdydd gwerin ac fel aelod o’r grŵp hynod o boblogaidd ‘Plethyn’. Un o Bontrobert ym Maldwyn yn wreiddiol, mae hi bellach yn byw yn Nhrefeurig, ger Aberystwyth. Bu’n diddanu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru, yn y gwledydd Celtaidd, yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ystod cyfnod o dros ugain mlynedd. (Gwisg Werdd)

Fel pob gwir grefftwr, gŵr diymhongar, dyfal a diddorol yw William Irfon Griffiths Comins Coch, Aberystwyth. Cadw gwenyn yw ei brif ddiddordeb hamdden ac fe gasglodd brofiadau hanner can mlynedd o fod wrth ei grefft, ar gyfer ei gyfrol ‘Dyn y Mêl’. Ymysg cyfraniad sylweddol y gyfrol, yw’r rhestr a’r defnydd sydd ynddi o dermau gwenynna Cymraeg. (Gwisg Las)

John Hartson yw un o’r lleisiau cyfarwydd bellach ym myd sylwebu pêl-droed yn yr iaith Gymraeg. Ar y maes, nodweddwyd ef gan ei ddewrder, ei ddycnwch a’i benderfyniad wrth chwarae dros dimau blaengar, gan gynnwys Luton, Arsenal, West Ham United, Celtic a thros y tîm Cenedlaethol. Yn dilyn triniaeth feddygol lwyddiannus, aeth ati i lansio Sefydliad John Hartson er mwyn codi arian a hyrwyddo ymwybyddiaeth achos Cancr y Ceillau. (Gwisg Las)

Ers blynyddoedd, bu Bethan Wyn Jones yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru ar raglenni byd natur. Bu’n gyfrifol am raglenni megis ‘Awyr Agored’ a ‘Gweld Llais a Chlywed Llun’ ynghyd â’r rhaglen ‘Galwad Cynnar’ ar fore Sadwrn. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn cyflwyno agweddau o fyd natur mewn ffordd glir a darllenadwy. Ynys Môn yw ei ‘milltir sgwâr’ ac mae darllen am ei phrofiadau yn cerdded yr arfordir ym mhob tywydd yn hudolus. (Gwisg Las)

Carwyn Jones yw Prif Weinidog Cymru ers 2009. Mae’n aelod o’r Cynulliad dros Pen-y-bont ar Ogwr, ers 1999 a bu’n Weinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg rhwng 2007 a 2009. Yn fargyfreithiwr o ran galwedigaeth, bu’n gwasanaethu yn Siambrau Gŵyr yn Abertawe am ddeng mlynedd. Mae ganddo ddiddordeb eang ym myd chwaraeon, yn enwedig rygbi, lle y mae’n gefnogwr selog o’i dîm lleol ym Mhen-y-bont. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Elin Ellis Jones i fyd Meddygaeth Iechyd Meddwl dros y blynyddoedd, yn un sylweddol. Mae hi’n seiciatrydd a fu’n gweithio yn Ysbytai Gogledd Cymru ac yn Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy. Un o Lŷn ydyw ac mae hi’n ymfalchïo yn ei magwraeth ddiwylliedig yn y gymdeithas hon. Fel trysorydd y Gymdeithas Seiciatryddol yng Nghymru, llwyddodd i Gymreigio gweithgareddau’r gymdeithas honno. (Gwisg Las)

Treuliodd Gareth Davies Jones ei holl yrfa ym myd addysg. Bu’n ymgynghorydd y Gymraeg yn Sir Ddinbych rhwng 1967 a 1971 ac yna’n Arolygwr ei Mawrhydi hyd 1997. Mae’n un sydd yn cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymraeg tref Wrecsam ac yn aelod blaengar o Gyngor Llyfrau Cymru ers 35 o flynyddoedd. Bu’n weithgar iawn ar bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011. (Gwisg Las)

Un a fu’n feddyg teulu yng Nghaernarfon am dros 30 o flynyddoedd yw Gareth Parry Jones. Am gyfnod bu’n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, cymdeithas sy’n cynnal Cynhadledd Addysg Feddygol trwy gyfrwng y Gymraeg yn flynyddol. Fel tiwtor addysg barhaol, bu’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd addysgiadol i feddygon teulu yng Ngwynedd. Trwy gydol ei yrfa, bu’n ddiflino yn ei ymdrech i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y proffesiwn meddygol. (Gwisg Las)

Enillodd Stephen Jones 104 o gapiau dros dîm rygbi Cymru yn safle’r maswr. Mae’n Gymro i’r carn ac wedi bod yn was ffyddlon a phoblogaidd i’w gamp a’i wlad, ac yn un sydd wedi sbarduno a chynorthwyo chwaraewyr ifanc. Mae wedi bod yn llysgennad ardderchog yn rhyngwladol dros y Llewod yn 2005 a 2009 ac wedi ymddangos dros 200 o weithiau dros y Sgarlets gan sgorio 2000 o bwyntiau. (Gwisg Las)

Ann Keane yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru ers 2010. Yn dilyn gyrfa fel darlithydd mewn gwahanol golegau, fe’i penodwyd yn Arolygydd Ysgolion yn 1984, lle y rhoddodd sylw arbennig i addysg ddwyieithog ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ystalyfera a Llandysul, cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. (Gwisg Las)

Un o feibion Dyffryn Clwyd yw Meirion Llewelyn. Astudiodd feddygaeth yn Ysgol Feddygol Caerdydd, Llundain, Caergrawnt a Havard yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod ei yrfa, bu’n Niwrolegydd Ymgynghorol ac Uwch Gofrestrydd Meddygol yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd. Erbyn hyn, mae’n Feddyg Ymgynghorol mewn clefydau heintus yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymysg y gwobrau niferus a gyflwynwyd iddo, dros y blynyddoedd, mae’n hynod o falch o wobr Awdurdod Iechyd Gwent fel Pencampwr yr Iaith Gymraeg. (Gwisg Las)

Mae Noel Lloyd yn enw cyfarwydd i holl ysgolheigion ein cenedl. Bu’n Athro ar Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth cyn cael ei benodi’n Brifathro ac Is-ganghellor y Brifysgol honno yn 2004. Mae’n un sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r sector addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y cyfrifoldeb o gyflwyno a gwireddu gofynion Cynllun Iaith y Brifysgol. Ymatebodd yn frwd i’r dasg hon a bu’n gyson ei gefnogaeth a’i ddylanwad. (Gwisg Las)

Actores flaenllaw ers dechrau’r chwedegau yw Lisabeth Miles. Mae ei gyrfa ddisglair dros gyfnod maith yn parhau hyd heddiw wrth iddi ymddangos yn gyson ar ein sianel cenedlaethol. Bu’n serennu ar lwyfannau Cymru, gydol y cyfnod hwn, gan sicrhau le arbennig iddi yng nghalon y genedl. Bu hefyd yn hael o’i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac mae ei gwaith diflino dros y ‘pethe’ yng Nghaerdydd yn ganmoladwy. (Gwisg Werdd)

Brodor o Dreforys yw Densil Morgan, sydd bellach yn byw yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n Weinidog yr Efengyl am gyfnod cyn cael ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor ac yna’n Bennaeth yr Adran yn 2004. Yn 2010 fe’i penodwyd yn Bennaeth Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae’n awdur toreithiog yn y ddwy iaith a bu’n darlithio droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Las)

Cafodd Arwel Ellis Owen yrfa ddisglair yn y byd darlledu, gan ddal swyddi blaengar. Bu’n Olygydd Newyddion BBC Cymru, yn Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon, yn Gadeirydd Ysgol Ffilmiau Rhyngwladol ac yn Brif Weithredwr dros dro ar S4C. Mae’n un a gafodd ddylanwad enfawr ar fyd y cyfryngau ac yn un a dderbyniodd clod am ei waith yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cyngor Gofal Cymru ac yn Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol. (Gwisg Las)

Mae Magwen Pughe, Cemaes ger Machynlleth wedi rhoi gwasanaeth diflino i ardal Bro Ddyfi ac i ddiwylliant Cymru gyfan. Yn enedigol o Chwilog, bu’n athrawes yn Ysgol Gynradd Glantwymyn am flynyddoedd lawer. Mae ei doniau cerddorol yn amlwg, a defnyddia’r doniau hynny i gyfoethogi bywyd ei chymuned, yn arweinydd Côr Gore Glas ac yn hael o’i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc y Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd yr Urdd. (Gwisg Werdd)

Un a fu’n gweithio’n ddyfal yn ardal ddifreintiedig Penrhys yn Y Rhondda ers un mlynedd ar hugain yw Sharon Rees. Yn wreiddiol o Gwmtawe, bu’n hynod o weithgar ym myd addysg gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin, yn wirfoddolwraig gyda phobl ag anghenion arbennig ac ers 1991, yn Weithiwr Addysg ym Mhenrhys. Mae ei gwasanaeth a’i hymrwymiad i’r gymuned hon yn hollol unigryw ac mae hi yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymreictod y bobl ifanc yn ei gofal. (Gwisg Las)

Cymro Cymraeg a ymfalchïodd yn ei wreiddiau a’i iaith gydol ei yrfa fel pêl-droediwr yw Iwan Roberts. Un o Ddyffryn Ardudwy yn wreiddiol a adawodd ei gartref yn un ar- bymtheg oed i ymuno â chlwb pêl-droed Watford. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda chlwb pêl-droed Norwich a thîm cenedlaethol Cymru. Ers ei ymddeoliad fel chwaraewr, mae’n sylwebydd craff ar raglenni chwaraeon BBC Cymru, bob amser yn fodlon rhoi o’i amser i hyrwyddo chwaraeon ac i gefnogi cymdeithasau diwylliannol ei fro. (Gwisg Las)

Yn enedigol o Gaerdydd, daeth Huw Stephens i amlygrwydd yn 1999 wrth iddo gael ei ddewis i fod yn un o gyflwynwyr Radio 1 ar raglen ranbarthol Cymru’r orsaf, y DJ ieuengaf erioed i weithio i’r orsaf. Mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny ac yn ystod ei raglenni, mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg iawn. Mae’n parhau i ddarlledu yn y Gymraeg ar orsaf Radio Cymru ac yn 2007, sefydlodd Ŵyl Gerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd sef Gŵyl Sŵn. (Gwisg Werdd)

Un a gyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol Penybont Ar Ogwr a Phorthcawl yw Gwerfyl Thomas. Bu’n athrawes frwdfrydig yn Ysgol Gymraeg Maesteg ac yn hynod o weithgar gyda chapel y Tabernacl. Bu’n aelod sylfaenol o gôr Merched y Fro ac fe gyfrannodd yn helaeth at sefydlu’r Papur Bro ‘Yr Hogwr’. Mae’n aelod brwd o Gymdeithas Lenyddol Porthcawl ac yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. (Gwisg Las)

Bu Dyfrig Williams yn gweithio’n wirfoddol i’r Eisteddfod Genedlaethol ers 1996, gan gymryd y cyfrifoldeb blynyddol o redeg maes carafanau’r Eisteddfod. Yn ogystal â gofalu yn ymarferol am redeg y maes ac arwain tîm o wirfoddolwyr drwy’r wythnos, mae o hefyd yn cynghori ar gynllun y maes a materion yn ymwneud â diogelwch. Bu hefyd yn gyfrifol am gynllunio a chynghori ar gynnwys cwrs hyfforddiant i’r stiwardiaid gwirfoddol. (Gwisg Las)

Fel ‘talp o graig gadarn’ y disgrifir Gwynne Williams Dyffryn Nantlle. Treuliodd ei oes fel gŵr busnes llwyddiannus gan wasanaethu ei ardal yn helaeth.Treuliodd ei grŵp “Hogiau’r Delyn” rhwng 1969 a 1975 gan ddiddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru.Ar hyd ei oes, mae wedi cynnig gwasanaeth gwirfoddol ac eang i’w ardal mewn amrywiol feysydd. Un o’i ddiddordebau pennaf yw ‘Seindorf Arian Dyffryn Nantlle’ a bu’n aelod ffyddlon o’r band ers 1964. (Gwisg Las)

Mae Iwan Bryn Williams yn un o brif gynheiliaid bywyd diwylliannol Y Bala a Phenllyn, gan gyfrannu’n helaeth i nifer fawr o gymdeithasau gwahanol ac amrywiol. Ymysg ei gyfraniadau, mae’n Brif Olygydd papur bro ‘Pethe Penllyn’, yn un o symbylwyr sefydlu ‘Cantref’, y ganolfan dreftadaeth ac aelod o dîm Penllyn ar Dalwrn y Beirdd. Bu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys Y Bala ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009. (Gwisg Las)

Un o Ddyffryn Aman yw Shane Williams. Dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda’i glwb lleol, Clwb Rygbi’r Aman, cyn symud at glwb Castell Nedd a’r Gweilch. Mewn gyrfa ryngwladol anhygoel, enillodd 87 o gapiau dros ei wlad gan helpu’r tîm cenedlaethol i ennill dwy Gamp Lawn. Dros Gymru, fe sgoriodd record o 58 o geisiau ac fe gynrychiolodd y Llewod mewn pedair gêm brawf yn Ne Affrig yn 2009. Mae’n Gymro Cymraeg ac yn un sy’n dangos balchder yn ei Gymreictod. (Gwisg Las)

Anrhydeddau 2013

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2013
isod.

Anrhydeddau’r Orsedd 2013

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Bydd yr unigolion a restrir isod yn cael eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod fore Gwener 9 Awst.

Un o sêr y byd pêl-droed yw Malcolm Allen, Caernarfon. Fe’i magwyd ym mhentref Llanbabo, lle y datblygodd ei ddawn i chwarae’r gêm, gan arwain maes o law at yrfa lewyrchus gydag Watford, Aston Villa, Norwich, Millwall a Newcastle United. Chwaraeodd i’r tîm cenedlaethol bedair ar ddeg o weithiau. Bellach mae’n dilyn gyrfa fel darlledwr a hyfforddwr. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Tim Baker Llanbedr Dyffryn Clwyd, i fyd y theatr yng Nghymru yn enfawr. Mae’n ddramodydd cydnabyddedig yn y Gymraeg a Saesneg, yn Gyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru ac yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ystod ei yrfa, bu’n gweithio mewn theatrau ar draws y byd, gan gynnwys cyfnod ym Mhatagonia lle bu’n gwneud ymchwil ar ei ddwy ddrama hynod lwyddiannus, The Spirit of the Mimosa ac Yr Hirdaith. (Gwisg Werdd)

Bugail wrth ei alwedigaeth yw Cerwyn Davies, Mynachlog-Ddu. Mae’n un o hoelion wyth ei ardal a bu’n un o’r bobl arloesol hynny a fu’n ymwneud â datblygiad addysg Gymraeg yn Sir Benfro. Gŵr diwylliedig ydyw, yn ymddiddori yn y pethe, fel aelod o Gôr Crymych, diacon ei gapel ac fel llefarydd cryf dros gadwraeth Cefn Gwlad. Mae’n Gadeirydd ar ‘Gymdeithas Waldo’ a ffurfiwyd rhyw dair blynedd yn ôl i gadw’r cof yn fyw am y bardd a’r heddychwr. (Gwisg Werdd)

Does dim amheuaeth bod y Cymro Cymraeg David Davies o’r Barri, yn wir seren yn ei gamp, sef nofio. Trwy ddawn, disgyblaeth a thipyn o ddewiniaeth, llwyddodd dros y blynyddoedd i guro’r goreuon yn ei faes. Cipiodd y fedal efydd yn y ras 1500m yng ngemau Olympaidd Athen yn 2004. Yn y ras nofio 10k yng ngemau Beijing, daeth o fewn trwch blewyn i hawlio’r fedal aur. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad David Leslie Davies, Cwmaman Aberdâr i ddysgu’r Gymraeg fel ail-iaith, yn wirioneddol arbennig. Bu’n athro yn Ysgol Uwchradd Merthyr o 1979 tan 2008, yn diwtor Cymraeg i Oedolion ym Merthyr a Chwm Cynon am ddeng mlynedd ar hugain ac yn un o sylfaenwyr y papur bro Clochdar. Bu ei gyfraniadau i gylchgronau a chyhoeddiadau hanesyddol yn ogystal â’i gyfraniad cwbl arbennig i’w fro, yn hynod dros y blynyddoedd. (Gwisg Werdd)

Fel un sy’n gwbl ddi-gyfaddawd yn ei ddefnydd o’r iaith Gymraeg mewn cyfarfodydd o Gyngor Sir Ddinbych y disgrifir Meirick Lloyd Davies Abergele. Bu’n gynghorydd cymuned ers 50 mlynedd ac yn un a gyfrannodd yn gyson i’r papur bro Y Gadlas ers deng mlynedd ar hugain. Mae hefyd yn cyfrannu o’i arbenigedd ym maes rheoliadau adeiladu fel is-gadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Las)

Llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru yw Merfyn Davies, Abergele. Cyfrannodd i wahanol raglenni ers 1977. Mae’n is-gynhyrchydd a pheiriannydd cylchgrawn tâp y deillion Y Gadwyn ac fe gyhoeddwyd dau lyfr o’i waith gan Wasg Carreg Gwalch, Mewn gwisg nyrs a’i hunangofiant Fy nghwys fy hun. Cyfrannodd hefyd i fudiad Yr Urdd yn ogystal â llu o gymdeithasau yn ei filltir sgwâr. (Gwisg Las)

Gwladwr hynod iawn yw Arwyn Evans, Llanfair Caereinion. Bu’n aelod, arweinydd ysbrydoledig a chennad Aelwyd Penllys ers dros deugain mlynedd. Bu hefyd yn gofrestrydd, trefnydd ac yn asgwrn cefn Côr Meibion Llanfair Caereinion yn ystod yr un cyfnod. Mawr fu ei gyfraniad i lu o gymdeithasau yn ei fro a bu’n aelod eiconig o Gwmni Theatr Maldwyn. Enillydd Tlws John a Ceridwen Huws Yr Urdd. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad neilltuol Eirlys Gruffydd Yr Wyddgrug, at ddefnydd a pharhad y Gymraeg mewn amryw o feysydd yn un hynod iawn ar lefel lleol a chenedlaethol. Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau ffeithiol a nofelau i blant dros y blynyddoedd ynghyd ag erthyglau i gylchgronau megis Llafar Gwlad, Y Faner a’r Wawr. Bu’n ddarlithydd ymroddgar i nifer o gymdeithasau led led Cymru. (Gwisg Werdd)

Un o Lwynhendy’n wreiddiol yw Enid Griffiths, Porthaethwy. Bu’n Bennaeth yr Adran Gerdd yn ysgolion Dinbych, Syr Hugh Owen a David Hughes ac yn arweinydd nifer o gorau dros y blynyddoedd. Enillodd nifer o wobrau cyfansoddi, gan gynnwys Emyn 2000 S4C, Llanddwyn, ac yn 2011 gyda Leah Owen, enillodd gystadleuaeth dathlu hanner can mlwyddiant Dechrau Canu, Dechrau Canmol. (Gwisg Werdd)

Yn ogystal â bod yn enw cyfarwydd ym myd teledu, bu Cleif Harpwood Port Talbot yn aelod o sawl grŵp pop Cymraeg, ac mae’n arbennig o adnabyddus fel prif leisydd a chyfansoddwr gyda’r grŵp arloesol Edward H Dafis. Mae’n gyfarwyddwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu ers dros chwarter canrif ac wedi cyfrannu’n sylweddol at hyfforddi to ifanc o dalent ym myd teledu Cymraeg. (Gwisg Werdd)

Mae Elvira Myfanwy Harries yn aelod gweithgar a chymwynasgar o gymuned Casblaidd, Sir Benfro. Bu ei gweithgareddau dros blynyddoedd lawer yn fodd i uno’r gymuned a meithrin talentau pobl ifanc. Saif yn gadarn dros y Gymraeg a gweithiodd yn adeiladol a chyson er budd yr iaith. Mae hi wedi parhau yn ei gweithgaredd serch iddi bron a cholli ei golwg yn llwyr tua ugain mlynedd yn ôl. (Gwisg Las)

Un a gyfrannodd yn helaeth i’w bro yw Anna Elisabeth Jones, Abersoch. Bu’n Bennaeth Ysgol Abersoch ac ail-sefydlodd gangen o’r Urdd yn yr ardal. Bu’n hael wrth roi o’i hamser a’i dawn i Aelwyd yr Urdd a’r Ffermwyr Ieuanc yn ogystal â nifer o gymdeithasau eraill yn ei hardal. Ei gweledigaeth hi a fu’n gyfrifol am sefydlu Grŵp Treftadaeth Abersoch a’r Cylch. Mae hi hefyd yn aelod blaenllaw o Gwmni Drama enwog Llwyndyrys. (Gwisg Las)

Enw cyfarwydd iawn i garedigion Cerdd Dant yw Dwynwen Jones Llangadfan, Maldwyn. Cyfansoddodd alawon penigamp, yn ogystal â gosod cyfalawon cerdd dant yn ddeallus a chreadigol. Mae hi wedi, ac yn parhau i hyfforddi plant a phobl ifanc ar gyfer eisteddfodau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â phartïon a chorau. Yn Gymraes i’r carn, mae hi’n gefnogol i’r pethe dros ardaloedd eang Maldwyn. Aelod am oes o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru. (Gwisg Werdd)

Un a gyfrannodd yn helaeth i fyd chwaraeon ac i’r iaith Gymraeg yw Iwan Gwyrfai Jones Yr Wyddgrug. Mae’n un o hoelion wyth cymdeithas Gymraeg yr ardal: yn aelod gweithgar o bwyllgor Papur Fama ers ei sefydlu, yn gynghorydd ar Gyngor Tref yr Wyddgrug, yn weithgar fel aelod o Fenter Iaith Sir y Fflint ac yn un o sylfaenwyr Siop y Siswrn. Gŵr amryddawn ydyw mewn sawl maes, yn athro ysgol Sul ac yn aelod llawn direidi o ddramâu comedi Cwmni’r Dreflan. (Gwisg Las)

Disgrifir John Arthur Jones, Llanrwst, fel un o gymwynaswyr mawr ein cenedl, yn gweithio’n wirfoddol ac yn ddi-baid dros nifer o fudiadau a chymdeithasau. Cyfrannodd yn helaeth i’r Mudiad Meithrin fel Trysorydd Cenedlaethol ers deng mlynedd ar hugain. Mudiadau eraill a fu’n elwa o’i arbenigedd yw’r Eisteddfod Genedlaethol a Phwyllgor Adnoddau Tai Clwyd. (Gwisg Las)

Mae Lois Wynne Jones Dinbych wedi bod yn gweithio yn Swyddfa’r Eisteddfod Genedlaethol ers chwarter canrif. Nid gormodiaith fyddai dweud iddi fod yn llaw dde i’r Trefnydd, nid yn unig yn ystod oriau gwaith y swyddfa ond y tu allan i’r rheini hefyd. Mae hi bob amser yn effeithiol ac effeithlon ym mhob dim a wna a hynny gyda sirioldeb di-feth. (Gwisg Las)

Fel un sydd wedi cyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cymru a’i bro y disgrifir Meinir Lynch Llangwm. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o raglenni plant sy’n ymddangos yn rheolaidd ar raglen Cyw, Sali Mali a Jac Do. Mae hi hefyd yn un o sgriptwyr Pobol y Cwm ers blynyddoedd. Canmoladwy hefyd yw ei chyfraniad i ddiwylliant ei bro ym myd cerddoriaeth gyda Eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ieuanc. (Gwisg Werdd)

Prif ddiléit Dyfrig Morgan Merthyr, yw meithrin pobl ifanc i fod yn unigolion cyflawn ac mae’n parhau yn uchel iawn ei barch gyda chenedlaethau o bobl ifanc y bu’n eu harwain. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr Gwaith Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru a bu’n gweithio i’r mudiad ers chwarter canrif. Mae ei wasanaeth i ieuenctid Cymru yn glodwiw. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Aled Owen Corwen i fyd amaeth yng Nghymru a thu hwnt yn sylweddol. Llwyddodd i gyrraedd yr uchelfannau yn y byd treialon cŵn defaid, gan fod yn bencampwr y byd ddwy waith yn 2002 a 2008, yn ogystal â phrif bencampwriaeth treialon rhyngwladol y cŵn defaid dair gwaith. (Gwisg Las)

Enw cyfarwydd iawn i garedigion cerddoriaeth yw Annette Bryn Parri, Deiniolen. Bu’n hynod o weithgar dros y blynyddoedd fel cyfeilydd i Gôr Glanaethwy ac fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion y Traeth. Bu’n gyfeilydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1999, ac yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Enillodd y Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn 1985. Cyhoeddodd ei hunangofiant Bywyd ar ddu a gwyn yn 2010. (Gwisg Werdd)

Un a fu’n gwasanaethu ei fro mewn llu o wahanol ffyrdd yw Ifor Parry Corwen. Bu’n brif stiward ym Mhafiliwn Corwen ers blynyddoedd ac yn Llywydd y pwyllgor sy’n gyfrifol am yr ŵyl ddrama yn y dref. Ers 1987, mae o wedi bod yn un o stiwardiaid yr Eisteddfod Genedlaethol gan weithredu fel Dirprwy Brif Stiward. Un sy’n rhoi ei wasanaeth yn flynyddol i’n Prifwyl ydyw. (Gwisg Las)

Un o ffotograffwyr hynotaf Cymru yw Tegwyn Roberts, Llanbedr Goch Ynys Môn. Daw yn wreiddiol o Ddolanog ym Maldwyn a dechreuodd ei yrfa gyda phapur newydd Y Cymro gan ddilyn ôl troed Geoff Charles a pharhau gyda’i waith o gofnodi holl amrywiaeth bywyd Cymru. Ers hynny mae wedi gweithio ar ei liwt ei hun gan gynnig gwasanaeth tynnu lluniau i’r cyhoedd o eisteddfodau, sioeau a digwyddiadau o bob math.

Yn ne Ontario Canada y ganed Siân Thomas, ond i deulu a oedd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Ceiriog. O’i dyddiau cynnar ymfalchïai yn ei Chymreictod a bu’n dra gweithgar o fewn Cymdeithas Cymanfa Ganu Ontario a Chymdeithas Madog. Yn bump ar hugain oed, aeth ati i ddysgu Cymraeg ac yn 1980 daeth i fyw yng Nghymru, nes iddi ddychwelyd i Canada yn 2011. Bu’n Swyddog y Celfyddydau, Celfyddydau’r Gorllewin ac yn 2004 fe’i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Trac. (Gwisg Werdd)

Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn rhan annatod o fywyd Stella Treharne, Bancffosfelen, Llanelli. Dros y blynyddoedd bu’n hynod o weithgar gyda chymdeithasau lleol megis Yr Urdd, y capel a phwyllgor y neuadd leol. Un a roddodd yn hael o’i hamser i gefnogi ac arwain pob math o weithgareddau yn ei milltir sgwâr. Yn aelod o Ferched y Wawr bu’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Cwm Gwendraeth. (Gwisg Las)

Gwasanaethodd John Watkin Ystradmeurig, Ceredigion, ei genedl a’i gornel o Gymru yn anrhydeddus a hael. Am y rhan helaethaf o’i yrfa bu’n gweithio fel cynhyrchydd, gweinyddwr a chyd-gyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol, lle y bu ei gyfraniad i raglenni blant yn nodedig. Yn ogystal â hyn bu’n arian byw o fewn ei gymdeithas leol, yn arwain ac yn hyrwyddo pob math o weithgareddau. (Gwisg Las)

Un a fagwyd yn Ninbych yw Bryn Williams. Mynychodd Goleg Llandrillo i hyfforddi fel cogydd a mireiniwyd ei grefft yng ngheginau rhai o gogyddion enwog y byd yn Llundain a Ffrainc. Ers 2006 bu’n rhedeg tŷ bwyta Odette’s yn Llundain ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar ddefnyddio cynhwysion o Gymru pan yn coginio. Erbyn hyn mae ganddo ei gyfres deledu ei hun ar S4C sef Cegin Bryn. (Gwisg Las)

Daw Claire Williams o bentref Porthyrhyd, Caerfyrddin. Dechreuodd hyfforddi ar daflu pwysau, y waywffon a’r ddisgen gyda chlwb yr Harriers yng Nghaerfyrddin, a daeth llwyddiant rhyngwladol yn sgîl ei dyfalbarhad, wrth iddi gipio’r fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain y llynedd. (Gwisg Las)

Anrhydeddau 2014

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2014
isod.

 

Anrhydeddau’r Orsedd 2014

Bu Charles Arch Pontrhydfendigaid yn Brif Sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru am ddeng mlynedd ar hugain, gan sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg ym Mhrif Gylch y Sioe. Bu Charles yn drefnydd mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn, ac mae’n awdur dwy gyfrol, Byw dan y Bwa ac O’r Tir i’r Tŵr. Cyfrannodd lawer hefyd i fyd y ddrama. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yr Athro Helmut Birkan oedd sylfaenydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, gan hybu’r Gymraeg yn arbennig yn Awstria a’r Almaen dros y blynyddoedd. Dysgodd Gymraeg tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1960. Mae wedi cyhoeddi llawer o’i ymchwil academaidd, gan gynnwys cyfrol ar hanes y Celtiaid. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Bu Hywel Wyn Bowen, Rhydaman, yn athro mewn ysgolion Cymraeg ym Mhenybont-ar-Ogwr a’r Betws, yn gyd-sylfaenydd Clwb Gwerin y Cnape ac yn drefnydd gwyliau gwerin yn yr ardal. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd a pherchennog Siop Lyfrau Cymraeg Rhydaman, “Siop y Cennen”, nes iddo ymddeol yn ddiweddar. Bu hefyd yn aelod amlwg o fand gwerin “Jac y Do” yn hyrwyddo’r traddodiad Twmpathau Dawns yng Nghymru. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Cydnabyddir Duncan Brown, Y Waunfawr, Caernarfon, yng Nghymru a thu hwnt fel un o’n prif arloeswyr a chymwynaswyr cyfoes. Fe’i disgrifiwyd fel disgybl teilwng i Edward Lhuyd, yn defnyddio’r technegau cyfoes gorau posibl i gofnodi a rhannu ag eraill gyfoeth dihysbydd o wybodaeth am fyd natur. Treuliodd ei yrfa’n gweithio ym maes natur, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau i gylchgronau byd natur. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Arfon Haines Davies, Caerdydd, yn un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac wedi gweithio fel un o brif gyflwynwyr ITV Cymru ers dros 30 mlynedd. Mae ei raglenni Cymraeg ar S4C yn cynnwys Pacio, Pen Blwydd Hapus, Cledrau, ac yn fwyaf diweddar, Pws. Mae hefyd yn ymgyrchydd di-flino dros nifer o elusennau yng Nghymru.(Gwisg Las)

——————————————————————————–

Bachgen o ardal Penybont-ar-Ogwr yw Aled Siôn Davies. Mae wedi ymddiddori ym myd chwaraeon ers yn ifanc gan gynrychioli ei wlad ym myd nofio. Yna, datblygodd ei ddiddordeb mewn athletau a daeth llwyddiant mawr i’w ran wrth iddo gipio’r fedal efydd am daflu pwysau, a’r fedal aur am daflu’r ddisgen yng ngemau Paralympaidd Llundain yn ystod mis Awst 2012. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Cafodd y fargyfreithwraig, Elwen Mair Evans o Ddyffryn Clwyd, yrfa eithriadol o lwyddiannus. Mae’n uchel ei pharch fel bargyfreithiwr ac wedi gweithio ar achosion amlwg a chymhleth. Dewisodd ymarfer ei chrefft yng Nghymru a hynny’n aml trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Mae bellach yn byw yn Abernant, Sir Gaerfyrddin. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Disgrifir Harold Evans, Llanisien Caerdydd, fel ‘Cymro i’r carn’ ar ôl meistroli’r iaith ac annog eraill i wneud. Bu’n gweithio fel colofnydd a gohebydd i’r Western Mail, gan hyrwyddo ac amddiffyn yr iaith yn rheolaidd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi cyhoeddi cyfrol ar aelodau Coleg Llanymddyfri a gollwyd yn y rhyfel. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Un o Nantlle’n wreiddiol yw Marian Evans. Bu’n brifathrawes ar ysgolion Cymraeg Rhydygrug, Mynwent y Crynwyr ac Ysgol Gymraeg Llantrisant, cyn ei phenodi’n Ymgynghorydd ysgolion cynradd. Bu’n ymwneud â’r byd cerdd-dant a’r Pethe drwy’i hoes, ac yn aelod o Gôr Cerdd Dant Lisa Erfyl ac is-arweinydd Côr Pensiynwyr Y Mochyn Du. Ddwy flynedd yn ôl sefydlodd Gôr Plant Caerdydd. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Pennaeth Busnes a Gweithrediadau Theatr Genedlaethol Cymru yw Trevor Adrian Evans Caerfyrddin. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014, a chyn hynny bu’n Swyddog Gweithredol i Undeb Amaethwyr Cymru ac yn gweithio i Fanc Barclays am 36 mlynedd. Mae’n chwarae rhan amlwg mewn nifer o gymdeithasau ar draws ei filltir sgwâr. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Un a ddysgodd y Gymraeg ar ôl symud i orllewin Cymru yw Philippa Gibson, Pontgarreg Llandysul. Ymunodd â dosbarth Cerdd Dafod a meistrolodd y gynghanedd, cyn ennill cystadleuaeth yr englyn yn ein Prifwyl, ennill Cadeiriau Eisteddfodol ac ymuno â thîm Tan-y-Groes, Talwrn y Beirdd. Mae’n cynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ardal Aberteifi ac yn un o olygyddion Papur Bro Y Gambo. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Bu Roy Griffiths, Cwm Nant y Meichiaid, Llanfyllin yn aelod o’r grŵp gwerin Plethyn, gan ymddangos ar nifer o raglenni a ryddhau amryw o recordiau.. Bu’n Brifathro Ysgol Gynradd Llanfyllin cyn ei benodi’n Ymgynghorydd Addysg ym Mhowys. Cyfrannodd lawer i addysg Gymraeg a’r Urdd trwy ei arweiniad fel Pennaeth a’i aelodaeth o Aelwyd Penllys. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Disgrifir Anita Humphreys, Brynaman Isaf, fel un a fu’n cefnogi popeth Cymraeg yn ei hardal. Bu’n ysgrifennydd a theipyddes papur bro Bro Tawe, Llais, ers dros chwarter canrif, yn ysgrifennydd Aelwyd Amanw, Brynaman ac yn ysgrifennydd Cymdeithasau Capeli Brynaman. Bu’n aelod o Gôr Brynaman am flynyddoedd lawer ac yn aelod o Gôr Eisteddfod Abertawe yn 2006. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Athrawes ymroddgar a thalentog yw Falyri Jenkins, Talybont Ceredigion. Bu’n athrawes yn ysgolion Rhydypennau a Thalybont, lle yr ysbrydolodd genedlaethau o blant i fwynhau cerddoriaeth. Cafodd Cymru gyfan gyfle i fwynhau’i doniau cerddorol mewn pum llyfr o ganeuon hwyliog a llawn hiwmor. Bu’n aelod o gwmni drama lleol Rhydypennau ac mae’n aelod o fwrdd rheoli Cwmni Theatr Arad Goch. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Dros y blynyddoedd mae Esme Jones, Crugybar, Sir Gaerfyrddin, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithgareddau ardal Bro Dinefwr. Mae wedi cymryd diddordeb arbennig yng ngweithgareddau pobl ifanc ac wedi cyfrannu llawer at ffyniant Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi. Athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi cyfnod yng Nghaerffili, daeth yn ôl i Ysgol Caio fel athrawes a Phrifathrawes uchel iawn ei pharch. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Daw Margaret Tudor Jones, Kew, Llundain yn wreiddiol o Dolgelynnen, Machynlleth, ond mae hi wedi byw yn Llundain ers dyddiau coleg, yn gweithio fel athrawes anghenion arbennig. Mae’n weithgar gyda Chymdeithas Maldwyn, Capel Cymraeg Ealing lle bu’n athrawes Ysgol Sul a’r Cymmrodorion. Mae’n un o Ymddiriedolwyr Gŵyl Machynlleth yn y Tabernacl a goruchwyliodd ddatblygiad yr Oriel Gelf bwysig yn y Canolbarth. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Tegwyn Jones, Pontrobert, Sir Drefaldwyn, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol ei filltir sgwâr yn Llanfihangel yng Ngwynfa. Yn aelod o Gyngor Sir Powys am flynyddoedd, bu’n arweinydd Côr Penllys a Chôr Meibion Penybontfawr, ac ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Mae’n aelod o Orsedd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys ac yn drefnydd cerdd yr ŵyl honno. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Brodor o Gaerfyrddin yn wreiddiol yw Stephen Jones, sydd wedi rhagori ar feysydd chwarae rygbi dros y byd yn ystod ei yrfa, gan gynrychioli Llanelli a’r Sgarlets, Clermont Auvergne, Cymru a’r Llewod. Fel Cymro, mae o’n llais pwysig yn nhîm Cymru ac yn defnyddio’r Gymraeg i gysylltu gyda’r cefnogwyr a’r chwaraewyr eraill yn aml. Mae Stephen yn parhau i fod yn hynod falch o’i wreiddiau a’i Gymreictod. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn wreiddiol o Ynysybwl, mae D. Geraint Lewis bellach wedi ymgartrefu yn Llangwyryfon, Ceredigion. Mae cyfraniad Geraint i eiriadura a gramadeg yn enfawr, ac mawr yw’r disgwyl am y gyfrol Geiriadur Cymraeg Gomer. Mae cyn-lyfrgellydd Cyngor Ceredigion hefyd wedi cyhoeddi llyfrau o ganeuon gwerin a charolau, llyfrau am enwau, blodeugerddi a llawer rhagor. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Mae Jennifer Maloney, Llandybie, Sir Gaerfyrddin, wedi rhoi ei hoes i gynnal diwylliant eisteddfodol bro Eisteddfod 2014, drwy weithio’n wirfoddol gyda phobl ifanc ardal Dyffryn Aman. Mae Jennifer yn rhedeg Aelwyd Penrhyd yn wirfoddol ers ei sefydlu yn 1976 ac mae cannoedd os nad miloedd o blant wedi elwa o’i harbenigedd. Mae Aelwyd Penrhyd yn gyfystyr â safonau uchel, yn enillwyr cyson yn yr Ŵyl Cerdd Dant, Eisteddfod Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Cyfarwyddwr Merched y Wawr yw Tegwen Morris, Aberystwyth. Mae ei phersonoliaeth siriol, ei sgiliau trefnu arbennig a’i brwdfrydedd yn ei galluogi i oresgyn pob problem a gwerthfawrogir ei gwasanaeth a’i hymroddiad llwyr gan yr aelodau. Yn ychwanegol at hyn, mae hi hefyd yn weithgar yn ei chymuned leol, ac yn gweithio’n galed dros y Gymraeg yn ei milltir sgwâr. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Helen Prosser, Tonyrefail yn Gyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg. Cyfrannodd yn helaeth dros y blynyddoedd i fudiadau cenedlaethol megis Merched y Wawr ac Eisteddfod yr Urdd. Y mae ar dân dros y dysgwyr a thros ddysgu Cymraeg. Fe frwydrodd yn galed dros hawliau’r Gymraeg, ac mae ganddi’r brwdfrydedd a’r egni i ddenu’r di-Gymraeg at ein hiaith (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Mae Beryl Richards, Llanddarog, yn un o’r bobl amhrisiadwy hynny sy’n ymroi gydag afiaith ym mhob agwedd o’i bywyd a’i gwaith, ac fe’i disgrifir yn aml fel un o bileri’r gymdeithas. Mae’n ysgrifenyddes Côr Llanddarog a’r Cylch, yn un o swyddogion Sioe Amaethyddol Cymru, yn gefnogwr brwd o’r Clwb Ffermwyr Ifanc a Neuadd Gymunedol Llanddarog. Fel athrawes yn Ysgol Llangynnwr, mae Beryl wedi gweithio’n galed i hybu sgiliau Cymraeg rhieni dros y blynyddoedd (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Arwel Roberts, Rhuddlan, bellach wedi ymddeol o’i swydd fel Pennaeth Ysgol Gymraeg Glan Morfa, Abergele, ac yn parhau’n gefnogol ac yn weithgar iawn gyda phob agwedd o’r diwylliant Cymraeg yn ardal Rhuddlan. Bu’n codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2013 yn ardal Rhuddlan a Diserth. Mae hefyd yn un o drefnwyr taith flynyddol i’r Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn ei waith fel Postfeistr am 50 mlynedd daeth Ithel Parri-Roberts yn un o gonglfeini ei gymdeithas, gan sicrhau fod Swyddfa Bost Hendygwyn-ar-Daf yn fan cyfarfod i Gymry Cymraeg y cylch. Bu’n weithgar yn rhengoedd Cymdeithas y Postfeistri i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth gyson i’r swyddogion a’r gweithwyr a chael llenyddiaeth yn ddwyieithog. Mae’n aelod o lu o gymdeithasau yn ei ardal, gan gyfrannu’n helaeth i bob un. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn enedigol o Gwmann, Sir Gâr, dychwelodd Eirios Thomas i’w sir genedigol wedi cyfnod fel athrawes, ac mae wedi bod yn yn Drefnydd Sirol i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ers 36 o flynyddoedd. Cred mewn rhoi cyfleoedd i ieuenctid feithrin talentau a sgiliau a fydd maes o law yn eu galluogi i fod yn aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas wledig. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Brodor o Faesteg yw Geoffrey Thomas sydd bellach yn byw yn Rhydychen. Mae’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant, ac yn wyddonydd amlwg gan gyfrannu erthyglau i gylchgrawn Y Gwyddonydd. Bu’n Feistr Coleg Kellogg yn Rhydychen gan sicrhau taw’r weddi fendithiol yn ffreutur y coleg yw’r englyn gan W.D. Williams, O Dad yn deulu dedwydd… (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Haf Thomas, Llanrug, yn adnabyddus fel un sydd wedi rhoi’i bywyd i gasglu arian i achosion da amrywiol gan gasglu cyfanswm o £45,000 at achosion gwahanol ers iddi ddechrau ar y gwaith. Yn gweithio i Gyngor Gwynedd, bu Haf yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau tra’n ddisgybl yn Ysgol Pendalar. Meddai un o’i chydweithwyr, “Pan mae Haf yn dod drwy’r drws mae fel pe bai’r haul yn dod i mewn.” (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Lily May Thomas, Pen-y-bont Caerfyrddin yn byw ei bywyd yn ôl arwyddair Yr Urdd, yn ffyddlon i Gymru, i’w chyd-ddyn a Christ. Mae hi wedi sicrhau sail gadarn i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul, ac wedi cefnogi eisteddfodau bach yr ardal ac Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mab fferm o Chwilog yw Gwilym Tudur yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn Lledrod, Ceredigion ers blynyddoedd. Mae’n parhau i gyfrannu at fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y pentref a’r ardal, ac mae’n ymladdwr diflino dros fuddiannau’r iaith. Ei freuddwyd fawr, ynghyd a’i wraig Megan, oedd sefydlu siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth, a daeth Siop y Pethe yn sefydliad enwog ac eiconig yn y Gymru Gymraeg. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Yn wreiddiol o Gwm Rhondda, mae Megan Tudur wedi ymgartrefu yn Lledrod, Ceredigion ers blynyddoedd lawer. Bu’n athrawes yn Ysgol Rhydfelen a Maes Garmon ac yna’n olygydd cylchgronau’r Urdd, cyn agor siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth ac fel arwydd o barch trigolion Aberystwyth, cafodd hi a’i gŵr Gwilym, y fraint o arwain Parêd Gŵyl Dewi Sant y dref eleni. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Anna Williams, Clunderwen Sir Benfro, yw ysgrifenyddes Cymdeithas Waldo ers ei sefydlu yn 2010, a bu hefyd yn gefn mawr a chadarn i addysg Gymraeg yn yr ardal fel Llywodraethwr Ysgol y Frenni, Crymych. Ers 1983 bu’n gweithio ar gystadleuaeth Canwr y Byd, a hi sydd bellach yn drefnydd y gystadleuaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf fel gŵyl rhyngwladol. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Daeth Megan Williams, Trefor, Caernarfon, i amlygrwydd ledled Prydain yn 1990 pan enillodd gystadleuaeth Gwniadwraig y Flwyddyn y cylchgrawn Vogue. .Megan oedd yn gyfrifol am greu a gwnïo gwisg newydd yr Archdderwydd yn 2008 gan ei llunio’n gywrain o sidan. Hi hefyd sydd wedi creu gwisgoedd y morynion ar gyfer seremonïau’r Orsedd yn Eisteddfod Sir Gâr eleni. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Brodor o Ynys Môn, ond bellach yn byw ym Mhenbedw, yw Merfyn Williams. Bu ei gyfraniad i Gymdeithas Gymraeg Penbedw yn enfawr ac mae’n Gyn-Gadeirydd y gymdeithas honno. Yn ogystal â hybu’r iaith dros y ffin, bu’n gyfaill mawr i’r Eisteddfod, gan roi 33 o flynyddoedd o wasanaeth fel stiward.(Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Rhian Huws Williams yn Brif Weithredwraig Cyngor Gofal Cymru. Yn enedigol o Lanefydd, mae hi’n weithgar ym maes ceisio sicrhau statws a defnydd o’r Gymraeg mewn gofal iechyd. Bu hefyd yn aelod o’r pwyllgor fu’n cynghori ar addysg Gymraeg i oedolion, ac yn helpu cynllunio gwasanaeth gofal cynaliadwy i Gymru. Mae hefyd yn aelod o gorau Cerdd Dant a Chanu Gwerin. (Gwisg Las)

 

Anrhydeddau 2016

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2016
isod.

 

Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau

 

5 Mai 2016

Heddiw (5 Mai), cyhoeddir enwau’r rheini a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, fore Gwener 5 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Gwisg Las

Roger Boore

Caerdydd yw cartref Roger Boore, a dyma le y magodd ei deulu.  Pan oedd y plant yn ifanc ar ddiwedd y 1960au, sylweddolodd cyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael ar gyfer plant a pha mor llwm oedd eu diwyg.  Felly, aeth ati i sefydlu Gwasg y Dref Wen, gan gydweithio gyda gweisg tramor er mwyn creu cynnwys apelgar, dylunio lliwgar a diwyg safonol, gan gychwyn cyfnod newydd yn hanes cyhoeddi plant yng Nghymru.

Rhiannon Davies

Mae Rhiannon Davies, Llanelen, Y Fenni, wedi cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg yn Sir Fynwy.  Mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr o safbwynt cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn lleol yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  Mae hi hefyd wedi llwyddo i bontio’r gwaith mae wedi’i wneud i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad â’i gwaith yn y Bwrdd Iechyd, drwy amryw o ffyrdd, gan gynnwys meithrin cysylltiadau gydag ysgolion Cymraeg lleol er mwyn annog disgyblion Cymraeg eu hiaith i ddilyn gyrfa yn y GIG.

Robin Harries Aled Davies

Bu Robin Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw, yn weithgar dros y Gymraeg yn ardal Trefynwy am flynyddoedd lawer.  Yn ogystal ag arwain y gwaith codi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni, bu Robin yn olygydd y papur bro, Newyddion Gwent, am ddegawd, ac roedd hefyd yn aelod o’r grŵp a sefydlodd Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn 2008.  Roedd yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch, ac yn chwarae rhan flaenllaw a phwysig yng Nghymdeithas Gwenynen Gwent, gan wasanaethu fel ysgrifennydd ers 2008.

H Ellis Griffiths

Mae Hywel Ellis Griffiths, Dinas Powys, yn bennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw ers 2006, a’i weledigaeth yw creu unigolion cwbl ddwyieithog sy’n ymfalchïo yn eu hunaniaeth a’u treftadaeth, gyda’r weledigaeth hon yn cael ei throsglwyddo i ddisgyblion a’u rhieni.  Mae gwaith Hywel Ellis Griffiths yn hyrwyddo’r Gymraeg a’r cysyniad o siarad yr iaith fel braint a chyfle wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc, ac erbyn hyn mae bron i 1,000 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd ei hun yn gymuned Gymraeg bywiog a llwyddiannus, ac yn cyfrannu’n sylweddol at agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith.

Brian Jones

Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin yw pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell, darparwr bwydydd mwyaf Cymru erbyn hyn, sydd hefyd yn gweithredu mewn rhannau o Loegr.  Sefydlodd y cwmni wrth arallgyfeirio ar ôl cyfnod yn amaethu ar y fferm deuluol, Castell Howell.  Mae’r cwmni’n enwog am hyrwyddo bwydydd o Gymru, ac mae Brian a’r cwmni hefyd yn adnabyddus am gefnogi pob math o gymdeithasau a sefydliadau Cymreig, yn enwedig y rheiny sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.  Bydd Brian Jones hefyd yn Llywydd y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf, wrth i Sir Gaerfyrddin noddi’r Sioe’r flwyddyn honno.

Emyr Wyn Jones

Mae Emyr Wyn Jones, Rhos y Gwaliau, Y Bala, yn adnabyddus fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru o 2011-15.  Gwasanaethodd yr Undeb yn gwbl ddiflino, gan roi arweiniad clir a chadarn yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.  Roedd yn gydwybodol ac yn ymroddedig dros yr egwyddorion y seiliwyd yr Undeb arni.  Mae’n weithgar gyda nifer o fudiadau a chymdeithasau amaethyddol ers blynyddoedd, ac mae wedi ennill amryw o wobrau ac wedi’i anrhydeddu gan wahanol gyrff a chymdeithasau yn y byd ffermio yng Nghymru.

Richard Jones

Mae Richard Jones, Wrecsam, yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol fel pencampwr a llais plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol ychwanegol, yn benodol ym maes Syndrom Down.  Bu’n ddylanwadol iawn wrth gydweithio gyda phlant, eu rhieni a Mencap i sicrhau cynhwysedd i blant gyda Syndrom Down, gan gynnwys ymgyrchu er mwyn eu galluogi i fynychu cylchoedd meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd prif-lif.  Yn bennaeth cyntaf Ysgol Gymraeg Hooson, Rhosllannerchrugog, mae hefyd yn gerddor talentog ac yn gyfeilydd amlwg, ac yn cefnogi pob elfen o’r Pethe yn y dref ac ar draws y fro.

Elin Maher

Mae Elin Maher, Casnewydd, yn un o gefnogwyr mwyaf y Pethe a’r Gymraeg yn y de ddwyrain.  Trwy ei hymroddiad, dycnwch a’i gweledigaeth, mae Elin wedi sefydlu a llywio Menter Casnewydd, gan ennyn brwdfrydedd ynghylch y Gymraeg yn barhaus.  Mae’n drefnydd gweithgareddau Cymraeg yn y ddinas, yn gyfrannwr pwysig i Gapel Mynydd Seion, yn athrawes ac wedi bod yn amlwg ei chyfraniad a’i chefnogaeth i addysg Gymraeg ar draws yr ardal.  Bu’n ymgyrchu’n galed dros sefydlu Ysgol Gyfun Gymraeg Is Gwent a hi yw Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol a fydd yn agor ei drysau fis Medi nesaf.

Aled Wyn Phillips

Bu disgos Aled Wyn yn rhan o’r sin Gymraeg ers diwedd y 70au, gydag Aled Wyn Phillips, Caerdydd, wrth y llyw. Ers iddo symud o’r Rhos yn yr 80au i weithio fel pennaeth trêls S4C; ei angerdd y tu allan i’r gwaith yw hyrwyddo’r Gymraeg, gan gadeirio amryw o bwyllgorau, trefnu, cynhyrchu, bod yn DJ neu ddarparu adnoddau goleuo a sain mewn amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol. Bu hefyd yn gadeirydd Clwb y Diwc, criw cymdeithasol a fu’n hyrwyddo a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn y brifddinas, ac a sefydlwyd yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal yn 2008.

Ken Rees

Anrhydeddir Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf am ei gyfraniad arbennig dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, ac yn arbennig i Ganolfan Hywel Dda dros gyfnod o flynyddoedd lawer.  Yn gyn-athro yn Ysgol Dyffryn Taf, mae Ken Rees yn rhan annatod o’i gymuned leol a’i ymroddiad i’r Ganolfan fel garddwr, gofalwr, saer, tywysydd, gohebydd a’r trefnydd cyrsiau, yn amhrisiadwy.  Yn lladmerydd cryf dros dwristiaeth a thros ei ardal, mae Ken wedi trefnu amryw o arddangosfeydd dros y blynyddoedd, gan godi statws a phroffil Cyfreithiau Hywel a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’u pwysigrwydd yn hanes Cymru.

Philip Brian Richards

Mae Ei Anrhydedd y Barnwr Philip Brian Richards, Aberpennar, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth ym maes y Gyfraith, a hyn ym mlwyddyn ei ymddeoliad.  Dysgodd y Gymraeg fel ail iaith, ac mae nid yn unig yn llywyddu dros achosion yn y Gymraeg, ond hefyd wedi gweithredu fel Cadeirydd is-bwyllgor Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg ar ddau achlysur.  Bu hefyd yn weithgar ym mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg ac wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn amryw o ysgolion Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd.

Elizabeth Saville Roberts

Roedd 2015 yn flwyddyn arwyddocaol i Liz Saville Roberts, Morfa Nefyn, wrth iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd.  Hi yw aelod benywaidd cyntaf y Blaid yn San Steffan.  Yn wreiddiol o Lundain, dysgodd Liz Saville Roberts Gymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru fel gohebydd newyddion gyda chwmni’r Herald.  Bu’n gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor am flynyddoedd, yn cefnogi a hyrwyddo datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith oed ôl-16, a than ei hethol yn AS, roedd yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai. 

Sue Roberts

Magwyd Sue Roberts, Pwllheli, ar aelwyd ddi-gymraeg yng Nghaerdydd, ac ychydig iawn o Gymraeg oedd yn ysgolion Catholig Caerdydd yn ystod ei dyddiau ysgol.  Aeth ati i ddysgu Cymraeg ar ei liwt ei hun gyda chefnogaeth dosbarthiadau yn Aelwyd yr Urdd a chymydog yn lleol.  Bu’n gydlynydd y Cylch Catholig ers 20 mlynedd, gan weithio’n galed i ddod â’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r Eglwys a’r Eglwys yn rhan o’r bywyd Cymraeg.  Mae’i chyfraniad yn cynnwys cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithgareddau’r Eglwys, yn ogystal â threfnu llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau o bob math dros y blynyddoedd.

Ceri Thomas

Bu Ceri Thomas, Y Fenni, yn weithgar ym mywyd Cymraeg ardal Y Fenni ers blynyddoedd.  Yn Gadeirydd Eisteddfod y Fenni am bron i ddegawd hyd at 2011, mae’n parhau yn weithgar ac wedi defnyddio technoleg a ffyrdd newydd o gyfathrebu er mwyn cyrraedd cystadleuwyr o bob oedran.  Yn wreiddiol o Abergele, mae Ceri’n rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Y Fenni, ac mae hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle’n greiddiol i fywyd Ceri.,  Mae hi wedi gweithio’n ddiflino trwy adegau anodd er mwyn cryfhau Cymreictod y Fenni a dylanwad Cymreig a Chymraeg ei gweithleoedd.

Gwenda Thomas

Bu Gwenda Thomas yn Aelod Cynulliad ers y cychwyn, gan gynrychioli etholaeth Castell-nedd am ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, a chadeiriodd adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru.  Yn ogystal, bu’n Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.  Yn ystod ei chyfnod, bu’n gweithio’n ddiwyd er mwyn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Drwy gydol ei chyfnod fel rhan o’r Cynulliad bu Gwenda Thomas yn ymroddedig i wella pethau er mwyn y bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

John Gordon Williams

Mae John Gordon Williams yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Lerpwl ers blynyddoedd.  Bu’n Feddyg Ymgynghorol mewn Resbiradaeth yn ysbytai’r ardal tan ei ymddeoliad, a bu’n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, gan ddarlithio yn ei chynadleddau amryw o weithiau.  Dros y blynyddoedd, cyfrannodd i weithgareddau a chymdeithasau Cymreig Lerpwl, a bu’n weithgar ym mharatoadau Gŵyl y Mimosa yn y ddinas y llynedd.  Yn ogystal, cyfrannodd yn gyson i bapur bro Glannau Mersi a Manceinion, Yr Angor.  Yn wreiddiol o Gaergybi, cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Môn yn ddiweddar.

Gwyneth Williams

Bu Gwyneth Williams, Pontsenni, yn eithriadol o gefnogol i iaith a diwylliant Cymru drwy’i hoes ac yn weithgar iawn yn y maes eisteddfodol.  Llefaru yw ei maes hyfforddi, ac mae wedi treulio blynyddoedd yn hyfforddi ac yn cefnogi cenedlaethau o blant a phobl ifanc yn y grefft.  Braf yw gweld cynifer o ieuenctid yr ardal yn llwyddo ar lwyfannau eisteddfodau lleol yn ogystal â chenedlaethol.  Bu Gwyneth Williams yn ohebydd i’r papur bro lleol, Y Fan a’r Lle ers ugain mlynedd ac mae’n weithgar iawn gyda nifer o fudiadau ar draws y fro. 

Dafydd Wyn

Mae’r gymuned a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni’n rhan bwysig o fywyd Dafydd Wyn, Glanaman, a bu ei gyfraniad i’r gymuned honno’n fawr dros y blynyddoedd.  Yn un o sylfaenwyr y papur bro Glo Mân bron i ddeugain mlynedd yn ôl, bu’n golofnydd cyson yn y papur hwnnw dros y blynyddoedd.  Ef oedd yn gyfrifol am gychwyn Cylch Darllen Llyfrau Cymraeg Llyfrgell Rhydaman, ac mae’n parhau i gyd-redeg y cynllun hwn hyd heddiw.  Mae’n gynghorydd cymuned, a bu’n Faer Cwmaman ddwywaith dros y blynyddoedd.  Mae’n fardd ac yn enillydd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol.

 

Gwisg Werdd

Carole Collins

Aeth Carole Collins, Prion, Dinbych, ati i ddysgu Cymraeg iddi’i hun a’i gŵr, magu ei phlant yn Gymraeg a rhoi oes o wasanaeth yn hybu ac addysgu’r Gymraeg i genedlaethau o blant y gogledd ddwyrain.  Yn frwdfrydig dros yr iaith a diwylliant Cymru ers yn ifanc, llwyddodd Carole i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal, ac mae’n gweithio fel athrawes fro yn Sir y Fflint, yn gyfrifol am gynlluniau addysgu’r Gymraeg mewn 16 o ysgolion cynradd a 3 ysgol uwchradd.  Dyma wraig sy’n hybu’r Gymraeg pob cyfle posibl drwy’i gwaith ac yn ei bywyd personol.

Martha Davies

Brodor o UDA yw Martha Davies, Lincoln, Nebraska, ond mae ei Chymreictod yn gryf, a bu’n weithgar yng nghymuned Gymreig Gogledd America ers bron i hanner canrif.  Daeth i fyw i Gymru am bedair blynedd, a dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth cyn dychwelyd i’r UDA lle bu’n gweithio fel archifydd, llyfrgellydd a chyfieithydd nifer o lyfrau a dogfennau Cymreig.  Gyda’i gŵr, Berwyn Jones, mae’n rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska, sy’n derbyn pob math o ddogfennau, llyfrau ac arteffactau o gartrefi a chapeli Cymreig dros y wlad.  Mae hefyd yn gyfrifol am ddigideiddio dau o bapurau newydd Cymreig Gogledd America sef Y Drych a Ninnau.

Jennifer Eynon

Yn wreiddiol o Gricieth, mae Jennifer Eynon yn byw yn Wrecsam ers hanner canrif, ac mae’n un o hoelion wyth yr iaith a diwylliant yn yr ardal ers blynyddoedd.  Mae’n hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru ar gyfer cyngherddau, gwasanaethau ac eisteddfodau, ac yn cael pleser mawr o wneud hynny, a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Llefaru’r Eisteddfod yn Wrecsam a’r Fro yn 2011.  Mae hefyd yn codi arian i Hosbis Tŷ’r Eos ers blynyddoedd lawer, ac yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal er mwyn gwneud hynny, gan roi llwyfan newydd i’r rheiny sydd am berfformio yn y Gymraeg yn lleol.

Gruffydd John Harries

Cerddor sydd wedi gweithio gydag ystod eang o ensembles yw Gruffydd John Harries (Griff), Mwmbwls, Abertawe.  Mae ganddo brofiad gydag amryw o gerddorfeydd amlwg ac mae hefyd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau dros y blynyddoedd.  Mae llawer o’i waith yn ymwneud gyda’r byd teledu, gyda’r mwyafrif o’i waith ar gynyrchiadau Cymraeg.  Roedd yn gerddor cysylltiol i’r ffilm lwyddiannus ‘Dan yr Wenallt’ yn ddiweddar.  Mae’n gerddor heb ei ail ac yn un sydd bob amser yn barod ei gymwynas i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymru.

Anne Hughes

Y ddawns werin Gymreig yw maes diddordeb Anne Hughes, Tongwynlais, Caerdydd, a bu’n gweithio’n ddiwyd er ei budd am flynyddoedd lawer.  Yn un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent, roedd hi hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd Dawnswyr Gwerin Penyfai, ac mae’n parhau’n aelod o’r grŵp.  Yn 2012, roedd hi’n gyd-gyfrifol am ddethol a dysgu’r Ddawns Flodau yn Eisteddfod Bro Morgannwg, ac ers hynny, mae Anne wedi parhau mewn rôl ymgynghorol i’r hyfforddwyr.  Mae’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a phaneli dawns yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ac yn ysgrifennydd Gŵyl y Cwlwm Celtaidd, Porthcawl.

Ken Hughes

Byddai gwaith yr Urdd yn ardal Rhanbarth Eryri wedi bod yn llawer anoddach heb bresenoldeb a chefnogaeth Ken Hughes, Cricieth, dros y blynyddoedd.  Yn athro a phennaeth cynradd am dros 40 mlynedd, cafodd cenedlaethau o blant gyfle i berfformio dan ei ofal.  Bu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 2012, a bu hefyd yn ysgrifennydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1990.  Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd pwyllgor gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd eleni.  Mae’n feirniad eisteddfodol ac yn un sydd wedi cyfrannu llawer i i ddiwylliant ei ardal dros y blynyddoedd.

Gwyn Elfyn Lloyd Jones

Mae Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli, yn adnabyddus i wylwyr S4C fel y cymeriad Denzil yng nghyfres Pobol y Cwm.  Er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, Cwm Gwendraeth oedd ei gartref drwy’r blynyddoedd.  Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chadeirydd menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli, ac yn weithgar gyda’r clwb rygbi lleol, gan hyfforddi timau ieuenctid am flynyddoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Erbyn hyn mae’n Weinidog ar Gapel Seion Drefach, gyda’r Ysgol Sul a’r oedfaon yn ffynnu unwaith eto dan ei ofal.  Actor, gweinidog, Cymro gwladgarol a dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd a diwylliant Cymru.

Megan Jones

Bu Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth, yn ddiwyd iawn ei chefnogaeth i nifer fawr o fudiadau dyngarol yng Ngheredigion, gan godi miloedd i elusennau ac achosion da.  Mae’n cefnogi digwyddiadau diwylliannol yn ardal Aberystwyth, yn gadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac yn gyfrwng i ail-gychwyn yr Eisteddfod yn Aberystwyth.  Mae hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.  Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar o’i changen leol o Ferched y Wawr ac wedi bod yn llywydd droeon.  Bu hefyd yn Llywydd Rhanbarth Ceredigion y mudiad o 2013-15.

Siân Lewis

Un o bobl Caerdydd yw Siân Lewis, ac wedi gweithio’n galed dros ei dinas drwy’r blynyddoedd.  Ymunodd â Menter Iaith Caerdydd bron i bymtheng mlynedd yn ôl, ac mae’r Fenter wedi datblygu a ffynnu dan ei gofal, gyda gweithgareddau Cymraeg wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y cyfnod.  Mae gŵyl flynyddol Tafwyl yng Nghastell Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr gan roi cyfle i ddegau o filoedd o bobl i fwynhau ystod eang o ddigwyddiadau, a datblygiad diweddar Yr Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas yn ychwanegiad cyffrous i fywyd Cymraeg y brifddinas.  Mae egni, gweledigaeth a dyfalbarhad Siân wedi bod yn rhan hollbwysig o’r llwyddiant hwn.

Wyn Lodwick

Mae Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli, yn adnabyddus i bawb fel ‘Y Dyn Jazz’.  Cafodd yrfa eithriadol lwyddiannus yn y byd jazz,a chyfle i deithio’r byd yn perfformio, a bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu dros y blynyddoedd.  Y clarinet yw offeryn Wyn, ac mae’n gerddor amryddawn, sydd wedi gosod tonau a chaneuon Cymraeg a Chymreig i steil jazz.  Mae hefyd wedi darlithio’n helaeth ar hanes ac ystyr jazz, ac wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ruth Lloyd Owen

Mae Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst, yn berson gweithgar a brwdfrydig sydd wedi cyfrannu llawer dros yr iaith a diwylliant yn ei hardal.  Mae’n athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi hyfforddi a chyfeilio i nifer fawr o blant a phobl ifanc yn yr ardal dros y blynyddoedd.  Bu’n cyfeilio i Gôr Merched Carmel am flynyddoedd ac mae’n parhau i gyfeilio i Gôr Genod y Gân.  Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig ddawnus, a hi sy’n gyfrifol am anthem Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Gobaith yn y Tir. 

Dafydd Meirion Roberts

Mae Dafydd Meirion Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon, yn brif weithredwr cwmni recordio Sain, ac yn aelod o’r grŵp poblogaidd Ar Log.  Mae cyfraniad Dafydd i fyd cerddorol Cymraeg yn adnabyddus, ac mae wedi gweithio’n galed dros hawliau a thelerau teg i gerddorion o Gymru drwy gwmni Eos.  Bu hefyd yn rhan o fwrdd y Welsh Music Foundation, yn cefnogi cerddorion Cymru ac yn llwyddo i ddenu WOMEX i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl.  Mae Dafydd hefyd wedi gweithio’n ddiflino dros ddiwylliant a’r iaith yn ei gymuned gan sicrhau bod cannoedd o blant a phobl ifanc yn elwa o gyfleoedd i berfformio.

Godfrey Wyn Williams

Mae Godfrey Williams, Trefor, Llangollen, yn fwyaf adnabyddus fel cyn-berchennog yr orsaf radio Marcher Sound a wasanaethai ardal Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru.  O dan ei arweiniad ef, trowyd Marcher Sound yn Sain y Gororau, gan roi lle amlwg a theilwng i’r Gymraeg a rhaglenni Cymraeg ar ei thonfeddi.  Ar ôl gwerthu’r orsaf, cafodd gyfle i chwarae rhan fwy blaenllaw yn y gymuned, gan weithredu fel aelod gweithgar ac egnïol o nifer o bwyllgorau a byrddau cenedlaethol a lleol dros y blynyddoedd.  Mae’n enwog yn yr ardal fel cymwynaswr heb ei ail sy’n adnabod pawb ac yn fwy na pharod i helpu unrhyw un.