Hanes

 

Cychwyn
yr Orsedd

Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792 gan Edward Williams, Iolo Morganwg. Ef a ddyfeisiodd y defodau sydd â seiliau yng ngweithgareddau’r Derwyddon Celtaidd.

Cynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd ar 21 Mehefin 1792 ym Mhrimrose Hill, Llundain. Gosodwyd cylch o gerrig mân ar y maes a tu fewn i’r cylch bu rhai o gyfeillion Iolo yn ei gynorthwyo gyda’r defodau.

Ar Fryn Owain ym Mro Morgannwg y cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru yn 1795. Cynhaliodd Iolo seremoni’r Orsedd mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn Ngwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn 1819 ac ers sefydlu’r Eisteddfod Genedlaethol ym 1860 mae Gorsedd y Beirdd wedi bod yn gysylltiedig â’r Eisteddfod.

Rheolir y gweithgareddau gan Fwrdd yr Orsedd ac etholir yr Archdderwydd am gyfnod o dair blynedd.

Sefydlwyd Gorsedd y Beirdd yn Llydaw ym 1900, a Gorsedd yn Nghernyw yn 1928. Mae’r ddwy yn cydweithio â Gorsedd Cymru. Yn 2001 ail-sefydlwyd Gorsedd y Beirdd yn y Wladfa, Patagonia, ac mae cysylltiadau â’r Oireachtas yn yr Iwerddon.

Iolo Morganwg
Iolo Morganwg

Gweddi’r Orsedd

Dyro Dduw, dy nawdd;
ac yn nawdd nerth;
ac yn nerth,deall;
ac yn neall, gwybod;
ac yng ngwybod, gwybod y cyfiawn;
ac yng ngwybod y cyfiawn, ei garu;
ac o garu, caru pob hanfod;
ac ym mhob hanfod, caru Duw;
Duw a phob daioni.