Hysbyseb swydd: Trefnydd Arholiadau’r Orsedd

Hysbyseb swydd: Trefnydd Arholiadau’r Orsedd

 
Yn sgil penderfyniad Trefnydd Arholiadau’r Orsedd, Gwyn o Arfon, i gamu i lawr o’i swydd ar ddiwedd Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae Bwrdd yr Orsedd yn gwahodd ceisiadau am olynydd iddo. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gysgodi’r Trefnydd presennol hyd at ddiwedd Eisteddfod 2026, gan ymgymryd â holl gyfrifoldebau’r swydd o fis Medi 2026 ymlaen.
 
Swydd ddi-dâl yw hon, ond gellid hawlio treuliau rhesymol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn datgeliad DBS boddhaol.

Dyletswyddau Trefnydd yr Arholiadau
Yn ôl Cyfansoddiad yr Orsedd, cyfrifoldebau Trefnydd yr Arholiadau yw trefnu yr holl waith ynglŷn â phenderfynu maes llafur, gweinyddu’r arholiadau, cyflwyno rhestr yr ymgeiswyr llwyddiannus i’r Cofiadur, gan ofalu am y tystysgrifau swyddogol wedi eu llofnodi i’w cyflwyno iddynt.
 
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  1. Trefnu holl waith Arholiadau’r Orsedd, gan gyflwyno adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Orsedd ym mis Ebrill a Chyfarfod Cyffredinol yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd gwaith y Swyddog Arholiadau o dan arolygiaeth y Bwrdd neu unrhyw is-bwylllgor a benodir i’r pwrpas hwnnw gan y Bwrdd. Disgwylir i’r Swyddog Arholiadau ddwyn i sylw’r Bwrdd unrhyw faterion arwyddocaol mewn cysylltiad â’r arholiadau, gan ofyn am arweiniad a chyfarwyddyd perthnasol. 
  2. Gofalu bod y Bwrdd yn adolygu ei egwyddorion ynglŷn â’r gwahanol arholiadau, megis penderfynu ynglŷn â dileu neu newid arholiadau a chreu arholiadau newydd.
  3. Ymgynghori â’r Bwrdd mewn perthynas â phenodi arholwyr newydd yn ôl y galw. 
  4. Mewn ymgynghoriad â’r gwahanol arholwyr, gofalu bod meysydd astudiaeth yr arholiadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru bob tair blynedd, a bod fersiwn newydd llyfryn Maes Astudiaeth yr Arholiadau ym mlwyddyn ei gyhoeddi yn ymddangos cyn Prifwyl y flwyddyn honno.
  5. Trefnu cyhoeddusrwydd eang i’r arholiadau yn flynyddol drwy amrywiol ddulliau print ac electronig (yn benodol o fis Medi ymlaen, gan fanteisio ar y proffil cyhoeddus y bydd yr Orsedd wedi’i gael yn yr Eisteddfod fis ynghynt).
  6. Ymateb i ymholiadau a cheisiadau amrywiol ynghylch yr arholiadau gan ddarpar ymgeiswyr (Medi – Mawrth yn arbennig).
  7. Yn dilyn derbyn cofrestriadau ymgeiswyr erbyn Gŵyl Ddewi (dyddiad cau cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn dan sylw), trefnu canolfannau cyfleus ar gyfer cynnal yr arholiadau ysgrifenedig ar y Sadwrn olaf yn Ebrill a phenodi arolygydd i bob canolfan, ynghyd â nodi amser cychwyn a gorffen pob arholiad; sicrhau bod y ffioedd cofrestru ar gyfer sefyll yr arholiadau yn cael eu hanfon at Gyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau yr Eisteddfod (Mawrth – Ebrill).
  8. Trefnu bod papurau arholiadau yn cael eu llunio gan yr arholwyr perthnasol mewn da bryd ar gyfer eu dosbarthu i arolygwyr y canolfannau ar gyfer y Sadwrn olaf yn Ebrill (Mawrth – Ebrill).
  9. Anfon pecyn arholiad at bob arolygydd a fydd yn cynnwys: cyfarwyddiadau gweinyddu’r arholiadau ysgrifenedig; cwestiynau’r arholiada(au) mewn amlen dan sêl (gyda chyfarwyddyd nad yw’r amlen i’w hagor ond ar ddechrau’r arholiad yng ngŵydd yr ymgeiswyr); cyflenwad o bapur ysgrifennu/papur manuscript cerddoriaeth; manylion trefniadau ymarferol unrhyw addasiadau a ganiateir i ymgeiswyr ar y diwrnod (megis defnyddio cyfrifiadur ar gyfer ysgrifennu atebion; caniatáu amser ychwanegol); manylion dychwelyd y sgriptiau at Swyddog yr Arholiadau (Ebrill).
  10. Hysbysu pob ymgeisydd – o leiaf bythefnos ymlaen llaw – o leoliad ac amser yr arholiadau, gyda chyfarwyddiadau manwl iddynt ynghylch y trefniadau ymarferol ar y diwrnod. Yn achos yr arholiadau hynny lle ceir profion llafar/ymarferol cerddorol, trefnu dyddiad ac amser perthnasol yn ystod wythnos gyntaf mis Mai i gynnal y profion hynny dros Zoom gyda’r arholwyr, yn dilyn cynnal yr arholiadau ysgrifenedig (Ebrill – Mai). 
  11. Yn dilyn derbyn y sgriptiau ysgrifenedig yn ôl gan arolygwyr y canolfannau, trefnu iddynt gael eu hanfon at yr arholwyr perthnasol i’w marcio, gan ofyn am y canlyniadau o fewn pythefnos. Ar ôl derbyn dyfarniad pob arholwr, hysbysu pob ymgeisydd o’r canlyniadau trwy lythyr/e-bost swyddogol, gan nodi (yn achos ymgeiswyr llwyddiannus) y manylion ymarferol ynghylch trefniadau’r urddo yn yr Eisteddfod. Yn achos ymgeiswyr aflwyddiannus a fydd yn gofyn am adborth ar eu hatebion, gwneud cais i’r arholwyr perthnasol am sylwadau a fydd o gymorth i’r ymgeiswyr wella ar eu hymdrechion os byddant yn awyddus i sefyll yr arholiad(au) y flwyddyn ganlynol (Mai).
  12. Anfon manylion (gan gynnwys eu dewis o Enw yng Ngorsedd) yr ymgeiswyr hynny a fu’n llwyddiannus yn yr arholiadau at y Cofiadur, yr Arwyddfardd a Chyfarwyddwr Strategol yr Eisteddfod (Mai). 
  13. Diogelu archif o gyn-bapurau arholiad y gwahanol feysydd astudiaeth, fel bod modd i ddarpar ymgeiswyr fedru gweld cyn-bapurau sydd o ddiddordeb iddynt.
  14. Mewn cydweithrediad â’r Cofiadur a’r Arwyddfardd, paratoi Tystysgrifau Aelodaeth yr Orsedd i’w cyflwyno i’r aelodau newydd yn seremonïau’r urddo ar foreau Llun a Gwener yr Eisteddfod (Gorffennaf). 
  15. Mynychu cyfarfodydd Bwrdd yr Orsedd (Ebrill, Hydref, wythnos yr Eisteddfod), Cyfarfod Cyffredinol yr Orsedd (wythnos yr Eisteddfod) a bod yn bresennol yn seremonïau’r Orsedd yn y Cyhoeddi a’r Eisteddfod fel Swyddog, gan ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau cyhoeddus o fewn y seremonïau (ar gais y Cofiadur).

 SGILIAU HANFODOL

  • gwybodaeth ymarferol am gyfundrefnau a strwythurau arholi
  • sgiliau trefnu, rheoli a gweinyddu
  • sgiliau technolegol/cyfrifiadurol
  • sgiliau cyfathrebu rhyng-bersonol

Dylai personau sydd yn dymuno ymgeisio ar gyfer swydd Trefnydd yr Arholiadau wneud hynny trwy anfon llythyr at y Cofiadur gan nodi eu cymwysterau a’u profiad perthnasol (dim mwy na 500 gair). Nodwch ar waelod y llythyr eich enw yng Ngorsedd a’r flwyddyn / Eisteddfod y cawsoch eich urddo, os gwelwch yn dda. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 27 Hydref 2025 am 12.00 (canol dydd).

Ni allwn roi ystyriaeth i geisiadau hwyr.

Dylid anfon llythyrau cais trwy’r post neu ar ebost at:

Y Cofiadur, Y Cyn-Archdderwydd Christine
16 Kelston Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 2AJ

christine@eisteddfod.cymru

Adnodd newydd – rhestr o aelodau’r Orsedd

Adnodd newydd – rhestr o aelodau’r Orsedd

 

A ydych chi erioed wedi meddwl pryd  y derbyniwyd rhywun i’r Orsedd? A beth oedd eu henw  yng Ngorsedd? Mae’r adnodd newydd hon a grewyd gan wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fodd ichi ddod o hyd  i lawer  o wybodaeth am aelodaeu’r Orsedd, ddoe a heddiw. Mae’n rhestr sy’n tyfu o hyd, a gwybodaeth newydd  yn cael ei hychwanegu ati’n gyson.

Rhestr chwiliadwy o aelodau’r Orsedd dros  y blynyddoedd.  

https://gorsedd.llyfrgell.cymru/

Cyhoeddi urddau’r Orsedd Eisteddfod Wrecsam

Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2025

 

Cyhoeddwyd enwau’r rheini fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod ar gyrion dinas Wrecsam, fore Llun 4 Awst a bore Gwener 8 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r celfyddydau. Bydd yrheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd. Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Gwisg Las

Dyma wybodaeth am y rheini sy’n derbyn y Wisg Las yn Eisteddfod Wrecsam

Rhun ap Iorwerth
Mae Rhun ap Iorwerth yn fwyaf adnabyddus fel Aelod Senedd dros Ynys Môn, ac er 2023 fel arweinydd Plaid Cymru. Cyn hynny, bu’n ddarlledwr ac yn un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru yn y ddwy iaith tan i’r awydd i wasanaethu ei fro a phobl Cymru ei arwain i fyd gwleidyddiaeth. Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn weithgar yn ei gymuned, yn llywodraethwr ysgolion, yn arweinydd ar ddigwyddiadau a chyngherddau lleol, ac yn gefnogwr i amrywiol fudiadau yn cynnwys cyfnod fel noddwr i’r elusen Awyr Las. Bu hefyd, tan yn ddiweddar, yn hyfforddwr ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni.

 

David Aykroyd
Mae pob cymuned yn elwa o unigolion sy’n cyfrannu at wella bywyd bob dydd, ac mae David Aykroyd yn llysgennad arbennig dros dref Y Bala. Gyda’i frawd, Nigel, mae’n rhedeg cwmni dillad nos, dillad dydd a dillad nofio hynod lwyddiannus, sy’n gyflogwr pwysig yng nghefn gwlad Cymru. Mae cyfraniad y brodyr wedi gwella’r celfyddydau, nifer o fentrau a chwaraeon lleol, gyda’r gefnogaeth sydd wedi gyrru CPD Y Bala i Uwch Gynghrair Cymru a hwyluso’u cyflawniadau Ewropeaidd, ond un enghraifft o gyfraniad y ddau i’w cymuned leol.

 

Nigel Aykroyd
Gyda’i frawd, David, mae cyfraniad Nigel Aykroyd i dref Y Bala wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd, nid yn unig trwy eu cwmni llwyddiannus sy’n cyflogi nifer fawr o bobl leol, ond hefyd trwy gefnogi’r gymuned. Ers diwedd y 1990au mae’u cwmni’n darparu meithrinfa Gymraeg yn y dref, sydd erbyn hyn, a chyda chefnogaeth y brodyr, wedi datblygu fel Canolfan Deuluol Y Bala sy’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned. Mae’r ddau frawd hefyd yn noddi’r celfyddydau, chwaraeon lleol a mentrau lleol, gan gyfrannu at wytnwch a pharhad ein hiaith yn ardal y Bala.

 

Glesni Llwyd Carter
Mae Glesni Llwyd Carter, Wrecsam, yn cyfrannu’n sylweddol i iaith a diwylliant Cymru. O ran ei galwedigaeth, mae’n rheoli holl waith teulu llysoedd Gogledd Cymru a Dyfed Powys, ac wedi gwella mynediad siaradwyr Cymraeg at gyfiawnder mewn adegau o argyfwng teuluol, a hyfforddi ynadon i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar y maes proffesiynol a’r gymuned ehangach. Yn ogystal, bu Glesni’n allweddol wrth gefnogi ac annog nifer o brosiectau diwylliannol yn lleol, ac mae ganddi ymroddiad di-ben draw i’r Gymraeg yn ardal Wrecsam.

 

Bill Davies
Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Bill Davies, Caerdydd, wedi cefnogi eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd. Bu’n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Bro Llandegfan am dros 20 mlynedd, yn gadeirydd Eisteddfod Môn, 2008, ac erbyn hyn mae’n aelod ac yn ymddiriedolwr o Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd, gan weithredu fel yr is-gadeirydd. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Bu’n gweithio ym maes adnoddau dynol drwy gydol ei yrfa, a hynny ar draws Cymru, gwasanaethodd ar nifer o gyrff a sefydliadau yma, gan gynnwys Awdurdod S4C a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth Cymru, ac mae’n parhau i weithredu fel cadeirydd ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru.

 

Gwenllian Lansdown Davies
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Llanerfyl, yw prif weithredwr Mudiad Meithrin er+ 2014, ac mae’r sefydliad wedi tyfu a datblygu’n sylweddol o dan ei harweiniad a’i gweledigaeth, gan gyfrannu’n helaeth at nod Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae’i gwaith yn ehangu a datblygu hygyrchedd, argaeledd a fforddiadwyedd darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o safbwynt ffyniant ein plant a dyfodol ein hiaith. Mae Gwenllian hefyd yn gwirfoddoli yn ei chylch meithrin lleol yn Nyffryn Banw, yn aelod o fwrdd Medr: y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac yn ymddiriedolwr gyda Chronfa’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

 

Geraint Evans
Yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, mae Geraint Evans, Y Barri, yn hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob maes y mae’n rhan ohono, boed hynny’n fyd addysg, busnes neu ddiwylliant. Bu’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Bro Morgannwg am ddeng mlynedd gyntaf yr ysgol, ac er 2011 mae’n gadeirydd Corfforaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, un o golegau mwyaf y DU gyda thros 30,000 o fyfyrwyr. Mae wedi rhedeg sawl busnes llwyddiannus ac wedi gwirfoddoli yn y sectorau busnes ac addysg ar draws Caerdydd a’r Fro, yn ogystal ag yn genedlaethol. Yn gyfathrebwr naturiol, mae’n hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg yn Y Barri a Bro Morgannwg ers dros hanner canrif.

 

Llinos Griffin
‘Does neb wedi gwneud mwy i gefnogi cymunedau Croesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth na Llinos Griffin. Mae hi wedi cynhyrchu degau o ffilmiau cymunedol i hyrwyddo busnesau a sefydliadau lleol, ynghyd â phrosiect ‘Byw.Bod’ a ddaeth â mentrau annibynnol lleol ynghyd i gynnig profiadau a gwasanaethau i ddenu ymwelwyr i’r ardal a’u cyflwyno i’r Gymraeg. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am greu Hwb Croesor, sydd bellach yn grŵp o dros 30 o wirfoddolwyr, ac mae hi hefyd yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch sy’n ysbrydoli ei dysgwyr gan sicrhau eu bod yn credu fod ganddynt gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r Gymraeg a’n diwylliant.

 

Rhian Griffiths
Mae Rhian Griffiths, Caerdydd, wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r byd tennis yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Yn wreiddiol o ardal Wrecsam, mae Rhian wedi cynrychioli ei gwlad ar bob lefel, o’r tîm o dan 14 oed hyd at y tîm dros 60 oed. Er 2022, mae wedi ennill 11 teitl senglau a 12 teitl dyblau mewn twrnameintiau ITF. Yn ogystal â chynrychioli Cymru, mae hi hefyd yn rhan o garfan dros 60 y DU. Yn ogystal â byd tennis, mae Rhian hefyd wedi cyfrannu i fyd addysg, gan ddysgu mewn ysgolion yn Hong Kong, Llanfair Caereinion, ac ysgolion Plasmawr a Glantaf yng Nghaerdydd.

 

Jane Harries
Mae Jane Harries, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymgyrchydd dros heddwch a chyfiawnder, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adeiladu Cymru fel cenedl heddwch. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod ac mae wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Bu hefyd yn ysgrifennydd grŵp Menter Academi Heddwch Cymru. Fel aelod o’r Crynwyr, mae’n ffyddiog bod heddwch a chymodi’n bosibl yng Nghymru a’r tu hwnt, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at adeiladu cymdeithas well. Mae’n dal i fod yn bositif yn wyneb trais ac anghyfiawnder, ac yn credu bod heddwch yn cychwyn ynom ni’n hunain.

 

Maxine Hughes
Mae Maxine Hughes yn enw ac yn wyneb cyfarwydd i nifer fawr erbyn hyn, nid yn unig am ei gwaith newyddiadurol, ond hefyd am ei rôl fel ‘cyfieithydd swyddogol’ perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Yn wreiddiol o Gonwy, mae’n byw a gweithio yn Washington DC, yn dilyn cyfnod gyda’r BBC a sianel newyddion Saesneg rhyngwladol yn Nhwrci. Mae’n ceisio cefnogi newyddiaduraeth Gymraeg cymaint â phosib ac wedi cynnal sesiynau ar newyddiaduraeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Tomos Hughes
Mae Tomos Hughes, Cerrig-y-Drudion, wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w gymuned leol drwy ei waith gwirfoddol a’i gyflogaeth gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Dros y blynyddoedd, darparodd Tomos wasanaethau ymatebwyr cyntaf hanfodol, ac arweiniodd ei ymroddiad at osod dros 850 o ddiffibrilwyr ar draws y gogledd. Mae Tomos yn gweithio gydag Achub Bywyd Cymru, y rhaglen genedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon drwy hyrwyddo CPR a deffibrilio o fewn cymunedau. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant i gymunedau lleol, gan ymestyn y gwasanaeth achub bywyd ar draws y rhanbarth, a gwneir hyn yn aml yn y Gymraeg. Mae’i ymrwymiad diwyro a’i wasanaeth arbennig nid yn unig wedi achub bywydau ond hefyd wedi cryfhau gwytnwch a pharodrwydd y gymuned mewn argyfyngau.

 

Dylan Jones
Tan ei ymddeoliad diweddar, roedd Dylan Jones, Dinbych, yn newyddiadurwr amlwg gyda’r BBC yng Nghymru. Yn ystod ei yrfa mae wedi cyflwyno rhaglenni megis ‘Taro Naw’, ‘Pawb a’i Farn’, ‘Taro’r Post’, ‘Post Cynta’, ‘Dros Frecwast Sadwrn’ a’r ‘Post Prynhawn’, ac mae’n cyflwyno’r rhaglen bêl-droed ‘Ar y Marc’ yn ddi-dor er 1992. Bu’n sylwebu ar gemau pêl-droed o 1986, ac ar ôl sylwebu ar drychineb Hillsborough, cafodd ei wahodd i fod yn ohebydd newyddion yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan weithio ar rai o straeon mwyaf y deng mlynedd ar hugain diwethaf yng Nghymru a thros y byd.

 

Dylan Rhys Jones
Mae Dylan Rhys Jones, Abergele, yn credu bod defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol fel y gyfraith yn eithriadol bwysig, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol i’r gyfraith, academia, a’r cyfryngau wrth hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg. Mae’n bosibl ei fod yn fwyaf adnabyddus fel cyfreithiwr amddiffyn i Peter Howard Moore, y llofrudd cyfresol. Ysbrydolodd yr achos dwys a heriol hwn ei lyfr, ‘The Man in Black’, sy’n cyflwyno ei bersbectif unigryw fel cyfreithiwr Moore. Mae Dylan yn eiriolwr dros ddiwylliant, iaith ac addysg Cymru. Bu’n hyrwyddo’r iaith yn gyson o fewn ei waith cyfreithiol ac addysgol, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol.

 

Dylan Wyn Jones
I deulu’r Eisteddfod, ‘Dylan Carafáns’ yw Dylan Wyn Jones, Yr Wyddgrug, a hynny am iddo arwain ar drefnu maes carafanau’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn gyfrifol am stiwardiaid yr ŵyl ers bron i 20 mlynedd, gan feithrin perthynas arbennig gyda channoedd os nad miloedd o wirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Mae’n wirfoddolwr brwd ei hun, ac yn cefnogi a hybu nifer fawr o fudiadau Cymraeg lleol. Yn fathemategydd ac yn arbenigwr technoleg gwybodaeth wrth ei waith, treuliodd ddau ddegawd yn gweithio ar draws Ewrop cyn dychwelyd i Gymru er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i’w blant.

 

Keris Jones
Fyddai’r Eisteddfod ddim yn Eisteddfod heb weld Keris Jones, Llangollen, wrthi’n brysur yn gwirfoddoli a stiwardio, a hynny ers hanner can mlynedd. Mae hi’n rhan enfawr o brofiad ein cystadleuwyr a’i gofal annwyl ohonynt wrth iddynt baratoi am eu rhagbrawf yn rhan hollbwysig o ethos yr ŵyl. Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli yn yr Urdd ac Eisteddfod Llangollen am flynyddoedd lawer. Yn ogystal, mae Keris yn gymwynasgar a gweithgar iawn yn ei bro, ac yn angerddol dros bopeth Cymreig, ein hiaith a’n diwylliant.

 

Lili Mai Jones
Mae Lili Mai Jones yn rhan o’r chwyldro pêl-droed menywod yng Nghymru ac yn arbennig yn Wrecsam. Hi yw wyneb a llais Cymraeg y chwyldro hwnnw. Yn chwarae i Academi Clwb Wrecsam ers yn 12 oed, chwaraeodd am ddau dymor i glwb Everton cyn ailymuno â Wrecsam ac mae wedi ennill nifer o gapiau rhyngwladol dros ei gwlad ar lefel dan 15 a dan 17 oed. Mae’n llais cyfarwydd ar raglenni radio a theledu, yn trafod dylanwad cynyddol pêl-droed ar iechyd corfforol a meddyliol merched ifanc, ond y tu hwnt i hynny, mae hi hefyd yn bresenoldeb Cymraeg ar raglenni sy’n cael eu darlledu dros y byd, gan roi sylw i Wrecsam a’r Gymraeg.

 

Nia Wyn Jones
Mae’n anodd mesur y gwahaniaeth a wnaeth Nia Wyn Jones, Llangefni, i gadarnhau statws y proffesiwn cyfieithu drwy ei gwaith fel rheolwr systemau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac yn sgil hynny gyfrannu at normaleiddio’r iaith mewn cynifer o feysydd. Hi oedd yn gyfrifol am redeg system arholi’r Gymdeithas, trefnu lleoliadau’r arholiadau a’r byrddau arholi, a’r gweithdai, gan redeg a datblygu gwefan y Gymdeithas am flynyddoedd lawer. Mae Nia yn weinyddwraig heb ei hail, ac mae’n bleser gan yr Orsedd ei hanrhydeddu eleni.

 

Richard Francis Jones
Yn wreiddiol o bentref Clocaenog, bu Richard (Dic) Jones, Yr Wyddgrug, yn blismon gyda Heddlu Gogledd Cymru o 1958 tan 1991, gan orffen ei yrfa fel Arolygwr yn ardal Yr Wyddgrug. Wedi ymddeol taflodd ei hun i waith gwirfoddol ac er 2007 mae’n wyneb cyfarwydd i filoedd o Eisteddfodwyr fel un o dîm y Prif Stiward yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda chyfrifoldeb dros yr ochr drafnidiaeth. Mae’n weithgar iawn yn lleol, yn un o sefydlwyr a chyn-lywydd Cymdeithas Wil Bryan, yn gyn-gadeirydd ac yn llywydd Clwb Rygbi’r Wyddgrug ac yn is-gadeirydd undeb rygbi gogledd Cymru. Mae’n cynrychioli canghennau Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru a Lloegr o Heddlu sydd wedi ymddeol.

 

Dewi Llwyd
Yn newyddiadurwr a darlledwr sy’n llais cyfarwydd i’r mwyafrif ohonom yng Nghymru, mae Dewi Llwyd, Bangor, wedi adrodd ar rai o straeon newyddion mwyaf Cymru a’r byd yn y Gymraeg ers bron i hanner canrif. Bu’n wyneb rhaglenni etholiadol S4C, a bu’n cyflwyno prif raglen newyddion y sianel ynghyd â’r rhaglen drafod ‘Pawb a’i Farn’ am flynyddoedd. Mae’i raglenni ar Radio Cymru wedi cynnwys ‘Dewi Llwyd ar fore Sul’, ‘Hawl i Holi’, ‘Post Prynhawn’ a ‘Dros Ginio’, ac mae’n parhau i gyflwyno ‘Dros Ginio’ yn wythnosol. Mae’i gyfraniad i fyd newyddiaduraeth Gymraeg, a thrwy hynny at ein hiaith a’n diwylliant yn enfawr.

 

Lyndon Miles
Mae Dr Lyndon Miles wedi gwasanaethu cymunedau’r gogledd orllewin am 34 mlynedd. Yn wreiddiol o Ddowlais, cafodd ei addysg feddygol yn Sheffield cyn symud i Fangor lle y bu’n gweithio fel meddyg teulu. Yn frwdfrydig i wella gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, bu’n arwain y gymuned i sefydlu Canolfan Byw’n Iach, Maesgeirchen. Cyflawnodd amryw o rolau arweinyddiaeth ym maes iechyd, yn lleol a chenedlaethol. Bu’n gadeirydd Cydffederasiwn GIG Cymru ac, ar ôl ymddeol, bu’n gadeirydd Hosbis Dewi Sant am dros wyth mlynedd. Wedi dysgu Cymraeg, mae’n angerddol dros ein hiaith ac yn gallu ymdrin â chleifion a chynnal trafodaethau meddygol yn Gymraeg.

 

Gethin Rhys
Mae Gethin Rhys, Caerdydd, wedi gwasanaethu Cymru a’i chrefydd, ei gwleidyddiaeth a’i chymdeithas gyda’i graffter meddwl a chyda’i ymroddiad i weld cymuned gyfiawn ddi-ragfarn yn ein gwlad. Yn ei swydd fel swyddog polisi Cytûn mae wedi cyflwyno tystiolaeth ac awgrymiadau i bwyllgorau amrywiol y Llywodraeth a’r enwadau, i eglwysi ac unigolion er mwyn gwella polisïau a pherthnasau. Yn ystod y pandemig bu’n allweddol yn trafod canllawiau gyda’r Llywodraeth ac yn eu cyflwyno i eglwysi a chymunedau. Bu Gethin hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Rhyng Ffydd Cymru, corff hanfodol i hybu goddefgarwch a dealltwriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru. Mae’n ddiwinydd craff, yn wleidydd amyneddgar ond penderfynol ac yn gymdeithasegwr tyner a deallus.

 

Enlli Môn Thomas
Ers penodiad cyntaf r Athro Enlli Thomas, Abergwyngregyn, fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethur yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i’w gyrfa fel darlithydd ac ymchwilydd. Mae ei chyfraniad i’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac yn genedlaethol, wedi bod yn sylweddol. Mae hefyd wedi ymgymryd â’i huchelgais o sicrhau mynediad at addysg Gymraeg ym Mangor ac o fewn pynciau seicoleg ac addysg yn ehangach. Mae ei brwdfrydedd at addysg Gymraeg, gan sicrhau fod darlithwyr ac adnoddau ar gael, wedi bod yn ganolbwynt i’w gweledigaeth. Mae hi’n parhau drwy osod strategaeth y Gymraeg ar lefel reoli’r Brifysgol a thrwy annog myfyrwyr PhD i ymgymryd ag ymchwil am addysg Gymraeg.

 

Tony Thomas
Mae Tony Thomas yn un o staff technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gweithio yn y stordy yn Llanybydder ers dros 40 mlynedd. Mae gan Tony ddiddordeb go iawn, a balchder yn yr Eisteddfod ac eisiau i’r profiad ar y Maes fod yn gofiadwy i’r ymwelydd. Y syniadau mwyaf trawiadol ganddo yw’r gair ‘Eisteddfod’ mewn llythrennau mawr coch a’r bwa croeso lliwgar ger y fynedfa. Mae’n gyfrifol am regalia a gwisgoedd yr Orsedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cludo a’u cadw’n ddiogel, ac mae urddas a llwyddiant seremonïau’r Orsedd yn ddibynnol iawn ar gyfraniad Tony yn paratoi ymlaen llaw yn y cefndir a’i flynyddoedd o brofiad.

 

Clare Vaughan
Yn wreiddiol o Abermorddu ger Wrecsam, lle y’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg, mae Clare Vaughan wedi ymgartrefu yng Nghwm Hyfryd ym Mhatagonia. Bu’n gweithio fel athrawes Gymraeg mewn ysgolion yn ardal Wrecsam cyn cael ei phenodi’n athrawes ym Mhatagonia. Mae wedi gwasanaethu’n ddi-dor dros y Gymraeg a’r diwylliant yn y Wladfa, fel cydlynydd addysgol prosiect yr iaith ac aelod gwerthfawr o’r gymdeithas am yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae’n agor ei chartref i groesawu ymwelwyr a gwirfoddolwyr yn gyson, yn cefnogi digwyddiadau lleol, yn weithgar gyda’r eisteddfodau, fel beirniad a hyfforddwr, ac yn cymryd rhan ei hun. Mae’n aelod o gorau a phartïon llefaru ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hyrwyddo’r diwylliant a’r iaith o ddydd i ddydd.

 

Simon Ward
Yr Athro Simon Ward, Caerdydd, yw cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n arbenigwr ym maes darganfod cyffuriau trosiadol. Mae wedi arwain timau prosiect amlddisgyblaeth a grwpiau cemeg meddyginiaethol drwy brosiectau darganfod cyffuriau hyd at yr astudiaethau clinigol, gan gyflwyno moleciwlau lluosog i’w datblygu’n glinigol ar gyfer amrywiaeth o glefydau. Mae ganddo brofiad eang o ddarganfod cyffuriau mewn cwmnïau fferyllol mawr, biodechnoleg ac academia a phrofiad arbenigol o ddarganfod a datblygu cyffuriau ar gyfer cleifion â salwch niwrolegol a seiciatrig ac yn erbyn canser. Bu’n flaenllaw yn hybu pwysigrwydd trafod gwyddoniaeth yn y Gymraeg, yn enwedig drwy annog myfyrwyr i ddilyn astudiaethau pellach a chyhoeddi yn y Gymraeg.

 

Gareth Victor Williams
Mae Gareth Victor Williams, Yr Wyddgrug, wedi chwarae rhan allweddol ym maes ieuenctid ac addysg yng ngogledd ddwyrain Cymru am flynyddoedd. Bu’n gweithio fel athro anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn Ninbych, lle y sefydlodd a datblygodd addysg cyfrwng Cymraeg, cyn gweithio fel athro ymgynghorol plant â nam ar eu clyw. Bu hefyd yn gweithio yn y Ganolfan i Hwyrddyfodiaid yn Sir Ddinbych, gan greu pob math o adnoddau ar gyfer cyrsiau hyfforddiant mewn swydd. Mae’n olygydd y papur bro lleol, yn ymwneud â phob math o weithgareddau Cymraeg a diwylliannol yn ei ardal, ac yn rhan allweddol o bwyllgor yr Ŵyl Ban Geltaidd.

 

Menna Williams
Mae Menna Williams, Llangernyw, wedi rhoi o’i hamser yn wirfoddol i hyfforddi cenedlaethau o blant a ieuenctid am dros 50 mlynedd yn ei bro. Mae’n parhau i hyfforddi llu o ieuenctid yr ardal i berfformio ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Mae’n un o sylfaenwyr cangen Llangernyw o Ferched y Wawr, ac wedi bod yn Llywydd y gangen deirgwaith dros y blynyddoedd. Bu’n gwirfoddoli ar ran y mudiad, gan hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr Ysgol Feithrin. Mae’n cyfrannu’n fisol i’r papur bro ‘Y Gadlas’ ers blynyddoedd lawer, ac mae’i chyfraniad i’w bro yn amhrisiadwy, yn ogystal â’i chefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant – heb sôn am ei chyfraniad i’w chapel, i Gymorth Cristnogol a Chôr Cymysg Dyffryn Conwy. Fe’i hanrhydeddwyd â Thlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maldwyn 2024.

 

Gwisg Werdd

Dyma fanylion y rheini sy’n cael eu hanrhydeddu â’r Wisg Werdd yn Eisteddfod Wrecsam

Gwyn Anwyl
Mae Gwyn Anwyl, Ynys Môn, yn un o ffanfferwyr yr Orsedd, ac yn chwarae rhan allweddol ym mhob un o seremonïau’r Orsedd er 2021. Mae’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Syr Thomas Jones. Mae’n aelod o Seindorf Beaumaris ac yn cystadlu’n gyson gyda’r band, gan gynnwys yn yr Eisteddfod; yn ogystal mae Gwyn yn aelod o barti Hogia Llanbobman sydd hefyd yn cystadlu’n gyson.

 

Geraint Cynan
Mae Geraint Cynan, Caerdydd, wedi cyfrannu i ddiwylliant cerddorol Cymru ers bron i hanner canrif, fel aelod o lu o fandiau, yn gyfansoddwr a threfnydd alawon gwerin, cyfoes a chlasurol, yn gyfarwyddwr cerdd i gwmnïau theatr, ac yn drefnydd cerdd i rai o’n rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd. Mae ei gyfraniad heb os wedi codi safon cerddoriaeth Cymru ac wedi symud ein diwylliant cerddorol yn ei flaen yn gyffredinol. Rydym yn falch o gael ei anrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni.

 

Gareth William Jones
Rhoddodd Gareth William Jones, Bow Street, oes o wasanaeth clodwiw i fyd addysg, fel athro drama, swyddog gweithgareddau diwylliannol gwasanaeth Llyfrgell Dyfed, a darlithio yn Adran Gymraeg Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Ysgrifennodd ddeg o nofelau i blant. Bu hefyd yn arwain cwmni drama llewyrchus yn Rhydypennau am flynyddoedd. Ers ymddeol, mae wedi ymroi’n wirfoddol a diflino i gymdeithasau a mudiadau llenyddol a diwylliannol Gogledd Ceredigion ac i bapur bro ‘Y Tincer’. Mae’i gyfraniad a’i weithgarwch yn cael ei werthfawrogi gan ystod eang o oedrannau ac yn hybu sawl agwedd ar y Gymraeg a Chymreictod yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Mark Lewis Jones
Yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, mae Mark Lewis Jones, Caerdydd, yn un o’n hactorion blaenaf, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn ym mro ei febyd. Mae wedi ymddangos mewn llu o gyfresi megis ‘Un Bore Mercher’, ‘Dal y Mellt’, ‘The Crown’, ‘Game of Thrones’ ac mae hefyd yn adnabyddus am ei rolau mewn ffilmiau mawr fel ‘Star Wars: Episode VIII’ a ‘The Far Side of the World’. Yn ddiweddar, bu’n rhan amlwg o brosiectau i gofio 90 mlynedd ers Trychineb Gresffordd, sy’n rhan o hanes glofaol yr ardal.

 

Mared Lewis
Mae Mared Lewis, Ynys Môn, wedi ac yn parhau i roi gwasanaeth diwyd i’w hardal, i Gymru, y Gymraeg a’n diwylliant ers blynyddoedd. Yn awdur saith o nofelau i oedolion, mae hi hefyd wedi cyfrannu sawl nofel ar gyfer dysgwyr fel rhan o’r gyfres ‘Amdani’. Mae’n weithgar gyda’r papur bro lleol, ‘Papur Menai’ a chydag Eisteddfod Môn. Yn wir, mae’n aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a hefyd yn diwtor poblogaidd sy’n dysgu Cymraeg i oedolion yn lleol. Braf yw ei chroesawu i’r Orsedd eleni.

 

John Morgans
Mae John Morgans wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd ecwmenaidd eglwysi Cymru drwy ei weinidogaeth gyfoethog, yn arbennig yng nghymuned Pen-rhys yn y Rhondda. Mae’n gredwr cryf mewn cyfiawnder cymdeithasol, a bu’n weithgar iawn ymhlith cymunedau cymoedd de Cymru yn ystod streic y glowyr. Pan oedd yn gymedrolwr i’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig yng Nghymru, penderfynodd y teulu symud o’u cartref yng Nghaerdydd i dŷ cyngor ar ystâd Pen-rhys, er mwyn cefnogi’r gweinidog, a phan y’i penodwyd yn weinidog, aeth ati gyda’i wraig, Norah, i sefydlu Eglwys Unedig Llanfair. Mae wedi dysgu’r Gymraeg ac yn gefnogol i bob math o weithgareddau celfyddydol Cymraeg. Mae ei lyfr newydd sy’n cofnodi stori Penrhys yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, ’Penrhys – y pentre ar y Bryn’.

 

Elen Mai Nefydd
Mae cyfraniad Elen Mai Nefydd, Wrecsam, ym maes addysg uwch dros y chwarter canrif ddiwethaf wedi bod yn un hollbwysig i ardal Wrecsam, ar y cychwyn fel arweinydd yr Adran Theatr, Teledu a Pherfformio ym Mhrifysgol Wrecsam, cyn ei phenodi’n Bennaeth Darpariaeth y Gymraeg yno. Derbyniodd wobr cyfraniad eithriadol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y llynedd. Balchder mawr i Elen Mai yw iddi gael ei hethol yn Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 gan arwain ar yr elfen ddiwylliannol, ac mae’n angerddol am ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Gymraeg a’r Eisteddfod.

 

Ann Parry Owen
Mae’r Athro Ann Parry Owen, Aberystwyth, yn academydd o’r radd flaenaf sy’n arbenigo ar iaith, gramadeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. A hithau wedi derbyn ei haddysg uwchradd yn Llangollen, mae’n gweithio bellach yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac wedi cyfrannu’n helaeth at nifer fawr o brosiectau ymchwil dros y blynyddoedd; mae hi hefyd yn olygydd hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Yn ogystal ag arwain timoedd ymchwil dros y blynyddoedd, bu’n gyfrifol am feithrin ysgolheigion ifanc a thrwy hynny gyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd. Mae hefyd yn brif olygydd y cylchgrawn ‘Studia Celtica’ ac yn aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd.

 

Hywel Wyn Owen
Mae’r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, Llandegfan, yn adnabyddus fel arbenigwr ar enwau lleoedd Cymru. Yn wreiddiol o Benbedw, bu’n athro Lladin a Saesneg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, cyn symud i hyfforddi athrawon yn y Coleg Normal ym Mangor. Sefydlodd Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd yn y brifysgol lle cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr a dyfarnu cadair bersonol iddo. Yno roedd yn gyfrifol am y gwaith o ddigido Archif Melville Richards, un o drysorau’n cenedl bellach. Bu’n llywydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, y Society for Name Studies in Britain and Ireland a’r English Place-Name Society, ac mae’n aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd. Mae’n dal i gyfrannu at ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo enwau a Chymreictod.

 

Ceinwen Parry
Mae Ceinwen Parry, Treuddyn, Yr Wyddgrug, wedi ymroi’n llwyr i hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant mewn ardal sydd ond gwta ddeg milltir o’r ffin. Bu’n ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn ers 1985, ac er ceisio ymddeol ryw flwyddyn yn ôl, mae’n dal i wneud llawer o’r gwaith. Cefnogodd i’r eithaf bob achos da yn yr ardal ac yn enwedig wrth sicrhau cronfa ariannol addas o’r pentref wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i’r Wyddgrug ddwywaith a’r Urdd i Fflint yn 2017. Yn 2015 derbyniodd dystysgrif anrhydeddus Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Pobl fel Ceinwen sy’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg i’w chlywed o hyd yn yr ardal hon; yn sicr mae’n llawn deilyngu cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd.

 

Shân Eleri Passmore

Rydym yn anrhydeddu Shân Eleri Passmore, Caerdydd, am ei gwasanaeth ym myd yr eisteddfodau mawr a mân dros gyfnod maith. Cyn symud i Gaerdydd yn 1981, bu Shân yn ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog am sawl blwyddyn. Bu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ffodus iawn o’i chael hi’n Swyddog Datblygu am gyfnod, a bu’n gweithio hefyd i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar bu Shân yn gymorth mawr wrth sefydlu eisteddfod gadeiriol newydd yng Nghaerdydd, a ddatblygodd yn ddigwyddiad llwyddiannus bellach, a hi sydd wedi paratoi cadair yr eisteddfod honno dros y tair blynedd diwethaf.

 

Dilwyn Price
Mae Dilwyn Price, Hen Golwyn, yn adnabyddus i genedlaethau o blant Cymru fel arweinydd byrlymus a heintus Jamborîs yr Urdd. Mae wedi cyfrannu yn helaeth i fyd addysg yn y Gogledd. Bu’n weithgar yn hyfforddi plant ac ieuenctid yn yr ysgolion, a hefyd wedi arwain Adran ac Aelwyd yr Urdd yn Abergele. Yn gerddor amryddawn, mae’n arweinydd ar gôr cymysg, Côr Alaw, Bae Colwyn. Mae hefyd yn arweinydd Cymanfaoedd, yng Nghymru a’r tu hwnt, gan dderbyn gwahoddiadau i arwain Cymanfaoedd yn Taranaki, Seland Newydd, a Melbourne, Awstralia. Mae’n gymeriad egnïol a brwdfrydig sydd wedi ysbrydoli llu o blant ac ieuenctid Cymru, am bron i hanner canrif. Derbyniodd Dlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd, Caerffili 2015.

 

Rhys Roberts
’Does neb fel Rhys Roberts, Blaenau Ffestiniog am hyrwyddo ac atgyfnerthu’r celfyddydau ymysg pobl ifanc yn ei gymuned leol. Mae’n gweithio’n galed ac yn aml yn wirfoddol i sicrhau fod pobl ifanc dosbarth gweithiol yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau o fewn y celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, creu ffilmiau, trefnu gigs a digwyddiadau celfyddydol. Mae’r plant sy’n dod drwy raglenni Rhys yn cael eu hymbweru i deimlo balchder yn eu bro, ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyfeiriad iddynt – ac yn credu yn eu potensial nhw. Mae hefyd yn aelod o’r band, Anweledig, sydd wedi ail-ffurfio i chwarae yn yr Eisteddfod eleni.

 

Jessica Robinson
Graddiodd y soprano, Jessica Robinson, Crymych, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, rhagoriaeth yn ei MA Perfformio Opera a derbyniodd wobr goffa Aneurin Davies, gwobr Mansel Thomas, Gwobr Margaret Tann, a gwobr Soprano Elias. Hi hefyd oedd y cynrychiolydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd am 20 mlynedd a’r Gymraes gyntaf yn hanes y gystadleuaeth. Bu’n eisteddfodwraig i’r carn mewn cystadlaethau llefaru a cherdd ers yn ifanc iawn, a llwyddo yng nghystadlaethau Eisteddfodau’r Genedlaethol a’r Urdd. Bu hefyd yn aelod o’r CFfI am flynyddoedd, yn cystadlu’n lleol a chenedlaethol, ac mae’n bachu ar bob cyfle i hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant.

 

Stephen Owen Rule
Efallai fod Stephen Rule, Coed-llai, Sir y Fflint, yn fwy adnabyddus fel ei bersona digidol, y Doctor Cymraeg. Mae ganddo dros 80 o filoedd yn dilyn ei gyfrif Instagram ac mae pob un o’i ffilmiau’n amlygu ei angerdd dros y Gymraeg a’i awydd diflino i’w hyrwyddo. Yn athro Cymraeg (ail iaith) wrth ei alwedigaeth, mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg di-hyder ar draws y byd gyda’i frwdfrydedd heintus a’i ddealltwriaeth o darddiad enwau, ystyron dywediadau, y treigliadau, gramadeg a chystrawen. Mae’n un o’r cyfathrebwyr gorau dros ein hiaith a’n diwylliant, ac mae’n braf ei anrhydeddu gan yr Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni.

 

Dylan Williams
Mae ymroddiad Dylan Williams, Caernarfon, i addysgu, ysbrydoli a denu diddordeb ym myd cerddoriaeth yn uchel iawn, yn arbennig ymhlith bechgyn ifanc. Mae’n credu’n gryf mewn rhoi cyfle i bob plentyn dderbyn gwersi offerynnol ac yn pwysleisio fod cerddoriaeth i fod yn hwyl i bawb! Mae wedi addysgu cannoedd o blant yn ysgolion rhanbarth Caernarfon dros y blynyddoedd, yn arwain band iau y rhanbarth, band Pres Hŷn Gwynedd a Môn, ac wedi cael llwyddiannau mawr gyda bandiau Ysgol Brynrefail, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Bontnewydd. Mae hefyd yn brif gornedydd Seindorf Arian Deiniolen, sy’n gystadleuwyr brwd bob blwyddyn.

 

Sut mae dod yn aelod o’r Orsedd?

Sut mae dod yn aelod o’r Orsedd?

 

A fyddech yn hoffi dod yn aelod o’r Orsedd? Mae sawl ffordd y gall unigolion fod yn gymwys i’w hurddo’n aelodau, ond rhaid pwysleisio bod y gallu i siarad a deall Cymraeg yn amod i bob un ohonynt.

  • Trwy ennill un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol neu’r Urdd

Mae enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn derbyn gwahoddiad i ymaelodi oddi wrth y Cofiadur. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig yn y flwyddyn yn dilyn eu llwyddiant, ac nid oes angen i’r enillwyr wneud dim. Mae’r Bardd Cenedlaethol a Bardd Plant Cymru hefyd yn cael gwahoddiad ar ddiwedd eu tymor.

 

  • Trwy arholiadau’r Orsedd

Gellir sefyll Arholiadau’r Orsedd, a gynhelir ar ddiwedd Ebrill bob blwyddyn. Y meysydd gosod yw Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, yn ogystal â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr. Ceir mwy o wybodaeth yma:  Arholiadau’r Orsedd | Eisteddfod

 

  • Trwy radd gymwys

Mae hawl gan raddegion yn y Gymraeg, Cerddoriaeth a Hanes Cymru, neu mewn unrhyw bwnc arall a astudiwyd yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, wneud cais am aelodaeth trwy gysylltu â’r Cofiadur: cofiadur@eisteddfod.cymru  Bydd rhaid darparu llungopi o’r dystysgrif radd.

 

  • Trwy enwebiad

Derbynnir unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i fywyd Cymru, y Gymraeg a’i diwylliant, yn aelodau er anrhydedd. Y drefn yw bod aelod presennol o’r Orsedd yn enwebu, ac aelod arall yn eilio, ar ffurflen bwrpasol, gan amlinellu natur cyfraniad yr enwebai. Mae mwy o wybodaeth, ynghyd â’r ffurflen enwebu, i’w cael yma: Enwebu i Urdd Derwydd er Anrhydedd yn Yr Orsedd | Eisteddfod

Penodi Rhinedd Mair yn Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

PENODI RHINEDD MAIR YN AROLYGYDD GWISGOEDD YR ORSEDD NEWYDD I OLYNU ELA JONES

Rhinedd Mair (Rhinedd Williams) fydd yn olynu Ela Cerrigellgwm (Ela Jones) yn swydd Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.

Rhinedd Mair

Un o Faenclochog, Sir Benfro yw Rhinedd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn graddio gyda Dosbarth 1af BA Anrhydedd yn y Dyniaethau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu wedyn yn Gofrestrydd y Coleg. Wrth fagu’r plant, bu’n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol. Ond dychwelyd i fyd gweinyddol oedd y nod, ac mae wedi gweithio yn Rheolwr Swyddfa i amryw o sefydliadau gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Yn ôl Rhinedd, “Cefais fy magu ar aelwyd lle’r oedd y Gymraeg a’i diwylliant a’i thraddodiadau yn holl bwysig a phwyslais mawr ar eisteddfota – cystadlu’n unigol yn yr Urdd a’r Genedlaethol, perfformio mewn cyngherddau ac yn y capel drwy ganu ac adrodd. Roedd gwaith gwnïo a chrefft hefyd yn rhan fawr o’m plentyndod gan fod mam yn wniyddes heb ei hail ac fe drosglwyddwyd yr arfer a’r ddawn i mi a’m chwaer, Shân.”

Urddwyd Rhinedd i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch 2006, gan gymryd yr enw gorseddol Rhinedd Mair. A hithau’n byw yn Llanddarog ers 33 o flynyddoedd gyda’i gŵr, Geraint, a’u tri o blant, cydsefydlodd Rhinedd ‘Adran y Neuadd Fach’ ym Mhorthyrhyd yn 2007 gyda’r bwriad o drosglwyddo profiadau gwerthfawr ei phlentyndod i’r genhedlaeth nesaf. Cyd-enillodd wobr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn 2017 am ei gwaith diflino yn hyfforddi ac yn cydweithio gyda phobl ifanc ardal Cwm Gwendraeth.

“Mae’r Orsedd yn rhan allweddol o’n diwylliant fel Cymry,” meddai Rhinedd. “Mae’n hen draddodiad sy’n parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth. Mae’n bwysig ei gwarchod, gan fod cymaint o’n traddodiadau Cymreig ni’n diflannu. Mae’r seremonïau’n lliwgar ac yn ystwyth, ond heb golli urddas. Anrhydedd fawr yw cael fy newis fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cysgodi Ela Cerrigellgwm a dysgu oddi wrthi yn ystod y misoedd sy’n dod, cyn ymgymryd â’r rôl yn llawn yn fy ardal enedigol, wrth ymbaratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro.”

Meddai’r Archdderwydd Mererid, “Wrth ddiolch i bawb a ymgeisiodd ar gyfer swydd Arolygydd y Gwisgoedd, ac wrth ddiolch hefyd i Ela Cerrigellgwm am ei gwasanaeth ardderchog ar hyd y blynyddoedd, rydym ni’n falch iawn o groesawu Rhinedd Mair atom ni. Bydd yr Orsedd heb os yn elwa’n fawr o’i phrofiad, ei doniau a’i gweledigaeth.”

Swyddogaethau’r Orsedd

Swyddogaethau’r Orsedd

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Sir Benfro yn Awst 2026 ac ymhlith yr uchafbwyntiau bydd seremonïau’r Orsedd a gynhelir yn y Pafiliwn. Mae cyfle i oedolion a phobol ifanc leol gymryd rhan flaenllaw yn y seremonïau hyn fel dawnswyr y ddawns flodau a chyflwynwyr y Corn Hirlas a’r Flodeuged. Bydd y rhai llwyddiannus hefyd yn cymryd rhan yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2026 a gynhelir ar 17 Mai eleni.

Ceir manylion pellach yma: Swyddogaethau Gorsedd Cymru 2026 | Eisteddfod

Sylwer mai’r dyddiad cau yw 23 Ionawr 2025

Hysbyseb swydd: Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

Hysbyseb swydd: Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

Yn sgil penderfyniad Arolygydd y Gwisgoedd, Ela Cerrigellgwm, i gamu’n ôl o’i swydd ar ddiwedd Eisteddfod Wrecsam 2025, mae Bwrdd yr Orsedd yn gwahodd ceisiadau am olynydd iddi.

Bydd y person a benodir yn medru cyfathrebu’n rhwydd yn Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd yn meddu ac sgiliau a phrofiad o drefnu a goruchwylio, ac yn ddelfrydol (ond ddim yn hanfodol) bydd hefyd yn meddu ar sgiliau gwnïo. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gysgodi’r Arolygydd presennol hyd at ddiwedd Eisteddfod Wrecsam 2025, gan ymgymryd â’r holl gyfrifoldebau o fis Medi 2025 ymlaen.

Swydd ddi-dâl yw hon, ond gellid hawlio treuliau rhesymol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn datgeliad DBS boddhaol.

Dyletswyddau Arolygydd y Gwisgoedd
Yn ôl Cyfansoddiad Yr Orsedd, swyddogaeth Arolygydd y Gwisgoedd yw gofalu bod y gwisgoedd a’r tlysau a wisgir yn cael eu cadw’n lân a chyfaddas ar gyfer y seremonïau, a chydlynu gwaith y cynorthwywyr lleol Golyga hyn fod cylch gwaith yr Arwyddfardd ar hyd yflwyddyn fel a ganlyn:
Parhau i ddarllen “Hysbyseb swydd: Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd”