Anrhydeddau 2014

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2014
isod.

 

Anrhydeddau’r Orsedd 2014

Bu Charles Arch Pontrhydfendigaid yn Brif Sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru am ddeng mlynedd ar hugain, gan sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg ym Mhrif Gylch y Sioe. Bu Charles yn drefnydd mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn, ac mae’n awdur dwy gyfrol, Byw dan y Bwa ac O’r Tir i’r Tŵr. Cyfrannodd lawer hefyd i fyd y ddrama. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yr Athro Helmut Birkan oedd sylfaenydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, gan hybu’r Gymraeg yn arbennig yn Awstria a’r Almaen dros y blynyddoedd. Dysgodd Gymraeg tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1960. Mae wedi cyhoeddi llawer o’i ymchwil academaidd, gan gynnwys cyfrol ar hanes y Celtiaid. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Bu Hywel Wyn Bowen, Rhydaman, yn athro mewn ysgolion Cymraeg ym Mhenybont-ar-Ogwr a’r Betws, yn gyd-sylfaenydd Clwb Gwerin y Cnape ac yn drefnydd gwyliau gwerin yn yr ardal. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd a pherchennog Siop Lyfrau Cymraeg Rhydaman, “Siop y Cennen”, nes iddo ymddeol yn ddiweddar. Bu hefyd yn aelod amlwg o fand gwerin “Jac y Do” yn hyrwyddo’r traddodiad Twmpathau Dawns yng Nghymru. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Cydnabyddir Duncan Brown, Y Waunfawr, Caernarfon, yng Nghymru a thu hwnt fel un o’n prif arloeswyr a chymwynaswyr cyfoes. Fe’i disgrifiwyd fel disgybl teilwng i Edward Lhuyd, yn defnyddio’r technegau cyfoes gorau posibl i gofnodi a rhannu ag eraill gyfoeth dihysbydd o wybodaeth am fyd natur. Treuliodd ei yrfa’n gweithio ym maes natur, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau i gylchgronau byd natur. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Arfon Haines Davies, Caerdydd, yn un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac wedi gweithio fel un o brif gyflwynwyr ITV Cymru ers dros 30 mlynedd. Mae ei raglenni Cymraeg ar S4C yn cynnwys Pacio, Pen Blwydd Hapus, Cledrau, ac yn fwyaf diweddar, Pws. Mae hefyd yn ymgyrchydd di-flino dros nifer o elusennau yng Nghymru.(Gwisg Las)

——————————————————————————–

Bachgen o ardal Penybont-ar-Ogwr yw Aled Siôn Davies. Mae wedi ymddiddori ym myd chwaraeon ers yn ifanc gan gynrychioli ei wlad ym myd nofio. Yna, datblygodd ei ddiddordeb mewn athletau a daeth llwyddiant mawr i’w ran wrth iddo gipio’r fedal efydd am daflu pwysau, a’r fedal aur am daflu’r ddisgen yng ngemau Paralympaidd Llundain yn ystod mis Awst 2012. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Cafodd y fargyfreithwraig, Elwen Mair Evans o Ddyffryn Clwyd, yrfa eithriadol o lwyddiannus. Mae’n uchel ei pharch fel bargyfreithiwr ac wedi gweithio ar achosion amlwg a chymhleth. Dewisodd ymarfer ei chrefft yng Nghymru a hynny’n aml trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Mae bellach yn byw yn Abernant, Sir Gaerfyrddin. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Disgrifir Harold Evans, Llanisien Caerdydd, fel ‘Cymro i’r carn’ ar ôl meistroli’r iaith ac annog eraill i wneud. Bu’n gweithio fel colofnydd a gohebydd i’r Western Mail, gan hyrwyddo ac amddiffyn yr iaith yn rheolaidd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi cyhoeddi cyfrol ar aelodau Coleg Llanymddyfri a gollwyd yn y rhyfel. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Un o Nantlle’n wreiddiol yw Marian Evans. Bu’n brifathrawes ar ysgolion Cymraeg Rhydygrug, Mynwent y Crynwyr ac Ysgol Gymraeg Llantrisant, cyn ei phenodi’n Ymgynghorydd ysgolion cynradd. Bu’n ymwneud â’r byd cerdd-dant a’r Pethe drwy’i hoes, ac yn aelod o Gôr Cerdd Dant Lisa Erfyl ac is-arweinydd Côr Pensiynwyr Y Mochyn Du. Ddwy flynedd yn ôl sefydlodd Gôr Plant Caerdydd. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Pennaeth Busnes a Gweithrediadau Theatr Genedlaethol Cymru yw Trevor Adrian Evans Caerfyrddin. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014, a chyn hynny bu’n Swyddog Gweithredol i Undeb Amaethwyr Cymru ac yn gweithio i Fanc Barclays am 36 mlynedd. Mae’n chwarae rhan amlwg mewn nifer o gymdeithasau ar draws ei filltir sgwâr. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Un a ddysgodd y Gymraeg ar ôl symud i orllewin Cymru yw Philippa Gibson, Pontgarreg Llandysul. Ymunodd â dosbarth Cerdd Dafod a meistrolodd y gynghanedd, cyn ennill cystadleuaeth yr englyn yn ein Prifwyl, ennill Cadeiriau Eisteddfodol ac ymuno â thîm Tan-y-Groes, Talwrn y Beirdd. Mae’n cynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ardal Aberteifi ac yn un o olygyddion Papur Bro Y Gambo. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Bu Roy Griffiths, Cwm Nant y Meichiaid, Llanfyllin yn aelod o’r grŵp gwerin Plethyn, gan ymddangos ar nifer o raglenni a ryddhau amryw o recordiau.. Bu’n Brifathro Ysgol Gynradd Llanfyllin cyn ei benodi’n Ymgynghorydd Addysg ym Mhowys. Cyfrannodd lawer i addysg Gymraeg a’r Urdd trwy ei arweiniad fel Pennaeth a’i aelodaeth o Aelwyd Penllys. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Disgrifir Anita Humphreys, Brynaman Isaf, fel un a fu’n cefnogi popeth Cymraeg yn ei hardal. Bu’n ysgrifennydd a theipyddes papur bro Bro Tawe, Llais, ers dros chwarter canrif, yn ysgrifennydd Aelwyd Amanw, Brynaman ac yn ysgrifennydd Cymdeithasau Capeli Brynaman. Bu’n aelod o Gôr Brynaman am flynyddoedd lawer ac yn aelod o Gôr Eisteddfod Abertawe yn 2006. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Athrawes ymroddgar a thalentog yw Falyri Jenkins, Talybont Ceredigion. Bu’n athrawes yn ysgolion Rhydypennau a Thalybont, lle yr ysbrydolodd genedlaethau o blant i fwynhau cerddoriaeth. Cafodd Cymru gyfan gyfle i fwynhau’i doniau cerddorol mewn pum llyfr o ganeuon hwyliog a llawn hiwmor. Bu’n aelod o gwmni drama lleol Rhydypennau ac mae’n aelod o fwrdd rheoli Cwmni Theatr Arad Goch. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Dros y blynyddoedd mae Esme Jones, Crugybar, Sir Gaerfyrddin, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithgareddau ardal Bro Dinefwr. Mae wedi cymryd diddordeb arbennig yng ngweithgareddau pobl ifanc ac wedi cyfrannu llawer at ffyniant Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi. Athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi cyfnod yng Nghaerffili, daeth yn ôl i Ysgol Caio fel athrawes a Phrifathrawes uchel iawn ei pharch. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Daw Margaret Tudor Jones, Kew, Llundain yn wreiddiol o Dolgelynnen, Machynlleth, ond mae hi wedi byw yn Llundain ers dyddiau coleg, yn gweithio fel athrawes anghenion arbennig. Mae’n weithgar gyda Chymdeithas Maldwyn, Capel Cymraeg Ealing lle bu’n athrawes Ysgol Sul a’r Cymmrodorion. Mae’n un o Ymddiriedolwyr Gŵyl Machynlleth yn y Tabernacl a goruchwyliodd ddatblygiad yr Oriel Gelf bwysig yn y Canolbarth. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Tegwyn Jones, Pontrobert, Sir Drefaldwyn, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol ei filltir sgwâr yn Llanfihangel yng Ngwynfa. Yn aelod o Gyngor Sir Powys am flynyddoedd, bu’n arweinydd Côr Penllys a Chôr Meibion Penybontfawr, ac ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Mae’n aelod o Orsedd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys ac yn drefnydd cerdd yr ŵyl honno. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Brodor o Gaerfyrddin yn wreiddiol yw Stephen Jones, sydd wedi rhagori ar feysydd chwarae rygbi dros y byd yn ystod ei yrfa, gan gynrychioli Llanelli a’r Sgarlets, Clermont Auvergne, Cymru a’r Llewod. Fel Cymro, mae o’n llais pwysig yn nhîm Cymru ac yn defnyddio’r Gymraeg i gysylltu gyda’r cefnogwyr a’r chwaraewyr eraill yn aml. Mae Stephen yn parhau i fod yn hynod falch o’i wreiddiau a’i Gymreictod. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn wreiddiol o Ynysybwl, mae D. Geraint Lewis bellach wedi ymgartrefu yn Llangwyryfon, Ceredigion. Mae cyfraniad Geraint i eiriadura a gramadeg yn enfawr, ac mawr yw’r disgwyl am y gyfrol Geiriadur Cymraeg Gomer. Mae cyn-lyfrgellydd Cyngor Ceredigion hefyd wedi cyhoeddi llyfrau o ganeuon gwerin a charolau, llyfrau am enwau, blodeugerddi a llawer rhagor. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Mae Jennifer Maloney, Llandybie, Sir Gaerfyrddin, wedi rhoi ei hoes i gynnal diwylliant eisteddfodol bro Eisteddfod 2014, drwy weithio’n wirfoddol gyda phobl ifanc ardal Dyffryn Aman. Mae Jennifer yn rhedeg Aelwyd Penrhyd yn wirfoddol ers ei sefydlu yn 1976 ac mae cannoedd os nad miloedd o blant wedi elwa o’i harbenigedd. Mae Aelwyd Penrhyd yn gyfystyr â safonau uchel, yn enillwyr cyson yn yr Ŵyl Cerdd Dant, Eisteddfod Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Cyfarwyddwr Merched y Wawr yw Tegwen Morris, Aberystwyth. Mae ei phersonoliaeth siriol, ei sgiliau trefnu arbennig a’i brwdfrydedd yn ei galluogi i oresgyn pob problem a gwerthfawrogir ei gwasanaeth a’i hymroddiad llwyr gan yr aelodau. Yn ychwanegol at hyn, mae hi hefyd yn weithgar yn ei chymuned leol, ac yn gweithio’n galed dros y Gymraeg yn ei milltir sgwâr. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Helen Prosser, Tonyrefail yn Gyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg. Cyfrannodd yn helaeth dros y blynyddoedd i fudiadau cenedlaethol megis Merched y Wawr ac Eisteddfod yr Urdd. Y mae ar dân dros y dysgwyr a thros ddysgu Cymraeg. Fe frwydrodd yn galed dros hawliau’r Gymraeg, ac mae ganddi’r brwdfrydedd a’r egni i ddenu’r di-Gymraeg at ein hiaith (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Mae Beryl Richards, Llanddarog, yn un o’r bobl amhrisiadwy hynny sy’n ymroi gydag afiaith ym mhob agwedd o’i bywyd a’i gwaith, ac fe’i disgrifir yn aml fel un o bileri’r gymdeithas. Mae’n ysgrifenyddes Côr Llanddarog a’r Cylch, yn un o swyddogion Sioe Amaethyddol Cymru, yn gefnogwr brwd o’r Clwb Ffermwyr Ifanc a Neuadd Gymunedol Llanddarog. Fel athrawes yn Ysgol Llangynnwr, mae Beryl wedi gweithio’n galed i hybu sgiliau Cymraeg rhieni dros y blynyddoedd (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Arwel Roberts, Rhuddlan, bellach wedi ymddeol o’i swydd fel Pennaeth Ysgol Gymraeg Glan Morfa, Abergele, ac yn parhau’n gefnogol ac yn weithgar iawn gyda phob agwedd o’r diwylliant Cymraeg yn ardal Rhuddlan. Bu’n codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2013 yn ardal Rhuddlan a Diserth. Mae hefyd yn un o drefnwyr taith flynyddol i’r Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn ei waith fel Postfeistr am 50 mlynedd daeth Ithel Parri-Roberts yn un o gonglfeini ei gymdeithas, gan sicrhau fod Swyddfa Bost Hendygwyn-ar-Daf yn fan cyfarfod i Gymry Cymraeg y cylch. Bu’n weithgar yn rhengoedd Cymdeithas y Postfeistri i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth gyson i’r swyddogion a’r gweithwyr a chael llenyddiaeth yn ddwyieithog. Mae’n aelod o lu o gymdeithasau yn ei ardal, gan gyfrannu’n helaeth i bob un. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Yn enedigol o Gwmann, Sir Gâr, dychwelodd Eirios Thomas i’w sir genedigol wedi cyfnod fel athrawes, ac mae wedi bod yn yn Drefnydd Sirol i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ers 36 o flynyddoedd. Cred mewn rhoi cyfleoedd i ieuenctid feithrin talentau a sgiliau a fydd maes o law yn eu galluogi i fod yn aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas wledig. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Brodor o Faesteg yw Geoffrey Thomas sydd bellach yn byw yn Rhydychen. Mae’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant, ac yn wyddonydd amlwg gan gyfrannu erthyglau i gylchgrawn Y Gwyddonydd. Bu’n Feistr Coleg Kellogg yn Rhydychen gan sicrhau taw’r weddi fendithiol yn ffreutur y coleg yw’r englyn gan W.D. Williams, O Dad yn deulu dedwydd… (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Haf Thomas, Llanrug, yn adnabyddus fel un sydd wedi rhoi’i bywyd i gasglu arian i achosion da amrywiol gan gasglu cyfanswm o £45,000 at achosion gwahanol ers iddi ddechrau ar y gwaith. Yn gweithio i Gyngor Gwynedd, bu Haf yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau tra’n ddisgybl yn Ysgol Pendalar. Meddai un o’i chydweithwyr, “Pan mae Haf yn dod drwy’r drws mae fel pe bai’r haul yn dod i mewn.” (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Lily May Thomas, Pen-y-bont Caerfyrddin yn byw ei bywyd yn ôl arwyddair Yr Urdd, yn ffyddlon i Gymru, i’w chyd-ddyn a Christ. Mae hi wedi sicrhau sail gadarn i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul, ac wedi cefnogi eisteddfodau bach yr ardal ac Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mab fferm o Chwilog yw Gwilym Tudur yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn Lledrod, Ceredigion ers blynyddoedd. Mae’n parhau i gyfrannu at fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y pentref a’r ardal, ac mae’n ymladdwr diflino dros fuddiannau’r iaith. Ei freuddwyd fawr, ynghyd a’i wraig Megan, oedd sefydlu siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth, a daeth Siop y Pethe yn sefydliad enwog ac eiconig yn y Gymru Gymraeg. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Yn wreiddiol o Gwm Rhondda, mae Megan Tudur wedi ymgartrefu yn Lledrod, Ceredigion ers blynyddoedd lawer. Bu’n athrawes yn Ysgol Rhydfelen a Maes Garmon ac yna’n olygydd cylchgronau’r Urdd, cyn agor siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth ac fel arwydd o barch trigolion Aberystwyth, cafodd hi a’i gŵr Gwilym, y fraint o arwain Parêd Gŵyl Dewi Sant y dref eleni. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Anna Williams, Clunderwen Sir Benfro, yw ysgrifenyddes Cymdeithas Waldo ers ei sefydlu yn 2010, a bu hefyd yn gefn mawr a chadarn i addysg Gymraeg yn yr ardal fel Llywodraethwr Ysgol y Frenni, Crymych. Ers 1983 bu’n gweithio ar gystadleuaeth Canwr y Byd, a hi sydd bellach yn drefnydd y gystadleuaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf fel gŵyl rhyngwladol. (Gwisg Las)

——————————————————————————–

Daeth Megan Williams, Trefor, Caernarfon, i amlygrwydd ledled Prydain yn 1990 pan enillodd gystadleuaeth Gwniadwraig y Flwyddyn y cylchgrawn Vogue. .Megan oedd yn gyfrifol am greu a gwnïo gwisg newydd yr Archdderwydd yn 2008 gan ei llunio’n gywrain o sidan. Hi hefyd sydd wedi creu gwisgoedd y morynion ar gyfer seremonïau’r Orsedd yn Eisteddfod Sir Gâr eleni. (Gwisg Werdd)

——————————————————————————–

Brodor o Ynys Môn, ond bellach yn byw ym Mhenbedw, yw Merfyn Williams. Bu ei gyfraniad i Gymdeithas Gymraeg Penbedw yn enfawr ac mae’n Gyn-Gadeirydd y gymdeithas honno. Yn ogystal â hybu’r iaith dros y ffin, bu’n gyfaill mawr i’r Eisteddfod, gan roi 33 o flynyddoedd o wasanaeth fel stiward.(Gwisg Las)

——————————————————————————–

Mae Rhian Huws Williams yn Brif Weithredwraig Cyngor Gofal Cymru. Yn enedigol o Lanefydd, mae hi’n weithgar ym maes ceisio sicrhau statws a defnydd o’r Gymraeg mewn gofal iechyd. Bu hefyd yn aelod o’r pwyllgor fu’n cynghori ar addysg Gymraeg i oedolion, ac yn helpu cynllunio gwasanaeth gofal cynaliadwy i Gymru. Mae hefyd yn aelod o gorau Cerdd Dant a Chanu Gwerin. (Gwisg Las)