Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn. Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2016 isod. |
Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau
5 Mai 2016
Heddiw (5 Mai), cyhoeddir enwau’r rheini a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, fore Gwener 5 Awst.
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.
Gwisg Las
Roger Boore
Caerdydd yw cartref Roger Boore, a dyma le y magodd ei deulu. Pan oedd y plant yn ifanc ar ddiwedd y 1960au, sylweddolodd cyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael ar gyfer plant a pha mor llwm oedd eu diwyg. Felly, aeth ati i sefydlu Gwasg y Dref Wen, gan gydweithio gyda gweisg tramor er mwyn creu cynnwys apelgar, dylunio lliwgar a diwyg safonol, gan gychwyn cyfnod newydd yn hanes cyhoeddi plant yng Nghymru.
Rhiannon Davies
Mae Rhiannon Davies, Llanelen, Y Fenni, wedi cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr o safbwynt cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn lleol yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi hefyd wedi llwyddo i bontio’r gwaith mae wedi’i wneud i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad â’i gwaith yn y Bwrdd Iechyd, drwy amryw o ffyrdd, gan gynnwys meithrin cysylltiadau gydag ysgolion Cymraeg lleol er mwyn annog disgyblion Cymraeg eu hiaith i ddilyn gyrfa yn y GIG.
Robin Harries Aled Davies
Bu Robin Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw, yn weithgar dros y Gymraeg yn ardal Trefynwy am flynyddoedd lawer. Yn ogystal ag arwain y gwaith codi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni, bu Robin yn olygydd y papur bro, Newyddion Gwent, am ddegawd, ac roedd hefyd yn aelod o’r grŵp a sefydlodd Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn 2008. Roedd yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch, ac yn chwarae rhan flaenllaw a phwysig yng Nghymdeithas Gwenynen Gwent, gan wasanaethu fel ysgrifennydd ers 2008.
H Ellis Griffiths
Mae Hywel Ellis Griffiths, Dinas Powys, yn bennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw ers 2006, a’i weledigaeth yw creu unigolion cwbl ddwyieithog sy’n ymfalchïo yn eu hunaniaeth a’u treftadaeth, gyda’r weledigaeth hon yn cael ei throsglwyddo i ddisgyblion a’u rhieni. Mae gwaith Hywel Ellis Griffiths yn hyrwyddo’r Gymraeg a’r cysyniad o siarad yr iaith fel braint a chyfle wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc, ac erbyn hyn mae bron i 1,000 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd ei hun yn gymuned Gymraeg bywiog a llwyddiannus, ac yn cyfrannu’n sylweddol at agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith.
Brian Jones
Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin yw pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell, darparwr bwydydd mwyaf Cymru erbyn hyn, sydd hefyd yn gweithredu mewn rhannau o Loegr. Sefydlodd y cwmni wrth arallgyfeirio ar ôl cyfnod yn amaethu ar y fferm deuluol, Castell Howell. Mae’r cwmni’n enwog am hyrwyddo bwydydd o Gymru, ac mae Brian a’r cwmni hefyd yn adnabyddus am gefnogi pob math o gymdeithasau a sefydliadau Cymreig, yn enwedig y rheiny sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Bydd Brian Jones hefyd yn Llywydd y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf, wrth i Sir Gaerfyrddin noddi’r Sioe’r flwyddyn honno.
Emyr Wyn Jones
Mae Emyr Wyn Jones, Rhos y Gwaliau, Y Bala, yn adnabyddus fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru o 2011-15. Gwasanaethodd yr Undeb yn gwbl ddiflino, gan roi arweiniad clir a chadarn yn ystod ei gyfnod wrth y llyw. Roedd yn gydwybodol ac yn ymroddedig dros yr egwyddorion y seiliwyd yr Undeb arni. Mae’n weithgar gyda nifer o fudiadau a chymdeithasau amaethyddol ers blynyddoedd, ac mae wedi ennill amryw o wobrau ac wedi’i anrhydeddu gan wahanol gyrff a chymdeithasau yn y byd ffermio yng Nghymru.
Richard Jones
Mae Richard Jones, Wrecsam, yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol fel pencampwr a llais plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol ychwanegol, yn benodol ym maes Syndrom Down. Bu’n ddylanwadol iawn wrth gydweithio gyda phlant, eu rhieni a Mencap i sicrhau cynhwysedd i blant gyda Syndrom Down, gan gynnwys ymgyrchu er mwyn eu galluogi i fynychu cylchoedd meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd prif-lif. Yn bennaeth cyntaf Ysgol Gymraeg Hooson, Rhosllannerchrugog, mae hefyd yn gerddor talentog ac yn gyfeilydd amlwg, ac yn cefnogi pob elfen o’r Pethe yn y dref ac ar draws y fro.
Elin Maher
Mae Elin Maher, Casnewydd, yn un o gefnogwyr mwyaf y Pethe a’r Gymraeg yn y de ddwyrain. Trwy ei hymroddiad, dycnwch a’i gweledigaeth, mae Elin wedi sefydlu a llywio Menter Casnewydd, gan ennyn brwdfrydedd ynghylch y Gymraeg yn barhaus. Mae’n drefnydd gweithgareddau Cymraeg yn y ddinas, yn gyfrannwr pwysig i Gapel Mynydd Seion, yn athrawes ac wedi bod yn amlwg ei chyfraniad a’i chefnogaeth i addysg Gymraeg ar draws yr ardal. Bu’n ymgyrchu’n galed dros sefydlu Ysgol Gyfun Gymraeg Is Gwent a hi yw Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol a fydd yn agor ei drysau fis Medi nesaf.
Aled Wyn Phillips
Bu disgos Aled Wyn yn rhan o’r sin Gymraeg ers diwedd y 70au, gydag Aled Wyn Phillips, Caerdydd, wrth y llyw. Ers iddo symud o’r Rhos yn yr 80au i weithio fel pennaeth trêls S4C; ei angerdd y tu allan i’r gwaith yw hyrwyddo’r Gymraeg, gan gadeirio amryw o bwyllgorau, trefnu, cynhyrchu, bod yn DJ neu ddarparu adnoddau goleuo a sain mewn amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol. Bu hefyd yn gadeirydd Clwb y Diwc, criw cymdeithasol a fu’n hyrwyddo a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn y brifddinas, ac a sefydlwyd yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal yn 2008.
Ken Rees
Anrhydeddir Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf am ei gyfraniad arbennig dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, ac yn arbennig i Ganolfan Hywel Dda dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Yn gyn-athro yn Ysgol Dyffryn Taf, mae Ken Rees yn rhan annatod o’i gymuned leol a’i ymroddiad i’r Ganolfan fel garddwr, gofalwr, saer, tywysydd, gohebydd a’r trefnydd cyrsiau, yn amhrisiadwy. Yn lladmerydd cryf dros dwristiaeth a thros ei ardal, mae Ken wedi trefnu amryw o arddangosfeydd dros y blynyddoedd, gan godi statws a phroffil Cyfreithiau Hywel a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’u pwysigrwydd yn hanes Cymru.
Philip Brian Richards
Mae Ei Anrhydedd y Barnwr Philip Brian Richards, Aberpennar, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth ym maes y Gyfraith, a hyn ym mlwyddyn ei ymddeoliad. Dysgodd y Gymraeg fel ail iaith, ac mae nid yn unig yn llywyddu dros achosion yn y Gymraeg, ond hefyd wedi gweithredu fel Cadeirydd is-bwyllgor Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg ar ddau achlysur. Bu hefyd yn weithgar ym mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg ac wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn amryw o ysgolion Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd.
Elizabeth Saville Roberts
Roedd 2015 yn flwyddyn arwyddocaol i Liz Saville Roberts, Morfa Nefyn, wrth iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd. Hi yw aelod benywaidd cyntaf y Blaid yn San Steffan. Yn wreiddiol o Lundain, dysgodd Liz Saville Roberts Gymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru fel gohebydd newyddion gyda chwmni’r Herald. Bu’n gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor am flynyddoedd, yn cefnogi a hyrwyddo datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith oed ôl-16, a than ei hethol yn AS, roedd yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Sue Roberts
Magwyd Sue Roberts, Pwllheli, ar aelwyd ddi-gymraeg yng Nghaerdydd, ac ychydig iawn o Gymraeg oedd yn ysgolion Catholig Caerdydd yn ystod ei dyddiau ysgol. Aeth ati i ddysgu Cymraeg ar ei liwt ei hun gyda chefnogaeth dosbarthiadau yn Aelwyd yr Urdd a chymydog yn lleol. Bu’n gydlynydd y Cylch Catholig ers 20 mlynedd, gan weithio’n galed i ddod â’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r Eglwys a’r Eglwys yn rhan o’r bywyd Cymraeg. Mae’i chyfraniad yn cynnwys cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithgareddau’r Eglwys, yn ogystal â threfnu llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau o bob math dros y blynyddoedd.
Ceri Thomas
Bu Ceri Thomas, Y Fenni, yn weithgar ym mywyd Cymraeg ardal Y Fenni ers blynyddoedd. Yn Gadeirydd Eisteddfod y Fenni am bron i ddegawd hyd at 2011, mae’n parhau yn weithgar ac wedi defnyddio technoleg a ffyrdd newydd o gyfathrebu er mwyn cyrraedd cystadleuwyr o bob oedran. Yn wreiddiol o Abergele, mae Ceri’n rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Y Fenni, ac mae hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle’n greiddiol i fywyd Ceri., Mae hi wedi gweithio’n ddiflino trwy adegau anodd er mwyn cryfhau Cymreictod y Fenni a dylanwad Cymreig a Chymraeg ei gweithleoedd.
Gwenda Thomas
Bu Gwenda Thomas yn Aelod Cynulliad ers y cychwyn, gan gynrychioli etholaeth Castell-nedd am ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, a chadeiriodd adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru. Yn ogystal, bu’n Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod ei chyfnod, bu’n gweithio’n ddiwyd er mwyn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Drwy gydol ei chyfnod fel rhan o’r Cynulliad bu Gwenda Thomas yn ymroddedig i wella pethau er mwyn y bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
John Gordon Williams
Mae John Gordon Williams yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Lerpwl ers blynyddoedd. Bu’n Feddyg Ymgynghorol mewn Resbiradaeth yn ysbytai’r ardal tan ei ymddeoliad, a bu’n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, gan ddarlithio yn ei chynadleddau amryw o weithiau. Dros y blynyddoedd, cyfrannodd i weithgareddau a chymdeithasau Cymreig Lerpwl, a bu’n weithgar ym mharatoadau Gŵyl y Mimosa yn y ddinas y llynedd. Yn ogystal, cyfrannodd yn gyson i bapur bro Glannau Mersi a Manceinion, Yr Angor. Yn wreiddiol o Gaergybi, cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Môn yn ddiweddar.
Gwyneth Williams
Bu Gwyneth Williams, Pontsenni, yn eithriadol o gefnogol i iaith a diwylliant Cymru drwy’i hoes ac yn weithgar iawn yn y maes eisteddfodol. Llefaru yw ei maes hyfforddi, ac mae wedi treulio blynyddoedd yn hyfforddi ac yn cefnogi cenedlaethau o blant a phobl ifanc yn y grefft. Braf yw gweld cynifer o ieuenctid yr ardal yn llwyddo ar lwyfannau eisteddfodau lleol yn ogystal â chenedlaethol. Bu Gwyneth Williams yn ohebydd i’r papur bro lleol, Y Fan a’r Lle ers ugain mlynedd ac mae’n weithgar iawn gyda nifer o fudiadau ar draws y fro.
Dafydd Wyn
Mae’r gymuned a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni’n rhan bwysig o fywyd Dafydd Wyn, Glanaman, a bu ei gyfraniad i’r gymuned honno’n fawr dros y blynyddoedd. Yn un o sylfaenwyr y papur bro Glo Mân bron i ddeugain mlynedd yn ôl, bu’n golofnydd cyson yn y papur hwnnw dros y blynyddoedd. Ef oedd yn gyfrifol am gychwyn Cylch Darllen Llyfrau Cymraeg Llyfrgell Rhydaman, ac mae’n parhau i gyd-redeg y cynllun hwn hyd heddiw. Mae’n gynghorydd cymuned, a bu’n Faer Cwmaman ddwywaith dros y blynyddoedd. Mae’n fardd ac yn enillydd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol.
Gwisg Werdd
Carole Collins
Aeth Carole Collins, Prion, Dinbych, ati i ddysgu Cymraeg iddi’i hun a’i gŵr, magu ei phlant yn Gymraeg a rhoi oes o wasanaeth yn hybu ac addysgu’r Gymraeg i genedlaethau o blant y gogledd ddwyrain. Yn frwdfrydig dros yr iaith a diwylliant Cymru ers yn ifanc, llwyddodd Carole i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal, ac mae’n gweithio fel athrawes fro yn Sir y Fflint, yn gyfrifol am gynlluniau addysgu’r Gymraeg mewn 16 o ysgolion cynradd a 3 ysgol uwchradd. Dyma wraig sy’n hybu’r Gymraeg pob cyfle posibl drwy’i gwaith ac yn ei bywyd personol.
Martha Davies
Brodor o UDA yw Martha Davies, Lincoln, Nebraska, ond mae ei Chymreictod yn gryf, a bu’n weithgar yng nghymuned Gymreig Gogledd America ers bron i hanner canrif. Daeth i fyw i Gymru am bedair blynedd, a dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth cyn dychwelyd i’r UDA lle bu’n gweithio fel archifydd, llyfrgellydd a chyfieithydd nifer o lyfrau a dogfennau Cymreig. Gyda’i gŵr, Berwyn Jones, mae’n rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska, sy’n derbyn pob math o ddogfennau, llyfrau ac arteffactau o gartrefi a chapeli Cymreig dros y wlad. Mae hefyd yn gyfrifol am ddigideiddio dau o bapurau newydd Cymreig Gogledd America sef Y Drych a Ninnau.
Jennifer Eynon
Yn wreiddiol o Gricieth, mae Jennifer Eynon yn byw yn Wrecsam ers hanner canrif, ac mae’n un o hoelion wyth yr iaith a diwylliant yn yr ardal ers blynyddoedd. Mae’n hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru ar gyfer cyngherddau, gwasanaethau ac eisteddfodau, ac yn cael pleser mawr o wneud hynny, a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Llefaru’r Eisteddfod yn Wrecsam a’r Fro yn 2011. Mae hefyd yn codi arian i Hosbis Tŷ’r Eos ers blynyddoedd lawer, ac yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal er mwyn gwneud hynny, gan roi llwyfan newydd i’r rheiny sydd am berfformio yn y Gymraeg yn lleol.
Gruffydd John Harries
Cerddor sydd wedi gweithio gydag ystod eang o ensembles yw Gruffydd John Harries (Griff), Mwmbwls, Abertawe. Mae ganddo brofiad gydag amryw o gerddorfeydd amlwg ac mae hefyd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau dros y blynyddoedd. Mae llawer o’i waith yn ymwneud gyda’r byd teledu, gyda’r mwyafrif o’i waith ar gynyrchiadau Cymraeg. Roedd yn gerddor cysylltiol i’r ffilm lwyddiannus ‘Dan yr Wenallt’ yn ddiweddar. Mae’n gerddor heb ei ail ac yn un sydd bob amser yn barod ei gymwynas i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymru.
Anne Hughes
Y ddawns werin Gymreig yw maes diddordeb Anne Hughes, Tongwynlais, Caerdydd, a bu’n gweithio’n ddiwyd er ei budd am flynyddoedd lawer. Yn un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent, roedd hi hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd Dawnswyr Gwerin Penyfai, ac mae’n parhau’n aelod o’r grŵp. Yn 2012, roedd hi’n gyd-gyfrifol am ddethol a dysgu’r Ddawns Flodau yn Eisteddfod Bro Morgannwg, ac ers hynny, mae Anne wedi parhau mewn rôl ymgynghorol i’r hyfforddwyr. Mae’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a phaneli dawns yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ac yn ysgrifennydd Gŵyl y Cwlwm Celtaidd, Porthcawl.
Ken Hughes
Byddai gwaith yr Urdd yn ardal Rhanbarth Eryri wedi bod yn llawer anoddach heb bresenoldeb a chefnogaeth Ken Hughes, Cricieth, dros y blynyddoedd. Yn athro a phennaeth cynradd am dros 40 mlynedd, cafodd cenedlaethau o blant gyfle i berfformio dan ei ofal. Bu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 2012, a bu hefyd yn ysgrifennydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1990. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd pwyllgor gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd eleni. Mae’n feirniad eisteddfodol ac yn un sydd wedi cyfrannu llawer i i ddiwylliant ei ardal dros y blynyddoedd.
Gwyn Elfyn Lloyd Jones
Mae Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli, yn adnabyddus i wylwyr S4C fel y cymeriad Denzil yng nghyfres Pobol y Cwm. Er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, Cwm Gwendraeth oedd ei gartref drwy’r blynyddoedd. Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chadeirydd menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli, ac yn weithgar gyda’r clwb rygbi lleol, gan hyfforddi timau ieuenctid am flynyddoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae’n Weinidog ar Gapel Seion Drefach, gyda’r Ysgol Sul a’r oedfaon yn ffynnu unwaith eto dan ei ofal. Actor, gweinidog, Cymro gwladgarol a dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd a diwylliant Cymru.
Megan Jones
Bu Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth, yn ddiwyd iawn ei chefnogaeth i nifer fawr o fudiadau dyngarol yng Ngheredigion, gan godi miloedd i elusennau ac achosion da. Mae’n cefnogi digwyddiadau diwylliannol yn ardal Aberystwyth, yn gadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac yn gyfrwng i ail-gychwyn yr Eisteddfod yn Aberystwyth. Mae hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar o’i changen leol o Ferched y Wawr ac wedi bod yn llywydd droeon. Bu hefyd yn Llywydd Rhanbarth Ceredigion y mudiad o 2013-15.
Siân Lewis
Un o bobl Caerdydd yw Siân Lewis, ac wedi gweithio’n galed dros ei dinas drwy’r blynyddoedd. Ymunodd â Menter Iaith Caerdydd bron i bymtheng mlynedd yn ôl, ac mae’r Fenter wedi datblygu a ffynnu dan ei gofal, gyda gweithgareddau Cymraeg wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y cyfnod. Mae gŵyl flynyddol Tafwyl yng Nghastell Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr gan roi cyfle i ddegau o filoedd o bobl i fwynhau ystod eang o ddigwyddiadau, a datblygiad diweddar Yr Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas yn ychwanegiad cyffrous i fywyd Cymraeg y brifddinas. Mae egni, gweledigaeth a dyfalbarhad Siân wedi bod yn rhan hollbwysig o’r llwyddiant hwn.
Wyn Lodwick
Mae Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli, yn adnabyddus i bawb fel ‘Y Dyn Jazz’. Cafodd yrfa eithriadol lwyddiannus yn y byd jazz,a chyfle i deithio’r byd yn perfformio, a bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu dros y blynyddoedd. Y clarinet yw offeryn Wyn, ac mae’n gerddor amryddawn, sydd wedi gosod tonau a chaneuon Cymraeg a Chymreig i steil jazz. Mae hefyd wedi darlithio’n helaeth ar hanes ac ystyr jazz, ac wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol yma yng Nghymru a thu hwnt.
Ruth Lloyd Owen
Mae Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst, yn berson gweithgar a brwdfrydig sydd wedi cyfrannu llawer dros yr iaith a diwylliant yn ei hardal. Mae’n athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi hyfforddi a chyfeilio i nifer fawr o blant a phobl ifanc yn yr ardal dros y blynyddoedd. Bu’n cyfeilio i Gôr Merched Carmel am flynyddoedd ac mae’n parhau i gyfeilio i Gôr Genod y Gân. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig ddawnus, a hi sy’n gyfrifol am anthem Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Gobaith yn y Tir.
Dafydd Meirion Roberts
Mae Dafydd Meirion Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon, yn brif weithredwr cwmni recordio Sain, ac yn aelod o’r grŵp poblogaidd Ar Log. Mae cyfraniad Dafydd i fyd cerddorol Cymraeg yn adnabyddus, ac mae wedi gweithio’n galed dros hawliau a thelerau teg i gerddorion o Gymru drwy gwmni Eos. Bu hefyd yn rhan o fwrdd y Welsh Music Foundation, yn cefnogi cerddorion Cymru ac yn llwyddo i ddenu WOMEX i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl. Mae Dafydd hefyd wedi gweithio’n ddiflino dros ddiwylliant a’r iaith yn ei gymuned gan sicrhau bod cannoedd o blant a phobl ifanc yn elwa o gyfleoedd i berfformio.
Godfrey Wyn Williams
Mae Godfrey Williams, Trefor, Llangollen, yn fwyaf adnabyddus fel cyn-berchennog yr orsaf radio Marcher Sound a wasanaethai ardal Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru. O dan ei arweiniad ef, trowyd Marcher Sound yn Sain y Gororau, gan roi lle amlwg a theilwng i’r Gymraeg a rhaglenni Cymraeg ar ei thonfeddi. Ar ôl gwerthu’r orsaf, cafodd gyfle i chwarae rhan fwy blaenllaw yn y gymuned, gan weithredu fel aelod gweithgar ac egnïol o nifer o bwyllgorau a byrddau cenedlaethol a lleol dros y blynyddoedd. Mae’n enwog yn yr ardal fel cymwynaswr heb ei ail sy’n adnabod pawb ac yn fwy na pharod i helpu unrhyw un.