Anrhydeddau 2013

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2013
isod.

Anrhydeddau’r Orsedd 2013

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Bydd yr unigolion a restrir isod yn cael eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod fore Gwener 9 Awst.

Un o sêr y byd pêl-droed yw Malcolm Allen, Caernarfon. Fe’i magwyd ym mhentref Llanbabo, lle y datblygodd ei ddawn i chwarae’r gêm, gan arwain maes o law at yrfa lewyrchus gydag Watford, Aston Villa, Norwich, Millwall a Newcastle United. Chwaraeodd i’r tîm cenedlaethol bedair ar ddeg o weithiau. Bellach mae’n dilyn gyrfa fel darlledwr a hyfforddwr. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Tim Baker Llanbedr Dyffryn Clwyd, i fyd y theatr yng Nghymru yn enfawr. Mae’n ddramodydd cydnabyddedig yn y Gymraeg a Saesneg, yn Gyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru ac yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ystod ei yrfa, bu’n gweithio mewn theatrau ar draws y byd, gan gynnwys cyfnod ym Mhatagonia lle bu’n gwneud ymchwil ar ei ddwy ddrama hynod lwyddiannus, The Spirit of the Mimosa ac Yr Hirdaith. (Gwisg Werdd)

Bugail wrth ei alwedigaeth yw Cerwyn Davies, Mynachlog-Ddu. Mae’n un o hoelion wyth ei ardal a bu’n un o’r bobl arloesol hynny a fu’n ymwneud â datblygiad addysg Gymraeg yn Sir Benfro. Gŵr diwylliedig ydyw, yn ymddiddori yn y pethe, fel aelod o Gôr Crymych, diacon ei gapel ac fel llefarydd cryf dros gadwraeth Cefn Gwlad. Mae’n Gadeirydd ar ‘Gymdeithas Waldo’ a ffurfiwyd rhyw dair blynedd yn ôl i gadw’r cof yn fyw am y bardd a’r heddychwr. (Gwisg Werdd)

Does dim amheuaeth bod y Cymro Cymraeg David Davies o’r Barri, yn wir seren yn ei gamp, sef nofio. Trwy ddawn, disgyblaeth a thipyn o ddewiniaeth, llwyddodd dros y blynyddoedd i guro’r goreuon yn ei faes. Cipiodd y fedal efydd yn y ras 1500m yng ngemau Olympaidd Athen yn 2004. Yn y ras nofio 10k yng ngemau Beijing, daeth o fewn trwch blewyn i hawlio’r fedal aur. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad David Leslie Davies, Cwmaman Aberdâr i ddysgu’r Gymraeg fel ail-iaith, yn wirioneddol arbennig. Bu’n athro yn Ysgol Uwchradd Merthyr o 1979 tan 2008, yn diwtor Cymraeg i Oedolion ym Merthyr a Chwm Cynon am ddeng mlynedd ar hugain ac yn un o sylfaenwyr y papur bro Clochdar. Bu ei gyfraniadau i gylchgronau a chyhoeddiadau hanesyddol yn ogystal â’i gyfraniad cwbl arbennig i’w fro, yn hynod dros y blynyddoedd. (Gwisg Werdd)

Fel un sy’n gwbl ddi-gyfaddawd yn ei ddefnydd o’r iaith Gymraeg mewn cyfarfodydd o Gyngor Sir Ddinbych y disgrifir Meirick Lloyd Davies Abergele. Bu’n gynghorydd cymuned ers 50 mlynedd ac yn un a gyfrannodd yn gyson i’r papur bro Y Gadlas ers deng mlynedd ar hugain. Mae hefyd yn cyfrannu o’i arbenigedd ym maes rheoliadau adeiladu fel is-gadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Las)

Llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru yw Merfyn Davies, Abergele. Cyfrannodd i wahanol raglenni ers 1977. Mae’n is-gynhyrchydd a pheiriannydd cylchgrawn tâp y deillion Y Gadwyn ac fe gyhoeddwyd dau lyfr o’i waith gan Wasg Carreg Gwalch, Mewn gwisg nyrs a’i hunangofiant Fy nghwys fy hun. Cyfrannodd hefyd i fudiad Yr Urdd yn ogystal â llu o gymdeithasau yn ei filltir sgwâr. (Gwisg Las)

Gwladwr hynod iawn yw Arwyn Evans, Llanfair Caereinion. Bu’n aelod, arweinydd ysbrydoledig a chennad Aelwyd Penllys ers dros deugain mlynedd. Bu hefyd yn gofrestrydd, trefnydd ac yn asgwrn cefn Côr Meibion Llanfair Caereinion yn ystod yr un cyfnod. Mawr fu ei gyfraniad i lu o gymdeithasau yn ei fro a bu’n aelod eiconig o Gwmni Theatr Maldwyn. Enillydd Tlws John a Ceridwen Huws Yr Urdd. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad neilltuol Eirlys Gruffydd Yr Wyddgrug, at ddefnydd a pharhad y Gymraeg mewn amryw o feysydd yn un hynod iawn ar lefel lleol a chenedlaethol. Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau ffeithiol a nofelau i blant dros y blynyddoedd ynghyd ag erthyglau i gylchgronau megis Llafar Gwlad, Y Faner a’r Wawr. Bu’n ddarlithydd ymroddgar i nifer o gymdeithasau led led Cymru. (Gwisg Werdd)

Un o Lwynhendy’n wreiddiol yw Enid Griffiths, Porthaethwy. Bu’n Bennaeth yr Adran Gerdd yn ysgolion Dinbych, Syr Hugh Owen a David Hughes ac yn arweinydd nifer o gorau dros y blynyddoedd. Enillodd nifer o wobrau cyfansoddi, gan gynnwys Emyn 2000 S4C, Llanddwyn, ac yn 2011 gyda Leah Owen, enillodd gystadleuaeth dathlu hanner can mlwyddiant Dechrau Canu, Dechrau Canmol. (Gwisg Werdd)

Yn ogystal â bod yn enw cyfarwydd ym myd teledu, bu Cleif Harpwood Port Talbot yn aelod o sawl grŵp pop Cymraeg, ac mae’n arbennig o adnabyddus fel prif leisydd a chyfansoddwr gyda’r grŵp arloesol Edward H Dafis. Mae’n gyfarwyddwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu ers dros chwarter canrif ac wedi cyfrannu’n sylweddol at hyfforddi to ifanc o dalent ym myd teledu Cymraeg. (Gwisg Werdd)

Mae Elvira Myfanwy Harries yn aelod gweithgar a chymwynasgar o gymuned Casblaidd, Sir Benfro. Bu ei gweithgareddau dros blynyddoedd lawer yn fodd i uno’r gymuned a meithrin talentau pobl ifanc. Saif yn gadarn dros y Gymraeg a gweithiodd yn adeiladol a chyson er budd yr iaith. Mae hi wedi parhau yn ei gweithgaredd serch iddi bron a cholli ei golwg yn llwyr tua ugain mlynedd yn ôl. (Gwisg Las)

Un a gyfrannodd yn helaeth i’w bro yw Anna Elisabeth Jones, Abersoch. Bu’n Bennaeth Ysgol Abersoch ac ail-sefydlodd gangen o’r Urdd yn yr ardal. Bu’n hael wrth roi o’i hamser a’i dawn i Aelwyd yr Urdd a’r Ffermwyr Ieuanc yn ogystal â nifer o gymdeithasau eraill yn ei hardal. Ei gweledigaeth hi a fu’n gyfrifol am sefydlu Grŵp Treftadaeth Abersoch a’r Cylch. Mae hi hefyd yn aelod blaenllaw o Gwmni Drama enwog Llwyndyrys. (Gwisg Las)

Enw cyfarwydd iawn i garedigion Cerdd Dant yw Dwynwen Jones Llangadfan, Maldwyn. Cyfansoddodd alawon penigamp, yn ogystal â gosod cyfalawon cerdd dant yn ddeallus a chreadigol. Mae hi wedi, ac yn parhau i hyfforddi plant a phobl ifanc ar gyfer eisteddfodau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â phartïon a chorau. Yn Gymraes i’r carn, mae hi’n gefnogol i’r pethe dros ardaloedd eang Maldwyn. Aelod am oes o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru. (Gwisg Werdd)

Un a gyfrannodd yn helaeth i fyd chwaraeon ac i’r iaith Gymraeg yw Iwan Gwyrfai Jones Yr Wyddgrug. Mae’n un o hoelion wyth cymdeithas Gymraeg yr ardal: yn aelod gweithgar o bwyllgor Papur Fama ers ei sefydlu, yn gynghorydd ar Gyngor Tref yr Wyddgrug, yn weithgar fel aelod o Fenter Iaith Sir y Fflint ac yn un o sylfaenwyr Siop y Siswrn. Gŵr amryddawn ydyw mewn sawl maes, yn athro ysgol Sul ac yn aelod llawn direidi o ddramâu comedi Cwmni’r Dreflan. (Gwisg Las)

Disgrifir John Arthur Jones, Llanrwst, fel un o gymwynaswyr mawr ein cenedl, yn gweithio’n wirfoddol ac yn ddi-baid dros nifer o fudiadau a chymdeithasau. Cyfrannodd yn helaeth i’r Mudiad Meithrin fel Trysorydd Cenedlaethol ers deng mlynedd ar hugain. Mudiadau eraill a fu’n elwa o’i arbenigedd yw’r Eisteddfod Genedlaethol a Phwyllgor Adnoddau Tai Clwyd. (Gwisg Las)

Mae Lois Wynne Jones Dinbych wedi bod yn gweithio yn Swyddfa’r Eisteddfod Genedlaethol ers chwarter canrif. Nid gormodiaith fyddai dweud iddi fod yn llaw dde i’r Trefnydd, nid yn unig yn ystod oriau gwaith y swyddfa ond y tu allan i’r rheini hefyd. Mae hi bob amser yn effeithiol ac effeithlon ym mhob dim a wna a hynny gyda sirioldeb di-feth. (Gwisg Las)

Fel un sydd wedi cyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cymru a’i bro y disgrifir Meinir Lynch Llangwm. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o raglenni plant sy’n ymddangos yn rheolaidd ar raglen Cyw, Sali Mali a Jac Do. Mae hi hefyd yn un o sgriptwyr Pobol y Cwm ers blynyddoedd. Canmoladwy hefyd yw ei chyfraniad i ddiwylliant ei bro ym myd cerddoriaeth gyda Eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ieuanc. (Gwisg Werdd)

Prif ddiléit Dyfrig Morgan Merthyr, yw meithrin pobl ifanc i fod yn unigolion cyflawn ac mae’n parhau yn uchel iawn ei barch gyda chenedlaethau o bobl ifanc y bu’n eu harwain. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr Gwaith Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru a bu’n gweithio i’r mudiad ers chwarter canrif. Mae ei wasanaeth i ieuenctid Cymru yn glodwiw. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Aled Owen Corwen i fyd amaeth yng Nghymru a thu hwnt yn sylweddol. Llwyddodd i gyrraedd yr uchelfannau yn y byd treialon cŵn defaid, gan fod yn bencampwr y byd ddwy waith yn 2002 a 2008, yn ogystal â phrif bencampwriaeth treialon rhyngwladol y cŵn defaid dair gwaith. (Gwisg Las)

Enw cyfarwydd iawn i garedigion cerddoriaeth yw Annette Bryn Parri, Deiniolen. Bu’n hynod o weithgar dros y blynyddoedd fel cyfeilydd i Gôr Glanaethwy ac fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion y Traeth. Bu’n gyfeilydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1999, ac yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Enillodd y Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn 1985. Cyhoeddodd ei hunangofiant Bywyd ar ddu a gwyn yn 2010. (Gwisg Werdd)

Un a fu’n gwasanaethu ei fro mewn llu o wahanol ffyrdd yw Ifor Parry Corwen. Bu’n brif stiward ym Mhafiliwn Corwen ers blynyddoedd ac yn Llywydd y pwyllgor sy’n gyfrifol am yr ŵyl ddrama yn y dref. Ers 1987, mae o wedi bod yn un o stiwardiaid yr Eisteddfod Genedlaethol gan weithredu fel Dirprwy Brif Stiward. Un sy’n rhoi ei wasanaeth yn flynyddol i’n Prifwyl ydyw. (Gwisg Las)

Un o ffotograffwyr hynotaf Cymru yw Tegwyn Roberts, Llanbedr Goch Ynys Môn. Daw yn wreiddiol o Ddolanog ym Maldwyn a dechreuodd ei yrfa gyda phapur newydd Y Cymro gan ddilyn ôl troed Geoff Charles a pharhau gyda’i waith o gofnodi holl amrywiaeth bywyd Cymru. Ers hynny mae wedi gweithio ar ei liwt ei hun gan gynnig gwasanaeth tynnu lluniau i’r cyhoedd o eisteddfodau, sioeau a digwyddiadau o bob math.

Yn ne Ontario Canada y ganed Siân Thomas, ond i deulu a oedd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Ceiriog. O’i dyddiau cynnar ymfalchïai yn ei Chymreictod a bu’n dra gweithgar o fewn Cymdeithas Cymanfa Ganu Ontario a Chymdeithas Madog. Yn bump ar hugain oed, aeth ati i ddysgu Cymraeg ac yn 1980 daeth i fyw yng Nghymru, nes iddi ddychwelyd i Canada yn 2011. Bu’n Swyddog y Celfyddydau, Celfyddydau’r Gorllewin ac yn 2004 fe’i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Trac. (Gwisg Werdd)

Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn rhan annatod o fywyd Stella Treharne, Bancffosfelen, Llanelli. Dros y blynyddoedd bu’n hynod o weithgar gyda chymdeithasau lleol megis Yr Urdd, y capel a phwyllgor y neuadd leol. Un a roddodd yn hael o’i hamser i gefnogi ac arwain pob math o weithgareddau yn ei milltir sgwâr. Yn aelod o Ferched y Wawr bu’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Cwm Gwendraeth. (Gwisg Las)

Gwasanaethodd John Watkin Ystradmeurig, Ceredigion, ei genedl a’i gornel o Gymru yn anrhydeddus a hael. Am y rhan helaethaf o’i yrfa bu’n gweithio fel cynhyrchydd, gweinyddwr a chyd-gyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol, lle y bu ei gyfraniad i raglenni blant yn nodedig. Yn ogystal â hyn bu’n arian byw o fewn ei gymdeithas leol, yn arwain ac yn hyrwyddo pob math o weithgareddau. (Gwisg Las)

Un a fagwyd yn Ninbych yw Bryn Williams. Mynychodd Goleg Llandrillo i hyfforddi fel cogydd a mireiniwyd ei grefft yng ngheginau rhai o gogyddion enwog y byd yn Llundain a Ffrainc. Ers 2006 bu’n rhedeg tŷ bwyta Odette’s yn Llundain ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar ddefnyddio cynhwysion o Gymru pan yn coginio. Erbyn hyn mae ganddo ei gyfres deledu ei hun ar S4C sef Cegin Bryn. (Gwisg Las)

Daw Claire Williams o bentref Porthyrhyd, Caerfyrddin. Dechreuodd hyfforddi ar daflu pwysau, y waywffon a’r ddisgen gyda chlwb yr Harriers yng Nghaerfyrddin, a daeth llwyddiant rhyngwladol yn sgîl ei dyfalbarhad, wrth iddi gipio’r fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain y llynedd. (Gwisg Las)