Anrhydeddau 2012

Urddo i’r Orsedd

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2012
isod.

Urddau’r Orsedd 2012

Yn unol â threfniadau newydd Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, a gyflwynir am y tro cyntaf yn y Brifwyl eleni, bydd pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

O hyn ymlaen, enillwyr prif wobrau llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig, fydd yn cael eu hurddo i’r Wisg Wen. Bydd pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Bydd y rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Un a fu’n gweithio’n wirfoddol i’r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer yw Eurfyl Bowen Pontyberem, ger Llanelli. Ef yw un o’r bobl werthfawr hynny, sy’n gosod a rhedeg maes carafanau’r Eisteddfod. Mae ei gyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod yn flynyddol, yn amheuthun. (Gwisg Las)

Mae Basil Davies Y Barri wedi rhoi oes o wasanaeth i’r iaith Gymraeg ar lefel broffesiynol a gwirfoddol. Cysylltir ei enw yn bennaf â maes Cymraeg i Oedolion, lle bu’n llafurio am gyfnod o dros 30 mlynedd. Er yn frodor o Landdarog, Caerfyrddin, mae wedi byw yn Y Barri ers 1974. (Gwisg Werdd)

Mae llais soniarus y tenor poblogaidd Wynne Evans, wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt ers dros chwarter canrif. Mae’n brif denor gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ac yn ymddangos yn rheolaidd gyda chwmnïau opera eraill. Yn enedigol o dref Caerfyrddin, mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. (Gwisg Werdd)

Cafodd Betsi Griffiths ei geni a’i magu yn Y Gilfach Goch, Y Rhondda. Am bum mlynedd ar hugain, bu’n Bennaeth ymroddgar ar Ysgol Gymraeg Tonyrefail – yn wir, hi oedd Pennaeth cyntaf yr ysgol hon. Mae hi hefyd yn weithgar yn ei bro, gan wasanaethu fel gohebydd lleol i Bapur Bro Tafod Elai. (Gwisg Las)

Rhoddodd Gwenda Griffith wasanaeth unigryw i’r genedl ym myd y cyfryngau ers deng mlynedd ar hugain. Un o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol, mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach. Sefydlodd y cwmni ‘Fflic’ ar ddechrau cyfnod S4C a bu’n gyfrifol am gyfresi clodwiw, megis ‘Pedair Wal’, ‘Y Tŷ Cymreig’, a ‘Cwpwrdd Dillad’. (Gwisg Las)

Mae Linda Griffiths yn enw cyfarwydd fel unawdydd gwerin ac fel aelod o’r grŵp hynod o boblogaidd ‘Plethyn’. Un o Bontrobert ym Maldwyn yn wreiddiol, mae hi bellach yn byw yn Nhrefeurig, ger Aberystwyth. Bu’n diddanu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru, yn y gwledydd Celtaidd, yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ystod cyfnod o dros ugain mlynedd. (Gwisg Werdd)

Fel pob gwir grefftwr, gŵr diymhongar, dyfal a diddorol yw William Irfon Griffiths Comins Coch, Aberystwyth. Cadw gwenyn yw ei brif ddiddordeb hamdden ac fe gasglodd brofiadau hanner can mlynedd o fod wrth ei grefft, ar gyfer ei gyfrol ‘Dyn y Mêl’. Ymysg cyfraniad sylweddol y gyfrol, yw’r rhestr a’r defnydd sydd ynddi o dermau gwenynna Cymraeg. (Gwisg Las)

John Hartson yw un o’r lleisiau cyfarwydd bellach ym myd sylwebu pêl-droed yn yr iaith Gymraeg. Ar y maes, nodweddwyd ef gan ei ddewrder, ei ddycnwch a’i benderfyniad wrth chwarae dros dimau blaengar, gan gynnwys Luton, Arsenal, West Ham United, Celtic a thros y tîm Cenedlaethol. Yn dilyn triniaeth feddygol lwyddiannus, aeth ati i lansio Sefydliad John Hartson er mwyn codi arian a hyrwyddo ymwybyddiaeth achos Cancr y Ceillau. (Gwisg Las)

Ers blynyddoedd, bu Bethan Wyn Jones yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru ar raglenni byd natur. Bu’n gyfrifol am raglenni megis ‘Awyr Agored’ a ‘Gweld Llais a Chlywed Llun’ ynghyd â’r rhaglen ‘Galwad Cynnar’ ar fore Sadwrn. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn cyflwyno agweddau o fyd natur mewn ffordd glir a darllenadwy. Ynys Môn yw ei ‘milltir sgwâr’ ac mae darllen am ei phrofiadau yn cerdded yr arfordir ym mhob tywydd yn hudolus. (Gwisg Las)

Carwyn Jones yw Prif Weinidog Cymru ers 2009. Mae’n aelod o’r Cynulliad dros Pen-y-bont ar Ogwr, ers 1999 a bu’n Weinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg rhwng 2007 a 2009. Yn fargyfreithiwr o ran galwedigaeth, bu’n gwasanaethu yn Siambrau Gŵyr yn Abertawe am ddeng mlynedd. Mae ganddo ddiddordeb eang ym myd chwaraeon, yn enwedig rygbi, lle y mae’n gefnogwr selog o’i dîm lleol ym Mhen-y-bont. (Gwisg Las)

Mae cyfraniad Elin Ellis Jones i fyd Meddygaeth Iechyd Meddwl dros y blynyddoedd, yn un sylweddol. Mae hi’n seiciatrydd a fu’n gweithio yn Ysbytai Gogledd Cymru ac yn Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy. Un o Lŷn ydyw ac mae hi’n ymfalchïo yn ei magwraeth ddiwylliedig yn y gymdeithas hon. Fel trysorydd y Gymdeithas Seiciatryddol yng Nghymru, llwyddodd i Gymreigio gweithgareddau’r gymdeithas honno. (Gwisg Las)

Treuliodd Gareth Davies Jones ei holl yrfa ym myd addysg. Bu’n ymgynghorydd y Gymraeg yn Sir Ddinbych rhwng 1967 a 1971 ac yna’n Arolygwr ei Mawrhydi hyd 1997. Mae’n un sydd yn cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymraeg tref Wrecsam ac yn aelod blaengar o Gyngor Llyfrau Cymru ers 35 o flynyddoedd. Bu’n weithgar iawn ar bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011. (Gwisg Las)

Un a fu’n feddyg teulu yng Nghaernarfon am dros 30 o flynyddoedd yw Gareth Parry Jones. Am gyfnod bu’n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, cymdeithas sy’n cynnal Cynhadledd Addysg Feddygol trwy gyfrwng y Gymraeg yn flynyddol. Fel tiwtor addysg barhaol, bu’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd addysgiadol i feddygon teulu yng Ngwynedd. Trwy gydol ei yrfa, bu’n ddiflino yn ei ymdrech i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y proffesiwn meddygol. (Gwisg Las)

Enillodd Stephen Jones 104 o gapiau dros dîm rygbi Cymru yn safle’r maswr. Mae’n Gymro i’r carn ac wedi bod yn was ffyddlon a phoblogaidd i’w gamp a’i wlad, ac yn un sydd wedi sbarduno a chynorthwyo chwaraewyr ifanc. Mae wedi bod yn llysgennad ardderchog yn rhyngwladol dros y Llewod yn 2005 a 2009 ac wedi ymddangos dros 200 o weithiau dros y Sgarlets gan sgorio 2000 o bwyntiau. (Gwisg Las)

Ann Keane yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru ers 2010. Yn dilyn gyrfa fel darlithydd mewn gwahanol golegau, fe’i penodwyd yn Arolygydd Ysgolion yn 1984, lle y rhoddodd sylw arbennig i addysg ddwyieithog ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ystalyfera a Llandysul, cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. (Gwisg Las)

Un o feibion Dyffryn Clwyd yw Meirion Llewelyn. Astudiodd feddygaeth yn Ysgol Feddygol Caerdydd, Llundain, Caergrawnt a Havard yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod ei yrfa, bu’n Niwrolegydd Ymgynghorol ac Uwch Gofrestrydd Meddygol yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd. Erbyn hyn, mae’n Feddyg Ymgynghorol mewn clefydau heintus yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymysg y gwobrau niferus a gyflwynwyd iddo, dros y blynyddoedd, mae’n hynod o falch o wobr Awdurdod Iechyd Gwent fel Pencampwr yr Iaith Gymraeg. (Gwisg Las)

Mae Noel Lloyd yn enw cyfarwydd i holl ysgolheigion ein cenedl. Bu’n Athro ar Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth cyn cael ei benodi’n Brifathro ac Is-ganghellor y Brifysgol honno yn 2004. Mae’n un sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r sector addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y cyfrifoldeb o gyflwyno a gwireddu gofynion Cynllun Iaith y Brifysgol. Ymatebodd yn frwd i’r dasg hon a bu’n gyson ei gefnogaeth a’i ddylanwad. (Gwisg Las)

Actores flaenllaw ers dechrau’r chwedegau yw Lisabeth Miles. Mae ei gyrfa ddisglair dros gyfnod maith yn parhau hyd heddiw wrth iddi ymddangos yn gyson ar ein sianel cenedlaethol. Bu’n serennu ar lwyfannau Cymru, gydol y cyfnod hwn, gan sicrhau le arbennig iddi yng nghalon y genedl. Bu hefyd yn hael o’i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac mae ei gwaith diflino dros y ‘pethe’ yng Nghaerdydd yn ganmoladwy. (Gwisg Werdd)

Brodor o Dreforys yw Densil Morgan, sydd bellach yn byw yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n Weinidog yr Efengyl am gyfnod cyn cael ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor ac yna’n Bennaeth yr Adran yn 2004. Yn 2010 fe’i penodwyd yn Bennaeth Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae’n awdur toreithiog yn y ddwy iaith a bu’n darlithio droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Las)

Cafodd Arwel Ellis Owen yrfa ddisglair yn y byd darlledu, gan ddal swyddi blaengar. Bu’n Olygydd Newyddion BBC Cymru, yn Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon, yn Gadeirydd Ysgol Ffilmiau Rhyngwladol ac yn Brif Weithredwr dros dro ar S4C. Mae’n un a gafodd ddylanwad enfawr ar fyd y cyfryngau ac yn un a dderbyniodd clod am ei waith yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cyngor Gofal Cymru ac yn Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol. (Gwisg Las)

Mae Magwen Pughe, Cemaes ger Machynlleth wedi rhoi gwasanaeth diflino i ardal Bro Ddyfi ac i ddiwylliant Cymru gyfan. Yn enedigol o Chwilog, bu’n athrawes yn Ysgol Gynradd Glantwymyn am flynyddoedd lawer. Mae ei doniau cerddorol yn amlwg, a defnyddia’r doniau hynny i gyfoethogi bywyd ei chymuned, yn arweinydd Côr Gore Glas ac yn hael o’i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc y Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd yr Urdd. (Gwisg Werdd)

Un a fu’n gweithio’n ddyfal yn ardal ddifreintiedig Penrhys yn Y Rhondda ers un mlynedd ar hugain yw Sharon Rees. Yn wreiddiol o Gwmtawe, bu’n hynod o weithgar ym myd addysg gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin, yn wirfoddolwraig gyda phobl ag anghenion arbennig ac ers 1991, yn Weithiwr Addysg ym Mhenrhys. Mae ei gwasanaeth a’i hymrwymiad i’r gymuned hon yn hollol unigryw ac mae hi yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymreictod y bobl ifanc yn ei gofal. (Gwisg Las)

Cymro Cymraeg a ymfalchïodd yn ei wreiddiau a’i iaith gydol ei yrfa fel pêl-droediwr yw Iwan Roberts. Un o Ddyffryn Ardudwy yn wreiddiol a adawodd ei gartref yn un ar- bymtheg oed i ymuno â chlwb pêl-droed Watford. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda chlwb pêl-droed Norwich a thîm cenedlaethol Cymru. Ers ei ymddeoliad fel chwaraewr, mae’n sylwebydd craff ar raglenni chwaraeon BBC Cymru, bob amser yn fodlon rhoi o’i amser i hyrwyddo chwaraeon ac i gefnogi cymdeithasau diwylliannol ei fro. (Gwisg Las)

Yn enedigol o Gaerdydd, daeth Huw Stephens i amlygrwydd yn 1999 wrth iddo gael ei ddewis i fod yn un o gyflwynwyr Radio 1 ar raglen ranbarthol Cymru’r orsaf, y DJ ieuengaf erioed i weithio i’r orsaf. Mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny ac yn ystod ei raglenni, mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg iawn. Mae’n parhau i ddarlledu yn y Gymraeg ar orsaf Radio Cymru ac yn 2007, sefydlodd Ŵyl Gerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd sef Gŵyl Sŵn. (Gwisg Werdd)

Un a gyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol Penybont Ar Ogwr a Phorthcawl yw Gwerfyl Thomas. Bu’n athrawes frwdfrydig yn Ysgol Gymraeg Maesteg ac yn hynod o weithgar gyda chapel y Tabernacl. Bu’n aelod sylfaenol o gôr Merched y Fro ac fe gyfrannodd yn helaeth at sefydlu’r Papur Bro ‘Yr Hogwr’. Mae’n aelod brwd o Gymdeithas Lenyddol Porthcawl ac yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. (Gwisg Las)

Bu Dyfrig Williams yn gweithio’n wirfoddol i’r Eisteddfod Genedlaethol ers 1996, gan gymryd y cyfrifoldeb blynyddol o redeg maes carafanau’r Eisteddfod. Yn ogystal â gofalu yn ymarferol am redeg y maes ac arwain tîm o wirfoddolwyr drwy’r wythnos, mae o hefyd yn cynghori ar gynllun y maes a materion yn ymwneud â diogelwch. Bu hefyd yn gyfrifol am gynllunio a chynghori ar gynnwys cwrs hyfforddiant i’r stiwardiaid gwirfoddol. (Gwisg Las)

Fel ‘talp o graig gadarn’ y disgrifir Gwynne Williams Dyffryn Nantlle. Treuliodd ei oes fel gŵr busnes llwyddiannus gan wasanaethu ei ardal yn helaeth.Treuliodd ei grŵp “Hogiau’r Delyn” rhwng 1969 a 1975 gan ddiddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru.Ar hyd ei oes, mae wedi cynnig gwasanaeth gwirfoddol ac eang i’w ardal mewn amrywiol feysydd. Un o’i ddiddordebau pennaf yw ‘Seindorf Arian Dyffryn Nantlle’ a bu’n aelod ffyddlon o’r band ers 1964. (Gwisg Las)

Mae Iwan Bryn Williams yn un o brif gynheiliaid bywyd diwylliannol Y Bala a Phenllyn, gan gyfrannu’n helaeth i nifer fawr o gymdeithasau gwahanol ac amrywiol. Ymysg ei gyfraniadau, mae’n Brif Olygydd papur bro ‘Pethe Penllyn’, yn un o symbylwyr sefydlu ‘Cantref’, y ganolfan dreftadaeth ac aelod o dîm Penllyn ar Dalwrn y Beirdd. Bu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys Y Bala ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009. (Gwisg Las)

Un o Ddyffryn Aman yw Shane Williams. Dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda’i glwb lleol, Clwb Rygbi’r Aman, cyn symud at glwb Castell Nedd a’r Gweilch. Mewn gyrfa ryngwladol anhygoel, enillodd 87 o gapiau dros ei wlad gan helpu’r tîm cenedlaethol i ennill dwy Gamp Lawn. Dros Gymru, fe sgoriodd record o 58 o geisiau ac fe gynrychiolodd y Llewod mewn pedair gêm brawf yn Ne Affrig yn 2009. Mae’n Gymro Cymraeg ac yn un sy’n dangos balchder yn ei Gymreictod. (Gwisg Las)