Anrhydeddau 2015

Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i
Orsedd Y Beirdd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd yr anrhydeddau am 2015
isod.

 

Anrhydeddau’r Orsedd 2015

Ar 7 Mai cyhoeddwyd enwau’r rheini a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Mae’r cyflwynydd adnabyddus, Alex Jones, Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, y gantores werin Siân James a’r cerddor a’r cynhyrchydd, Endaf Emlyn, ymysg y rheiny sy’n derbyn yr anrhydedd eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni, fore Gwener 7 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst eleni. Am fwy o fanylion ewch ar-lein – www.eisteddfod.org.uk.

 

Manylion yr anrhydeddau eleni:

Pat Ashman

Yn Reolwr Nawdd a Digwyddiadau Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae cefnogaeth diflino Pat Ashman, Gwenfô, i’r Eisteddfod wedi bod yn arbennig am flynyddoedd lawer, yn y gwaith yn ogystal ag yn ei bywyd personol.

Yn broffesiynol, mae Pat wedi sicrhau y defnydd gorau o ofod y Principality ar y Maes ers blynyddoedd, gan roi cyfleoedd i gerddorion ifanc feithrin eu doniau ac ymarfer cyn cystadlaethau, ac wedi bod yn greiddiol i gefnogaeth hael y Gymdeithas am flynyddoedd. Ond mae ymroddiad Pat yn ddyfnach na’i chyswllt proffesiynol yn unig, a’i chyfraniad a’i chefnogaeth bersonol i bopeth yn heintus ac yn sicr o ysbrydoli’r rheiny sy’n rhan o’r prosiectau lu a dderbyniodd gymorth oherwydd ei gwaith caled. (gwisg las)

Llinos Iorwerth Dafis

Yn wreiddiol o Rydypennau, mae Llinos Iorwerth Dafis wedi cyfrannu’n helaeth i ddwyieithrwydd yng Nghymru ac i ddiwylliant dwy ardal dros flynyddoedd lawer. Bu’n weithgar dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o ddyddiau Pont Trefechan a mynnodd yr hawl i gofrestru genedigaeth yn y Gymraeg.

Mae wedi chwarae rhan allweddol yn amryw o’n sefydliadau cenedlaethol a chyrff ar lawr gwlad. Hi oedd y tiwtor-drefnydd Cymraeg i Oedolion cyntaf, a bu’n arwain Cwrs Carlam Aberystwyth yn ogystal â hwyluso dwyieithrwydd mewn nifer o sefydliadau ar hyd a lled Ceredigion. Bu’n greiddiol yn y gwaith o sefydlu’r fenter iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth a’r mudiad CYD, ac mae hefyd yn adnabyddus fel sylfaenydd Cwmni Iaith Cyf. (gwisg las)

D Eurig Davies

Er y daw’n wreiddiol o Lan-non, Ceredigion, mae Eurig Davies wedi treulio rhan fawr o’i oes yn yr Unol Daleithiau, lle bu’n gweithio ym maes ymchwil microelectroneg gyda Llu Awyr y wlad. Ond er symud ymhell o Gymru, nid anghofiodd ei wreiddiau, ac mae’n parhau i ymweld yn gyson, ac yn un o bileri’r gymdeithas Gymraeg yn ardal Boston, gan drefnu gweithgareddau Cymraeg yn rheolaidd.

Mae’n llysgennad heb ei ail i’r Gymraeg a Chymru, yn arbennig ymhlith y myfyrwyr a’r academyddion a ddaw o bob cwr o’r byd i astudio i ardal Boston. Mae’n aelod cysylltiol o Adran Geltaidd Prifysgol Harvard, yn rhinwedd ei arbenigedd ar hanes y Cymry yn America. Mae’i gyfraniad i fywyd Cymraeg America a’i waith ar hanes y cysylltiad pwysig rhwng y ddwy wlad yn nodedig. (gwisg las)

Hilda Mary Edwards

O Dderwenlas ger Machynlleth y daw Hilda Edwards, Bontnewydd, Caernarfon, yn wreiddiol, ond bu’n byw yn y Bontnewydd ers dros hanner canrif. Mae’n ddeinamo o ddynes, yn esiampl i bawb ohonom sut i heneiddio’n brysur a chynhyrchiol heb laesu dwylo, a hithau’n 92 oed erbyn hyn, mae’n parhau’n arian byw o weithgarwch, gyda’i chyfraniad i’w hardal a’i chapel yn destun rhyfeddol i bawb sy’n ei hadnabod.

Yn ganolog i bob gweithgaredd yng Nghapel Libanus ers blynyddoedd, mawr fu ei chyfraniad hefyd i Sioe Amaethyddol Gogledd Cymru, nid yn unig fel cystadleuydd brwd, ond hefyd fel rhan o’r pwyllgor trefnu a thrysorydd Adran y Cartref a’r Ardd ers dros chwarter canrif. Mae’n rhedeg clwb yr henoed yn y pentref, yn trefnu dwy wibdaith bob blwyddyn, a chyfrannodd llawer i waith Sefydliad y Merched yn yr ardal ac yng Ngwynedd gyfan am flynyddoedd lawer. (gwisg las)

Hywel Wyn Edwards

Bu Hywel Wyn Edwards, Sychdyn, Yr Wyddgrug, yn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol dros gyfnod o chwarter canrif a bu ei waith manwl a chywir yn hyrwyddo llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol o flwyddyn i flwyddyn, yn destun canmoliaeth mawr dros yr holl gyfnod.

Mawr yw dyled y genedl iddo am roi y fath wasanaeth clodwiw i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd. Bu ei wybodaeth eang o’r diwylliant Cymraeg yn eithriadol o werthfawr i’r Eisteddfod a’i allu gweinyddol effeithiol tu hwnt wrth i’n Gŵyl hynod fynd o nerth i nerth. (gwisg las)

Dennis Gethin

Dennis Gethin, Pontypridd, yw Llywydd Undeb Rygbi Cymru. Yn chwaraewr rygbi brwd, hyfforddodd fel cyfreithiwr cyn troi at lywodraeth leol lle y bu’n gweithio fel Prif Weithredwr Cyngor Taf Elai, ac yna fe’i benodwyd yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru.

Mae’n Lywydd tîm rygbi byddar Cymru ac yn gadeirydd ymddiriedolaeth elusennol Rygbi Cymru, sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i chwaraewyr ar ôl anafiadau difrifol. Mae hefyd yn ddirprwy lywydd Côr Meibion De Cymru, ac yn lysgennad gwych ac effeithiol dros Gymru ar bob lefel ac ym mhob maes. (gwisg las)

David Gravell

Mae David Gravell yn ŵr busnes amlwg yn ardal gorllewin Cymru, gyda’i gwmni ceir ‘Gravells’ yn adnabyddus ar draws y de. Bu’n noddwr hael i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ers blynyddoedd, ac mae hefyd yn gefnogwr brwd o’r berthynas bwysig rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn noddi’r Gadair yn Eisteddfod y Wladfa eleni.

Mae’r gwr o Gydweli’n barod ei gymwynas bob tro ac yn gefnogol eithriadol i weithgareddau sy’n cefnogi’r Gymraeg. Bu ei gymorth a’i gefnogaeth yn allweddol yn Sir Gâr y llynedd wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod. Yn Gymro i’r carn, mae’n llawn haeddu derbyn yr anrhydedd hon eleni. (gwisg las)

Sarah Hopkin

Merch ei milltir sgwâr ym Mrynaman yw Sarah Hopkin, ac mae wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i bob math o weithgareddau a sefydliadau’n lleol. Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd, mae Sarah wedi bod yn amlwg ei chyfraniad i’r Gymraeg a diwylliant ei bro, gan ymddiddori mewn nifer o feysydd, o ddawnsio gwerin i fyd y ddrama a chanu corawl.

Mae’n aelod blaenllaw o Gwmni Drama Y Gwter Fawr, sy’n gystadleuwyr rheolaidd yn yr Eisteddfod ac wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ac yn un o banel Dawns yr Eisteddfod Genedlaethol. (gwisg las)

Alex Jones

Enw cyfarwydd o fyd y teledu yw Alex Jones, Rhydaman. Er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac yna yn Ysgol Gyfun Gymraeg Maes-yr-yrfa, Cefneithin. Bu’n aelod o Adran Penrhyd ers yn ifanc iawn gan gystadlu’n gyson yn Eisteddfodau’r Urdd.

Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio ar sawl rhaglen ar S4C, cyn cael swydd fel cyflwynydd ar The One Show yn 2010. Er iddi grwydro dros Glawdd Offa, nid yw Alex wedi anghofio ei gwreiddiau na’i Chymreictod. (gwisg las)

Elfair Jones

Mae Elfair Jones, Mynachlog Ddu, Clunderwen, yn un o wir bobl ‘y pethe’ gan ymroi yn ddiwyd i ddiogelu’r etifeddiaeth Gristnogol a Chymreig yn Sir Benfro. Mae’n aelod gwerthfawr o amrywiol bwyllgorau yn ei chymuned ac yn ysgrifennydd neu drysorydd nifer fawr o gymdeithasau.

Bu’n gyson iawn ei chefnogaeth i Ferched y Wawr yn ei changen leol, yn sirol ac yn genedlaethol, gan wasanaethu fel trysorydd cenedlaethol y mudiad yn 2007-08. Yn ogystal, mae’n gefnogwr brwd o’r eisteddfodau bach yn yr ardal. (gwisg las)

Elin Jones

Mae Elin Jones, Ystrad Mynach, yn hanesydd treiddgar a bywiog, yn ysgolhaig deallus ac athrawes sydd wedi rhoi’i hoes i hybu ein dealltwriaeth o hunaniaeth de ddwyrain Cymru. Mae wedi ysgrifennu a darlledu’n helaeth ar bynciau fel hanes y Siartwyr a datblygiad y diwydiant dur a glo yng Nghymru, gyda’i dull diffuant ac egnïol o gyfathrebu yn mynnu gwrandawiad.

Yn ogystal â’i gwaith ym maes hanes Cymru, mae Elin yn lladmerydd pwysig ac ysbrydoledig ynglyn ag iechyd meddwl yma yng Nghymru, gyda’i pharodrwydd i siarad yn sensitif am ei phrofiad teuluol a phersonol yn gysur a chefnogaeth i lawer, dros y blynyddoedd. (gwisg las)

Esme Jones

Dros y blynyddoedd mae Esme Jones, Crugybar, Sir Gaerfyrddin, wedi rhoi yn hael o’i hamser a’i gallu i lu o fudiadau’r ardal ac wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithgareddau o fewn Bro Dinefwr. Mae hi’n berson diwylliedig, sydd wrth ei bodd yn trefnu a chyfrannu i weithgareddau diwylliannol yr ardal, boed yn eisteddfod, neu dalwrn y beirdd.

Mae wedi cymryd diddordeb arbennig yng ngweithgareddau pobl ifanc ac wedi cyfrannu llawer at ffyniant Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi. Athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi cyfnod yng Nghaerffili, daeth yn ôl i Ysgol Caio fel athrawes a Phrif Athrawes uchel iawn ei pharch. (gwisg las)

Gwyneth Jones

Bu Gwyneth Jones yn un o hoelion wyth bywyd diwylliannol a chymunedol ardal Dinas Mawddwy ers blynyddoedd lawer. Mae’n rhan bwysig o bob math o weithgaredd o’r neuadd bentref i Gwmni Drama Dinas Mawddwy a’r nosweithiau bingo cymunedol.

Mae’n gweithio’n frwd ar ran y papur bro lleol, Y Blewyn Glas, gan sicrhau bod y newyddion yn cyrraedd y golygyddion ac yn dosbarthu’r papur o ddrws i ddrws yn y pentref a chyn belled â Dolgellau. Mae hefyd yn rhan greiddiol o’r adran bentref ac mae cenedlaethau o blant yr ardal wedi elwa o gefnogaeth a chymorth Anti Gwyneth dros y blynyddoedd. (gwisg las)

Eifion Parry

Mae Eifion Parry, Abergele, yn un o arwyr tawel yr Eisteddfod, yn ddyn sydd wedi hwyluso bywyd miloedd o Eisteddfodwyr, a hynny yn ddiarwybod i nifer fawr ohonynt. Ef sy’n gyfrifol am gynllun trafnidiaeth meysydd parcio’r Brifwyl ers blynyddoedd, a’i gyngor doeth sydd wedi ein galluogi i gyrraedd pen y daith heb drafferthion.

Mae Eifion yn Gymro i’r carn ac wedi bod yn gefnogol o’r Gymraeg a’n diwylliant yn lleol am flynyddoedd lawer. (gwisg las)

Meriel Parry

Byddai gwaith yr Urdd yn ardal Rhanbarth Eryri wedi bod yn llawer anoddach heb bresenoldeb a chefnogaeth di-flino Meriel Parry, Bangor, dros y blynyddoedd. Yn athrawes wrth ei galwedigaeth, bu Meriel yn rhan allweddol o waith yr Urdd yn yr ardal ers iddi wirfoddoli pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Nyffryn Ogwen yn 1986.

Bu’n rhan bwysig o fywyd Cymraeg ei hardal ers degawdau, gan gyd-sefydlu ac arwain cylch meithrin yn Nhalybont cyn cychwyn ar ei gyrfa fel athrawes a phennaeth yn y sector cynradd. Mae’n parhau i wirfoddoli gyda’r Urdd, yn aelod o’r bwrdd ac yn gweithio fel mentor allanol i’r sefydliad. (gwisg las)

Mary Price

Bu Mary Price, Machynlleth, yn gweithio’n ddiflino dros yr iaith a diwylliant Cymru yn ardal gogledd Powys am flynyddoedd lawer. Yn athrawes a phennaeth cynradd yn ei gwaith, penderfynodd barhau ym myd addysg ar ôl ymddeol gan weithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, maes sy’n agos iawn at ei chalon.

Yn aelod gweithgar o Ferched y Wawr ers cychwyn y mudiad, mae Mary wedi dal amryw o brif swyddi’r mudiad dros y blynyddoedd, yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd yn Llywydd Rhanbarth Maldwyn adeg yr Eisteddfod yn 2003, a bu’n Is-lywydd a Llywydd Cenedlaethol y mudiad yn ystod y degawd diwethaf. Hi yw Cadeirydd cyfredol Undeb Cymru a’r Byd, swydd y mae’n ei chyflawni eto gyda’i hynawsedd arferol. (gwisg las)

Thomas Price

Er mai o Fôn y daw Tom Price, Corneli, mae’n byw ym Mro Ogwr ers bron i hanner canrif, ac mae’n un o gynheiliaid pennaf yr iaith a’r Pethe yn yr ardal. Mae’n ysgrifennydd gweithgar i Gymdeithas Cymry Porthcawl ers blynyddoedd, ac yn trefnu a chyd-lynu nifer fawr o weithgareddau ar hyd a lled yr ardal i hybu’r Gymraeg a Chymreictod yn lleol.

Mae wedi gweithio’n frwd dros y papur bro lleol, Yr Hogwr, fel gohebydd, dosbarthwr, yn gyd-olygydd ac yn gyd-osodwr y papur yn ei dro. Yn ogystal, mae’n rhan o’r tîm ar bwyllgor gwaith yr Å´yl Gerdd Dant a gynhelir ym Mhorthcawl yn nes ymlaen eleni, ac roedd yn aelod o bwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol pan y’i chynhaliwyd ym Mro Ogwr yn 1998. Ef hefyd oedd cynllunydd a gwneuthurwr Cadair yr Eisteddfod y flwyddyn honno. (gwisg las)

Enid Thomas

Mawr fu cyfraniad Enid Thomas, Croesoswallt, i fywyd Cymraeg a diwylliannol tref y gororau dros y blynyddoedd, Bu’n aelod allweddol o Glwb Cymraeg Croesoswallt ers dros ddeng mlynedd ar hugain, gyda’i chariad at y Gymraeg yn angerddol a heintus, gan gynnig croeso arbennig i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg i ddod yn ymwybodol o gyfoeth y diwylliant Cymraeg a Chymreig.

Yn nyrs ‘Marie Curie’ wrth ei galwedigaeth am flynyddoedd, bu’n gweithio yn Sir Amwythig, Powys a Sir Ddinbych a derbyniodd fedal arian am ei gwaith arbennig, ac mae hefyd wedi gweithio’n ddiwyd i godi arian i’r elusen bwysig hon, gan godi dros £37,000 drwy drefnu a chynnal cyngherddau yn ardal Croesoswallt dros y blynyddoedd. (gwisg las)

Heulwen Williams

Un a roddodd wasanaeth di-flino i’w chymdeithas ym Mro Dyfi am flynyddoedd lawer yw Heulwen Williams, Llanwrin. Mae’n gefnogwr brwd o’r Pethe, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr iaith a’n diwylliant mor hygyrch â phosibl ar lawr gwlad. Mae’n un o arweinwyr Cylch Meithrin Llanbryn-mair, yn arwain y clwb ar ôl ysgol yn Ysgol Glantwymyn, ac yn trefnu cynllun ‘Haf o Chwarae’ i rieni a phlant yr ardal. Yn ogystal, mae’n trefnu tripiau a digwyddiadau i gefnogi gofalwyr ifanc a’u teuluoedd.

Mae’n un o ohebwyr y papur bro lleol, Y Blewyn Glas, ac yn aelod o Gôr Gore Glas ers blynyddoedd, a hi yw’r gyntaf i wirfoddoli i werthu tocynnau i bob math o ddigwyddiadau a thocynnau raffl ar gyfer llu o achosion da. (gwisg las)

John Trefor Williams

Un o hoelion wyth ei gymuned yn Nantglyn, Sir Ddinbych, yw John Trefor Williams, ac un a fu’n gefnogwr brwd i’r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer. Yn wr diwylliedig ac yn gyfrannwr cyson i Glwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn, lle mae’n barod ei gymwynas gan hybu ac annog pobl ifanc y fro i gyfrannu a bod yn rhan o’r gweithgareddau.

Mae’n stiwardio yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd, ac yn un o’r criw sy’n gofalu am gynulleidfa’r Pafiliwn, a sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu sedd mewn pryd. Bydd yn gwirfoddoli drwy gydol wythnos y Brifwyl, ac yn sgil ei ymroddiad di-flino, mae’n gweithredu fel un o arolygwyr y tîm stiwardio ers amser. (gwisg las)

Rhian Davies

Rhian Davies yw Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gregynog ers 2006, a thros y ddegawd ddiwethaf mae wedi llwyddo i ddenu amrediad eang o gerddoriaeth glasurol a cherddorion byd eang i berfformio yng nghefn gwlad Cymru, gan sicrhau sylw cenedlaethol a rhyngwladol i’r wyl.

Yn wreiddiol o Faldwyn, mae’n arbenigo mewn olrhain gweithiau cerddorol mewn casgliadau preifat a chyhoeddus nad ydynt wedi’u dogfennu. Fe’i chydnabyddir fel awdurdod ar y gyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen, gyda’i chofiant yn gofnod pwysig o fywyd a gwaith y gyfansoddwraig. (gwisg werdd)

Endaf Emlyn

Mae Endaf Emlyn yn un o gerddorion ac arloeswyr y byd pop Cymraeg. Yn fwyaf adnabyddus am ei albwm eiconig Salem (1974), mae hefyd wedi rhyddhau amryw o albymau eraill fel artist unigol a rhan o’r band Injaroc.

Mae hefyd yn gyfarwyddwr ffilmiau nodedig, yn gyfrifol am glasuron y Gymraeg fel ‘Un Nos Olau Leuad’, ‘Storom Awst’ a ‘Gadael Lenin’ a llawer mwy. Wedi’i eni ym Mangor a’i fagu ym Mhwllheli, mae Endaf Emlyn yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd. (gwisg werdd)

Siân James

Mae Siân James, Llanerfyl, Y Trallwng, yn un o gerddorion gwerin amlycaf Cymru ac wedi rhyddhau wyth casgliad o’i gwaith dros y blynyddoedd. Fel cantores, telynores a chyfansoddwraig, mae wedi defnyddio’r traddodiad gwerin fel sail i gyfansoddi caneuon newydd a’u cyflwyno mewn amrywiaeth o arddulliau.

Er ei bod wedi mwynhau llwyddiant ar lefel genedlaethol, mae Siân wedi cyfrannu’n helaeth ac yn wirfoddol i ddiwylliant Cymraeg ei bro enedigol ym Maldwyn, gan hyfforddi telynorion ifanc yr ardal ac mae’n weithgar iawn gydag eisteddfodau lleol. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin yr Eisteddfod eleni. (gwisg werdd)

Moira Lewis

Un o rocesi Wdig ac ardal Abergwaun yw Moira Lewis. Cyfrannodd lawer i’w milltir sgwâr ac ar draws y byd trwy hyrwyddo canu gwerin a cherddoriaeth draddodiadol Cymru, gan deithio i amryw o wledydd gan gynnwys Llydaw, Iwerddon, Lithuania, Barbados a’r UDA.

Yn dilyn ei llwyddiant fel perfformiwr, rhoddodd ei sylw a’i hegni i weithredu’n wleidyddol dros y Gymraeg fel cynghorydd lleol a sirol. Cafodd hefyd y fraint o’i hethol yn Faer Abergwaun ac Wdig. (gwisg werdd)

Iwan Morgan

Mae cyfraniad Iwan Morgan, Blaenau Ffestiniog, i fywyd diwylliannol ei fro yn sylweddol dros y blynyddoedd, gyda’r cyn-brifathro’n troi’i lawr at nifer fawr o feysydd gan gynnwys canu corawl, barddoni, beirniadu ac yn fwyaf nodedig ac amlwg, efallai, ei gyfraniad helaeth i gerdd dant, nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol.

Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd, mae Iwan hefyd wedi bod yn lladmerydd pwysig i gerdd dant, gan gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yr Wyl Gerdd Dant, a llu o sefydliadau a chymdeithasau eraill. Yn gyn-aelod o dimau Talwrn Ardudwy a’r Moelwyn, bu hefyd yn olygydd papur bro lleol ei ardal, Llafar Bro am flynyddoedd, ac yn gweithredu eto fel cyd-olygydd ers 2008. (gwisg werdd)

Eiry Palfrey

Yn wreiddiol o Lanfyllin, Powys, Y Barri yw cartref Eiry Palfrey erbyn hyn. Yn athrawes brofiadol, mae’n aelod o fwrdd Trac, y corff sy’n gyfrifol am ddatblygu traddodiadau gwerin yng Nghymru, Fforwm Menter y Fro, ac mae’n gadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru. Bu ei chyfraniad i ddawnsio gwerin a’i gwaith gyda’r Eisteddfod yn y maes hwn yn eithriadol bwysig, ac roedd yn rhan o’r tîm a drefnodd y Ty Gwerin hynod lwyddiannus ar y Maes yn Llanelli y llynedd.

Mae Eiry’n adnabyddus i Gymru gyfan fel perfformiwr, awdur a chynhyrchydd / cyfarwyddwr, ac mae hefyd yn awdur llwyddiannus ym myd drama, dramâu dogfen, ffilmiau ac wedi ysgrifennu llyfrau i blant. (gwisg werdd)

Robert Parry

Erbyn hyn mae Robert Parry wedi ymgartrefu yn Wrecsam, ond dros y blynyddoedd mae ei waith fel cenhadwr a gweinidog wedi’i arwain i ardaloedd a gwledydd sy’n bell iawn o fro’i febyd ym Morfa Rhuddlan. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol, cymdeithasol a chrefyddol Cymreig ardal Birmingham yn ystod ei gyfnod yno.

Mae Robert yn gerddor medrus a bu’n organydd swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn yn 2003 ac yn Wrecsam a’r Fro yn 2011. Yn byrlymu â syniadau, mae’n llwyddo i gael plant a phobl ifanc yr ardal i gyfrannu a gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth fel Cymry, ac yn gwneud gwaith allweddol yn eu hyfforddi ar gyfer yr Urdd ac eisteddfodau lleol. (gwisg werdd)

Gwilym Prichard

Mae cysylltiad yr artist, Gwilym Prichard, Dinbych y Pysgod, â’r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl dros ddegawdau, wrth iddo arddangos ei waith yn y Brifwyl nifer fawr o weithiau dros y blynyddoedd. Mae’i luniau’n ddramatig a lliwgar gyda’r paent wedi’i daenu’n drwchus ar y cynfasau, ac fe’i adnabyddir fel un o brif arlunwyr tirluniau Cymru.

Yn wreiddiol o Llanystumdwy, bu Gwilym Prichard yn athro yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn iddo fentro fel artist llawn amser. Fe’i anrhydeddwyd gan amryw o sefydliadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Academi Gelf, Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffrainc, a Phrifysgol Bangor am ei gyfraniad arbennig i gelf weledol. (gwisg werdd)

Alwena Roberts

Un a wnaeth gyfraniad mawr i ddiwylliant cerddorol Cymru yw Alwena Roberts, Pwllheli. Yn wreiddiol o Lanerfyl, Maldwyn, roedd gan Alwena dawn gerddorol o’r cychwyn, a bu’n enillydd cyson mewn eisteddfodau cenedlaethol wrth dyfu i fyny. Bu’n arwain a hyfforddi Côr Merched y Garth pan yn byw ym Mhontypridd, gan ennill llu o wobrau yn yr Eisteddfod a’r Wyl Gerdd Dant. Bu hefyd yn helpu i gynhyrchu sioeau cerdd a gweithgareddau eraill yn Ysgol Rhydfelen.

Ers symud i ardal Pwllheli, mae Alwena wedi sefydlu Côr Gwrtheyrn, sy’n arbenigo mewn cerdd dant. Mae’i gwaith fel athrawes delyn deithiol gyda Gwasanaeth Ysgolion William Mathias yng Ngwynedd wedi ysbrydoli a rhoi’r hyder i lawer o ddisgyblion ddatblygu gyrfaoedd fel telynorion proffesiynol. (gwisg werdd)

Huw Alan Roberts

Eleni daeth gyrfa un o gyfeilyddion mwyaf adnabyddus gogledd Cymru, Huw Alan Roberts, Morfa Bychan, i ben, wrth iddo ymddeol ar ôl treulio deugain mlynedd yn canu’r piano i gantorion mewn gwyliau bychain ben-baladr. Fe dreuliodd ei yrfa waith fel athro Cemeg Ffisegol brwdfrydig ac ymarferol cyn dod yn ddirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, ond roedd cerddoriaeth yn agos at ei galon drwy’r blynyddoedd, gan arwain corau yn yr ysgol ynghyd â chyfeilio i genedlaethau o disgyblion yr ysgol.

Cemegydd, cyfeilydd, Cymro, cefnogwr y Pethe gorau. Dyna bedair ‘C’ sy’n disgrifio Huw Alan Roberts, ond mae’i gyfraniad i ddiwylliant ar lawr gwlad yn llawer ehangach na’r hyn y gellir ei gywasgu i bedair llythyren o’r wyddor. (gwisg werdd)

Trebor Roberts

Byd y ddrama a ffilm sydd wedi mynd â bryd Trebor Roberts, Cerrigydrudion dros y blynyddoedd., a daeth yn aelod o Gymdeithas Dramâu Uwchaled yn 1984 lle bu’n actio am flwyddyn cyn iddo droi’i law at gynhyrchu, gan barhau i wneud hyn dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Er mor anodd yw’r dasg o ddarganfod drama newydd yn flynyddol, mae Trebor yn llwyddo i ysbrydoli’r actorion gyda’i syniadau gwreiddiol bob tro.

Mae wedi cynhyrchu a golygu sawl ffilm fer o’r fro dros y blynyddoedd, gyda rhai’n gofnod hanesyddol ac eraill yn ffwlbri llwyr ar ffurf comedi, gan ddefnyddio trigolion lleol o bob oed fel actorion. Mae cyfraniad unigolion fel Trebor yn hollbwysig i ffyniant a pharhad y traddodiad drama amatur mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. (gwisg werdd)

Gillian Thomas

Mae Gillian Thomas, Llandeilo, yn wraig fferm amryddawn a phrysur, sydd wedi dysgu’r ffidil i nifer fawr o blant Sir Gâr gan hyfforddi amryw i chwarae yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru a phellach dros y blynyddoedd. Mae’n gyfrifol am drefnu cerddorfeydd i’r plant yn y sir ynghyd â phenwythnosau ymarfer rheolaidd yn ystod y flwyddyn.

Mae’n gyfeilydd dawnus, gyda galw arni i gyfeilio mewn pob math o achlysuron, gan gynnwys eisteddfodau a chyngherddau o bob math. Mae’n mwynhau gweithio a threulio amser gyda phobl ifanc, ac yn barod iawn ei chymwynas gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llangadog, lle y bu’n hyfforddi, dysgu, arwain a chyfeilio’r criw ifanc am gyfnod o bron i ugain mlynedd. (gwisg werdd)