Gwrhydri Iolo: Trem ar Hanes Gorsedd y Beirdd

Gwrhydri Iolo: Trem ar Hanes Gorsedd y Beirdd*
gan Robyn Léwis, LLB, PhD (Y Prif Lenor Robyn Llyn)

* Darlith Gymraeg flynyddol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a draddodwyd yng Nghanolfan Cymry Llundain, Gray’s Inn Road, 13eg Mehefin 2005 dan nawdd y Cymmrodorion, y Gwyneddigion a Fforwm Cymry Llundain. Cadeiriwyd gan Elfyn Llwyd, AS.

Ar wahân i’w ymchwil ei hun, tynnodd y darlithydd/awdur yn helaeth ar weithiau perthnasol am yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd gan y cyn-Archdderwydd Dr Geraint Bowen, y Fon. Zonia Bowen, Clive Betts, Dr John Davies, yr Athro Hywel Teifi Edwards, y Parch. Brifardd Gwyn ap Gwilym, y cyn-Arwyddfardd Capten Dillwyn Miles, a’r diweddar Athrawon W.J. Gruffydd, Henry Lewis, John Morris-Jones a Griffith John Williams, yr Archdderwydd Selwyn Iolen a’r diweddar Archdderwyddon Brinli, Cynan a Gwyndaf, y ddiweddar Norah Isaac – ac Iolo Morganwg wrth gwrs: hefyd, i raddau llai eithr cyn bwysiced, cryn swm o rai eraill sy’n rhy niferus i’w henwi yma.

Barchus Gadeirydd, Fonesau a Bonwyr: Gwlad ddigon llwyd a di-liw fu Cymru erioed, ar un olwg. Bu llaw drom Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth yn mygu pob chwerthin; pob goleuni; pob sglein. Ond fe grëwyd un sefydliad a weddnewidiodd y cyfan. A hwnnw gan un gŵr, Iolo Morganwg.

Gydag Iolo Morganwg y mae’r cwbl yn dechrau. Ganed Edward Williams hanner ffordd trwy’r 18fed ganrif, ym 1747 – dros ddwy ganrif a hanner yn ôl [yr oedd 22 mlynedd yn hŷn na Napoléon Bonaparte]. Bu farw ddegawd wedi Brwydr Waterloo, ym 1826. Gwr a gafodd ei glodfori i’r cymylau, a’i lambastio’n ddidrugaredd, gan genedlaethau o Gymry a ddaeth ar ei ôl. Honnai ei fod o dras uchelwyr, yn llinach Bleddyn ap Cynfyn, Brenin Gwynedd a Phowys (bu f. 1075) – a oedd nid yn unig yn hynafiad iddo ef, Iolo, ond hefyd i Oliver Cromwell! Saer maen o Sir Forgannwg ydoedd, ac ni chafodd addysg ffurfiol. Dysgodd ddarllen, meddir, trwy wylio ei dad yn cerfio llythrennau ar gerrig beddau: felly – saer maen. Ac yn ogystal: amaethydd, bardd, bywydegwr, cerddor, crefftwr, daearegwr, diwinydd, garddwriaethwr, gwleidydd, hanesydd, masnachwr, pensaer, plastrwr, teilsiwr, saer coed, ysgolhaig. Hefyd: breuddwydiwr, celwyddgi, cranc, cyffuriwr, ffugiwr, cafflwr, meddwyn, rhamantydd, twyllwr, ymhonnwr – ond, yn bendifaddau, athrylith nas gwelwyd mo’i debyg na chynt na chwedyn. Am ganrif a hanner, llwyddodd i dwyllo ein holl feirdd a llenorion – heb sôn am bawb arall, a phan ddarganfuwyd natur a maint ei dwyll, sylweddolwyd mai ef oedd un o bennaf ysgolheigion ei ddydd. Ystyrir ef hyd heddiw yn ben ysgolhaig ei gyfnod ar hanes a llên Cymru, ac yn fardd rhamantaidd penigamp yn nhraddodiad Dafydd ap Gwilym.

Gan nad oedd yn unrhyw fath o wr busnes, buan iawn yr aeth yn fethdalwr am y swm pitw o Dair Punt. Ym 1787 bwriwyd ef i garchar Caerdydd am ddyled, ac yntau wedi’i arestio â dim ond tair ceiniog yn ei boced. Bu yno am flwyddyn cyn cael ei draed yn rhydd drachefn. Tra oedd yn y carchar – yn pwyso’n drwm ar y cyffur hud-rithiol lodnwm – fe ddyfeisiodd orffennol i’r Cymry, a’i alw Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain. Rhan o’r ‘Gyfrinach’ honno oedd gwaith y cynfeirdd, a chreu gwyddor newydd ac esoterig ar gyfer yr iaith yn dwyn yr enw Coelbren y Beirdd: ond ffrwyth dychymyg Iolo ei hun oedd y cyfan.

Cofiwch ddau beth am y cyfnod arbennig hwn mewn hanes. Yn gyntaf, dyma gyfnod y Chwyldro Ffrengig a dechrau’r rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc. Yn ail, dyma pryd y torrodd yr Unol Daleithiau yn rhydd oddi wrth Loegr, eto ar ôl brwydro ffyrnig. Cyfnod o ryfel, a chwyldro, ond hefyd sôn am hawliau a breiniau dyn. Yr oedd yr Awdurdodau yn ddrwgdybus iawn o rai fel Iolo Morganwg, a fynnai ddatgan syniadau a oedd yn eu tyb hwy, yn annheyrngar i’r Brenin a Llywodraeth Llundain.

Tra oedd yn Llundain – wedi cerdded yn ôl a blaen pob cam, wrth gwrs – dyma Iolo’n cysylltu â Chymdeithas y Gwyneddigion, a oedd yn fwy na pharod i gredu unrhyw beth a fynnai Iolo ei ddweud wrthynt (yr oedd Cymdeithas y Cymmrodorion ‘mewn encil’ o 1787 hyd 1820, neu mae’n debyg y byddent hwythau lawn mor hygoelus eu hagwedd). Lluniodd Iolo dras, hollol ddychmygol, ar gyfer Cymry coelgar Llundain. Llwyddodd i ailwampio hanes, a phriodoli cychwyniad y traddodiad barddol i’r Derwyddon. Trosglwyddwyd y ddysg dderwyddol neu farddol hon, a elwid ‘Barddas’ meddai Iolo, i lawr ar lafar ar ffurf cerdd o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor ym Morgannwg gan ‘Feirdd Ynys Prydain’ ac roedd ef, Iolo Morganwg ei hun, wedi cael y fraint o etifeddu’r ddysg honno. Cyfansoddodd gorff o’r math yma o lenyddiaeth bwrpasol ond ffug i wirio’i haeriadau, ac argyhoeddodd nifer o’i gyfoeswyr o ddilysrwydd ei waith, gan fagu to o arloeswyr i’w fudiad.

Yr oedd y Derwyddon, meddai, yn eu hamser, wedi bod yn gynheiliaid rhyddid, cyfiawnder a heddwch, ynghyd â’r gwerthoedd cyntefig, bywyd syml a diniwed yr Oes Aur. Roedd y dehongliad gwreiddiol hwn o Hanes yn dderbyniol iawn gan rai.

 

Bryn y Briallu, 1792

Gan hynny, trefnodd seremoni ar Fryn y Briallu (Primrose Hill) yn Llundain, ar Alban Hefin (21 Mehefin), 1792. Dylid egluro mai ‘enw gwneud’ gan Iolo ydoedd ‘Alban Hefin’ am Summer Solstice. (Creodd hefyd dermau am chwarteri eraill y flwyddyn, sef ‘Alban Eilir’, ‘Alban Elfed’ ac ‘Alban Arthan’.) Deallaf ei bod yn fwriad presennol [2005] gan fudiadau Cymreig yn Llundain i ddynodi Bryn y Briallu â phlac yn llawnder yr amser: bydd hynny yn symudiad i’w groesawu’n fawr, yn enwedig gan aelodau Gorsedd y Beirdd.

Ffurfiwyd cylch o gerrig – rhai bychan iawn megis caregos traeth, nid y meini mawr a geir heddiw – gydag un garreg, tipyn yn fwy, yn y canol. Hwn oedd y Maen Gorsedd neu, ys dywedem ni heddiw, y Maen Llog. Ar hwnnw yr oedd cleddyf noeth, a gorchwyl y beirdd oedd ei ddodi yn y waun yn arwydd o heddwch. Yr oedd yr haul i fod uwchlaw’r gorwel yn ystod y ddefod ryfedd hon neu, ys dywedir mewn modd mwy cyfarwydd i ni, “yn wyneb haul llygad goleuni.” Darllenodd Iolo anerchiad barddol o’i waith ei hun yn clodfori Rhyddid. Urddwyd aelodau yng Ngorsedd, gan gynnwys y Dr William Owen Pughe ac eraill, megis Gwallter Mechain, a oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen; Dr David Samwell, a fu’n feddyg ar fwrdd The Discovery, llong enwog y Capten Cook; Edward Jones (Bardd y Brenin); Jac Glanygors; Owain Myfyr a Thomas Roberts, Llwyn’rhudol, Pwllheli, twrnai: dyna i chi gymysgedd.

Doedd gan neb wisgoedd ‘gorseddol’ megis a geir heddiw. Y cyfan a ddigwyddodd o safbwynt gwisg ac arwisg oedd i Iolo glymu rhubanau gwyrdd, glas a gwyn am freichiau’r rhai a urddodd yn aelodau.

 

Bryn Owain, 1795

Ar ôl ymhél â phethau Llundain, cynhaliodd Iolo ei Orsedd gyntaf yng Nghymru ar Alban Eilir (21 Mawrth) 1795 ym Mryn Owain (Stalling Down) gerllaw’r Bont-faen, Bro Morgannwg. Cynhaliwyd Gorsedd ddathlu daucanmlwyddiant yr Orsedd gyntaf honno ar dir Cymru yn yr un fan ar Alban Eilir, 1995, a chefais y fraint o fod yno.

 

Caerfyrddin, 1819

Mae’n rhaid cofio nad oedd a wnelo’r gorseddau hyn ddim oll â’r Eisteddfod. Yn wir, doedd dim Eisteddfod Genedlaethol mewn bod, er bod eisteddfodau wedi’u cynnal ers canrifoedd – honnir bod y gyntaf oll yng Nghastell Aberteifi ym 1176. Mae’n amheus a fuasai ‘Beirdd Ynys Prydain’ wedi llwyddo i ddeffro dychymyg y genedl ac wedi treiddio i’w hymwybyddiaeth mor gynnar, ac i’r un graddau ag y gwnaeth, oni bai i Iolo Morganwg ddal ar y cyfle i alw ei Orseddogion prin – ac yr oedden nhw’n brin – at ei gilydd yn Eisteddfod Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1819. Cynhaliwyd gorsedd drannoeth y cystadlu. Rhoddodd Iolo ei ddychymyg ar waith a chyhoeddwyd ei bod i’w chynnal ‘dan gyfarwyddyd Pendaran Dyfed a than goron Siôr y Trydydd’. Cyhoeddwyd Siôr fel ‘brenin Ynys Prydain oll a’i rhag-ynysoedd’. Gyda llaw, yr oedd y brenin Siôr III ar y pryd yn wallgof – fe gofiwch y ffilm a’r ddrama lled-ddiweddar, The Madness of King George – hynny yw, y Siôr hwnnw oedd dan sylw. Yn yr Orsedd hon, urddwyd Derwyddon (â rhuban gwyn, am ddiniweidrwydd), Beirdd (â rhuban glas, am y gwirionedd) ac Ofyddion (â rhuban gwyrdd, am y celfyddydau).

Agorwyd yr Eisteddfod yn nhafarn y Llwyn Iorwg, Caerfyrddin. Mae’r Llwyn Iorwg, neu’r Ivy Bush, yn dal yno o hyd. Ynddi erbyn hyn, mae ffenestr liw ysblennydd o waith y diweddar John Petts, a ddadorchuddiwyd yn ystod Prifwyl 1974 gan y diweddar Archdderwydd Brinli (y cyfreithiwr Brinley Richards, Maesteg). Dyma’r unig enghraifft y gwn i amdani o ffenestr liw mewn bar tafarn, a ‘gysegrwyd’ – os mai dyna’r priod air – gan archdderwydd. Yng ngardd yr un gwesty, saif cylch bychan o feini gorsedd, a agorwyd gan y cyn-Arwyddfardd Dilwyn Cemais (y Capten Dillwyn Miles, Hwlffordd).

 

Llangollen, 1858; Dinbych, 1860

Mae Eisteddfod Llangollen yn nodedig am nifer o bethau, eithr am un peth yn bennaf. Hon oedd y gyntaf o eisteddfodau a ddaeth yn eisteddfodau blynyddol. Rhedwyd nifer o drenau rhad o bobman er mwyn i’r Cymry, yn gyffredinol, fedru dod yno. Fe ddaeth y tyrfaoedd. Ond yr hyn oedd yn nodedig amdani oedd ei bod i fod yn ‘genedlaethol’. Yr oedd dwsinau o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yma ac acw, y gellid eu galw’n ‘eisteddfodau’, ac roedd y gair ‘cenedlaethol’ hefyd wedi’i ddefnyddio cyn hyn. Ond serch nad oedd unrhyw gorff ‘cenedlaethol’ yn gyfrifol am ei threfniadau, fe gydnabyddir yn gyffredinol mai hi oedd y gyntaf.

Buwyd yn trafod yr angen am ryw fath o reolaeth ganolog. Lansiwyd adroddiad i’r perwyl, ac ystyriwyd hwnnw yn Eisteddfod Dinbych ym 1860, pryd y cytunwyd i gynnal un eisteddfod genedlaethol fawr flynyddol, bob yn ail rhwng Gogledd a De. Sefydlwyd corff o’r enw Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer rhoi’r trefniant ar y gweill. Yr eisteddfod gyntaf i ddilyn hyn oedd Eisteddfod Aberdâr ym 1861 – a honno a ystyrir yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, yn ein hystyr ni o’r ymadrodd.

 

Caernarfon, 1862

Gweithiodd y Cyngor a’r Pwyllgor Lleol ar y cyd i drefnu Eisteddfod Caernarfon, 1862. Yr oedd Arglwydd Penrhyn yn elyniaethus ar y cyntaf, ond perswadiwyd ef gan Syr Hugh Owen i newid ei feddwl, i gyfrannu can punt ac i lywyddu un o sesiynau’r Eisteddfod – yn Saesneg, afraid dweud. Cynhaliwyd yr Eisteddfod o fewn muriau’r Castell, lle’r oedd seddau i 4,500 dan do cynfas. Ar y dydd Sul caewyd yr holl gapeli, a chynhaliwyd un gwasanaeth (‘eciwmenaidd’ a ddywedem heddiw) yn y Castell.

Ar y bore Mawrth, cynhaliwyd Gorsedd dan lywyddiaeth Gwalchmai (Richard Parry), a gyhoeddodd yr Eisteddfod yn ffurfiol. Nid ‘Archdderwydd’, sylwer, ond ‘Llywydd’. Ar ôl i bawb ymgynnull gerllaw Neuadd y Dref, ffurfiwyd gorymdaith gyda baneri glas, gwyrdd a gwyn, a chyrchu am y Maes. Cafwyd gweddi’r Orsedd yn Gymraeg, a thrachefn yn Saesneg. Y flwyddyn honno urddwyd (ymhlith eraill) Trebor Mai, Taliesin o Eifion, Llew Llwyfo, Brinley Richards a J. Ambrose Lloyd. Hefyd, braidd yn annisgwyl i’r cyfnod, deg o ferched. Methais yn lân â dod o hyd i’w henwau.

Cynhaliwyd seremoni Orseddol ar y bore Mercher hefyd, pryd y safodd nifer o ymgeiswyr arholiadau am raddau. Urddwyd y rhai llwyddiannus drannoeth, ar y bore Iau. Enillwyd y Gadair gan Hwfa Môn (Rowland Williams) am ei Awdl Y Flwyddyn, a chadeiriwyd ef yn yr un gadair lle cadeiriwyd Gwyndaf Eryri (Richard Jones) ym 1812. Un o’r wyth bardd aflwyddiannus oedd Eben Fardd (Ebenezer Thomas), a cheir sôn fod ei fethiant i gipio cadair Caernarfon wedi brysio ei farwolaeth yn Chwefror 1863.

Cyhoeddodd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, y Parch John Griffiths (wedyn Archddiacon Llandaf) fod cais wedi’i wneud gan Abertawe i gynnal Eisteddfod yno ym 1863, a’i fod wedi’i dderbyn yn ffafriol. Cadarnhaodd y byddai’r Brifwyl bob yn ail rhwng Gogledd a De o hynny ymlaen, ac ychwanegodd y geiriau optimistaidd: ‘fod pob rhaniad ac anghydfod rhwng pobl y Gogledd a phobl y De wedi eu claddu am byth’ [!].

Yn ystod yr Eisteddfod hon awgrymodd Ceiriog i Brinley Richards (y cerddor o Gaerfyrddin a Llundain, nid yr Archdderwydd) y gellid cyfansoddi tôn ar eiriau Ceiriog Tywysog Gwlad y Bryniau – a gyfieithwyd yn ddiweddarach fel God Bless the Prince of Wales – gyda golwg ar iddi ddod yn anthem genedlaethol i’r Cymry. Yn y cyfamser, sut bynnag, ymddangosodd Hen Wlad fy Nhadau gan Evan a James James, y tad a mab o Bontypridd. Honno a ddaeth yn boblogaidd, a hi a ganwyd yn rheolaidd mewn gorsedd, eisteddfod a chyngerdd o hynny ymlaen. Mae’n ymddangos mai o drwch blewyn y bu i’r Cymry lwyddo i hepgor y Tywysog o’u hanthem! Canwyd Hen Wlad fy Nhadau yn swyddogol am y tro cyntaf yn Eisteddfod Aberystwyth, 1865 – trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd, wythnos ar ôl i’r fintai gyntaf o Gymry lanio ym Mhorth Madryn, Y Wladfa.

 

Caer, 1866

Bu helyntion iaith yn gynnar iawn. Yn Eisteddfod Caer ym 1866 mynegwyd pryder ei bod mewn perygl o gael ei Seisnigeiddio. Yr oedd Sgrôl y Cyhoeddi wedi’i ddarllen gan y bardd a phensaer Talhaiarn yn Saesneg, ac aeth Llywydd y Dydd, Syr Watkin Williams Wynn ati i atgoffa’r dyrfa (hefyd yn Saesneg, wrth gwrs) fod y rhyfeloedd rhwng y Cymry a’r Saeson drosodd ‘am byth … fel ag ein bod ni bellach, i bob pwrpas, yn un bobl a chenedl’. Eleni [2005], ym mlwyddyn cofio Brwydr Trafalgar, mae’n anodd i Gymro beidio â rhoi tro chwerw i ystyr y geiriau ‘England expects..’

A serch nad oedd y Cadeirydd, y Parch. John Griffiths, yn bresennol, llwyddodd i fynegi’r un meddylfryd yn ei lythyr ymddiheuro: ‘Yr wyf yn glynu’n arw iawn at yr hen iaith, ac yn mawr obeithio y cedwir hi yn hir, ond ni fedraf gydymdeimlo â’r rhai hynny yn ein plith a fyddai yn cau allan o bob elw a mwynhad y rhai nad ydynt yn ei deal’. (Wele ‘owyr Inglish ffrends’, bondigrybwyll, wedi dod i’r fei.)

 

Caerfyrddin, 1867

Cododd mater yr Iaith ei ben y flwyddyn ddilynol yng Nghaerfyrddin, pan fynegodd y Parch. Latimer Jones, Ficer Eglwys Pedr Sant yn y dref, yr un syniad wrth iddo agor yr Eisteddfod: ‘Nid yw’r Eisteddfod yn dymuno cael iaith genedlaethol ar wahân, na chenedligrwydd ar wahân, na bodolaeth ar wahân, i Gymru’. Cawn ddilyn hynt a hanes cefnogwyr ‘owyr Inglish ffrends’ weddill y ddarlith hon. Cafodd y syniadau hyn dderbyniad gelyniaethus gan dyrfa eisteddfodwyr Caerfyrddin. Ond fe’i croesawyd gan y wasg leol: yr oedd angen yr hyn a alwent ‘yr elfen Saesneg’ (the English element). Porthwyd syniadau’r Ficer gan y Barnwr John Johnes (sic) o Ddolaucothi. Cyhoeddwyd hefyd yn y Wasg Lundeinig fod gormod o le yn cael ei neilltuo

‘to nationalistic speeches and diatribes against the Saxon press’.

 

Rhuthun, 1868

Yn Rhuthun cafwyd un gystadleuaeth ryfeddol ac unigryw, sef traethawd i’w sgrifennu yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg neu Almaeneg ar y testun ‘The Origins of the English Nation, with reference more especially to the question, “How are they descended from the Antient [sic] Britons?”’ Yn wobr, cynigid y swm anferthol o 150 gini (£257.50 – gwerth tua £10,000 mewn arian cyfoes). Y beirniad oedd yr Arglwydd Strangford, amlieithydd na fedrai ddim Cymraeg. Enillwyd y wobr gan y Dr John Beddoe, MD, LLD, FRS, Is-Lywydd Cymdeithas Anthropolegol Bryste.

 

Wrecsam, 1876

Bu dau ddigwyddiad o bwys yn Wrecsam ym 1876. Dyfarnwyd y Gadair i Taliesin o Eifion (Thomas Jones), ond pan glywyd ei fod newydd farw, gorchuddiwyd y Gadair â brethyn du – rhagflas o Gadair Ddu enwocach Hedd Wyn ym 1917. Hefyd, yn yr Eisteddfod hon, cyhoeddodd Clwydfardd (David Griffith) am y tro cyntaf ei fod yn ‘Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain’ – ond, meddai, yr oedd wedi ei benodi i’r swydd ers 1860, 17 mlynedd ynghynt. A neb yn gwybod am ei aruchel deitl! Rhyfedd o fyd.

 

Caernarfon, 1877

Fe arhosaf am rai blynyddoedd yn nhref Caernarfon gan fod yr hyn a ddigwyddodd mewn sawl eisteddfod yno yn cynrychioli teithi meddwl, hurtrwydd, abswrdedd ulw ac afresymoldeb llwyr rhai o’r Cymry a’r Saeson fel ei gilydd, o edrych yn ôl arnynt o’n cyfnod tra-gwahanol ni.

Cyhoeddwyd Eisteddfod Caernarfon flwyddyn a rhagor ymlaen llaw, yn ôl yr arfer. Cyfarfu’r Orsedd mewn cae gerllaw Twthill, a chafwyd ymrwymiad gan 201 o drigolion y dref yn y swm o £10 yr un rhag ofn iddi wneud colled ariannol.

Cynhaliwyd eisteddfod dridiau, a’r Orsedd agoriadol ar y lawnt tu mewn i’r Castell. Dan arweinyddiaeth Clwydfardd. Gwilym Eryri a gipiodd y Gadair. Ceir adroddiad fel hyn yng Nghyfansoddiadau’r Ŵyl honno:

Galwodd Llew Llwyfo ar y beirdd i ffurfio cylch o amgylch y bardd cadeiriol, ac ynghanol y cyffro mwyaf ymwthiodd Gwilym Eryri at y llwyfan. Wedi seinio’r utgorn arweiniodd Hwfa Môn a Gwalchmai y cadeirfardd (sic) ar hyd y llwyfan at y gadair. Dadweiniwyd y Cledd, ac udganodd yr utgorn. Gofynnwyd am heddwch yn y ffordd arferol gan Clwydfardd.

Yr oedd 8,000 yn bresennol i glywed Henry Richard, AS, ‘Apostol Heddwch’, yn ymbil am brifysgol i Gymru, a chytunwyd yn unfrydol i anfon deiseb i’r Llywodraeth gyda hyn mewn golwg. Dychmygwch, gyda llaw, annerch cynulleidfa o wyth mil heb na meicroffon na chorn siarad! Yn yr Eisteddfod hon hefyd y derbyniwyd Adelina Patti i’r Orsedd, dan yr enw barddol Eos Prydain.

 

Caernarfon, 1880

Ym Mhafiliwn Caernarfon y cynhaliwyd yr Eisteddfod. Ond dyma i chi flas ar y gorymdeithio yn y Cyhoeddi ym 1879, yn ôl y papur Tarian y Gweithiwr:

Yn y pafiliwn yng Nghaernarfon y cynhelid yr Ŵyl Genedlaethol ym 1880, ac er mwyn bod yn eisteddfodol yn eu trefniadau, y mae y pwyllgor wedi neilltuo 24ain o Hydref i cynal Gorsedd a chyhoeddi yr Eisteddfod yn ffurfiol. Agorir yr Orsedd ar ganol dydd yn nhwyneb (sic) haul a llygad goleuni, ac am ddau o’r gloch ffurfir gorymdaith drwy y dref. Y mae y cyfundebau canlynol eisoes wedi addaw bod yn bresennol, a chymeryd rhan: Y maer a’r corffolaeth (sic), y militia staff, y naval artillery volunteers, dau gwmni o wirfoddolwyr, y fire brigade gyda’u peiriant a’u ceffylau, etc., y magnelwyr, y naval reserve, cwmni o heddgeidwaid, Undeb Corawl Caernarfon, etc. Disgwylir hefyd 10 o feirdd a llenorion o wahanol drefydd yn y Gogledd. [!]

Erbyn gweld, yr oedd llawer mwy na deg yn yr Orsedd. Cynhaliwyd hi ar y Maes ym mhresenoldeb o leiaf 30 o’i haelodau, gan gynnwys Clwydfardd, Hwfa Môn, Gwalchmai, Robyn Wyn, Rolant o Fôn (nid, mae’n amlwg, y wág

o gyfreithiwr o Langefni a Bardd Cadair Dolgellau, 1949), Llyfrbryf a Gwilym Cowlyd.

Yn yr Eisteddfod hon, ar gynnig Syr Hugh Owen – gyda’r Cymmrodorion yn ysgwyddo’r baich – penderfynwyd sefydlu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid oes angen manylu, canys cyfeirir at yr hanes pwysig hwn yn hanes y Cymmrodorion gan yr Athro Emrys Jones, eu cyn-Lywydd, mewn erthygl a gyhoeddwyd yn Y Trafodion, 2002, sy’n cyfeirio yn ei thro at Hanes y Cymmrodorion gan y diweddar R.T. Jenkins a Helen M. Ramage.1

Ni nodaf ond y cymal rhyfedd a ddeliai â’r rhai oedd i ddod yn aelodau o’r Gymdeithas newydd, sef ‘i fod yn gyfansoddedig o danysgrifwyr ac aelodau mygedol, sef y rhai ydynt wedi eu hurddo yn rheolaidd (sic) yng ngorsedd, neu yn teilyngu eu hanrhydeddu. [!] Medrech ddadlau hyd Sul y pys pwy fyddai “yn teilyngu eu hanrhydeddu’. Mae lle i amau pa mor ‘Gymreig’ oedd

R.T. Jenkins and Helen M. Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion: Y Cymmrodor, cyf. 50 (1952).

y Gymdeithas, o ystyried mai Syr Watkin Williams Wynn oedd ei Llywydd cyntaf.

 

Merthyr Tydfil, 1881

Gadawn eisteddfodau Caernarfon am y tro. Ym Mhrifwyl Merthyr, enillodd Dyfed wobr o ddwy gini (£2.05) ar ddychangerdd ar y teitl Erlidwyr yr Eisteddfod: mae’n amlwg bod yna erlidwyr. Arwydd o natur y cyfnod yw y cynigiwyd deg gini (£10.50) a medal aur am arwrgerdd i Dug Wellington. Ond yma hefyd y cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cyntaf Cymdeithas yr Eisteddfod, gyda’r Archdderwydd Clwydfardd yn y gadair.

Caerdydd, 1883

Yr oedd Caerdydd yn nodedig am fod Ardalydd Bute wedi traddodi darlith – yn Saesneg, wrth gwrs – ar ‘The Ethnology of the Welsh’. Ond roedd Deon Llandaf o flaen ei oes braidd, pan gyhoeddodd: ‘… mai dim ond brad a llwfrdra fyddai yn peri i’r Cymry roi heibio’r iaith a oedd yr unig beth â’u gwahaniaethai oddi wrth genhedloedd eraill’. Cafwyd hefyd gais i lywyddion yr Eisteddfod – ac yr oedd tri bob dydd! – i gwtogi eu hanerchiadau i ugain munud yr un.

 

Lerpwl, 1884

Dyma’r tro cyntaf i’r Orsedd ymddangos mewn gwisgoedd: gwregysau lletraws a barclodiau o sidan glas, bron fel a welir mewn darluniau o’r Seiri Rhyddion. Lleisiwyd cwynion, hefyd – nid am y tro olaf, yn sicr – fod yr Eisteddfod yn dechrau mynd ‘yn rhy fawr’. Pan gadeiriwyd Dyfed am awdl goffa i Gwilym Hiraethog, cân y cadeirio oedd Far greater in his lowly state (i gerddoriaeth gan y Ffrancwr, Charles François Gounod).

 

Caernarfon, 1886

Yn ôl yng Nghaernarfon, addurnwyd Pafiliwn y dref â baneri a gafwyd yn rhodd gan Syr Love Jones-Parry, Castell Madryn. Gan fod Arglwydd Faer Llundain, yr Henadur J. Staples, yn bresennol, penderfynwyd ei urddo’n aelod o’r Orsedd, gyda’r enw barddol Gwyddon. Nid er cof am yr hynafiaethydd Gwyddon neu Gwrnerth (Thomas Stephens, 1821-75), ond ar y dybiaeth ffug, Iolöaidd, mai Gwyddon oedd prif ustus Ynys Prydain yn yr Oes Geltaidd: gan hynny, barnai’r Gorseddogion fod yr enw yn gweddu i’r dim!

Yno hefyd, cyfeiriwyd at enillwyr y Goron a’r Gadair â’r enwau clogyrnaidd: ‘Coronfardd’ a’r ‘Cadeirfardd’. Canwyd Cân y Cadeirio yn Saesneg gan Miss Mary Davies, a daeth y seremoni i ben trwy i’r seindorf ganu ‘See the Conquering Hero Comes’.

 

Llundain, 1887

Ar gyfer Eisteddfod Llundain, fel arfer, yr oedd Gorsedd gyhoeddi wedi’i chynnal y flwyddyn cynt. Cyn y seremoni honno, cynhaliwyd gwledd fawreddog yn y Freemason’s Tavern. Yn bresennol oedd yr Archdderwydd Clwydfardd a phymtheg Derwydd. Yfwyd wyth llwncdestun: (1) Y Frenhines Victoria; (2) Cymru Fu; (3) Cymru Fydd; (4) Gorsedd y Beirdd; (5) Eisteddfod Llundain; (6) Pulpudau Cymru; (7) y Wasg; ac (8) Y Llywydd a’r Boneddigesau. Ni chofnodir pa siâp oedd ar yr Orsedd ar ôl cynifer o lyncu testunau.

Yna bu cynulliad Gorseddol am dri o’r gloch yng Ngerddi’r Inner Temple: nid oedd y Gorseddogion mewn urddwisgoedd. Cofnodir y bu un o’u plith yn ysmygu sigâr trwy gydol y seremoni, tra safai’r gweddill o dan ymbarélau oherwydd y pistyll glaw. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ei hun yn yr Albert Hall. Cyfarfu’r Orsedd, hithau, yn Hyde Park, o fewn cylch o gerrig bychain, ond unwaith eto nid oedd y Gorseddogion yn eu gwisgoedd. Yn hollol nodweddiadol o’r cyfnod, testun yr Awdl oedd Y Frenhines Victoria: y gwobrau oedd £40, bathodyn aur a chadair dderw. Hyd yn oed ar destun mor wenieithus-seicoffantig, yr oedd 17 o awdlau wedi dod i law. Enillwyd gan Berw (Y Parch. Robert Arthur Williams). Serch mai yn Saesneg yr oedd y Rhaglen, gan mwyaf, cynhaliwyd defodau’r Orsedd yn uniaith Gymraeg.

 

Wrecsam, 1888

Mae’n werth nodi mai yn Wrecsam, ym 1888, y daeth Elfed, ar y pryd yn weinidog yn Hull, i fri trwy gipio’r Goron am ei bryddest Y Sabbath yng Nghymru.

 

Y Rhyl, 1892

Bu Seisnigrwydd Eisteddfod y Rhyl yn destun sgyrsiau a gohebiaethau hallt o feirniadol. Yn ôl colofnydd dienw ‘Y Bo Lol’ yn y cylchgrawn Cymru:

Nis gallaf ddirnad paham y mae Eisteddfod y naill flwyddyn ar ôl y llall mor Seisnigaidd. Yr oedd Swyddogion Eisteddfod y Rhyl fel pe wedi penderfynu mynnu popeth yn Saesneg. Saesneg oedd pedair ar bymtheg o bob ugain o ganeuon y Cyngerdd; Saesneg oedd araith pob llywydd.

 

Gwilym Cowlyd, 1863-1904

Fel pob sefydliad arall yng Nghymru, cafodd Gorsedd y Beirdd hefyd ei ‘gorsedd sblit’. Fel protest yn erbyn y canu rhydd, a’r symud o le i le, sefydlodd Gwilym Cowlyd (William John Roberts, argraffydd a llyfrwerthwr

o Drefriw) Orsedd a alwodd Gorsedd Geirionnydd mewn gwrthwynebiad iddi. (Mae’n atgoffa dyn o’r ddau Bab a gydredai am gyfnod yn y 14eg ganrif, y gwir Bontiff yn Rhufain, a’r Ymhonnwr yn Avignon.) Bu gorsedd Cowlyd yn cyfarfod ar lannau Llyn Geirionnydd am rai blynyddoedd, ac ymunodd ambell Gymro nodedig â hi, megis O.M. Edwards a’r Parch. John Williams, Brynsiencyn. Ni fu fawr o fri arni, a phan fu farw Gwilym Cowlyd ym 1904, darfu pob sôn am ei orsedd, hefyd.

 

Bangor, 1890

Yn yr Orsedd, ar y bore Iau, ym Mangor, 1890, cyhoeddwyd bod yr Archdderwydd i gael gwisg newydd, ‘deilwng o’r aruchel swydd’. Yr oedd y Cleddyf Mawr eisoes wedi’i gyflwyno, a chafwyd un o’r ddau Gorn Gwlad gan Faer Pwllheli. Yn bresennol hefyd yr oedd Brenhines Rwmania, a urddwyd i’r Orsedd dan ei phriod enw ‘Carmen Sylva’.

 

Pontypridd, 1893

Weithiau, ceid – a cheir – y ‘cythraul canu’ neu ‘gythraul adrodd’. Ym Mhontypridd, y ‘cythraul beirniadu’ a gododd ei ben. Fel arfer, yr oedd tri beirniad ar yr Awdl: Pedrog, Dyfed a Gwilym Cowlyd. Yr aderyn drycin y tro hwn oedd Gwilym Cowlyd. Yn ôl Y Faner:
ymddengys fod Pedrog a Dyfed yn cytuno ar eu beirniadaeth ond fod Gwilym Cowlyd yn gwahaniaethu; ac am hynny, efe a hawliodd gael traddodi ei feirniadaeth ei hun. Gwrthwynebodd y Barnwr Gwilym Williams (a lywyddai) iddo gael gwneud dim o’r fath. Safai y bardd a’r Barnwr ar y llwyfan a siaradent yn fywiog [!] â’i gilydd a chlywai y sawl a oedd yn agos y Barnwr yn dweud: ‘Dim gair, syr, dyna’r rheol a dyna’r gyfraith.’ Gwrthdystiai Cowlyd, ond datganai’r Barnwr: ‘Myfi sydd mewn awdurdod yma heddiw, a rhaid i chwi ufuddhau syr.’ Dywedodd y Barnwr fod yn rhaid i Gwilym Cowlyd adael y llwyfan. Dywedodd Cowlyd na wnâi ddim. Ceisiodd yr arweinydd ei berswadio, a cheisiodd eraill wneud yr un peth; ond Cowlyd nid âi ymaith o gwbl. Yn y cyfamser, yr oedd y dorf wedi dechrau deall y sefyllfa a chymeradwywyd y Barnwr yn anferth. Galwodd yr arweinydd ar Pedrog a Dyfed i draddodi y feirniadaeth; ond er bod y swyddogion yn ceisio arwain Cowlyd ymaith, efe a fynnodd gael myned i ffrynt y llwyfan, ac ebai: ‘Gwaherddir fi i roddi fy meirniadaeth. Deuthum yma yr holl ffordd o Wynedd i wneud hynny, ac ni chaniateir i mi siarad.’ Y Barnwr (yn gyffrous): ‘Na chewch, syr, ni chewch chwi ddim.’ Gwilym Cowlyd wrth y dorf: ‘A wnewch chi wrandaw pa beth sydd gennyf i’w ddywedyd?’ Y Barnwr: ‘Na, peidiwch.’ Rhoddwyd cymeradwyaeth uchel i’r Barnwr am ei waith yn gwrthod i Cowlyd gael ei ffordd yn benrhydd fel y mynnai, a dywedodd y Barnwr: ‘Darfu inni fel pwyllgor benderfynu ar dri bardd i feirniadu awdlau y gadair; a’r amcan mewn pennu rhif anghyfartal ydoedd cael mwyafrif pe buasai dadl [Clywch, clywch!]. Yn awr, dyma gennym wahaniaeth opiniwn yma – Pedrog a Dyfed ydynt yn gytûn ar un ochr, tra yr anghytuna Cowlyd; ac y mae ei hun. Meddaf fi, fel mater o gyfraith a chyfiawnder, nad oes gan y dyn hwn, yn y lleiaf, ddim hawl i roddi ei feirniadaeth. [Cymeradwyaeth.] Gwilym Cowlyd: ‘Un gair.’ Y Barnwr – ‘Dim un gair, syr.’ [Cymeradwyaeth uchel.] Parhâi Cowlyd i wrthod myned ymaith; o’r diwedd, llwyddwyd i’w berswadio, ac aeth Pedrog a Dyfed ymlaen.” (mewn un fersiwn o’r hanes ‘llusgwyd Cowlyd o’r llwyfan, ac aeth Pedrog a Dyfed ymlaen’.) Chewch chi ddim llawer o feirniadaethau fel yna heddiw.

 

Caernarfon, 1894

Eisteddfod Caernarfon, 1894, oedd y tro cyntaf i’r Orsedd gael eu gweld mewn gynau gwyn, glas a gwyrdd, tebyg i’w gwisgoedd heddiw. Ac eithrio bod y benwisg braidd yn debyg i gap du academaidd, a phenwisg yr Archdderwydd fel meitr esgob. Pan gynhaliwyd seremoni ar y Maes, urddwyd Tywysog Cymru (wedyn Edward VII) dan yr enw barddol gwreiddiol Iorwerth Dywysog, ei wraig Alexandra (Hoffedd Prydain), eu merch Victoria (Buddug) a’r ferch arall, Maud (Mallt). Nid clodfori na beirniadu yr wyf, dim ond dweud beth ddigwyddodd.

Methwyd â rhwydo’r Frenhines Victoria. Dywedir ei bod, yn ystod ei hoes hir, wedi treulio saith mlynedd yn yr Alban, saith wythnos yn Iwerddon, a saith niwrnod yng Nghymru. Bid a fo am hynny, dim ond unwaith y bu hi’n agos at eisteddfod – ac agos, ond heb fynd yno, y bu hi. Eisteddfod Biwmares, 1832, oedd yr achlysur, ac eisteddfod daleithiol oedd honno. Roedd Duges Caint a’i merch, y Dywysoges Victoria – ym 1837 y daeth yn frenhines – yn aros ym mhlasdy Baron Hill, cartref Syr Richard Buckley, Llywydd yr Eisteddfod. Bu’n glawio drwy’r amser, ac roedd haint y colera hefyd yn cerdded y fro. Arhosodd y Dduges a’r Dywysoges dan do drwy gydol yr Ŵyl. Gwahoddwyd rhai o’r buddugwyr i dderbyn eu gwobrau oddi ar law Duges Caint wrth gyntedd y Plas: wedi’r seremoni neilltuodd hi i wledda yn y plas gyda’r bendefigaeth, ac aeth y beirdd i hel eu diod yn y tafarnau gyda’r ‘harpers and singers, apparently peasants in mean attire’. Ai dyna yw ystyr yr ymadrodd Ffrangeg noblesse oblige? Caernarfon, 1894, oedd Gorsedd olaf Clwydfardd: bu farw ym mis Hydref yr un flwyddyn, ar ôl dal swydd yr Archdderwydd am weddill ei oes.

 

Y Gwisgoedd

Man a man i mi yn awr ddweud gair am y gwisgoedd. Cynlluniwyd y rhai presennol cyn troad y 19eg ganrif gan Syr Hubert Herkomer, Almaenwr a mab i gerflunydd-coed o Bafaria. Yr oedd yn Aelod o’r Academi Frenhinol yn Llundain, ac yn gyn-athro yn Rhydychen. Yr oedd ei wraig o dras Gymreig. Herkomer hefyd a gynlluniodd Goron yr Archdderwydd, ei Ddwyfronneg, a’r Cleddyf Mawr. Ychydig iawn o newid fu i’w gynlluniau, ac mae’r holl wisgoedd yn aros hyd heddiw, fwy neu lai fel y cynlluniodd Herkomer hwy.

Mae’r gwisgoedd wedi peri sbort fawr i laweroedd o bobl dros y blynyddoedd. Dywedodd un Americanes ar ôl gweld yr Orsedd: ‘Yeah, we have those in the States – we call them the Ku Klux Klan’. Tra gofynnodd ymwelydd o’r Dwyrain Canol mewn syndod: ‘Tybed pa fath o Arabiaid yw’r bobl hyn?’ Ac ebe’r Athro Timothy Lewis: ‘After 1933 the Gorsedd dress started to get fancier and fancier. Bits of gold lamé and lashings of laurel leaves arrived, and white shoes peeping out coyly from beneath robes like friendly little white mice’. Pan gyflwynwyd gwisgoedd neilon am gyfnod, yr oedd pawb yn uchel iawn o’r rheini. Dim ond y diferyn lleiaf o law oedd ei angen, a byddai popeth a wisgid – neu na wisgid – o danodd i’w weld yn glir fel grisial. Ac rwy’n cofio un papur Sul yn disgrifio Derwyddon fel: ‘Mother Theresa from the neck up: Guy’s Hospital from the neck down’. Pan welodd H.V. Morton yr Orsedd ym Mangor ym 1931 sylwodd ar y gwynt yn chwythu gwaelodion y gwisgoedd fel ag i ddadlennu coes trowser pin-streip neu frethyn cartref. Daeth i’r casgliad bod Siôn Corn yn cael yr un anhawster gyda gwaelodion ei drowsus yntau.

 

Llanelli, 1895

Yn Llanelli, ym 1895, cyhoeddwyd Hwfa Môn (Rowland Williams) yn Archdderwydd newydd – yr ail, ac am weddill ei oes yntau: goroesodd am ddeng mlynedd yn y swydd.

Llandudno, 1896

Yma y cyflwynwyd Baner yr Orsedd, a gynlluniwyd gan yr Arwyddfardd, Arlunydd Pen-y-garn (y pensaer Thomas Henry Thomas, Caerdydd). Yr un Faner a ddefnyddir heddiw, ond a drwsiwyd, a adnewyddwyd ac a ailfrodiwyd yn ôl y galw o bryd i’w gilydd. Ef hefyd a ddyfeisiodd y Corn Hirlas, a wnaed â chorn bual (ych gwyllt) o Dde Affrica.

 

Blaenau Ffestiniog, 1898

Mae’n haeddu ei nodi mewn cronicl hanesyddol fel y ddarlith hon y parodd y tywydd annisgwyl o braf ym Mlaenau Ffestiniog tra pharodd yr Eisteddfod, nes i Ddyfed fynegi’r syndod cynganeddol: ‘Bu’r wyl heb ymbarélo’. Yno y cyhoeddodd yr Orsedd restr o reolau a rheoliadau ar ei chyfer ei hun, yn datgan, ymhlith pethau eraill, mai’r Gymraeg yn unig fyddai iaith yr Orsedd. Mae’n arwyddocaol na chafwyd mo’r ‘Rheol Gymraeg’ ar gyfer yr Eisteddfod yn gyffredinol tan Brifwyl Caerffili ym 1950: gwelwn fwy am hynny yn y man.

 

Caerdydd, 1899

Nid yw pawb yn sylweddoli mai yng Nghaerdydd y defnyddiwyd cylch o feini am y tro cyntaf. Cyn hynny, ymgynnull trwy sefyll mewn rhyw fath o gylch anffurfiol ar laswellt neu sgwâr y byddai’r Orsedd, er gwaethaf defnydd Iolo o gerrig – ond cofier mai cerrig mân oedd y rheini – ym Mryn y Briallu ym 1792. Yma y cychwynnodd agwedd Pan-Geltaidd yr Eisteddfod, neu’n fwyaf arbennig, yr Orsedd. Cofir Caerdydd am bresenoldeb cynrychiolwyr o’r gwledydd Celtaidd eraill, sef – y pryd hynny – Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Iwerddon. Dim ond ym 1978 y cafwyd cynrychiolydd o Yn Chruinnaght, gwyl Ynys Manaw. Y bwriad, lle’r oedd yr Orsedd dan sylw, oedd ceisio cael gan y gwledydd eraill hyn i ffurfio’u gorseddau eu hunain. Gwnaeth Llydaw hynny ym 1900, ac mae hithau, ar ôl hanes cythryblus braidd, yn dal mewn bodolaeth. Hefyd Cernyw, ym 1928 – sonnir am Orsedd Cernyw yn nes ymlaen.

Fe urddwyd nifer o gynrychiolwyr o bob gwlad Geltaidd yn aelodau yr Orsedd. Gyda llaw, a sôn am is-Orseddau, yn Hydref 2001 bu fy rhagflaenydd, yr Archdderwydd Meirion, yn arwain mintai o Orseddogion, draw i Wladfa Patagonia i ail-sefydlu Gorsedd yno. Mae Gorsedd y Beirdd yn ‘fam-orsedd’ iddi hithau hefyd. Yng nghyswllt yr ymadrodd ‘mam-orsedd’, mae’n ddiddorol nodi bod Gorsedd Cernyw wedi sefydlu ambell is-orsedd Gernywaidd yn Awstralia a Seland Newydd, y mae hi yn ‘fam-Orsedd’ iddynt. Mentraf ofyn: a yw hyn yn gwneud Gorsedd Cymru yn ‘nain-Orsedd’ i’r rheini?

 

Trychineb Iwerddon

Yr oedd chwech o gynrychiolwyr o Iwerddon wedi’u hurddo yng Ngorsedd Caerdydd. Yn eu plith, bargyfreithiwr ifanc a gynrychiolai’r Conradh na Gaeilge (y Cynghrair Gaeleg). Gan gymryd yn ganiataol ei fod – ac yntau’n fargyfreithiwr – yn wr huawdl, rhoddwyd iddo’r enw-yng-Ngorsedd ‘Areithydd’. Ond yn wahanol i’r Cymry, nid oedd Areithydd yn canfod yr Orsedd yn gorff y dymunai weld ei efelychu yn Iwerddon. Yn wir, cymerodd ei gas ati, am ei bod (a) yn rhy frenhinol-daeog ei hagwedd; (b) yn rhy Seisnigaidd ei hiaith, ac (c) yn rhy ‘Brydeinllyd’ ei naws. Ac mae’n debyg, o ystyried sut sefydliad oedd yr Orsedd ar y pryd, bod Areithydd yn sylwedydd craff. O ganlyniad, ni ffurfiwyd gorsedd yn Iwerddon.

Dagrau pethau yw bod y bargyfreithiwr ifanc hwnnw, ym 1916, wedi’i ddienyddio trwy ei ddodi gefn-yn-erbyn-wal yng Ngharchar Kilmainham a’i saethu gan ddwsin o filwyr Prydain am iddo arwain Gwrthryfel y Pasg yn Swyddfa’r Post, Dulyn. Ei briod enw oedd Padraig Pearse. Fel is-nodyn eironig i’r hanes, megis, dringodd aelod arall o’r Orsedd yn Brif Weinidog Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr ac Iwerddon cyn diwedd yr un flwyddyn: ei enw yntau yng Ngorsedd y Beirdd oedd Llwyd o Wynedd.

 

Gorseth Kernow

Ym 1928 aeth yr Archdderwydd Pedrog draw i Gernyw i sefydlu ei Gorseth hi. Aeth yr Orsedd honno o nerth i nerth, ac mae’n dal mewn bri. Gorsedd un urdd, Glas yn unig, yw Gorseth Kernow, a lywyddir gan ei Bardd Mawr (Barth Mur) ei hun. Byddir yn ddieithriad – megis y gwneir â Gorsedd Llydaw (Goursezh Breizh) – yn cyfnewid cynrychiolwyr pan gyferfydd. Maent yn rhoi llawer o bwys ar y chwedl Arthuraidd: neb llai na’r Brenin Arthur sy’n cael y clod am na chawson nhw ddim ond un diwrnod gwlyb yn ystod y tri chwarter canrif y bu eu Gorseth mewn bod – credwch neu beidio.

Yn Boscôn (Boscawen) y sefydlwyd Gorseth Kernow, rhwng cylch cyntefig o feini nid nepell o Land’s End. Serch bod yno gynrychiolaeth o Lydaw hefyd, ac y ceisiwyd cyd-ganu’r Anthemau Cenedlaethol (trosiadau Cernyweg a Llydaweg o eiriau Hen Wlad fy Nhadau – ar yr un dôn), nid oedd yn llwyddiant digamsyniol. Meddai’r Dr Geraint Bowen yn sych: ‘Llwyddwyd i ganu’r Anthem Genedlaethol yn Llydaweg oherwydd presenoldeb dau Sioni Winwns o Lydaw, a oedd yn digwydd bod yn gwerthu yn yr ardal.’

Wrth drafod Gorsedd Cernyw, dylid sylweddoli mai cymdeithas o ddysgwyr yw hi. Nid oes modd iddynt ymarfer yr iaith yn y gymdeithas o’u cwmpas, canys mae’r Gernyweg, fel iaith lafar, frodorol, fyw, wedi edwino’n llwyr ers cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn y nodwedd hollbwysig hon y mae Gorseth Kernow yn hollol wahanol i’n Gorsedd ni.

Sut bynnag am hynny, pan ddathlwyd y tri-chwarter canmlwyddiant yn Llansteffan (Launceston neu Lanson), a minnau’n Archdderwydd ar y pryd, cefais y fraint o arwain mintai o hanner cant o Orseddogion, a chymaint eto o gefnogwyr a pherthnasau, o Gymru draw i’w Gorsedd ddathlu. Gwenodd haul y Brenin Arthur arnom, a chafwyd diwrnod nas anghofir fyth gan y rhai a oedd yn bresennol.

 

Bangor, 1902

Mater a dynnodd sylw oedd bod deng mil yn eistedd yn y Pafiliwn yn gwrando ar y corau cymysg. Yr oedd naw côr yn cystadlu: chwech ohonynt o Loegr. Parodd y cystadlu am bedair awr a hanner, a Gogledd Staffordshire a enillodd. Mynnodd y dyrfa fod y feirniadaeth yn cael ei thraddodi yn Gymraeg. Droeon, yn ystod yr Eisteddfod honno, bu cwyno am ormod o Saesneg. Yn y cyngerdd gyda’r nos, roedd pob eitem ar y rhaglen yn Saesneg, a phan ganodd Miss Clara Williams Y Deryn Pur fel encôr, cafwyd cymeradwyaeth fyddarol gan y dyrfa o saith mil, nid am y canu, ond oherwydd defnyddio’r Gymraeg.

Llywydd y Dydd ar y pnawn Iau, am y tro cyntaf, oedd Lloyd George. Dyma gychwyn traddodiad, a barodd am weddill ei oes. Enillwyd y Gadair gan T. Gwynn Jones am ei Awdl enwog Ymadawiad Arthur. Yng nghydgyfarfod yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, beirniadwyd Seisnigrwydd Bangor yn hallt, ac addäwyd, pan elai i Wrecsam ym 1904, y byddai pethau tipyn mwy Cymraeg a Chymreig.

 

Hwfa Môn a Dyfed

Bu Hwfa Môn farw ym 1905 ar ôl deng mlynedd yn Archdderwydd. Yr oedd yn un o’r rhai a gredai’n gadarn yn hynafiaeth yr Orsedd – hynny yw, fod Iolo wedi dweud calon y gwir o’r dechrau i’r diwedd. Cofir amdano, meddai Dillwyn Miles, fel areithiwr a phregethwr huawdl, ond hirwyntog. Olynwyd ef yn y swydd gan Ddyfed, a’i daliodd hyd ei farwolaeth yntau ym 1923. Dyfed fu’r olaf i fod yn Archdderwydd am oes. Gostyngwyd y tymor i bedair blynedd, ac wedyn – ar ôl yr Ail Ryfel Byd – i dair blynedd. Deil i benodi am oes yn Llydaw, lle mae’r Derwydd Mawr presennol, Gwenc’hlan, a orseddwyd gan yr Archdderwydd Geraint ym 1979, wedi treulio dros chwarter canrif yn ei swydd.

A sôn am hirwyntogrwydd: yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyfarchwyd y bardd buddugol gan: Clwydfardd, Dewi Ogwen, Gwynedd, Watcyn Wyn, Dewi Môn, Dyfed, Penrhyn Fardd, Gwilym Cowlyd, Pedrog ac Eifionydd. Cyfanswm o ddeg, os na fuoch chi’n eu rhifo.

 

Llangollen, 1908

Yn Llangollen, am y tro cyntaf, cytunwyd fod y Gadair a’r Goron i’w trin fel gwobrau cyfartal [gweler hanes cythryblus y Fedal Ryddiaith yn nes ymlaen]. Ac ail-bwysleisiwyd nad oedd unrhyw iaith i’w siarad mewn cyfarfodydd o’r Orsedd heblaw’r Gymraeg – mae’n rhaid bod angen pwysleisio hynny.

 

Llundain, 1909

Dehonglwyd rheol Gymraeg yr Orsedd yn llythrennol yn Eisteddfod Llundain, 1909. Yr oedd y Rhaglen yn uniaith Gymraeg, gan gynnwys trosiadau gair am air o’r enwau lleoedd. Daeth “in the Inner Temple Hall off Fleet Street in the City of London” (‘yn Neuadd y Deml Fewnol allan o Heol y Chwer’nant yn Ninas Caerludd’). Ond doedd yr Eisteddfod ei hun, a gynhaliwyd yn yr Albert Hall am yr eilwaith, ddim mor Gymreig na Chymraeg o bell ffordd. Llywyddion y Dydd – ar wahân i Lloyd George wrth gwrs – oedd A.J. Balfour a’r Prif Weinidog, H.H. Asquith. Aeth y Gadair i T. Gwynn Jones, a’r Goron i W.J. Gruffydd.

 

Bae Colwyn, 1910

Mae Eisteddfod Bae Colwyn yn enwog pe na bai ond am Awdl Yr Haf gan R. Williams Parry – a gydnabyddir yn un o’r awdlau mwyaf a ganwyd erioed yn y Gymraeg.

 

Beiriaid Llym

Ni fu’r Orsedd erioed yn fyr o feirniaid. Yn Y Beirniad ym 1911, ymosododd Syr John Morris-Jones yn ffiaidd arni, gan ddweud mai ‘sefydliad wedi ei seilio ar gelwydd a thwyll’ ydoedd. Yr oedd ffynonellau hanes wedi’u llygru a’u gwenwyno, ac roedd y Llydawiaid druain wedi bod mor ddiniwed â dilyn holl ffug-arferion y Cymry, meddai. Roedd mwy na pheth gwirionedd yn hyn oll, wrth gwrs.

Ymosodwyd arni yn ddiweddarach gan yr Athro Griffith John Williams, a haerodd: ‘cymaint yw rhwysg a haerllugrwydd yr Orsedd fel ei bod yn ei hystyried ei hun yn llys goruchaf llenyddiaeth yng Nghymru’. Ymunodd yr Athro Henry Lewis yn y ddadl. A doedd W.J. Gruffydd, er ei fod yn Brifardd Coronog, ddim yn or-hoff o’r Orsedd chwaith: yr oedd wedi gwrthod gwahoddiad i ymuno â hi. Eithr fe atebodd Cynan y beirniaid academaidd hyn, gan ddiosg yr holl ffug-ddamcaniaethu parthed hynafiaeth yr Orsedd, ond gan bwysleisio’r cyfraniad unigryw a wnâi, ac y gallasai ei wneud, i’r Eisteddfod, i Gymru ac i’r Gymraeg. Yn llythrennol, ychydig iawn o Gymraeg a fu rhwng yr Orsedd a’r Brifysgol, neu o leiaf â rhai academyddion y Gymraeg yn y Brifysgol, am genedlaethau. Cafwyd diwedd, fwy neu lai, ar yr ymbellhau a’r ymgecru yma yn Eisteddfod Aberteifi ym 1976, pryd yr urddwyd gyda’i gilydd yn aelodau yng Ngorsedd, y pedwar Athro Cymraeg ym mhedwar coleg Prifysgol Cymru.

 

Wrecsam, 1912

Yn Wrecsam, ym 1912, cipiwyd y Gadair a’r Goron gan T.H. Parry-Williams, am y tro cyntaf. Yr oedd i wneud hynny drachefn ym 1915. Yn holl hanes yr Eisteddfod, dim ond dau arall a gyflawnodd yr un gamp, sef Alan Llwyd, a gafodd ei ddwbl cyntaf yn Rhuthun ym 1973, a’i ail yn Aberteifi ym 1976; a Donald Evans, a’i cyflawnodd ddwywaith yn Wrecsam ym 1977 a Dyffryn Lliw ym 1980.

Arferai THP-W adrodd stori ddoniol amdano’i hun yn dod adref i Ryd-ddu ar ôl ei ddwbl cyntaf, ym 1912. Cyfarfu â hen weithiwr amaethyddol a enillai, yn ôl pob tebyg, ychydig sylltau’r wythnos drwy chwys ei wyneb a nerth bôn braich. Nid oedd gan hwnnw fawr ddim diddordeb yn y Gadair na’r Goron, ond holodd â chwilfrydedd egnïol: ‘Gest ti bres hefyd, Tom?’ ‘Do, fachgan, mi ’nillais i ddeugain punt’. ‘Deugain punt, Tom! Arglwydd mawr! Ac mi gwnest nhw ar dy din!’

 

Bangor, 1914 a 1915

Ym Mangor yr oedd Prifwyl 1914 i fod: daeth y Rhyfel ar ei gwarthaf. Ond fe’i cynhaliwyd ym 1915. Daeth Lloyd George yno, wrth gwrs, i draddodi araith wlatgar. Hynny yw, Prydeinig-wlatgar, er y buasai ef wedi pwysleisio mai’r un peth oedd hynny a bod yn wlatgar i Gymru.

 

Penbedw, 1917

Am ei Chadair Ddu y mae’r cof dyfnaf a dwysaf am Benbedw, wrth gwrs. Gwyr pawb yr hanes, felly mi fodlonaf ar ddweud y bu Lloyd George yno hefyd – ac yntau’n Brif Weinidog, hollalluog bron, erbyn hynny – yn gwasgu’r diferyn olaf o emosiwn allan o’r drasiedi er mwyn cynnal breichiau cefnogwyr y Rhyfel. Ym Medi y cynhaliwyd yr wyl, a dim ond ym 1918 y penderfynwyd, o hynny ymlaen, neilltuo wythnos gyntaf Awst yn sefydlog ar ei chyfer. Mae’n dal felly.

 

Caernarfon, 1921

Dyma lle cafwyd awdl Min y Môr gan Meuryn, a phryddest Mab y Bwthyn gan Cynan. Bu Cynan yn disgleirio yn yr Orsedd a’r Eisteddfod oddi ar hynny am weddill ei oes.

Yno hefyd, clywyd englynion coffa R. Williams Parry i Hedd Wyn yn cael eu canu’n gyhoeddus am y tro cyntaf.

 

Pwllheli, 1925

Pan gyhoeddwyd Eisteddfod Pwllheli ym 1924, yr oedd yr Archdderwydd, Elfed, yn wael ei iechyd. Pe digwyddai hynny heddiw, byddai un o’r cyn-Achdderwyddon yn llywyddu (ystyrir yr olaf i ddal y swydd yn ddirprwy-Archdderwydd rhag ofn amgylchiad fel hyn). Ond gan fod pob archdderwydd blaenorol wedi dal ei swydd am oes – Clwydfardd, Hwfa Môn a Dyfed – a Chadfan wedi marw yn y tresi, nid oedd yr un cyn-archdderwydd ar dir y byw.

Pan fethodd Cadfan, oherwydd llesgedd, wneud mwy nag agor yr Orsedd yn yr Wyddgrug ym 1923, dirprwyodd Elfed – na ddaeth yn Archdderwydd ei hun tan 1924 – ar ei ran. Felly, ac Elfed yn wael adeg Cyhoeddi Pwllheli ym 1924, camodd Pedrog i’r adwy. Mae’r darluniau yn dangos Pedrog ar y Maen Llog yng Ngwyl y Cyhoeddi, yn gwisgo regalia llawn yr Archdderwydd. Ym 1928 y penodwyd Pedrog yn Archdderwydd yn ei hawl ei hun, i ddilyn Elfed. Gweinyddwyd y drefn honno yn ei gwrthol ym Mangor ym 1931, pan oedd gwaeledd Pedrog yn ei rwystro rhag gweithredu. Elfed, ei ragflaenydd, a lywyddodd y defodau yn ei le.

 

Caergybi, 1927

Cofir Eisteddfod Caergybi, 1927, am mai yno yr enillodd Caradog Pritchard ei Goron gyntaf. Gan y dyfarnwyd nad oedd neb yn deilwng o’r Gadair, rhoddwyd hi i Lys Barn hynafol Biwmares, lle daeth yn gadair i’r barnwyr a fynychai’r Brawdlys. Mae hanes Cadair Caernarfon, 1979, a ataliwyd am yr un rheswm, yn hollol wahanol, fel y cawn weld.

Lerwpwl, 1929

Lerpwl, 1929 oedd y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal y tu allan i Gymru – gobeithio! Dewi Emrys a gipiodd y Gadair.

 

Llanelli, 1930

Enillodd Dewi Emrys ei ail Gadair yn Llanelli ym 1930. Pan alwodd yr Archdderwydd Pedrog arno i sefyll, doedd dim ymateb. Yr oedd sïon wedi’u clywed mai ef oedd i’w chael, ond roedd Dewi Emrys i’w weld yn eistedd ar y llwyfan yn ei Wisg Orseddol fel Prifardd ar ddechrau’r seremoni. Yn union cyn cyhoeddi ffugenw’r bardd buddugol, sleifiodd oddi ar y llwyfan, tynnodd ei wisg, ac aeth i gerdded y Maes ymhlith y dyrfa. Daethpwyd o hyd iddo, a llusgwyd ef i’r Pafiliwn, ac i’r llwyfan. Dywedodd wedyn ei fod wedi diflannu fel protest yn erbyn y ffaith na chafodd wybod, ymlaen llaw, mai ef oedd yr enillydd. Ni chytunodd i ddychwelyd i’r Pafiliwn nes llwyddwyd i’w berswadio ‘y buasai Mr Lloyd George wedi ypsetio’n arw’ pe bai’r seremoni wedi’i difetha.

 

Diwygio’r Drefn, 1935

Tua 1932, mynegodd W.J. Gruffydd y farn fod yr Eisteddfod Genedlaethol ‘yn cyflym ddirwyn tua’i diwedd’ – geiriau cyfarwydd, heddiw? Yr oedd hi yn ogystal, yn ôl Gruffydd, ‘yn fwy anghymreig’ – mae’n anodd peidio derbyn hynny. Cwynwyd hefyd fod diffygion mawr yn y modd y’i llywodraethwyd, gyda Chymdeithas yr Eisteddfod, Bwrdd Gorsedd y Beirdd, a phwyllgor lleol pob Eisteddfod, yn gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd. Ar ôl cydweithio rhwng Cynan ar ran yr Orsedd, a D.R. Hughes, Ysgrifennydd y Cyngor, fe lwyddwyd i’w diwygio. Lle’r oedd yr Orsedd dan sylw, ail-saernïodd Cynan y seremonïau. Ffurfiwyd un corff ym 1937, sef Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, er bod yr Orsedd yn mwynhau ymreolaeth lawn yn ei phethau hi trwy gadw ei Bwrdd ei hun.

Yr oedd hefyd broblem iaith. Yng Nghaernarfon ym 1935, ymddiheurodd un o’r Arweinyddion o’r llwyfan am siarad yn Saesneg ‘am fod nifer o’r Cymry a oedd yn bresennol heb fod yn deall Cymraeg.’ Yr oedd ‘owyr Inglish ffrends’ yn dal yn fyw ac yn iach – yng Nghaernarfon, o bobman!

Ymhlith y rhai a urddwyd yn Ofyddion (gwyrdd, trwy arholiad) yr oedd un gwr ifanc, ap Llysor, a ddaeth wedyn yn Brifardd y Goron ac yn Archdderwydd. Disgrifir ef yn Y Brython fel ‘yr un a osododd y Ddraig Goch ar Dwr yr Eryr [yng Nghastell Caernarfon] dair blynedd yn ôl’. Yr oedd hwn yn gyfnod pryd na welid odid fyth Ddraig Goch yn cwhwfan yn unman. Adwaenir ap Llysor hefyd fel y Dr W.R.P. George, Cricieth.

 

Machynlleth, 1937

Cyrhaeddodd y gwrthwynebiad i’r Seisnigo cynyddol ei benllanw ym Machynlleth, pan ymddiswyddodd nifer o’r prif feirniaid, gan gynnwys yr Athro W.J. Gruffydd, Dr Thomas Parry, Dr Iorwerth Peate a Miss Cassie Davies. Protest oedd hyn, yn rhannol, yn erbyn penodi Ardalydd Londonderry yn un o Lywyddion y Dydd. Ef oedd perchen Plas Machynlleth, ac ef hefyd oedd y Gweinidog Rhyfel a fu’n gyfrifol am orfodi’r Ysgol Fomio ar Ben´yberth yn Llyn.

 

Y Fedal Ryddiaith, 1937 hyd 2001

Clywyd swn ym mrig y morwydd ers blynyddoedd i’r perwyl nad oedd Rhyddiaith yn cael y sylw dyladwy gan y Brifwyl. Cafwyd nifer o syniadau

– un oedd rhoi’r Goron am Ryddiaith a chadw’r Gadair am Farddoniaeth. Ydrefn a fabwysiadwyd oedd cyflwyno Medal Aur am Lenyddiaeth, i’w rhoi yn Brif Wobr am sgrifennu ‘rhyddiaith bur’ – deil y ddau air yna i ymddangos ar wyneb y Fedal hyd heddiw, serch mai ‘rhyddiaith greadigol’ yw’r disgrifiad ffasiynol yn ein dyddiau ni – megis y troes ‘adrodd’, am ryw reswm, yn ‘llefaru’. Mabwysiadwyd y syniad, ac enillwyd y Fedal Ryddiaith gyntaf oll gan J.O. Williams, Bethesda am ei gyfrol Tua’r Gorllewin. Gwisgir y Fedal ar ruban glas, ac mae’r enillydd yn derbyn Gwisg Wen gan yr Orsedd, â’r un statws â Phrifardd. Neu dyna oedd y syniad. Yn ymarferol, rhyw seremoni ystafell gefn oedd Seremoni’r Fedal, ac yn amlach na pheidio, roedd yr Orsedd yn ‘anghofio’ cynnig Gwisg Wen i’r Llenor buddugol. (Ym 1861, yng Nghaerfyrddin, clywyd yn union yr un dadleuon o blaid ac yn erbyn, pan roddwyd i Brifeirdd y Goron statws cyfartal â Phrifeirdd y Gadair: cawsant hwy y sicrwydd o gyfartaledd yn Llangollen ym 1908.)

Ar ôl cwynion ynghylch hyn, ym 1966 sefydlwyd seremoni arbennig ar gyfer y Fedal Ryddiaith, a dechreuwyd cyhoeddi’r gyfrol fuddugol, i’w gwerthu gyda chyfrol Cyfansoddiadau’r Eisteddfod ar yn Maes, gan yr Eisteddfod ei hun. Dyrchafwyd statws y seremoni, trwy ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn ar y dydd Mercher, lle dôi’r cyn-enillwyr ynghyd i anrhydeddu’r Prif Lenor newydd. Cofier mai ar bnawn Mawrth a phnawn Iau yr oedd y Coroni a’r Cadeirio.

 

Yr Orsedd a’r Fedal

O’r diwedd, penderfynodd yr Orsedd fabwysiadu seremoni’r Fedal, gan gychwyn ym 1992. Nid oedd pawb – o blith y Llenorion na’r Beirdd – o blaid hyn. Golygai symud y Coroni i’r dydd Llun a’r Cadeirio i’r dydd Gwener, a’r seremonïau boreol i’w canlyn. Gan mai fi oedd yr unig Brif Lenor ar Fwrdd yr Orsedd ar y pryd, i mi y syrthiodd y gorchwyl o drefnu i’r holl Lenorion fod yn bresennol ar y llwyfan ar y dydd Mercher, yn eu gwisgoedd gwyn Derwyddol; pob un yn gwisgo’i Fedal. Haws oedd dweud na gwneud: gall Prif Lenorion, fel pob dosbarth arall o bobl, fod yn ddigon anystywallt ar brydiau. Yr oedd ambell un braidd yn anfodlon dod â’i Fedal i’r Orsedd, gan ddymuno glynu wrth y drefn a fodolai. A nifer o’u plith yn ddigon amharod i ymbresenoli mewn gorsedd o feirdd dan unrhyw amgylchiadau – ambell un oherwydd eu triniaeth ysgeler yn y blynyddoedd a fu. Ond fe gefais i dair sioc hollol annisgwyl.

Ar ôl siarad gydag Islwyn Ffowc Elis, Dafydd Jenkins ac O.E. Roberts, canfûm nad oedd yr un o’r tri erioed wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd! Yr oedd clywed hyn yn sioc i Swyddogion yr Orsedd, hefyd. Golygai na fedrai’r tri Prif Lenor yma fod yn bresennol yn eu seremoni eu hunain ar y dydd Mercher. Doedd dim amdani ond mynd ati – ar frys gwyllt – i drefnu i’w hurddo ill tri ar y bore Llun, ddeuddydd cyn seremoni’r Fedal. Mae’n rhaid cyfaddef y cefais i gryn drafferth gyda dau ohonynt, i’w perswadio i dderbyn Gwisg Wen o gwbl! Teimlent i’r byw fod Rhyddiaith wedi cael ei hesgeuluso a’u hysgymuno yn y fath fodd, a thros gymaint o flynyddoedd, i’r graddau nad oeddynt yn awyddus i dderbyn Gwisgoedd Gwynion er mwyn hwylustod i’r Orsedd.

Cael a chael fu hi. Ar ôl cryn berswâd, cytunodd y tri, yn rasol, i dderbyn aelodaeth o’r Orsedd, ac i gymryd rhan yn seremoni’r Fedal. Bu Islwyn ac O.E. yn cyrchu’r Llenor buddugol (Robin Llywelyn), a Dafydd Jenkins aminnau yn ei gyfarch. Ni wyddwn ar y pryd am un ffaith a ddysgais yn ddiweddarach – wrth ddigwydd gwylio clip ffilm ar y teledu gryn amser wedyn. Sef fod y diweddar Ddoctor John Gwilym Jones – o bawb! – wedi mynd i’w fedd heb i’r Orsedd erioed gynnig aelodaeth iddo. Yr wyf yn dal o’r farn fod y driniaeth ysgeler a gafodd y Doctor John Gwilym yn warth ac yn gywilydd ar ran Gorsedd y Beirdd. Bu estyn y ‘tridiau seremonïol’ o ddydd Llun i ddydd Gwener o les mawr o safbwynt cyllid yr Eisteddfod hefyd. Cafwyd y cynnydd disgwyliedig yn y gwerthiant tocynnau.

Eithr yr oedd un mater eto ar ôl. Ym 1994, newidiwyd Cyfansoddiad yr Orsedd fel ag i roi i’r Prif Lenorion statws cyflawn yn hytrach na statws cyfartal. Sef eu rhoi ar dir i’w hethol i swydd yr Archdderwydd. Oherwydd ceidwadaeth o bosibl, nid dyna a ddigwyddodd ym Mro Colwyn ym 1995, nac ychwaith ym Mro Ogwr ym 1998. Ond yn 2001 newidiwyd y dull o ddewis, trwy roi pleidlais i bob aelod o’r Orsedd, yn lle dim ond i’r Bwrdd, fel cynt. Ac yn Eisteddfod Dinbych yn 2001, etholwyd y Prif Lenor cyntaf erioed, trwy bleidlais yr Orsedd gyfan, yn Archdderwydd Cymru. Os caf ryfygu seinio nodyn personol, ystyriaf fy nyrchafu’n Archdderwydd Cymru yr anrhydedd fwyaf a ddaeth i’m rhan erioed.

Tra rwy’n sôn am Brifeirdd a Phrif Lenorion, nid oes ond pump erioed wedi ennill yr hawl i’r ddau deitl gyda’i gilydd. Y tri cyntaf oedd y diweddar Gwilym R. Jones, Tom Pari-Jones, a Dafydd Rowlands. A dim ond dau enillydd dwbl sydd ar dir y byw heddiw, sef John Gruffydd Jones (Ioan Horon), Abergele, a Dylan Iorwerth (Dylan).

 

Yr Ail Ryfel Byd

Yn ystod y Rhyfel, ni fu fawr o drefn ar bethau. Cynhaliwyd eisteddfodau radio, diolch i’r BBC. Bu eisteddfodau bach ym Mangor, 1940; Hen Golwyn, 1941; Aberteifi, 1942; Bangor, 1943 a Llandybïe, 1944. Yna ail-ddechreuwyd yn syth wedi’r Rhyfel, yn Rhosllannerchrugog ym 1945. Yn ystod wythnos y Brifwyl y gollyngwyd y bom atomig ar Nagasâci, a daeth y Rhyfel â Siapan i ben. Pan ddaeth y newydd yn ystod seremoni’r Orsedd ar y pnawn Iau dyma’r cyn-Archdderwydd Elfed, yn ei Wisg Aur – yn hynafgwr musgrell, dall – yn dod i flaen y llwyfan a dweud yn syml, ond mewn llais fel cloch: ‘Gweddïwn’. Ar ôl i Elfed weddïo, canwyd yr emyn Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw. A phan ofynnodd Archdderwydd Cymru (Crwys), wrth iddo gadeirio’r Prifardd Tom Pari-Jones: ‘A oes Heddwch?’, bloeddiwyd ‘Heddwch!’, mewn modd nas clywyd na chynt na chwedyn.

 

Aberpennar, 1946

Yn Aberpennar, ym 1946, urddwyd y Dywysoges Elizabeth dan yr enw-yng-Ngorsedd Elisabeth o Windsor. Ymhen y rhawg, urddwyd ei gwr Dug Caeredin (Phylip Meirionnydd). Yr oedd ei rhieni hefyd, a’i thaid a’i nain, wedi’u hurddo yn eu hamser, fel ei hewythr Edward VIII (wedyn Dug Windsor). Fel y gwelwyd, yr oedd bri mawr ar urddo aelodau teulu brenhinol Lloegr pryd bynnag y dôi’r cyfle. Byth oddi ar Aberpennar, argraffwyd llun Elisabeth o Windsor – yn ei Gwisg Werdd – gyferbyn â llun yr Archdderwydd ym mhob Rhaglen Gyhoeddi. Tua phum mlynedd yn ôl, penderfynodd Bwrdd yr Orsedd hepgor y llun brenhinol, a dodi darlun o Iolo Morganwg yn ei le. Hyd y cofiaf, yr oedd yn benderfyniad unfrydol: yn sicr yn benderfyniad nem. con.

Wrth fynd heibio, efallai mai dyma’r fan i sôn – serch nad oes a wnelo â’r Orsedd fel y cyfryw – y bydd Cyfansoddiad newydd yr Eisteddfod, a ddaw i rym ym mis Awst eleni (2005) yn datgan mai Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac nid Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, fydd yr unig enw swyddogol mwyach.

Lle bo’r ddau fater uchod dan sylw, tybed beth fyddai Cynan wedi’i ddweud?

 

Pen-y-bont ar Ogwr, 1948

Enillwyd Cadair Pen-y-bont gan Ddewi Emrys – ei bedwaredd. Yr oedd Cadfan, Crwys, Cynan, Wil Ifan, Caradog Prichard a J.M. Edwards wedi ennill Cadair neu Goron deirgwaith yr un, a Dyfed wedi ennill pedair Cadair. Felly, rhag torri calonnau gormod o feirdd a llenorion ifanc, deddfwyd na fedrai neb ennill y Gadair, y Goron na’r Fedal fwy na dwywaith o hynny ymlaen. Mae’n beth syn na fyddai’r un fath o reol mewn gweithgareddau eraill, megis chwaraeon: e.e., gornestau snwcer yn y Crucible a thennis yn Wimbledon, neu hyd yn oed y Gemau Olympaidd – ond stori arall yw honno.

 

Dolgellau, 1949

Honnwyd wedi’r ¯yl mai Dolgellau oedd ‘yr Eisteddfod Gymreicaf erioed’. Ceid trosiad Cymraeg ar gyfer bob darn cerddorol. Yr oedd rhai yn beirniadu hyn, gan ddweud y byddai’n cau allan bob côr o’r tu allan i Gymru. Fel ped i ateb y feirniadaeth, enillwyd y Cyntaf a’r Ail yng nghystadleuaeth y corau merched gan gorau o Plymouth a Blackpool – yn canu yn Gymraeg.

Caerffili, 1950

Yng Nghaerffili gweithredwyd y ‘Rheol Gymraeg’ yn swyddogol am y tro cyntaf. Cynhaliwyd popeth yn uniaith-Gymraeg. Ond fe’i torrwyd, yn fwriadol, gan yr Aelod Seneddol, Ness Edwards – Cymro uniaith (Saesneg) – a siaradodd yn Saesneg er mwyn ymosod ar y Rheol Gymraeg ei hun. Ond glynwyd wrth y Rheol Gymraeg o hynny ymlaen, a bellach mae wedi para dros hanner canrif, mwy neu lai yn ddi-dor.

 

Y Rhyl, 1953

Enillwyd y Goron am y tro cyntaf erioed gan fenyw, sef Dilys Cadwaladr. Er mwyn ymorol na thorrid mo’r gyfrinach, yr oedd Cynan ac Emrys Roberts, Ysgrifennydd y Llys, wedi cynllwynio i ryddhau si bod yr enillydd eisoes wedi ennill ei ddwy goron, ac felly na fyddai Coroni. Gweithiodd yr ystryw, a syfrdanodd Dilys Cadwaladr y genedl pan safodd ar alwad y Corn Gwlad.

Yr ail fenyw i’w choroni oedd Eluned Phillips (Luned Teifi), yn y Bala ym 1967, a thrachefn yn Llangefni ym 1983. Ac yna Einir Jones (Einir) ym Mro Delyn, 1991. Ac wrth gwrs, Mererid Hopwood (Mererid) ym Meifod yn 2002. Mae deuddeg wedi ennill y Fedal, bedair ohonynt ddwywaith. A hyd yma, dim ond y Dr Mererid Hopwood a gadeiriwyd: hynny yn Ninbych yn 2001.

Dylai’r Orsedd sylweddoli y perthyn iddi bellach – yn Brifeirdd a Phrif Lenorion fel ei gilydd – ddigonedd o ferched galluog a chymwys, sydd ar dir i’w hethol yn Archdderwydd: ac y gwneir hynny cyn bo hir, gobeithio.

 

Y Gyfrinach

Soniais droeon am ‘gadw’r gyfrinach’. Ar wahân i’m profiad yn Nyffryn Lliw pan ddyfarnwyd imi’r Fedal, deuthum wyneb yn wyneb â’r honediggyfrinach yn Eisteddfod Dinbych, 2001, pan etholwyd fi’n Archdderwydd. Doedd enw’r buddugol ddim i’w gyhoeddi tan 11.00 o’r gloch ar y bore Gwener, a hynny yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Orsedd: a dim ond ar ddiwedd y cyfarfod hwnnw, er mwyn gwneud yn saff y byddai’r gynulleidfa’n aros. Gwyddai pawb fod tri yn y ras, a phwy oedd y tri. Gydol yr wythnos, daeth ffrindiau a chydnabod – a hyd yn oed rhai nad oedd gen i syniad pwy oeddynt – ataf. Naill ai i led-awgrymu, i hanner-llongyfarch, neu dim ond i holi a stilio. Ac er mod i’n mynd ar fy llw na wyddwn i ddim – a doeddwn i ddim yn gwybod – ymateb y mwyafrif, tan hanner gwenu, oedd: ‘Wel ie. Cyfrinach ydi cyfrinach, on’d e?’ Yr oeddwn i’n difaru nad oeddwn i wedi encilio i Ynys Enlli am wythnos.

 

Abertawe, 1964

Ym 1964, am y tro cyntaf, arbrofwyd gydag offer cyfieithu ar y pryd, fel y gallai’r rhai na ddeallai Gymraeg wrando ar drosiad o bopeth a ddigwyddai yn y Pafiliwn. Does dim dwywaith na fu hyn yn gaffaeliad garw, a bu’n gymorth mawr i alluogi glynu wrth y Rheol Gymraeg. Fe’i defnyddir ym mhob sefydliad trwy Gymru erbyn hyn, o’r Cynulliad Cenedlaethol i lawr i gynghorau cymuned.

 

Caerwys a Chilmeri

Cynhaliwyd Gorsedd ar wahân i unrhyw brifwyl am y tro cyntaf yn ein dyddiau ni yng Nghaerwys ym 1968, i ddathlu pedwar canmlwyddiant yr Eisteddfod enwog a fu yno ym 1568. Gwahoddwyd disgynyddion y rhai a oedd wedi’u henwi yn y Comisiwn gwreiddiol, hyd y medrwyd dod o hyd iddynt. Yr Archdderwydd Gwyndaf a lywyddai. A sôn am gofio, eto: ym 1982, chwe chanrif wedi lladd Llywelyn ein Llyw Olaf ym 1282, cynhaliwyd wrth Gofeb Cilmeri gynulliad gorseddol dan lywyddiaeth yr Archdderwydd Jâms Nicolas.

 

‘Archdderwydd yr Archdderwyddon’

Ym Mhwllheli, ym 1995, fel rhan o wythnos ddathlu canmlwyddiant geni Cynan, cynhaliwyd Gorsedd Goffa iddo – Gorsedd unigryw i wr unigryw, yr oedd ar yr Orsedd y fath ddyled iddo, a’r unig un erioed i wasanaethu’n Archdderwydd ddwywaith. Er y cafwyd gorymdaith ar hyd y Stryd Fawr, i lawr Stryd Penlan (heibio’r ty lle ganed Cynan), ac ymlaen ar hyd y Cob, daeth glaw trwm ar ein gwarthaf cyn inni gyrraedd Cylch y Meini, a bu’n rhaid i’r Archdderwydd John Gwilym lywyddu’r Orsedd Goffa yn Ysgol Glan-y-Môr, sy’n digwydd sefyll ar yr union safle lle cynhaliwyd Eisteddfod Pwllheli ym 1955.

Medrid traddodi darlith gyfan, a mwy, ar Gynan yn unig – fe wnaeth Hywel Teifi hynny yn ystod dathliadau’r wythnos goffáu. Bodlonaf yma ar ddyfynnu un sylw amdano, a geir yng nghyfrol Dillwyn Miles. Mae’n dweud y cyfan, yn wir, sef mai Cynan oedd y ffigwr mwyaf dylanwadol a welodd yr Orsedd yn ei holl hanes, ers pan sefydlwyd hi gan Iolo Morganwg. Fy newis ddisgrifiad i ohono yw ‘Archdderwydd yr Archdderwyddon’.

 

Arwisgiad ’69

Achlysur nodedig arall pan gyfarfu’r Orsedd, neu rai o’i haelodau, oedd yng Nghastell Caernarfon ar gyfer Arwisgiad 1969. Yr oedd mynd yno o gwbl bron a chreu hollt yn ei rhengoedd, ond fe aeth rhai, a ddetholwyd yn ofalus gan yr Orsedd a chan y ‘Sefydliad’, gan gynnwys yr Archdderwydd Bryn a’r cyn-Archdderwydd Cynan, a oedd newydd ei urddo yn Farchog dan yr enw ‘Syr Cynan Evans-Jones’. Cyn pen hanner blwyddyn, yn Ionawr 1970, yr oedd Cynan wedi’n gadael. Bu’r Tywysog Charles draw yn Eisteddfod y Fflint, 1969, a bu yno helynt fawr a rhengoedd o blismyn. Ni thywyllodd ei Uchelder Brenhinol (ys cyferchid ef gan Cynan) unrhyw eisteddfod wedi hynny. Yn wahanol i laweroedd o’i hynafiaid, gan gynnwys ei hen hen daid a’i hen hen nain, ei hen daid a’i hen nain, ei daid a’i nain a’i dad a’i fam, nid yw wedi cael gwahoddiad i ymuno a’r Orsedd. Mae’n deg honni fod hinsawdd Cymru a’r Orsedd wedi newid, ac i’m tyb i, nid yw’n debyg y byddir byth yn estyn gwahoddiad iddo ef nac i neb o’i dylwyth.

 

Anrhydeddau: yr Orsedd a’r Goron

O edrych ar aelodaeth yr Orsedd, fel y mae ac fel y bu, daw un ffaith ryfedd iawn i’r fei. Sef bod nifer o’r prif ysgolheigion Cymraeg yn y gorffennol wedi gweld yn dda i dderbyn anrhydeddau’r Goron, ond heb fod yn aelodau yng Ngorsedd y Beirdd. Meddylier am Syr John Morris-Jones, Syr T.H. Parry-Williams, Syr Thomas Parry, Syr Idris Foster, Syr Ifor Williams, Syr John Rhys a Syr Henry Lewis: a hefyd Syr David Hughes Parry – a fu’n Llywydd Llys yr Eisteddfod – serch mai’r Gyfraith ac nid y Gymraeg oedd ei briod bwnc ef. Yn achos ambell un, a fu’n ymosod ar yr Orsedd, medr dyn ddeall y peth: ond beth am y lleill? Ni fedraf feddwl am neb sy’n dod i’r categori yna yn ein dyddiau ni, ac eithrio Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, efallai.

Medraf ddeall rhywun sy’n fodlon derbyn anrhydedd gan yr Orsedd a’r Goron; mae nifer o’r rheini yn ein rhengoedd ni a’u rhengoedd nhw. A medraf ddeall rhywun a fyddai’n wfftio anrhydedd gan y naill a’r llall fel ei gilydd – megis y diweddar Gwilym R. Jones. Ond ymwrthod â’r Orsedd a derbyn teitl brenhinol? Mewn ymgais i ateb y pos, gofynnais y cwestiwn i’r Dr Geraint Bowen un tro. Bu am rai munudau yn pendroni dros y mater. Ac yna meddai: ‘Dyna i ti beth yw’r gwahaniaeth rhwng ysgolheictod a diwylliant’. Ar y pryd credwn ei fod wedi rhoi ei fys ar ryw ateb tywyll, ond cyfrwys-gynnil i’m cwestiwn, ond yr hiraf y pendronaf drosto, y lleiaf oll y deallaf ei ystyr. Mae’n ddrwg gen i, Geraint.

 

Aberteifi, 1976

Aethpwyd â’r Eisteddfod yno er mwyn dathlu wyth canrif ers yr eisteddfod gyntaf y ceir cofnod ohoni, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi ym 1176.

Eithr fe gofir Prifwyl Aberteifi am reswm gwahanol. Yno yr enillodd Alan Llwyd ei ail ddwbl, sef cipio’r Goron a’r Gadair. Ond gadawyd blas drwg ar wrhydri Alan gan fod Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi’i ddyfarnu’n fuddugol, ac wedi’i fwrw allan o’r gystadleuaeth ar ôl iddo ennill, am dorri un o’r rheolau cystadlu. Yn anffodus, cafodd yr helynt gyhoeddusrwydd mawr – i’m tyb i, dylai awdurdodau’r Eisteddfod fod wedi cadw’r cyfan yn gyfrinachol, a gadael i Alan fwynhau braint a sglein ei gamp gadeiriol a dwbl hyd yr eithaf, yn lle ceisio dadwneud popeth a suro’r cyfan.

Ond pa reol a dorrodd Dic? Dim ond bod ar un o bwyllgorau lleol Prifwyl Aberteifi – pwyllgor nad oedd a wnelo dim oll â chystadleuaeth y Gadair – pan oedd Rheolau’r Eisteddfod yn cyhoeddi’n haearnaidd-bendant na chaniateid hynny. (Ac am roi ei briod enw ‘R. Lewis Jones’ yn lle’r mwy adnabyddus ‘Dic Jones’ yn yr amlen dan sêl. A oedd hynny’n drosedd, atolwg?)

Yr oeddwn yng Nghyngor yr Eisteddfod rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl pan gyhoeddwyd eu bod yn newid y rheol honno (sef gwahardd aelodau pwyllgorau lleol rhag cystadlu yn eu Heisteddfod hwy). Felly – os caf ddychmygu sefyllfa – ni fyddai dim i rwystro beirniad yr Englyn Digri rhag cystadlu am y Rhuban Glas. Ar ôl i’r newid gael ei gario (yn unfrydol), gofynnais gwestiwn fel pwynt o drefn i Gadeirydd y Cyngor. Pan ofynnodd i mi beth oedd fy mhwynt o drefn, gofynnais: ‘Pe bai rheolau Prifwyl 1976 fel y maen nhw’n awr, ar ôl eu newid heddiw, onid Dic Jones a fyddai wedi ennill Cadair Aberteifi’ Cefais yr argraff y bu distawrwydd llethol, a chryn lyncu poer. Yna: ‘Ie’, atebodd y Cadeirydd, yn gwta. Oni fedr mân betheuach amharu ar rediad Hanes, weithiau?

 

Caernarfon, 1979

Rhoddwr Cadair Caernarfon oedd y diweddar Eryl Owen-Jones (Siôn Eryl), cyfreithiwr a chyn-glerc y Cyngor Sir a Llys Chwarter Sir Gaernarfon. Dyfarnodd y beirniaid nad oedd neb yn deilwng ohoni. Oherwydd ei gysylltiadau cyfreithiol, a’r ffaith fod Llys y Goron, Caernarfon – olynydd y cyn-Lys Chwarter – wrthi’n cael ei ailwampio a’i adnewyddu ar y pryd, penderfynodd Siôn Eryl gyflwyno’i Gadair yn rhodd i Adran yr Arglwydd Ganghellor, iddi gael gwasanaethu ym mhrif safle anrhydedd Llys y Goron, yn gadair i’r Barnwr. Dyna a wnaed ar ôl atal Cadair Caergybi ym 1927, pryd y cyflwynwyd hi i Lys Biwmares.

Yn anffodus, yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd oedd Arglwydd Hailsham, gwr a ddrwgdybiai bob arlliw ar Gymreictod. Fe’i cofiwch yn ymweld â Bangor, pryd y galwodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn griw o ‘baboons’. Ni fynnai Hailsham i ddim ‘eisteddfodic’ (ei air ef) halogi Llysoedd Barn ei Mawrhydi. Felly gwrthododd Hailsham y rhodd o Gadair Siôn Eryl mewn modd digon swta a sarhaus o’r Cymry, yr Eisteddfod a Siôn Eryl.

Beth oedd Siôn Eryl i’w wneud â’i gadair? Cyflwynodd hi ar y cyd i Ysgolion Syr Hugh Owen, Caernarfon; Brynrefail, Llanrug; a Dyffryn Nantlle, Penygroes, a pheri cynnal cystadleuaeth lenyddol flynyddol rhwng y tair ysgol. Ar hyn o bryd, yn Ysgol Dyffryn Nantlle y mae’r Gadair. Os caf ryfygu dweud, mae’r fan honno yn llawer rheitiach lle nag iddi fod dan ben ôl ambell dwmpath diddeall o farnwr o Sais fel sy’n dod i Llys y Goron, Caernarfon, weithiau.

 

YR ORSEDD HEDDIW

Pwy, a pha fath rai, sy’n aelodau o’r Orsedd gyfoes? Undebwyr llafur, Gweinidogion yr Efengyl a Gweinidogion y Goron, aelodau o’n Cynulliad Cenedlaethol a Senedd San Steffan, Archesgobion Cymru a Chaergaint, offeiriaid Catholig ac Anglicanaidd, gwyddonwyr a gwyr cyfraith – gan gynnwys barnwyr – seiri coed, seiri maen a Seiri Rhyddion, arglwyddi a thyddynwyr, gwragedd ty a siop, gwragedd fferm a swyddfa, athrawon prifysgol, penseiri, peirianwyr, gwyddonwyr, sêr y cyfryngau, capteiniaid môr, meddygon a llawfeddygon, joci neu ddau, pencampwr snwcer a hwyliwr rownd-y-byd, cricedwr dros ei sir a’r wlad drws nesaf, newyddiadurwyr papur, sain a sgrîn, aelodau o bob plaid a’r di-blaid, a phob lliw, siâp a llun o ysgolheigion a chrancod.

Mae rhai wedi cael yr anrhydedd yn llawer rhy hawdd, ac eraill wedi’i ennill y ffordd galed, trwy arholiad. Tra bo ambell un, a’i haeddodd yn llaes, heb gael dim.

 

‘Cymreictod Gweladwy’

A dyna gipolwg ar Orsedd y Beirdd, fel yr oedd ac fel y mae. Honnwyd mai camp fawr Iolo Morganwg fu creu sefydliad cenedlaethol dengar a fyddai’n diogelu hunaniaeth y Cymry a chof y genedl. Yn sicr ddigon, fe lwyddodd i raddau mwy nag y medrai fod wedi dychmygu, hyd yn oed yn ei ehediadau lledrithiol mwyaf penboeth ac anghymedrol.

Gorfoledd bywyd Iolo a roes fod i’r unig basiant gwir Gymraeg a feddwn fel cenedl. Dyna pam – er gwaethaf ei holl ffaeleddau; ac ni cheisiaf wadu nad oes rhai amlwg – yr wyf yn un o’r rhai sy’n ymfalchïo ym modolaeth Gorsedd y Beirdd, yn ei phasiant a’i hysblander; ie, a hyd yn oed yn ei rhwysg. Dyna pam y bathais ymadrodd dau air a’i ddefnyddio’n deitl i drioleg lledhunangofiannol o’m gwaith a gyhoeddwyd ddechrau’r naw degau: ymadrodd sy’n ceisio cyfleu ei holl hanfod, fel y byddaf i yn synio am yr hanfod unigryw hwnnw. Sef ‘Cymreictod gweladwy’. Boed hynny ar lwyfan neu rhwng meini cerrig – a hyd yn oed, erbyn hyn, rhwng meini symudol o wydr-ffibr.

Dyma gyfuno’r lliwiau yn batrwm i’r llygad, yn wyrdd, glas a gwyn: ac ychwanegu swyddogion mewn porffor ac ysgarlad, a chyn-Archdderwyddon yn eu gogoniant hufen ac aur. At y rheini ychwanegwch ferched bach y Ddawns Flodau; cylch blodeuog yn eu gwalltiau a symudiad llyfn yn eu dawns; Morwyn a Mam urddasol a gosgeiddig i gludo Blodeuged a Chorn Hirlas; pâr o Gyrn Gwlad a thelyn, a dyna ein pasiant ni. Nid i glodfori rhyfel na mawredd na mawrdra, ond i ddyrchafu a gwobrwyo llwyddiant llenyddol, boed gan fardd neu lenor; meistrolaeth ar gerddoriaeth a llefaru gan lais ac offeryn, ac artistiaeth o bob math. Canys mae’n profi ac yn ymffrostio nad gwleidydd na milwr, nad gwladweinydd na brwydrwr, nad diwydiannwr na gwr yr aur, ond y sawl a brofodd ei fod yn feistr ar ei famiaith, yng nghyfoeth diderfyn ei holl agweddau, yw arwr y Cymry.

Ar yr un pryd, y mae’r Orsedd yn ffynhonnell anrhydedd; yn gadernid y traddodiad barddol a llenyddol; yn brifysgol y werin, ac yn gymdeithas lle mae cyfle cyfartal i bawb i gael dyrchafiad iddi ac o’i mewn. At hynny – ac fe fu, ac y mae, mawr, mawr angen am hyn – mae hi’n brif gaer i’r Gymraeg. Ys argreffir – yng ngeiriau englyn cywaith T. Llew Jones ac Alun Cilie – yn ei Rhaglen Gyhoeddi flynyddol:

Nid ei chledd ond ei gweddi – a’i harddwch
A rydd urddas arni;
Mae nodded tu mewn iddi
I’r Gymraeg, rhag ei marw hi.

 

 

O wefan http://www.cymmrodorion.org/

http://www.cymmrodorion.org/pages/publications/beirdd.html