Diwrnod Cymdeithasol yr Orsedd 2018

DIWRNOD  CYMDEITHASOL  YR  ORSEDD

29 MEDI 2018

Yn flynyddol, er 1980, mae yna becyn yn dod trwy’r post i’m cartref o’r Bathdy Brenhinol. Set o ddarnau arian y flwyddyn arbennig honno sydd yn y pecyn, yr hyn mae’r Bathdy yn ei alw’n ‘Set Ddisglair heb ei Chylchredeg’. Bob blwyddyn byddaf yn edrych ar y darnau ac yn addo i mi fy hun ymweliad â’r Bathdy er mwyn cael gweld sut y gwneir arian. Diolch i Orsedd y Beirdd, ac yn fwyaf arbennig i’r Arwyddfardd am drefnu, daeth cyfle ddiwedd mis Medi eleni – y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant oedd canolbwynt Cyfarfod Cymdeithasol yr Orsedd 2018.

Cyfarfod gyntaf yn y ‘Miskin Arms’ ym Meisgyn; adeilad a gafodd ei adnewyddu ’nôl yn 2016 ond sydd wedi llwyddo i gadw nodweddion adeilad cofrestredig Gradd II yn hynod o glyfar ac effeithiol. Perchennog y ‘Miskin Arms’ yw’r cogydd Dudley Newbery, gŵr sy’n adnabyddus ar draws Cymru, a thros y ffin, am sawl rhaglen goginio. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau o ryseitiau, a gwyddom am ei waith clodwiw yn hyrwyddo bwyd a chynnyrch Cymreig. Nid oedd Dudley yno i’n croesawu ond cawsom ginio pleserus o benfras, cyw iâr a golwyth porc, gyda dewis o roliau meringue neu deisen gaws i orffen. Gwledd yn wir!

Troi wedyn am y Bathdy a chael ein harwain gan dywysyddion Cymraeg o amgylch ffatri’r Bathdy ac yna i’r arddangosfa. I mi fel gwyddonydd, amheuthun oedd cael clywed am y modd y try cymysgedd o fetelau amrwd yn ddarn disglair o arian yn fy mhoced, a’r cyfoeth o dermau Cymraeg sy’n bodoli i ddisgrifio gwahanol brosesau’r bathu. Clywsom am hanes y Bathdy, yn mynd ’nôl dros fil o flynyddoedd. Yn wreiddiol, cyfres o siopau o fathwyr arian, wedi eu lleoli yn Llundain, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r darnau arian ond erbyn 1279, canolwyd popeth yn Nhŵr Llundain. I unrhyw un sydd wedi ymweld â’r Tŵr, dyma darddiad yr ardal a elwir yn ‘Mint Street’. Yma y bu’r Bathdy hyd 1810 pan symudwyd y cyfan i bedair erw o dir yn Little Tower Hill gerllaw, ac yma y bu am ryw 150 mlynedd wedyn hyd nes symud i’r safle presennol yn Llantrisant, sy’n gorchuddio arwynebedd o bron 30 erw, ym mis Rhagfyr 1968. Yn ôl yr hanes, i James Callaghan, a oedd yn Ganghellor y Trysorlys ar y pryd, y mae’r diolch mai i Gymru y daeth y Bathdy.            

Cawsom ddilyn buchedd darn o arian! Mae union gyfansoddiad pob darn arian, a gytunir rhwng y Bathdy Brenhinol a’r Trysorlys, yn gyfrinach o’r radd uchaf. Rhaid gwneud popeth i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddynwared a chreu arian ffug. Toddir y metal mewn ffwrneisi sy’n cynhesu i ryw 1450 °C cyn bod yr hylif metelig yn cael ei arllwys allan a’i rolio’n stribyn un-darn mewn coil enfawr. Blingir naill ochr a’r llall o’r stribyn metal i waredu unrhyw amhurdebau; dyma sy’n sicrhau sglein a glendid y metal. Eir ati wedyn i ail-rolio’r metal i sicrhau bod iddo’r trwch cywir, cyn bod peiriant trydyllu yn cynhyrchu disgiau maint darn arian ar gyfradd o ryw 8,000 y funud. Yna, i’r peiriant gosod rhimyn sy’n sicrhau’r ymyl fechan honno sy’n bodoli ar ein darnau arian. Os oes angen electroplatio, dyma pryd y gwneir hynny. Cynhesir y disgiau wedyn i dymheredd o ryw 950 °C i’w paratoi ar gyfer eu bathu, ond cyn hynny, rhaid eu golchi mewn asid i waredu unrhyw frychau sy’n parhau. Defnyddir deiau penodol i greu’r argraff ar flaen a chefn y darn arian – i wneud hynny rhaid wrth wasg sy’n medru creu gwasgedd o 150 tunnell. Cynhyrchir darnau arian ar gyfradd o 750 darn y funud.

Braint fawr i ni Orseddigion oedd cael bathu ein darn £2 ein hunain – peth yn sicr i’w gadw fel cofrodd o’n hymweliad. Clywsom am y trigain a mwy o wledydd y mae’r Bathdy yn gyfrifol am gynhyrchu arian iddynt. Y Bathdy sydd hefyd yn gyfrifol am baratoi medalau – o fedalau’r Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, i fedalau milwrol ac anrhydedd y Deyrnas Unedig. Y Bathdy Brenhinol sy’n creu’r hyn a elwir yn ‘Sêl Fawr y Deyrnas’, y sêl honno a ddefnyddir i gadarnhau ac awdurdodi’r deddfau a gytunir yn San Steffan, ac erbyn hyn yn senedd-dai datganoledig gwledydd y Deyrnas Unedig.           

Ar ôl cael ein tywys o amgylch y ffatri, braf oedd cael cyfle i arsylwi a myfyrio ychydig yn fwy hamddenol yn yr arddangosfa. Efallai mai un gwendid o’r arddangosfa yw nad oes nemor dim sylw yn cael ei roi i fathu arian yn ein gwledydd cyn cyfnod dechreuadau’r Bathdy. Gwyddom fod yna arian yn cael ei fathu gan ein cyndeidiau Celtaidd o leiaf ganrif cyn geni Crist; yn wir cofrestrir dros 45,000 o ddarnau arian Celtaidd sydd wedi eu darganfod yng ngwledydd Prydain yn y Gofrestr Arian Geltaidd yn Rhydychen. Er nodi hyn, mae’r arddangosfa yn hynod addysgiadol a diddorol. Mae ynddi drysorau dirifedi: o geiniog Alfred Fawr yn dyddio o tua 880 O.C. i sofran aur Harri’r VIII y dywedir ei fod yn un o’r darnau arian mwyaf enwog a welodd y byd erioed; ac o fedalau Waterloo 1815, gyda phob un o’r 39,000 medal a fathwyd yn cario enw’r milwr penodol a oedd yn ei derbyn (y tro cyntaf i hyn gael ei wneud erioed), i’r ‘arian na fodolodd’, sef yr arian a baratowyd ar gyfer teyrnasiad Edward VIII ond na chylchredwyd oherwydd ymddiorseddiad y brenin cyn ei goroni. Clywsom hefyd am geiniog 1933 – y prinnaf o’r prin! Ym 1933, roedd cymaint o geiniogau yn cylchredeg fel nad oedd angen bathu mwy. Credir mai dim ond rhyw hanner dwsin a fathwyd. Yn ôl yr hanes, defnyddiwyd tair i’w claddu, fel oedd yn draddodiadol, o dan gerrig sylfaen tri adeilad; mae un yng nghasgliad y Bathdy Brenhinol, un arall yn yr Amgueddfa Brydeinig a’r llall … pwy a ŵyr!

Gallwn ysgrifennu llawer mwy am ein hymweliad. Sicrhaodd y gymysgedd o gymdeithas glòs fy nghyd-Orseddigion, y cinio tra blasus a’r wefr o ddod i ddeall yr hyn sydd tu ôl i’r darnau arian yn ein pocedi brynhawn arbennig ac unigryw iawn. Mawr ein diolch am yr holl drefnu. Gydag ymddiheuriadau am aralleirio T. Gwynn Jones yn ei gerdd ‘Penmon’, heb os nac oni bai, ‘Rhyw Sadwrn uwch na Sadyrnau oedd’.                     

Hefin Jones (Hefin Pencader)