Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
2006 Abertawe
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
DATHLU
|
Cynhaliwyd cyfarfod o’r Orsedd ar y Maen Chwŷf ym Mhontypridd am y tro cyntaf yn 1814. Dros yr ugain mlynedd nesaf trefnwyd nifer o ddigwyddiadau tebyg gan Thomas Williams (Gwilym Morgannwg). Bu’n gweithio fel saer maen a daeth yn dafarnwr y New Inn ym Mhontypridd. Cyfansoddodd farddoniaeth a chaenuon ac ef oedd un o’r wyth bardd a dderbyniwyd i orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1819.
Ar ôl marwolaeth Gwilym Morgannwg parhaodd Gorsedd y maen Chwŷf i gwrdd o dan ofalaeth Taliesin mab Iolo Morganwg hyd ei farwolaeth yn 1847. Fe’i hailgychwynwyd gan Myfyr Morgannwg (Evan Davies) yn 1850 gydag ef yn Archdderwydd. Ef a gododd y cylch o gerrig a sarff ar y Maen Chwŷf a dau o aelodau newydd yr orsedd hwnnw oedd Evan a James James.
Yr Orsedd yn Nathliad Gŵyl yr Anthem ym Mhontypridd
Y plant yn y dathlu
Am 3 o’r gloch ar yr l6eg o Fedi 1995 cynhaliwyd gorsedd arbennig gan Feirdd Ynys Prydain ar Fryn Owain (Stalling Down) ger y Bontfaen i ddathlu cynnal yr orsedd gyntaf a gynhaliwyd gan Iolo Morganwg ar dir Cymru.
Fe’i cynhaliwyd yn y flwyddyn 1795 wedi iddo ddychwelyd o Lundain lle y bu yn dilyn ei yrfa fel saer maen a chyda nifer o aelodau o Gymdeithas y Gweinidogion yn cyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg, yn sefydlu Beirdd Ynys Prydain ac yn cynnal gorseddau. Wedi iddo ddychwelyd aeth ati ar unwaith i drefnu gorseddau ym Mro Morgannwg, y gyntaf ar Fryn Owain, calon yr hen Fro. Yn ei sgrôl yn cyhoeddi’r orsedd mae’n rhoi enwau nifer o feirdd lleol, megis Iorweth Glan Dawon, Gwilym Glyn Taf, a Gwilym Glynogwr, beirdd na, wyddom fawr amdanynt. Ond mae’n rhoi un enw digon adnabyddus, sef Tomos Glyn Cothi, brodor o sir Gaerfyrddin a arferai ddod i’r Fro i werthu brethyn gwlân ac a fu wedyn yn weinidog gyda’r Undodiaid.
Pwrpas y gorseddau oedd urddo’r rhai a ymddiddorai yn yr hen gelfyddyd o farddoni yn aelodau o’r gymdeithas farddol newydd, sef Beirdd Ynys Prydain. Yn ei orseddau arferai Iolo draethu’n hir ar y grefft o farddoni ac fe adroddai’r beirdd eu cerddi. Nid oedd na chanu emynau nag adrodd gweddi’r orsedd yn y dyddiau cynnar hyn. Roedd defod y cledd yn bwysig gan fod Iolo yn pwysleisio mai brawdoliaeth a garai, heddwch oedd ei gymdeithas farddol newydd. Nid oedd unrhyw urddwisgoedd fel sydd heddiw, a chylch digon tila o fân gerrig oedd y man cyfarfod. Ni fyddai Iolo yn rhoi gormod o gyhoeddusrwydd i’w orseddau am fod yr awdurdodau yn amau pob rhyw gymdeithas ddirgel a fyddai’n cyfarfod yn ystod y chwyldro yn Ffrainc. Ond cyfarfod agored i’r cyhoedd oedd yr orsedd ym Medi i ddathlu’r daucanmlwyddiant.
Yr Archdderwydd John Gwilym
Cadwyd mor agos ag y gellir at y math o orsedd a gynhaliwyd gan Iolo. Llywyddwyd gan yr Archdderwydd John Gwilym ac anerchwyd ar hanes y gorseddau cynnar gan orseddogion a chan ŵyr gwadd. Cafwyd hanes y fro gan Dr Stephen Roberts, un o ddisgynyddion Iolo Morganwg, unawd ar y delyn gan Meinir Heulyn, hanes gorsedd Bryn Owain gan y cyn-Archdderwydd Geraint a Chân Cywydd y Dathlu.
Roedd llawer o drigolion y Fro wedi ymuno â’r gorseddogion yn y dathlu arbennig yma i ddangos ein gwerthfawrogiad o wasanaeth y gweledydd, Iolo Morganwg, a’i gymdeithas farddol i’n hiaith a’n diwylliant.
Geraint Bowen.