Bryn Briallu 2009

COFEB BRYN BRIALLU 2009 

 

cofeb bryn briallu iolo

Dydd Sadwrn, 20 Mehefin 2009 dadorchuddiwyd cofeb i gofio cynnal yr Orsedd gyntaf gan Iolo Morganwg ar Fryn Briallu, Llundain, 21 Mehefin, 1792.

 

cofeb bryn briallu

 

Cafwyd caniatad arbennig gan awdurdodau’r Parciau Brenhinol i osod y gofeb ar ben Bryn Briallu.
Yn ôl yr Athro Prys Morgan, dyma ddechreuad y Gymru fodern. Ein braint ni yw cael cydnabod cyfraniad mawr Iolo i’n cenedl.
Cynlluniwyd y gofeb hardd gan John Meirion Morris ac Ieuan Rees, gan ddefnyddio ‘Carreg Môn’, un o ffefrynnau Iolo.

Dathlu Hen Wlad Fy Nhadau 2006

DATHLU
HEN WLAD FY NHADAU 1856 – 2006

Pontypridd 12 06 2006
Ar ddydd Llun 12 Mehefin 2006 aeth dirprwyaeth o’r Orsedd i Bontypridd i ddathliadau cyfansoddi ein Hanthem Genedlaethol gan Evan a James James yn 1865. Cyfarchwyd plant y fro mewn cyngerdd ym Mharc Ynysanghard ac yna yng ngwyneb haul canol dydd cyfarchwyd hanes y fro o’r Maen Chwŷf (Garreg Siglo) yng Nghylch yr Orsedd ar y Comin ym Mhontypridd.

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Orsedd ar y Maen Chwŷf ym Mhontypridd am y tro cyntaf yn 1814. Dros yr ugain mlynedd nesaf trefnwyd nifer o ddigwyddiadau tebyg gan Thomas Williams (Gwilym Morgannwg). Bu’n gweithio fel saer maen a daeth yn dafarnwr y New Inn ym Mhontypridd. Cyfansoddodd farddoniaeth a chaenuon ac ef oedd un o’r wyth bardd a dderbyniwyd i orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1819.

Ar ôl marwolaeth Gwilym Morgannwg parhaodd Gorsedd y maen Chwŷf i gwrdd o dan ofalaeth Taliesin mab Iolo Morganwg hyd ei farwolaeth yn 1847. Fe’i hailgychwynwyd gan Myfyr Morgannwg (Evan Davies) yn 1850 gydag ef yn Archdderwydd. Ef a gododd y cylch o gerrig a sarff ar y Maen Chwŷf a dau o aelodau newydd yr orsedd hwnnw oedd Evan a James James.

pontypridd b120606

pontypridd 5 120606

pontypridd 3 120606
Yr Orsedd yn Nathliad Gŵyl yr Anthem ym Mhontypridd

pontypridd 4 120606
Y plant yn y dathlu

 

 

Bryn Owain 1995

DATHLU
DAU GANMLWYDDIANT GORSEDD BRYN OWAIN 1795

bryn owain 1995

Am 3 o’r gloch ar yr l6eg o Fedi 1995 cynhaliwyd gorsedd arbennig gan Feirdd Ynys Prydain ar Fryn Owain (Stalling Down) ger y Bontfaen i ddathlu cynnal yr orsedd gyntaf a gynhaliwyd gan Iolo Morganwg ar dir Cymru.

Fe’i cynhaliwyd yn y flwyddyn 1795 wedi iddo ddychwelyd o Lundain lle y bu yn dilyn ei yrfa fel saer maen a chyda nifer o aelodau o Gymdeithas y Gweinidogion yn cyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg, yn sefydlu Beirdd Ynys Prydain ac yn cynnal gorseddau. Wedi iddo ddychwelyd aeth ati ar unwaith i drefnu gorseddau ym Mro Morgannwg, y gyntaf ar Fryn Owain, calon yr hen Fro. Yn ei sgrôl yn cyhoeddi’r orsedd mae’n rhoi enwau nifer o feirdd lleol, megis Iorweth Glan Dawon, Gwilym Glyn Taf, a Gwilym Glynogwr, beirdd na, wyddom fawr amdanynt. Ond mae’n rhoi un enw digon adnabyddus, sef Tomos Glyn Cothi, brodor o sir Gaerfyrddin a arferai ddod i’r Fro i werthu brethyn gwlân ac a fu wedyn yn weinidog gyda’r Undodiaid.

Pwrpas y gorseddau oedd urddo’r rhai a ymddiddorai yn yr hen gelfyddyd o farddoni yn aelodau o’r gymdeithas farddol newydd, sef Beirdd Ynys Prydain. Yn ei orseddau arferai Iolo draethu’n hir ar y grefft o farddoni ac fe adroddai’r beirdd eu cerddi. Nid oedd na chanu emynau nag adrodd gweddi’r orsedd yn y dyddiau cynnar hyn. Roedd defod y cledd yn bwysig gan fod Iolo yn pwysleisio mai brawdoliaeth a garai, heddwch oedd ei gymdeithas farddol newydd. Nid oedd unrhyw urddwisgoedd fel sydd heddiw, a chylch digon tila o fân gerrig oedd y man cyfarfod. Ni fyddai Iolo yn rhoi gormod o gyhoeddusrwydd i’w orseddau am fod yr awdurdodau yn amau pob rhyw gymdeithas ddirgel a fyddai’n cyfarfod yn ystod y chwyldro yn Ffrainc. Ond cyfarfod agored i’r cyhoedd oedd yr orsedd ym Medi i ddathlu’r daucanmlwyddiant.

bryn owain 1995c brynowain95d
Yr Archdderwydd John Gwilym
Dr Stephen Roberts

Cadwyd mor agos ag y gellir at y math o orsedd a gynhaliwyd gan Iolo. Llywyddwyd gan yr Archdderwydd John Gwilym ac anerchwyd ar hanes y gorseddau cynnar gan orseddogion a chan ŵyr gwadd. Cafwyd hanes y fro gan Dr Stephen Roberts, un o ddisgynyddion Iolo Morganwg, unawd ar y delyn gan Meinir Heulyn, hanes gorsedd Bryn Owain gan y cyn-Archdderwydd Geraint a Chân Cywydd y Dathlu.

Roedd llawer o drigolion y Fro wedi ymuno â’r gorseddogion yn y dathlu arbennig yma i ddangos ein gwerthfawrogiad o wasanaeth y gweledydd, Iolo Morganwg, a’i gymdeithas farddol i’n hiaith a’n diwylliant.
Geraint Bowen.

brynowain 1995b

brynowain 1995e

Datganiad Iolo 1795

Gorsedd Iolo Medi 1995