Cyhoeddi Urddau’r Orsedd Eisteddfod y Garreg Las
Gorsedd Cymru – 7 Mai 2026
Cyhoeddwyd enwau’r rheini fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd, fore Llun 3 Awst a bore Gwener 7 Awst.
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd. Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.
Anrhydeddau 2026: Y Wisg Werdd
Manylion y rheini sy’n derbyn y Wisg Werdd yn 2026
Eifion Daniels
Mae Eifion Daniels, Blaen-ffos, wedi rhoi “dou gant y cant” mewn nifer o feysydd dros y blynyddoedd: er enghraifft, fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Gadeiriol Crymych, fel cyn-gapten tîm Talwrn y Beca, fel awdur sioeau Aelwyd yr Urdd, ac fel sgriptiwr a chyd-gynhyrchydd gyda Chwmni Theatr Bro’r Preseli. Tra’n Brif Swyddog Gweinyddol Ysgol y Preseli, gwnaeth gyfraniadau allgyrsiol sylweddol, yn bennaf ym meysydd y Gymraeg a Chwaraeon. Pleser yw ei anrhydeddu eleni.
Ann Siriol Davies
Brodor o ardal Llantwd – cartref yr Eisteddfod eleni – yw Ann Siriol Davies, sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i addysg a bywyd diwylliannol Cymraeg gogledd Sir Benfro. Fel athrawes gynradd a dirprwy bennaeth, ysgrifennodd gyfres Wili Sam (llyfrau i blant blynyddoedd cynnar) a bu hefyd yn allweddol mewn cydweithio clwstwr ysgolion. Yn Eisteddfodwr brwd ers ei hieuenctid, mae wedi rhagori fel cystadleuydd, hyfforddwraig, beirniad ac ysgrifennydd pwyllgorau lleol a chenedlaethol. Trwy waith diwyd gyda’r capel, Merched y Wawr, corau a mudiadau gwirfoddol, mae wedi trosglwyddo cariad at lefaru, cerddoriaeth a’r Gymraeg i genedlaethau newydd.
Catrin Davies
Magwyd Catrin Davies, Boncath, ym Mlaen-ffos ac mae wedi gwneud cyfraniad helaeth i addysg a bywyd cerddorol gogledd Sir Benfro. Yn athrawes gynradd ac uwch-arweinydd, bu’n meithrin Cymreictod a dawn gerddorol cenedlaethau o blant drwy’r Eisteddfod a’r Urdd. Fel cantores werin a cherdd-dant, mae wedi rhyddhau pedair CD, gan gynnwys yr albwm hwiangerddi, Dau Gi Bach. Trefnodd berfformiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol fel arweinydd Aelwyd Crymych. Trwy ei gwaith gwirfoddol helaeth gyda chôr, capel a gŵyl y fro, mae’n ganolog i fwrlwm diwylliannol ei hardal.
Emyr Davies
Mae’r llinell ‘Gwlad beirdd a chantorion’ fel petai wedi ei llunio’n arbennig ar gyfer Emyr Davies, Aber-porth. Yn gynganeddwr disglair, fei’i cyfrifir yn un o feirdd gorau ei genhedlaeth yng Nghymru. Mae wedi bod yn aelod o o sawl tîm Talwrn dros y blynyddoedd. Ef a wahoddwyd i lunio Cywydd Croeso Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a bu’n un o feirniaid y Gadair yn yr eisteddfod honno. Ef yw cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod y Garreg Las. Emyr hefyd yw arweinydd côr Ar ôl Tri, côr sydd wedi mwynhau llwyddiant cenedlaethol ar fwy nag un achlysur.
Malachy Owain Edwards
Cyhoeddodd Malachy Owain Edwards, Llanfairpwll, ei gyfrol gyntaf, Y Delyn Aur (2023), gyda Gwasg y Bwthyn, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024. Mae’n ysgrifennu colofn wythnosol yn Golwg, a chyhoeddwyd ei ail gyfrol, Paradwys Goll, yn 2025. Mae’r ddwy gyfrol yn gofiannau personol sy’n archwilio hunaniaeth Cymro Du aml-hil ac amlddiwylliannol. Fel un o brif leisiau’r gymuned Gymraeg Ddu, mae’n dylanwadu’n sylweddol ar newid canfyddiadau o’r Cymry Cymraeg ac yn ysbrydoliaeth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob cefndir.
Carys-Hedd
Mae Carys-Hedd yn ffigwr canolog ym mywyd diwylliannol Llandudoch ac ardal Aberteifi, gan ddod â phawb at ei gilydd drwy’r iaith a thraddodiadau Cymru. Drwy drefnu gigs bandiau Cymraeg, gweithdai canu gwerin, ac atgyfodi’r Fari Lwyd fel digwyddiad blynyddol, mae wedi cryfhau’r gymuned a diwylliant lleol. Trwy ei siop a’i phrosiectau creadigol fel Esgyn, mae’n defnyddio’i sgiliau gwnïo a gwirfoddoli i alluogi cymunedau i berchnogi ac ail-ddychmygu diwylliant Cymru mewn ffyrdd bywiog a chynhwysol.
Jo Heyde
Mae Jo Heyde, Llundain, wedi dysgu Cymraeg ers 2018 ac wedi cyrraedd brig barddoniaeth Gymraeg. A hithau bellach yn rhannu ei hamser rhwng Dinbych-y-pysgod a swydd Hertford, mae wedi ennill sawl cadair leol, yn aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon, ac wedi cyhoeddi cerddi, pamffled a chyfrol o farddoniaeth. Mae hefyd yn ymddiriedolwr Y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn cydlynu ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, ac wedi golygu blodeugerdd. Mae ei hymroddiad yn deillio’n llwyr o gariad at y Gymraeg, gan ysbrydoli siaradwyr newydd a hyderus fel ei gilydd.
Jane James
Anrhydeddir Jane James am ei chyfraniad eithriadol a pharhaus i fywyd diwylliannol, cerddorol a chymunedol Sir Benfro. Yn frodor o Dyddewi, mae wedi ymroi i hybu’r Gymraeg fel athrawes, arweinydd corau a chymanfaoedd, ac fel ysgrifennydd lleol yr Urdd ers 1971. Trwy gyngherddau dwyieithog, gweithgarwch eisteddfodol ac ymrwymiad cryf i elusennau lleol, mae ei gwaith wedi cryfhau Cymreictod, dwyieithrwydd a lles y sir gyfan.
Wendy Lewis
Yn wreiddiol o Flaen-ffos, bu Wendy Lewis, Boncath, yn athrawes gynradd ac yn gyn-bennaeth Ysgol Gynradd Blaen-ffos. Bu’n addysgu yn yr ardal am flynyddoedd lawer cyn ymddeol. Yn gerddor a chyfeilydd medrus, mae wedi rhoi dros hanner canrif o wasanaeth fel organydd, athrawes biano a chyfeilydd i gorau a mudiadau lleol, gan gynnwys y Cylch a Chymanfa Ganu Gogledd Penfro. Mae’n ddiacon gweithgar ac yn gyfrannwr diflino i’w chapel, ei chymuned a diwylliant Cymreig ardal y Preseli.
Elin Meek
Mae Elin Meek, Abertawe, yn awdur, cyfieithydd ac addasydd toreithiog sydd wedi gosod y Gymraeg wrth wraidd ei bywyd a’i gwaith. Gyda thros 200 o gyfrolau gwreiddiol ac addasiadau, mae wedi meithrin cariad at ddarllen Cymraeg ymhlith plant, dysgwyr a theuluoedd di-Gymraeg, gan ddefnyddio testunau cyfarwydd â blas Cymreig arnynt. Gwnaeth gyfraniad cenedlaethol sylweddol i safonau iaith drwy fframweithiau ac arholiadau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn lleol, mae’n wirfoddolwr ymroddedig ac yn mwynhau cynganeddu, gan gryfhau llenyddiaeth a bywyd diwylliannol Cymru.
Bethan Miles
Mae Bethan Miles, Aberystwyth, yn gerddor, cerddolegydd ac ymgyrchydd a wnaeth gyfraniad eithriadol i ddiwylliant Cymraeg a chyfiawnder cymdeithasol. Yn arbenigwr ar y crwth a cherddoriaeth cyfnod y Tuduriaid, mae ei gwaith academaidd a pherfformio wedi ysbrydoli cenedlaethau. Trwy Blas Hendre, bu’n noddwr hael i fywyd diwylliannol Aberystwyth, gan greu canolfan groesawgar ar gyfer creadigrwydd a thrafodaeth. Yn wirfoddol, mae wedi arwain ymgyrchoedd dros heddwch, hawliau dynol a gwrth-hiliaeth, gan ddefnyddio diwylliant fel grym i uno pobl.
Keri Graham Morgan
Daw Keri Morgan o Gwm Gwendraeth ac mae wedi ei ymgartrefu yng Nghwm Aman ers blynyddoedd, gan wneud cyfraniad eithriadol i’w gymuned a diwylliant Cymru. Yn gyn-brifathro, cyd-berchennog Siop y Cennen am gyfnod, ac aelod blaenllaw o’r byd gwerin, mae’n gerddor, bardd a pherfformiwr brwd gyda’r grŵp Jac y Do a sawl menter ddiwylliannol arall. Trwy wirfoddoli, cyfansoddi, perfformio ac arwain, mae’n gweithredu’n ddiwyd i drosglwyddo’r Gymraeg, ei llên a’i thraddodiadau gwerin i’r genhedlaeth nesaf.
Meinir Jones Parry
Ganwyd Meinir Jones Parry, Caerfyrddin, yn Aberteifi, a’i gwreiddiau’n ddwfn ym mro’r Garreg Las. Am dros dri degawd mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd cerddorol Cymru fel cyfeilydd, beirniad ac addysgwr. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ei harddegau gyda Chantorion Teifi, ac ers hynny bu’n cydweithio â phrif gorau ac unawdwyr Cymru. Yn raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bu’n bennaeth cerddoriaeth, tiwtor prifysgol, arholwr, a beirniad eisteddfodol yng Nghymru a thramor. Mae hefyd wedi cefnogi mudiadau ac achosion da yng ngorllewin Cymru drwy gynnig ei gwasanaeth fel cyfeilydd yn rhad ac am ddim.
Rhiannon Pritchard
Mae Rhiannon Pritchard, Caerdydd, yn gyfeilydd a hyfforddwr llais uchel ei pharch yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfeilydd swyddogol i brif eisteddfodau Cymru am dros ddegawd. Mae wedi gweithio gyda chantorion byd-enwog, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac fel tiwtor piano preifat. Mae ganddi rôl allweddol gyda nifer o gorau, ac mae’n gweithio’n helaeth fel répétiteur ac animateur gyda chwmnïau a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan berfformio ledled y DU a thu hwnt.
Eleri Roberts
Mae Eleri Roberts, merch fferm o Henllan Amgoed, wedi gwneud cyfraniad hirhoedlog ac amhrisiadwy i ddiwylliant cerddorol a chymunedol Cymru, yn arbennig ym maes cerdd dant. Yn raddedig yn y Gymraeg, bu’n gweithio i sefydliadau cenedlaethol allweddol gan wasanaethu’r maes llyfrau a diwylliant Cymraeg hyd at 2024. Fel gosodydd, hyfforddwraig ac arweinydd corau, mae wedi meithrin cenedlaethau o gantorion, gan sicrhau trosglwyddo’r traddodiad cerdd dant. Trwy waith gwirfoddol helaeth, hyfforddiant ac arweinyddiaeth, bu’n warchodwraig ddiwyd i’r iaith a threftadaeth gerddorol Cymru.
Aleighcia Scott
Mae Aleighcia Scott, Caerdydd, wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru fel cantores reggae Gymreig-Jamaicanaidd, cyflwynydd ac eiriolwr diwylliannol. Trwy ei halbwm Windrush Baby a’i senglau Cymraeg arloesol, gan gynnwys y gân reggae Gymraeg gyntaf i gyrraedd rhif 1 ar iTunes, mae wedi pontio rhwng Cymru a’r Caribî a normaleiddio’r Gymraeg mewn cerddoriaeth ryngwladol. Drwy ei gwaith darlledu, mentora a chefnogaeth i ddysgwyr – yn arbennig fel un o gyflwynwyr y gyfres deledu boblogaidd Y Llais – mae’n ysbrydoli cynulleidfaoedd ac yn hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.
Ryland Teifi
Mae Ryland Teifi, Ffostrasol ac Iwerddon, yn artist dawnus sydd wedi rhagori ym myd cerddoriaeth, drama a theledu Cymraeg fel canwr, actor a chyflwynydd. Yn gyfansoddwr caneuon gwreiddiol ac yn feistr ar sawl offeryn, bu’n perfformio’n lleol ac yn rhyngwladol, gan weithredu fel llysgennad dros gerddoriaeth werin Gymraeg ers mudo i Iwerddon. Yn gyn-enillydd Cân i Gymru a BAFTA Cymru, mae wedi cyfrannu’n ddiwyd at wyliau, elusennau a theatr Gymraeg, ac mae’n parhau i greu a pherfformio yn Gymraeg gyda balchder.
Eleri Twynog
Mae Eleri Twynog, Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan, wedi gwneud cyfraniad nodedig i ddiwylliant Cymru drwy ddod â hanes Cymru yn fyw i blant a phobl ifanc. Trwy sefydlu’r cwmni Mewn Cymeriad yn 2014, creodd sioeau addysgol o safon sy’n portreadu ffigurau allweddol yn ein hanes, gan lenwi bwlch amlwg yn adnoddau ysgolion. Mae ei gwaith creadigol, gan gynnwys Gŵyl Hanes Cymru, wedi gwneud hanes yn hygyrch ac yn ysbrydoledig, gyda galw cynyddol am ei gwaith y tu hwnt i faes addysg. Mae ei gweledigaeth ddiwylliannol yn wasanaeth parhaol i’r genedl a’r iaith Gymraeg.
Gillian Elisa Thomas
Mae Gillian Elisa, Llanbedr Pont Steffan, yn actor, cantores a digrifwr profiadol sydd wedi cyfrannu’n helaeth at fyd adloniant yng Nghymru am dros hanner can mlynedd. Dechreuodd berfformio pan oedd yn yr ysgol, cyn mynd ymalen i hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Bydd llawer yn cofio Gillian Elisa yn chwarae rhan Sabrina, yn un o gast gwreiddiol Pobol y Cwm, ochr-yn-ochr â rhai o’r mawrion fel Rachel Thomas, Harriet Lewis a Charles Williams. Mae hi’n dal i berfformio’n gyson hyd heddiw ar lwyfannau a sgriniau Cymru a Lloegr. Hi oedd mentor Ruth Jones yn y rhaglen deledu Cariad at Iaith.
Eiri Thrasher
O deithio’n eang cyn ymgartrefu yng Ngheredigion, mae angerdd Eiri Thrasher, Llandysul, dros y Gymraeg yn heintus. Ers symud i’r fro ugain mlynedd yn ôl, mae wedi ymroi i ddysgu ac ysbrydoli eraill, gan gyd-sefydlu grŵp dysgwyr CYD sy’n ffynnu’n gymdeithasol, yn ieithyddol ac yn greadigol. Trwy drafod, ysgrifennu, canu, gemau a chymdeithasu, mae’n meithrin hyder a chariad at y Gymraeg ymhlith dysgwyr o bob oed, gan gyfrannu’n sylweddol at gryfhau’r iaith a’r diwylliant.
Jane Watts
Yn hanu’n wreiddiol o Landudoch, mae Jane Watts yn organydd o fri rhyngwladol sydd wedi perfformio ledled y byd. Hi oedd y Gymraes gyntaf i roi datganiad organ yn y Royal Festival Hall ac i ennill gwobr Perfformiwr y Flwyddyn Coleg Brenhinol yr Organyddion yn 1986. Yn 1991 daeth yn organydd a chyfeilydd y Bach Choir o dan Syr David Willcocks, y fenyw gyntaf i ddal y swydd. Mae’n dychwelyd i Gymru’n rheolaidd, yn cyfrannu at yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi recordio’n helaeth ac ymddangos droeon yn y Proms.
Efan Miles Williams
Mae Efan Williams, Lledrod, yn ffigwr blaenllaw ym mywyd diwylliannol ei ardal, gan gyfuno ei rôl fel pennaeth ysgol ag arweinyddiaeth angerddol yn y gymuned. Mae’n gyfrannwr amlwg i gerddoriaeth werin a chorawl, eisteddfodau lleol a chenedlaethol, y papur bro, y capel a’r cyngor cymunedol. Trwy fenter, creadigrwydd ac ymrwymiad tawel, mae’n cysylltu’r ysgol a’r gymuned, gan wneud iaith, hanes a thraddodiadau Cymru yn fyw ac yn berthnasol i bawb.
Anrhydeddau 2026: Y Wisg Las
Manylion y rheini sy’n cael eu hurddo gyda’r Wisg Las yn 2026
John Adams-Lewis
Mae John Adams-Lewis, Aberteifi, wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd Cymreig yr ardal ers degawdau. Fel athro, cynghorydd, Maer ac aelod blaenllaw o Gyngor Ceredigion, bu’n ddiysgog yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn llywodraeth leol a bywyd dinesig. Mae ei arweinyddiaeth mewn mudiadau diwylliannol, crefyddol ac addysgol, ei gyfraniad i wyliau a gefeillio rhyngwladol, a’i wasanaeth gwirfoddol dyngarol wedi cryfhau statws yr iaith a chysylltiadau cymunedol yn lleol ac ymhellach. Mae’n parhau’n llais cadarn dros y Gymraeg a’i siaradwyr.
Joe Allen
Mae Joe Allen, Arberth, cyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli, wedi cael gyrfa bêl-droed eithriadol, gan chwarae’n broffesiynol o 16 oed, ennill Cwpan UEFA ddwywaith, capteinio ei glybiau a chynrychioli Cymru 77 gwaith, gan fod yn rhan o dîm hanesyddol Cwpan y Byd. Y tu hwnt i’r cae, mae’n llysgennad angerddol dros y Gymraeg, gan ei defnyddio’n gyson mewn cyfweliadau rhyngwladol, yn ymweld ag ysgolion, ac yn hyrwyddo’r iaith fel peth cyfoes a pherthnasol i bobl ifanc.
Heledd Cynwal
Mae Heledd Cynwal, Llandeilo, yn ddarlledwr a chyflwynydd blaenllaw sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant Cymru drwy’r cyfryngau. Mewn gyrfa eang ar Radio Cymru a thu hwnt, mae wedi cyflwyno rhaglenni plant, adloniant, hanes a phrif ddigwyddiadau cenedlaethol â graen, cynhesrwydd a phroffesiynoldeb. Mae ei dawn holi a’i dealltwriaeth ddofn o Gymru a’i phobl yn ennyn ymddiriedaeth cynulleidfaoedd amrywiol. Y tu hwnt i’w gwaith darlledu, mae’n gyfrannwr gweithgar yn y gymuned ac yn llysgennad pwerus dros y Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.
Nia Wyn Davies
Mae Nia Wyn Davies, Dre-fach, Llanybydder, yn gymwynaswraig eithriadol sy’n ganolog i fywyd diwylliannol a chymdeithasol ei hardal ers degawdau. Mae wedi cyfrannu’n ddiflino, yn wirfoddol ac yn dawel, i ystod eang o fudiadau Cymraeg gan gynnwys Papur Bro Clonc, Clonc360, eisteddfodau lleol a chenedlaethol, y Ffermwyr Ifanc a chorau. Mae wedi cyfrannu’n wirfoddol yn barhaus ers ei hieuenctid, gan gefnogi a chynnal diwylliant cymunedol Cymru.
Aled Eurig
Mae Aled Eirug, Caerdydd, wedi rhoi degawdau o wasanaeth i Gymru a’r Gymraeg ym meysydd newyddiaduraeth, darlledu, academia a bywyd cyhoeddus. Yn gyn-bennaeth Newyddion BBC Cymru, bu’n arwain darllediadau etholiadol, yn llunio polisi iaith leiafrifol ac yn cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae wedi cadeirio sawl corff cyhoeddus a gwirfoddol, arwain ymchwil i heddychiaeth, cyhoeddi gwaith dylanwadol, ac mae’n eiriolwr cyson dros heddwch, dwyieithrwydd a bywyd diwylliannol Cymru.
Wyn Evans
Wedi’i eni a’i fagu yng Nghwmfelin Mynach, mae Wyn Evans wedi rhoi oes o wasanaeth di-dor i’w fro. Am 21 mlynedd bu’n cysodi a golygu Y Cardi Bach ar y cyd â’i wraig, Meirwen, gan ddangos ymrwymiad dwfn i’r Gymraeg a bywyd cymunedol. Bu’n drysorydd a diacon Capel Ramoth ers hanner canrif, yn llywodraethwr Ysgol Bro Brynach, yn gynghorydd cymuned ac yn weithgar mewn pwyllgorau eisteddfodau lleol. Trwy wasanaeth tawel a diymhongar, mae wedi cryfhau gwead cymdeithasol a diwylliannol ei ardal.
Meirwen Evans
Mae Meirwen Evans, Cwmfelin Mynach, wedi rhoi gwasanaeth diflino i’w chymuned dros fwy na hanner canrif. Am 21 mlynedd bu’n cyd-gysodi a golygu papur bro Y Cardi Bach gyda’i gŵr, Wyn, gan gynnal llais a hunaniaeth y fro. Mae wedi gwasanaethu’n ffyddlon Ferched y Wawr, y capel lleol, y cyngor cymuned a chôr Corlan, ac wedi codi arian yn barhaus i eisteddfodau lleol. Mae ei chyfraniad tawel, cyson a gwirfoddol wedi bod yn allweddol i gynnal diwylliant a bywyd cymunedol ei bro.
Neville Evans
Mae Neville Evans, Ffos-y-ffin, wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i fywyd diwylliannol a chymunedol Cymru dros ddegawdau, a’i ymrwymiad i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolog i’w waith. Bu’n wirfoddolwr ac yn aelod staff mewn amryw rolau, gan gynnwys arwain ar foderneiddio system docynnau yr Eisteddfod yn 1995. Y tu hwnt i hyn, mae’n wirfoddolwr diflino yn y GIG ac yn gyfrannwr gweithgar a gwerthfawr i Theatr Felin-fach, capeli a bywyd lleol, gan ddangos ymroddiad diwyro i wasanaeth cyhoeddus a Chymreictod.
Jaci Gruffudd
Mae Jaci Gruffudd, Abertawe, wedi treulio dros bum degawd yn gwasanaethu’r Gymraeg yn Abertawe trwy arwain, gwirfoddoli a chefnogi mudiadau allweddol megis Mudiad Ysgolion Meithrin, Tŷ Tawe, Menter Iaith Abertawe a Merched y Wawr. Bu’n allweddol yn sefydlu a chryfhau addysg Gymraeg yn lleol fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Cwm, ac yn hyrwyddo’r Gymraeg y tu hwnt i fudiadau iaith. Yn wreiddiol o Essex, fe ddysgodd ein hiaith ac ymroi’n llwyr i gymuned a diwylliant, gan sicrhau croeso cynhwysol i bawb.
Eluned Hâf
Mae Eluned Hâf, Bro Morgannwg, wedi bod yn llysgennad angerddol dros ddiwylliant Cymru o oedran ifanc, gan hyrwyddo’r celfyddydau Cymraeg yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. O gychwyn bandiau ysgol i arwain mentrau byd-eang fel WOMEX 2013, mae wedi codi proffil artistiaid Cymraeg a chryfhau rhwydweithiau diwylliannol. Trwy wirfoddoli, gwaith proffesiynol ac ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys Japan ac UNESCO, mae’n pontio Cymru â’r byd, gan eirioli dros ieithoedd brodorol, y Gymraeg a chysylltiadau rhwng diwylliant, iaith a’r hinsawdd.
Angharad James
Wedi ei geni yn Hwlffordd, mae Angharad James yn eicon chwaraeon Cymru: y fenyw ieuengaf i ennill 100 cap i dîm pêl-droed menywod Cymru, a’r capten fu’n arwain y tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda 143 cap, gyrfa broffesiynol ryngwladol ac ymrwymiad dwfn i’w Chymreictod, bu’n hyrwyddwr amlwg i’r Gymraeg ar lwyfan byd-eang. Trwy ei statws, ei harweinyddiaeth a’i gwaith ysbrydoledig gyda merched ifanc, mae’n cynrychioli Cymru fodern ar ei gorau.
Mari Grug James
Magwyd Mari Grug, Sanclêr, ar fferm ym Mynachlog-ddu, ac mae wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd diwylliannol Cymru fel darlledwr poblogaidd ar S4C a Radio Cymru. O’i gwaith cynnar ar raglenni plant i’w rôl fel cyflwynydd Prynhawn Da a Heno, mae ei harddull gynnes a naturiol wedi ennill parch cynulleidfaoedd ledled Cymru. Yn Eisteddfodwr brwd ers yn blentyn, mae hi bellach yn feirniad profiadol. Y tu hwnt i’w gyrfa, dangosodd ddewrder eithriadol trwy rannu ei phrofiad o ganser, gan weithredu fel llais ysbrydoledig a llysgennad dros Ymchwil Canser Cymru.
Wynfford James
Mae Wynfford James, Caerfyrddin, yn frodor o Ddyffryn Tywi, a wnaeth gyfraniad eithriadol i economi a diwylliant Cymru drwy gyfuno datblygiad gwledig â hyrwyddo’r Gymraeg. Fel cyfarwyddwr Antur Teifi, bu’n arloeswr ym maes telemateg, cyfieithu a mentergarwch gwledig, gan sefydlu cwmnïau a mudiadau dylanwadol. Ar lefel genedlaethol, bu’n flaenllaw yn natblygiad y sector bwyd a diod Cymreig gyda brand Gwir Flas. Y tu hwnt i’w waith proffesiynol, mae’n ffigwr allweddol yng Nghymdeithas yr Iaith ers degawdau, gan barhau i arwain ar gyswllt economi ac iaith.
Jennifer Jenkins
Mae Jennifer (Jenny) Jenkins, Aberystwyth, wedi gwneud cyfraniad eithriadol, gwirfoddol a di-dâl i waith dyngarol yn lleol ac yn rhyngwladol. O wirfoddoli gyda Hwb Cymunedol Penparcau yn ystod COVID, i gludo cymorth hanfodol i Wcráin ers 2022, mae wedi gwneud degau o deithiau yn casglu a dosbarthu bwyd ac offer meddygol. Trwy gyfrwng y Gymraeg mae’n codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a chymunedau, gan ennill bri i Gymru drwy ei dewrder a’i hymroddiad.
Arwel Jones
Arwel Jones, o Giliau Aeron, oedd trysorydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, a dan ei arweinyddiaeth codwyd dros £463,000 – y swm mwyaf erioed ar y pryd, a hynny trwy gyfnod heriol y pandemig. Yn ogystal â chodi arian, mae Arwel hefyd yn frwd dros hanes lleol, ac mae’n siarad yn gyson gyda chymdeithasau a chlybiau ar amrywiaeth o bynciau. Ef a drefnodd ddathliadau amrywiol Cymru–Ohio yn 2018, sef cofio daugan mlwyddiant ers i dair mil o drigolion Ceredigion ymfudo i Ohio. Mae Arwel yn un o hoelion wyth ei fro, a’i gyfraniad i’r diwylliant lleol yn sylweddol ac amrywiol.
Geraint Herbert Jones
Yn wreiddiol o Lanybydder, mae Geraint Jones wedi cyflawni rôl hollbwysig i seremonïau’r Orsedd ers degawdau drwy ei waith gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Ers 2011 mae gofal dros Gylch yr Orsedd wedi bod yn ganolog i’w rôl, ac mae’n ei chyflawni gyda balchder, cywirdeb gofalus a pharch mawr at y traddodiad. O osod y Maen Llog a Cherrig yr Orsedd i gludo a diogelu gwisgoedd ac eiddo, mae ei sylw manwl a’i ymrwymiad y tu hwnt i ofynion swydd yn sicrhau bod seremonïau’r Orsedd yn urddasol, cywir a theilwng o’u harwyddocâd cenedlaethol.
Heulwen Jones
Mae Heulwen Jones, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, wedi cyfrannu’n fawr at drefniadaeth y Brifwyl dros flynyddoedd lawer, gan wasanaethu ar bwyllgorau amrywiol, fel aelod o staff, ymddiriedolwr ac aelod o Lys yr Eisteddfod. Bu’n aelod o Gyngor yr Eisteddfod am flynyddoedd ac yn is-gadeirydd rhwng 2019 a 2025, yn ogystal ag yn aelod o’r Bwrdd Rheoli. Y tu hwnt i’w gwaith proffesiynol mewn addysg a sefydliadau cenedlaethol, mae’n weithgar gydag Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd a Merched y Wawr, ac yn ymgyrchydd dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg.
Natalie Jones
Mae Natalie Jones, Sanclêr, wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r Gymraeg, addysg a chynhwysiant yng Nghymru. Yn gyn-athrawes ac yn awr fel Rheolwr Addysg a’r Gymraeg yn S4C, mae’n sicrhau cynnwys Cymraeg o safon i blant a phobl ifanc ac yn cyfrannu at ddatblygu adnoddau addysgol cenedlaethol. Drwy ei gwaith gyda’r Welsh Black Music Awards ac EMWWAA, mae’n hyrwyddo Cymru amrywiol lle mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. Yn awdur ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb a hawliau LHDTC+, mae’n llysgennad pwerus i werthoedd yr Orsedd.
Tegryn Jones
Mae Tegryn Jones, Llangwm, Sir Benfro, yn arweinydd arloesol ym maes yr amgylchedd ac yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn frodor o Lanbedr Pont Steffan, mae ganddo gefndir academaidd cryf a phrofiad helaeth ym meysydd addysg, ieuenctid a’r amgylchedd. Bu’n allweddol wrth ddatblygu Tirweddau Cymru a mentrau cenedlaethol ar newid hinsawdd. Mae’n weithgar yn ei gymuned, yn hyrwyddo’r Eisteddfod a’r Gymraeg, ac yn cyfrannu’n sylweddol y tu hwnt i ofynion ei swydd.
Eurfyl Lewis
Mae Eurfyl Lewis, o Langlydwen ger Hendy-gwyn ar Daf, wedi rhoi gwasanaeth oes, yn broffesiynol a gwirfoddol, i fywyd Cymreig ei fro a Chymru gyfan. Fel Swyddog yr Urdd yn Sir Benfro bu’n genhadwr egnïol dros yr iaith a’r mudiad, ac ers hynny mae wedi arwain a gwasanaethu llu o sefydliadau crefyddol, diwylliannol a chymunedol. Yn ysbryd byrlymus o wasanaeth, cododd symiau sylweddol at achosion elusennol a chwaraeodd rôl allweddol yn llwyddiant ariannol Eisteddfod y Garreg Las. Mae ei ymroddiad diflino a’i weithredoedd caredig yn gwneud Eurfyl yn llysgennad eithriadol dros werthoedd craidd Cymru.
Jean Lewis
Mae Jean Lewis, Meidrim, yn ffigwr hanfodol ym mywyd cymunedol Tre-lech a thu hwnt, gan roi gwasanaeth diflino i Gymru, ei hiaith a’i diwylliant. Trwy ei gwaith gyda’r eglwys, addysg, y Ffermwyr Ifanc a mudiadau cymunedol, mae wedi meithrin hyder cenedlaethau o blant a phobl ifanc ac wedi ennill parch eang. Fel arweinydd, gwirfoddolwr a Chynghorydd Sir, dengys ymrwymiad dwfn i lesiant cymunedol, bywyd Cristnogol a hyrwyddo’r Gymraeg, gan ei gwneud yn llysgennad rhagorol dros werthoedd yr Orsedd.
Gwenda Mathias
Un o wragedd mwyaf diwyd ei chymuned yw Gwenda Mathias, Hermon, y Glog, sy’n dal i hyrwyddo’n dawel werthoedd Cristnogol ac elusennol ei bro. Mae’n cerdded filltiroedd lawer bob blwyddyn er mwyn codi arian i elusennau gwahanol, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru a Chymorth Cristnogol, yn ogystal â nifer o achosion lleol. Mae’n cerdded yn flynyddol dros y Preselau i gofio am y frwydr i’w cadw’n rhydd o fiitariaeth yn 1946. Hyfryd yw cael cydnabod ei gwasaneth gwirfoddol a diffwdan eleni trwy ei hurddo i’r Orsedd.
Rhodri Siôn Morgan
Mae Siôn Morgan, Caerdydd, wedi ymroi i’r Gymraeg drwy ei addysg, ei waith a’i fywyd cymunedol. Ers dros 30 mlynedd, mae wedi arwain a datblygu gwasanaethau is-deitlo Saesneg a Chymraeg S4C, gan ehangu hygyrchedd cynnwys Cymraeg i ddysgwyr, pobl ddi-Gymraeg a phobl fyddar. Mae hefyd wedi hyfforddi cenhedlaeth newydd o is-deitlwyr. Y tu hwnt i’w waith proffesiynol, cydsefydlodd Adran Ieuenctid Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, gan greu cannoedd o gyfleoedd i blant a theuluoedd ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn naturiol.
Steve Perks
Mae Steve Perks, Caerfyrddin, wedi rhoi dros hanner canrif o wasanaeth eithriadol i athletau yng Nghymru fel athletwr, hyfforddwr ac arweinydd cenedlaethol a rhyngwladol. Ers 1984 mae wedi hyfforddi’n ddi-dor yng Nghaerfyrddin, gan ddatblygu dros 40 o athletwyr rhyngwladol, a chwarae rôl allweddol mewn llwyddiannau Olympaidd, Byd ac Ewrop. Yn addysgwr, ustus heddwch ac ymgyrchydd dros y Gymraeg ym myd chwaraeon, mae ei ddylanwad yn ddwfn, parhaus ac amhrisiadwy.
Denise Lewis Poulton
Yn wreiddiol o Adpar, Castellnewydd Emlyn, mae Denise Lewis Poulton, Llundain, wedi cyrraedd y brig ym myd cyfathrebu a’r sector corfforaethol yn rhyngwladol, heb golli ei hymrwymiad dwfn i Gymru. Trwy wasanaethu ar fyrddau diwylliannol a threftadaeth, gan gynnwys S4C a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae wedi defnyddio ei harbenigedd busnes er lles diwylliant Cymru. Yn ddiymhongar ond dylanwadol, mae ei gwaith yn cyfrannu’n sylweddol at gryfhau a chynnal sefydliadau Cymreig ar gyfer y dyfodol.
Huw Llywelyn Roberts
Dechreuodd Huw Roberts, Aberystwyth, ei yrfa gyda’r BBC ar Radio Cymru fel ymchwilydd, gan symud ymlaen i fod yn gynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd, ac yn gydlynydd darllediadau cyhoeddus mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi 17 mlynedd, sefydlodd Gwesty Cymru, gan drawsnewid gwesty dwy seren yn hafan bum seren o Gymreictod a gydnabuwyd yn genedlaethol. Yn ddiweddarach, fel Uwch Reolwr Llety Preswyl Prifysgol Aberystwyth, derbyniodd wobr 2025–26 am hyrwyddo’r Gymraeg, am ei gyfraniad i’r iaith a’r gymuned Gymraeg.
Glenys Ann Thomas
Mae Glenys Ann Thomas, Caerfyrddin, wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg lleol a chenedlaethol dros ddegawdau, ym myd addysg a gwirfoddoli. Yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch yn Ysgol Dyffryn Aman, ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion. Ar ôl ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, bu’n ganolog i hybu’r Gymraeg drwy’r Urdd, Merched y Wawr (gan gynnwys fel eu Llywydd Cenedlaethol), y capel a phrif ddigwyddiadau Cymru. Gan weithio’n ddiflino ochr yn ochr â’i diweddar ŵr, Sulwyn, mae ei hymroddiad hael, di-dâl a pharhaus yn brawf o wasanaeth cwbl unigryw i’r iaith a’r genedl.
Hywel Thomas
Mae Hywel Thomas, Penarth, yn academydd a wasanaethodd Gymru yn helaeth mewn ymchwil, arweinyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus. Yn dilyn cyfnod mewn diwydiant, fe’i penodwyd i staff Prifysgol Caerdydd, lle treuliodd ei yrfa academaidd, gan wasanaethu hefyd fel Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol ac ymchwil. Yng Nghaerdydd mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil sy’n astudio amgylchedd y byd ac yn Athro UNESCO mewn datblygu cynaliadwy. Bu hefyd yn Gomisiynydd Bevan ac yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus ac addysg yng Nghymru.
Owen Thomas
Magwyd Owen Thomas, Pen-bre, ym Mhorthtywyn a’i addysgu yn Ysgol y Strade cyn astudio yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Mae’n Gwnsler y Brenin ac yn fargyfreithiwr teuluol blaenllaw yn 9 Park Place, Caerdydd, gan arbenigo mewn achosion gofal plant. Ef yw’r unig KC yng Ngymru sy’n gwneud y gwaith hwn sy’n hyderus yn y Gymraeg, gan allu gweithio’n gwbl ddwyieithog. Bu’n arweinydd tîm, yn swyddog Cylchdaith Cymru a Chaer, ac mae’n aelod o Fainc Gray’s Inn. Mae’n siarad yn rheolaidd mewn ysgolion am ddilyn gyrfa fel bargyfreithiwr, ac yn hyrwyddo mynediad i bobl ifanc heb gysylltiad â’r proffesiwn.
Wyn Thomas
Bu Wyn Thomas, Castellnewydd Emlyn, yn athro ymarfer corff am dros 35 mlynedd yn Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol Gyfun Emlyn, gan gyfoethogi ei waith drwy brofiad addysgu yng Nghanada. Gwnaeth gyfraniad eithriadol i’w gymuned fel un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, cynghorydd sir, aelod o fyrddau a phaneli amrywiol, ac arweinydd mewn mudiadau diwylliannol, cymunedol ac eglwysig. Trwy gydol ei waith, mae wedi hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru gyda brwdfrydedd a chysondeb.
Dylan Williams
Mae Dylan Williams, Y Barri – neu Dylan Darts Cymru – wedi gwneud cyfraniad arloesol i normaleiddio’r Gymraeg ym myd dartiau drwy sefydlu Darts Cymru yn 2019, gan greu platfform cenedlaethol poblogaidd ar y cyfryngau a darlledu. Trwy ei ddawn naturiol fel sylwebydd, mae wedi cyflwyno’r Gymraeg fel cyfrwng cwbl naturiol i drafod y gamp, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mae ei waith gwirfoddol a’i weledigaeth wedi rhoi proffil newydd i’r Gymraeg mewn maes poblogaidd a dylanwadol.
Hubert Alun Williams
Mae Hubert Williams wedi ffermio ym Mhant Teg, Llangyndeyrn, ar hyd ei oes ac mae’n aelod selog o Gapel Bethel. Mae ei gyfraniad hanesyddol yn sefyll allan: ef yw’r unig aelod sydd ar ôl o’r mudiad a safodd yn llwyddiannus yn erbyn Corfforaeth Abertawe yn y 1960au, gan atal boddi Cwm Gwendraeth Fach – buddugoliaeth eiconig yn hanes Cymru. Mae’n parhau i rannu’r stori drwy areithiau a gweithgareddau ysgol, gan drosglwyddo gwers barhaol o undod, cymuned a gwrthsefyll er cof i’r genedl.