Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a’r Cylch 2004.
Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu hurddo er anrhydedd eleni i Orsedd y Beirdd.
I’w hurddo fore Llun Awst 2 yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch:
Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003
Urdd Ofydd Er Anrhydedd
Siwan Llynor, Y Felinheli – Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis;
Meryl Mererid, Ciliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan – Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn
Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Morfydd Vaughan Evans, Rhuthun – Enillydd Gwobr Goffa Syr T H Parry Williams; Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003
Y Prifardd Twm Morys, Llanystumdwy – Bardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003;
Owain Llwyd, Glyndyfrdwy, Corwen – Enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003:
D Glyn Williams, Y Trallwng – Is-gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003
I’w hurddo i Urdd Derwydd
Enillwyr Medal Aur Celfyddyd Gain a Chrefft a Dylunio yr Eisteddfod Genedlaethol
Ifor Davies, Penarth (Sir Benfro, Tyddewi 2002);
Catrin Howell, Penboyr, Drefach Felindre (Bro Ogwr 1998);
Iwan Bala, Caerdydd (Meirion a’r Cyffiniau 1997);
Ann Catrin Evans, Caernarfon (De Powys, Llanelwedd 1993);
Cefyn Burgess, Penmaenmawr (Ceredigion, Aberystwyth 1992);
Gareth Hugh Davies, Llandybie (Cwm Rhymni 1990);
Eleri Mills, Y Trallwng (Bro Madog 1987);
Dennis Short, Trefdraeth, Sir Benfro (Glyn Ebwy 1958)
I’w derbyn i Urdd Derwydd ar sail gwasanaeth maith i’r Orsedd a’r Eisteddfod
Jennifer Evans Clarke, Gorseinon (Awel Dulais);
Owen Huw Roberts, Llandyfaelog, Ynys Môn (Owen Huw)
I’w hurddo fore Gwener 6 Awst 2004 yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch
Urdd Ofydd Er Anrhydedd
Janet Davies a Glenda Jones, Y Bontfaen
Ganed y ddwy chwaer, Janet a Glenda James yng Nghapel Iwan yn Sir Gaerfyrddin ar aelwyd a oedd yn gyfarwydd iawn â’r byd eisteddfodol. Dechreuodd y ddwy gystadlu mewn eisteddfodau lleol, a buont am dros 15 mlynedd yn enwau eisteddfodol adnabyddus, a’u henwau’n ymddangos ar restrau enillwyr a llwyfannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Ŵyl Gerdd Dant a Phrifwyl yr Urdd. Cynigir enwau’r ddwy chwaer gyda’i gilydd gan y byddai’n anodd gwahaniaethu rhyngddyn nhw o ran teilyngdod a dawn ac oherwydd iddyn nhw gyd berfformio ar hyd y blynyddoedd.
David John Elfyn Davies, Farmers, Sir Gaerfyrddin Cafodd ei fagu ar fferm Troed y Bryn ger pentref Farmers. Mynychodd ysgol gynradd y pentref, Coleg Llanymddyfri a Choleg Harper Adams yn Sir Amwythig lle gwnaeth astudio amaethyddiaeth. Mi wnaeth ddal amryw swyddi’n ymwneud ag amaethyddiaeth gan gynnwys gweithio i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Aberystwyth. Mi fuodd o hefyd yn ffermio rhan amser tan ddiwedd y 1990 pan aeth ati i ffermio llawn amser. Mae wedi cymryd rhan egnïol ym mywyd cymdeithasol ei ardal. Mae’n aelod ac organydd yng nghapel y Bedyddwyr Bethel, Cwm Pedol, ers 40 mlynedd. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn cerddoriaeth ac mae’n aelod o Gôr Meibion Cwmann. Gellid gwneud rhestr hir o’i gyfraniad mewn amryw gyfeiriadau – gohebydd i’r papur bro Y Lloffwr, ysgrifennydd y neuadd leol, a sylfaenydd a chadeirydd Menter Gymunedol y Porthmyn a ffurfiwyd wyth mlynedd yn ôl. Gŵr â’i ardal yn agos at ei galon.
Ifan Davies, Capel Dewi, Caerfyrddin
Brodor o Nantgaredig – Ifan JCB fel yr adnabyddir ef ar lawr gwlad. Addysgwyd ef yn Nantgaredig a Chaerfyrddin cyn troi at ffermio ac yna trodd yn gontractwr amaethyddol. Mae wedi bod yn flaengar iawn ym mywyd ei fro, yn aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi. Mae’n ddiddanwr o fri a’i wyneb yn adnabyddus ar lwyfannau nosweithiau llawen ledled Cymru. Casglodd filoedd o bunnau ar gyfer elusennau ac yn arbennig ar gyfer sefydlu canolfannau trin cansyr yn ne-orllewin Cymru. Mae ei egni a’i frwdfrydedd wedi bod yn ysbrydiaeth i eraill.
Delyth Mai D’aubrey Jones, Garnswllt
Ganwyd a magwyd yn Llanfor ger Y Bala, lle’r oedd ei thad yn rheithor y plwy. Mi wnaeth ddilyn cwrs coleg a graddio mewn addysg, a chafodd ddiploma uwch mewn Addysg Plant ag Anghenion Arbennig. Yna symudodd i’r de a phenodwyd hi’n brifathrawes Ysgol Gynradd Garnswllt. Mae wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned leol, a gwnaeth lawer i gefnogi elusennau. Bu’n gefnogol hefyd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Ethni Jones, Llanbedr y Fro, Caerdydd
Gwraig â’i brwdfrydedd ar dân dros yr iaith. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd gwersylloedd yr Urdd a bu ran ganddi mewn sefydlu Uwch Adran yr Urdd yng Nghaerdydd. Mae hi wedi chwarae rhan amlwg hefyd mewn sefydlu Wlpan yng Nghaerdydd. Roedd yn gryf ei chefnogaeth i Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn lleol a chenedlaethol. Ar hyd y blynyddoedd chwaraeodd y capel le amlwg yn ei bywyd, ac mae’n parhau i ymdrechu’n ddiflino dros Gymdeithas y Cymod ac achosion eraill fel Cristnogion yn Erbyn Poenydio. Mae’n wraig flaengar o flaen ei hamser.
Heulwen Jones, Caerffili
Arbenigwraig ar ddawnsio gwerin, stepio a chlocsio. Yn gyn aelod o ddawnswyr Nantgarw, mae wedi bod yn hyfforddi unigolion, deuawdau a phartïon dawns yn gyson ar gyfer eisteddfodau’r Urdd. Ers dechrau cystadlu yn 1981 cafodd plant Ysgol Gymraeg Caerffili ac Adran Parcyfelin lwyfan bron ym mhob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yn 1988 fel rhan o ddathliadau Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni sefydlodd Ŵyl Ddawnsio Gwerin yn y cwm (Diwrnod Dawnsio drwy’r Cwm). Roedd yr Ŵyl yn gymaint llwyddiant fel y cafodd ei chynnal yn flynyddol ers hynny. Y llynedd oedd y 15fed i’w chynnal ac roedd oddeutu 35 o ysgolion yn cymryd rhan, gyda oddeutu 700 – 800 0 blant yn dawnsio ar y cyd yng Nghastell Caerffili. Gadawodd ei hôl yn drwm ar y cwm.
Y Barchedig Mair Jones, Hen Golwyn
Ganed yn Nhreuddyn, Sir y Fflint ac addysgwyd hi yn ysgolion Treuddyn, Coed Talon, Ysgol Ramadeg Alun, Yr Wyddgrug a Choleg Cartrefle Wrecsam. Roedd hi’n athrawes am 30 mlynedd cyn ymddeol yn 1991, ac yna aeth i Goleg Mihangel Sant, Llandaf, i baratoi ar gyfer Urddau Sanctaidd yn yr Eglwys yng Nghymru. Ordeiniwyd hi’n ddiacon yn 1993 ac yn offeiriad yn 1997. Mae wedi bod yn gwasanaethu yn Llangollen, Llandrillo a Llandderfel cyn symud i fod yn rheithor yn Llaneilian. Mae’n Swyddog Iaith Esgobaeth Llanelwy ac yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i’r diwylliant Cymraeg yn ei hardal.
Eunice O’Hara, Abergwaun
Ganwyd a magwyd yn Abergwaun a rhoddodd oes o wasanaeth i’w hardal enedigol. Mae’n aelod yng nghapel Pentowr, Abergwaun, lle mae wedi bod yn organydd ers dros hanner canrif, ac yn flaenor yno ers 15 mlynedd. Eleni hi yw Llywydd Eglwysi Rhyddion Abergwaun. Chwaraeodd ran amlwg yn y gymdeithas drwy godi arian i elusennau. Y mae ei hymroddiad i Ambiwlans Sant Ioan ers bron hanner canrif yn enghraifft deg o’i hymroddiad i wasanaethu cyd-ddyn. Gwraig rinweddol a roddodd o’i gorau i gymdeithas.
Gwyn Williams, Dinbych
Mab aelwyd enwog Hafod Elwy ar fryniau Hiraethog. Ef bellach yw gofalwr Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych, lle mae ei wên feunyddiol a’i gyfarchiad hwyliog yn hynod boblogaidd gan athrawon a phlant. Dyma ŵr diwylliedig yng ngwir ystyr y gair – crefftwr cain mewn coed a llechen a gŵr â chariad at lên a cherdd ei wlad. Canwr gwerin, cerdd dant ac iodlwr heb ei ail, gyda channoedd o englynion a phenillion ar ei gof, maen dal i ddiddanu amrywiol gymdeithasau ei ardal a thu hwnt yn rheolaidd. Cymeriad unigryw a chymwynaswr arbennig.
Matthew Stevens, Caerfyrddin
Un o bencampwyr snwcer y byd. Addysgwyd ef yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin, a bydd bob amser yn arddel y Gymraeg a Chymreictod. Daeth i fri ac amlygrwydd arbennig pan enillodd fuddugoliaeth yn erbyn Stephen Hendry yn ddiweddar ym mhencampwriaeth Prydain. Y mae dyfodol disglair o’i flaen.
Tara Bethan Williams, Llanfairtalhaearn
Dyma enw cyfarwydd ar lwyfannau Cymru a Lloegr. Er pan oedd yn ifanc iawn bu hi’n gefnogol i eisteddfodau bach cefn gwlad Cymru. Mae wedi bod yn gystadleuydd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Gwerthfawrogodd y cyfle a gafodd i feithrin ei thalent ym myd llefaru. Y mae rhestr ei llwyddiant yn eisteddfodau’r Urdd yn ymestyn yn gyson dros y 1990au ac yn 1999 roedd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar yr unawd o Sioe Gerdd dan 25 ac enillydd Ysgoloriaeth Wibert Lloyd Roberts.
Helen Wyn (Tammy Jones), Seland Newydd
Yn enedigol o Dal- y- bont, Bangor. Merch gerddgar a chanddi lais arbennig. Dechreuodd ganu yn ifanc iawn mewn eisteddfodau ledled y wlad, gan ennill llawer gwobr. Yn ddiweddarach aeth i ganu ar y radio a’r teledu gan ymddangos droeon ar raglenni poblogaidd y BBC, rhaglenni fel Hob y Deri Dando, Tipyn o Fynd a Ffwrdd a Hi. Daeth yn boblogaidd mewn cyngherddau, nosweithiau llawen a dawnsfeydd drwy Gymru. Symudodd i fyw i Seland Newydd a chanodd ledled y byd gan wneud enw iddi ei hun fel cantores broffesiynol. Ar hyd ei chyfnod yn alltud o Gymru ni chollodd gysylltiad â’i mamwlad.
Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Robin Huw Bowen, Capel Seion, Aberystwyth
Yn enedigol o Lerpwl graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiodd am saith mlynedd fel archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymddiswyddodd i fod yn gerddor proffesiynol gan arbenigo yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru. Dewisodd ddatblygu ei ddawn fel telynor y Delyn Deires a thros y blynyddoedd mae wedi rhoi cyngherddau niferus yn America, Ewrop ac Awstralia, hynny fel unawdydd. Mae wedi bod yn rhan o grwpiau cerdd traddodiadol hefyd fel Mabsant, Cusan Tân a Crasdant. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o alawon offerynnol traddodiadol, ffrwyth ymchwil drylwyr i lawysgrifau cerdd yn y Llyfrgell Genedlaethol a thrwy hynny dylanwadodd yn fawr ar gerddorion traddodiadol cyfoes. Yng Ngŵyl Machynlleth 2000 derbyniodd Wobr Glyndŵr am gyfraniad arbennig i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n chwip o delynor ac yn un o brif gynheiliaid cerddoriaeth offerynnol draddodiadol ein gwlad.
Glynog Davies, Brynaman
Brodor o Frynaman, ac mae’n dal i fyw yn ei filltir sgwâr. Graddiodd yn y gwyddorau o Brifysgol Cymru, Caerdydd. Treuliodd ei holl yrfa broffesiynol yn y cyfryngau ac eleni y mae’n dathlu 30 mlynedd o weithio ar radio a theledu. Dechreuodd ei yrfa fel aelod o dîm bychan a sefydlodd Sain Abertawe yn 1974 – y radio annibynnol gyntaf yng Nghymru. Yn 1977 symudodd i fyd teledu pan benododd HTV ef yn gynhyrchydd y gorllewin. Yn 1988 yr oedd yn un o’r bobol a sefydlodd Gwmni Teledu Agenda, cwmni wedi ei leoli yn Llanelli ac yn darparu’n helaeth ar gyfer S4C. Mae’n weithgar diflino yn ei gymuned hefyd. Mae’n organydd ym Moriah, Brynaman, yn ogystal â bod yn flaenor ac yn ysgrifennydd gohebol yno. Ef hefyd oedd un fu’n gyfrifol am sefydlu Menter Iaith Aman Tawe. Gŵr triw i’w gymuned gan gyfrannu’n helaeth i fywyd cymdeithasol Cymreig a Chymraeg ei ardal.
Eirian Elizabeth Edwards, Caerdydd
Cafodd ei geni yn ardal Penybryn ger Y Pîl a derbyniodd ei haddysg yn ysgolion Mynydd Cynffig a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yn 1970 dyfarnwyd iddi radd MA am ei thraethawd ymchwil ar Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy. Maen cael ei chydnabod fel yr awdurdod pennaf ar feirdd y cyfnod hwn yn ne-ddwyrain Cymru. Cyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion Cymraeg ac i bapurau bro gan gynnwys Yr Hogwr, papur bro cylch Pen-y-bont ar Ogwr. Hi oedd yn gyfrifol am lunio’r ysgrif “Golwg ar draddodiad llenyddol Bro Ogwr” ar gyfer Rhaglen Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr yn 1997 yn ogystal â Hanes Bro’r Eisteddfod a ymddangosodd yn y Rhestr Testunau ac yn y Rhaglen Swyddogol. Mae’n aelod gweithgar o Eglwys y Crwys, Caerdydd, a chafod ei hethol yn flaenor yno yn 1997. Ysgolhaig a ddangosodd mor gyfoethog yw’r traddodiad llenyddol eithriadol sy’n perthyn i’r rhan hon o Gymru.
Islwyn Evans, Adpar, Castellnewydd Emlyn
Brodor o Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl dilyn cwrs gradd yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, datblygodd ei ddiddordeb mewn technegau lleisiol ynghyd ag arwain corau a grwpiau lleisiol. Derbyniodd Gymrodoriaeth Winston Churchill i hyfforddi corau ieuenctid yn Sweden a Hwngari, ynghyd â Gwobr Arwain Corau Ffederasiwn Corau Ieuenctid Prydain. Er ei holl lwyddiannau rhyngwladol y mae ei gyfraniad mwyaf o fewn ei wlad ei hun. Mae’r rhestr o gorau y bu’n gyfrifol am eu sefydlu yn cynnwys Côr Canolfan Caerdydd, Côr Ieuenctid Dyffryn Teifi, Ysgol Gerdd Ceredigion a Cywair. Yn 2005 bydd yn ymgymryd ag arweinyddiaeth Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Comisiynodd hefyd weithiau gan gyfansoddwyr megis Brian Hughes, John Metcalfe, Hector MacDonald a Karl Jenkins. Arweinydd a gyfoethogodd fyd cerddorol a chelfyddydol Cymru yn ddirfawr.
Alun Griffiths, Casnewydd
Cafodd ei eni yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Gasnewydd pan oedd yn flwydd oed. Addysgwyd ef yn ysgolion cynradd Casnewydd ac Abercarn, a hyfforddwyd ef yn athro yng Ngholeg Sant Luc, Caerwysg. Yna arbenigodd ar gyfer dysgu plant byddar ym Manceinion. Yng Ngwent bu’n dysgu’r byddar a bu’n bennaeth y gwasanaeth i’r byddar rhwng 1988 – 1995. Y mae’n gapelwr selog ac yn organydd a thrysorydd capel Cymraeg yr Eglwys Bresbyteraidd Abercarn. Cyfrannodd yn helaeth i fyd y ddawns yng Ngwent – yn hyfforddwr Clocswyr Tŷ Du a lwyfannwyd sawl gwaith yn Eisteddfodau’r Urdd ac mae parti dawns Gwerinwyr Gwent wedi bod yng Ngŵyl Geltaidd Iwerddon. Cafodd lawer i wneud (ynghyd â’i wraig) i hyfforddi’r Ddawns Flodau yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1988 a 2004. Cymro da ac eisteddfodwyr brwd a lafuriodd mewn talcen caled.
John Hardy, Tongwynlais, Caerdydd
Yn frodor o Sir Henffordd, cafodd ei addysgu yn Ysgol Gadeiriol Henffordd lle’r oedd yn aelod o Gôr y Gadeirlan nes ei fod yn 19 oed, a Choleg y Breninesau, Rhydychen. Mae wedi ymsefydlu ers blynyddoedd bellach yng Nghaerdydd, a daeth yn rhugl ei Gymraeg. Mae’n gyfansoddwr adnabyddus a lluniodd gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer 140 o ddramâu teledu a radio, rhaglenni dogfen a rhaglenni nodwedd, a welwyd ac a glywyd ledled y byd. Mae hefyd wedi bod yn gyfansoddwr preswyl mewn ysgolion, theatrau a neuaddau dawns, a chyflawnodd gomisiynau gan gerddorfeydd, corau ac operâu cymunedol, a chan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr, Opera Cenedlaethol Cymru a’r Proms Cymreig. Efallai mai ei waith mwyaf adnabyddus yw’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Hedd Wyn (1992). Enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad ef iddi. Yn 1998 perfformiwyd ei waith De Profundis gan Gantorion y BBC a Symffoni Bres Llundain, gyda phiano, telyn ac organ yn Abaty Westminster, mewn cyngerdd arbennig i ddathlu dadorchuddio yno gofebion i ddeg o ferthyron Cristnogol yr 20fed ganrif.
John Brynmor Jones, Creigiau, Caerdydd
Ganed yn Llwyndafydd ger Cei Newydd yn fab i John Lloyd Jones, amaethwr a bardd ac awdur Grawn y Gronynnau (Gwasg Gomer 1984). Roedd ei fam o linach beirdd cylch de Ceredigion. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Caerwedros, Ysgol Sul Aberaeron, Coleg Prifysgol Cymru Bangor a Choleg Llyfrgellwyr Loughborough. Dechreuodd ei yrfa fel llyfrgellydd yn Llyfrgell Ceredigion o dan arweiniad R Alun Edwards, ac ymunodd â staff Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn 1961. Mewn llyfrgell ag iddi gasgliadau Cymraeg a Cheltaidd penigamp roedd ei wybodaeth ddeallusol o lenyddiaeth Gymraeg a’r ffynonellau yn fodd i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac ysgolheigion fanteisio ar ei gyfarwyddyd. Mae ei gyfraniad yn cael ei gydnabod mewn llu o gyflwyniadau a rhagymadroddion i gyfrolau a gyhoeddwyd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd Cymraeg Caerdydd a Dwyrain Morgannwg. Mae’n aelod yn Eglwys Dewi Sant ac mewn llu o gymdeithasau Cymraeg y Brifddinas a’r Cylch.
John Walter Jones, Caerdydd
Yn frodor o Fangor, treuliodd flynyddoedd ei yrfa broffesiynol yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn was sifil yn yr hen Swyddfa Gymreig lle cafodd gyfrifoldeb am bolisïau’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Tra yn y Swyddfa Gymreig roedd yn ddylanwadol er sicrhau sefydlu Bwrdd yr Iaith. Yn dilyn ei benodiad yn brif weithredwr y Bwrdd Iaith roedd ei arweiniad doeth a diflino yn allweddol bwysig i’r twf a welwyd yn y defnydd cyffredinol a wneir o’r Gymraeg o fewn cymdeithas ac yn enwedig yn y byd masnachol. Nid oedd y dasg o hyrwyddo’r Gymraeg mewn cymdeithas ag iddi elfennau di-hitio a gelyniaethus ar brydiau tuag at yr iaith yn hawdd. Teg cydnabod iddo lwyddo’n rhyfeddol yn y dasg o greu ewyllys dda.
Yr Athro Dr R Merfyn Jones, Caernarfon
Athro Hanes Cymru, cafodd ei benodi yn ddiweddar yn Is-ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor. Darlledwr adnabyddus ar y radio a’r teledu. Ysgrifennodd a chyflwynodd 14 cyfres o raglenni teledu, y mwyafrif yn y Gymraeg. Awdur nifer o lyfrau ar chwarelwyr y gogledd, Cymry Lerpwl a’u crefydd, a Hanes Cymru yn yr 20fed ganrif. Gelwir arno i ddarlithio mewn amryw gynadleddau yn Ynys Prydain a thros y byd. Mae’n un o Lywodraethwyr Cenedlaethol Cymru y BBC ac yn Gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru. Yn ei waith parhaodd draddodiad Brifysgol Cymru o fynd ag addysg i’r werin bobol yn eu cymunedau.
Y Parchedicaf Barry Morgan, Llandaf
Ar ôl graddio mewn Hanes ym Mhrifysgol Llundain aeth i Goleg Selwyn Caergrawnt lle graddiodd mewn Diwinyddiaeth. Mae wedi bod yn gweinidogaethu mewn amryw fannau yn yr Eglwys yng Nghymru a darlithio yng Ngholeg Mihangel Sant, Colegau Prifysgol Cymru Caerdydd a Bangor. Treuliodd gyfnod yn Warden Hostel yr Eglwys yng Nghymru Bangor. Mae wedi bod yn Archddiacon Meirionnydd cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, Esgob Llandaf yn 1999 ac Archesgob Cymru yn 2003. Fel Esgob amlygodd gadernid moesol. Dangosodd fel Archesgob ei fod yn effro i broblemau cymdeithasol dyrys Cymru, ac y mae’n ymwybodol iawn o’r angen am berthynas iach rhwng y dystiolaeth Gristnogol a materion gwleidyddol. Mawr hefyd yw ei ofal am fuddiannau’r iaith Gymraeg yn yr Eglwys.
Dr William Owen, Llanbedrog
Meddyg wrth ei alwedigaeth. Mae wedi ymsefydlu ers blynyddoedd bellach yn Llanbedrog ac y mae gwlad Llŷn a’i phobol yn agos iawn at ei galon. Rhoddodd oes o wasanaeth clodwiw i bobol yr ardal fel meddyg teulu gan gerdded yr ail filltir bob amser â’i gonsyrn yn amlwg, hyd yn oed ar ôl ei ymddeoliad. Ni ellir cyfrif y cymwynasau dirgel a wnaeth. Roedd yn arweinydd clwb ieuenctid Llanbedrog yn ei ddyddiau cynnar. Bu’n ffyddlon iawn i’r capel hefyd, yn flaenor ers dros 40 mlynedd ac athro dosbarth yr oedolion yn yr Ysgol Sul. Rhoddodd ei amser prin yn wirfoddol i helpu a chefnogi plant ag anghenion arbennig yn y gymuned. Mae ef a’i briod yn gefnogwyr brwd i’r Brifwyl bob blwyddyn. Dyma feddyg teulu yng ngwir ystyr y gair.
Morien Phillips, Bangor
Brodor o Rosllannerchrugog, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon a Choleg Normal Bangor. Ar ôl cyfnod fel athro a phrifathro mewn ysgolion cynradd penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Ddrama yn y Coleg Normal a bu yno am bron chwarter canrif cyn ymddeol. Y mae’n adnabyddus iawn yng nghylchoedd diwylliannol Cymru. Rhoddodd oes o wasanaeth i’r iaith Gymraeg, i’r sefydliadau addysgol, i’r ddrama fel actor, cynhyrchydd a beirniad, i eisteddfodau bach a mawr gan gynnwys y Genedlaethol, i’r cyfryngau fel perfformiwr, i gyfresi lu o Dalyrnau’r Beirdd. Mae’n aelod ffyddlon o Eglwys Pendref Bangor lle mae’n ddiacon ac yn ysgrifennydd yr Eglwys. Gŵr diwylliedig a roes oes o wasanaeth i ddiwylliant y Genedl.
Ruth Price, Caerdydd
Cafodd ei geni ym Mabws Fawr, Mathri, Sir Benfro, a chael ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Tyddewi a Choleg Hyfforddi Abertawe. Wedi hynny roedd yn athrawes yn ysgolion cynradd Maldwyn a Sir Benfro. Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghaerdydd cyn ei phenodi’n brifathrawes gyntaf Ysgol Gymraeg Pontarddulais. Yn 1961 pan ymunodd â’r BBC ym Mangor lle bu’n cynhyrchu cyfres o raglenni radio i blant. Symudodd wedyn yn 1963 i Gaerdydd i weithio ar raglenni teledu yn Adran Adloniant Ysgafn, yn gyntaf fel cyfarwyddwraig ac yna fel cynhyrchydd. O 1981 hyd nes iddi ymddeol yn 1985 hi oedd pennaeth rhaglenni ysgafn y BBC. Ei chyfraniad nodedig yn y cyfnod hwn oedd defnyddio cyfrwng teledu i greu a chynnal diddordeb pobol o bob oedran, a’r ifanc yn arbennig, yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.
Manon Rhys, Caerdydd
Cafodd ei geni yn Nhrealaw, Cwm Rhondda, a derbyniodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Treorci ac Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd gyda’r teulu i Brestatyn, Clwyd, a mynychu Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Y Rhyl. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl cyfnod mewn swyddi dysgu yn ysgolion uwchradd Gwynedd, dechreuodd ar yrfa o ysgrifennu ar ei liwt ei hun. Y mae’n awdur amryddawn mewn mwy nag un cyfrwng – nofelau, storïau byrion, ynghyd â thair nofel seiliedig ar ei chyfres deledu Y Palmant Aur. Lluniodd lawer o sgriptiau ar gyfer teledu. Y mae ei gwaith ar gyfer y llwyfan yn cynnwys addasiad a chyfieithiad o Cwm Glo, Kitchener Davies. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae wedi bod yn feirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen. Yn un o olygyddion y cylchgrawn Taliesin, y mae ei bys ar dueddiadau llenyddol Cymru heddiw.
Wendy Richards, Llundain, gynt o Rydaman
Cafodd ei geni yn Rachub ger Bethesda ond symudodd y teulu i Benmaenmawr a hithau’n bum mlwydd oed. Cafodd ei haddysg yn ysgol y pentref ac Ysgol Ramadeg y Merched Bangor, ac wedi cyfnod o hyfforddiant proffesiynol mewn Astudiaethau Masnachol, penodwyd hi i swydd weinyddol yn Adran Cerdd y BBC ym Mangor. Yn y saithdegau dechreuodd weithio yn y swyddfa i Gyngor Eglwysi Cymru, a phan dyfodd Cytun allan o’r Cyngor, mi wnaeth weithio yn y swyddfa. Roedd y profiad a gafodd yn y swydd yn golygu bod ganddi wybodaeth drwyadl o sefyllfa’r eglwysi a’r gweithgarwch cyd-eglwysig a fu. Gofalodd am swyddfa’r Cyngor a Cytun am gyfnod o dros chwarter canrif a mawr yw dyled yr eglwysi iddi. Gweithredodd fel Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymdeithas Chwiorydd y Bedyddwyr am ddegawd a bu’n Llywydd y Mudiad yn ei thro. Bu’n Drysorydd Cenedlaethol Cristnogion yn Erbyn Poenydio am dros ddegawd hefyd. Bu’n gyfrifol am stondin Cytun ar faes yr Eisteddfod a gwireddwyd breuddwyd: uchafbwynt ei hamser gyda’r mudiad eciwmenaidd pan ddaeth yr holl enwadau a’r asiantau o fewn un babell ym Meifod 2003. Gwraig ymroddgar i ddelfrydau Eciwmeniaeth yng Nghymru.
Winston Roddick, Caerdydd
Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd yr Iaith o 1988 hyd 1993 ac yn anad neb arall ef fel bargyfreithiwr oedd pensaer y Ddeddf Iaith. Brwydrodd yn galed a diflino i sicrhau’r mesur gorau posib a thrwy ei eiriad crefftus ef y llwyddwyd i ddileu y Ddeddf Uno 1536 o Lyfr y Statud – heb i fawr neb sylweddoli hynny. Roedd ei wasanaeth fel Cwnsler Cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol ers 1998 o bwys mawr i’r genedl. Mae’n aelod o Bwyllgor Parhaol yr Arglwydd Ganghellor ar y defnydd o’r Gymraeg ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cyfraith Cymru. Y mae ei ymroddiad i addysg yng Nghymru yn ddiflino ac ef yw Is-lywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Robert Emyr Williams, Porthmadog
Yn enedigol o Forfa Bychan, mae wedi byw yno ar hyd ei oes. Newyddiadurwr gyda’r Daily Post a phapurau’r Herald, a chyn hynny gyda’r Cambrian News. Mae wedi bod yn gefnogol iawn i eisteddfodau bach Cymru, Eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gellir dweud mai ei ddiddordeb pennaf yw hybu diwylliant eisteddfodol drwy ei adroddiadau cynhwysfawr i’r Wasg. Gellir dweud bod tegwch a thrylwyredd yn nodweddu ei waith newyddiadurol gan chwilio’r gwir a hynny heb gynhyrfu’r dyfroedd yn fwriadol.
Roger J Williams, Rhydlewis
Brodor o bentre’r Bryn ar gyrion Llanelli. Cafodd ei addysg yn yr ysgol gynradd leol, Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd, lle cafodd radd MA am ei waith ymchwil ar y Gwyddoniadur Cymraeg. Yn dilyn rhai blynyddoedd fel athro a phennaeth adran symudodd i weithio ym maes addysg gymunedol a phenodwyd ef yn Bennaeth Asgell Addysg Bellach yn Ysgol y Preseli. Menter newydd oedd hon yn y 1960au a thrwy ei ofal a’i weledigaeth llwyddodd i ieuo’r addysg a gynigwyd yno a theithi diwylliannol yr ardal. Roedd hwn yn gyfnod arloesol yn ei hanes. Daliodd swyddi hefyd gyda Chyngor y Celfyddydau a’r Cyd-Bwyllgor Addysg, ac yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996 penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Sir Ceredigion. Trwy gydol ei yrfa ni fu pall ar ei ymrwymiad a’i gyfraniad i’r Gymraeg a’i diwylliant.
Yr Athro Emeritws Herbert Rees Wilson, Stirling
Brodor o Nefyn. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor. Mae wedi bod yn ymchwilydd mewn amryw brifysgolion a rhwng 1983 a 1991 ac yn Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Stirling. Ym maes Bioffiseg Molecwlar y gwnaeth ei waith ymchwil yn bennaf. Yn Llundain gweithiodd gyda Maurice Wilkins ar strwythur DNA a’u papur hwy ar y cyd ag un Watson a Crick a agorodd y ffordd i’r holl ddatblygiadau cysylltiedig â DNA ac at adeiladu y model helics dwbl enwog o DNA. Fel aelod o grŵp Wilkins mireiniodd y model hwn a bu ei waith yn gwbwl allweddol yn y maes pwysig a phellgyrhaeddol hwn. Gwyddonydd disglair a diymhongar a chanddo ddiddordeb mawr yn niwylliant Cymru ac yn arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol.