Hysbyseb swydd: Trefnydd Arholiadau’r Orsedd
Yn sgil penderfyniad Trefnydd Arholiadau’r Orsedd, Gwyn o Arfon, i gamu i lawr o’i swydd ar ddiwedd Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae Bwrdd yr Orsedd yn gwahodd ceisiadau am olynydd iddo. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gysgodi’r Trefnydd presennol hyd at ddiwedd Eisteddfod 2026, gan ymgymryd â holl gyfrifoldebau’r swydd o fis Medi 2026 ymlaen.
Swydd ddi-dâl yw hon, ond gellid hawlio treuliau rhesymol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn datgeliad DBS boddhaol.
Dyletswyddau Trefnydd yr Arholiadau
Yn ôl Cyfansoddiad yr Orsedd, cyfrifoldebau Trefnydd yr Arholiadau yw trefnu yr holl waith ynglŷn â phenderfynu maes llafur, gweinyddu’r arholiadau, cyflwyno rhestr yr ymgeiswyr llwyddiannus i’r Cofiadur, gan ofalu am y tystysgrifau swyddogol wedi eu llofnodi i’w cyflwyno iddynt.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:
- Trefnu holl waith Arholiadau’r Orsedd, gan gyflwyno adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Orsedd ym mis Ebrill a Chyfarfod Cyffredinol yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd gwaith y Swyddog Arholiadau o dan arolygiaeth y Bwrdd neu unrhyw is-bwylllgor a benodir i’r pwrpas hwnnw gan y Bwrdd. Disgwylir i’r Swyddog Arholiadau ddwyn i sylw’r Bwrdd unrhyw faterion arwyddocaol mewn cysylltiad â’r arholiadau, gan ofyn am arweiniad a chyfarwyddyd perthnasol.
- Gofalu bod y Bwrdd yn adolygu ei egwyddorion ynglŷn â’r gwahanol arholiadau, megis penderfynu ynglŷn â dileu neu newid arholiadau a chreu arholiadau newydd.
- Ymgynghori â’r Bwrdd mewn perthynas â phenodi arholwyr newydd yn ôl y galw.
- Mewn ymgynghoriad â’r gwahanol arholwyr, gofalu bod meysydd astudiaeth yr arholiadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru bob tair blynedd, a bod fersiwn newydd llyfryn Maes Astudiaeth yr Arholiadau ym mlwyddyn ei gyhoeddi yn ymddangos cyn Prifwyl y flwyddyn honno.
- Trefnu cyhoeddusrwydd eang i’r arholiadau yn flynyddol drwy amrywiol ddulliau print ac electronig (yn benodol o fis Medi ymlaen, gan fanteisio ar y proffil cyhoeddus y bydd yr Orsedd wedi’i gael yn yr Eisteddfod fis ynghynt).
- Ymateb i ymholiadau a cheisiadau amrywiol ynghylch yr arholiadau gan ddarpar ymgeiswyr (Medi – Mawrth yn arbennig).
- Yn dilyn derbyn cofrestriadau ymgeiswyr erbyn Gŵyl Ddewi (dyddiad cau cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn dan sylw), trefnu canolfannau cyfleus ar gyfer cynnal yr arholiadau ysgrifenedig ar y Sadwrn olaf yn Ebrill a phenodi arolygydd i bob canolfan, ynghyd â nodi amser cychwyn a gorffen pob arholiad; sicrhau bod y ffioedd cofrestru ar gyfer sefyll yr arholiadau yn cael eu hanfon at Gyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau yr Eisteddfod (Mawrth – Ebrill).
- Trefnu bod papurau arholiadau yn cael eu llunio gan yr arholwyr perthnasol mewn da bryd ar gyfer eu dosbarthu i arolygwyr y canolfannau ar gyfer y Sadwrn olaf yn Ebrill (Mawrth – Ebrill).
- Anfon pecyn arholiad at bob arolygydd a fydd yn cynnwys: cyfarwyddiadau gweinyddu’r arholiadau ysgrifenedig; cwestiynau’r arholiada(au) mewn amlen dan sêl (gyda chyfarwyddyd nad yw’r amlen i’w hagor ond ar ddechrau’r arholiad yng ngŵydd yr ymgeiswyr); cyflenwad o bapur ysgrifennu/papur manuscript cerddoriaeth; manylion trefniadau ymarferol unrhyw addasiadau a ganiateir i ymgeiswyr ar y diwrnod (megis defnyddio cyfrifiadur ar gyfer ysgrifennu atebion; caniatáu amser ychwanegol); manylion dychwelyd y sgriptiau at Swyddog yr Arholiadau (Ebrill).
- Hysbysu pob ymgeisydd – o leiaf bythefnos ymlaen llaw – o leoliad ac amser yr arholiadau, gyda chyfarwyddiadau manwl iddynt ynghylch y trefniadau ymarferol ar y diwrnod. Yn achos yr arholiadau hynny lle ceir profion llafar/ymarferol cerddorol, trefnu dyddiad ac amser perthnasol yn ystod wythnos gyntaf mis Mai i gynnal y profion hynny dros Zoom gyda’r arholwyr, yn dilyn cynnal yr arholiadau ysgrifenedig (Ebrill – Mai).
- Yn dilyn derbyn y sgriptiau ysgrifenedig yn ôl gan arolygwyr y canolfannau, trefnu iddynt gael eu hanfon at yr arholwyr perthnasol i’w marcio, gan ofyn am y canlyniadau o fewn pythefnos. Ar ôl derbyn dyfarniad pob arholwr, hysbysu pob ymgeisydd o’r canlyniadau trwy lythyr/e-bost swyddogol, gan nodi (yn achos ymgeiswyr llwyddiannus) y manylion ymarferol ynghylch trefniadau’r urddo yn yr Eisteddfod. Yn achos ymgeiswyr aflwyddiannus a fydd yn gofyn am adborth ar eu hatebion, gwneud cais i’r arholwyr perthnasol am sylwadau a fydd o gymorth i’r ymgeiswyr wella ar eu hymdrechion os byddant yn awyddus i sefyll yr arholiad(au) y flwyddyn ganlynol (Mai).
- Anfon manylion (gan gynnwys eu dewis o Enw yng Ngorsedd) yr ymgeiswyr hynny a fu’n llwyddiannus yn yr arholiadau at y Cofiadur, yr Arwyddfardd a Chyfarwyddwr Strategol yr Eisteddfod (Mai).
- Diogelu archif o gyn-bapurau arholiad y gwahanol feysydd astudiaeth, fel bod modd i ddarpar ymgeiswyr fedru gweld cyn-bapurau sydd o ddiddordeb iddynt.
- Mewn cydweithrediad â’r Cofiadur a’r Arwyddfardd, paratoi Tystysgrifau Aelodaeth yr Orsedd i’w cyflwyno i’r aelodau newydd yn seremonïau’r urddo ar foreau Llun a Gwener yr Eisteddfod (Gorffennaf).
- Mynychu cyfarfodydd Bwrdd yr Orsedd (Ebrill, Hydref, wythnos yr Eisteddfod), Cyfarfod Cyffredinol yr Orsedd (wythnos yr Eisteddfod) a bod yn bresennol yn seremonïau’r Orsedd yn y Cyhoeddi a’r Eisteddfod fel Swyddog, gan ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau cyhoeddus o fewn y seremonïau (ar gais y Cofiadur).
SGILIAU HANFODOL
- gwybodaeth ymarferol am gyfundrefnau a strwythurau arholi
- sgiliau trefnu, rheoli a gweinyddu
- sgiliau technolegol/cyfrifiadurol
- sgiliau cyfathrebu rhyng-bersonol
Dylai personau sydd yn dymuno ymgeisio ar gyfer swydd Trefnydd yr Arholiadau wneud hynny trwy anfon llythyr at y Cofiadur gan nodi eu cymwysterau a’u profiad perthnasol (dim mwy na 500 gair). Nodwch ar waelod y llythyr eich enw yng Ngorsedd a’r flwyddyn / Eisteddfod y cawsoch eich urddo, os gwelwch yn dda. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 27 Hydref 2025 am 12.00 (canol dydd).
Ni allwn roi ystyriaeth i geisiadau hwyr.
Dylid anfon llythyrau cais trwy’r post neu ar ebost at:
Y Cofiadur, Y Cyn-Archdderwydd Christine
16 Kelston Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 2AJ